Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YR ANGEL-BLENTYN. ----

News
Cite
Share

YR ANGEL-BLENTYN. AERES RHOSVARAN. [COPYESGHT.] Ysgrifemoyd yn ctrbenigol ar gyfer y LLAN. PENOD III. Ar ol i'r meddyg fyned i ffwrdd, y niae Ifor Wynhefin yn rhoddi ei ben allan trwy y ffenestr fechan sydd yn yrystafell lie mae Elvira Dafydd, a chotfF ei chwaer fach Gwen yn gorwedd, yn y porthdy, ac y mae yn anerch y dorf sydd bellach wedi ym- gynull yn y Pare, fel hyn Anwyl gyf- eillron, ac yn neillduol y cantorion a'r cantoresau. Gwrandewch am funyd, os gwelwch yn dda. Tra y mae Mrs a Miss Wynhefin yn teimlo yn ddiolchgar i chwi am ganu mor ogoneddus i ni heno eto, y maent yn teimlo yn ofidus fel finau oher- wydd yr angenrhaid osodir arnom yn ngwyneb yr amgylchiad pruddglwyfus sydd wadi cymeryd He ar y Tawe heno, i or- chymyn ar fod i chwi i gyd ymdawelu a myned adref, gan fod Mr a Mrs Dafydd yu galaru mewn amgylchiad mor bruddaidd yn yr hwn y mae eu meddyliau wedi cael eu trawsffurfio mewn yatyr o fywyd i farwol- aeth, megis mewn eiliad. Wele 5p i chwi, sef 2p 10s yr un, oddiwrth Mrs Wynhefin a Miss Wynhefin. Wele fioau yn rhoddi 5p i chwi, canys yr ydym i gyd wedi cael mwynhad neillduol wrth wrando arnoch yn canu cerddoriaeth Dr Parry mor nefelaidd.' Y mae Ficer Llanvaran yn tala ymweliad noeawl a'r pare yn awr tra ar ei ffordd i'r gwasanaeth plygeiniol. Boneddwr o'r iawn ryw yw y Parchedig Abner Mydwaledd Rhinweddol, M.A. Heblaw fod tueddiadau ei galon yn haelfrydig wrth naturiaeth, y mae ei ymddangosiad allanol ef hefyd yn berffaith foneddigaidd. Dyn trwehus, gwtid- og, canol oed, a chanddo gyflawilder o wallt melynfrith ar ei ben a'i gernau, ydyw Ficer Llanvaran, ac er fod ei ben yn fwy o faint na'r cyffredin, nid ydyw yn rhoddi ymddangosihd penfras iddo o gwbl. Hefyd, y mae gan y Ficer dalcen uchel hardd, yr hwn sydd megis yn cael ei amgaeru gan aeliau perthog, y rhai sydd eto megis yn etifeddu dau lygad glas gwir siriol bob amser, gan ymddangos fel pe buasent yn nofio yn naturiol i ddarfoli pob gwir Gristion mewn tegweh toddadwy, gan roi ymddangosiad cyd-deimladol i'w wyneb- pryd hyaaws. Dywedodd y Ficer wrth gyfarch y cantor- ion, 'ei fod yntau wedi cael boddhad anghyffredin, wrth glywed y carolau a ganasant mor ardderchog. Cymhellodd hwynt i roi eu presenoldeb, yn nghyn- hebrwng Gwen Dafydd, ac yn neillduol, yn y gwasanaeth coffadwriaethol oedd i gy- meryd lie yn Llanvaran.' Wrth ymadael, anrhegodd y Ficer flaenor y cor a R2, a chawaant roddion ereill, gan y gweision, a'r morwynion, a theulu y Ficerdy i gyd. < Q fewn i ryw ohwarter milldir i'r 'jBisgwydden,' wrth fon yr hon y suddodd y genethod, Elvira a Gwen Dafydd i'r Dawe, y mae Mr Ifor Wynhefin, Y.H., wedi achosi i bont gadarn gael ei hadeiladu, at