Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

YN MHLITH YR ENWADAU.

News
Cite
Share

YN MHLITH YR ENWADAU. [GAN SYLWEDYDD. ] Gofynodd boneddiges i mi y dydd or blaen a oedd Abigail yn parbau yn fy ngwas- aeth, gan nad oedd wedi gweled cyfeiriad ati yn ddiweddar yn y LL AN Wel, y gwir yw, mae Abigail yn gwrtbwynebu i mi ddweyd gormod am dani, gan ei bod erbyn hyn yn teimloyn "cocfi yn y byd," a buasai yn gwisgo yn orwych pe caniatawn hyny. Wrth gwrs, yr wyf yn hoff o weled fy agwasanaethyddion yn gwisgo yn barchua, ond ni oddefaf ddim gwamalrwydd. Byddai yn werth i chwi ei chlywed yn canu mae ei Ilais peraidd yn treiddio drwy y ty yma, ac nid oes dim yn fy modd- hauyn fwy na chanu da. Mae rhywsibrwd wedi fy nghyraedd fod Mrs Humphreys ac Abigail wedi taro ar gariadon, ond nid wyf wedi clywed dim yn swyddogol. Os bydd y ddwy hyn yn priodi eto, bydd yn rhaid i minau wneyd rhywbeth; rhyw fywyd di- galon yw henlancydcflaeth, ac ofnaf, pe eynygiwn am law rhywuu, y byddwn yn rny hen ffasiwn gan y merched, ac y chwarddent am fy mhen. Mae yn flwyddyn naid yrwan, 300 yr wyf yn disgwyl y bydd i rywun neu gilydd anfon cynyg i mi. Rhaid m¡.n'd yn awr at fusnes arall.-Diolch fod Telegrams Trefnant yn iawn unwaith eto. Yr oeddwn wedi colli golwg ar yr anwyl loan Benddu er's amser maith, ond da genyf ei weled mor fyw ag erioed. Ni byddaf yn hir bellach cyn talu ymweliad ag ef a Raamws ddoniol. I Oddiwrth y Genedl gwelaf fod cymdeith- asau dirwestol a Radicalaidd yn gweithio y naill i ddwylaw y Hall. Dan y penawd Penygroes, ceir a ganlyn CYMDEITHAS OnIRU FYDD.—Ni raid i'r gymdeithas hon wrth air o ganmoliaeth; mae y ffaith fod goreuon ein hardal yn aelodau Elhoni ac yn cymeryd rhan flaenllaw yn ei gweifchred- iadau yn siarad drosti ei hun. Da iawn genym weled fod y rhai sydd wedi ymrestru gyda'r Temlwyr Da yn dyllfo i mewn i'r gymdeithas i hon hefyd. Cant lawer o addysg ac adloniant ynddi, gan fod yma yatafelloedd iymgomio, chwareu, a darllen." Yn ngwyneb y rhwyg a gymerodd le rhwng pleidwyr y Cymdeithasau Radical- aidd a Chymrll Fydd yn Nghasnewydd-ar- Wyag, mae yn lied gyfyng ar rai aelodau Radicalaidd, a theimla Mr Humphreys Owen mai gwell fyddai iddo fod yn an- mhleidiol o leiaf, dywed yr Herald Gym- raeg :—" Pan yn siarad yn Trallwm, noa Iau, gafidiai Mr Humphreys-Owen, A.S., am yr anghydwelediad oedd yn bodoli yn mysg yr aelodau Cymreig, a dywedai ei fod ef yn meddwl mai'r peth goreu allai ef a'i etholwyr wneyd oedd peidio cymeryd rhan gyda'r naill ochr na'r Mak, ond i ofalu fod y cymdeithasau Rhyddfrydig yn eu sir eu bunain yn cael eu gwneyd yn gryfion ac effeithioi." # Edliwia rhyw ysgriblydd o Lerpwl yn Seren Gymtit yr hyn a wnaed ar ran y Pab- yddion gan y gwahanol enwadau, ac os aarllenir yr isod gwelir paham y gwneir hyn. Mae yn blentynaidd i'r eithaf, ond nid yw ond yr hyn a ellid ddisgwyl:— ( Dydd Mawrth, cafwyd cynadledd a chy- farfod cyhoeddus i wrthdystio yn erbyn rhoddi arian y Llywodraeth i ddysgu Eg- lwyayddiaeth a Phabyddiaeth yn yr ysgol- ion dyddiol. Cwyna y naill a'r