Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
GARTHBRENGY.
GARTHBRENGY. DIRWEST.—Yr ydym wedi dechrea ein cyfar- fodydd gauafol ynglyn & r C.E.T.S. Gobeithio y Jaw llawer i'n cynorthwyo i gario y gwaith da, ymiaen yn ystod y gauaf. ADFENT.—Mae y tymor hwn wedi dyfod eto yn ei gyich, a gwahoddir ni gan ein Ficer bob wythnos i ddyfod i'r gwasanaethau neillduol dan ei ofal. Y mae yn ofidus genym ddweyd fod y Parch. W. Williams, D.G., wedi bod o dan yr anwyd- wst. fiC yn beryglus glaf un amser, ond y mae yn ddn gei:ym ychwane:;u ei fod ar y ffordd i 'i w r<i Y mae bron bob teulu ya y plwyi wedi ciloi aweliad gan yr anwydwst.
PONTYCYMER.
PONTYCYMER. CONFEIKMASIWN.—Nos Lun, y 7fed cyfiscl, cynkdiwyd Conffirmasiwn yn Ystafell Geahadol y lie uchud, ac er fod Rhagluniaeth yn gwgu, a geivnion, o ganlyniad, yn gwenu, a ninau (Eglwyswyr) o'r braicld yn digaloni, eto ar y cyfan, cafwyd cyfarfod llewyrchus. Wrth giywed y gwyut yn rhuo a gweled y gwlaw yn ymarllwys, ac ystyried y daith i Gwmgarw, yr oeddem yn ofni y buasai hyny yn rhoddi atalfa ar yr Esgob a'r rhai. oedd wedi eu parotoi i'w conffirinio i dd'od ond y mae'n dda genyf d'hvey t i'r Esgob dd'od, ac hefyd y rhai oedd i'w eumnrmío, oddigerth dau, y rhai a rwystr- wyd yn hollol gan eu gorchwylion. Y mae hyn yn :.r \vf ychwanegol o zel a gweithgarwch ein Hesgob, ac hefyd o'r teimlad Eglwysig cryf sv i yn mynwesau Eglwyswyr plwyf y Bettws. Yr iedd nifer y rhai a gonffirmiwyd fel y canlyn: — Bettws, 19 Pontyrhyl, 16, Pontycvmer, 7. Yn n rwyneb y ffaith uchod, a llawer o ffeithiau cyjfalyb, fe wel eich darlienwyr mai myned ar gynydd y mae Hen Eglwys ein tadau. a hyny nid ya uuig mewn gwrandawyr, ond hefyd aelodau. Y peth nesaf yn mhlwyf y Bettws f all a ,oriad yr Ystafell Genhadol uchod, yr iii> fel y crybwyllais ychydig amser yn ol, 8yd yn myned o dan adgyweiriad a helaethiad, a'n d.pwuliad yw y bydd i'r cyfarfod hwnw fod mor ilewyrchus ag v bu cyfarfod y conffirmasiwn. — W.H.
TREFRIW. •
TREFRIW. • Pryduawn dydd Sal, yr wythnos ddiweddaf, cynhaliodd Esgob Bangor wasanaeth Conffirm- asiwn ya y lie uchod. Yr oedd yr eglwys yn llnwn o addolwyr. Yr oedd anerchiad yr Esgob o tiaen y conffirmasiwn yn hynod o deimladwy, a rliail fod ei eiriau wedi cael effaith parhaol ar feddyliau y rhai a gonffirmiwyd ganddo, yn o_rystal a'r rhai a glywsant yr anerchiad. Y niter a gcaffirmiwyd ydoedd 51, yr hyn, mewn plwyf a gynwysa ond tua 500 o drigolion, a sieryd gyfrolan am y gwaith da a wneir gan yr Eglwys yn y plwyf. Mae yr Esgob yn awyddus iawti am gael aden a chaugell newydd i'r eglwys ya ildioed, am fod yr adeilad yn dra anghyfleus yn bresenol.-Goh.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. ASIWN-Am 3 o'r gioch, prydnawn rLlydd Sui diweddaf, bn Arglwydd Esgob L!an lafva synal gwasanaeth Conffirmasiwn yn E lYiys Dewi Sant, pryd y daeth nifer dda o :vm;ei3wyr ymlaen, ac yn eu plith rai henaf- gwyr. Yn y boreu, cynhaliodd ei arglwydd- irvtf, wasanaeth mewn rhan o'r plwyf, sef Treliarris. Cafwyd anerchiadau bnddiol gan ei n rgiwyddiaeth yn y ddau le. Gwnaed casgliadau yn yatod y dydd tuag at y LlandafE Church Extension Society.' Pregethwyd yn y boreu yn I Eglwys Dewi Sant gan y Parch. J. Lewis D" vips, curad, ac yn yr hwyr gan yr Esgob. Yr oedd y tywydd yn hynod anffafriol, yr hyn a luddicdd llawer rhag bod yn bresenol yn y i; wasanaeth an.—X.
LLANGYFELACH.
