Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

METHODISTIAID CALFINAIDD MON.

News
Cite
Share

METHODISTIAID CALFINAIDD MON. At Olygydd y Llan a'r Dywysogaeth." SYR,Yn ngwyneb y seibiant presenol o'r cythrwfl fu yn ein blino mewn byd ac eglwys, gall nad difudd cymeryd trem ar un o nodweddion Calfiniaeth yn ei pher- thynas a'r Eglwys, a chyrff orefyddol ereill yn Mon. Yn Nghymdeithasfa y Methodist- iaid Calfinaidd, a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Beaumaris, datgaawyd fod 32,000 o dri- golion Mon yn perthyn i'r corff hwn, ac mewn canlyniad nad oedd ond oddeutu dwy fil a haner ar ddisperod o Eglwyswyr, enwadau, a phobl gartrefol,' ys dywedir. Er y nodir mewn newyddiadur Ileol fod un rhan o breswylwyr yr ynys o'r dosbarth olaf hon, os cywir eu hystadegau, y mae cyfrifol- deb difrifol wedi ei osod ar y Methodistiaid Calfinaidd yn Mon, a thebyg yw mai dan ymdeimlad o hyn yr anfonodd Undeb Ysgolion Sul Amlwch y cylchlythyr canlynol i'r gwahanol Fyrddau Ysgolion yn yr ynys :— Cyfarfod Ysgolion Amlwch, Medi 15, 1895. Pasiwyd a ganlyn. Foneddigion,— Dymunir galw eich sylw at y penderfyniad canlynol Ein bod fel Cyfarfod Ysgol- ion Dosbarth Amlwch, perthynol i'r Meth- odistiaid Calfinaidd, yn dymuno galw sylw ein Byrddau Ysgolion trwy y dosbarth at yr arferiad sydd ar gynydd yn mysg plant y cymydogaethau hyn o arfer 4 llwon a rhegfeydd,' ac yn dymuno awgrymu y priodoldeb ar fod Byrddau Ysgolion yn arfer eu hawdurdod gyda'r athrawon, er cael ganddynt hwy daflu eu holl ddylanwad yn erbyn y drwg hwn, gan geryddu y rhai geir yn euog o hono." Darllenwyd yr uchod yn Mwrdd Ysgol Dosbarth Unedig Trewalch- mai, ar yr 20fed cynfisol, ac nid heb effaith boddhaol. Canys achosodd ad- newyddiad o benderfyniad a basiwyd yn Mawrth, 1889, i'r perwyl fod y Beibl i gael ei ddarllen bob boreu am ugain munyd yn holl Ysgolion y Bwrdd, penderfyniad a fuasai er's hir amser yn llythyren fatw. Y foes-wers a ddymunwn ei gwasgu yw hono. Od oes awydd ynom i ddiwygio yr ieuene- tyd, rhaid yw cael amgen disgyblaeth na cheryddu,' rhaid meithrin y plant ag ym- borth ysbrydol, a rhaid eu diodi a llaeth y Gair. Nid digon gyru allan ysbryd celwydd y llwon a rhegfeydd,' rhaid ceisio eu llenwi a doniau yr Ysbryd Glâll. Dymunwn awgrymu i'm brodyr Calfinaidd ar fod iddynt ymryddhau o'r ysbryd ofnog tuag at ddarllen y Beibl yn ddyddiol sydd yn eu meddianu, ao fod iddynt ymdrechu dwyn y plant i sylweddoli bob boreu o newydd mawr ffyddlondeb eu Duw.' Nid heb ymdrech y mabwysiadwyd eu pender- fyniad yn 1889, a drwg genyf ddweyd nad mewn yabryd unfrydol y rhoddwyd y rheol eilwaith mewn grym. A gaf fi hefyd awgrymu i'm cydweinidogion yn yr Efengyl yn mhlith y Methodistiaid Calfinaidd, ar fod i ni ymdrecha gweddio a phregethu Crist nid o gynen, ond o gariad,' gan wybod mai yr un fath bobl ac offeiriaid.Yr eiddoch, &c., Llandrygarn, Mon. D. LLOYD.

TAITH I'R WLAD.

LLITH RASMWS JONES.

CAPEL GARMON.

"Y CYFAILL EGLWYSIG."