llall eu bod yn cael rhy fach o help y Llywodraeth at addysg, ac y mae y Pabyddion am uno a'r Eglwyswyr i ofyn am ychwaneg gan y Wainyddiaeth bresenol. Dyna y tal roddir gan y Pabyddion i Ymneillduwyr am flyn- yddoedd o frwydro am Ymreolaeth iddynt. Y gwirionedd ydyw, y maent yn cael Ilawer gormod yn barod i ddysgu credoau sectol. Y mae addysg y plant braidd yn hollol mewn rhanau helaeth o Loegr yn nwylaw yr Eglwyswyr a'r Pabyddion." Troa ei wep yn fwy yn fuan, pan weinyddir cyfiawn- der i ysgolion gwirfoddol. if. «- Teimla golygydd y Faner hefyd yn eiddigeddus gyda golwg ar hyn, canys dywed Dengys pob peth ei bod yn an- hebgorol angenrheidiol i garedigion addysg rydd ac anenwadol barhau yn effro. 08 oywir sibrwd y dyddiau hyn, bwriada Syr John Gorst (yr hwn sydd wedi cael lie Mr Acland yn y Cyngor Addysg) ddwyn mesur a rydd i'r parsoniaid yr hyn oil a geisiant, a hyny dan yr eagus na bydd y cytundeb a wnaethpwyd bum' mlynedd ar hugain yn ol yn cael ei anmharu yn y graddau lleiaf." Cofied atn y camwri a dderbyniodd yr ysgol- ion gwirfoddol oddiar law Mr Acland. Pechod rhai Ymneillduwyr yw anfon eu plant i ysgolion Eglwysig, fel y dengys yr apê1 canlynol at Yronpi llduwyr Cloff," a ymddengys yn y Tyst dwaenom am- nyw Ymneillduwyr cgwan nad ydynt erioed wedi agor eu llygaid ar y perygl o anfon eu plant i Ysgolion Eglwysig. Yn ardaloedd y chwareli yn y Gogledd, ac yn nhrefi y De, oeir nifer fawr ohonynt sydd heb unrhyw reswm ymddangosiadol yn rhoddi addysg eu plant yn ngofal dynion sydd yn dirmygu a chashau eu credo a'u hymddygiad. Nid ydym erioed wedi gallu deall y fath anghysondeb mewn manau lie y ceid Ysgolion Brytanaidd neu Fyrddol. Nid ydynt nac anwybodus na digydwybed, ond rhaid eu bod oil yn ddifater, a hyn sydd yn gwneyd y peth yn ddirgelwch i ni." Chwareu teg i'r rhieni hyn maent yn awyddus i'w plant dderbyn yr addysg oreu sydd bosibl, ac yn enwedig gael eu hyfforddi yn athrawiaetkau crefydd. # Yn y Goleuad, dadleua y Parch Daniel Rowlands, Bangor, o blaid addysg grefyddol yn ysgolion y Byrddau. Wele un dyfyniad o'i eiddo.—" Fe fyddai yn sarhad ar y Cymry, yn anad un pdbl ar wyneb y ddaear, i neb feddwl son wrthynt am werth y Beibl. lCId oes eisieu eu har- gyhoeddi o werth ei lenyddiaeth, na son am ei foesoldeb digyffelyb, na cheisio dangos rhagoriaeth y Person Mawr sydd yn Haul ei holl ffurfafen, ac yn oleuni holl fydoedd DllW. Mae y pethau hyn oil ganddynt yn eu genau ac yn eu calon,' yn cael eu cyd- nabod gan bawb, ac i fyrddiynau ohonynt yn fwy gwerthfawr na miloedd o aur ac arian.' Beth ydyw yr anhawsder, ynte, i ddysgu y Llyfr gwerthfaw hwn i'n plant yn yr ysgolion dyddiol ? Mae yn anodd gwybod. Nid yn unig nid oes yr un anhawsder ag y gellid am darawiad amrant ei fantoli a'r fantais a geid o ddysgu y Llyfr Sanctaidd i'n plant, ond rhaid i mi ddweyd nad ydwyf fi yn gallu gweled un anbawsder o gwbl. Ni raid ofni am funyd y meddyliai yr un athraw neu athrawes mewn ysgolion felly am ddysgu i'r plant eu golygiadau sectol eu hunain."

TELEGRAMS 0 DREFNANT.

[No title]

Advertising