Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Hide Articles List
8 articles on this Page
ADOLYCIAD Y WASG.
News
Cite
Share
ADOLYCIAD Y WASG. YR HAUL CAERFYRDDIN, W SPURRELL. —Fel y crybwyllwvd yn ein rhifyn diweddaf, yr oedd rhwystrau anorfod ar ffordd y cyhoeddwyr i ddwyn allan yr Haul a'r Cyfaill am Tonawr ar yr adeg arferol, ond erbyn hyn mae y ddau wedi dyfod i law. Yr ydym wedi sylwi eisioes ar y Oyfaill. Am yr Haul, llonwyd ni yn fawr wrth ganfod yr olwg hardd arno, a diau rnai dyna fydd barn yr boll dderbyn- wyr. Anhawdd fuasai dychymygu am amlen harddach a mwy cynhwys na'r un a geir am y rhifyn presenol. Cynwysa ddar- o'r haul yn ei danbeidrwydd, ynghyd a darluniau o eglwysi cadeiriol Cymru, ac y mae yr amlen ei hun yn werth yr hyn a ofynir am y misolyn. Mae ei gynwysiad yn uwchraddol, a cheir ynddo ysgrifau a ddarlleuir gyda budd ac adeiladaeth. Nid yw yr Haul erioed wedi ei lychwino gan ysgrifau israddol, a da genym fod y golygydd presenol yn cadw i fyny y safle. A ganlyn sydd reatr o'i gynwysiad.— 'Yr Esgob Campbell,' Pregethu fel Celfyddyd,' Barddoniaeth, 1 Yr Eglwys a'r Beibl5 Daleii o ddyddlyfr offeiriad plwyfol., A iierchiad, Cryn-)deb o Gofnodion, 'St. Ignatius o Antiochia,' Dydd Gwyl Sant Stephan," I Gymru i gadw Nadolig,' Diwygiad Eglwyaig,' Duw gadwo Eglwys Cymru,' Yr Eglwys a phynciau Sosial- aidd,' 'Gweledigaeth Mirza,' Adolygiadau, &c. Cefnoger y golygydd llafurus drwy helaethu cylchrediad y misolyn rhagorol hwn ymhob plwyf, gan ei fod yn gwir deilyngu cefnogaeth pawb.
LLITH COLEG DEWI SMT.
News
Cite
Share
LLITH COLEG DEWI SMT. Dydd Mawrth diweddaf etholwyd yn nghyfarfod yr efrydwyr, Mr T E Griffiths (Llanfarian), yn gadeirydd y ddadleufa Gymraeg oherwydd fod y boneddwr a ddewiswyd wedi gwrthod yr anrhydedd. Nos Wener, cafwyd cyfarfod o'r ddadleufa Saesneg o dan lywyddiaeth Mr R Williams (Lleyn). Y pwnc o dan sylw oedd Fod yn amser i ddiddymu y Twrc o Ewrop.' Darllenwyd papurau meistrolgar gan Mri. J Morgan Davies (Aberdare), a L D Roberts (Portmadoc). Dilynwyd hwy gan :Mri W W Scott (Oaerdydd), Rowley (Bath), D J j^nes (Llambedr), J E Stansfield O^eighley), a W T Watson (Newbiidge, Monf. Testyn y bregeth oedd Oni wyddoch chwi fod y rhai sydd yn rhedeg mewn gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond bod un yn aerbyn yn gamp ? felly rhedwch, fel y caffoch afael.' Yr oedd tesfyn y traethodau yn un pur anhawdd, Argraffiadau Ganon Gore.' Cafwyd pregeth boreu Sul gan y Paroh. Is Bidf-athraw Davey oddiar y testyn 'Ti, o Dduw yw fy Nuw i.' Gwasanaethwyd yn Mhentrebach gan Mri D Evans (Llanilar), aH James. (@wmarnan, Aberdar), ac yn