Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
.-GWYDDONIAETH.
News
Cite
Share
GWYDDONIAETH. I.-lecbyd ac Afiechyd. II.— Marwolaeth: ei achosion. III.-Anian- yddiaeth a phoenyddiaeth. IV.— Meddyginiaeth. 'i':t"
t. IECHYD AC AFlECHYli £ JJJ'.
News
Cite
Share
t. IECHYD AC AFlECHYli £ JJJ Pangreodd Dnw ddynJJ yr oedd yn berffaith. Ond panbechodd,. hauwyd yn ei gyfansoddiad hedyn mawolaeth, sef cyflog ei bechod. ydyw acbosydd holl anhwylderau y cnawd, etifeddiaeth pechod ydyw anned- wyddwch dyn. Afiechyd yr enaid ydyw pechod, ac y mae y corff yn dioddef oddiwrtho. Pan syrthiodd dyn yn Eden collodd rinwedd, ac nid oes feddyginiaeth a'i badfera yn ol, ond yr hon a brynodd y Physygwr Mawr, y Balm hwn a dyn ymaith lygredigaeth yr enaid, ac a wna ei gorff yn un anllygredig ac yna ni bydd galar, na thristwch, na phoen i'r sawl a geisiant y feddyginiaeth hon. Gall un esgeuluso meddyginiaethu ei gorff a cbael adferiad, ond y sawl ni cheisiant y feddyginiaeth i'r enaid a fyddant feirw o farwolaeth dragwyddol. Y mae enaid llygredig yn arwain i bob afiendid a chwantau coifforol, rhagredeg- wyr afiechyd y mae yr hen ddihareb Latinaidd-'Meddwl iach, corff iach,' yn dangos fod yr henafiaid yn deall niai lldwforwyn yr enaid ydyw y corff. Term cydmariaetbol ydyw iechyd. Nid oes yr un dyn nad ydyw wedi dioddef anhwyldod yn ystod rhyw ran o'i fodolaeth, etifedd afiechyd ydyw, a gall ei oddiweddu unrhyw foment. Mewn gwirionedd, nis gallwn alw un dyn yn iach, pan y mae hedyn marwolaeth yn blaguro ynddo. Darfodedigaeth corfforo1 ydyw ein genedigaeth fraint, (os goddefwch yr ymadrodd), a'r munyd y'n genir, yr ydym yn dechreu prysur ymdeithio tua'r bedd. Y mne yn anhawdd rhoddi disgrifiad neu ddeffiniad o iechyd. Os disgrifiwn fel cywirdeb adeiladwaith y corff a pherffaith gyd- gordiad a. chydwethrediad y gwahanol ranau, yr ydym yn rhoddi disgrifiad gwirioneddol ond nid defnyddiol. Y mae iechyd perffaith, fel prydferthwch per- ffaith, yn rbyw fath o gymysgedd o berffeithderau gwahanol ac amtywiol bersonau, ac os ydyw yn bodoli, i ychydig y perthyna. Nis gellir rhoddi disgrifiad cywir o hono, Yn ei ystyr gyffredin edrychir arno fel cyflwr anwadal. Gwahaniaetha mewn gwahanol ber- sonau ar wahanol adegau o'u bywyd. Defnyddir y termau da, per- ffaith, cryf, gwan, a tbyner mewn cy- sylltiad ag iechyd, a dengys hyn y gwa- hanol raddau mewn iechyd. Nis gellir rhoddi safon i iechyd, ond gallwn edrych arno, i bob pwrpas ymarferol, fel y cyfl wr- gwrthwynebol i annhrefn neu afiechyd corfforol. Ond heblaw y gwahaniaethau hyn mewn graddau o iechyd, y mae y gwa- hanol fathau o afiechyd yn amrywio yn gyfatebol i neillduolion allanol y corff, pa rsi a nodant yr afieebyd i ba un y mae yn dueddol. Adnabyddir y gwa- haniaethau hyn wrth yr enw tymheredd. Y m" pedwar math o dymheredd :—(1) Gwaedlawn (sanguine), (2) llysnafol (phlegmatic), (3) bustlaidd (bilious), a (4) gwanaidd (nervous). Nodweddir y ty- mheredd gwaedlawn gan gorff gweddol dew, cnawd caled a theneu, y gwallt yn goch neu goch gwan, llygaid glas, gwyneb coch, gwythienau mawr, curiad y gwaed yn gadarn ae ami, symudiadau sydyn, meddwl ansefydlog, a tHymer gyffrous. Y dymheredd lysnafol a nodweddir gan gorS crwndew, cinawd meddal, gwallt golqu, llygaid glas goleu, llwyd neu lwyd-ddu, cnawd gwelw, gweflau mawr, edrychiad difywyd, cylchrediad y gwaed yn wanaidd ac annuil, symud- iadaa y corff a gweithrediad y meddwl yn fttrwaidd. Bustlaidd. — Llawndra a chaledwch cnawd, edrychiad bywiog, gwallt a llygaid brown neu ddu, pryd tywyll, y gwytbienau yn amlwg, curiad y gwaed yn llawn a chadarn, ac yn weddol gyflym, grymusrwydd cymeriad, gallu goddefol mawr, a ch6f cryf. Gwauaidd.-—Ffurfiad gwan, cyhyrau meddal ac eiddil, gwedd dyner, gwallt goleu, gwyneb llwyd, weithiau yn wrid- goch, gwefusau teneu, llygaid disglaer, curiad y gwaed yn wan, ami, a sydyn, yn hawdd eu cynhyrfu, yn Hawn teiml- adrwydd, eu hysgogiadau corfforol a meddyliol yn fywiog. Y mae iechyd y personau perthynol i hwn yn ami yn wanaidd. Crybwyllir weithiau am y tymheredd isel, ond pertbyna hwn i'r tymheredd bustlaidd. Dynodir hwn trwy dawelwch a phrudd-der meddwl, yn ymlynu wrth argraffiadau, a thueddol i roi ffordd i feddyliau pruddaidd ac amheus. Anaml y cwrddir ag engreifftiau pur o'r tymherau hyn. Yn y mwyafrif o bersonau gellir cael dau neu ychwaneg o'r tymherau hyn, ond fel rheol, y mae un o'r ddau yn goruwch-lywodraethu y corff. Y mae pob un o'r tymherau hyn yn agored i wahanol anhwylderau er engraifft, y gwaedlawn i boethder, gwaedlif; y llysnafol i ddarfodedigaeth, cancr, neu diwmor, a gwaed-dyriad y bustlaidd i ddiffyg treuliad ac iselder ysbryd a'r gwanaidd i annhrefn medd- yliol neu wallgofrwydd. (l'w barliau).
HANESION DIFYRUS.
News
Cite
Share
HANESION DIFYRUS. ISHMAEL JONES MEWN DAU GYMERIAD.! Parodd darlleniad o'r deryn difyr a ymddangosodd yn eich newyddiadur clodwiw yr wythnos diweddaf yn nghylch "John Jones, Llanrhywsant, dan gerydd," i mi feddwl a chwilio am straeon ereill o'r un natur ac yn perthyn i'r un cyfnod. Wele i chwi ddau am yr hen gymeriad diniwed Ishmael Jones gynt. Y GUSAN HANER CORON. Pan mewn cyfarfod pregethu yn ac yn aros gyda Mrs P., yr hon oedd yn weddw. ac yn foneddiges anrhydeddus, ac Ishmael Jones, ýntau, y pryd hwnw, yn ddyn ieuanc dibriod, ac yn ddyn mawr yn ngolwg Mrs P., a chan fod y cyfarfod yn gyfarfod casglu at y genhadaetb, daeth Mrs P. a'r blwch cenhadol" heibio i'r gweinidogion ar ol ciniaw. Gosodai pob un swm anrbydeddus ynddo. Yn ddiweddaf oil, daeth at Mr Jones. Addawodd haner coron, ar yr amod iddo gael cnsan gan y foneddiges lie y gwelai y lleill, "Ydych ch'i yn ddifrifol, Mr