Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CORWEN.

News
Cite
Share

CORWEN. Y GOrEITHLU.-Da genyf fod yr aelodau bellach yn dechreu deffro a rhoddi eu presenoldeb yn niihyfarfodydd y gobeithlu, ond eto y mae lie i wella Ilawer. Nos Fercher diweddaf, cafwyd cyfarfod rhazorol dan lywyddiaeth y Rheithor, yn yr hwn y cymerwyd rhan gau amryw o'r plant gyda chaneuon, adroddiadau, &c. Y WAIFS AND STRAYS MISSION."— Nos Fercher, ar ol cyfarfod y gobeithlu, dan lywyddiaeth Mr E. O. V. Lloyd, cyn- haliwyd cyfarfod dyddorol ar ran yr uchod, pryd'y traddodwyd darlith ar waith y gymdeithas, ac y rhoddwyd gerbron wa- hanol olygfeydd cysylltiol a hi gan y Parch Y, J. E. Monro, trwy gyfrwng y gudd-lusern. Hyfryd genym weled fod ymdrechion clodus Miss Walker ar ran y gymdeithas deilwng hon yn dechreu dwyn ffrwyth yn yr ardal, a hyderwn yr 61 rnagddi lawer eto mewn cynydd. Diolchwyd i'r csdeirydd am ei wasanaeth gan y Rheithor, ac eiliwyd gan Dr. Walker. Y SABBATH. Gwasanaetbwyd yn Nghapcl Rug yn y boreu, ac yn Nghorwen yn y prydnawn a'r hwyr, gan y Parch Theophilus Jones, Llanelwy, er mawr foddlonrwydd i ni oil. ORGAN DDATGANIAD. — Ar ol yr hwyrol wasanaeth, rhoddwyd datganiad campus ar y crwth gan Mr H. Sims Condon Lucarne, o'r Royal Artillery Bjind, ac ar yr organ gan y Proffeswr Bryan, Warhurst. Canwyd My Guide,' gan Mr J. Davies Hughes, a The Kingdom Beautiful,' yn nghyda 'The Holy City,' gan Mr Ilid Thomaa. Gwnaeth pawb eu rhan yn wir feistrolgar, ac yr oedd yr Eglwys yn orlawn o wrandawyr.

MERTHYR TYDFIL.

[No title]

CYFFREDINOL.

PENTREVOELAS.

LLANAFAN-Y-TRAWSCOED.

ICAPEL BANGOR.

Hanesyn Nodedig.