Mhencarreg gan Mri. T Madoc Jones (Llannon), a D W Davies (Llanybyther), y hai cyntaf fel pregethwyr Darllenwyd yn Eglwys y plwyf gan Mri. Wilfrid Griffiths (Clifford, Hereford), a T Walters (Tumble). Nos Sud, cynhaliwyd cyfarfod cyfeill- achol o dan lywyddiaeth y Prif-athraw. Darllenodd Mr W W Scott, (Caerdydd), prif ysgrifenydd y gymdeithas, bapyr elyddorol a galluog ar Sefyllfa yr offeiriaid mewn perthynas a symudiadau cyfeillachol yr oes.' Cymerwyd rhan hefyd yn y cyfarfod gan Proffeswyr Walker a Green, Mri. J J Davies, B.A., a Wilssn, B. A. (y ddau o Ysgol Ramadegol Llampedr,) J E Stansfield (Keighley), W A Westley (Northampton), J Morgan Davies (Abar-- dare), A 0 Evans (Rhyl), J H Roberts (L.andrindod) a Rowley (Bath.) Gwnaeth Mr B J Phillips (Caerfyrddin), yr ysgrifen- ydd, ei waith yn ddi-guro. Carwn gael gwybod a oes yna rhyw wirionedd ya yr hyn a glywais fod "Ras- mws Jones" wedi ei anafu gan ryw lew mawr; ai hyn yw y rheswm fod ei le yn y LLAN: yn ddiweddar yn wag ? Dyna loan Ben-ddu wedi dyfod yn ei ol ac yr ydym un ac oil yn falch o'i weied. Gobeithiaf y hydd yn fwy llwyddianus gyda'i beirianall y flwyddyn yma. Yr oedd yn dda genym weled fod llyfr Proffeswr Wade mor dderbyniol gan adoiy- gwr y wasg. Y mae Prif-athraw Coleg Balliol, Rhydychain, yn siarad yn uchel iawn, hefyd am lyfr newydd Proffeswr. Walker, 4 Beirdd oes Buddug.' Sibrydir hefyd fod yma lyfr arall wedi ei eni yn Lampetr, a'ifod bron yn barod i'r wasg.— Un ar erthyglau yr Eglwys ydyw, a diagwyliryn bryderus am dano oherwydd (meddant hwy) ei fod hycl yn nod yn well na Haiold Browne. SANBALLAT.
[No title]
News
Cite
Share
For printing of every description, seud your orders to the L < ffioe, t and 2, St. Mary Street, Carmacu.ou. Cheapness, neatness, and despatch.
GWYL GERDDOROL DEONIAETH LLANBADARN…
News
Cite
Share
GWYL GERDDOROL DEON- IAETH LLANBADARN FAWR. Bwriedir cynal yr wyl uchod ar yr ugeinfed o Fai. Mae y tonau a'r chants wedi eu dethol. Yr hymnau a'r tonau a "Hymnan yr Eglwys." Ar y cyfan, mae y pvvyllgor wedi bod yn hapus yn eu dewisiad. Carwn weled mwy o'r tonau anghyfarwydd. Paham y dewisiwyd, Elliot," Cysur," &c., hen donau sydd mor gyfarwydd, pan y gadewir allan "Belmont," "Tanycastell," "Llangoed- mor," "Lutterwortti," &c. Gan ein bod wedi mabwysiadu y Wyfr ardderchog uchod, ein dyledswydd ydyw dysgu y tonau. Dyben yr wyl ddylai fod, gwella y cann cynulleidfaol, a'r ffordd oreu i hyny ydyw dysgu y corau i ganu yn briodol yu y cywair lleddf. Wrth reswm, nid wyf yn awgrymu y dylai y tonau oil fod yn lleddf dylai fod un ymhob gwasanaeth o leiaf. Rheidol.
unanBBnBnannBanaiii CAERLLEON.
