Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Tair Penod o Hanes Caradog.
[COPYRIGHT.] Tair Penod o Hanes Caradog. YR AIL BENOD. Parodd dygwyddiadau y benod gyntaf gryn dipyn o grechwen a siarad digrif yn y gwestty a'r dref. Aeth golygydd un papyr lleol, wrth adolygu gwahanol nod- weddion yr achos, mor bell a dweyd bod ynddo elfenau i wneyd un o'r nofelau mwyaf chwerthinus a chyffrous a ddar- llenwyd erioed. Am danaf fy hun, yr oedd rhan fenyw- aidd poblogaeth y dref yn arbenig yn edrych i fyny ataf yn awr fel pe bawn yn rhyw arwr digymhar, ac nid oedd odid na dawns nac unrhyw gyfarfod llawen yn cymeryd lie o fewn cylch o chwe' milldir a haner i'm Hetty nad oeddwn yn ddieithriad yn cael fy ngwahodd iddynt. Aeth rhai pobl mor eithafol a'm galw yn Caractacus the Good! Clywais fod tad a brawd y llanees a gafwyd yn fy ystafell yn coleddu syn- iadau hollol i'r gwrthwyneb am danaf. Melldithient fi a'u holl egni, am feiddio 6honof ddrwgdybio a gwaradwyddo pobl mor ddiniwed (?). Hyd yn nod bygyth- ient dalu y pwyth i mi gynted y eawseiit gyfle. Ond ni lwyddodd eu melldithion na'n bygythion i darfu Caradog o'r ardal. Yn mhen tua mis ar ol prawf y ddynes grybwylledig, cymerwyd ei thad a'i brawd diniwed, fel y galwent eu hunain, i'r ddalfa ar y cyhuddiad o ladrad, a'r can- lyniad ydoedd iddynt gael eu symud i garchar y sir i dderbyn eu gwobr. Pa fodd bynag, ar Noswyl y Nadolig, cefais y pleser o gael fy ngwahodd i dreulio ychydig amser mewn cyfarfod o ddynion a merched ieuainc heb fod yn nebpell o'r gwestty. Perthynent oil i deuluoedd parchus yn y dref, a chefais groesaw a difyrwch anarferol yn eu plith. Ond oddeutu deuddeg o'r gloch, y noson ho no, pan ar ganol y ddawns ddiweddaf, dygwyddodd rhywbeth a barodd i'm llawenydd ddiflanu. fel drychiolaetb, ac i'm gwaed agos rhewi yn fy ngwythienau. Yr oedd yr ystafell yn mha un y cy- merai y ddawns le mewn ystryd cyd- marol ddystaw, tua ehan' llath oddiwrth brif heol y dref. Gwynebai un o ffenestri yr ystafell i ardd fechan amgauedig tu ol i'r adeilad. Yn y ffenestr hono y gwelais yr hyn a barodd y fath gyfnewidiad yn fy ysbryd nawsaidd. Tynodd rhywbeth fy sylw at y ifenestr, ac er fy syndod, dyna lle yr oedd tri o wyneba.u ellyllaidd yr olwg i'w canfod. Yr oeddwn bron yn sicr mai gwyneb y llanees a gefais yn yinguddio o dan fy ngwely tua chwe' mis cyn hyny ydoedd un ohonynt, canys ni welais erioed, fel y dywedais o'r blaen, wyneb mwy hyll. Nis gallwn adnabod y ddau wyneb arall oedd ar y de a'r aswy iddi, ond deallais yn hawdd mai dau wry w oedd gyda hi. Daliais un o'r tri- nis gallwn ddweyd yn sicr pa un ohonynt -yn pwyntio a bys tuag ataf, ac yna collais olwg arnynt yn ebrwydd. Sylwodd y cwmni llawen oedd yn yr ystafell fy mod wedi tristau yn hynod o sydyn, a dechreuasant ymholi yn dyner yr achos fy mod i felly. Ond celais wir achos fy ysbryd aflawen ar y pryd drwy ddweyd fy mod yn teimlo yn anhwylus, a bu dau o'r dynion ieuainc mor garedig a dyfod gyda mi hyd at ddrws y gwestty lie yr oedd fy Hetty. Yr oedd cloc mawr y dref yn taro un -0'1' gloch, boreu Nad- olig, pan y cyrhaeddais y gwestty, ac y dymunodd fy nau gydymaith noswaith dda ac adferiad buan i mi yn wresog. Yr oedd gwr a gwraig garedig y gwestty heb fyned i'r gwely, ac ymddangosent yn bryderus iawn. Meddyliais fod eu merch anwyl wedi cael ei tharo yn anarferol o sal, a gofynais iddynt beth oedd yr achos eu bod yn edrych mor annedwydd, yn enwedig ar yr adeg fwyaf llawen o'r flwyddyn. Pryderu yr oeddem," ebe y gwestty- wr, "am danoch chwi, oblegyd clywsom heno fod tad a brawd y ddynes hono a ganfuasoch yn eich ystafell wely, tua chwe' mis yn ol, wedi eu rhyddhau o'r carchar. Da chwi, byddwch wyliadwrus rhagddvnt." Peidiwch a phryderu dim o'm plegyd i," ebe ft wrthynt, gan gelu y ffaith fy mod i newydd weled y ddynes a'r ddau ddyn y soniwyd am danynt, canys nid oeddwn am beri ychwaneg o anesmwyth. der meddwl iddynt yn fy nghylch. Aethum i'r gwely y boreu hwnw tua chwarter wedi