Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
Sgafrgstafcatt tUJah. Oyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LlAN A' B DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol ttsiRiAV vswaits txirgwaftb obwit a waits i<»., 20 Is. 28. 38. 30 Is. 6c. 3s. 4s. 6c. 40 2s. 3c. 4s. 6c. 68. 9c. WANTED, after Christmas, CURATE, good > Welshman.—Apply Vicar, RhyI. 93-95 WANTED, female ex-P.T. for Standard I., Infants. Needlework; Welsh; Church; singer. Salary, Y.30.-Apply Vicar, Clynnog, Carnarvon. 95-97 A BILINGUAL OXFORD GRADUATE in Priest's Orders desires a Curacy in the Saint Asaph Dioeese.-AddresB, Clericus, Bod- fari, Trefnant, R.S.O. 90-95 WANTED, Christmas, a Probationary or Certificated MISTRESS for Elerch Mixed SchooL Average, 34. Salary, about £ 60.•—Apply, Rev. A. Williams, Elerch, Glan- dovey, R.S.O. 93-95 CURACY WANTED in the Diocese of St. David's by one who is experienced in parochial work. Advertiser is well recom- mended by good references (under Bishop's sanction).—Deacon, "Llan" Office, Merthyr Tydfil. 92-95 —, TMB. T. WESTLAKE-MORGAN, F.C.C.G., is open to book engagements for Organ Recitals, Festival Services, Dedications of Organs, &c.-For terms (moderate), vacant dates, &c., address 82, Thomas Street, Merthyr Tydfil. 87-114
] Y FYDDIN EGLWYSIG.
] Y FYDDIN EGLWYSIG. Yx ystod yr haner canrif diweddaf y mae y bywyd Eglwysig wedi arddangos dad- blygiadau ag ydynt, a dweyd y lleiàf, yn llawn hynodrwydd mewn llawer ystyr. Nid oes yn hanes ein Heglwys ddiwygiad cyffelyb i'r un a ddygwyd oddiamgylch drwy effeithioldeb yr Oxford Movement. Y mae ein Heglwys dros yr holl fyd wedi teimlo effeithiau grasuslawn y symudiad uchod, ac nid oes plwyf yn Mhrydain Fawr heddyw nad ydyw wedi derbyn rhyw gymaint o les oddiwrth ei ddy- lanwad diwygiadol. Erys Eglwysi hardd teyrnasiad Buddug a llenyddiaeth goeth a dyrchafedig ein duwinyddion yn yr un ¡ cyfnod, ynghyd a llawer arwydd arall o daenelliad yr YSBRYD GLAN, ar ein Heglwys yn brofion diamwys a gwerth- fawr o ddadebriad yr Eglwys Gatholig yn ein hynys i gyflawni y gwaith mawr a f wriedid, iddi ei gwblhau gan ei PHEN HOLLALLUOG. Yn ddiarwybod, efallai, i filoedd o'i charedigion, y mae yr Eglwys wedi esgor | yn y blynyddoedd diweddaf hyn ar j symudiad arall ag sydd yn debyg o i ddylanwadu yn helaeth iawn ar ei safle yn y dyfodol. Yr ydym yn cyfeirio at y J Fyddin Eglwysig. Hawdd genym gredu fod llawer Eglwyswr cadarn a selog perthynol i'r hen drefn yn barod i godi > ei ddwylaw mewn syndod amheuol pan I y clyw am y fath beth a'r Fyddin Eg- I lwysig—The Church Army. Daw i'w J feddwl syniadau cymysglyd am Fyddin yr Iachawdwriaeth-ei gwaith, ei dull o weithio, ei hathrawiaeth, a'i gwanc bythol am arian, heb son dim am unbenaeth babyddol y Cadfridog BOOTH. Rhaid i ni addef ein bod, pan yn anwybodus o'r gwirionedd am y Fyddin Eglwysig, yn gyfranog o deimladau y dosbarth uchod o'n brodyr yn ngwinllan yr Eglwys. Ond y mae adnabyddiaeth dirwyadl o'i chynllun, ei dylanwad, ei gweithgarwch, a'i llwyddiant diamwyel wedi ein cyfnewid i fod. yn llawn eyd- ymdeimlad tuag ati. Yn y gwaith efengylaidd y mae yn ei gar-io ymlaen yn y trefydd mawrion, yn ogystal ag mewn llawer plwyf gwledig, y mae y mudiad wedi profi fod angen y cyfryw beirian- I waith yn nghyfundrefn yr Eglwys. Nid j yn unigy mae iddi i weithio, ond y mae ar yr Eglwys angen am y Fyddin. Gellir rhanu ei gwaith i ddwy ran-y moesol a'r ysbrydol. Cei&ia gael gafael yn ngwehilion cymdeithasol ein gwlad-y meddwyn, y syrthiedig, yr esgymunddyn, —a gesyd hwynt o dan ddylanwadau uwch, mewn cartrefi perthynol iddi ei hun, ac yno ceisia eu dyrchafu i fywyd gwell yn foesol a chrefyddol. A swydd- ogion y Fyddin ar ol y Iluaws a phregethu y newyddion da o lawenydd mawr i'r miloedd hyny yn ein gwlad nad ydynt yn mynychu cynteddau ein Heglwysi. Dengys yr adroddiad diweddaf fod ceiniogau y tlawd yn cael W tafiu ya i gronfa y Fyddin,
