Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-----_.. Llith gan Elis Wyn…

News
Cite
Share

Llith gan Elis Wyn o Wyrfai. ALLTUD Eli-JON AC ENGLYN BYR- FYFYR 0 EIDDO Y BARDD. Gwelaf fod fy ben gyfaill byth-ieuanc' Alltud Eifion, yn y LLAN am heddyw wedi anfon i chwi englyn byr-fyfyr o'm ileiddo a gyfansoddwyd genym ddeugain mlynedd i'r haf diweddaf. Ond ni fuaswn yn blino eich darllenwyr a gair ar y pwnc oni bai ysfa hynaf- iaethol a thipyn bach o awydd cywiro. Os ysgrifenodd Alltud Eifion fy englyn fel yr adroddais ef yn fyrbwyll, yn mhorth eglwys Tremadog, y mae yn debyg ei fod yn gywir, fel y dywedais ond, ar ol hyny, mi a drwsiais wisg fy englyn fy hun, ac englyn blaenoroL Eben Fardd ar yr un adeg. Fel hyn yr oedd amgylchiadau y dydd. Yr oedd ynghyd Alltud Eifion, Eben Fardd, Emrys, loan, a rainau, yn cyfarfod ar y diwrnod i gy- hoeddi Eisteddfod Tremadog. Buasai dadleuaeth lied wresog yn y dref ar bwuc ysgolion dyddiol, ac yr oedd peth awel yn aros yn yr awyr—-just digon i godi hwyl, ond dim i flino neb. Yr oedd Eben Fardd a minau ar y ifordd wedi taro ar gyfaill dipyn yn boeth, ac wedi clywed yr helynt, a chymerwyd peth rhan yn y ddadl o'r Catecism yn yr ysgol ddyddiol, a chredaf fod Eben Fardd wedi gweled y gellid codi hwyl ond blino ychydig bach ar Eglwyswr lied groen-deneu. Yr oeddym ar y llwybr tywodog o Bodowen at eglwys Porthmadog, a'r clochdy yn dechreu dyfod i'r golwg allan o'r mangoed o'i amgylch, pan roddwyd challenge gan un o'r beirdd brodorol i Eben Fardd a minau wneyd englyn i'r clochdy. Ebai Eben Fardd, ar y mynyd, gan roddi amnaid ddireidus ataf fi, a rhoddi cic i'r iywod dan ei draed :— Clochdy'r ty ar y tywod," ac ebai wrthyf, "Gorphenwch ef." Yna, wrth fyned ymlaen, gorphenodd ef ei hun yn debyg i hyn, oherwydd llyfnhaodd beth arno wedi hyn Clochdy'r ty ar y tywod,-draw a saif Dwr syth i'w adnabod Synaf fi: gresynaf fod Hardd ddelw mor ddiwaelod." Yr oeddwn i bron a sori, moni, neu bwdu, fel Eglwyswr, ar ganol y llwybr tywodlyd ond daetli yr eglwys i'r golwg, a gwelwn hi yn sefyll ar godiad tir creigiog, a diengais i'r porth i ateb Eben Fardd, a haner ateb y da.dleuon pen- ffordd y cyfeiriwyd atynt. Dyma yr englyn, fel y cedwais i ef, ar ol ail dylino peth arno :— Enwoglawn yw'r hen Eglwys,—ar y graig Fawr ei grym y gorphwys Gorwych y deil holl ymgyrch dwys, 11 Holl uifern a llu aphwys." Ond a ydyw chwedlau henaint yn werth eu dodi ar ddalenau papyr newydd ? Gallai eu bod. Yr oedd Eben Fardd, loan Madog. Eiurvs. ac Alltud Eifion a minau yn myned o'r Eglwys at wely y bardd gorwreiddiog, Sior Wyn o Eifion, i dalu ymweliad ag ef. Fel angel yn ei wely, Y sant teg oedd swyn y ty. Yn awr y mae llwch prif trordd bywyd, a llaid fEosydd byd, y mull wedi gostwng a'r llall wedi ei olchi ymaith o amgylch y pedwar enw- ocaf o'r chwech oedd yno ynghyd. Erys en coiIa yu gysawd tlws cysegredig ymysg y ser a frithant wybr hanesiaeth Eifionydd dalentog. Y mae dadleuaeth chwerw yr oes ynghylch athrawiaetliau yr Eglwys wedi cilio i'r cysgod- ion, ac nid oes dim daearoldeb na sawyr sect- aeth yn ngholfad disglaer llenorion enwog a orphwysant yn awr oddiwrth eu llafur. Paham na, allwn ninau ysgwyd mwy o'n daearoldeb ac anianoldeb oddiwrth ein gwisgoedd cyn gosod y tJ- o glai yn y pridd-disinjectant oesol pob llygredigaeth ? Er nad yw siwrnai oes yn faith, Wrth syllu yn 01 ar hyd y daith, Cawn weled golli yma a thraw Gyfeiihon lawer ar bob llaw Ond eto i iqd, dros ambell nawn, Eu hoff gymdeithas ail fwynhawn. Yn ol i'n cof o amser pell D'ont fel angylion gwlad sydd well, Ily I Oil wedi eu puro a rhyddhau Oddiwrth ffaeleddau bywyd brau A'u holl rinweddau'n goron wen 0 sanctaidd wawl o gylch eu pen, Yn dwyn blaen-brofiad o fwynhad, Gymdeithas felus ty ein Tad.

MARCHNADOEDD.

____--------GOHEBIAETH 0 WENT…

HELYNT Y DEGWM YN NGOGLEDD…

Advertising