dau, ond nid oedd nemawr hwyl ynof i gysgu, gan mor ddiwyd yr oedd fy meddyliau. Tarawodd cloc mawr y dref dri o'r gloch, a chyda hyny clywais y grisiau yn crecian o dan bwysau rhywun neu rywrai. Crwydrodd fy meddwl yn ol yn awr i'r adeg y cafwyd y Ilances o dan fy ngwely, gan ddychwelyd yn chwimwth at y gwynebau hyllion oeddwn newydd weled. Yn sydyn, clywais ddrws fy ystafell yn cael ei ddadgloi a'i agor, a rhywrai yn crepian i fewn yn lladradaidd gan ym- balfalu yn y tywyllwch. Yr oeddwn wedi diffodd goleu y nwy cyn myned i orphwys, yr hyn nad oeddwn yn ei wneyd ond tra anfynych. I'r lloer yn unig yr oeddwn yn ddyledus am yr ychydig oleu pwl a ddeuai drwy y ffenestr gyferbyn a'r gwely. Rhaid cyfaddef fy mod, ar y pryd hwn, yn rhy ddychrynedig i wneyd un math o ymdrech i amddiffyn fy hun a'm heiddo. Ond ymdrechais yn galed a chydag anhawsder mawr i gau Ty llygaid ac edrych fel dyn yn cysgu yn drwm, gan obeithio yr ymfoddlonai y dyhirod ar yr ysbail yn unig ac yr achubent fy einioes. Ond gyda'm bod yn brydio felly, clywais curtains y gwely yn cael eu gwahanu, a rhywun yn anadln uwch fy Qfld ni apj fy llyg&i4 fr gweled pwy ydoedd. Yna, torwyd y dystawrwydd anoddefol o bruddaidd gan lais henafwr, yr hwn, a barnu oddiwrth y swn, oedd yn nghongl bellaf yr ystafell yn chwilio am a chrynhoi ysbail. Make haste, if you mean to do it, my dear boy, and not keep him waiting there all night," ebe perchenog y llais crybwylledig. "You greedy old fool," esgyrnygai y dyhiryn oedd wrth erchwyn fy ngwely, "what has become of the knife? I thought I bad it Hush my boy, don't lose your good temper. Now I remember—we left it on the kitchen table after helping ourselves with that stunning ham and those cheese- cakes but won't this revolver do for him, my dear boy ?" "Yes, a pretty thing-fire, kick up a row, and be scragged for it-that would pay nicely. Fetch the knife at once, you drunken old fool, and have no more jaw, or we shall wake this Caractacus the Good, instead of sending him up quietly to spend his Christmas in heaven with- out any invitation." All right, my dear boy but don't be so harsh." Yna, clywais yr henafgwr yn cerdded yn araf ac yn ddystaw at ddrws yr ystafell, gan ei agor a myned i lawr y grisiau. Ni ddichon neb meidrol amgyffred fy nheimladau yn y cyfwng ofnadwy hwn ond y sawl sydd wedi dygwydd bod yn y cyffelyb sefyllfa. Yr oedd geiriau y ddau leidr llofruddiog yn seinio megys cloch marwolaeth i mi Hang the tippling old beast, he's at that wine again ebe fy ngwyliedydd yn ddiamynedd am y gwr a aeth i'r gegin i nol y gyllell, ac yna aeth yntau allan o'r ystafell ac i lawry grisiau i chwilio am dano. Gyda hyny, codais inau o'r gwely, clo- ais y drws yn ofalus, goleuais yr ystafell, ac arfogais fy hun a dau revolver llwyth- og, sef yr un oedd yn hongian tu ol i obenydd fy ngwely, ac un arall a gefais ar y bwrdd ac a berthynai ond odid i'r ysbeilwyr. Hefyd, yr oeddynt wedi gad- ael eu skeleton-keys, fel y'u gelwir, ar yr un bwrdd. Sylwais fod cryn dipyn o ysbail wedi cael eu crynhoi at eu gilydd, ac yn eu mysg y bag a gynwysai fy arian, ond swm cydmarol fychan oedd yn dyg- wydd bod ynddo y tro hwn. Yn ddisymwth, clywais barti o gantor- ion yn canu carol hyfryd a melus i'm hysbryd dirwasgedig heb od yn mhell o'r gwestty. Agorais ffenestr fy ystafell yn ebrwydd, a bloeddiais nerth fy ngheg, Help help burglars in the house Ar hyny, defIrodd pawb oedd yn y gwestty a'r tai cyfagos, gan fel y cymer- odd y carol-ganwyr i fyny fy mloedd. Chwiliodd dau heddgeidwad y gwestty trwyddo, a chawsant y lleidr hynaf yn feddw mawr yn y seler. Llwyddodd y Hall i ddianc o'r ty yn ddisylw, ond yr oedd yn gymeriad mor adnabyddus yn y gymydogaeth fel y daliwyd yntau yn mhen dwy awr ar ol hyny. Mae y ddau yn fyw yn bresenol, yr wyf yn meddwl, yn treulio allan eu hamser yn un o gar- charau y wlad. Torasant i fewn i'r gwestty drwy dori ymaith y zinc oddi- wrth ffenestr y pantri. [Yr wythnos nesaf am dani.]