LLANGYFELACH. Cynhaiiwyd cyfarfod adloniadol yn ysgoldy yr Euiwys uchod, nos Sadwrn diweddaf, Rhag- fyr I2fcd. Cadeiriwyd gan Mr. Eynon Hughes, Llanllianwen. Aethpwyd drwy y rhagien gan- lyncl:- Unawd ar yr hannonilm, Mr. William Unsser adroddiad, Miss Harriet Maria Mort can, Mr. David Jones darlleniad, Mr. Thomas Jones cau, Miss Mary H. James darlleniad. Jacob Hughes adroddiad, Mr. David Da vies adroddiad, Mr. Richard Hughes araeth ddi- f vfyr ar Home Rule,' rhauwyd wobr rhwng y Mri. Thomas Jones, David Davies, a Jacob Hughes can. Miss Mary H. James; adroddiad, Mr. David Jones ein, Mr. David Richards. Yna synygiodd Mr. William Rosser ddioichgar- weh i'r cadeirydd, ac eiliwyd ef gan Mr. Williams mewn rnodd caredig. Oynygiodd y Parch. D. T. Jones, y curad, hefyd ddiolchgar- well ir dieithriaid oedd wedi cymeryd rhan yn y cyfarfod. ac eiliwyd ef gan Mr Richard Ha h"s. Yna. canodd Mr. William Williams Hen vVlad fy Nhadau.' a'r dyrfa yn uno yn y cytigan. Aeth pawb adref wedi eu llwyr fodd- ioni.—Jonah.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. Y ma,(3 y Ficer, o'r diwedd, wedi gwneyd ei feidwi i fyny mewn perthynas i fywoliaeth Rhai idr-yr-Wy, a chyda gofld i'w blwyfolion, y mae yn ymadael 4 ni tua deohreu y flwyddyn. Gwaith anhawdd fydd cael offeiriad i lanw ei le. Y mae wedi gweithio yn galed yn ein plith am dros 26 mlynedd, ac y mae 61 ei lafur i'w waled yn y cynuUeidfaoedd Iluosog sydd i'w gweied yu yr eglwysi bob Sul. Yn ddiamsU, nid oes un dref yn Nghymru lie mae'r eglwys mor gryf. Rbifwyd cynuUeidfaoedd y gwahanol gapeli ac eglwysi yn 1887, a'r pryd hwnw yr oedd yr EJwys yn fwy na'r holl enwadau (a rhoddi y Pabyddioa iddynt hefyd) o 848. Pwy byuag a ddaw yn Ficer Aberhonddu, bydd gan- ddo ei w.drh wedi ei dori allan o'i flaen. Bydded i'r Arglwydd gyfarwyddo ein hen Ficer anwyl, gyda.'rhwn y mae'r penodiad i ddewis ei oynydd. Y mae y Parch. Mr. Matthews wedi bod drwy ran o'r sir yn traddodi ei ddarlith ar Ddadgys- ylltiad yr Eglwys. Yr un peth sydd ganddo a phlw oadr1 yma ychyd;g amser yn ol, sef haer- i'¡11:I.11 disail ac anwireddus mewn perthynas a'r Esriwvs. A ddaw ef yma, wys ? Fe gafodd dderbyniad gwresog y tro diweddaf y daeth, mor wresog fel ag yr wyfyn meddwl y meddylia ddwywaith cyn y daw i dref Eglwysig Aber- honddu eto. Os daw, bydded ei gyf eillion yn gy n Tat roddi iddo wers ar foneddigeiddrwydd, &e. Y mae llawer i lawr gan yr anwydwst yn y drei a'r gymydogaeth, Y ma.e'r meddygon yn cael cynhauaf da, ac y mae yu ddrwg genyf ddweyd fod llawer o farwoln.ethau Wedi cymeryd Ife yn ddiweddor. Bu y Prif Gwnstabl (Mr. yn sal iawn am amser, ac hefyd yn berywius felly, ond da genym ddweyd ei fod yn awr ar y fEordd i well a, yr hya fydd yn dda gan ei gyfeillion lluosog glywed. MAEWOT.AETH MRS. POWELL, Y STRUET.— Gyda gofid yr ydym yn cofnodi marwolaeth Mrs. Powell, un o Jfyddloniaid yr Eglwys. Pan rnevvii iechyd, nid oedd ei lie yn Nhi^ Dduw byth yn wag, ond yno yn gyson gyda'i serchus briod, Cnfodd ei tharo A'r pahi tua dwy fiynedd yn ol, ac felly yr oedd yn anallnog i dd'od i'r addoliad cyhoeddus ond pur anaml. Dioddefodd gystudd caled gydag amynedd Cristionogol, gan ymddiried yn ei Thad Nefol. Aeth i lawr i'r glyn yn obeithiol a gorfoleddus, gan gredu y byddai marw yn elw iddi, yr hyn yr ydvK* ay yn gr«dii, X* oeda yn &ml dyner a gwraig gariadlawu, a gadawodd briod a mab i alaru ar ei hoi, heblaw perthynasau a chyfeiilion lluosog. Yn ddiameu y jcallwn ddweyd am yr ymadawedig, 'Gwynydedig yw y meirw svdd yn marw yn yr Arglwydd.' Claddvvyd hi yn mynwent Llandefaelog Fach, lie y mae llawer o'i pherthynasau yn huno eisoes. Gweinyddwyd ar yr achlysur galarus gan y Parch. W. Howell, licer Garthbrengy, a D. Jones-Powell, curad Aberhonddu. Y MAE Maer y dref wedi penodi dydd Mercher, y 23ain o'r mis hwn, i gynal y Farchnad Nadolig. Ymae y Farchnad Nadolig bob amser yn werth i'w gweled, gan mor bryd- ferth y mae gwragedd y ffermwyr yn gosod allan en nwyddau, sef twreiaid, gwyddau, &c. Hon yw y farchnad oreu, meddant, yn holl Gymrn i brynu anghenion y ciniaw Nadolig. Y mae llawer o'r cyfryw yn myned gyda'r tren i Feithyr, Dowlais, &c. Ymwelodd Arglwydd Ynad Yaughau Wil- liams a'r dref hon dydd Gwener diweddaf i gynal Llys Gauafol dros Siroedcl Maesyfed a Brycheiniog, ac y mae'n ddywenydd genym ddweyd nad oedd un achos o gwbl ar y rhestr- clean 8heet, ys dywed y Sais. Anrhegwyd ei arglwyddiaeth gan yr Uchel Sirydd, Mr. W. T. Powell, Builth, a, phar o fenyg gwynion. Hir y parhao sefyllfa pethau felly. Y mae Arglwydd Esgob Ty Ddewi wedi anfon allan rybudd o'i ymweliad a'r dref a'r ardal i gynal Conffirmasiwn tua diwedd mi3 Ebrill nesaf. Bydd yn ymweled a. rhai eglwysi cad ymwelodd a hwy o'r blaen i'r perwyl yma, a gobeithio y bydd rhif yr ymgeiswyr am yr ordinhad sanctaidd yn lluosog ymhob eglwys. Yn awr y mae ymbarotoi gogyfer a hyny.- Hywel Idloe8.
CAERDYDD.
