Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

NODION 0 FON.

EGLWYS Y CYMRY.

"CENINEN GWYL DEWI," 1891.

NODlor SENEDDOL.

-------------._--------------------,…

Ysgol Bottwiicg.

News
Cite
Share

Ysgol Bottwiicg. Y "PHILISTIAID" YN YMFYDDINO. CYNYGIAD FFOL I SYMUD YR YSGOL I BWLLHELI. CYFARFOD PWYSIG GAN YR EGLWYS- WYR. AREITHIAU BRWDFRYDIG GAN ESGOB BANGOR AC ERAILL. [GAN AP MOEUS, LLANGWNADLE.] "Ysgol Bottwnog" a udgenir agos ymhob genau o drigohon Lleyn y dyddiau hyn.' Ac y mae ganddynt resymau digonol dros wisgo arfau amddiffynol, oherwydd fod y Philistiaid" yn ymfyddtno ynghyd i ymosod arnynt. Mae yn hysbys e1"s tro fod y Fwyllgor Canolog a ben odwyd i edrych i mewn ac i drefnu, i osod gerbron Cyngor Addysg yr Ysgolion Canolraddol wahanol gynllumau gyda golwg ar ddyfodol ireintiau addysgawl Cymru. Ymddengys fod y boneddigion hyny wedi dyfod i'r penderfyniad ffol i symud )'.sol Bottwnog i Bwlllieli, ond nid ydyw y doethion hyd yn hyn wedi gweled yn dda liysbysu eu rhesymau dros eu gwaith yn aigymheii y cyfnewidiad. b Nos Jawrth cyn y diweddaf, cynhaliwyd cyf- arfod neillduol o frwdfrydig i wrthdystio yn erbyn y fath gamwedd a thrigolion amaethyddol Lleyn. Cymerwyd y gadair gan Arglwydd Esgob Bangor, yr hwn a draddododd araith yn Gym- raeg a Saesneg. Dywedai ei arglwyddiaeth ei tod yn falch o gael anerch cyfeillion twymgalon gwlad brydferth aciachusol Lleyn. Nid ydoedd yn dyfod o'u blaen fel un sectol, Eglwyswr na gwleidyddwr, ond teimlai ei bod yn'rhwymedig ddyledswydd arno, fel dilynydd i'w ragfiaenydd enwog, yr Esgob Rowlands, i amddiffyn ei blant yn Lleyn, i'r rl'.ai yr oedd wedi gadael yn ei ewyllys olaf gynysgaeth elusenol i'w llesoli yn dymln rol ac ysbrydol. Wedi. sylwi yn helaeth ar y gwaith da yr oedd yr ysgol wedi ei wneyd yn y gorphenol, ac fod cwmwl o dystiqu byw yn brawf o hyny, y rhai oeddynt yn llenwi cylclioedd anrhydeddus mewn cymdeithas, yn offeiriaid, pregethwyr, cyfreithwyr, raeddygon, a sefyllfaoedd pwysig eraill. (Gymeradwyaeth). Yna galwodd ei arglwyddiaeth ar y boneddwr siriol, Mr. H. Ellis-Naniiey, Gwynfryn, i osod y penderfyniad cyntaf o flaen y cyfarfod, yr hyn a wnaeth yn hyawdl a gwresog :— Fod y cyf arfod hwn yn gwrthdystio yn y modd mwyaf pendant, ac yn ymrwymo i wneyd yr oil a allant i rwystro symud yr ysgol o Bottwnog." E iliwyd y cynygiad yn ddoniol yn Gymraeg g,q: Owen Evans, Broom Hall. ef gan y Parch. J. R. Williams, Rhvdbac.i, yn ei ddu!! arferol, yn llawn tan a brwdfrydedd. jgid oedd achos digonol ar gael dros ei .syr»rad, ond yr oedd pob rheswm o blaid ei chadw yn y man lie yr oedd. Yr oedd y gwaith ardderchog agyflawnodd yn y gorphenol, y sefyllfa lewyrchus yr oedd ynddi yn bresenol dan yr athraw galluog, y Parch. E. P. Howell, M.A., a'r dyfodol disglaer oedd o'i blaen, yn rhesymau cry lion dros barhau i'w chadw yn Bottwnog. Yr ydoedd y meddyldurych o'i eymud tuhwnt i bobpeth o afresymol. (Uymer- adwyaeth uchel). Yna cafwyd araith gampus gan y Parch. John Hughes, Cefu, Edeyrn, hyawdledd yr hwn oedd yn dylifo fel lava llosgedig o ffwin danllyd. Yr oedd ei ddarlun Ysgrythyrol o'r hen batriarch Israelaidd yn cloddio ffynonau, a'r Philistiaid dienwaededig yn eu cau i fyny, yn darawiadol iawn. Dywedai fod yr Esgob Rowlands wedi goleuo canwyll er's chwarter mil o flynyddoedd, ac fod hono wedi bod yn goleuo ynllachar drwy yr oesau, ond yr oedd plant y tywyllwch yn ceisio ei diffodd. Pa fodd bynag, hyderai mai canlyniad yr ymgais ysgeler hwn fyddai peri I iddi oleuo yn fwy disglaer nag erioed yrn y dy- fodoL (Cymeradwyaeth uchel). Dilynwyd ef gydag araith fclus gan blentyn arall a fu yn derbyn maeth oddiar ei bronau, sef y Parch. G. W. Griffith, rheithor Gaerwen. Cy:ffelybai