Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. HYNAWSEDD Y METHODISTIAID Parodd geiriau Esgob Bangor dram- n C, gwydd nid bychan igorff parchus y 0 Methodistiaid, ac ymddengys fod Mr. Lloyd George hefyd wedi teimlo yn ddwys oherwydd cyhuddiad ei arglwydd- iaeth. Y trosedd mwyaf clir ellir wneyd yn Xghytiri yn ol barn rhai pobl ydyw yngan gair yn erbyn Methodist. Teg priodoli pob math o amcanion iselwael i Eglwvswyr; ni phetrusir ameu eu geir- wiredd na'u gonestrwydd, ac ystyrjr y neb a wnelo hyny oreu yn deilwng o anrhydedd dau-ddyblyg. Ond hawyr anwyl os meiddia neb amen perffeith- rwydd gwr o Fethodist, ceir gweled Mr. Gee mewn cynddaredd, a'r Parch. R. H. Morgan yn chwythu bustl fel y sarff dorchog. Bydd y Dadgysylltwyr Radical- aidd weifchiau yn dweyd mai Ymneilldu- wyr Cymru ydyw pobl Cymru, ond myn Shon Gorff i'r byd gredu mai Methodist- iaid Cymru yw pobl Cymru. Gwrth- dystiodd Esgob Bangor yn erbyn wydd y Methodistiaid am bob swydd] yn y rhanau o'r wlad lie y byddont hwy yn gryf, ac am hyny cafodd y lie blaenaf gan Mr. Gee yn ddiweddar. Da genym ei fod wedi dringo mor uehel. Nis gIn wn feddwl am ddim mwy diraddiol i wr Eglwysig na chael ei ganmol ar du- dalenaa y Faner. Yn ngwyneb yr hyn a ddywedir am fawr degwch y Method isciaid, nid annyddorol fydd y dyfyniad a ganiyn o sylwadau Cyfarwydd' yn y Oymn) diweddaf Cyfrin sibrydir yn y Gogledd y dyddiau hyn fod papyr newydd ar gychwyn i wrthweithio y Methodistiaid am oruchafiaeth ar yr enwadau ereill. Dywedir fod y Wasg G ymreig yn eu ffafrio drwy atal rhydd lafar.' Dyna i chwi eiriau llawer cryfach nag eiddo yr Esgob Lloyd, a hyny o le nad yw yn rhyw Eglwyaig iawn. Felly, 0 y fe welir fod cred dra chyffredin yn y wlad fod y Corff am gael y cwbl i'w grafanc ei hun, a dim i'r enwadau eraill. Gresyn fod y fath ddrwg- dybiaeth am enwad mor wylaidd a pharchus—un, os coelir Mr. Gee-sydd bob amser am gadw ei hun o'r golwg. MR. LLOYD GEORGE YN PRYNU UDGYRN. Byth oddiar pan ddaeth Mr. Lloyd George allan fel ymgeisydd am aelodaeth seneddol, nid ydyw y papyrau wedi ei foddio. Achwyna yn awr ac eilwaith nad ydynt yn gwneyd I chwareu teg ag ef. Weitliiau, chwarddant am ei ben, a phcyd arall cernodiant ef am ei gastiau plentynaidd. O'r diwedd, ymddengys fod ei amyned wedi dirwyn i'r pen. Os na fyn y papyrau Cymreig ganu ei glod, myn Mr. George brynu rhai i'r pwrpas. Yr wytbnos ddiweddaf, synwyd y byd newyddiadurol gan y newydd fod cyfran-ddalwyr yr Express, y Genedl, a'r Werin wedi eu gwysio ynghyd i ystyried telerau gwerthiad y In papyrau hyny i Mr. George. Barnai 0 llawer fod y llythyr wythnosol a arferai efe ysgrifenu am dano ei hun i'r Genedl yn ddangoseg o chwaeth isel. Danodwyd C, iddo ei fod yn seboni ei hunan ar g'oedd y wlad, ac atebodd yntau fod eraill yn medru talu rhywrai am wneyd hyny drostynt, ond nas gallai efe fforddio. Erbyn hyn, ymddengys fod y ffordd yn glir iddo yntau wneyd hyny. Os daw ei fwriad i ben, canmol Mr. George fydd gwaith y tri phapyr uchod. Nid anfudd- iol, efallai, fyddai iddo ef ac eraill gofio yr hen air, 4 Gormod o bwdin a daga gi.' Yr oedd ei golofn wythnosol wedi troi ar lawer, ac o'r braidd y gallwn feddwl y bydd ganddynt archwaeth at lon'd newyddiadur o stwff cyffelyb. Poed rhyngddynt hwy a'u mater. Y mae uchelgais olaf Mr. George yn rhoddi cip- olwlg ddyddorol i ni am ragolygon 4 Cymru Fydd.' Tebyg yw y bydd gan bob aelod ei udgorn ei hun, i ganu ei glod, ac i seinio ei rinweddau. Annhebyg y gall dan gytuno ar dudalenau yr un, oblegid dywedir wrthym yr ystyrir yn drosedd i gefnogwyr Mr. George ganmol Mr. Bryn Roberts neu Mr. Rathbone. Yn ol pob argoeJ, bydd llawer iawn o'r natur ddynol yn arweinwyr Cymru Fydd am iiir amser eto. Clywsom am ddosbarth o bobl yn y dyddiau gynt na wnaent ddaioni heb udganu o'u blaen y mae ganddynt olynydd teilwng yn Mwrdeis- drefi Arfon. CYNRYCHIOLAETH DWYREIN. BARTH