CAERDYDD. MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MISS EDITH SARAH AARON.—Gyda theimlad o alar y mae genym y gorchwyl pruddaidd o hysbysu marwolaeth ein chwaer ieuanc ac anwyl, Edith Sarah Aaron. Merch ydoedd i Mr. a Mrs, John Aaron, Richmond Road, Caerdydd. Y mae ei thad yn un o wardeniaid Eglwys Gymreig Dewi Sant yn y dref. Yr oedd Edith yn un- o'r merehed mwyaf tyner, caruaidd, call, a duwiol- frydig, ac yn anwylyn (pet) nid yn unig yn y teulu, ond gan bawb a'i hadwaenai. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf a gonffirmiwyd yn Eglwys Gymreig Dewi Sant, yn aelod o'r Ysgol Sul a'r t or. Ond daeth awel lem a gwenwynllyd heibio a gwywodd y blodeuyn tyner a thlws. Cafwyd arwyddion oddiar ddechreu y flwyddyn fod y darfodedigaeth yn dadsylfaenu ei chyfansoddiad; ac er cael pob sylw a gofal gan ei mam, ei meddyg (y Dr. Pritchard), ar teulu oil, hunodd yn yr Iesu ddydd Sul, y Ged cyfisol, yn ddwy ar bymtheg mlwydd oed'. Cymeredd y gladdedig- aeth anghyhoedd le ar y dydd Gwener canlynol. Gweinyddwyd yn y ty gan y Parch. T. C. Phillips, ac yn nghapel y gladdfa newydd ac ar lan y bedd gan y ficer, y Parch. A. E. H, Hyslop. Anfonwyd coronbleth o flodau pryd- ferth gan offeiriad ac aelodau Eglwys Dewi Sant i'w gosod ar ei bedd fel teyrnged o barch i'r ymadawedig. Amlygwyd cyffelyb barch gan amryw gyfeillion eraill. Dymunwn nawdd y Nef dros y rhieni a'r teula oil yn en tristwch a'u profedigaeth lem a chwerw. Huned Edith mewn hedd hyd nes Byddo dorau beddau'r byd Ar un gair yn agoryd. T. C..P.
DOWLAIS.
DOWLAIS. Cynhaiiwyd darlleniadau ceiniog hynod lewyrchas yn yr Ysgoldy, nos Fercher, Rhagfyr 9 ted, pryd yr aeth pawb trwy ei ran yn ganmol- adwy. Llanwyd y gadair yn ardderchog gan Mr. T. Jones, Aeron House. Mae y Parch. R. Jones wedi llwyddo i gael rhaglen ardderchog erbyn nos Fercher nesaf eto. Dewch yn lluoedd nos Fetcher nesaf. Os bydd gystal a'r cyntaf, bydd llawn gwerth swllt. YaEGLWYS SEISNIG.—Nos Fercher, Rhagfyr 9fed, pregethwyd yn yr eglwys uchod gau y Parch. S. T. Phillips, Brynmawr, a chafwyd gwasanaeth a phregeth rymus ac adeiladol.
LLANELLI.
LLANELLI. YSGOLDY EGLWYS Y FFWRNES.-Nos Fawrth a nos Iau, yr wythfed a'r degfed cyiisol, cyn- haliwyd cyngherddau a 1 Toy Symphony' yn y lie uchod, a throisant allan yn hynod lwydd- ianus. Tystiolaeth pawb oedd yn bresenol ydoedd eu bod wedi mwynhau eu hunain yn anarferoi. a dywedadd un na welodd gystal cyfleusdra i uurhyw dclyn aughofio ei boet) neu ei dlodi er's llawer dydd. Cychwynwyd y mudiad gan Mrs. Rogers. Glyncoed, a hyny tua thair wythnos yn ol; a chyda brwdfrydedd y rhai sydd â dyddordeb yn y lie, a chyuorthwy cyfeillion caredig, derbyniwyd tua £11, yr hwn swm a drosglwyddwyd tuag at ddileu rhan o'r ddyled bydd yn aros ar yr ystafell. Rhwydd hynt fyddo i'r cyfryw ymdrechion gyda phob achos da, a beudith yr Arglwydd a'u dilyno. Y dydd Sadwrn blaenorol, rhoddodd dwy folP- eddiges haelionus, Mrs. Roderick a Mrs. Nevill, wledd ao anrhegion i aelodau yr Ysgol Sul, a chawsom gyfarfod adloniadol yn yr hwyr.
FERNDALE.
FERNDALE. Cynhaiiwyd cyfarfod cystadleijol blynyddol nos Fawrth, Rhagfyr laf. Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. John Rees (Cymro Coch), ncer Ferndale. Beiruiadwyd y gerddoriaeth gan Mr. John Thomas checkweigher, Ferndale, a'r cyfausoddiadau gan y Parch. T. H. Williams (Hani Ael liigli).- Gwobrwywyd yr ymgeis- wyr buddugol fel y canlyn Unawd tenor, Bwthyn bach melyn fy Nhad'; goreu, John Griffiths. Araeth am bum niunyd ar lidaioni yr Ysgol Sulgoreu, Evan Thom-is. Darllen cerddoriaeth ar y pryd goreu, David Griffiths. Am yr atebion goreu i'r 120 o ofyniadau ar 4 Hanes Abraham a roddwydar y pryd goren, William Jam.es. Am adrodd Salm 23ain (i blant dan 12 oed) goreu, John J. Simon. Unawd bass, CAn yr Eyr,' o Ymgom yr Adar;' goreu, Evan Thomas. Am y llythyr caru goreu rhanwyd y wobr rhwng tri. Deuawd, Betty Wyn rhanwyd y wobr rhwng David a'i gyfaill a Uaniel James a'i gyfaill. Am y ddadl ddjfyfyr, rhanwyd y wobr rhwng Evan Thomas a Gomer James, Unawd alto I Eto mae lie'; rhanwyd y wobrrhwng pump. Am adroddiad o I Ymsorn y llofrudd goreu, Evan Thomas. Ni ddaeth un ccir ymlaen i gystadlu ar y prif ddarn. Yr elw a wnaed ydoedd tua lOp. Gwnaeth Mr. Griffith, y tryaorydd, a Mr. Jones, yr ysgrifenydd, eu gwaith yn ganmoladwy iawn.—Didymus.
YSTRADYFODWG.
