Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

NODION 0 DDEONIAETH LL&NRWST.

HIRNAKT.

NEFYN.

LL ANBRYNM AIR.

ABERHONDDU.

TUKFDRAETH, PENFRO.

[No title]

Advertising

PWNC Y DEGWM ETG.

YR WYTHNOS.

News
Cite
Share

YR WYTHNOS. TRO GWAEL WIR Cofus gan ein darllenwyr fod pwyllgor o wrthddegymwyr, o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Gee, penaeth y Cyngrair Gwrthddegymol, wedi eistedd am rai dyddiau yn nhref Dinbych, o dan rith gwneyd ymchwiliad i'r achosion a bar- odd i'r Prif Gwnstabl alw am filwyr i gadw'r heddwch yn Llannefydd. Yr oedd pawb yn chwerthin yn uchel am ben y fath solemn farce, oddigerth y pump aelod a wnai i fyny y pwyllgor. Nid oedd ochr ddigrif yr ymdrafodaeth yn weledig iddynt hwy. Edrychai Mr. Gee mor sobor a'r chwedl pobl Sir Gaer, wrth lywyddu, ac ymddangosai y pedwar arall fel pe buasent hwythau yn teimlo fod ganddynt orchwyl pwysig mewn llaw. Dywedai rhai pobl dafod- rydd, er hyny, nad oedd y cyfan ond ym- gais eofn a digywilydd at wyngalchu swyddfa'r Faner ar draul y Sir, ac aw- gryment fod cylchrediad newyddiadur neillduol mor agos at galon y llywydd, a dweyd y lleiaf, a chymeriad a llesiant amaethwyr Llannefydd. Modd bynag, er cymaint y gwawd a wnaed o honynt, aeth y pwyllgor drwy ei waith. Holwyd amryw dystion gwrandawyd areithiau dadleuwyr eyflogedig o'r ddwy oclir a gwariwyd haner can' punt eto o arian y trethdalwyr. Yn ol tystiolaeth Mr. Gee, bu dau o'r pump aelod yn eistedd mewn barn ar y mater, a daethant i'r penderfyn- iad nad oedd rhithyn o achos am alw y milwyr allan. Yr oedd y Fcmer wedi dweyd hyny yn bendant ar y pryd, ac nid oedd neb yn disgwyl y gwnai pwyllgor o wrthddegymwyr, o dan lywyddiaeth Mr. Gee, ddweyd dim yn wahanol. Arwydd- wyd yr adroddiad gan bedwar aelod o'r pwyllgor.' Gadawyd enw Mr. John Parry, Llanarmon, allan. Ystyriai ei frodyr, mae'n debyg, fod ei ddwylaw ef yn rhy fudron i adael iddo osod ei enw ar y papyr. Ond nid oedd yr adroddiad un mymryn purach yn ngolwg y wlad ar gyfrif hyny, oblegid nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd, a gwas bach Mr. Gee, mewn ystyr ddegymol, ydyw Mr. John Parry. Ddydd Gwener, yr 16eg eyfisol, cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Unol Sir Ddinbych. Ond yma rhoddwyd pen ar y wag-chwareu. Gwrthododd y Pwyllgor Unol ei dderbyn. Penderfyn- wyd fod iddo gael ei adael ar y bwrdd," neu yn iaith golygwyr y papyrau Cym- reig, fod iddo gael ei daflu i'r fasged." Wel, wel, dyma dro gwael 4 Mr. Gee a'i gyfeillion Wedi treulio dyddiau lawer i gasgln tystiolaetliau, ac wythnosau i wneyd barn bwrpasol, a gwastraffu haner can' punt o arian y trethdalwyr-dyma Bwyllgor Unol y Sir yn troi ac yn dweyd wrthynt nad oedd y cyfan yn dda i ddim ond i'r fasge (11" Yn yr ymddiddan a gvmerodd le ynghylch gwrthod yr adroddiad, taflwyd goleu newydd ar rai pethau a phersonau. Dyddorol ydoedd gwybod fod Mr. Gwilym Parry, ysgrifenydd y Cyngrair Gwrthddegymol, wedi galw yn swyddfa Mr. Humphrey Roberts i ofyn