Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

EFENGYL PEDR.

News
Cite
Share

EFENGYL PEDR. [GAN Y PARCH. EVAN JONES, B.A. NUTFIELD, SURREY.] (Parhad.) Awn ymlaen y tro hwn gyda'r cyfieithiaa as; a ddechreuasom wneuthur yr wythnos ddiweddaf. III. 4 A hwy a ddaliasant yr Arglwydd, ac a'i gwthiasant gan redeg a dywedent Llusgwn Fab Duw, gan ein bod wedi cael goruchafiaeth arno. A hwy a'i gwisgasant Ef a chochl, ac a'i gosodasant Ef ar orsedd- fainc barn, gan ddywedyd, 4 Gwna farn gyf- iawn, 0 Frenin Israel.' Ac un o honynt a ddug goron o ddrain, ac a'i gosododd ar ben yr Arglwydd rhai a aataaant, ac a boerasant yn ei lygaid ereill a'i tarawsant ar ei ruddiau, ac ereill oeddynt yn ei dry- wanu a. chorsen a rhai yn ei fflangella ac yn dywedyd, 'Dyma yr anrhydedd a'r hwn yr anrhydeddwn Fab Duw.' Y mae yr oil o'r rhan hon yn dangos y driniaeth greulawn a dderbyniodd yr Ar- glwydd gan yr Iuddewon. Pa un a ydyw yn ddesgrifiad mwy cywir na'r un sydd genym yn yr Ysgrythyr, nid oes a fynom a phenderfynu, ond fe welir yn eglur na wnaeth yr awdwr arbed yr Iuddewon o gwbl yn yr hanes a roddodd. Efe a ddengys eu caaineb at yr Arglwydd yn y geiriau I gwthiasant,' 'llusgwn,' 'ei drywanu a. chersen,' a thrachefn yn y modd gwawdlyd y dywedent, wedi iddynt ei oraeddu, 'Gwna farn gytiawn, 0 Frenin Israel,' a Dyma yr anrhydedd &'r hwn yr anrhydeddwn Fab Duw.' 1. 'Llusgwn.Nid wyf yn cofio fod yr ysgrifenwyr sanctaidd yn son am lusgo yr Arglwydd. Felly cawn yma olwg Jbellach ar eu creulondeb. Eto, nid ydyw yr awdwr ar ei ben ei hun yn y deagrifiad hwn. Wrth ffraharu y frawddeg ag un arall gan Juatin erthyr* cawn weled yr un syniad. [*Justin oedd frodor o ddinas a adeiladwyd ar adfeil- ion Sichem, yn Palestina. Ar ol crwydro yn mysg y gwahanol athrawiaethau, efe a ddychwelwyd at Griationogaeth, ac a fu yn ysgrifenyda amddiffynol cadarn iddi. Bu farw tua'r flwyddyn 165 o.c., trwy ferthyrdodj. Yn awr rhoddwn fraw- ddeg o'i eiddo, er ei chymharu a'r syniad o lusgo eio Harglwydd. Justin Apology i. c. 35. Efengyl Pedr. "Cauys, fel y dywed- Llusgwn Fab Duw.' odd y Prophwyd, hwy Ali I l/usgamnt Ef nes ei amfu. Yr un gair a ddefnyddir gan y ddau ys- grifenydd, ond fod Justin yn defnyddio y cyfanaawdd 'diasuro,' pa air sydd gryfacn na suro,' yr un a ddefnyddir gan awdwr yr Efengyl dan aylw. 2. 'Ac a'i goaodaaant ar orseddfainc farn.' Y mae y frawddeg hon y fwyaf dyddorol yn y rhan yma gan ei bod yn hollol i'r gwrth- wyneb ir hyn a gawn yn St. loan. Eglur yw fod cyfeiriad yma at St. loan xix. 13, lie yr ydym yn darllen, 4 Yna Pilat a ddug allan yr Iesu, ac a eisteddodd ar yr orseddfainc.' Er mantais i'r darllenydd, rhoddwn y ddwy frawddeg ochr yn ochr :— St. loan xix. 13: Efengyl Pedr: 'Pilat a ddug allan A hwy a'i gwisg- yr Iesu, ac a eisteddodd 49ant Ef a ohochl, ac