Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

RHYS PRICHARD, FICER LLANYMDDYFRI:…

News
Cite
Share

RHYS PRICHARD, FICER LLAN- YMDDYFRI: O.C. 1579-1644. 0 safle Eglwysig yr ydym yn edrych ar y Ficer Prichard. Yn yr Eglwys a garai mor fawr y gweithiodd, ac yn ol ei g hathrawiaethau a'i chyfarwyddyd hi y gweithredai. Yr oedd yn deyrngarol i'r Eglwys, ac ni fynai ei bradychu er dim. Un o'i mheibion iTyddlonaf ydoedd. Er profi hyn dodwn yma y dernyn barddonol a ganlyn, o waith y Ficer yn Nghanwyll y Cymry, sef Llythyr yr Awdwr at ryw feglwyswr a ddeisyfodd arno droi ar gan Gatecism Eglwys Loegr.' Dy sel ai Dduw a'i Eglwys, Fy mrawd, mi wn a barwys It' geisi otroi holl bynciau'r ffydd Ar gan, mor brudd, mor gymmwys. Ti weli fod yn hawsach Gan Gjzrary, (heb eu hammarch,) Ddysgu caniad ofer serth, Na'r peth sydd werthfawroccach. Gan byny, ceisiaist genny' Droi'r pyngciau hyn i'w canu, Fel y gallo'r defaid naan Yn rhwydd ar gan eu dysgu. Wrth wel'd dy dduwiol fwriad, Ni phellais o'th ddymuniad Ond mi dro'is dy byngcian'n fyrr, Yn blaen, yn eglur ganiad." Eglura'r Ficer yn y llinellau canlynol ei reswm dros gyf.tnsoddi ei farddoniaetb mewn Cymraeg cartra.' Ni cheisiais ddim cywreinwaitb, Ond mesur esmwyth, perffaith, Hawdd i'w ddysgu ar fyrr dro, Gan ba.wb a'iclywo dair-gwaith 0 derbyn yn roesawgar A geisiaist mor 'wyllysgar Er nad ydyw'r gwaith ond gwael, Mae'u chwenych cael dy ffafar. Oscaiff ein Duw ogoniant, A'r defaid dippyn llesiant, 'R y'm ni'n dau yn cael ein gwynn O'r gorchwyl hyn trwy lwyddiant. Duw roddo dy ddymuniad, Duw fyddo Ceidwad arnat Gan fod fy ffrwst a'm gwaith yn fawr, Mi gym'ra' uawr fy 'nghenad." Yma y dilyn Catecism yr Eglwys ai fesur can. Wrth ddarllen y geiriau hyn o eiddo ylficer Prichard yn ingoleuni- os goleuni hefyd yr oes hon, tueddid hii ofyn y cwestiwn i ni ein hunain—Beth fuasaiy Ficer yn ddweyd pe buasai fvw yn awr i weled y gwrthwynebiad sydd gan rai i Gatecism yr Eglwys gael ei ddysgu yn ein hysgolion dyddiol ? Yr oedd plant Cymru yn ei ganu yn ei amser ef. Wrth reswm, nid oedd ond Eglwyswyr yn Nghymru y pryd hWDW; yr oedd Ymneillduaeth yn air ymarferol anadnabyddus yn Nghymru'r amser hwnw ac y mae hyn yn un o'r ffeithiau hanesyddol ystyfnig hyny sydd yn profi mai nid yr Eglwys sydd yn estronol yn Nghymru. ond mai Ymneillduaeth sydd felly —< mewn gwirionedd. Effaith athrawiaeth Ym- neillduaeth ac anffyddiaeth ydyw y crochlefain sydd wedi bod yn erbyn dysgu'r Beibl yn ein hysgolion dyddiol. Gwell oedd ganddynt gau y Beibl allan yn hollol na bod unrhyw esboniad yn cael ei roddi arno, os nad ellid ei esbonio yn ol eu barn hwy. Buasem yn meddwl y buasai y Cymry o leiaf yn foddlawn i'r Eglwys a roddodd i ni y Beibl yn yr iaith Gymraeg i'w esbonio; oblegid esboniad yr Egtwys ydyw y Catecism-nid esbouiad un person unigol, megis Calfin, neu Hyfforddwr Charles. Y mae llais holl gorff yr Eglwys yn llawer cryfach a mwy dianwadal na llais un dyn unigol. I.Credaf yn yr Eglwys Lan Gatholig' ydyw un o erthyglau ein credo. Nid oes yn holl erthyglau yr Eglwys erthygl n Credaf yn athrawiaeth Calfin,' neu 'athrawiaeth Wesley,'—er, ar yr un pryd, ei bod yn ddigon eang i oddef i bob un fod yn sicr yn ei feddwl ei hun o berthynas i esboniadau neu farn personau unigol. Ond nid yw yr Eglwys yn