Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

LLANGENNECH.

News
Cite
Share

LLANGENNECH. Derbyniais lyfchyr heddyw oddiwrth Simon, yn rhoddi ychydig o hanes y Llan i mi. Dywed fod tua 80p wedi eu rhanu y dydd o'r blaen allan o fane cynilo yr Ysgol Sabbothol. Da iawn, onide? Mae y nodachfa sydd i gymeryd He yma y mis hwn yn debyg iawn o fod yn llwydd- ianus, gan fod merched bach y G.F. S. ac ereill yn ddiwyd dros ben yn parotoi ar ei gyfer. Nid yw y diwygiad eto wedi cymeryd lie yn yr Ysgol Sabbothol, ond clywais fod ychydig gyffro yn y gwersyll. Da oedd genyf glywed fod cychwyniad wedi ei roddi i gyfarfol gweddi y bobl ieuainc ar foreu Sul. Daliwch ati, fechgyn bach y mae'r gwaith bendigedig hwn yn sicr o fod yn fendith i chwi a'r Eglwys yn gyflredinol, pan bydd y rhai hyny sydd yn awr yn cario'r gwaith ymlaen yn malurio yn mhriddellau oer y dyffryn. Cynhaliwyd gwasanaeth y Plygain yn yr Eglwys foreu dydd Nadolig am 6.30, pryd y daeth nifer dda o'r Eglwyswyr ynghyd. Bu yma hefyd wasanaeth am 11 o'r gloch, ynghyd a. gweinyddiad o'r Cymun Ben- digaid. Da iawn oedd gan Hen Golier' i weled rhai Ymneillduwyr yn bresenol yn y gwasanaeth hwn. Credai 'Hen Golier' yu drwyadl, os na ddychwela y gwenyn ir hen lestr, y byddant mewn ychydig flynyddau wedi efelychu cymaint ar hen wasanaethau bendigedig ein Heglwys anwyl, fel y bydd yn anmhosibl i wneyd gwahaniaeth rhwng gwasanaeth cyhoeddus Ymneillduaeth ag Eglwysig. Yr wyf yn cofio yn eithaf da am y diweddar Barch. Dafydd Rees, Capel Als, Llanelli. Dyn selog iawn oedd ef dros Independia Fawr, ac nid oedd neb mwy uchel ei lais nag ef a'i gynulleidfa yn gwaeddi I Pabyddiaeth, Pabyddiaeth,' ar offeryn cerdd mewn Eglwys Sefydledig, ond beth welwn y dyddiau hyn, hyd yn nod yn Nghapel Als, Llanelli? Dim ond full orchestral band. Carai Hen Golier' i'r dydd i wawrio yn sydyn pan bydd canu y cysegr ymhob Eglwys a chapel hefyd trwy'r wlad yn cael ei gynorthwyo gan seindorf o'r fath ag sydd yn Tabernacl, Treforis, neu Gapel Als, Llanelli. Yr wyf wedi crwydro oddiwrth hanes Ileol y waith hon, Mr Gol., ond cyfyngaf fy hun yn fwy y tro nesaf. Gofidus genyf groniclo marwolaeth a chladdedigaeth Mrs Evans, Pencoed, o'r plwyf hwn. Bu y wraig hon yn aelod cyson o'r Eglwys yn y lie hwn am tua 35 mlynedd. Fel y bu fyw, felly y bu farw, yn Gristion disglaer, a'i holl ymddiriedaeth yn ei hanwyl lesu. Gadawodd hen wr oedranus ar ei hoi, pump o fechgyn, ac un ferch, pa rai sydd i gyd mewn cyflawn oed. Daeth tyrfa fawr ynghyd ar ddiwrnod y claddu, sef Rhagfyr 20fed, i dalu y parch olaf i'w gweddillion marwol trwy ei hebrwng i fynwent Eglwys y plwyf, lie y gorwedda hyd ganiad yr udgorn diweddaf. Heddwch i'w llwch.— Hen Golier.

LLANRUG.

LLANNON, SIR GAERFYRDD1N.

FFESTINIOG A'R AMGYLCHOEDD.

LLANDDEUSANT MON.

CWMYGLO.

LLNNFACHRAETH, MON.

LLANENGAN.

GLANAU Y BANWY.

GOGLEDD CYMRU. M

TALSARNAU. II