Advertising
TTTTTTT H H EEEEEEE T H H E T HHHHHH EBEEE T H H E T H H EEEEEEE AAA LLLL LLLL IIIIII AAA NNN NNN CCCCCCC EEEEEEEEEE EEE AAAA LLLL LLLL IIIIII AAAA NNNN NNN C CCCCCCC EEEEEEEEEEEEE AAAAA LLLL LLLL IIIIII AAAAA NNNNN NNN CCCCCCCCCC EEEE EEEEEEEEE AAAAAA LLLL LLLL IIIIII AAAAAA NNNNNN NNN CCCC CCC EEE AAAAAAA LLLL LLLL IIIIII AAAAAAA NNNNNNN NNN CCCC CCC EEE AAA AAA LLLL LLLL IIIIII AAA AAA NNNNNNNN NNN CCCC EEEEEEEEEE AAA AAA LLLL LLLL IIIIII AAA AAA NNN NNN NNN CCCC EEEEEEEEEE AAAAA AAAAA LLLL LLLL IIIIII AAAAAAAAAA NNN NNN NNN CCCC <~CC EEE AAAAAAAAAAA LLLL LLLL IIIIII AAAAAAAAAAA NNN NNNNNN CCCC CCC EEE AAA AAA LLLLLLLLLLLLLL LLLLLLLLLLLLLL IIIIII AAA AAA NNN NNNNN CCCCCCCCCCC EEEEEEEEEEEEE AAA AAA LLLLLLLLLLLLLL LLLLLLLLLLLLLL IIIIII AAA AAA NNN NNNN CCCCCCCCC EEEEEEEEEEEEE AAA AAA LLLLLLLLLLLLLL LLLLLLLLLLLLLL IIIIII AAA AAA NNN NNN CCCCCCC EEEEE EEEEEE EE CCC L OOO TTTTT H H II EEEEE RRRR SSS A SSS TTT M MA RRRR Y Y SSS TTT CCL 00 T H HUE RRSS ft S S T MM MM AA R R Y Y S S T C L OOT HHIIE RRS ■■ ■■ S T M M M M A A R R Y Y S T C LOOT HHHH II EEE RRRR S KK ST MMMM AAAA RRRR Y ST C L OOTHHIIE RR S ST MMMAARR Y ST CCL 00 THH IIE RRS S II II S S M MA ARHY SS CCC LLLL 000 T H H II EEEEE R R SSS V W SSb M MA A R R Y SSS CARDIFF. ARE SHOWING A LARGE ASSORTMENT OF USEFUL FANCY ARTICLES, SUITABLE FOR CHRISTMAS PRESENTS, AT PRICES SIMPLY ASTONISHING. ARE SHOWING A SPLENDID RANGE OF MEN'S OVERCOATS AND ULS- TER, MADE EQUAL TO BESPOKE, 21s. AND UPWARDS. ARE SHOWING A GRAND SELECTION OF BOYS' CLOTHING AT EXTREME- LY LOW PRICES. g- A SILK TIE GIVEN TO EVERY PURCHASER UP TO AND IN- CLUDING CHRISTMAS EVE. W NEW BRANCH: 31, COMMERCIAL-STREET, NEWPORT. (Exactly opposite Wesley Buildings). 93—107
DILYN Y DADGYSYLLTWYR.
DILYN Y DADGYS- YLLTWYR. Mae yn llawn bryd i'r Eglwys Gymreig ddihuno, dorchi ei llewys, a chydio o ddifrif yn ei gwaith. Amlwg yw fod y gelyn Ymneillduol wedi dyfod o'i dwr arfau, ac yn awr yn rhuo ac yn rhuthio ar y maes, gyda'r bwriad o ladd yr Eglwys a'i hysbeilio o'i meddiauau. Nid yw yn deg iddo gael gwneyd fel y myno. Mae yn ddyledswydd ar feibion y Ffydd i amddiffyn Arch yr Arglwydd a diogelu trysorau cysegr y tadau. Pa fab, yn werth yr enw, na neidia rhwng ei fam a niwed? a pha Eglwyswr egwyddorol ni feiddia, ac ni frysia, i amddiffyn yr Hen Fam, yr hon yw ein mam ni oil ? I'r graddau ag y mae crefydd yn rhagori ar natur, i'r graddau hyny dylai y ffyddloniaid gyd- ymdrechu o blaid y Ffydd. Mae arwyddion yr amserau fel cynifer o udgyrn uchel-sain yn galw i'r maes, a dylai pob esgobaethwr ddynoethi ei arf, a thaflu ymaith y waun. Dewrder, disgybl- aeth, a dyfal-barhad wnant sicrhau faeddiad yr ymosodwyr, fuddugoliaeth y Llan, a ifafr Pen Mawr yr Eglwys. Mae yn ofynol trefnu cyn taro. Mae gwybodaeth i gydfyned a glewder, a thrwy gydgyfarfyddiad a chydweithrediad awdurdod ac ufudd-dod, bydd lln y Llan yn fyddin fawr fuddagoliaethus, ac wedi i f&g y frwydr glirio, gwelir yr Eglwys Gymreig fel tywysoges yn teyrnasu—y gelyn o dan ei throed a choron Duw ar ei phen. Rhoddwn hysbyslen i'w hastudio a'i harferyd gan y rhyfelwyr yn eu brwydr amddiffynol. YR ENWADAU YN ERBYN YR EGLWYS. Tra mae y gwahanol enwadau, yn eu perthynas &'u gilydd, yn ddiarebol am derfysg, Sglwp, Twr Babel, yu un mewn ysbryd, amcan a gwaith. Fel dwy ochr siswrn mae yr Ymneill- duwyr yn enwadol-bob amser yn groes i'w gilydd-a gwylia y gwahanol loaniaid bob maDtais i sodli y naill a'r Jlall. Edrycha loan Gorff yn gilwgus ar loan Brown prin wna loan Wesley sylwi ar un o'r ddau, tra mae y tri yn cyduno i foddi loan Fedyddiwr yn eiledyddfa ei hun. Beth yw hanes ymddygiadau yr enwadau mawr at yr enwadau bach yn y Gogledd ? Onid ail adroddiad o banes Goliath yn diystyru ,Dafydd ? Yn Morganwg mae y 'Baptis' bach wedi tyfu yn gawr mawr, a pha beth yw ei deimlad at