News
Cite
Share
unanBBnBnannBanaiii CAERLLEON. Ar gais, ac mewn ffordd o foddio dymun- iad rhai o ddarllenwyr y LLAN, yr ydys yn anfon adroddiad o'r Eglwys Gymraeg yn Nghaer am y flwyddyn 1895—96. Blwydd- yn ryfedd ydoedd hon mewn llawer ystyr- blwyddyn a saif ar ei phen ei hun yn hanes yr Eglwys uchod gyda go] wo, ar ei hadeilad- waith a'i chasgliadau. Nid gwiw i ni oaod gormod o bwys ar ffigyrau, ac eto efallai y dangosant i ryw raddau natur y gwaith a mesur yr egni a ddefnyddir yn y cyflawniad ohono gan aelodau yr Eglwys. Mynegant hefyd y cynorthwy a roddir iddynt, a'r cyd- ymdeimlad estynir iddynt gan ereill. Ni feiddiwn gyffwrdd ond ag ymylon ein hym- drechion ysbrydol, gan mai Duw yn unig a wyr effeithiau gras yn n^halonau pechadur- iaid. Rhaid i ni wneyd ein cyfrifon i fyny y dyddiau masnachol hyn i sicrhau trefn ac hwylusdod. Y cyfanswm a gasglwyd at yr Eglwys Gymraeg y llynedd ydoedd 760p., yn cael ei wneyd i fyny fel y ca nlyn :—Tan- ysgrifiadau blynyddol, 95p; offrymau wyth- nosol, 64p tanysgrifiadau tuagat yr ysgol- ystafell newydd, 214p 153 pris tybiedig y tir i adeiladu ysgol (rhodd Mr B C Roberts), 350p. Y mae ein gofynion mor drwm fel yr ydym eto mewn angen am 150p i'n gwneyd ni yn berffaith rydd o'n holl ddy- ledion. Ac os oes rhywun o ddarllenwyr y LLAN a plethora o arian ganddo, anfoned cheque i'r caplan, a ehaiff ei wobrwyo yn eheiaeth a. thai o 200 y cant. Mae yr ysgol newydd yn agos yn barod, ac y mae 750p wedi ei dalu, diolch am hyny, ond y mae y gweddill arian yn hiryn dyfod i mewn. Nis gwyr neb ond y sawl a fuont yn gwisgo'r gep, am yr anhawaderau sydd yn amgylchu ein llwybrau yn nglyn a'r Eglwysi Cymreig yn Lloegr. Yr ydym yn gorfod ymladd yn galed am ein rhyddid ymhlith y Saeson heb un math o gyd- ymoleirnlad na chynorthwy o blith pendefigion yr Eglwys yng Nghymru. Rhyfedd y culni nt.eddwl a'r eiddigedd a feithrinir gan rai dynion. Fe deimlwn wedi bod yn ngbymdeithas rhai dynion fel pe baem wedi bod yn y North Pole gan mor rhewllyd eu hyrnddygiad. Nid yn anaml y dygir ni i gyssylltiad a'r cyfryw pan yn casglu tanys- grifiadan tuagat ryw achoa newydd. Ymddengys fel pe baent yn edrych ar waith yr Eglwys fel rhywbeth personol ag sydd yn dwyn elw i logell y gweinidog. Nid un lies 4personol a'n cymell i weithio yn yr Eglwys Gymraeg, ac nid ydym yn rhwym i aros o fewn ei chynteddau. 0 bosibl y byddai ein helw a'n dyrchafiad personol yn uwch yn yr Eglwys Saesneg. ■ Hyd yn hyn fe'n cymhellid gan egwyddor gywirach. Ar y Haw arall, yr ydym yn credu y dylem ymgolli yn lies a llwyddiant y cyfangyrf fEglwysig, ac yr ydym o'r farn y byddai yn fantais i'r Eglwya yn Nghymru, ac yn gyfnerthiad i'r Eglwysi Cymreig yn Lloegr pe y dygid y ddau achos ynghyd, ac y dangosid cydymdeimlad a chyfiawnder tuag at y gweinidogion Cymreig yn Lloegr, pa rai a gymerir o'r Eglwys yn Nghymru i weinyddu i'w cyd- wladwyr Eglwysig y tit arall i Glawdd Offa. Nid oes eisieu profi yr angenrheidrwydd o gael Eglwysi Cymreig mewn lleoedd fel Caer a Lerpwl. 