Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-----_.. Llith gan Elis Wyn…

MARCHNADOEDD.

____--------GOHEBIAETH 0 WENT…

News
Cite
Share

GOHEBIAETH 0 WENT A MORGANWG. PWYLLGOR EISTEDDFOD ABERTAWE. Y mae yn ddrwg genyf, er mwyn llwyddiant yr eisteddfod am y flwyddynhor, fod anghydrod wedi cymeryd lie yn y pwyllgor rhwng yr An- nibynwyr sydd arno o barth i benodiad ysgrif- enydd cynorthwyol. Yr wyf yn deall fod pob enwac1 am ei ddyn. Mae sectyddiaeth yn lladd pob peth yn Nghymru, ac yn peri i ddynion gashnn vn lie caru eu gilydd, fel y dylai Crist- 11 ionogion wneyd. Nid oes un Efengyl lie nad oes lieddwcu. Y mae seqtyddiaeth yn ddrwg mawr am ei bod yn achosi ymrysonau a chynenau. Nid yw y sectau yn cytuno â'u gilydd mewn dim, omel yn eu hymosodiadau ar yr Eglwys— yma ymg.yplant vnghyd fel Herod a Philat ac os na fycld yr Eglwys ar y llawr dyrnu i guro arni, ymrafaeliant a'u gilydd. Mae yr un peth i ddisgwyl i'r llewpard newid ei frychui ag i'r sect-ju gyd-dynu a'u gilydd yn hir. Y mae ym- rwygo ac ymbleidio yn naturiol i'r enwadau Cymreig. Yr oedd yr eisteddfod yn arfer bod yn. rhydd oddiwrth surdoes sectol, ac yr oedd pawb yn gallu sefyll yn gyifredin ar yr un llwyfan, ond mae yr ysbryd sectol wedi lefeinio yr eisteddfodau lieol er's biynyddoedd. Person- al! perthynol i'r enwad sydd ar eu pwyllgorau, un o'r sect sydd yn llywyddu, ac y mae y beirn- iaid yn wastad yn perthyu i'r enwad sydd yn cynal yr eisteddfod. Os caiff sectydcliaetli ei fforclcl, bydd yn sicr o laddt yr Eisteddfod Genedlaethol, ADDYSG GREFYDDOL YN YSGOLION Y BYRDDAU. Y camsvniad gwaethaf a wnaetbpwyd mewn cysylltiad ag addysg oedd cau y Beibl allan o Ysgolion y Byrddau. Am ugain mlynedd bu y Byrddau yn hau y gwynt, ac yn awrrhaid medi y corwynt. Nid oes amheaaeth nad oes canoedd, os nad miloedd, o blant wedi tyfu i fyny i oedran pwyll, heb wybod dim am Dduw, nac am Feibl. Pan mae dynion yn myned oddi- cartref i blesera, stwffiant gymain^; o bethau i'w carpet bctg8, felly mae gydag addysg. Ystwffir penau plant a gwybodaeth neillduol, erbyn diwrnod neillduol, ond y cwestiwn pwysig yw faint o gymeriadau sydd yn cael en ffurfio ? Faint sydd yn cael eu dysgu i fod yn onest, yn eirwir, ac yn cyflawni eu dylectiswyvddati yr un fath yn absenoldeb eu meiatr a phau y mae yn y olw, ? ANFOESOLDEB YMHLITH PLANT. Mae llawer iawn o anfoesoldeb yrnhlith plant —llawer mwy nag oedd ddeng mlynedd ar hugain yn ol. Yr amser hwnw, md oedd y plant yn arfer tyngu a rhegu. Yr oeddynt yn ca'el eu dysgu i ofni Dnw a pharchu llyn, ond nid yw felly yn E-.wr. oes dim parch yn cael ei dalu i urddas. Da genyf weled fod Bwrdd Ysgol Ystradyfodwg wedi penderfynu, gyda mwyafrif mawr, fod i addysg Feiblaidd gael ei chyfranu o hyn a!lan yn ei ysgolioa ac y mae y Beibl i gael ei ddysgu yn ysgol Bedlinog. Mae hyn yn profi fod y teimlad o blaid addysg grefyddol yn myned ar gynydd. COFADAIL I GLANFFRYVD. Bwriedir cael cofadail genedlaethol i'r bardd Glanfft'wd. Yr wyf yn gwybod fod llawer o Gymry euwog fu o wasanaeth annhraethol i Gymru heb un cofadail i'w cadw mewn cof. Ni chafodd yr enwog Carnhuanawc, yr hanesydd, ddirn ond careg fechan i nodi Man fechan ei fsdd y llenor a'r bardd, a'r llenor dysgedig, loan Tegid, yn mynwent Nanhyfer. Dim wedi cael ei godi yn Llanymddyfri i gadw yr hen Ficer mewn cof. Ni chlywais son fod cofgolofnau er cof am Gwallter Mechain, Ab Ithel, a Glangeirionydd. Bu y rhai ucliod o wasanaeth mawr i'r genedl, ond cawsant eu hanghofio gan eu cydwladwyr. FICERIAETIi LLANOPER. Y mae y ficeriaeth uchod yn wag, trwy benod- iad y Parch. Josuah Evans, cyn-iioer Llanofer, i fywoliaeth St. James, Pontypool. Y fatb gyfnewidiad sydd wedi cymeryd lie yn Esgob- aeth Llandaf i'r hyn oedd pan oedd Saeson yn cael eu penodi i fywoliaethau Cymreig Yr oedd y Dr. Oasperd, rheithor Penmarc, yn dal, bywoliaethau Trefethin, Maenhilad, a Llan- ofer yr un amser. Nid oedd ef yn gallu siaracl Cymraeg. Yn Hodus, y mae yr amser hwnw 11 wedi myned heibio, ac y mae dyddiau gwell wedi dyfod o amgylch ar yr Eglwys. Y DIWEPDAR MILWRIAD TYNTE. Ceisia y Radicaliaid a'r cynhyrfwyr tirol ber- swadio y werin fod perchenogion tiroedd yn elynion naturiol i'w deiliaid. Fel hyn y maent yn ceisio Gwyddeleiddio Cymru, a'i gwneyd fel yr Twerddon. Mae y cynhyrfiadau hyn yn talu eu ffordd i lawer ysgreglyn Godwyd i'r lan I gael te a bar a can I. 0 fol y claw' Y diwrnod o'r blaen, cymerodd angladd y Milwriad Tynte Ie yn Llanfihangel-y-Fedw. Yr oedd ei ddciliaid yn ei garu a'i barchu fel t:1d, ac yr oeddyn" yn wylo dagrau yn ûidl wrth weled y bi-dd yn cael ei chau ar ei weddillion. EGLWYS GTlIlREIG DEWI SANT, CAERDYDI). Y mae yn dda genyf gefnodi fod yr eglwys uchod yn parhau i lwyddo, a'r aelodau yn cynyddu y naiil flwyddyn ar ol y llall. Llwydded y rhai a'th Ixo^fant." Cymerodd cyngerdd le nos Iau. yn yr Ystafell Genhadol, dan lywyddiaeth Mr. Tudor Evans, yn absen- oldeb anocheladwy Syr Morgan Morgan, yr hwn oedd yn wael ei iechyd. HAELIONI ARDALYDD BUTE. Cyfranodd yr Ardalydd Bute £ 50 i'r gweith- wyr oedd yn dioddef oherwydd gerwinder yr hin, heblaw rhoddi swm mawr o lo i'r tlodion yn Roath. KHEIDIOL.

HELYNT Y DEGWM YN NGOGLEDD…

Advertising