YSTRADYFODWG. MAP NVOLAI,"I'll.-liTaO f-)'O-,Iyln yr wythnos hon y nowydd galarus o gofuodi marwolaeth a chladd- edigaeth Miss Maggie ReeH, ail ferch y Parch. John Rees, Eglwys y Plwyf, yr hwn sydd yn gymeradwy iawn yn y plwyf. Yr oedd ein chwaer ieuanc yn ei hugeinfed flwyddyu o'i hoedran, ac yn un a berchid yn fawr gan bawb. Yr oedd wedi dioddef llawer o wendid corfforol am flynyddoedd, ond tna diwedd y daith diodd- efodd gystudd caled yn amyneddgar, gan roddi ei hyder ar y Gwaredwr boreu dydd Mercher, y 27ain o Dachwedd. Cydymdeimlir yn fawr A Mr. a Mrs. Jones a'r teulu yn eu profedigaeth. Dydd Llun eanlynoi, daetb tyrfa Inosog ynghyd i dalu y gvmwynas olaf i'r hyn oedd farwol o honi. Gwasanaethwyd wrth y t.t gan y Parch. T I Williams, Ystrad RUv»fld», m wrth f bedd gan y Parchn. Brifgantor Lewis, ficer — Rogers, Llwynypia Jenkins, Llantwit- Vardre. Yr oedd yno lawer o dorchflodau. Gwelsom yno un hardd mewn gwydr wedi cael ei roddi gan bobl ieuainc y cyfarfod gweddi boreu Sul, ac hefyd oddiwrth Mr. Lewis, o Dre- harris, a llawer eraill. Heddwch i'w llwch. Y nos Sul canlynol, yn hen Eglwys y Plwyf, pregethodd ein Ficer, y Parch. W. Lewis, D.G., y bregeth angladdol i gynulleidfa fawr, lie yr arwyddion o alar dwys. Duw a fyddo yn gynorthwy i'w was, ein bugail, ac a'i gwnelo eto yn ddefnyddiol yn Ei law i gael dynion lawer i gofleidio'r Efengyl.-B.O.J.
ABERTAWE.
ABERTAWE. Cynhaliwyd nodachfa yn yr Albert Hall, ar y lOfe 1 a'r lleg cyfisol, er casgiu arian tuag at adeiladu neuadd blwyfol ymhlwyf St. Mark. Agorwyd y nodachfa gan Faer y dref. Trwy sel ac ymdrech plwyfolion St. Mark's, dan nawdd Mrs. Meredith Williams, a chynorthwy Mrs. Joseph Davies ac eraill o'r dref, yr oedd y lie yn orlawn o bethau da a defnyddiol. Trodd y nodachfa allan yn liwyddiant ymhob ystyr.
LLUNDAIN.
LLUNDAIN. Nos Iau, Rhagfyr 3ydd, yn Tolmer's-square Institute, Drummond-street, N.W., cynhaliwyd Eisteddfod y Genhadaeth Eglwysig Gymreig, cysylltiedig ag Eglwys Dewi Sant, St. Mary's Terrace, Paddington Green, W. Noddwyr Y Due o Westminster, Syr J. D. T. Llewelyn, Barwnig, Syr John H. Puleston, A.S., Ar- glwyddes Waddolog Penrhyn, yr Anrhyd. Adela Douglas Pennant; a Miss Frances E. Wynne. Cadeirydd, Mr R. 0. Davies. Arweinydd, y Parch T. Edwards (Gwynedd). Y beirniaid oeddynt: —Rhyddiaeth, y Tra Pharchedig Ddeon Bangor, yr Hybarch Archddiacon How- ell, a'r Parch. T. Closs, Caterham; barddon- iaeth, Tndno, Gwilym Berw, a Gwynedd: cerddoriaeth, Mr Dyfed Lewis amrywiaeth, y Parchn. T. Closs. M. Roberts, E. K. Roberts, E. Jones, y Dr. Williams, Mr W. Rees (Llew Caron), Mrs Crowle Ellis, a Mrs Closs. Cyf- eilyddes, Miss Alice Newson. Yr oedd y gweithrediadau fel y canlyn Anerchiad gan y cadeirydd. Cystadleuaeth adrodd Y fam a'r gloyn byw.' Goreu, Miss Mary Pierce, St. David's. Cyfieithiad Cymreig. Goreu, MrJohn Jones, Eldon-street. Unawd soprano, 'Y 'deryn pur.' Goreu Miss Deborah Rees, Islington. Englynion, Y Meddyg.' Nid oedd neb yn deilwng o'r wobr. Traethawd, 'Prif nodweddion yr epistol cyntaf at y Corinthiaid.' Annheilwng o'r wobr. Unawd soprano, Mam y morwr.' Goreu, Miss Annie Price, Charing Cross. Tea Cosy.' Goreu, Mrs Witliams, St. David's. Adroddiad difyfyr. Rhanwyd y wobr rhwng Mr John Jones, Eliion street, a Mr Owens. Pedwarawd, y don 'Holloway.' Goreu, Parti Barret's Grove. Traethawd, 'Hanfodion cartref dedwydd.' Goreu, Miss Maggie Williams, St. David's. Cyfieithiad Seisnig. Goreu, Mr John Jones, Eldon-street. Unawd tenor, Y Gwladgarwr.' Goreu, Mr John Evans, Chelsea. Adroddiad, Morfa Rhuddlan.' Rhanwyd y wobr rhwng Mri D. Davies a J. Jenkins. Traethawd, Prif elfenau llwyddiant.' Goreu, Llew Caron. Englyn, Y Fegin.' Neb yn deilwng o'r wobr. Deuawd, Y Ddau Lowr.' Goreu, Mri Pierce a Jenkins, St. David's. Dictation Cymraig. Goreu, Mr Watkins, Charing Cross. Penillion er cof am Glanffrwd. Goreu, Mr John Jones, Eldon-street. Unawd, bass, 'Y Milwr.' Goreu, Mr Arthian Davies, Chelsea. Araeth ddifyfyr. Goreu, Mr Watkins, Charing Cross. Goleu yn y glyn.' Dau gor, sef Falmouth- road Juvenile Choir, a Holloway Juvenile Choir. Goreu, cor Holloway dan arweiuiad Mr Jenkins. Pebyll yr Arglwydd.' Pump ccir yn cystadlu. sef corau Eglwys Dewi Sant, Barret's Grove, Falmouth-road, Holloway, a Charing Cross. Goreu, Falmouth-road, dan arweiuiad Mr D. Thomas. Daw dydd ar ol y nos.' Cystadleuodd dau barti, sef Chelsea Boys a Barret's Grove. Goreu, Barret's Grove, dan arweiniad Mr D. Jones. Gwnaeth Gwynedd ei waitb yn rhagorol. Yr ydym yn diolch yn wresog i'r dorf fawr oedd yn bresenol am ymddwyn mor anrhydeddus. Feliy y terfynodd un o'r eisteddfodau goreu (ymhob ystyr) a gynhaliwyd yn y Brifddinas erioed medd yr-Hen Wr. O.Y.-Cawsorn y fraint o eistedd dan weinid- ogaeth y Parch. T. Edwards (Gwynedd) y Sul, y 6eclcyfisol, am 11 yn y boreu, a 6.30 yn yr hwyr. Yr oedd yr eglwys yu orlawn o wrandawyr astud, y gwasanaethau yn gorawl, y canu fel arferol yn hwylus, a'r pregothau yn addysgiadol.—H. W.