0 b'le, atolwg, y ceir gweinidogion Cymreig ond o Gymru ? Ai teg yw boycotio y sawl a ymgymerant a'r gwaith pwysig hwn ? Ai buddiol i'r Eglwys yw ymddwyn yn y modd hwn tuag atynt ? Nid ydym ni yn llefaru mewn dammegion, ond yn apelio at synwyr a rheswm ein cydgenedl Eglwysig. Gall y rhai sydd mewn bywoliaethau bras wawdio diwygiad, ond ni wna i ffordd a ffeithiau sydd yn crochlefain am gyfnewidiad. Ond i droi at yr Eglwys Gymraeg yn Nghaer. Nifer ei mynychwyr yw oddeutu 250, ac y mae iddi 100 ogjmnnwyr, 90 o aelodau yn yr Ysgol Sul, a chor canu da o dan arwemiad y cerddor medrus a llafurus, Mr Thomas Edwards. Y mae un hen gerddor adnabyddus, aelod hynaf o'r Eglwys, Mr Samuel Hughes, o serchog goffadwr- iaeth, wedi ymadael a'r fuchedd hsn yn 72 mlwydd oed. Bu farw Ionawr 30ain, a chafoad gladdedigaeth barchus ddydd Linn, Chwefror 3ydd. Cymerwyd ei weddillion i'r Eglwys, lie y canodd y cor y 90ain Salm, ynghyd ag un o'i hoff emynau, a chwareuodd yr organydd y Dead March' tra yr elai y gynulleidfa allan. Yna ffurfiwyd gorymdaith tua'r gladdfa, yn cael ei blaenori gan y caplan, yr hwn a ddar- llenodd y gwasanaoth claddu. Bydd ein colled yn fawr ar ei ol, ac ni welir ei fath yn fuan o ran ffyddlondeb a dawn canii ac hynawsedd. Nid oedd un man ar wyneb y ddaear a garai yn fwy na'r Eglwys Gymraeg. Yr oedd ei gariad tuag ati yn ogymaint fel nas gallai ymadael a Chaer. Y mae ei lais treiddgar yn porthi y gwasan- aeth, ac yn canu bass yn swrno^yn ein clustiau yn awr, ond ni welwn ei wyneb, ac ni chlywn ei lais mwy. Heddwch i'w lwch. Fe wnaeth angau fwlch mawr yn ein cynulleidfa fechan y llynedd, trwy gipio ymaith bedwar o aelodau defnyddiol, sef Mrs Hughes, Chwitleton Road, Henry Jones, Thomas Hughes, Hoole Mrs Edward Hughes, Hoole. Yr Arglwydd a anfono ereill i lenwi ou lie. (l'w barhau.)
DYFFRYN CEIRIOG.
News
Cite
Share
DYFFRYN CEIRIOG. LLWYDDIANT YSGOLFEISTR.—Da genym ddeall fod Mr W. Aeron Davies, ysgolfeistr Ysgol Genedlaethol Pontfadog (diweddar o Ysgol Genedlaethol Llanbedrog, Pwllheli), wedi d'od yn llwyddianus drwy arholiadau yr Associate of the College of Preceptors.' f mae hyn yn dangos fod Mr Davies yn ysgolfeistr diwyd, ac yn gwneyd ei oreu i yaiherffeithio yn y gwaith pwysig sydd dan ei ddwylaw. Deallwn ei fod yn myned i eistedd am yr L.C.P. yn fuan. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn y dyfudol. Ysgol- feistriaid cymerwch edampl. DYDD GWYL DEWI.-Gan fod Dydd Gwyl Dewi yn disgyn ar y Sul, bwriada gwyr ieu- ainc Glyn Ceiriog gynal yr wyl ar y dydd olaf o'r mis hwn, trwy gael Bachelor's Tea Party,' a chyngerdd yn yr hwyr. Rhoddir yr elw at drysorfa Ysgol Genedlaethol y lie. Y DOSBARTH BEIBLAIDD.—Y mae yn bleser mawr i ni weled fod pobl ieuainc 6in Heglwys yn deffroi, ac yn arddangos fod syched arnynt am wybodaeth o'r Ysgrythyr- au Sanctaidd. Y maent wedi trefrin dos- barth darllen er dechreu y gauaf, ac y mae golwg llewyrchus iawn arno. Maes llafur y tymor ydyw loan i.—viii.
COCLEDD CYMRU.