Jones? Ydwyf, ma'm f'aswn i ddim yn tori jokes a chwi heb feddwl, m'am, am eu cario allan yn respectable." Aeth Mrs P, o'r parlwr, ond yn mhen ychydig, daeth yn ol yn ei dress sidan. "Wel, Mr Jones, peidiwch a bod yn wahanol i'r gweinidogion ereill, dewch a'r haner coron." "Nid oes yma neb fel y fi 'rwan. Mi 'rwydw i am gal w at fy amod." W el, cymerwch gusan bach ar fy moch i." Dim gwerth ma'm o'ch dwy wefus ch'i neu ddim rwan." WeI," ebe hi (efe oedd yn adrodd yn ei ddull ddifrifol ei hun) gofalwch rhag i'ch ffrumpo'm fringes i—cymerwch gusan ynte," Ac mi roddais i gusan iawn iddi 'rwan (meddai); cafodd hithau yr haner coron." ISHMAEL JONES A'R U UDGORN." Ond efallai mai yr hanesyn goreu am Ishmael Jones yw y canlyn:-Pan oedd yr bregethwr lied ieuanc, digwyddai fod am Sabboth gyda'r Methodistiaid. Cynelid yr oedfa y prydnhawn hwnw mewn hen ffermdy. Y nos Sadwrn blaenorol, daeth dau hawker heibio i'r ty hwnw i ofyn am letty dros y Sabboth, ac er fod eu dillad a'u crwyu heb fod dan oruchwyliaeth dwfr a sebon er's cryn dro, eto yn hytrach nag iddynt orfod teithio ar y Sabboth, caniatawyd iddynt eu dymuniad. Hysbyswyd y ddau wr dieithr y cynhelid oedfa yno am ddau o'r gloch, ac y disgwylid i lawer ymgasglu, a chan nad oedd ei hagwedd allanol hwy y fwyaf hapus i fod yn mysg dynion o ddiwyg lan a thaclus, perswadiwyd y ddau i fyned i'r lofft uwchben y He y cynhelid y gwasanaeth-gan fod agenau mawrion yn y loffc, y clywent y cwbl, ac eto heb i neb fod yn ymwybodol o'u presenoldeb, ond iddynt hwy gadw yn ddistaw. Addawsant wneyd hyny. Ac i'r lofft yr awd. Yr oedd gan un o'r ddau gorn yn rhwym wrth ei wisg, yr hwn a berthynai i'w alwedigaetb. Ym- gasglodd y dorf yn ngbyd, a daeth Ishmael Jones yno. Safai y pregethwr ar gadair, yn ol arferiad y dyddiau hyny (yr hyn y mae'n debyg fu'n achos i Brutus lysenwi pregethwyr yn "Jacks Penstol"). Testyn y pregethwr y dydd hwnw oedd "Yr udgorn a gan," &c. Pan oedd efe yn poethi iddi, ac yn adrodd y geiriau Yr udgorn a gan," dywedai y gwr yn y llofft, wrth rr y corn- "Bloedd yn y corn, fachgen!" "Na, gad i ni gael gwrando." Yn mlaen yr ai y pregethwr yn fwy angerddol, a pbob tro yr adroddai y geiriau, "Yr udgorn a gan/' dywedai y llall, Bloedd yn y corn yrwan, fachgen." Na, aros i ni gael clywed rhagor." Ond o'r diwedd, cyrhaeddodd y pregethwr tanllyd y climax a gwaeddai mewn hwyl fendigedig, "Yr udgorn a gan, a waeth gen i da fo'n canu 'rwan, bobol." A chyn fod y geiriau dros enau y pregethwr, yr oedd y gw: du yn y lofft, nad oedd neb yn ymwybodol o'i bresenoldeb, yn rhoddi y floedd fwyaf udgornaidd bosibl, net? oedd pawb wedi eu taro a braw, ac yn dianc allan ar draws eu gilydd am eu bywyd-y pregethwr gyda/r cyntaf! Codai ei lygaid tua'r wybren, plethai ei ddwylaw mewn dychryn, a llefai, Y Bod Mawr, ydi'r byd ar ben GERALD Y CYMRO.
