Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HYN A'R LLALL.

News
Cite
Share

HYN A'R LLALL. [GAN CYFEILIOG.] Y DIWEBDAR OLYGYDD A'R NEWYDD. Goddefer i ninau yn y golofn hon dalu teyrnged fechan o barch a diolch i'r diweddar a'r hynaws Olygydd am y gwaith da a gafwyd ganddo yn ystod tymor ei olygyddiaeth. Deallwn iddo aberthu cryn lawer er mwyn yr Eglwys tra y bu wrth y Ilyw, a thra yr oedd hithau yn morio ynghanol creigiau'r Dadgysylltiad. Nid sedd esmwyth ydyw ciddo golygydd papyr newydd. Gwaith hawdd iawn ydyw rhoddi tramgwydd, o herwydd y mae pawb o hoDom yn meddwl cryn lawer o'i gynj rch ei hun, ac yn myn'd i ffromi yn union os teflir ef i'r fasged, neu os y defnyddir y 1 Siswm dipyn yn drwm. Wrth ffarwelio a'r hen, goddefer i ni ar yr un pryd longyfarch y newydd yn galonog, a dymuno iddo rwydd :hynf Gobeithiwn y cawn oil, yn ohebwyr ac yn ddarllen- wyr, fod yr un mor ffyddlon iddo ef ag i'r hen. Ein n6d fyddo gwneyd y LLAN yn wir deilwng o'r Eglwys, ac yn rhagor- ach papyr newydd na'r un arall yn N ghymru. Da genym ei weled o ran argraff a phapyr wedi gwella yn ddi- weddar. Y mae cylchrediad papyr newydd yn ymaaibynu bron cymaint ar ei wedd allanol ag ydyw ar ei gynwysiad mewnol. r 'YR EMYNIADUR.' Rhoddwyd yn ein llaw y dydd o'r blaen gopi o Adran yr Ysgol Sul o'r 'Emyniadur,' ac yn sicr y mae yn lyfryn bychan destlus. Y mae o ran yr argraff- waith a'r rhwym-waith yn bob peth ag y gellid dymuno iddo fod. Cynwysa oddeutu cant o emynau addas iawn i'w eanu yn yr Ysgol Sul, ac y mae ynddo donau da ar gyfer pob un o honynt. Rhoddir i ni yn ei ddechreu wasanaeth byr a chyfaddas i'w arfer ar ddechreu a diwedd yr ysgol. Dyma ni bellach wedi cael dwy ysgub flaenffrwyth o'r Emyn- iadur,' sef carplau Nadol.ig a'r Ilyfryn < bychan hwn, ac os bydd yr Emyniadur' ei hun, pan wel oleuni dydd, cystal a'r t blaenffrwythau, sicr genym y bydd yfl* boblogaridd. YR "HAUL." Gobeithiwn nad oesdiffyg aryr Ilaul. Gobeitbiem ei weled yn esgyn i fyny yi ffurfafen yr Eglwys gyda dechreu'r flwyddyn newydd yn ddisgleiriach nag erioed, ond nid ydyw ein gobaith wedi tori allan yn fwynhad hyd yn hyn. Itbaid i ni gyfaddef ein bod wedi bod yn y plwyf hwn dipyn yn oeraidd o ran ein cefnogaeth mewn amser a basiodd, and dywedir wrthym fod yna ddiwygiad i fod eleni. Cawsom y fraint o ysgrifenu ( ychycftg i'w golofnau flynyddau yn ol, ac yr ydys yn gobeithio os cawn iechyd a hamdden, ail-afael yn ein hysgrif-bin y flwyddynhon. v HIRLAS." Rhyw bythefnos yn ol ymddangosodd Hythyr yn y LLAN gyda'r ffagenw I flirlas' wrtho. Darllenasom ef, ond amheuera wrth wneyd hyny ai y gwir < Ifirlas,'sef y Canghellydd Silvan Evans, oedd ei awdwr, ac eto wrth ganfod ei fod ar yr Iaith Gymraeg, sef pwnc ag y mae ef mor byddysg ag ef, tybiem nad oedd He i amheuaeth. Modd bynag, y dydd o'r blaen, talasom ymweliad a'n hen gymydog, a symudwyd ein amheuaeth ar unwalth. Synai ef a gofidiai fod neb wedi bod mor feiddgar a defnyddio ei enw, a synem ninau hefyd. Os mewn anwybodaeth y gwnaed hyny yr oedd yr adwyrodaeth yn anesgusodol, o herwydd dylai pob un ag sydd yn honi rhyw gymaint o wybodaefih am Gymru a Chyraraeg, wybod nad oes ond un Z5 < riirias, sefy CangheHydd Silvan Evans o Lanwrin, un o lenorion a dysgedigion mwyaf adnabyddusnid yn unig Cymru, ond hefyd Ewrop. Y mae rhyw yafa ar rai wrth ysgrifenu i'r wasg i defnyddio enwau gwyr enwog ein gwlad. Diffyg synwyr da a b'ar hyny, a diffyg gonest- rwydd hefyd, Ychydig amser yn ol gwelsom frawd yn y LLAN yn ceisio • esgyn bryn enwogrwydd ar ysgwyddau Nicander.' Dylasai y gwr hwnw wybod nad oedd ond un 'Nicander,' megis nad oes ond un 'Hirlas.' Gadawer i'r enwogion gael eu heiddo eu hunain.

NODIADAU GLANAU'R OGWEN.:

.RHEILFFORDD Y WYDDFA.

LLWYDDIANT ELLDEYRN.

GOLYGYDD ANNIBYNOL.

Archddiaconiaeth Caerfyrddin

BETHESDA.