ar yr orseddfainc.' a'i gosodasant ar or- seddfainc farn.' Yn y Groeg yr un gair sydd yn cael ei ddefnyddio am I eistedd ac I achosi i eiatedd,' neu osod. Trwy hyn y mae un wedi cyfieithu'r frawddeg fel ei gwelir yn St. loan, a'r llall wedi ei defnyddio mewn modd gweithredol, fel ag ei gwelir yn Efengyl Pedr. Eto, nid awdwr Efengyl Pedr yn unig gydd wedi gwneyd hyn. Cymharwn hi a- Juatin:— Justin Apol. i 35: Efengyl Pedr: "Hwy a'i gosodasant "Ac a'i gosodasant ar orseddfainc, ac a ar orseddfainc farn, gan ddywedasant,' Gwna i ddywedyd,' Gwna farn nifarn. gyfiawn. Naturiol i ni gaaglu oddiwrth ddull y ddau ysgrifenydd eu bod yn gyfarwydd ag Efengyl loan, ac hefyd naill ai trwy gam- vyniad, neu yn wirfoddol, wedi rhoddi i'r adnod y ffucf uchod. Dywedir yn mhellach y byddai yr Arch- esgob Whateley yn cyfieithu St. loan xix. 13 yr un modd ag y mae gan Justin ac awdwr Efengyl Pedr. IV. "A dygasant ddau ddrwg-weithredwr, a chroeshoeliaaant yr Arglwydd yn eu canol. Ond Efe oedd yn parhau yn fud, fel pe byddai heb ddim poenl. Ac wedi iddynt goli'r groes, hwy a ysgrifenasant arni4 Hwn yw Brenin Israel. u Ac wedi gosod ei ddillad o'i flaen Ef, hwy a'u rhanasant, ac a fwriasant goelbren arnyat. Ond un o'r ddau ddrwg-weithredwr hyny a'i hedliwiodd hwynt,2 gan ddy- wedyd, 4 Nyni ydym wedi dioddef am y drygioni a wnaethom, ond Hwn, wedi dyIod yn lachawdwr dynion, pa gam a wnaeth Ef a chwi r A liwy, wedi sori wrtho, a orchymyi).iant beidio tori ei esgeiriaUj3 fel y byddai farw mewn arteith- 1. HOnd Efe oedd yn parhau yn fud, fel pe byddai heb ddim puen." Bydd ysgrif- enwyr yn gyffredin yn cymeryd y frawddeg hon fel yn cynwys yr awgrym gyntaf a gawn fod Efengyl Pedr yn hereticaidd, ac yn perthyn yn neillduol i'r sect a adwaenid wrth yr enw 'Docetiaid,' pa rai a wadent i ymgnawdoliad Mab Duwgymeryd lie mewn gwirionedd, ac felly nad oedd ei ddioddef- aint yn sylweddol—mai rhith oedd y cyJan. Dywedent i un Qrist doisgyn ar y dyn Iesu yn ei fedydd, yr hyn a'i gwnaeth yn Fab Duw, ac ar adeg eigroeshoeliad i'r person Crist ei adael. Drachefii, y mae y ffaith fod ein Hawdwr wedi gadael allan y fraw- ddeg, Y mae syched arnaf,' yn profi yr un peth, sef nad oedd ei ddioddefaint yn wir- ioneddol. Hefyd, ni sonia am weddi yr Arglwydd oddi af y Groes, 1 0 Dad, maddeu iddynt.' Prawf pellach nad oedd am i neb goleddu y syniad fod yn bosibli'r Iuddewon gael maddeuant am eu pechod hysgeler o'i groeshoelio Ef. Er y dylid cofio fod rhai o'r llawysgrifau (MSS) yn gadael allan Luc xxiii. 