ei wasanaeth ef ei hunan, a'r teulu, ynghyd ag at wasanaeth y gweinyddion sydd yn dal cysylltiad uniongyrchol ag ystad Rhosvaran. Yn agos i'r bont yma, sef Pont varan, y mae y prif Borthdy yn sefyll. Y mae y lluesdy hwn, yn arwain pobl i'r Pare, a Mr a Mrs Dafydd, a'r plant, yw y porthorion, ac o herwydd fod Elvira Dafydd wedi bod mor rhyfygns ag i ymdrechu byrhau y cyfwng o'r brif ffordd i'r Pare, drwy gerdded ar hyd yr ia, yr hwn yn ol ei thystiolaeth hi, yn nghyntaf, a agenodd dan wylofain mogis yn hocedus, gan gydsyplaw mewn ycnydig funydau. Ymddengys, na fydd y ffordd yn symud yn gyflym iawn, o dan yr ia, yn y rhan yma o'r afon, ond pan fydd yr hin yn. dymhestlog, canys, y mae yr argae sydd wrth Bontvaran yn cyflawni ei gwaith mor dda, sef arafu rhediad llifeiriaint ewynog, yr hwn fydd yn y cyffredin yn ysgubo defaid ac wyn, ac amryw bethau ereill, oddiar benau y creigiau, a llech- weddau y mynyddoedd i'r Pare, gan wneuthur iddynt i fwhwman at ddyfr-ddor yr argae a nodwyd ar ol pob rhyferthwy. A bydd rhai o honynt yn aros yno hyd nes eu gollyngir i fyned yn eu blaen i Pilfach, Mor Alarch, gan un o geidwaid yr afon. Bydd y pethau yma i'w gweled yn ami yo teithio ar wyneb y dwfr, weithiau yn ufuddgar, a phryd arall yn wrthryfelgar, mor bell ag y bydd a wnelo grym y llifeiriant a u symudiadau. Bydd rhai o honynt, weitbiau, yn enwedig y defaid a'r boncyffion yn agos a bod yn yffion man fel ag y maent yn cael eu lluchio y i ddisymwth yn erbyn yr argae gan y llif- dlwfr. Ac oni buasai fod trwch mawr o ia ar y Dawe, buasai y llif-ddwfr wedi cludo Elvira a Gwen Dafydd yn erbyn yr argae yr un mor ddisymwth. Fel rheol, bydd llawer o bobl yn ymgyn- ull gyda'r amcan o dalu y gynwvynas olaf i weddillion marwol y peraonau hyny fydd yn marw trwy ddamwain, ac nis anghofiwyd y rheol hon ynglyn a. chynhebrwng yr anffod- us Gwen Dafydd, canys ymgynullodd tyrfa anarferol fawr ar yr achlysur o'i chladdedigaeth hi. Pan ydoedd y corff yn cael ei ddodi yn yr elorgerbyd a thorchau o flodau yn cael eu trefnu ar yr arch, yr oedd yn eglur i'r gwyddfodolion fod teimladau ifor Wynhefin, ei briod, a'i ferch yn wir ddrylliog, ac fod galar Ifor ac Henrietta Dafydd yn gan'plyg, Tis night when Meditation bids us feel We once have loved, though love is at an end The heart, lone mourner of its baffled zeal, Though friendless now, will dream it had a friend.' -Childe Harrold's Pilgrimage. Yr oedd gwynebau Ifor Wynhefin, Enid Wynhefin, a Gwen Wynhefin yn gamwclw tra yr ydoedd y Parchedig Abner Myd- waledd Rhinweddol, M.A, yn darllen y Cwsg-emyn' arbenigol yn Llanvaran yr hwn a ganwyd yn y modd mwyaf ben- digedig gan y cor, &e. (l'w barhau).

---YN MHLITH YR ENWADAU.

Advertising

Advertising

LLANBBRIS. -

Advertising

---YN MHLITH YR ENWADAU.