Marwolaeth a Chladdedigaeth…
News
Cite
Share
Marwolaeth a Chladdedigaeth Mr. Henry Davies, Tanlan, Pencarreg. Drwg genym hysbysu am farwolaeth y gwr da uchod, yr hyn a gymerodd le nos Sul, ar ol cystudd byr ond caled, yn 45 mlwydd oed, gan adael gwraig, merch fechan, a mam oedranus, sef Mrs Davies, Glanrhoca (chwaer y Parch S. Jones, Deon Gwladol, Llangunnor), i alaru ar ei o!. Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent Llanddewibrefi ddydd Gwener, ac yr oedd y dyrfa fawr ddaeth ynghyd i'r angladd yn dangos ei fod yn by nod barchus gan bawb o'i gydnabod. Dywedir mai hon ydoedd yr angladd fwyaf a welwyd erioed yn Llanddewi- breO ac yr oedd yr orymdaith brudd- aidd tua ruilldir a haner o hyd. Heblaw y dorf fawr a gerddai, yr oedd dros gant o gerbydau yn yr orymdaith. Cafwyd gwasanaeth byr yn y ty cyn cychwyn, pryd y gweinyddwyd gan y Parch J. D. Lewis, ficer Pencarreg. Daeth ugeiniau o bob] i gyfarfod yr angladd cyn cyraedd Llanddewibrefi. Gweinyddwyd yn yr eglwys ac wrth y bedd gan y Parch T. R. Davies, ficer Llanddewibrefi, yn cael ei gynorthwyo gan Ficer Pencarreg. Yn ei farwolaeth mae y wlad wedi derbyn colled a deimlir yn hir, gan ei fod oherwydd ei hynawsedd a'i garedigrwydd, yn enwedig tuag at y tlawd, yn hoff gan bawb. Fel gwarcheidwad y tlodion, cyf- rifid ef yn un o'r rhai goreu, ac ymhob cylch arall yr oedd ei rinweddau daionus yn dyfod i'r amlwg. Duw a fendithio ei deulu a'i berthynasau galarus yn eu trallod dwfn, a nerth a gaffont i ddweyd, Dy ewyllys Di a wneler.Cofnodydd.
Advertising
Advertising
Cite
Share
.WILLIAM'S <Q (pontarbawe) WORM IIZENGE3 m AM dros ddeng mlyneiM ar hugaip y xo^e yj Fedflyginiaetih wertfefawr Hon wedi pfo|j yh HwyddjaDt per £ E £ iifch. Y mae yr effaith'gfc Jr blinfc eididii- a -Fan aictd (hyd yn nod Ptth wedi feu rhoddi i iyny yn an^efladwy) ytl wyrthiol. Y mae y pfentyn teiieu, neb d welw a difywyd (trwy gyroeryd y fa cael gwared o*i bl^au poenyddol, ac pi (Jyfod •a gryfi iachbjrwiog. nes y mae yti yififfrisSt yn fie prydar ei warcheidwyf. Syr.Yr wyf aol bath amser'wedi defpyddio eich AnttiUmintie nea w#m Jjo&ttges, fy nheuju, ac yn ea cael yn feddyginiaeth :eage eich AnttiUmintie nea w#m Jjo&ttges, fy nheuju, ac yn ea cael yn feddyginiaeth ac effeithiQl at xiscarines nea thread tvotms, ac mu 0 y mae ei ffirff gyfleus a dymuqol yn eu b cymeradwyo i bknt—W. Hutchinson, Ficer ifowdon.; "I Ar'weffch mewn blychau 9|4, 1§S. 2s. 9c. g^n, rferylllvyr a gv^erAh'^f Patent Medicine, iieq 4™ ^diwkhr-* "J .1;' "lJ:' '1. fl J :Ja6, f ar 4-' A WmfliSfBi MEDNYAs I -i BE IS CH AM' SJ I PILLS j A RE universally JriL admitted to be worth a GUINEA A Box for bilious and nervous disorders, such as wind and pain in the stomach- sick headache, giddi, ness, fulness and swelling after meals, dizziness and drowsi- ness, cold chills, flushings of heat, loss of appetite, shortness of breath, costiveness, scurvy, blotches on the skin, disturbed sleep, frightful dreams, and all nervous and trembling sensations, &o. The first dose will give relief in twenty minutes. Every sufferer is earnestly invited to try one box of these Pills, and they will be acknow-, ledged to be WORTH A