Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

Yn y Gwallgofdy ! ;

News
Cite
Share

Yn y Gwallgofdy SYNIADAU AC ARFERION RHYFEDD Y GWALLGOFIAID. 4 Daw'r meddyg yma'n union, syr. Byddwch garediced a chymeryd cadair.' Cymerais fy eisteddle yn falchus ddigon, oblegid yn y dyddiau hyn, pan y mae cystadl- euaethau mor finiog, y mae yn amheuthyn i gael unrhyw beth neu rywbeth am ddim. Wrth eistedd, aethum i dymer fyfyriol, a dechreuais feddwl ai gwallgofddyn, tybed, oedd y dyn ag oedd wedi dangos i mi y ffordd i mewn, a pha le yr oedd y gwallgofiaid ereill yn digwydd bod, oblegid fel yr oeddwn yn ceisio dyddanu fy hun wrth ddarllen yn Ngwallgofdy Huxton, gwydd- wn yn eithaf da fod yma dros dri chant o wall- gofiaid yn ymlercan o gwmpas yr adeilad. Barnwn fy mod yn y cyfarch-ystafell, ond o'r braidd yr oedd hyny y n gywir, oblegid ymhen tipyn darganfyddais mai yn ystafell breifat y meddyg yr oeddwn, ac yn union daeth ataf, gan roddi i mi groesaw calonog. Beth sydd arnoch ei eisiau ? neu yn hytrach, beth fedraf ei wneuthur i chwi ?' gofynai. 'Tybiaf, syr, nas medrwch wneyd yn well na dangos i mi y padded-room. Ond i fod yo ddifrifol drwy y cwbl, dyna sydd arnaf eisiau wybod, sut yr ydych chwi yn pasio y Nadolig yma? Beth y mae eich cleifion yn ei wnea- tliur ? Pa ddyddordeb y maent yn gymeryd yn y tymor enwog hwn o ewyllys da, a sut yr ydych yn llwyddo i'w difyru ? Peadrymodd y meddyg am funyd, ac yna dywedodd, 1 Yr ydych wedi gofyn peth i mi, a'r ffordd oreu y medraf eich ateb ydyw myned a chwi o gylch yr ystafelloedd, a dangos i chwi y cleifion, ac i esbonio i chwi pa fodd yr ydym yn difyru yr amryvviol ddosraniadau, pob un mewn ffordd wahiaol. Do dwell eich het ar eich pen, ac af i gyrchu fy allweddau.' Orwydrasom allan i fath o neuadd, a gadaw- odd y meddyg fi wrthyf fy hun gyda dyn tal, yr hwn a safai wrth yr hat-rack, gan lygadn arnaf ya y modd mwyaf ffyrnig a mileinig. A dweyd y gwir, yr oedd ei drem yn gyru cryd i lawr asgwra fy nghefn, ae yn peri fod rhyw oerder ya tramwJ drwy fy ngwaed, o'm coryn i'm gwadaau, ac yr oeddwn yn llygadrythu yn f tiiwl ar stondin y gwlawleni, er gweled a oedd yno rywbeth y medrwn ymaflyd ynddo i amddi- ifyn fy hun mewn taro. Yr oeddwn yn crynu i gyd droswyf erbyn i fy arweinydd ddyfod ynol, a dywedais, 'I ba beth y gadawsoch fi gyda gwallgof- ddyn ?' Wrth fy nghlywed yn gofyn, chwarddodd yn iaohus, gan ddywedyd, Fy ngwas preifat i oedd hwa yna, ac y mae cm galled dyn ag y medrwch ei gwrddyd mewn taith diwrnod.' 0 breswylfod preifat y meddyg aethom i mewn i gyntedd, ac yn y man yr oeddym yn sefyll tu allan i fur uchel, yn ochr yr hwn yr oedd drws bychan, yr hwn oedd wedi ei folltio a'i gloi yn gadara. Agorodd y meddyg y drws a'i allwedd, ac yno yr oeddwn wyneb yn wyneb ag again o'r menywod gwallgof, ac felly cefais wybod beth oedd sefyll am y tro cyntaf yn mhresenoldeb arswydoliaeth dychrynllyd gwall- gofdy. Yr oedd yno hen fenywod a merched ieuainc, rhai yn anafusion, a rhai yn gryfion, rhai yn hollol ddisynwyr, rhai yn hardd a rhai yn hagr ac yr oedd bod yn nghanol y fath arswydoliaethau yn ddychrynllyd, a bu'm am beth amser yn methu yswyd ymaith y teimlad ofnus oedd wedi ymgripio drostwyf, a theimlo yn ddigon gwrol i ddilyn y meddyg. Dyma, ward y tlodion plwyfol,' meddai, ac y mae yr holl gleifion sydd yma wedi cael eu danfon