y taenellwyr Ymneillduol ? Cylymwch gynffonau ci a cbath, yna ceir gweledigaeth fydd yn atebiad tarawiadol i'r gofyniad. Ond y mae yr Ymneillduwyr, yn eu perthynas elyniaethus a'r Eglwys, yn un, fel wyth o gacwn gwenwynllyd. Yn lie ymladd a u gilydd fel eyd-dylvvyth cynhenllyd, cydunant i gladdu, am gyfnod, yr ben ddialedd teuluol, a chydweithredant i labyddio a llorio y Llan. Mewn gwirionedd, mae y naill enwad mor gAs at y Hall ag ydyw yr holl enwadau at yr Eglwys, ond eu bod yn gosod y cyntaf o'r neilldu am enyd er mwyn liwyddiant yr olaf, gan fod hyny yn fanteisiol i gyfoetho^i Ymneillduaeth a meddianau ysbeiliedig Episcopaliaeth. Undeb rhaff o dywod ydyw—agosrwydd heb anwyldeb. Mwy na hyn, undeb mor-ladron ydyw, cyrff yn cydweithredu, ysgwydd wrth ysgwydd, ond calonau mor bell oddiwrth eu gilydd ag ydyw y dwyrain o'r gorliewin. YSFA AM YR YSBAIL. Gwanc enwadol am gyfoeth Eglwysig yw gwir nchos y gwaeddj afiafaram Ddadgysylltiad. Oni b'ai y 4 tocyns' ni fyddai twrw na therfysg. Yn y cyfarfod Dadgysylltiol a gynhaliwyd yn Mhontypridd, ceisiwyd defnyddio geiriau teg, a obadwyd Dadwaddoliad o'r tu cefn, gyda'r amcan eyfrwys o guddio gwir fwriad yr ym- osodiad. Ond, dyweder a fyner, mae hen ddadl y Dadgysylltwyr fod Dadgysylltiad a Dadwadd- oliad yn annatodol berthynasol a'u gilydd, yn profi mai y gwaddoliadau sydd mewn golwg. Dadgysylltiad yw y portb, a Dadwaddoliad yw yr adeilad. Bwriedir i'r naill i arwain i'r Ilall, fel achos ac effaith. Ceir ambell uri yn dweyd, Torer cysylltiad yr Eglwys A'r Wladwriaeth, a gosoder pob crefydd ar dir cyfartal, a dyna i gyd a ofynwn.' Ond, atebir hwynt yn fuan a ffyrnig gan eraill, 0 nage, rhaid cael Dadwadd- oliad hefyd, canys mae yr arian yn perthyn i bawb fel eu gilydd.' Mae y Dadgysylltwyr wedi cyhoeddi lawer gwaith y defnydd a ddylid wneyd o'r gwaddoliadau, ac onid yw hyny yn profi mai • diwedd y gan yw y geinio; Fel y Mab Afradlon, mae yr Ymneill- duwr politicaidd wedi dweyd wrth y Llywodraeth, I Dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da.' Mae eiddigedd enwadol a'i olwg ar y coffr crefyddol, ac fel torwr tai a'i offer gwna ddefnydd o'r waedd Cydraddoldeb Crefyddol,' i gyraedd y trysor cysegredig. Lol i gyd yw y son am anfanteision ysbrydol yr Eglwys yn herwydd ei chysylltiad i'r Wlad- wriaeth. Amcan y ge'yn yw twyllo yr Eglwys i ymwrthod ag amddiffyniad y gyfraith er mwyn iddo ef gael mantais i wagbau ei llogell hi. Nid yw Ymneillduwyr yn gofalu mwy am burdeb a deTnyddioldeb moesol yr Eglwys nagywinffidel-, iaid di-ras am dduwioldeb yr Independiaid. hut y gwyddom hyn ? Trwy yr hyn ddywed Ym. neillduwyr eu hunain am ddiwygiad presenol yr Eglwys. Onid yw yn ffaith eu bod yn gwneyd pob gwawd o ymdrechion yr esgobion i sefydlu cenadaethau cartrefol yn y Ileoedd newyddion sydd mor ami yn codi yn y gweithfeydd, ac onid ydynt, gydag haerllugrwydd digywilydd, yn ameu cywirdeb y ffeithiau a'r ffigyrau a brofant lwyddiant yr Eglwys ? Mae cynydd anghyff- redin yr Eglwys yn y dyddiau hyn yn creu gwaew ofnadwy yn yr ymysgaroedd Ymneill- duol, ac yn hytrach na chydnabod ei sylwedd- olrwydd, gwadant hyd yn nod y gwirionedd. Mae llwyddiant yr Eglwys yn tori ymaith y tir odditan draed yr ymosodwyr, canys nis gallant ddadleu yn awr fel cynt, fod yr Eglwys yn araf yn ei bauturiaethau crefyddol, gan ei bod yn awr yn llawn bywyd, ac yn helaeth a phoblog- aidd iawn yn ei dylanwad ar y werin. Plwm toddedig ar groen yr Ymneillduwyr yw lluosog- ia.d gorsafoesdd cenhadol yr Eglwys, a dylifiad y bobl i'r temlau byehain newydd. Cofier yr hen ddiareb, Mae ffeithiau yn bethau ystyfnig,' ac ymhlith ffeithiau ystyfnicaf yr oes hon ceir llwyddiant cyffredinol y Llan yn Nghymru. Mor chwerthingar oedd ymddygiad Mr. i Guinness Rogers yn Rhyl yn dweyd, Nid oes dim mor dwyllodrus a ffigyrau, ond ffeithiau; A ydyw y gwahanol enwadau yn alltudio ffeith- iau a ffigyrau