Eisteddfod Dowlais.
Eisteddfod Dowlais. Dydd Llun, Rhagfyr 7fed, cynhaiiwyd Eis- teddfod fawreddog ya Neuadd yr Odyddion, Dowlais. Er fod yr hin yn anffafriol, yr oedd yr adeilad yn orlawn trwy'r dydd. Beirniaid y gerddoriaeth oeddynt y Mri. L. J. Roberts, B.A., G.T.S.C., a Tom Price, G.L. barddon- iaeth—y Parch. J. E. Jenkins (Creidiol), a Mr. C. Wilkins; riiycldia.itti-N.Iii C. Wilkins a W. Morgan adroddiadau—y Parch. Ll. M. Williams a J. E. Jenkins. Cyfeiliwyd gan y Mri W. Morgan a Harry Evans. Y llywydd oedd Mr T. Jenkins, C.S., Pantyscallog, a'r arweinydd oedd Mr W. Morgan, Uwch Gwnstabl. Cafwyd anerchiad dyddorol yn y dechreu gan y llywydd. Yna canwyd cAn agoriadol gan Miss Kate Morgan. C, Uuawd soprano, 'Y Rhosyn Unig' gwobr hauer gini. Y goreu allan o ddeg o ymgeiswyr oedd Miss Helen Jones, Penheolgeryg, Merthyr. Adroddiad, 4 Gorphenwyd — gwobr, 5s. Goreu, George Hicks. Unawd ary berdoneg, 'Clement's Sonatina No. 2'—gwobr, haner gini. Goreu allan o 10 o ymgeiswyr, Mr Evan Rees Edwards, Tredegar. Traethawd, The principal inventions of the Nineteenth Century'—gwobr, un gini. Goreu, Clementus.' Unawd ar y crwth, fantasia ar 4 My Pretty Jane '—gwobr, haner gini. Goreu, Mr Edward Morgan. Traethawd, The History of Dowlais '— gwobr, pum' gini. Goreu, y Parch. Matliew Davies, Cetu. Adroddiad, Scott's M:al.'mion '-gwobr. haner gini. Rhanwyd y wobr rhwng Miss Harriet While, Mri J. S. Rees, Rhymney, a W. Lewis, Merthyr Vale. Cystadleuaeth gorymdeithiol Drum and Fife Bands—gwobr, haner gini a bathodyn arian. Dyfarnwyd y wobr i'r Dowlais Band. Unawd tenor, 0 na b'ai'n haf o hyd'-gwobr, 10s. 6c. Y goreu allan o 88, Mr, Evan Rees F Traethawd, Y dull goreu o wario y Llun gwyl fisoJ '-gwobr. gini. Goreu oil, Mr lorwerth Edwards, Rhymni. Deuawd, Go, baffled coward, go '—gwobr, haner gini. Goreu o 10, Mri E. R. Evans ac E. Thomas. Cystadleuaeth Drum and Fife Bands,- Harlech,' Llw-yrj. Onn,' a 1 Caerphilly March (Peter's arrangement). Dyfarnwyd y wobro £ 5 a batbodyn aur i'r Llansamlet Band; a'r ail wobr o 12 a bathodyn arian i'r Mountain Ash Band. Parti o wyth, Cerdd at mam a'r llythyr yma'—gwobr, giui. Goreu, parti Mr E. R. Evans. Prif ddarn corawl, Y Gwlitbyu '-gwobr, t20 a bathodyn aur. Y goreu o saith, y Dowlais Minstrels o dan arweiniad Mr David Lewis. Adroddiad, 'Casabianca 'gwobr, 5s. Goreu o 17 oedd George Hicks. Cadeirio y bardd buddugol ar yr arwrgerdd i 4 Buddug '—gwobr, cadair gerfiedig gwerth deg gini. Goreu o 13, Mr Michael Thomas, Merthyr Vale. Uchel ganmolid cyfansoddiad Mr J. E. Samuel, Dowlais. CYFARFOD YR HWYR. Llywyddwyd gan yr Henadur Gwilym C. James. Agorwyd y cyfarfod drwy i Miss Annie Hill ganu Llythyr fy mam.' Yna cafwyd anerchiad pwrpasol gan y cad- eirydd. Adroddiad, 4 Ymson y Ilofrudd '—gwobr, 10s. 6c. Y tri goreu o 30 oeddynt Mri. Thomas Hughes, William Jenkins, ac un arall. Unawd bass, Breuddwyd y morwr bach '— gwobr, 10s. 6c. Y goreu o 25 oedd Mr David Thomas, Penydarren. Triawd, I Disdainflll of danger' -gwobr, 15s. Y goreu o ddeg parti ydoedd Mr D. Thomas a'i gyfeillion. Unawd alto, 4 He was despised '—gwobr, 10s. 6c. Y goreu o ddeg ydoedd Miss Edith Maud Jones, Dowlais. Can, < Y wlad well,' gan Miss Annie Hill. Cystadleuaeth corau y plant. Daeth pedwar cor i'r llwyfan i ddadganu, They that wait upon the Lord'—gwobr, X3, a baton hardd. Rhanwyd y wobr rhwng cor Bethania a'r Young Choristers. Cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r llywyddion am eu gwasanaeth gan yr arwein- ydd, yr hyn a eiliwyd gan y trysorydd, Mr. T. Evans, Gwent House. Yna terfynwyd Eis- teddfod wir lwyddianus. Dywedir fod Mr. Gwilym James am roddi y baton arall. Mae clod nid bychan yn ddyledus i'r ysgrifenyddion, y Parch. W. L. Hughes a Mr W. L. Walters, am eu Uafur gwerthfawr yn trefnu a pharotoi gogyfer 4'r Eisteddfod, sef y,gyntaf o'r Eistedd- fodau Uudebol blynyddol a gynheliryn Nowlais. Yr oedd y derbyniadau dros £100 ac ar ol talu y treuliadan, trosglwyddir y gweddill at yr Eis- teddfod nesaf.-Eisteddfodivr.