Nodion o America.
Nodion o America. Saethwyd Chas. L. Jones gan fab gwraig weddw yn Elinira, New York, mewn camgymeriad y noson o'r blaen. Y noson o'r blaen, torodd lladron i dv Mrs. Elizabeth Simmons, West Union, Ohio, ac ysbeiliasant hi o dair mil o ddoleri. Ar y laf cyfisol, syrthiodd Arthur Blood, o Warren, Pennsylvania, oddiar geffyl, gan dori ei wddf. Yr ydoedd yn ddyn cyfoethog. Yn ddiweddar, gollyngwyd i'r dwfr yn Philadelphia, Pennsylvania, y wiblong newd odidog • New York,' yn ngwydd haner can' mil o edrychwyr. Ar y 30ain cynfisol, lhvyr ddinystriwyd y capel Presbyteraidd yn Galesburg, Illinois, gan dan. Yr. achos o'r tan ydoedd flue ddiff ygiol. Hysbysir fod y Pab newydd dalu haner can' mil o ddoleri am lawysgrifau yn llyfrgell Borghese mewn trefn i'w cael i lanw bwlch yn nghelloedd henaflaethol y Vatican, a achoswyd gan dan yn amser Boniface VIII. Anfonodd Mrs. E. Rees, priod y Parch. Llewelyn Rees, Fairfield Avenue, Johns- town, Pennsylvania, ddolar i swyddfa y Drych fel cychwyniad tysteb i Llew Llwyfo. Cyfiwynwyd yr arian i T. Solomon Griffiths. Y dydd o'r blaen, bu farw yr Uch- gadben Thomas Harward, Brooklyn, New York, yn gant a thair mlwydd oed. Adeiladydd llongau ydoedd, ac yn ystod ei oes adeiladodd a meddianodd ddwy ar hugain o longau. Ni ddefnyddiodd erioed dybaco na gwlybyroedd meddwol. Ar y 27ain o Dachwedd, yn Demmler, ger Pittsburg, Pennsylvania, bu farw Morgan Davies (* Morgan o'r Bath ') yn 58 mlwydd oed. Ymfudodd i America yn Hydref, 1889, o Boiitardawe. Gadaw- odd ar ei ol bump o blant, yr oil o honynt yn briod, a gweddw oedranus. Ar y 23ain cynfisol, yn 76 mlwydd oed, bu farw John H. Morris, Shubert, Nebraska. Mab ydoedd i Richard ac Ann Morris, Caerfyrddin. Yr oedd ei dad yn gefnder i'r Brodyr Morris, y bancwyr. Bu yn dilyn gorchwyl crydd am flyn- yddau, ac wrth yr enw 4 Morris y Crydd yr adwaenid ef ar hyd ei oes. Ymbriod- ododd yn 1832 a Miss Ann Evans, merch John ae Elizabeth Evans, Llanllwchyn, I set QJJilW. QRW74 IMyw ftaw ej feibion a dwy ferch, o'r rhai nid oes ond tri yn fyw. Mae ei unig chwaer yn byw yn awr yn Abertawe. Wele yn canlyn rai o'r enwau newydd- ion yn Senedd y Talaethau Unedig:— Chilton, Texas Irby, South Carolina Peffer, Kansas Vilas, Wisconsin Kyle, South Dakota Hansborough, North Dakota; White, Louisiana; Palmer, Illinois Brice, Ohio Proctor, Vermont; Gallinger, New Hampshire. Ar y 3ydd o Dachwedd, yn 49 mlwydd oed, yn ei chartref, chwe' milldir o New Cambria, Mo., bu farw Mrs. Grace Wil- liams. Merch ydoedd i John a Catherine Williams, Llangefni, Mon. Yn Llan- gefni hefyd yr ymbriododd a John Williams. Ganwyd iddynt wyth o blant. Ymfudodd y teulu i America tua thair blynedd ar hugain yn ol.
Llith o Batagonia.