o'u Blwyddiaduron ? Beth oedd Ily y cynwysiad cylchlythyr diweddar y Methodist- iaid ond crynhoad o ffeithiau a ffigyrau ? Beth geir yn llythyrau eymauf aol y gwahanol enwad- au bob blwyddyn ond ffigyrau a ffeithiau ? Beth yw hanesiaeth, o'r frawddeg gyntaf hyd yr olaf, ond ffeithiau a ffigyrau ? Ai celwydd yw y cwbl? Gweadid truenus mewn dadleuydd ydyw lij»WQr :ji¡¡a, o Ms anvadadvy lei wrthwynebydd, a dylai wybod nad yw I dirmygu peth yn ei ddileu. Gwna rhifyddeg Eglwysig or-fyw gwawd rhagfarn enwadol, mor wir a bod yr haul llachar yn fflamio yn y neu, ac yzi gyru niwloedd y 1JO i ffoi. Mae yr Eglwys yn Ilwyddo, ond ni wna Ymneillduwyr fod mor foneddigaidd a chydnabod hyny, gan fod angen creu esgusodion dros grabinio am y gwaddoliad. Arian arian arian! yw y pwnc, ac heb os nac onibae, gwna y pleidiau enwadol wadu unrhyw wirionedd er mwyn cydio yn y ceiniogau. Fel Mammon Milton, mae y Dad- gysylltwyr a'u llygaid o hyd ar y trysor melyn. Aur' ydyw arwyddair yr Anghydffurfwyr. CWRDD AM GWRDD. Gan fod y Dadgysylltwyr yn penderfynu cynal cyrddau ymosodol ar hyd y wlad, dylai Eglwyswyr gynal cyrddau amddiffynol yu union ar eu hoi yn yr un Ileoedd. Mae y cynllun gwrthweithiol yn barod wedi ei osod i weith- rediad yn Mhontypridd a Rhyl gyda llwyddiant anarferol. Buom yn bersonol yn y cwrdd a gynhaliwyd yn y lie blaenaf, a gallwn dystio ei fod yn un o'r cyrddau mwyaf ardderchog y cawsom y fraint o fod ynddo erioed. Yr oedd y cynulliad yn y Farchnad/ia fawr yn un ysblen- ydd, yr areithiau a draddudwyd gan Mr. Byron Reed, Mr. Helm, a'r Parch. D. Richards, M.A., Ffestiniog, yn alluog a dylanwadol dros ben, a'r ysbryd a nodweddai y gwrandawyr, yn Hawn tanbeidrwydd crefyddol. Effaith yr oedfa ogon- eddus oedd dymchweliad llwyr castelli awyrol y Dadgysylltwyr, a dilead eu dirmyg digofus fel ysgubiaid aflendid gwywllyd gan afon gref. Yr ydym o'r farn mai camsyniad yw myned i I gyrddau yr ymosodwyr, a'u poeni drwy wrth- areithiau, a'u maglu a gofyniadau celyd, gan fod; hyny yn creu, cynwrf, ac yn tueddu i ddwyn gwarth ar grefydd. Gwell gadael iddynt gael pob tawelwch i ddweyd yr hyn a fynout, ond dylai Eglwyswyr deallgar a dewr fod yuo i wrando yn bwyllog ar bob brawddeg, ac ysgrif- enu i lawr bob ffaith a ffigiwr o bwys. Yn union wedi i'r cyfarfod fyned drosodd, dylai fod gohebiaeth rhwng yr awdurdodau Eglwysig a Chymdeithas Amddiffynol yr Eglwys, er mwyn trefnu eyfarfod amddiffynol i gael ei gynal yn yr un Ile, i'w anerch gan yr areithwyr goreu ellir gael. Myner yn y cyfarfod hwn yr un chwareu teg ag a gafodd y Dadgysylltwyr yn eu cyfarfod bwy. Os mai cewri o Lundain fyddant y siaradwyr, gadawer iddynt gael yr amser iddynt eu hunain; ond os mai cewri Ileol fyddant y dewisolion, rhodder iddynt hwy yr un maes agored. Camsyniad ydyw i wyr lleol siarad llawer, o flaen neu ar ol, cewri cyhoeddedig, oblegid wrth yr olaf y mae y bobl yn disgwyl. Gydag ychydig o eithriadau, dyn- ion dieithr sydd yn cymeryd oreu mown cyfar- fodydd mawr. Cyfyd hyn, nid o ddiffyg gwy- bodaeth, areithyddiaeth, na pharch mewn bon- eddigion lleol, ond o awydd y byd am y dieithr :f'r newydd. Mae dynion lleol yn ddynion di- eithr pan ant o j.artref bydded iddynt felly gosfcrelu eu hyawdledd hyd nes yr [tilt ar daith. Yr ydym yn ysgrifenn oddiar brofiad blynydd- oedd, a'r amcan genym mewn golwg yw sicrhau V cyulluuiau goreu i wneyd y cyfarl'odydd am- ddiffynol yn fuddug(»liaethau gogoneddus. Awgrymwn y priodoldeb i'r Deou Owen a Ficer Ffestiniog fod mewn cynifer o'r cyrddau ag a allant, gan y bydd y galluoedd ymresymiadol ac areifchyddol yn haufodol i ddylauwad tU. Y mae yr elfen ddwy-ieithawg hefyd yn anheb- gorol, gan ei bod yn gleddyf mawr dau- finiog. LLEDAENIAD LLENYDDIAETH. Mae yr ysgrifell gysegredig yn nn o brif arfau yr Ysbryd Glân. Dylai yr Eglwys ofalu yn ar- benig am wasg alluog a phoblogaidd. Dyma un o brif ddirgelion