Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

NODION 0 DDEONIAETH LL&NRWST.

HIRNAKT.

NEFYN.

LL ANBRYNM AIR.

ABERHONDDU.

News
Cite
Share

ABERHONDDU. CYXGRAIR Y FRIALLEN.—Nos Ferclier, yr 21ain cyfisol, cynhaliodd y cyngrair uchod ei gwyl flynyddol yn y Guild Hall, pryd yr oedd yr ystafell eang yn orlawn o Geidwadwyr ac Undebwyr brwdfrydig. Llanwyd y gadair gan Mrs. Cleasby, Penoyr, y Ruling Councillor, ac yr oedd ar y llwyfan gyda hi, Miss K. F. H. Garnons Williams, Abercamlais, Mrs. Link, Mrs. Webb, Mrs. Davies, y Cadben Hotchkiss, Llanfairymuallt Mr. T. Wood, yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad nesaf; Mr. U. Robbins, cynrychiolydd y Fam Gymdeithas; y Parch. W. Howell, Gaithbrengy Mr. J. Williams, F.R.C.S., ac eraill. Dechreuwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol, y Parch. W. Howell yn arwain trwy ganu yr unawd, a'r gwrandawyr yn galonog yn y cydgan. Yna anerchwyd y cyfar- fod gan Mrs. Cleasby, ac wedi hyny cawsom araith ar ddybenion ac amcan y Gyngrair gan Mr. C. Robbins, a dilynwyd ef gydag anerchiad- au gwresog a gwir nerthol gan y Cadben Hotchkiss a Mr. T. Wood. Terfynwyd y rhan gyntaf o'r cyfarfod trwy ganu "Rule Brittania," dan arweiniad y Parch. W. Howell. Yn ystod yr interval aethpwyd i Lvs yr Ynadon gerllaw, lie yr oedd Mr. Jo)in Williams wedi darparu cligonedd o d^, coffee, &c., ar ein cyfer. Dech- reuwyd yr ail ran trwy ganu "Hen wlad fy nhadau," y Parch. W. Howell eto yn eanu yr unawd, a chawsom ganu hwyliog a chalonog. Yna daeth Mr. Gerald Grace (un o deulu y cricketers hynod) ar y llwyfan, ac aeth trwy lawer iawn o gastiau hynod- sleight-of-hand. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol, ar ol talu y diolchiadau arferol. Dyma un o'r cyiarfodydd mwyaf llwyddianus a gynhaliwyd yn y Guild Hall, ac y mae pob gobaith y bydd Mr. T. Wood yn llwyddianus i'n cvnrychioli yn y Senedd nesaf.

TUKFDRAETH, PENFRO.

[No title]

Advertising

PWNC Y DEGWM ETG.

YR WYTHNOS.

GLYNTAF.

LLANDDANIELFAB.

DOWLAIS.

SANT FFAGAN, ABERDAR.