34. (2) Un o'r ddau a'i hedliwiodd hwynt.' Dyma esiampl arall o ddull yr awdwr yn gwyrdroi yr hanes fel ag y mae yn Luc. Efengyl Pedr St. Luc xxiii 39. Ond un o'r ddau Ac un o'r drwg- ddrwg weithredwr weithredwyr a grog- hyny a'i hedliwiodd asid a'i cablodd Ef hivynt (yr Iuddewon).' (sef lesu).' Y mae yr awdwr yn parhau yn gyson yn ei elyniaeth i'r Iuddewon. (3) 'Beidio tori ei esgeiriau.' Y mae y frawddeg hon yn ei chynwya yn uu a'r un a gawn gan St. loan ond sylwer fod y rhesymau dros beidio tori ei esgeiriau yn hollol wahanol. loan a ddywed iddynt beidio, am fod yr Iesu wedi marw awdwr yr efengyl hon. am fod yr Iuddewon wedi sorri wrtho, ac fel y byddai farw mewn arteithiau. Efengyl Pedr. St. loan xix. 33, 1 A hwy wedi sorri Pan welsant ei fod wrthoa orchymynasant wedi marw eisoes, ni beidio toriei esgeiriau thorasant ei esgeiriau fel y byddai farw mewn Ef. arteithiau. V. Ac yr oedd yn ganol dydd, a thy- wyllwch a orchuddiodd holl wlad Judea. Ac yr oeddynt mewn cynhwrf a gwasgfa meddwl, rhag ofn i'r haul eu fachludo, ac Efe eto yn fyw. (canys) yr oedd yn ysgrifenedig iddynt, nad oedd yr haul i fachlud ar yr hwn a ddienyddid. Ac un o honynt a ddywedodd, rhoddwch iddo i yfed fustl yn gymysgedig a finegf. A hwy a gymysgasant, ac a roddasant iddo i'w yfed a chyflawnasantbob peth a dygasant i ben 1 eu hell bechodau yn erbyn eu pen (eu hun). A Ilawer oedd yn myned oddiam- gylch gyda llusernau, gan dybied ei bod yn nos (ac a syrthiasant i lawr 2.) A'r Ar- gl wydd a leiodd allan gan ddywedyd, I Fy Berth, Fy nerth, Ti a'm gadewaist 3.' Ac wedi iddo ddywedyd hyn, Efe a gym- erwyd i fyny. Ac ar yr awr hono y rhwygwyd teml Jerusalem (2) yn ddwy." (1) Yn y frawddeg hon clywir adsain o eiriau St. loan xix. 28, yn mha le y dar- llenwn Yr lean yn gwybod fod pob peth wedi ei orphen weithian. Er hyny can. fyddir fel y mae yr awdwr wedi rhoddi ati y frawddeg, Dygasant i ben (eteleiosan) eu holl bechodau.' (2) Gyda llusernau.' Eto gwelir fod cyfeiriad yn y geiriau at St. loan xvii. 3, Judas a ddaeth yno S, lanternau a lampau, ac arfau.' Gan dybied ei bod yir nos.' Mown ysgrifau a dybir fod yn hanes y Groeshoel- iad gan Pilat i'r Ymerawdwr Tiberius, ceisir dangos fod Pilat yn dywedyd nad oedd yn bosibl i'r Ymerawdwr fod yn an- wybyddus o'r ffaith, iddynt trwy'r holl fyd oleuo larhpau o'r chweched awr hyd yr hwyr.' Ac a syrthiasant i lawr.' Nid ydyw yn hawdd gweled y cysylltiad sydd rhwng y frawddeg hon a'r un flaenorol. Nirl ydyw yr ysgrifen .yn y fan yma yh eglur, ac y mae wedi ceiaio cywiro a gwellhau y frawddeg trwy ddarllen, ond rhai a iasant.' Tebygol yw fod yr awdwr wedi gwyrdroi St. loan xvii. 6, Hwya aethant yn wys eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.' (3)' Fy nerth Ti a'm gadewaist.' Dyma y frawddeg fwyaf hynod yn yr holl efengyl. Gwelir fel y gwahaniaetha oddi- wrth yr Yagrythyr, wrth rhoddi y ddwy ochr yn ochr. Efengyl Pedr St. Matth. xxvii. 46. 'Fy Nerth,fy Nerth, 'Fy Nuw, fy Nuw, Ti a'm gadewaist.' Paham y'm gadewaist.' Ond cawn ragor am hyn yn ein Ufth nesaf.

CALAN HEN YN LLANDYSUL.

- LLC.FFICtN.

[No title]