llwyddiant Anghydffurfiaeth. Yn. wir, dyma ddirgelwch llwyddiant pob mud- iad o bwys yn y dyddiau anturiaethus hyn. Y mae unrhyw ddyn neu ddynion fyddont yn ber- chenogion newyddiadur galluog yn brif awdur- dodau yn y cylch lie y cyhoeddir ef. Cyfrwng da neu ddrwg yw newyddiadur talentog, fel y myno y golygydd a'r perchenog. Drwy sicrhau newyddiadur galluog la, chynwysfawr, medr yr Eglwys bob wythnos ddyfod i gyffyrddiad a'r bobl ar eu haelwydydd eu hunain, a'u dysgu yno yn dawel a chariadus yn Y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir.' Eglwyswyr Cymru, goddef- wch air o gyngor :—Deuwch allan yn deilwng o ddynion a duwiolion ymrestrwch dan faner y Ffydd gwisged pawb arfau goleuni; gwyneber ar y gelyn, gan ymddiried yn Nnw. Yna, enillir buddugoliaeth fydd yn destyn can ar orielau y Wynia; wen!
[No title]
Dyma y tooynau,' meddai un oedd newydd ei wneyd yn henadur, wrth ei wraig a'i deulu. Y trydydd dosbarth i Mary a'r plant; yr ail ddosbarth i chwi, fy anwylyd. Fel dyn cy- hoeddus, y mae yn rhaid i mi deithio yn y dosbarth cyntaf.' Pan aethfootman Gwyddelig-yr hwn a gaf- odd le mewn palas boneddwr yn ddiweddar- i mewn i ystafell He yr oedd tlwsgawg {vase) gyda physgod euraidd ynddo, efe a lef- odd,' Wei, dyma y tro cyntaf erioed i j»i w?hd ypocfep j* fpr!'
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. CORNELU MR. LLOYD GEORGE. Y mae'r aelod ieuanc dros Fwrdeisdrefi Arfon mewn cyfyng-gyngor. Ar gyfrif cymwysderau na raid i ni eu henwi yma, efe a ddewiswyd i fyned oddiamgylch i areithio yn erbyn yr Eglwys yn ddiweddar. Nid ryw hawdd iawn ydyw cael gwr ag A.S. ar ol ei enw i wneyd budr-waith pwyllgor Rhyfel y Cyngreirwyr Cymreig, ond yn Mr. George y mae ganddynt wr wedi ei eni i'r gwaith. Nid oes neb yn ail iddo. Yn gyffredin, bydd y cyhuddiadau a ddygir yn erbyn yr Eglwys yn rhy eang i wneyd dim o honynt. Anaml y ceir cyhuddiad pen- dant, un y gellir ei brofi neu ei wrthbrofi. Dy- wedir fod y personiaid yn feddwon ond cymerir mawr ofal rhag enwi un felly. Achwynir eu bod yn gormesu'r Anghydffurfwyr, ac yn arfer dylanwadu yu annhegary tir-feddianwyr; ond os gofynir am un engraifft, gwrthodir hi. Ond weitbiau, bydd ambell wr hyawdl yn syrthio i'r amryfusedd o ddwyn cyhuddiad pen- dant. Felly y gwnaeth Mr. George yn Rhyl y dydd o'r blaen. Cyhuddodd bwyllgor y Gyngres Eglwysig o • wneyd arian trwy werthu diodydd meddwol' ar y tir lie y cynheJid y cyfarfodydd. Ar ran y pwyllgor, gwadodd y Deon hyny yn bendant, a dywedodd nad oedd gair o wir yn y cyhuddiad. Buasai boneddwr yn ystyried hyny yn ben ar y mater, ond nid felly Mr. George. Yn Ninbycb, ail-adroddodd yr un cbwedl gydag ychydig o wahaniaeth. Parodd hyn i Mr. Dixon, cadeirydd pwyllgor ariauol y Gyngres, ysgrifenu i'r newyddiaduron yn hysbysu nad oedd y sail leiaf i eiriau Mr. George, a'u bod yn anwireddus hollol. Ond er hyn oil, rhoddodd Mr. George drydydd adroddiad i'r un enllib yn Mangor yr wythnos ddiweddaf. Weithian, y mae y Deon Owen wedi galw arno naill ai i brofi ei eiriau, neu eu tynu yn ol yn gyfangwbl. Y mae Mr. George mewn cornel, ac nid gormod dweyd nas-ili ddylod allan o hono heb lychwino ei gymeriad. Ami y cyhuddir ein cenedl o fod jyn rhy chwan.tg i osgoi y gwir. Ni a gredwn fod digon o ga dad at y gwir yu nghalon y jCynxro i dynu yr A.S. oddiwrth enw y neb a brofir yu en)g o ddiystyru geirwiredd yn eu dywediadau cyhoeddus. [GWELEDIGAITHAU Y DR. SAUNDERS. Darllenasom erthyglau y Doctor ar Ddefod- aeth gyda chymaint mauyl(ler a ganiata amser. Hysbysir eu bod i ymddangos yn fuan mewn ffurf o bamphled. Barna y Mri. Gee a'i Fab y bydd enw y Dr. Saunders yn ddigon i beri *i lawer ei bryuu, a dyna, yn ddiau, ydyw y rheswm dros gyhoeddi stwff o'r fatli yma mewn un ffordd heblaw ar dudalecau newyddiadur. Byddwn weitbiau yn dweyd fod yn ofynol i ddyn ddeall ei bwnc yn drwyadl. neu fod heb wybod dimyn ei