arno i arfer ei ddylanwad er cael milwyr i Lan- nefydd, gan ei fod ef a Mr. Howell Gee yn hollol analluog i gadw'r dorf fecligynos o fewn terfynau, ac oni cheid milwyr, y buasai gwaed yn sicr o gael ei dywallt. Radical, a mab-yn-nghyfraith i Mr. Gee, ydyw Mr. Humphreys Roberts, ac ar ol clywed tystiolaeth bendant Mr. Gwilym Parry, ysgrifenodd at y Cadben Boscawen Griffith, cadeirydd y Pwyllgor Unol, i'w hysbysu sut yr oedd pethau yn sefyll. Ond eto, yn ei dystiolaeth o flaen Pwyll- gor Mr. Gee, dywedai yr un Gwilym Parry nad oedd eisiau y milwyr o gwbl Y mae ffyrdd y Cyngrair Gwrthddegymol a'r swyddogion yn rhy droellog i ni allu eu dilyn. Sylwed y wlad mai rhai fel yna ydynt. CWYNION 0 WAITH CARTREF. Marwaidd iawn yn gyffredin yw Cyf- arfod Misol mewn rhanau gwledig, oddi- eithr fod yno ryw berson i'w erlid, neu ryw gwyn i'w hanfon i Mr. Glad- stone. Ac os na fydd un achos i gwyno o'i herwydd i'w gael, ymdrechir gwneyd un yn awr ac yn y man, er cadw bywyd ymhlith gwrthwynebwyr yr Eglwys. Gwnaed un felly yn Abermaw yr wyth- nos ddiweddaf. Dywed un o'r papyrau i hen foneddiges farw yn Abermaw, ac yn naturiol, cyn i'r Run olaf ei gadael, amlygodd ei dymuniad i gael ei chladdu yn meddrod ei phriod." Ni ddywedir yn un o'r papyrau fod yr hen foneddiges wedi awgrymu dymuniad i osgoi y tal oedd ddyledus i Reithor Abermaw ar yr achlysur a diau genym na fuasai neb yn gwrthdystio yn fwy na hi, pe hyny fuasai ddichonadwy, yn erbyn gwaith ei hysgutoriaid annheeilwng, a'r Cyfarfod Misol, yn ceisio ymosod ar Reithor Aber- maw a'i hesgyrn hi, druan. Iiysbysa y Genedl fod achos y Tal Claddu wedi bod mewn llys barn, a bod y ddedfryd wedi myned yn erbyn y Rheithor. "Haner gwir a wna gelwydc1 cyfan," medd y Saeson. Cela y Genedl oddiwrth ei darllenwyr y ffaith i'r achos gael ei godi i'r Uchel-Lys, ac i hwnw ddyfarnu fod gan berson Abermaw hawl deg a chyfreithiol i'r tal a ofynai. Ni fuasai datguddio fod yr ysgutor yn ceisio am- ddifadu Mr. Hughes o'i dal cyfreithlawn, a sarnu ar ei hawliau fel person y plwyf, yn gynorthwy i greu "y teimlad cryf y sonir am dano fel yn bodoli yn rhywle, Y mae hon yn engraifft deg o'r dull an- nheilwng ac anonest a gymerir i greu cwynion yn erbyn yr Eglwys a'i gwein- idogion. Cymerir mantais ar farwolaeth rhyw "foneddiges" neu "Gristion gloew gan olynwyr, heb fod yn fedd- ianol ar y naill rinwedd na'r Hall, i hawlio gan y person rywbeth y gwyddis o'r goreu nas gall, yn gyson a'i safle fel ymddiriedolwr yr Eglwys yn y lie, ei roddi. Nid yw y swm o ddcg sivllt o fawr bwys ynddynt eu hunain, ond fel y maent yn brawf o hawl y person yn y fynwent. Y mae yr hawl hon tuhwnt i amheuaeth. Gwyddai ysgutoriaid Ellen Parry hyny, ond gan fod gelynion yr Eglwys wedi llwyddo i ladrata llawer oddiarni yn ddiweddar, meddyliasant na feiddiai Mr. Hughes eu gwrthwynebu hwynt. Fel y dywed golygydd y Cam- brian News gyda thegwch Yr oedd y naill ochr yn amddiffyn ei hawl, a'r Hall yn ymosod ami—dyna swm a syl- wedd yr ymdrafodaeth. Ac yr