News
Cite
Share
COCLEDD CYMRU. Nos Fercher diweddaf, yn Nhreffynon, cafwyd perfformiad godidog o'r opera Maritana,' gan Gymdeithas Gerddorol yr Eglwys. Yr arweinydd oedd Mr E. Robin- son, Caer, a'r gyfeilyddes oedd Miss John- son Jones, Pistyll. Mynai Cyngor Trefol Bwrdeisdref Fflint y dylai Cyngor Sirol Fflint ad-dalu iddynt yr oil o'r treulian yr aethant iddynt er cadw y prif ffyrdd o fewn y fwrdeisdref mewn trefn briodol. Gwrthodai'r Cyngor Sirol dalu ond rhan yn unig. Cytunwyd i benodi Mr T. Codrington, M.I.C.E., yn gyflafar- eddwr, a phenderfynodd ef mai'r Cyngor Trefol oedd iawn, a cha'r Cyngor Sirol dalu yr oil. Y mae cryn lawenydd yn nhref Ffliut mai hwy aeth a'r dydd. Yn Llys yr Heddgeidwaid, Warrington, ddydd Mawrth, cyhiul,]wy] bachgen o'r enw Richard Crai eu, 18 oed, o Fflint,, o deithio o Gaer i Wi.)i ar hen eerbyd y rheilffordd. Syuai'r g^rsaf-f. i, s, fnasall wedi cael ei daflu ym) I h wrth 1 asio trwy rai o'r tuneli ar y ffordd. Yn Penmaenmawr, ddydd Iau, derbyn- iodd towr o'r enw Robert Williams niweid- iau trymion drwy syrthio'o ben ty. Yn Llys Ynadon Croesoswallt, ddydd Iau, dirwywyd tri ffermwr o Llansilin a Morda yn drwm am symud defaid o un sir i'r llall heb y drwydded angenrheidiol. Yn y llys hwn y mae 33 wedi eu heuog-brofi yn barod am y trosedd hwn. Y mae mudiad ar droed yn Llandudno i oleuo'r dref a thrydau, ac hefyd i gael electric tramways yno. Y mae dirprwyaeth o'r lie wedi bod yn ymweled a Mr Preece, consulting electrical engineer i'r Llythyrdy Cyffredinol, i gael ei farn ef ar y mater. Dydd Sadwrn, gwnaeth Trengholydd Dwyreinbarth Sir Ddinbych ymchwiliad i farwolaeth plentyn, tri mis ar ddeg oed, merch i filwr yn Barracks Gwrecsam. Yr uedd y fechan yn chwareu ar yr aelwyd pan syrthiodd padellaid o ddwfr berwedig drosti, a bu farw o'r niweidiau a gafodd. Rhoddodd John Davies, un o'r tlodion yn Nhlotty Treffyoon, ormod o Iwyth ar ferfa oedd i gael ei hwylio gan ddau dramp; cwynodd y rhai hyn o herwydd y baich, ac aeth yn frwydr rhyngddynt. Cafodd y tramps y gwaethaf, a chafodd John ei hun, ar ol y Frawdlys ddiweddaf yn Ruthyn, a mis o lafur caled o'i flaen. Bu farw dyn ienanc o'r enw William Smith yn Ysbytty Gwrecsam oddiwrth niweidiau a gafodd yn Ngwaith Mwn Minera. Pan yr oedd y trancedig, yr hwo oedd yu 19 oed, wrth ei orchwyl, syrthiodd rhan o'r to arno, a derbyniodd y fath niweidiau i'w goes fel y bu rhaid ei thori i ffwrdd. Bu farw yn fuan ar ol hyny. Y mae Mr Hughes, Kinmel, Arglwydd- Raglaw Sir Fflint, wedi penodi Mr Robert Podmore, Sealancl, a Mr F. L. Hancock, Penarlag, i fod yn ynadon dros Sir Fflint. Cwyna perchenogion yr hwyl-longausydd yn dal cysylltiad a'r fasnach lechi yo Mangor fod yr ager-longau yn myned a'r 9 11 holl waith, ac o herwydd hyn y maent yn gwneyd ymdrech i sefydlu cymdeithas et amddifiyn eu buddianau. Danfonwyd dyn ieuanc o'r enw ThomaS Griliiths, Littler's-row, Bagillt, i garohaf am fis, o ddiffyg talu dirwy o 5p, am ladrat3 glo o Lofa Bettisfield. Yr oedd y pereliel" ogion yn cymell yr ynadon i sosbi o her* wydd eu bod yn colli cymaint o lo drwY ladrad. Dydd Sadwrn, yn Nghaergybi, cafod'| Cadben