Llith o Batagonia. AMCAN Y SEFYDLWYR WEDI EI GOLLI. ESTRONIAID MEWN BRAS-SWYDDI. MINTAI YR ANDES. CLOCH LLANLLYFNI. Derbyniodd y Drych yr ohebiaeth ganlynol oddiwrth Mr. W. H. Williams:- Rhyd William, Chupat, Medi 29.-Ymddengys yn ngoleuni y presenol, fod gwir amcan sefydlu Gwladfa ar lanau y Chupat, Patagonia, wedi cael ei golli yn hollol. Mae y dynion hyny oeddynt am sicrhau annibyniaeth i'r Cymry fel cenedl i'w canmol, a dylem dalu gwarogaeth iddynt am eu cenedlgarwch ond waeth iddynt gyfaddef na pheidio, y maent wedi methu yn eu cynllun o ddewis y lie hwn i ddwyn y meddyl- ddrych i sylweddoliad. Cofiwyf yn dda am un gwr parchedig yn darlithio ar Patagonia, yn I Ffestiniog, yn y flwyddyn 1874; ac wrth frolio y Wladfa, meddai yn ymffrostgar, Meddianwn ni, y Cymry, yr afonydd a'r porthladdoedd ac os daw estroniaid atom, anfonwn hwynt i laf'urio y tir, codi glo, ac agor chwarelydd, a bydd i ni gadw y cwils i wneyd eu cylrif, fel y maent hwy yn gwneyd a ni yn bresenol.' Dyna ychydig eiriau o'i ddarlith; ac wedi dros 16 mlynedd o fyw yma, y maent wedi mynedyn ddyfnach i'm calon na dim a ddywedodd. Fel y caffo y Cymry weled ffordd y mae y gwynt yn chwythu yma, rhoddaf i chwi swyddi ac enwau y dynion sydd yn cael tal am 'gadw y cwils i wneyd ein cyfrifon,' a barnwch drosoch eich hunain o ba genedl y maent Rhaglaw-Is-nlwriad L. G. Foutana. Prif Ysgrifenydd-Br. A. A. Conesa. Prif Farnwr-Y Dr. Horacio A Reale. Ysgrifenydd y Llys-Br. Justo Alsoa. Rhestrydd Gwerthiad Tir-Yr un. Penaeth y Gyllidfa-Br. Gregorio Mayo. Uapten y Porth—Br. Juan Finoquetto. Penaeth yr Heddlu-Br. Arthur Woodley. Rbeatrydd Nodau Anifeilaid — Yr un. Post Weinydd-R. J. Berwyn (Cymro). Arolygwyr yr Heddlu-Trerawson, Pedro Y. Martines. Eto, Trelew, Br. J. H. Jones (Cymro). Eto, Geiman, Br. Edward Humphreys (Cymro), Eto* Bro Andes, Br. Martin Under- wood. Wel, dyna y dynion sydd yn cael y doleri ac yn cadw y cwils yn 1891, wedi dros 26 mlynedd o brawf ar y Wladfa Batagonaidd. Yn y Drafod, gwelaf fod y Chineaid yn dweya fod ganddynt hwy gamlas ddyfrhaol 700 milldir o hyd cyn amser Crist. Hefyd, pan oresgynwyd yr India gan y Saeson, caed cynifer a 53,000 o lynau wedi eu gwneyd i'r amcan o ddyfrhau, a 30,000 milldir o gloddiau mawrion, ynghyd a 300,000 o adeiladau maen at gario y camlesydd. Y mae camlas y Ganges yn 1,000 o filldiroedd o hyd, 170 troedfedd o led, a 10 troedfedd o ddyfnder (.felly dair gwaith hyd ein hafon ni, y Gamwy) croesa dros afon ar bout o 15 o fwau, 50 troedfedd rhwng pob un. Nid gwiw i ni, gan hyny, son am ein camlesydd sydd yn rhyw 50 milldir o hyd ond da iawn eu cael, yn neillduol i ni, canys nid yw wedi bwrw ond ychydig iawn o wlaw er's dros flwyddyn, ac nid ydyw yr afon yn codi ond y nesaf peth i ddim er's blynyddau lawer, fel y mae yr anifeiliaid yn gorfod dioddef eisiau ymborth, gan eu bod yma yn gorfod byw ar eu danedd trwy flwyddyn, hyny yw, heb ein bod yn cynauaf u gwair iddynt. Gwell i mi ddweyd gair am yr aur. Y mae yma gynwrf mawr wedi bod yn ei gylch, a minteioedd o ffermwyr wedi bod i fyny yu chwilio, ond heb gael ond ychydig, am y 9 11 rheswm na roddasant yr egni hwnw mewn gweithrediad sydd yn ofynol cyn y ceir Ilawer o'r peth melyn mewa un anturiaeth. Dyna oedd eu meddwl—dal di y sach, mvrawiaf finau y trysor iddi; ond daethant yn ol gan felldithio y darganfyddwyr am gamarwain pobl awyddus i ymgyfoethogi Gwir ddywedodd y doethaf 6 ddynion,' Y neb a ewyllysio ymgyfoethogi, a syrth i brofedigaeth.' Mae y gauaf yma wedi bod heb lawer o gynhwrf, heblaw parotoi erbyn cychwyn tua'r Andes. Ymhlith y fintai bydd y Cadben Richasds o Ffestiiiiog, ynghyda Mr. Roberts o New York, a'r