ydym yn dweyd ei bod yn annynol ac yn annuwiol mewn cyfreithwyr neu Gyfarfod Misol i lusgo corff marw Mrs. Ellen Parry arliyd a thraws y wlad ercreu teimlad yn erbyn yr Eglwys. Gallesid meddwl, wrth ddarllen tudalenau ffug-sancteiddiol y Goleuad ar y mater, fod peth aruthr wedi ei wneyd yn Abermaw, ac y dylasai Cader Idris godi o'i lie a disgyn ar ben y person. Ond yr ydym wedi darllen sothach fel hyn o'r blaen o'r un cyfeiriad. Y gwirionedd yw, ystyrir ef yn beth an- nhraethol ddrwg i berson wrthwynebu Ymneillduwr mewn dim, hyd yn nod pe buasai yn ei ddal yn tori i'w cly ar haner nos ac os bydd yr Ymneillduwr yn dig- wydd bod yn aelod gyda'r Corff, anghen fil fydd y person a feiddia ofyn iddo am ddegwm pan yn fyw, nac am dal claddu gan ei bertliynasau wedi iddo farw O'r hyn leiaf, dyna farn cynrychiolwyr y pymtheg neu gan' mil—nid ydym yn cofio sut hwyl oedd ar yr ystadegydd ar y pryd-a fu yn Nghyfarfod Misol Gor- ilewin Meirionydd. MR. LLOYD GEORGE A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL Y GOGLEDD. Ymgyfarfu rhai o aelodau y Cyngrair L yn Mangor yn ddiweddar. Ofnwn fod yr hin oer wedi effeithio ar eu hysbryd- oedd, oblegid ni wnaethant fawr ond ym- gasglu at eu gilydd. Y mae hanes y gweithrediadau yn cael ei wneyd i fyny, gan mwyaf, o lythyr hir-wyntog odcli- wrth yr aelod ieuengaf," fel y gelwir Mr. Lloyd George, A.S., mewn rhai cylch- oedd. Baich y llythyr hwn ydoedd yr angenrheidrwydd am wneyd bargen a'r Blaid Wyddelig o barthed i'r Eglwys yn Nghymru. Telerau y fargen i fod fel hyn :—Os gwnawn ni ein goreu dros gael Ymreolaeth i'r Iwerddon, a wnewch chwithau ymrwymo i'n cynorthwyo ni i gael Dadgysylltiad os gwnawn ni eich helpu chwi i ddinystrioyr Ymherodraeth, a wnewch chwithau ein helpu ni i ddin- !ystrio yr Eglwys ? Mae y fargen yn edrych yn syml, ond nid mor rwydd ei chario allan. Os yw i sefyll, bydd raid i Mr. Gladstone, yn ei Fesur Home Rule nesaf, roddi adran i mewn yn sicrhau na fydd i rif yr aelodau Gwyddelig gael ei leihau nes y bydd i Fesur y Dadgysyllt- iad gael ei basio. Heb ryw ddarpariaeth o'r fath, neu rywbeth cyfystyr iddo, nid yw bargen a'r Gwyddelod o un gwerth. Ond, heblaw yr anhawsder bychan hwn, barnodd y pwyllgor mai doeth fuasai gadael "pars-en" Mr. Lloyd George o'r neilldu ar hyn o bryd. Tipyn yn wrthun fuasai gwerthu yr Eglwys i 1Vf r. Parnell, y pen-godinebwr, neu i Mr. O'Brien, y Pabydd penboeth. Buasai yn dda gan y naill neu y llall roddi ergyd marwol iddi. Y mae y naill yn ddig wrthi am osod pwys ar y seithfed gorchymyn, a'r llall yn elynoliddi am sefyll arffordd Eglwys Rhufain. Ond, er hyny, gwell pi/idio gwneyd "bargen" agored ag un o honyni. Ni fuasai yn swnio yn dda, nac yn cyd- weddu a'r gochl grefyddol a wisgir gan y Dadgysylltwyr. Y mae Mr. George wedi ffromi yn aruthr wrthynt am wrthod ei ddoetliineb. Cymer ei barabl yr wyth- nos ddiweddaf, ac achwyna fod y Cyngrair wedi ymadael heb wneuthur dim, hyd yn nod gymaint a phenderfynu gwneuthur dim." Gwyddai hen benau y