TRWYN MR. GEORGE AR Y MAEN…
TRWYN MR. GEORGE AR Y MAEN LLIFO. 4' HOELIO CELWYDD ARALL AR Y COUNTER." DADLENIAD TWYLL Y "GWR DOETH" GAN Y DEON OWEN A MR. R. B. DIXON. Mewn iaith wawdlyd a earhaus, dywedodd Mr. George, yr Aelod Seneddol dros Fwrdeis- drefi Caernarfon, mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Rhyl a Dinbych yn ddiweddar, fod pwyllgor y Gyngres Eglwysig yn Rhyl wedi gwneyd arian drwy ganiatau i dafarnwr godi pebyU i werthu cwrw ar dir y Palace and Summer Gardens yn ystod cynhaliad y Gyngres, a bod yr elw wedi ei drosglwyddo i drysorfa y Gyngres. Dengys y ddau lythyr isod, y rhai a gyhoeddir yn Saesneg, rhag gwneyd cam i'r gwreiddiol, nad oes unrhyw sail i haeriadau Mr. George MR. LLOYD GEORGE, M.P., AND THE CHURCH CONGRESS. SIR,—At a Liberationist meeting held at Rhyl, on November 10th, Mr. George charged the Rhvl Church Congress Committee with having made money by the sale of beer. I gave, on behalf of the committee, at a Church Defence Meeting held at Rhyl on December 4th, 'the most direct and unqualified contradiction to this definite charge of Mr. George's, and added that 'there was not a particle of truth in it.' In the face of this contradiction, Mr. George is reported to have said in a speech at Denbigh, on December 11:—4 If my information be correct. the Committee did make money by the sale of beer, for they stipulated for the payment to them by the beer-booths' con- tractor of a substantial sum of money for the use of the ground.' I neither know nor care what flimsy gossip, provided it be scurrilous, Mr. George is pleased to dignify with the phrase my information.' Before Mr. George spuke at Rhyl, the Congress Committee printed and circulated a balance sheet of all their re-! ceipts and expenditure. Three weeks before Mr. George spoke at Denbigh, the balance sheet was published in the Official Congress Report, page xviii. The balance sheet clearly proves that the Congress Committee never received a penny, directly or indirectly, from any 1 beer- b,),)th, o tractor or from anyone else, for the use of the grounds and let me add that I am in a position to prove, indisputably, if Mr. George desires, that the committee never 4 stipu- lated for the payment to them of a single penny, directly or indirectly, for the use of the grounds for any purpose. Did Mr. George, when speaking at Denbigh after my contradiction, mean on the strength of his IiiiforLuation to charge Mr. R. B. Dixon, Chairman of the Finance Committee, and Mr J. Prytherch, manager of the London and Provincial Bank, lhyl, the auditor, who jointly signed the balance sheet, with having conspired with the Congress Committee to falsify the Congress balance sheet ? Mr. Lloyd George has deemed it his duty as Liberationist advocate to blacken the character of Welsh Churchmen, lay and clerical, with great diligence in order to promote separate Disestablishment in Wales. As a rule, his charges are too sweeping to admit of definite disproof but on this occasion by repeating, after contradiction, a definite slander, he has laid himself open to the Nemesis of complete exposure. The vast majority of Welsh Noncon- formists in and out of the. Carnarvon Boroughs will agree with Dr. Parker's recent saying that he knew of no folly this side of the bottomless pit so great as to seek to promote Disestablish- ment by blackening the character of the clergy. The inconsiderable minority, who perchance will not subscribe to this doctrine, will probably perceive the illadvised recklessness of so clumsily blundering in blackening character as to be found out. The utter inability of Mr. Lloyd George to distinguish between fiction and fact in regard to the Church Congress Committee will show the public how completely unraliable are the sweeping asseftto w&efa À" p ? the habit of making concerning the character of Welsh Churchmen.—Yours, &c., J. OWEN. The Deanery, St. Asaph, Dec. 15, 1891. RHYL CHURCH CONGRESS. Sir,—Mr. Lloyd George, M.P., stated at Rhyl, and is reported to have repeated at Denbigh, that the Church Congress Committee 1 9 made a profit out of the sale of beer in the Congress grounds. I find it incumbent upon myself, as Chairman of the Finance Committee, to take this opportunity of stating that this assertion is absolutely and entirely untrue. The Church Congress Committee neither received, nor stipulated to receive, a single farthing, either directly or indirectly, from anybody for the use of the Congress grounds for the sale of any kind of refreshments.—Yours, R. B. DIXON, Chairman of the Finance Committee. Oldcroft, Bhyl, December 15, 1891.
1HAELIONI MISS TALBOT.
1HAELIONI MISS TALBOT. Deallwn fod Miss Talbot, Margam. Abbey, wedi rhoddi dau acer o dir mewn man hynod gyfleus i adeiladu arno ysgol ganolraddol yn Gowerton.
AGORIAD Y SENEDD.
AGORIAD Y SENEDD. Sibrydir y bydd i'r Senedd nesaf gael ei agor gan y Frenhines ei hun, ac hefyd y bydd i gais gael ei roddi i'r Senedd am waddol bychan i Dduges ddyfodol Clarence, er mwyn gwneyd darpariaeth ar ei chyfer pe digwyddai i'r Due farw.1
LLEYGWYR A DARLLEN YN YR EGLWYS.
