Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

.-GWYDDONIAETH.

t. IECHYD AC AFlECHYli £ JJJ'.

HANESION DIFYRUS.

News
Cite
Share

HANESION DIFYRUS. ISHMAEL JONES MEWN DAU GYMERIAD.! Parodd darlleniad o'r deryn difyr a ymddangosodd yn eich newyddiadur clodwiw yr wythnos diweddaf yn nghylch "John Jones, Llanrhywsant, dan gerydd," i mi feddwl a chwilio am straeon ereill o'r un natur ac yn perthyn i'r un cyfnod. Wele i chwi ddau am yr hen gymeriad diniwed Ishmael Jones gynt. Y GUSAN HANER CORON. Pan mewn cyfarfod pregethu yn ac yn aros gyda Mrs P., yr hon oedd yn weddw. ac yn foneddiges anrhydeddus, ac Ishmael Jones, ýntau, y pryd hwnw, yn ddyn ieuanc dibriod, ac yn ddyn mawr yn ngolwg Mrs P., a chan fod y cyfarfod yn gyfarfod casglu at y genhadaetb, daeth Mrs P. a'r blwch cenhadol" heibio i'r gweinidogion ar ol ciniaw. Gosodai pob un swm anrbydeddus ynddo. Yn ddiweddaf oil, daeth at Mr Jones. Addawodd haner coron, ar yr amod iddo gael cnsan gan y foneddiges lie y gwelai y lleill, "Ydych ch'i yn ddifrifol, Mr Jones? Ydwyf, ma'm f'aswn i ddim yn tori jokes a chwi heb feddwl, m'am, am eu cario allan yn respectable." Aeth Mrs P, o'r parlwr, ond yn mhen ychydig, daeth yn ol yn ei dress sidan. "Wel, Mr Jones, peidiwch a bod yn wahanol i'r gweinidogion ereill, dewch a'r haner coron." "Nid oes yma neb fel y fi 'rwan. Mi 'rwydw i am gal w at fy amod." W el, cymerwch gusan bach ar fy moch i." Dim gwerth ma'm o'ch dwy wefus ch'i neu ddim rwan." WeI," ebe hi (efe oedd yn adrodd yn ei ddull ddifrifol ei hun) gofalwch rhag i'ch ffrumpo'm fringes i—cymerwch gusan ynte," Ac mi roddais i gusan iawn iddi 'rwan (meddai); cafodd hithau yr haner coron." ISHMAEL JONES A'R U UDGORN." Ond efallai mai yr hanesyn goreu am Ishmael Jones yw y canlyn:-Pan oedd yr bregethwr lied ieuanc, digwyddai fod am Sabboth gyda'r Methodistiaid. Cynelid yr oedfa y prydnhawn hwnw mewn hen ffermdy. Y nos Sadwrn blaenorol, daeth dau hawker heibio i'r ty hwnw i ofyn am letty dros y Sabboth, ac er fod eu dillad a'u crwyu heb fod dan oruchwyliaeth dwfr a sebon er's cryn dro, eto yn hytrach nag iddynt orfod teithio ar y Sabboth, caniatawyd iddynt eu dymuniad. Hysbyswyd y ddau wr dieithr y cynhelid oedfa yno am ddau o'r gloch, ac y disgwylid i lawer ymgasglu, a chan nad oedd ei hagwedd allanol hwy y fwyaf hapus i fod yn mysg dynion o ddiwyg lan a thaclus, perswadiwyd y ddau i fyned i'r lofft uwchben y He y cynhelid y gwasanaeth-gan fod agenau mawrion yn y loffc, y clywent y cwbl, ac eto heb i neb fod yn ymwybodol o'u presenoldeb, ond iddynt hwy gadw yn ddistaw. Addawsant wneyd hyny. Ac i'r lofft yr awd. Yr oedd gan un o'r ddau gorn yn rhwym wrth ei wisg, yr hwn a berthynai i'w alwedigaetb. Ym- gasglodd y dorf yn ngbyd, a daeth Ishmael Jones yno. Safai y pregethwr ar gadair, yn ol arferiad y dyddiau hyny (yr hyn y mae'n debyg fu'n achos i Brutus lysenwi pregethwyr yn "Jacks Penstol"). Testyn y pregethwr y dydd hwnw oedd "Yr udgorn a gan," &c. Pan oedd efe yn poethi iddi, ac yn adrodd y geiriau Yr udgorn a gan," dywedai y gwr yn y llofft, wrth rr y corn- "Bloedd yn y corn, fachgen!" "Na, gad i ni gael gwrando." Yn mlaen yr ai y pregethwr yn fwy angerddol, a pbob tro yr adroddai y geiriau, "Yr udgorn a gan/' dywedai y llall, Bloedd yn y corn yrwan, fachgen." Na, aros i ni gael clywed rhagor." Ond o'r diwedd, cyrhaeddodd y pregethwr tanllyd y climax a gwaeddai mewn hwyl fendigedig, "Yr udgorn a gan, a waeth gen i da fo'n canu 'rwan, bobol." A chyn fod y geiriau dros enau y pregethwr, yr oedd y gw: du yn y lofft, nad oedd neb yn ymwybodol o'i bresenoldeb, yn rhoddi y floedd fwyaf udgornaidd bosibl, net? oedd pawb wedi eu taro a braw, ac yn dianc allan ar draws eu gilydd am eu bywyd-y pregethwr gyda/r cyntaf! Codai ei lygaid tua'r wybren, plethai ei ddwylaw mewn dychryn, a llefai, Y Bod Mawr, ydi'r byd ar ben GERALD Y CYMRO.

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

Advertising