yma gan y plwyf. Edrychwch ar yr hen wreigan yna. Hi ddywed wrthych nad yw wedi cael tamaid i'w fwyta am chwe' mis, ac nid oes un gallu ar y ddaear a'i cymhella i gredu y gwna unrhyw beth a gymera mewn ffordd o fwyd fymryn o Ms iddi. Y mae y rhan fwyaf sydd yma yn ddeiliaid hudoliaethau o'r fath, ond ag eithrio hyn, y maent yn bur ddiniwed ac yn awr, ar amser y gwyliau, mwynhant i'r eithaf y difyriaethau a ddarparwn ar eu cyfer. Addurnir yr ystafelloedd hyn yn ddestlas, a gwna yr hen bobl fynychu y gyngherdd a ddarpara ein gwallgofion cerdd- orol iddynt. Ar ddydd Nadolig cant gymaint o gig eidion rhostiedig ag y dymunant ei fwyta, a bydd yna plum puddings enfawr, a digonol- rwydd o ddanteithion eraill. Yn ystod yr wythnos, dichon y rhoddwn amatuer dramatic performances, ac y mae y ffurf yna o ddilyr- wch yn un a werthfawrogir yn fawr iawn, er ein bod, wrth gwrs, yn disgwyl tipyn o gleber mewn ffordd o gymeradwyaeth ar y perfform- iadau, ac yn fynyoh rhaid i'r mammaethod arwain allan un o'r oleiflon ag y byddo ei theim- Iadau wedi myned yn dreoh na hi.' 0 ward y tlodion plwyfol, aethnm i ward y cleifion y telir am eu cadw yn y sefydliad, ac yn hon yr oedd rhai golygfeydd difrifol dros ben. Nid oeddwn bron wedi bod yn yr ystafell fanydyn (a dyna ystafell gymfforddus ydoedd hi hefyd, wedi ei dodrefnu yh y modd pryd- ferthaf a mwyaf celfydd, a dau dan disglaer a chysurus yr olwg arnynt yn gwresogi y lie), cyn bod hen foneddiges, gyda gwallt gwyn fel yr eira, a gwyneb swynol, yn fy motymu gerfydd fy ugh6t, gan ddywedyd- Ydi o'n wir fod gan Dywysog Cymru fab o'r enw Princess Louise ? 'Nawr, peidiwch chwi a gwadu y peth. Mae yn d'od yma am dri o'r gloch, ao yr wyf ftnau yn myned yn ol gydag ef. Tri o'r gloch, oonwoh. Doctor, 'nawr beth yw hi o'r gloch Tra yr oedd yr hen foneddiges yn siarad a mi, yr oedd yna udiadau aflafar eraill yn yr ystafell hono. Yr oedd yno un ferch ieuanc, tua deuaaw oed, yn dawnsio yn wallgofus, ac yn canu am rywun, yr hon oedd yn cael ei dilyn gan nurse, rhag iddi syrthio a chael dolur. Cawsom ar ddeall fod y ferch ieuanc, druan, wedi bod yn gantores gyhoeddus, a bod ei hymenydd wedi rhoi ffordd yn sydyn, oblegid iddi orfod canu mewn chwech o operas dilynol yu yr un wythnos. Eisteddai un hen wraig yn siglo ei hun wrth y tan, gan ochain ac ysgwyd o'r naill ochr i'r Hall yn berffaith ddisylw o bob peth o'i chylch Yr oedd hi yn cael ei hystyried yn rhy ddrwg ei chyflwr i estyn y gobaith lleiaf am ei gwellhad. Un arall a ddaeth ataf, ac a ddywedodd, I Fy eiddo i ydyw y lie hwn i gyd, ac ni fynaf gael fy ysbeilio o bono.' Yr oedd yna hen wraig arall yn gorwedd i lawr, ac yn map y/m doU} ju mimjt OS "t I 'r"Il g y gallech dybied ei bod yn gwneyd pan yn jlentyn. Yr oedd yno ddoll arall wrth ei lesmwytfainc, a phan y'm gwelodd i, dywed- )dd Ah, mae nhw yn bar fine, syr ond y mae gan y bachgen ddolur gwddf heddyw, ac felly yr wyf yn rhwym o roddi rhywbeih dros ei enau a'i gadw yn gynes. 