LLEYGWYR A DARLLEN YN YR EGLWYS. Y mae yr Esgob Ryle, Lerpwl, yn ol y llythyr a gyhoeddodd, yn dweyd ei fod ef yn cael ei gynghori fod caniatau i leygwyr ddarllen gweddiau a phregethu yn yr Eglwys yn anghyfreithlawn Ond nid oes ganddo ef unrhyw wrthwynebiad i leygwyr ddarllen y llithoedd
—. ", CERYDD AM BRIODI.
— CERYDD AM BRIODI. Am iddynt briodi heb ganiatad Gwar- cheidwaid Llanelwy, galwyd ar yr ysgol- feistr a'r nurse yn y cyfarfod diweddaf i anfon eu hymddiswyddiad i mewn, y naill ymhen chwe' mis, a'r diweddaf mewn tri mis. Ond odid na chymerir trugaredd ar y 4 par dedwydd trwy eu hail-ethol yr adeg hono.
CYNRY.CHIOLAETH BWRDEISDREFI…
CYNRY.CHIOLAETH BWRDEIS- DREFI CAERFYRDDIN. Cynhaliodd Rhyddfrydwyr Undebol a Cheidwadwyr bwrdeisdrefi Caerfyrddin a Llanelli gyfarfod yn y lie blaenaf ddydd Mawrth diweddaf, a phenderfynasant yn unfrydol i gymell Syr John Jones- Jenkins i ddyfod allan fel ymgeisydd Undebol yn yr etholiad nesaf. Nid yw yn annhebygol y gwrthoda Syr John y cynyg hwn.
PRIODAS Y PARCH. E. ARNOTT,…
PRIODAS Y PARCH. E. ARNOTT, MERTHYR VALE. Dydd Mawrth diweddaf, yn Eglwys St. Mair, Caerdydd, unwyd mewn glan briodas y Parch. Edwin Arnott, B.A. (curad-mewn-gofal, Merthyr Vale), a Miss Maud Alice, ail ferch Mr. Thomas Gough George, marine surveyor. Gweinydd- wyd y briodas gan y Parch. L. A. Rees, M.A. (ewythr y briodferch), yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. D. J. Jones, caplan plwyfol Caerdydd. Derbyniodd y briodferch luaws o anrhegion costfawr.
ARGLWYDD FAER LLUNDAIN.
ARGLWYDD FAER LLUNDAIN. Y dydd o'r blaen, galwodd dirprwyaeth ddylanwadol o Benybont-ar-Ogwy, yn cael ei blaenori gan y Barnwr Gwilym Williams a Syr Morgan Morgan, gydag Arglwydd Faer Llundain (yr Henadur Evans) i'r pwrpas o'i wahodd i lywyddu yn Eisteddfod Penybont-ar- Ogwy. Diolchodd y priflynad Llundeinig i'w gydwladwyr am eu gwahoddiad, a dywedodd ei fod eisoes wedi rhoddi ei air i ymweled a Chaernarfon, Rhyl, Aber- honddu, a lleoedd eraill yn y Dywysog- aeth yn ystod tymor ei swyddogaeth, ac os y gellid gwneyd trefniadau, byddai yn falch ganddo ymweled a, Phenybont-ar- Ogwy. Deallwn fod ei arglwyddiaeth wedi crybwyll wrth Syr John Puleston, A.S., ei fwriad i lywyddu yn un o gyfar- fodydd Eisteddfod Rhyl, ac yn ddilynol bydd iddo fyned gyda Syr John Puleston i weled Castell Caernarfon.
RHEITHOR NEWYDD LLANENGAN.
RHEITHOR NEWYDD LLAN- ENGAN. Ychydig amser yn ol, eofnodwyd yn y LLAN am ddyrchafiad y Parch. H. G. Williams, rheithor Radyr, ger Caerdydd, i'r fywoliaeth uchod. Gwasanaethodd y swydd o Reithor yn Radyr gyda ffydd- londeb dihafal am 11 mlynedd, a bu Eglwys St. Michael, Tongwynlais, dan ei ofal am chwe' mlynedd. Drwy ei weinid- ogaeth afaelgar, ei garedigrwydd, a'i serchogrwydd, enillodd serch y plwyf- olion yn gyffredinol, a dangoswyd hyny mewnmodd sylweddol ychydig ddyddiau yn ol. Cynhaliwyd cyfarfod ymadawol i'r gwr parchedig dan lywyddiaeth Mr. H. Lewis, Green Meadow, pryd yr anrhegwyd ef, ar ran ei blwyfolion yn Radyr, ag awrlais gwerthfawr, ynghyd a screen hardd. Hefyd cyflwynwyd iddo, ar ran cynulleidfa Eglwys St. Michael, anerchiad goreuredig ysblenydd, o wneuthuriad y Mri. Daniel Owen a'u Cwmni, Caerdydd. Cafwyd anerchiadau pwrpasol yn y cyfarfod, ac amlygwyd gofid, dtiuut oherwydd ymadawjad Mr. Williams a'i deulu hoff. Yr wythnos ddiweddaf, gosodwyd y Parch. H. G. Williams mewn meddiant o fywoliaeth Llanengan gan Arglwydd Esgob Bangor, a gallwn yn ddibetrus longyfarch plwyf- olion Llanengan ar eu ffawd dda o gael boneddwr fel Mr. Williams yn eu plith, gan ei fod yn un o wir weision yr Arglwydd, yn bregethwr yn y ddwy iaith, ac wedi ei wreiddio yn ddwfn mewn egwyddorion Eglwysig. Cyn ei cidyrchafiad i Radyr, gwasanaethai Mr. Williams fel curad i'r Hybarch P. C. Ellis, ficer parchus a hyglod Llanfair- fechan, ac ar ol treulio un mlynedd ar ddeg yn Neheudir Cymru, da genym ei fod wedi ei ddyrchafu i fywoliaeth bwysig yn ei sir enedigol. Dymunwn iddo bob llwyddiant yn ei faes newydd; a bendithied yr Arglwydd ei lafur er achubiaeth eneidiau lawer. Uwch, uwch, uwchach yr el Nes dringo i gadair angel.'