Parch. W. Phillips o Harlech, y rhai ddaethant yma, am aur-y Cad- ben Richards dros gwmni o Sir Feirionydd, mae yn debyg. Buom yu siarad a hwynt a deallais fod Mr. Roberts yn gyfaill calon i Robin y saer, New York, ac yacofioat ei deulu ac yntau. Os Robin y saer o Lanllyfni ydyw ef, y mae yr ysgrifenydd hefyd yn rhoddi teimladau goreu ei galon iddo ef. Maddeued Mr. E. Thomas Evans (Ap Deulyn) i mi am beidio ateb ei lytbyr ynghylcb yr aur, canys trosglwyddais ef i ysgrifenydd y cwmni archwiliadol, a bydd wedi derbyn ateb cyn y cyhoeddir hwn yn y Drych. Yr oeddwn i a'r wraig yn adnabod mam Ap Deuiyn a'r teulu oil. Derbyniais lythyr o Virginia, oddiwrth Róbt. Thomas Williams, Llanllyfni, seY mab i Thomas fy mrawd, yn fy hysbysu am farwolaeth John a Richard fy mrodyr. Y mae hogiau Llanllyfni yn myned a fy ngadael ar eu hoi. Dydd Iau, Modi 10, .yr oeddynt yn agor eglwys newydd bert.hynol i Eglwys Lloegr yn yr ail ddyffryn. Gelwais i a'm priod heibio ty Mr. Davies, yr ofteiriad, ychydig cyu iddynt orphen yr adoilad, a galwodd ef fy sylw at gloch litwr a orweddai wrth dalcen ei dy, a dywedodd) I Dyms hen gloch Eglwys Llaullyfui I' I Wel, dyma gyfarfyddiad rhyfedd ac annisgwyliadwy,' meddwn wrtho, 4 canya tynais yn y oortyn a MrN i O; gtw Wejw » >wi\iju« {W «•«, yr hen frawd Robert Ellis yn glochydd yno.' Byddem ni, y bechgyn, ar ol y bregeth am ddau o'r gloch, yn myned i'r gosper am bedwar, a byddai raid i Robert Ellis roddi y rhaff i fyny i ni ac os oes rhai o fechgyn Llanllyfni sydd o 60 i 70 mlwydd oed yn fyw yn rhywle, y maent yn cofio am ganu yr hen gloch yn Llan- llyfni. Canodd lawer cnul o dro i dro wrth gladdu fy mherthynasau anwyl. Ei chael yn rhodd i ddyfod i Batagonia. ddarfu Mr. Davies. Amcenais i a'r hen wraig fod yno ar ddydd agoriad yr Eglwys newydd, ond cafodd fy meistres beth anhap, sef troi neu ysigo ei throed, felly fe'n lluddiwyd. Yr oedd y pregethu yn dda, meddir, a'r canu Salmau yn fendigedig, o dan arweiniad W. R. Jones (Gwaenydd), a'n' cyfaill Griffith Griffiths (Gutyn Ebrill) yn cynorthwyo. Cawsom Eisteddfod yn Tre Eawson ar yr 21ain o Awst--u),i boblog iawn a llwyddianus ar y cyfan. Yr oedd tri chor yn cystadlu ar Yr Awel Fwyn,' a darnau eraill cor Moriah, o'r canolbarth, yn oreu, yn ol beirniadaeth H. A. Davies, R. R. Jones (Niwbwrch, M&n), a'r prif gerddor, W. R. Jones (Gwaenydd). Yr oedd y wobr yn gant o ddoleri. Y prif fardd, Gutyn Ebrill, oedd yn arwain gyda hwyl. Cadwyd Gwyl y Glaniad, Gorphenaf 28ain, mewn pum' lie mewn eithaf hwyl. Cafwyd te a bara brith yn yr oil. Hon ydoedd y burned flwyddyn ar hugain er glaniad yr hen fintai. Un mlynedd ar bymtheg yn ol, nid oedd yr wyl yn cael ei dathlu onctyu Nhre Rawson yn unig. Wele restr o aelodau y fintai aeth i'r Andes ddechreu Medi i sefydlu —Wm. J. Jones, Kan- sas, a phum' plentyn; Wm. J. Freeman a'i briod, ac wyth plentyn—sef mab Joseph Freeman o Williamsburg, Iowa-yr hwn a'i deulu a ddaethant yma o Pennsylvania yn 1875 John Daniel Evans, yr hwn a ddiangodd yn fyw pan laddwyd y tri Chymro hyny gan yr Indiaid, ei wraig, ao un plentyn; ynghyd A James Williams, mab David ac Ellin Williams, Tabor, Dinas, ger Abergwaun. Dichon, os gwel ei dad a'i fam yr hanes hwn, y gallant fod yn falch, canys y mae yn sicr ei fod yn iach a byw, neu ni fuasai yn gwynebu y fath daith. Yr oedd newydd ymbriodi â merch Richard Jones, Glyndu, yr hon oedd yn gweini gyda W. J. Jones, Kansas. Heblaw y rhai hyn, yr oedd yr hen wr, Thomas Dafydd, 65 mlwydd oed, taid gwraig W. J. Jones, gyda hwynt, ynghyd a deg neu ddeuddeg o fechgyn ieuainc, ac yn eu plith Richard, mab eich annheilwng oliebydd, yn 23ain mlwydd oed, gyda 200 