DINBYCH, Pal'hau yn ansicr a wna Radicaliaid Dwyreinbarth Dinbych parthed eu hym- geisydd Seneddol, Y mae hyd yn nod eu cyfeillion yn dechfeu chwerthin am eu peaau, Ac yn sicr y Wr amgylcb- iadau y rhai digrifaf y clywsom am dan- ynt yn y cysylltiad hwn. Dewiswyd Mr. Taylor yn unfrydol. Rhoddodd Mr. Gee ei zel arno fel gwr cymwys. Meddyl- iasom ni a Ilawer eraill mai cymwys mewn egwyddor a feddylid. Ond erbyn hyn, amlwg yw mai rhywbeth hollol wahanol oedd mewn golwg gan y pwyll- gor. Nid ei egwyddorion, ond ei arian, oedd yn troi y fantol o'i du. Dywedid ar y pryd ei fod yn werth o dair i bum' miliwn o bunau, a lled-awgryrcid y buasai wrth dramwyo'r wlad yn talu dyledion y capelau y ffordd y cerddai. Erbyn hyn, amheuir a ydyw swm ei gyfoeth llawn mor anferthol ag y tybid, a dyma sydd yn cyfrif am fod y cariad yn oeri. Os ydym yn deall yr awgrymiadau yn iawn, y mae llwyddiant Mr. Taylor yn ym- ddibynu ar iddo ddangos ei balance sheet i'r pwyllgor. Dywed pobl hen ffasiwn nad yw peth fel hyn yn deg, nac yn anrhydeddus. Dichon hyny, ond y mae yn hollol Radicalaidd. Ein syndod yw, na buasai Mr. Taylor yn ysgwyd y llwch oddiwrth ei draed, ac yn ymwrthod yn gyfangwbl a hwynt. Nis gallwn weled pa fodd y dichon dyn a pharch iddo ei hun wneyd yn wahanol. Cymerir yn ganiataol mai felly y gwna yntau, ac y mae llawer enw gerbron y cynoedd. Pwy bynag a ddewisir, y mae genym hyder na adewir iddo gael meddiant o'r sedd heb frwydr boeth. Nid oes fawr amheuaeth na lwydda Syr Watcyn i dori Mr. Osborne Morgan allan yn yr etholiad nesaf. Beth pe buasai Mr. Morgan yn croesi o'r naill sir i'r Ilall ? Awgrymir gan bleidwyr y boneddwr gwir anrhyd- eddus mai doeth fuasai gwneyd hyny, rhag iddo gael ei adael allan o'r Senedd yn gyfangwbl y tro nesaf. YR YMRESYMWR JESUITAIDD.' Rhoddir lie pwysig i araeth y Deon Owen yn y Wasg Radicalaidd yr wythnos ddiweddaf. Wrth reswm, dywed pob golygydd nad oedd dim ynddi yn werth tY sylw, ac eto sylwant arni gyda'r un teimladau hynaws ag y bydd tarw Awst yn sylwi ar gadach coch a ddelir o'i flaen. Medda'r 4 ymresymwr melfedaidd a Jesuitaidcl o Lanclwy ddawn anghyd- marol i yru golygwyr y newyddiaduron Cymreig i golli eu tymher. Os ydyw ei ysgrifau a'i areithiau mor ddisylwedd a difywyd, paham, yn enw rheswm, y lladdant gymaint arno ? Ai am na fuasai yn ergydio yn drymach ? Na choelia i fawr. Dangosai cynddaredd Mr. Lloyd George yn Ninbych nos Wener yn eglur ddigon ei fod ef, modd bynag, yn teimlo pwys ergydion melfedaidd y Deon. Nid anhawdd canfod fod I sylw- adau pert a doniol y Deon wedi clwyfo teimladau ysgrifenydd erthygl arweiniol y Goleuad, hefyd. Yr oedd y gwr hwnw wedi parotoi araeth i'r Deon cyn myned i'r cyfarfod, a ffromodd yn aruthr am na fuasai yn gwneyd y sylwadau y disgwyliasai efe iddo wneyd. Dyma faich ei gWJ'n mewn erthygl lawn o ymosodiadaubawaidd ar berson yn fwy nag ar araeth y Deon. Yr oeddym y disgwyl yn siwr' am hyn ac am arall, meddai, ond ni chawsom hwynt, Ni ddaeth i galon y gwr hwn i, synied fod y Deon, o bosibl, yn deall ei waith yn llawn cystal, ac efallai, yn llawer gwell, nag efe. Hysbyga ni, yn nghwrs ei erthygl, fod curadiaid y Rhyl yn pwyso fel hunllef ar ei fy#wes.. Cwyna yn chwerwdost am nad oedd y curadiaid yn bresenol yn nghyfaffod cyhoeddus y Feibl Gymdeithas ryw dro pan oedd un o'r gweinidogion Ymneillduol yn llywyddu. Yr oedd yr ysgrifenydd yn un o'r siaradwyr, mae'n debyg; ac am hyny ystyria fod ymddygiad y curadiaid yn anfri persotiol arno ef. Beth sydd a fyno pethau fel hyn ag arreth y Deon, tybed ? Ac eto, o ryw ysbwriel an- mherthynasol o'r natur y gwneil* erthygl y Ooleuad i fyny. Os nad oes rhywbeth amgenach na hyn i'w ddweyd mewn ffordd o feirniadaeth, 4 Taw pia hi, boys.' GWfLlEDYDD Y TWR. Nos Lun, Rhagfyr 14, 1891.

_---.----..... Nodion o America.

MAWRYGU Y GYMRAEG.

ACHaS HYNOD.

[No title]

[No title]

Advertising