CYMDEITHAS OFFEIRIAID ABERTAWE.
CYMDEITHAS OFFEIRIAID ABERTAWE. Cynhaliodd aelodau y gymdeithas uchod ei gyfarfod misol am y mis hwn yn 1, Grove Place. Yn absenoldeb y Parch. Watkin Jones, darllenwyd y rhan apwyntiedig o'r Testament Groeg gan y cadeirydd, y Parch. T. Meredith Williams. Gwnaed sylwadau tarawiadol ar y benod gan y Parchn. G. Wolf, G. Roberts, D. W. Morgan, A. A. Mathews, T. Jones, R. Jacket, a Mr. John Evans. Darllenodd Mr. Jones, Clydach, babyr ardderchog ar 'Fedydd Babanod.' Gwahoddwyd yr aelodau i de ar ol y cyfarfod gan y Parch. A. A. Mathews. Mae dyddordeb yn cynhyddu yn y gymdeithas, a'r aelodau yn teimlo eu bod o fawr adeiladaeth. Cynhelir cyfarfod Ionawr yn Ficerdy St. Mark, Abertawe, ar yr lleg.
LLOFRUDD TYBIEDIG YN YMGROGI.
LLOFRUDD TYBIEDIG YN YMGROGI. Tua pymthegnos yn ol, cafwyd corff marw hen wr, o'r enw William Jones, ar y rheilffordd rhwng Moss a Gwrecsam. Meddylid ar y pryd mai clefyd y galon oedd achos ei farwolaeth, 'ond wrth ei chwilio canfyddwyd cleisiau ar y corff, a dechreuwyd amheu ai nid wedi ei lofruddio yr oedd. Ymhen ychydig ddyddiau, cymerwyd cydweithiwr o'r enw Peter Thomas Williams, yr hwn a welsid olaf gyda'r hen wr, i garchar ar y cyhuddiad o lofruddiaeth. Dygwyd ef gerbron yr ynadon, a chafodd yr achos ei ohirio hyd Ragfyr 8fed. Diweddodd yr achos, fel y mae mwyaf gofidus adrodd, mewn cyflafan arall. Prydnawn ddydd Llun (y 7fed), cafwyd Williams wedi ymgrogi yn un o'r passages sydd yn Ngharchardy Gwrecsam. Y mae'r achos o'i ddechreu i'w ddiwedd wedi peri syndod a gofid dwys trwy yr ardal.
YR YSTORMYDD.
YR YSTORMYDD. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf? gwnaeth yr ystormydd ddinystrdychryn- llyd drwy yr holl wlad, ac y mae newydd- ion trist yn dyfod i law bob dydd am golledion dirfawr mewn llongau a bywyd- au ar y mor. Gwelwyd fod llong mewn perygl yn ymyl bau Lerpwl, tuag 11 o'r gloch boren dydd Iau. Galwyd dwylaw bywydfad New Brighton ynghyd, ond yn lie myned yn ddiymdroi yn y cwch i'r mor, dechreu- asant ffraeo a'u gilydd. Parhaodd y ffrae yn hir. Gwrthodai rhai o honynt fyned allan. Yn y diwedd, cafwyd digon i reoli y cwch, ac aethpwyd allan. Nl chlywyd eto beth ddaeth o honynt. Dydd Llun diweddaf, aeth yr Hannah Landles,' ar y Burbo Bank, Lerpwl- Dydd Iau, yr oedd y tywod wedi ei llyncu i fyny bron i gyd. Aeth yr hwyl-long ysblenydd DomiB" ion' allan o Sunderland am saith o'r gloch boreu dydd Mawrth, a chyn pump o'r gloch, derbyniwyd brysneges ei bod ar 7 lan yn ymyl Blyth. Y mae y dwlylaw 1 A gyd yn ddiogel. Costiodd y lIong £ 42,000. Perthynai i'r Mri. William Thomas a'i Gwmni, Lerpwl.
CYMDEITHAS PRIFYSGOL RHYD-YCHAIN…
CYMDEITHAS PRIFYSGOL RHYD- YCHAIN ER AMDDDIFFYN YR EGLWYS YN NGHYMRU. Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaf am 7 tymor hwn nos Fawrth, Rhagfyr 8fed, yJ1 ystafell Mr. T. E. Swanzy, Coleg St. loan- Mr. Church Jones yn y gadair. Ar ol i r ysgrifenydd (Mr. B. Jones) ddarllen 7 cofnodion, etholwyd pump o aeloda11 newyddion. Yna etholwyd y rhai can- lynol yn swyddogion am y tymor nesaf • —Is-gadeirydd, Mr. Church Jones; trysorydd, Mr. J. D. Jones ysgrifenydg: Mr. F. D. Evans pwyllgor, Mr. J. Hatton, B.A., G. H. Davies, H- Humphreys, a J. H. L. Edwards. absenoldeb y Parch. W. E. Scott-Hall» J, hwn oedd i ddarllen papyr, Mr. J. J. Jones fod cangen ynglyn a'r Gymdeithas i gael ei sefydll, Bu dadl wresog rhwng y Mri. J. D. j F. D. Evans, B. Jones, Church Jonesf d R. K. W. Owen, ar y mater ond gan fod gryn walianiaeth barn ar y mater, cynje. iodd Mr. B. Jones fod y mater i gael ohirio hyd y cyfarfod cyntaf yn y ty113 nesaf, a chariwyd hyn yn unfrydol.
[No title]
Un tro, gofynodd meddyg i glaf,' Web ^Zj ydych chwi yn teimlo heddyw ?' 4 y fel wir, syr,' atebai y claf lyr wyf yn teiow pe buaswn wedi marw er's wythnos I* fØ Yr wythnos ddiweddaf, anfonwyd bychan, chwe' blwydd oed, i'r ysgol anaJ cyntaf ac ar ei ddychweliad adref, &oij i'w fam,' Pwy a ddysgodd y llythyrenau l cyntaf?' v dra«tb Y mae Montano yn fwy na ym, Twrci; Texas yn fwy na holl Awstria o 80,000 o filldiroedd ysgwar; a Newydd yn fwy na Phrydau* fawr a'rlwer gy<k'u gilydd, f.