o ddefaid, ac 20 o geffylau. Dygent gyda hwy oil 530 bwsiel o wenith, dros 200 o geffylau, 10 o ychain gwaith, pedair men, dau gerbyd, ynghyd a digon o ym- borth am o chwech i.ddeuddeng mis. Neges y dynion hyn yn yr Andes ydyw-nid chwilio am aur yn uniongyrchol, ond troi y tir a'r anifeiliaid yn aur ac os try yr aur allan yn dda, gwnant hwythau yn dda drwy ddarparu angenrheidiau bywyd i'r chwilwyr am aur ger- llaw, yn lie eu bod yn dyfod i'n sefydliad ni, y Garawy. Wel, rhaid troi pen bellach, gyda nodi y priodasau a'r marwolaethau. Y briodas gyntaf enwaf ydyw eiddo Mr. W. Hughes (Caenon), Tanyfron, Llandwrog Uchaf, Caernarfon, gyda Miss A. Brunt, Argoed, Trefaldwyn. Cawd gwledd dda, a hwyl ddigon ar yr amgylchiad. Mae Mr. Brunt yn un o'r ffarmwyr mwyaf llwyddianus yma. Yr ail gwpl briodwyd yw Mr. E. J. Williams, peirianydd, a Miss M. Price, Mostyn. Yno yr unwyd y par dedwydd hwn, ond yma y maent yn byw, sef yn Trelew-efe yn brif arolygwr y fforddhaiarn. Priododd Llwyd ap I wan, mab y Parch. Michael D. Jones, o'r Bala, gyda Miss Jones, Plas Hedd, merch i Mr. Lewis Jones, sefydlwr cyntaf y lie hwn. Priod- wyd hefyd John Williams, mab John Williams, saer maen, gynt o Ddolwyddelen, gyda merch Thomas Daniel, gynt o Ddeheudir Cymru William Cunning, gyda geneth o Fostyn Wm. Goslett Thomas, gyda merch Richard Jones, Glyndu Mr. John Edwards, Cae'r Merched, Penrhyudeudraeth, gyda merch Richard Jones, Pare, Bethesda, Arfon Mr. David Lloyd, mab D. Lloyd Jones, gyda Miss L. Williams, merch henaf Mr. T. S. Williams, Tresalem gynt; ac eraill nad wyf yn eu cofio yn awr. Priododd y lodes ddiweddaf y diwrnod yr oedd ei thad a'i mam yn cychwyn am Gymru. Yr oedd Mrs. Williams yn wael er's amser, a phenderfynasant ymweled l'u hen gartref, gan hyderu y byddai I hyny yn foddion adferiad iddi, ond bu farw Mrs. Williams yn rhywle rhwng Rio a Obymru, a chladdwyd hi yn yr eigion mawr. Dyma y trydydd claddu yn y mor y bit Mr. Williams yn iiygad-dyst o Loao, sei gwruig Lewis Jones, Bryngwyn, wrth ddyfod yma, a John Evans o Dalybont, Aberteifi, wrth ddychwelyd o Buenos Ayres, a'r olaf a'r agosaf at ei galon, mae yn ddiameu, yn mherson ei anwyl briod. Y mae ein cydymdeimiad mwyaf gyda'r gweddiil o'r tenlu J ddwy ochr i'r Werydd. Yr oeddynt newydd gladdu mab gobeithiol yn Buenos Ayres. Mae Mihangel ap Iwan, ein meddyg, wedi myned i'r brif ddinas, Buenos Ayres, oblegid nid oes yma ddim gwerth yn sâl. Boddodd John W. Price yn yr afon wedi yf ed gormod o'r peth hwnw sydd yn gwneyd i ddynion roddi y pen chwith yn isaf. Gadawodd weddw ddiblant ar ol. Brodor o Fangor oedd, a'r hen wraig o Bwllheli; ond o'r Incline Tanygrisiau, Ffestiniog, y daeth yma. Yr oedd' yn gwylio y twnel sydd ger Tanygrisiau, ac yn cael lie da, ond gadawodd ef yn erbyn meddwl Rhagluniaeth, fe ddichon. Yr oedd yn hen wr 55 mlwydd oed. Y mae yma etholiad am ddau aelod i'r Cyngor wedi pasio, a dyma fel y bu :—R. A. Davies, 146,ibachgen o Ddolwyddelen Hugh J. 0 Hughef, 110 W. M. Hughes, 391. Mab John Hughes, Pen-y-gell, Ffestiniog, yw H. J. Hughes. Y mae hi yn ferw gwyllt yn y Weriniaeth hon, fel pob calon dyn tlawd heb ras. Mae 20 o ddoleri yn y bunt awr, ac. yr ydym ni yn teimlo fod pob peth -yn ddrud iawn i'w brynu, ond ychydig a gawn ni am bobpeth a werthwn. '0
[No title]
Yr hosan weuwyd gyntaf o sidan yn Lloegr a wisgwyd gan y Frenhines Elizabeth. Allan o 250,000 o bersonau a gyhuddwyd o feddwdod y fiwyddyn ddiweddaf yn Mhrydain Fawr a'r Iwerddon, yr oedd 76,600 o honynt yn ferched. Gofynodd athraw mewn ysgol, 'Beth oedd y cyfnewidiad pwysig a ddaeth dros Burns yn nyddiau diweddaf ei fywyd «Efeajfu fanr I'
Y "MESSIAH" YN MERTHYR.
