Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

DOWLAIS.

News
Cite
Share

DOWLAIS. GUILDS."—Cyfarfyddodd y Guilds nos Fercher, y 29ain cynfisol, pryd y daeth nifer luosog ynghyd. Yr oedd hwn yn gyfarfod pen tymor, felly yr oedd yr yagrifenydd yu rhoddi cofnodion o'r holl waith a wnawd yn ystod y flwyddyn sydd wedi myn'd heibio. Cynrerwyd y gadair gan y Parch. H. Evans, curad yr Eglwys Gymraeg. Cafwyd adroddiad cywir o'r gwaith gan yr ysgrifene ydd, Mr James Lewis, acyr oedd pob aelod yn teimlo yn ddiolchgar i'r ysgrifenyddam y llwyddiant a fu o dan ei law. Yr oedd cynydd ya rhif yr aelodau ae hefyd mewn ystyr arianol. Ail-etholwyd y swyddoginn oddieithr yr ysgrifenydd, yr hwn oedd yn ymddiswyddo, ac etholwyd Mr J. D. Jones i fod yn ysgrifenydd am y flwyddyn yma. Gobeithio y bydd i bob aelod roddi cefnog- aeth i Mr Jones fel y byddo llwyddiant y flwyddyn yma eto. Ar ol myned trwy y gwaith o ethol swyddogion, darllenwyd dau bapyr gan y Mri. J. Williams a J. D. Jones, y testyn oedd, Pa un ai pregethu athraw- iaethol neu ymarferol oedd fwyaf ei ddy- lanwad." Siaradwyd ar y ddau Dapyr gan amryw o'r aelodau, ac wedi hyny ymran- wyd, pryd y cafwyd fod y mwyafrif dros yr ymarferol. Penderfynwyd fod y Guilds i ymgymeryd a llafurio ar hanes yr Eglwys y flwyddyn yma. Prydnawn Sul diweddaf, daeth nifer luosog o blaut ynghyd i'r Eglwys i fyned trwy y gwaith o ganu y gantawd, "Christiana," o dan arweiniad Mr T. O. Evans. Yr oedd y cauu yn hynod o dda, ac yn dangos ol llafur ar ran y plant a'r arweinydd, ac yr wyf yn credu y dylem ni fel Eglwys i roddi mwy o gefnogaeth i Mr Evans am y dyddordeb y mae wedi ddangos i ddysgu y plant. Os am Eglwys lewyrchus, rhaid gofalu am y plant.-Deivi.

TALSARNAU.

DOLGELLAU.

NODION 0 NEFYN.

Advertising