Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

CWEDL I BLANT.

News
Cite
Share

CWEDL I BLANT. Unwaith, amser mawr yn ol, yr oedd dau frawd yn byw mewn dinas mewn gwlad bell. Yr oedd un yn dlawd, a'r llallyn gyfoethog. Yr oedd y Nadolig yn agoshau, ond nid oedd gan y brawd tlawd ddim yn ei dy gogyfer a'r ciniaw Nadolig; felly fe aeth at ei frawd i ofyn cardod. Pan ofynodd iddo, edrychodd yn sarug, canys dyn blin oedd, ond gan ei fod yn gwybod mai amser Nadolig oedd, pan y mae hyd yn nod y gwaethaf yn roddi i'r tlawd, aeth i gyrchu iddo wydd, ac a'i taflodd i'w frawd, gan orchymyn iddo fyned ymaith o'i olwir, a byth mwy ymddangos ger ei fron ef. Diolchodd y cardotyn iddo am ei anrheg, ac a aeth tua chartref. Ar ei ffordd yr oedd ceedwig fawr. Pan gyraeddodd ganol y gocdwig, cyfarfyddodd a hen wr a barf wen laes, yn tori coed. Prydnawn da i chwi, SY1' meddai wrtho. ( Prydnawn da atebai yr hen wr, gan ymsythu i edrych arno. 'Gwydddda yw hona sydd genych,' meddai. 'Ie,' atebai y cardotyn, ac yna dywedodd wrtho pa fodd y daeth i'w feddiant. 4 Dylech fod yn ddiolchgar eich bod wedi fy nghyfaifod i,' meddai yr hen wr. Os cynierwch yr wydd yna i wlad, y corachod, fe roddant filwaith ei gwerth i chwi am dani, am na fyddant byth yn cael gwydd, ac y maent yn hynod hoff o honynt. Wrth wraidd y goeden hon y mae mynediad ir wlad bono. Cynghorwn chwi i -beidio ei gwerthu iddynt am avian, ond gofynwch am yrhen felin bach sydd tu ol i'r drws yn ei lie. Pan ddychwelwch, mi a ddangosaf i chwi pa fodd i'w harfer." Yna ddangosodd iddo ddrws o dan gareg fawr wrth fon y goeden, ac ar ol dioleh i'r hen wr, aeth y cardotyn i fewn1 i deyrnas y corachod. Yn y fan, pan ddaeth i'w cyffiniau, sawyrodd y carachod yr wydd, ac yn union amgylchynwyd ef gan filoedd o honynt. Cynygiasant iddo ddarnau rhyfedd ac henafol o arian, ond yn unol a chyngor yr hen wr, gwrthododd yr y t, arian, a dywedodd, ynewidiai yr wydd am yr hen felin fach oedd tu ol i'r drws. Yr oeddyn amlwg nad oeddynt yn fodd- lawn, a chan ocheneidio, dywedodd y brenin, Nis gallwn wneuthur hyn, felly dymunwn i chwi nos dda, syr.' Ond erbyn hyn yr oedd arogl yr wydd wedi cyraedd hyd eithafion teyrnas y corachod. Rhoddwyd pob gwaith i fyny-y mwnau aur ac arian gadawodd yr amaethwr ei dir, y morwyr eu 1 longau, y milwyr eu byddin, a chanlynasant eu ffroenau nes dyfod at yr wydd. 'Gadewch iddo gael yr hen felin, y mae wedi rh\du, ac nis g\Vyr sut i'w harfer; gadewch iddo ei chael, a cby- merwn ninau yr wydd,' oeddllaisun- frydol yr holl wlad. Rhoddwyd y felin fach i'r cardotyn yn gyfnewid am yr wydd, a aycliwelodd yn ol i'r goedwig. Yna dangosodd yr hen wr iddo pa fodd i'w harfer. Cyraerodd yr ymweliad i wlad y corachod gymaint o amser fel yr oedd yn haner nos cyn iddo gyraedd cartref. Pa le y hnost,' meddai ei wraig, 'bu'm yn disgwyl ac yn disgwyl am danat, nid oes genym ddim coed i gyneu tan, na dim i'w roddi yn y crochan cawl erbyn y Nadolig, pa beth a wnawn V Yr oedd y ty yn oer ac yn dywyll, a dywedodd y cardotyn wrth ei wraig am fod yn amyneddgar a chymeryd sylw o beth oedd ar ddigwydd. Gosododd yr hen felin fach ar y bwrdd, a dechreuodd droi yr handle. Rhywbeth tebyg i grochan bychan yn sefyll ar ei ochr, oedd y felin bach. un pen yn agored, a'r handle'yn y pen arall. Pan drowyd yr handle,' daeth allan yn gyntaf ganhwyllbren goleuedig ysblenydd gan leriwi yr ystafell a'i disglaerdeb, ac yna tan i'r aelwyd, wedi hyn crochan-cawl yn berwi drosodd. Yna daeth allan lieiniau bwrdd, llwyau, a dysglau. Tarawyd y cardotyn a syndod, a'i wraig a llawenydd mawr. Cawsant swper dda. Yna ar ol gorphen swper, trowyd yr handle eto er mwyn cael pob peth angenrheidiol i'w gwneu- thnr hwy a'u plant yn gynes, cysurus, a diddanus. Ac felly cawsant Nadolig llawen. Nis gallai pawh weithio y felin bach ond y cardotyn oedd wedi cael ei gyfar- wyddo gan yr hen r bach o'r coed. Yr oedd yn rhaid yn gyntaf ewyllysio rhywbeth, yna dywedwyd rhyw eiriau, ac yna deuai alien o honi beth bynag oedd y cardotyn wedi ei ewyllysio, a pharhaent i ddyfod nes y dywedai rhyw eiriau ereill yr oedd yr hen wr wedi dysgu y geiriau iddo.

Advertising

"TROAD SANT PAUL."