gylch, cyn ysgritenu yn ddouiol arno. Y mae y Dr. Saunders vn ymyln ar feddu yr ail gymhwysder hyn i ysgrifenu ar ddefodaeth yn yr Eglwys. Amlwg ddigon nad yn y gangen hon o wybodaetli yr enillodd efe ei deitl oriieliel. Medda ryw 'grap' ar ei bwnc, chwedl Thomas Bartley, a hwnwyn gynwysedig o'r hyn a ddarllenodd mewn erthyglau o waith hwn ac arall. Braidd y gellir dweyd fod y Dr. yn ei elfen hyd nes y daw i'w ysgrif olaf. Teimla ei draed dano yn hon. Cred fod y rhan helaethaf o brophwydoliaethau yr Hen Desta- mem, a rhanan o Lyfr y Datguddiad, wedi eu hysgiifenu gyda golwg unioutryrchol ar yr Eglwys yn Nghymru. Cyrhaedda bon piuacl ei hyawdledd wrth ddes^rifio yrr Eglwys. Dywed ei bod yn EgJ \Vy lygred.g,' cyfenwa (-i haelodau a'i gwtinidogion yn 'epil yshrydol Harri yr VIII,' ac yn Awgryma nad oes yn ei dysgei ha.eth help i farw' Myu ei bod 'yn gwneyd nnfadwailh,' ac yn liusgo pobl i anau.' Fe welir oddiwrth y prydfertluon llenyddol hyn fod erthyglau y Dr. Saunders yn flasusfwyd o'r fath a fawr hoffa Mr. Gee. Ac, os maddeuer yr yiuadrodd, y mae ynddi ddigan o barddu i foddloni v mwyaf eitnafol. Anaml y bydd dyn yn ysgrifeuu itior o'-lwc-rw a'r I)oc*,or heb reswm cryf, Bu >m vn ceisio darllen rlxwr.g y lliuellau, a ehrodwn eiu bod wedi cael IJawn oymaint yno ag a ga eiu brodyr gwrth-Eglwysig 15 yn ngeiriaif eu Doethawr. FFEITHIAU RHWNG Y LLINELLAU. Nid anhawdd darllen y rhai caulynol :— 1. Mai hollol ofer ceisio lladdyr Eglwys trwv ymosodiadau brwnt ar ei gweini«io^ion. Ofer,' medd y Doctor, disgwyl rhyw lawer oddiwrth eiriau caledion, a dwyn cyhuddiadau trystfawr yn erbyn Hu ei meibion.' &c. Y mae efe ei hun yu awdurdod ar v wedd yma i'r pwnc. Fel rheol, y mae preg,ethwyr mawr y gwahauol enWad¡1U yn rliydd oddiwrth eiriau ciledion a chyhuddiadau trystfawr Gadawant hyny i fan bregeihwyr nad oes sanddyut oiiaith enill sylw y cyhoedd drwy eu doniau a'u gallu- oedd yn y weinidogaeth. Dyma y dosbarth sydd wrth wraidd 0 cynen a chwerwedd yn mhentrefi y wlad. Hynododd y Doctor Saunders ei hunan, modd bynag, drwy wneyd ei hunan yn ben ar y bobi hyn. Bydd yn dda gan lawer wybod, ar ei dystiolaeth eiei hun, na ddarfu i'w ymosodiadau ateb y dyben mewu golwg. Dengys yr erthygl nad ar unwaith y mae gorchfygu hen arfer erhyny, ni ahyderwn weled gwell pethau yn y dyfodol. 2. Fod llwyddiant a chynydd yr Eglwys yn Nghymru yn gyfryw, fel, os caiff lonydd am ychydig eto, bydd wedi enill y wlad. Ym- awydda y Doctor am ei thori ymaith, a'i dryllio cyn idtli fwrw ei ffrwyth yn amser cyn- hauaf.' Felly, nid yw y Doctor yu celu oddi- wrth ei ddarllenwyr fod yr Eglwys yn blod- euo,' a'i ffrwyth 'yn aeddfedu.' Yn wir, sierlia ni, os na wneir pen arni ar lyrder, y bydd iddi droi Cymru i'r un gred a hi ei huuan Beth feddylla Mr. Gee o hyn, tybed ? Onid baich araeth pob Dadgyylltwr ydyw fod yr Eglwys we4i FWYWQI w ar, op aid iaQf wedi, miv ? Ac eto, wele y Doethawr ÐAbertaweyn galwar ei frodyr i edrych ati o ddifrif, onide bydd yr boll wlad wedi ei Heglwyseiddio Paham na wnai ein brodyr gytuno ymlaen Haw parthed eu tystiolaeth ? 3. Er nad yw y Doctor yn dweyd hyny mewij cynifer o eiriau, hawdd darllen rhwng y llinellau mai eiddo y Methodistiaid ydyw dyfodol Cymru. Canys. ar ol gwneyd pen ar 'y gortli- rymydd,' a dinystrio yr anrheithiwr '—wrth y rhai yr ydym i ddeall, yn ol yr esboniwr new- ydd hwn, yr Eglwys—yna fe ysgrifenir enw newydd ar dalcen pob Cymro, a Methodist fydd yr enw hwnw, mae'n debvg. Dyma ddy- muniad calon y Doctor, a chred ei fod yn can fod y weledigaeth hyfryd ar y gorwel pell. Pob croesaw i'n brodyr sugno cymaint o gysur ag a allant o'r dyfodol; digon genym ni ydyw awgrym bendant yr erthygl fod ffeithiau y pre- senol yn darogan llwyddiant perifaith yr Eg- lwys, os na lwyddir drwy rym cyfraitli i atal ei dylanwad. Dyna ryddid crefyddol os mynwch chwi! GWYLIEDYDD y Twa, Nos Lun, Rhagfyr 21,1891.