gosod y syniadau hyny fel erthyglau hanfodol crefydd, megis y gwna Methodistiaid Calfinaidd ymlynu, mewn enw o leiaf, wrth syniadau Calfin ar drefn achu iaeth pechadur. Dyma sydd yn gwneyd yr Eglwys yn Gatholig;—ac ystyr y gair Gatholig ydyw I tewy'r holl (yd.' A'r hyn a feddyliwn wrth ddweyd ein bod yn credu yn yr Eglwys Lan Gatholig ydyw, ein bod yn credu yn yr athrawiaetbau hyny sydd wedi cael eu credu gan bawb yn mhob lie, ac yn rnhob oes-athraw- iaethau a gorffolaethir yn y tri chredo Catholig, sef Credo'r Apostolion, Credo Nicea, a Chredo Athanasius—credoau a dderbyniwyd gan yr Eglwys lan trwy'r holl fyd. A phan yr edrychom yn ol ar yr amser pan oedd plant Cymru yn canu Catecism yr Eglwys yn amser y Ficer Prichard, ac yn mhell iawn ar ol hyny, tueddir ni i gredu prophwydoliaeth Rowland, Llangeitho, y dychwela y gwenyn eto i'r hen gwch,' ac y del y plant sydd wedi eu hestroneiddo oddi- wrth yr 4 Hen Fam' gartref eto i ddysgu yr hen wirioneddau a ddysgwyd i'w teidiau gan y Ficer Prichard- gwirioneddau a ddysgir eto yn ei lyfr, ac yn benaf oil a ddysgir gan yr Eglwys hyd y dydd hwn. Y mae rhagfarn wedi ei greu yn meddwl llawer o'n cyd- wladwyr mai bwgan mawr i ffoi rhagddo ydyw Catecism yr Eglwys ac y mae y gait. yn meddwl llawer yn gyfystyr; a phe y gofynid iddynt ystyr y gair Catecism, sicr ydym nas gwyddant, ac y maent yn fwy anwybodus fyth o'i gynwysiad. Nid oedd yn gywilydd gan y Ficer Prichnrd ei arddel fel cortf o athrawiaeth iachus, ac yr ydoedd y Ficer, yn ol tystiolaeth Charles o'r Bala, yn uniongred; oblegid fel hyny y llefara am dano yn y Drysorfa Ysprydol, Rhagfyr, 1801 Am ei weinidogaeth gyhoeddus, yr oedd yn iach yn y ffydd, a'i athrawiaeth yn oleu ac yn efengylaidd. Yr oedd yn ei ddull a'i aaweddyn ei thraddodi yn fywiog ac yn danllyd; yn argyhoeddi yn flniog, ac yn dyddanu'n sirol. Yr oedd ei ddull yn weddaidd, yn addas i foneddig a chyffredin; yn amlygu mawr gariad at eneidiau, ac ymdrechiadau tra ffyddlawn am eu hachub. Y r oedd mawr barch iddo yn yr holl wlad a'i glod am ei weinidogaeth anrhydeddua a'i dduwioldeb syml wedi lledaenu dros Gymru. Y mae ei achwyn- iadau yn drymion, a'i gwynion yn alarus, ua ei aflwyddiant, er ei holl ymdrechiadau poenus i adferu pechaduriad tref Llanym- ildyfri. Medd efe wrthynt Cenais iti'r udgorn aethlyd 0 farn Duw, a'i lid anhyfryd, I'th ddihuno o drwmgwsg pechcd Cbwrnu, er hyn, yr wyt yn wastod. I Ceisials trwy deg a thrwy hagsr Ni chawn geuyt ond y gwatwar.' Ond er y cwynfanau trymion hyn am ei aflwyddiant, nid oes le i ni feddwl na hu ei weinidogaeth yn fendithiol i laweruedd, ac nad aeth yr had a hauodd, dros gynifer o tiynyddau. ddim i gyd yn ofer ac yn ddIffrwyth, Yroedd dyeithriadlawer yn pjntyru i'w wrando, nea yr oedd y jynnulleidfa yn fynych yn Llanedi mor lluosog fel na allai yr Eglwys eu cynwya am hyny y pregethai iddyut yn y fynwent. Y mae coffa parchus am ei weinidogaeth hyd heddyw ac yn dra thebygol ei fod yu fwy Ilwyddianus yno nag yn Llanym- ddyfri." -(Y Parch. W. Hughes, ficer LUnuwchllyn, yn Nghenmen lonawr). Pan y gofynwyd i foneddwr Gwyddelig, er's peth amser yn ol, pa beth a'i dygodd i Lundain, efe a atebodd ei fod wedi dyfod i weled yr eneth anweledig!

Advertising

NODION 0 DDEONIAETH LLANGOLLEN.

[No title]

GWIB-NODION.

Advertising