Cyngrair yn well na mabwysiadu cyngor arwynebol yr aelod ieuanc hwn. Cymeradwyir yr amcan, mae yn ddiau genym, ond ni wna y tro iddi fyned allan j'r wlad fod "bargen" rhwng Anghyd- ffurfwyr Cymru ar y naill law, a'r pen- godinebwr Gwyddelig ar y llaw arall. O'r braidd y credwn y buasai hyd yn nod y Parch. Michael Jones, o'r Bala, ys- grifenu dameg i gyfiawnhau bargen o'r fath. EISIAU PRES! Eisiau mawr y Dadgysylltwyr, yn ol barn Mr. Lloyd George, ydyw eisiau pres —nid pres gwyneb, y mae ganddynt fwy na digon o hwnw, ond pres poced. Yn hyn cytuna y Cyngrair ag ef, oblegid os na wnaethant ddim arall, fe basiwyd pen- derfyniad ganddynt fod pob aelod o'r pwyllgor igael digon o bres o'r drysorfa idaIn ei third-class fare i'r cyfarfodydd o hyn allan. Ni fu erioed well cytleus- dra i ddyn a chanddo dipyn o bres i wneyd swii iddo ei hun, neu i gael sedd yn Nhy y Cyffredin, nag sydd yn Nghymru yn awr. Y mae Mr. Lloyd George wedi braslunio lliaws o anghenion Radicaliaid Cymru. Ond beth dal hyny ? 'Does dim pres wrth gefn i'w cario allan. Y mae eisiau, o leiaf, gant o areithwyr Cymreig i dramwyo trwy Loegr i wasgar In In y goleuni, a phe buasai pres i'w talu, fe fuasai yn ddigon hawdd cael yr areith- wyr. Sut y mae gwneyd ? Ceisiodd Mr. Gee yn daer gael gan y Cyngor Sirol dalu treuliau Mr. Alun Lloyd am ei was- anaeth i wrth-ddegymwyr Llannefydd y dydd o'r blaen. Tybed nad yw yn werth ymdreehu cael gan y Cynghorau Sirol bleidleisio ychydig ganoedd yn flynyddol tuag at "greu teimlad grymus" trwy y wlad o blaid Dadgysylltiad ? Un rhag- orol yw Radical y dyddiau diweddaf ond iddo gael y dreth tucefn iddo. Cyhyd ag y bu rhaid aln at gynal ysgolion elfenol, neu waddoli addysg ganolraddol ac uwchraddol, ni chlywid fawr son am dano ef a'i gloren. Ond mor fuan ag y 11 wydd wyd i gael treth, dadblygodd ddyddordeb eithafol o blaid addysg o bob math. Ni chaed fawr anhawsder i gael pobl i wrthwynebu talu y degwm cyhyd ag yr oedd yn bosibl iddynt gael dau swllt neu dri y bunt o dal am ei zel wrth- wynebol. Bu llawer o benau yn methu deall beth oedd y rheswm na fuasai y goleuo y clywsom gymaint am dano, yn myned ymlaen tua Lloegr. Gwyddem mai nid prinder hyawdledd areithyddol oedd yn cyfrif am hyn. Erbyn hyn, y mae rheswm o'n blaen ar awdurdod ddi- amheuol. Eisiau pres sydd i droi olwyn- ion yr ymgyrch. Dywedir fod Mri. Rathbone, S. Smith, a G. W. Taylor-y gwyr y bu cymaint o frwdfrydedd drost- ynt ar gyfrif eu pres—yn blirio ar gyf- ran 11. Yn wir, nid ydym yn rhyfedda clywed hyny am Mr. Taylor. Am agos i ddwy flynedd wedi iddo ddyfod i Gymru, llusgwyd ef yma a thraw ar hyd y wlad, fel pe buasai ryw ben saermaen, ac mai ei waith mewn bywyd oedd gosod i lawr geryg sylfan capelau. Yr ydym yn clywed ei fod ar y "streic" yn awr, ac na fedr oddef i neb son am bres," nac am "gareg sylfan capel, yn ei bresenol- deb. Pa le y ceir igwr a phres eto, tybed ? GWYLIEDYDD Y TWR. Nos Lun, Ionawr 26, 1891.

GLYNTAF.

LLANDDANIELFAB.

DOWLAIS.

SANT FFAGAN, ABERDAR.