ESGOB NEWYDD CARLISLE.
ESGOB NEWYDD CARLISLE. Esgob newydd Carlisle ydyw y Gwir Barch- edig John Wareing Bardsley, Esgob Sodor a Manaw.
CADYMGYRCH Y DADSEFYDLWYR.
CADYMGYRCH Y DADSEF- YDLWYR. Os gwir a ddywed y Faner mai dim ond tri chant ar ddeg o bunoedd sydd wedi eu derbyu tnag at gynal cadymgyrch y Dadsefydlwyr, Ily I dengys hyny ond odid fod rhai o'r addewidion a 11 y wnaed yn Mhontypridd wedi eu tynu yn ol.
MARWOLAETH YR ESGOB 1 HAROLD…
MARWOLAETH YR ESGOB 1 HAROLD BROWNE. Boreu ddydd Gwener diweddaf, yn ei bres- wylfod, Shales Bitterene, Hants, bu farw y Gwir Barchedig Ddr. Harold Browne, diweddar Esgob Manchester, ac yn fiaenorol o Ely. Yrn- ddiswyddodd o Esgobaeth Manchester yu niwedd 1890 oherwydd afiechyd, ar ol gwasan- aethu am 17 mlynedd. Cyhoeddodd y prelad ymadawedig amryw lyfrau gwerthfaAvr, ac yr oedd yn ysgolhaig gwych. Efe ydoedd cadeir- ydd y pwyllgor fu yn adolygu cyfieithiad yr Hen Destament.
TANAU DINYSTRIOL YN NGHAERNARFON.
TANAU DINYSTRIOL YN NGHAERNARFON. Boreu dydd Sul diweddaf, dinystriwyd aden ogleddol Coleg Hyfforddiadol Gogledd Cymru yn Nghaernarfon gan dan, yr hwn a barhaodd yn ffyrnig am oriau. Yr oedd y myfyrwyr, fel y bu'r ffawd, wedi ymadael oddiyno y dy..d blaenorol, am eu gwyliau Nadolig. Bernir bod y golled yn ddwy fil o bunau. Cymerodd tan arall le yn yr un dref ac ar yr un dydd. Aeth bwthyn ar dân yn St. Helen's- street, a llosgwyd hen wraig o'r enw Lloyd i farwolaeth.
DYRCHAFIAD I YNAD CYFLOGEDIG…
DYRCHAFIAD I YNAD CYFLOGEDIG CAERDYDD. Bydd yn dda gan y Cymry drwy Gyrnru ben- baladr wybod fod Mr. T. W. Lewis, ynad cyt- logedig Caerdydd, a brawd Syr William Thomas Lewis, wedi cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellydd yn farnwr llys y man-ddyledion yn Nghanolbarth Cymru (Cylchdaith 28), yr hon a waghawyd gan Mr. Beresford, yr hwn sydd wedi derbyn cylchdaith yn Lloegr. Yr achwyniad yn erbyn Mr. Beresford ydoedd ei fod yn rhy anghyfarwydd a'r Gymraeg. Y mae Mr. T. W. Lewis, y barnwr newydd, heblaw bod yn Gymro o waedoliaeth Gymreig, yn medru siarad yr hen iaith auwyl yn rhwydd a dilediaith.
PENODIADAU EGLWYSIG.
PENODIADAU EGLWYSIG. Mewn gwasanaeth arbenig a gynhaliwyd yn Nghapel y Palas, Llandaf, dydd Sadwrn di weddaf, gwnaeth yr Arglwydd Esgob y penod iadau canlynol Parch. J. H. B. Powell i reithoriaeth Llantl hangei-ystern«Llewern. yn Sir Fynwy. Parch. Owen Jones, M.A., i reitlioriaetl Llan&annor, yn Sir Forganwg, ar gyflwynia< Syr Josepii Spearman, Barwnig. Parch. Thomas Reynolds, B.A., i guradiaett St. loan Fedyddiwr, Caerdydd. Parch. Thomas Harries, B.A., i guradiaett Cadoxton-juxta-N eath. Hefyd, rhoddwyd trwyctdedau. darllenwyr lie ygol i Mr. John Howe yn mhlwyf Llandaf, :1 Air. James George yu mhlwyf St. Paul. Cas- newydd.
PWYLLGOR Y SLIDING SCALE.