Roche, o'r agerlong Shamrock) perthynol i gwmni y London and Nortb Western Railway, ei anrhegu, ar ran 1 Llywodraeth Ysbaenaidd, a medal arian a diploma fel cydnabyddiaeth am gynorth^? a roddwyd ganddo i agerlong Ysbaenai^" yn ystorm fawr Tachwedd, 1894. Penderfynwyd yn nghyfarfod plwyf0' Corwen, a gynhaliwyd nos Wener, fod plwyf i gyinei-yd mantais ar Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus. Dydd Sadwrn, yr oedd Mr N. Stewart yn Llanberls yn derbyn rhe»c dros Mr Assheton Smith oddiwrth y iaid ar ran Llanberis a Dinorwig o'r ystft Cafoad y deiliaid amaethyddol a dalerit 8 trethi eu hunain ostyngiad o 15 y cant. Y mae Mri Chandler a'i Gwmni, perch^ ogion Glofeydd Cannel Leeswood a Pb°°,j ybodkin, yn brysur osod tramway i lavvr0 glofeydd i linell yr L. & N. W., er bod yn alluog i godi rhagor o lo, a gwaith i fwy o weithwyrT Cafodd gwraig weddw o'r enw j Dawson, Treffynon, 60p o iawn i»e cyngaws a ddygodd yn erbyn Mr Tho«J, Griffiths, Canton House, yn Mra^yf Sir Fflint. Ar y 19eg o Ebrill ddiwe^ syrthiodd Mrs Dawson i bwll a gloddi^j gan Griffiths i osod seiliau ty ne^A ynddo, a derbyniodd niweidiau i'w 11*^ braich, ac am hyn cafodd iawn. dJ Yn y Manchester Guardian am ddlyt Llun, ceir hanes ymgom a fu rhwng Balfour a boneddiges Gymreig a flaenllaw yn y symudiad i gael plei wragedd. Os gwir yr hanes, elywedir/l Balfour wneyd y sylwadau hyn j'f Cymru yn danfon gormod o dwrnei0 j Senedd mai un o'r siaradwyr goreu yPjf Senedd yw Mr Lloyd George y byddolo Llywodraeth yn debyg'o ddwyn i Fesur Un Dyn Un Bleidlais, ac y ty hyn yn meddwl Un Ddynes Un Bl01sii hefyd; y byddai yr etholaethau yn c»0 rhanu yn fwy cyfartal." Wrth glyvped^ sylwodd y foneddiges Nid dyina'rf cyntaf i Weinyddiaeth Geidwadol iadu Mesurau Rhyddfrydol." oedd ateb Mr Balfour, "ond pan £ if iadwn ni Fesurau Rhyddfrydol, yr yn eu gwneyd yn Rhyddfrydol mew» o ionedd, yn hytrach nag mewn enw." l bY Dydd Llun, etholwyd Arglwydd J}U1 g1,P yn aelod o Gyngor Sirol Llundaill 4,708 o bleidleisiau, yn erbyn 483 a do f. wyd i Arglwydd Wolverton. Cy yr etholiad hwn le am fod Due lqo wedi ymddiswyddo. codbol Ar y 12fed o'r mis hwn, priodir Basil E. Phillips, Rhual, Wyddg^y Miss Helena Cooke, Colomendy. f. tenantiaid ystad y Milwriad Goo*'J myned i anrhegu'r briodferch diemwnt gwerthfawr, tra y mae %s Rhual yn anrhegu Cadben Phillips a t(tble.silver. Bwriadwyd dwyn ynghyd werth 50,10 o ddarluniau i'w harddangos yn Llj¡åeJleol, mewn cysylltiad a'r Eisteddfod aethol eleni, ac yr oedd Proffes^1, J» komer wedi addaw cynorthwyo i'^ f trefnu. Ofnir yn awr mai troi yn. < wna'r gwaith hwn. Disgwylid cael fel guarantee, ond nid oes ond 850", d'od i law. Yr unig obaith yn awr e9. yr arddangosfa ar raddfa llawer 11 nag a fwriadwyd ar y dechreu. Nos Lun diweddaf. yn Llanelwy. wyd Mr William Jones, yr hwn /ahtffSij mlynedd yn orsaf-feistr yn y lie, P.jj$ cynnwya dros lOOp, fel arwydd o b»r ato ar ei ymddiswyddiad.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae cynydd mewn fuddugoliaeth ar ddiogi. Y mae y dyn a lefaro yn gwyneb, ond a'ch athroda yn elC^ecti oldeb, fel cynog o wenyn goruchuddio a llaeth. ■