GUINEA A BOX, t For Females of all ages these Pills are in. valuable, as a few doges of them carry off all humours, and bring about all that is required. No female should be without them. There is no Medicine to be found equal to Beecham's Pills for removing any obstruction or irregu- larity of the system. If taken according to the directions given with each box, they will soon restore females of all ages to sound and robust health. This baa been proved by thou- sands who have tried them, and found the benefits which are ensured by their use. For a weak stomach,, impaired digestion, and all disorders of the liver, they act like magic, and a few doses will be found to work wond&ra on the most important organs in the human machine. They strengthen the whole muscular system, restore the long lost complexion, bring back the keen edge of appetite, and arouse into action with the rose-bud of health the whole physical energy of the human frame. These are FACTS testified continually by members of all classes of society, and one of the best guarantees to the nervous and debilitated is, BEEGJIAM.'S PILLS have the largest sale of any patent medicine in the world. BEECHAM'S MAGIC COUGH PILLS. remedy for Coughs in general, asthma, jroi. affections, hoarseness, shortness of .)rest kthess aiid oppression of the ohest, vheefz. ay, &p., these Pills stand unrivalledi rhe, ace the best dvjbr offered to the public, and J iP £ ed'*iy remove tfeAt sense of opgressibn' nd difficulty of breathing, which nightly 41- the Pstrient of rest. Lat y 6tL g ,Zlk -MAMS COUG H.1'1D.1\ a trul, aDd he most violent caiugh WiM ih a sftort time be emoved. Prepar^ only, ahd soffl tfi&lesaie md retail, by %e %»prietor, ThoinSs B^ba^i, 36. Heletfs, |a§|we, in fioxfes at) 9|d is. l|d., and 2s. 91. each. Sold by all Druggists and Patent Mediae Dealers everywhere. N.B.-Full directions are given wiMi each 12 pESWOH pESWOH pESWCH PESWCH pESWGH pESWOH pESWCH pESWCEI pESWOH pESWOH pESWOH j fESWCH ESWOH JpESWOH pESWOH pESWOH pESWOH p ESWCH tPESWOB :(' ,¡¡t. ,I ¡,¡. Y FAWii GYMREIG AT ANHWYLDERAU Y FEBST, GWDDF, A'B YSGTFAINT. a. lie,, 2s. 6c., a 48. 60. y botel. Gan bob Druggist. Nid rhaid i Daviess Cough Mixture wrth gaumaliftet h y mae Wedi bod o flaen y cy hoedd er's blynyddau, ac y mae y perchenog, trwy draul a llafur di-ildio, Wedi ei berffeithio yn y fath fudti fel y mae yn cael e i gydnabod fel darganfyddi^d gwerthfaWr at yr anhwylderau utthod. Y mae miloedd lawer i cael iachad, ac yn gwneyd i eu goreu i'w gymhell ar ereill sydd yn dioddef. Ni raid Øfmeryd end UN DOSE er profi ei ddylanwad uniongyrchol YI1 rhydabau y phlegm, yn clirio y llais, yn oyneau ao yn cryfhau y fregt, gan we&h;o pob anwyd a ehrygni yimaitE. Ni raid i neb Offil c^&nia^Qca anwyd .a phe^wch ota.pfoMWfod pobelaid phe o Bams',s Gowtffe Mixture yn y ty. B$.dd ti&b dota yn.fieddyg 4eulu at hoH aimw^iaerpfcy g^i.'df a-r ftedt, OIf; ibydd JDiSivies-s -Cbufli Mixtitre mrik W. U'R WEETH dm BOB DR. RAINS, L.S.A., LOND., yr I can wi<ih the greatest CGhifidetioe as«tt^r those afflicted vitft am irHUme OQSfeb WlNl Davies1 Cough Mferrote is extremely serviceable, giving gfmt xmHQtm*