Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

..... PONTARDULAIS.

LLANDDEUSANT, SIR GAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

LLANDDEUSANT, SIR GAERFYRDDIN. Ar Ddydd Calan, yn Ysgoldy yr Eglwya, rhoddwyd gwledd o de a bara brith i'r plwyfolion yn gyffredinol, gan Mrs Davies, y Persondy, a Miss Lewis (aelod o'r Cynghor Plwyf), Nantgwynne. Edrychir ar Ddydd Calan yn y plwyf hwn, er's. blynyddau, yn ddydd o wyl, difyrweh, a mwynhad, ac y mae yn dyfod yn fwy poblogaidd o flwyddyn i flwyddyn. Eleni yr oedd plant a phobl ieuainc y p'wyf wedi ymgynull yn hynod o gyflavvu a Iluaws 0 ddynion canol oed a ben bobl. Yn ychwanegol at y tê, yr oedd eurafalau a melusion yn cael eu rhanu i bawb cyn gadael y byrddau. Yn yr hwyr, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol yn cael ei wneyd i fyny o adroddiadau, dadlenon, cerddoriaeth, a chystadleuaeth. Llywydd, y Parch. D. J. Davies, ficer. Beirniad, Mr S. Morgan, Glandwr, Gwynfe. Derbyniodd. Miss Lewis a Mrs Davies gymeradwvaeth uchel, pan yn cyflwyno tlysau arian fel gwobrwyon ychwanegol i ddau arweinydd cyd-fuddugol corau y plant mewn eisteddfod a gynhaliwyd yn y plwyf yr wythnos flaenorol. Y ddau arweinydd oeddynt Mr J. Thomas, College, a Mr M. Lewis, Tyrpaen, a darfu i'r ddau gyilwyno diolchgarwch gwresog i'r ddwy foneddiges am eu haelioni, ac i'r gynulleidfa am ddangos y fath deimladau da, ac am roddii iddynt y fath gymeradwyaeth. Rhoddoddt Miss Lewis hefyd lyfrau yn wobrwyon i'r- goreu am areithio yn ddifyfyr ac i'r goreta am dclarllen cerddoriaeth ar y pryd. Enillwyd y blaenaf gan Mr J. Davies, Tymawr, a'r olaf gan Mr M. Lewis, Tyrpaen. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a clafwydcyfarfod hwylus, difyrus, ac ideiladol. Yr oedd yr adrodd yn wir dda, a'r canu yn rhagorol. Ni chlywsom gantorion Llanddeusahfc erioed mewn gwell hwyliau, gan gynwys yr eglwys a dau gapel y Methodistiaid. Ar ddiwedd y cyfarfod, darfu i Mr J. Pritchard, Blai gynyg diolchgarwch i'r ddwy foneddigssi am eu haelioni y flwyddyn hon ato.. Dywedai, Y mae teulu Nantgwynne wedii bod ar y blaeu gyda phob gwaith cla yn, y. plwyf hwn er's cenedlaethau, ac wedh gwneyd mwy i ^ddyrchafu'r plwyf yrit mhob ystyr nag unrhyw deulu arall ya ystod y ganrif hon, ac y mae ya dda genyf weled fod Miss Lewis yn cadw i fyny gymeriad ac anrhydedd y teulu. Y mae Mrs Davies befyd yn meddu ar bob cymwysder, yn 01 ein barn ni, i fod yn wraig i offeiriaid, ac yn gwneyd ei goreu i'w gynorth wyo ac i gynal ei freichiau i fyny." Eiliwyd a chefnogwyd y cynygiad, gan Mr D. Davies, Gwydre, a Mr J Davies, Llwyntew, a phasiwyd ef yn wresog ac unfrydol gan y gynulleidfa. Wrth gydnabod y diolchgarwch, dywedai y Ficer, Yr wyf yn:ddiolchgar i chwilata ddangos y fath deimladau da, ac y mae yn dda genyf weled y fath undeb a chyd- weithrediad yn y plwyf y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd. Gobeithio y jbydd i'r undeb hwn barhau. Sonir weithiau am Gymru Fydd, nis swyddom etc beth a fydd Cymru yn y dyfodol, ond ni a obeithiwn y bydd yn Gymru gyfan ac undebol. Uno brif-ddiffygion Cymru yn bresenol ac yn y gorphenol yw pleidian ac ymraniadau yn wleidyddol a chrefyddol. Ni a obeithiwn y bydd Cymru yn y dyiodol yn rhagori mewn undeb, cyfan- rwydd, a chydweithrediad, a chan obeithio hefyd fod yr wyl flynyddol hon yn foddion i gynyrchu ..optgafe, brawd- garwch, a chydweithrediad' yitif 7 plwyf hwn. Felly dygwyd i derfyniad ddiwrnod wedi ei dreulio yn'hynocl o hapus, a phawb yn ymddangos wrihVea ad ac yn eu hwyliau goreu.

=--_------__-, EaTHTOLAU YE…