PWYLLGOR Y SLIDING SCALE. Dydd Llun diweddaf, cyfarfu cynrychiolwyr y ineistri a'r gweithwyr yu Nghaerdydd er mwyn diwygio y Raddfa Lithrol bresenoi. Y mae Mr. Lewis Miles, ysgrifenydd ymdrechgar cyurychioiwyr y gweithwyr, wedi gwneyd yr adroddiad caulynol :— Gan fod y gweithwyr yn awyddus ddisgwyl amlywed rhywbetil oddiwrthym, fel cynrych- iolwyr, ynglvu a'r mater hWD, credwa mai ein dyladwy ddyledswydd ydyw eu hysbysu am ein sefyllfa. Tybir yn gyffredin gan aroryw weith- wyr n. r cyhoedd yn gyffedinol mai yr unig beth v dadlt-uir o'i blegid ydyw pwnc y glo man. Dymnnwn eich hysbysu nad felly y mae yn tii^wydd bod, oblegid gallwn serban wrthych fod amryw gynygiadau wedi en .gwDsvd gan y mei.-tri, a olygant gryn gyfuewidiadau a gostyng- iadan Yn oi yr adroddiad yun., rhaid i'r gweithwyr beidio disgwyl gormod oddiar y ineistri.
[No title]
Aeth dyn un tro at y deintydd i gael tynu un o'i ddanedd a phan oedd o dan yr oruchwyl- iaetli, bu raid i'r deintydd ddweyd wrtho:—'Na, na ni raid i chwi agor eilJh ceg mor llydan, syr canys yr wyf fi yu sefyll oddiallan.' Nid oes dim mor arswydns gan fecligyn yn yr I ysgol na chael eu cosbi drwy eistedd rhwug dwy eoeth. Ah! yr hyn ydyw nerthaddysg Mewn blynyddoedd dyfodol, gwnant ymostwug i'r fath bethau heb ollwng dagrau Dywedodd arweinydd Gwyddelig wrth y Dr. James Johnson—yr hwn a ewyliysiai wybod y rheswm paham yr oedd atltsitin bob amser o-l- rhyw fenywaidd —' Digon tebyg mai oherwyd ei bod bob amser wedi cael y gair diweddaf!' Fe ddywedir am hen chwaer yn Sir Lacka- wanna, Pa., fod ei bugail yn ceisio ei chysuro ar achlysur gofidus ei ymadawiad trwy ei sicrhau y 'byddai i'r Arglwydd anfon iddi fugaii gwell yn ei le ef. 'Na, na,'meddai yr hen santes wyiofus I yr wyf wedi gweled deuddeg o weinidogio i newyddion yn dyfod i'r eglwys yma, ac u. gwaeth na'r 'uu plaeoorol oedd yn dyfod bgt> tQ;
] Y FYDDIN EGLWYSIG.
I tra y mae y cynorthwy a dderbynir oddi- wrth y cyfoethog ymhell o'r hyn y dylai fod. Oddiwrth y dosbarth olaf derbynir yn flynyddol tua chwe' mil o bunau tuag at dreuliau y Fyddin ond ar y llaw arall, cyfrana y tlawd dros £ 14,000 i ddwyn y gwaith da ymlaen. "Nid an- nyddorol fydd y daflen ganlynol (yn yr hon y rhoddwn grynodeb o lafur y Fyddin) i'n darllenwyr. Cynhelir yn flynyddol 40,000 o gyfarfodydd yn yr awyr agored 50,000 o wasanaethau mewn ystafelloedd eenhadol myn- ychir y rhai hyn gan saith miliwn o wrandawyr; conffirmir ar gyfartaledd 6,000; y mae 12,000 o'r aelodau yn gymunwyr cyson, ac yn siaradwyr gostyngedig yn nghyfarfodydd y Fyddin ac ar yr adeg bresenol y mae 1,000 o'r aelodau yn ymbarotoi gogyfer ag arddodiad dwylaw. Nifer y swydd- ogion ydyw 170, ac y mae 50 Mission Nurses yn llafurio gyda'r rhai hyn yn y gwaith o adenill y syrthiedig. Telir dros 400,000 o ymweliadau, a threulir 100,000 o oriau yn nghyflawniad y gwaith. Gwerthir yn agos i 3,000,000 o rifynau 0 newyddiadur dimai y Fyddin, a chyf- rifir fod y cynorthwy rhad a roddir gan ysgrifenyddion mygedol ac eraill yn gyf- artal i Y,1,400 y flwyddyn. Y mae yr uchod yn dangos yn eglur fod y gwaith yn fawr, ac yn teilyngu cydymdeimlad pob Eglwyswr. Nid oes angen i neb fod yn amheus o barthed i ffyddlondeb y Fyddin, ei chynllun, a'i haddysg i'r drefn Eglwysig. Gallwn sicrhau ein darllenwyr fod y gofal mwyaf yn cael ei fabwysiadu yn y cyfeiriad hwn. Y per- ygl mwyaf ydyw i'n harweinwyr greu gagendor rhwng y Fyddin a'u hunain drwy gadw draw. Byddai yn dda genym weled adran Gymreig wedi ei sef- ydlu, a phedwar Esgob yr hen wlad yn ben ar y mudiad. Hyderwn gael seibiant a chyfleustra cyn bo hit i ddychwelyd at y pwnc sydd ger ein bron, ac i daflu goleuni pellach ar gynllun, trefn, a dyg- iad ymlaen y Fyddin Eglwysig. Yn y cyfamser, nis gallwn lai na thystiolaethu oddiar brofiacl fod y Fyddin yn gynorth- wy gwerthfawr i'r Eglwys yn y cyfnod presenol, a'i bod, o dan fendith Duw, yn sicr o droi yn adgyfnerthiad bendigedig iddi yn ei hymdrechion i ddwyn dynion i wybodaeth o'r gwirionedd. --+-