Y "MESSIAH" YN MERTHYR. Yr ydys yn disgwyl cael gwledd gerddsrol ddigymhar yn y Drill Hall, Merthyr Tydfil, ar yr 28aino Ionawr, 1892, gan y Merthyr Phil- harmonic Society, yr hon gymdeithas a gynwys haner cant o offerynwyr a dau gant o gantorion. Y Messiah fyddant yn berfformio. Cymerir rhan yn y perfformiad gan yr artistes enwog a ganlyn :illiss Marjorie Eaton (soprano), o gyngherddau Llundain a Manchester, disgybl Mr. Shakespeare; 4 Miss Mary Morgan (contralto), o Wyliau Cerddorol Gloucester a Hereford, disgybl Mr. Shakespeare Mr. Maldwyn Humphreys (tenor), a Mr. Bingler. Shaw (bass). Arweinir y perfformiad gan Mry T. Westlake-Morgan, F.C.C.G., organydd Eg-. lwys Dewi Sant. Mr. E. T. Roberts fydd ar. weinydd y gerddorfa. Mae Cymdeithas Phil- harmonic Merthyr o dan lywyddiaeth y Milwr- iad D. R. Lewis, ac o dan nawdd y Gwir An. rhydeddus Arglwydd Aberdar, Arglwydd Wimborne, Arglwydd Tredegar, y Dr. Mack- enzie, y Dr. Martin, y Dr. Parry, y Proffeswr Bridge (Doethor Peroriaeth), y Proffeswr Stan- ford (Doethor Peroriaeth), Mri. Cowen a Barnby, Mons. Guilmant, Mri. D. A. Thomas, A.S., a Pritchard-Morgan, A.S., &c. Mae y gymdeithas hon yn hollol ansectaraidd, ac yr ydys yn gobeithio y llenwir y neuadd a charwyr cerddoriaeth aruchel ar yr 28ain o Ionawr, 1892.-Advt.
[No title]
Anfynych iawn y mae y person an ffodus hyny sydd yn cael iechyd rhagerol yn gallu gwerth- fawrogi eu braint, ac oherwydd hyny y maent yn rhy dueddol i ddibrisio y cyfryw. Esgora eu hesgeulusdra ar anhwylderau blinderus a pheryglus; ac oddieithr y cymerant rybudd mewn pryd, y mae beddau cynamserol yn sicr o fod yn eu haros. Ar gyfer pob anhwylder corfforol, nis gellir cymeradwyo gwell meddyg- iniaeth na Pheleni Gwaed Mr. Hughes o Ben- arth, Caerdydd. Maent yn puro y gwaed, ac yn cryfhau y dylla a'r corff drwyddo. Ond i'r darllenydd droi ei olwg i golofnau ein hysbys- iadau, fe ga yr holl fanylion yn eu eylch. 141
Advertising
ART PHOTOGRAPHERS! Q. 66, Queen Street, CARDIFF. Under -<;th the Patronage of -<-¡; Royalty and the Marquis Aj and Marchioness of Bute. 93-107 C.D.V.S. 6/- per Dozen Dyers and Cleaners Of Hats, Bonnets, Ostrich Feathers, Ladies' Dress, and Gents' Clothing. ORCHARD'S, 35, ADAM STREET, CARDIFF. I Hats and Bonnets altered or re-made. New Hats and Bonnets made to order. 91-144 Garolau Nadolig. PEDAIR 0 GAROLAU NEWYDDION, yn nghyd a geiriau yn Nodiant y Sol-fa. I'w cael yn un llyfr, pris 2c., gan yr awdwr- Mr. HUGH DAVIES, High Street, Penmacbno, Bettws-y-Coed. Anfoner archebion at yr uchod. 93-94 p IANOS, JJARPS, QRGANS. JJEATH AND SONS, QUEEN-STREET, CARDIFF, Invite the Public to inspect their Large and Varied Stock of Instruments by all the Leading Makers, at the Cheapest Prices and Largest Discounts. piANOFORTES, From 10s. 6d. Monthly, by Broadwood, Collard, Erard, Kirkman, Brinsmead, &c. Sole Agents for the Celebrated Steinway Pianofortes. One of these Splendid Grand Pianofortes may be Hired for Concerts, &c. Q R G A N S, From 5s. Monthly. Sole Agents for Mason and Hamlin, &c. Send for New Price List and Drawings, I' Post Free. Every Instrument Guaranteed and Kept in Tune Free for one Year. Pianofortes Exchanged, Repaired, and Tuned in all Parts of South Wales. JJ-EATH AND SONS, L MUSICAL INSTRUMENT WAREHOUSE, Q2 QUEEN-STREET, 9 cARDIFF, AND 34I TAFF- STREET 9 pONTYPRIDD. 