'R'ych yn gweled fy mod i wedi rhoi y watch yma iddo i chwareu a hi, ond ni feiddiaf adael iddo ei chael yn hir, oblegid y mae yn ei thori mor enbyd. Ah, mae nhw'n barfine, ac y maent yn tyfu yn gyflym.' Yr oedd rhai o'r cleifion yn orhain, rhai yn canu, rhai yn plethu eu gwallt, ao eraill yn dal i ymddiddan ag ymwelwyr dychymygol. Yn yr ystafell nesaf, cefais fy nghyffroi yn fawr, oblegid yn y man, teimlais fy hun yn cael fy nghrafangu wrth fy ysgwyddau, a Ilais garw yn gwaeddi yn fy nghlast 'Halloa, y mae arnaf dy eisieu. Dere'n mlaen yma. Mi wn pwy ydwyt. Ti yw Alfred Lyttleton; yr wyf wedi ymgodymu a thi lawer gwaith.' Edrychais o gwmpas, a gwelais fy mod yn ngafael dyn gwallgof oddeutu chwe' troedfedd a phedair modfedd o daldra. Yr oedd ei grys wedi ei dori yn yfflon, a gwisgai got garpiog am ei gefn ond yr oedd trem ei lygaid yn ar- swydus, ac yn fy mrawychu yn ddirfawr. Modd bynag, yr oedd y meddyg wedi ei weled, a chan ymaflyd ynddo gerfydd bwtwm ei got, arweiniodd ef ymaith, a dechreuais inau anadlu fel arfer. Darfu i ddyn ieuanc arall, yr hwn a ddaeth i fyny atafi ysgwyd llaw, siarad it mi yn y modd mwyaf synwyrol, a chefais ar ddeall ei fod ef yn un o'r cerddorion sydd yn rhoddi cyngherdd i'w gydwallgofiaid ar adeg y Nadolig. Cbwareuai y crwth, a siaradai yn bwyllog a synwyrol am gerddoriaeth, ac nid oedd dim ond filackiad gwallgofus- ei lygaid yn awr ac eilwaith yn bradychu y secret ofnadwy. Yr oedd yna amryw eraill o wallgofiaid bygythiol yr olwg arnynt ya cerdded o gwmpas yn y ward hon. Gan un creadur yr oedd llafn o ddur, a chyda mynawyd yr oedd A'i holl egni yn ceisio tori ymaith y darn o hono. Dyn oedd hwn oedd ag oedd eisiau diwygio y byd. Edrychai arnaf o dan ei aelian mewn modd hynod o ddigllawn, ac ni fynaswn gael fy ngadael ar ben fy hunan yn yr ystafell gydag ef am ugain, na, dim am bum' gwaith ugain punt. Yn yr ystafell hono yr oedd golygfa bur ysmala yn myned yn mlaen. Yr oedd un gwallgofddyn gyda darn o linyn, mewn modd difyr-ddwys, yn mesur gwallgofddyn arall am bAr o ddillad; ac wedi i'r gwallgofddyn gael ei fesur, daliai i ddweyd mewn goslef uchel, ffyrnig, fod y try wser yn rhy Jdyn yn y gwddf, ac fod arno eisiau poced yn lining ei goler. Pan welodd y teiliwr gwallgofus fi, llamodd ataf, ac mewn llai na munyd, yr oedd yn fy mesur am got a gwasgot. Un flwyddyn, cafodd fancy dress ball ei rhoddi yn y gwallgofdy, a throdd allan yn llwyddiant anarferol. Ymgynullodd dros 80 o wallgofiaid mewn fancy dresses yn y ddawns- ystafell, lie yr oedd yr ymwelwyr wedi ymdyru ynghyd, a dawnstasant hyd bedwar o'r gloch y boreu. Dywedodd y meddyg wrthyf eu bod wedi ymddwyn yn ardderchog. Yr oedd yn olygfa ddymunol a siriol, fel pe yn galw i'w cof ddyddiau dedwydd gynt, ac nid oedd dim ond chwertbiniad a llonder yn nodweddu yr olygfa. Y mae yn eithaf gwir fod yna yn awr ac yn y man ambell un yn tori allan i chwerthin yn wallgofus, ond buan y cafrai ei arwain ymaith gan fammaeth. Cyfeiriasom at y band sydd o gymaint gwas- anaeth yn Hoxton House. Y mae y band hwn yn rhoddi amryw gyngherddau yn adeg y Nad- olig, ac y mae yn cael ei wneuthur i fyny o 40 o berfformwyr y gwir yw, y mae yn gerddorfa gyflawn. Mae y dynion yn cymeryd y dyddordeb mwyaf bywiog yn eu gwaith, a pheth pur an- arferol ydyw i chwareuydd gychwyn chwythu ton ar ei gyfrif ei hun. Yn hytrach, y mae gwaith celfydd yn cael ei wneyd gan y cerddor- ion hyn, ac y mae y cyngherddau a roddir gan- ddynt yn wir fwynhaol.

LLANDAF.

TY DDEWI.

BANGOR.

Esgob Llandaf a'r Methodistiaid…

Church Choir Guild (GUILD…

YSTRADYFODWG.

PENISA'RWAEN.

DOLWYDDELEN.

DOWLAIS.

GELLIGAER.

TREFDRAETH, BODORGAN.

BARGOED, GELLIGAER.

.LLANAFAN.

[No title]

CWMAMMAN (SIR GAERFYRDDIN).