86.189 —— HOWMwig mmwun D WAN WIN. "MAWRTH A LADD, EBRILL A FLING." Yn ystod misoedd oer a llaith y Gauaf, mae Iluaws wedi bod yn dyoddef gan Asthma, Bronchitis, Anwyd, Peswch, ac yn enwedig gan yr haint a ymdaenodd v mor gyffredinol dros y wlad-yr Anvryd- wst. Mae llawer iawn o'r rhai fuont yn dyoddef dan y clefyd hwn, yn teimlo mwy oddiwrth ei effeithiau dilynol, sef gwon- lid, diffyg yni, iselder ysbryd, &c., nag a deimlasant pan yn dyoddef dan yr haint ei hun. Mae misoedd oyntaf y Gwanwyn yn anffafriol i adferiad buan y rhai fuont gleifion yn y Gauaf. Mae anhwylderau y tymhor hwnw wedi gadael anmhureddau yn y gwaed. Arferai ein hynafiaid geisio ymwared o'r anmhureddau hyn trwy agor gwythien a gollwng peth o'r gwaed an- mhur allan; ereill a gymerent ddognau o frwmstan neu gyffyriau eraill i buro y gwaed. Mewn canlyniad i ymehwiliadau a darganfyddiadau meddygol, mae amryw ddarpariaethau llysieuol at buro y gwaed, a symud anhwylderau, yn cael eu cynyg i'r cyhoedd yn yr oes hon. Ond tystiol- aeth miloedd yn y wlad hon a gwledydd eraill yw, nad oes un meddyglyn adgryf- haol i'w gystadlu a Quinine Bitters Gwilym Evans. lily Mae y QUININE BITTERS yn feddyg- < iniaeth hollol lysieuol, yn cynwys chwerw- lysiau a melua-lysiau wedi eu haddas gymysgu i ffurfio y feddyginiaeth oreu a ddyfeisiwyd erioed, er cryfhau y eyfan- soddiad, puro y gwaed, a symud effeith- iau niweidiol amryw glefydau. Cynwysa Quinine, Sarsaparilla, Saffrwn, Lafant, Crwynllys (Gentian), Cynghaw (Bur- doek), Dantyllew, &e. Mewn gair, mae braidd pob llysieuyn a gwreiddyn medd- yginiaethol yn y meddyglyn rhyfeddol hwn; ac y maent wedi eu parotoi a'u cyfartalu i wneyd cymysgedd celfyddydol o'r fath fwyaf hapus a llwyddianus i sicr- hau cydweithrediad yr elfenau meddygin- iaethol a gynwysir ynddynt, ac i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg wrth ddarparn y feddyginiaeth hon. Mae y QUININE. BITTERS WEDI BOD GER BRON Y OYHOEDD AM AGOS I UGAIN MLYNEDD! ac y mae ei rinweddau iachaol ac adgryf- haol yn cael eu cydnabod mor gyffredinol yn mhob man lie y gwnaed prawf teg arno, fel mae y galwad am dano yn cyn- yddu o wythnos i wythnos, ac nid oes un meddyglyn mwy adnabyddus yn mhob rhan o'r byd na Quinine Bitters Gwilym Evans. Cymeradwyir ef i bawb sydd yn teimlo gwendid ac yn dihoeni ar ol ymosodiadau o AiYWYDWjST, Asthma, BrODchitls, yn ogystal ag i bawb sydd yn dueddoli anhwylderau y Cylla, y Giau, yr Afu, a'r Ysgyfaint Mae rhai o feddygon goreu y deyrnas yn ei gymeradwyo at yr anhwyl- derau hyn, ac at buro y gwapd. Mae CJ-WYWT y HwTRiiar sydd yn ffynu yn gyffredin, yn ystod misoedd y Gwanwyn, yn niweidiol i „ lawer, ac yn ami yn profi yn angeuol i rai o gyfansoddiad gwan. Mae gwynt- oedd deiflol v tymbor hwn mor niweidiol i bob bywvd, fel y mae yn hen ddywediad, Mawrth a ladd, ac Ebrill a fling," fel diareb yn mhob rhan o'r wlad. Cryf- hewch y cyfansoddiad i wrthsefyll ei effeithiau niweidiol—nid trwy ymarfer a gwirodydd poethion, a diodydd alcohol- aidd eraill, y rhai a dybir gan lawer (ond yn gamsyniol) ydynt effeithiol i "gadvr yr oerfel allan," ond trwy gymeryd rhyw gyffyr neu feddyglyn adgryfhaol a rhin- weddol, yn cynwys elfenau gweithgar a iachaol y prif lysiau meddyginiaethol, y rhai ydynt DDAKPABIAETH NATUR, ar gyfer pob afiechyd. Ceir y cymhwysderau hyn oil yn QUININE BITTERS OWILTffl JBVAIfS a chymeradwyir ef gan filoedd fel Meddyginiaeth oren yr Oes. Pris-Poteli, 2/9; eto, dwbl faint, 4/8. I'w gael yn mhob man. Goruchwyl wyr yn mhob parth o'r byd. Os ceir unrhyw anhawsder i'w gael, danfonir ef am y prisiau uchod yn rhad a dyogfll drwy y Post i unrhyw gyfeiriad yn 1. Deyrnas Gyfunol, yn uniongyrchbl oddij wrth y perchenogion- QUININE BITTERS MANUFACTURING COMPANY (LIMITED), LLANELLY, SOUTH WALES. Gellir ei gael yn AMERICA oddiwrth Mr. Bt I), wqaum, F^noutiii P8B&