ef ddeddf newydd Addysg Canol- raddol i filgi brith yn carlamu drwy y wlad i hei yr ysgyfarnogod inwytif a brasaf i'r trefydd. Cymhellai yn daer ar bawb i ymfyddino ysgwydd wrth ysgwydd i ffurfio mur cadarn o amgylch yr ysgyfarnog weddgar oodd ganddyii L" yn Bottwnog. Cynygiwyd yr ail benderfymau gan y Milwr- iad Wynn Finch, Cefiiamwleh Fod pwyllgor effeithiol a dylanwadol i gael ei ffurfio, yn cynwys personau cyfrifol yn cyn- rychioli gwahanol blwyfi o'r wlad i hyrwyado yr amcan." Eiliwyd y cynygiad hwn mewn araith syn- wyrol gan y Milwriad E. Sackville West, Bangor. Attegwyd ef mewn araith wresog gan yr Archddiacon Evans, Aber. Dywedai ef fod cewri mewn dysg a gwybodaeth wedi ymddis- gleirio yn ser llachar yn ffurfafen y byd, a dderbyniasant eu Jlewyrcli oddiwrth oleuadau gwan. Un felly ydoedd yr Esgob Rowlands— derbyniodd ei addysg foreuol mewn rhyw fwthyn neu ysgubor na wyddis lie yn awr oedd rbywle yn mhlwyf Penllech. 0 bosibl iddo gawl ei hyrwyddo gan ryw forwr neu ryw estron Seisnig a ddarfu fwrw ei goelbren yn-ywlad, gan fod son hyd iieddyw am Saeson Peullech. Nododd eraill a fu yn derbyn addysg gan ryw hen wreigan o'r enw Ellen Owen oedd yn byw yn Mhwllheli. Nid oedd yn gwybod pwy ydoedd ond cofiai yn dda am y dyri liwn oedd yn gysylltiedig a hi, a ganodd rhywun a fu yn 11 derbyn dysg ganddi:— Gan Ellen Owen gopoc, A spectol ar ei thrwyn Y yn derbyn addysg Wrih oleu canwyll frwyn." Terfynai trwy ddweyd fod own cyfarth yn rhagorol i godi, ond cwn dal oedd y rhai goreu o ddigon. Wrth gwrs, y foesveri, naturiol ydoedd—wel, gadawn i'r darllenydd ei gweithio allan. Siaradodd y Parch. James Rowlands, D. G., Llanbedrog, yn fyr ac yn felus, yn gall ac i bwrpas, gan daro yr hoel ar ei phen i sicrhau cadernid i'r gwaith. Fel arfer, yr oodd sylwadau doeth y Cadben Wynne-Griffiths, Llanfair, yn derbyn taranau o gymeradwyaeth. Derbyniol iawn ydoedd araith ffraeth Mr. Carreg, Ccfnmine. Cyfrifai ef yr ymyrwyr a'r Sefydliad yn ymylu ar gysegr-ysbeiliad, ac yn arnlwg i bawb a fyuai weled, yn doriad gwyneb- agored o'r wythfed gorchymyn. Wedi cael araith Gymreig yn llawn tan a brwdfrydedd drachein gan Mr. Nanney, ac eraill, terfynwyd trwy dalu diolchgarwch gwresog i'r Arglwydd Esgob urn lywyddu, i ym- ddiriedoiwyr yr ysgol am eu gwasaaaeth tuag at y sefydliad i'r Parch. Jenkin Davies a Mrs. Davies, am eu sel a'u ffyddlondeb gyda yr achos; enwi peisonau cymwys i weitliredu ar y pwyllgorau; a chyflwyno iddynt ddeiseb, yn cyawys miloedd o enwati trigolion Lleyn, yn erfyn arnynt weithredu ar eu rhan. Ymad- a-.v'yd wedi cael un o'r cyfarfodydd goreu a mwyaf unfrydol a gyuhaliwyd erioed yn Mhenlleyn. Dylasem ddweyd i ly thy ran, ar y dechreu, gael eu darllen oddiwrth y Parch. J. Owen (Deon Llanelwy), Syr Love Jones-Parry (Madryn), Deon Bangor, B. T. Ellis, Ysw. (Rhyllech), Arglwydd Penrhyn, y Dr. J. Evans Hughes (Derwen, Nefyn), Mr. Wm. Williams, C.C. (Pwllcrwn), y rhai oil a wrthdystient yn wresog yn erbyn symud yr ysgol, atbori ewyllys yr Esgob Rowlands. Yr oedd y niter a ddaethant ynghyd yn lli- osog iawn. Ymlilith eraill, sylwasom ar y Parchn. R. Killin, Llaniettyn P. Williams, Llanengan H. J. Manley, Llangian T. Jones, B.A., Llangwnadl D. Owen, Bryncroes; H. Lloyd, Aberdaron; R. T. Jones, Nefyn J. Daniel, B.A., Sarn; y Dr. Hunter Hughes, Pentuaen Castle, Pwllheli; Mri. R. O. Jones a Jenkin Davies, Bottwnog O. Lloyd Evans, Broom Hall G. Thomas, Bodnitboedd; D. Jones, Llanllawen; G. Owen, Plas-yn-Mhen- ikeb R. Griffiths, Trewan — Williams, ysgolfeistr, Tydweiliog; Jones, ysgolfeistr, Foelgron; — Lewis, ysgolfeistr, Rhiw — Jones, ysgolfeistr, Rhoshirwaen J. E. Wil- liams, Neigwl Ganol J. Griffiths, Neigwl Uchaf; K Roberts, Tymawr G. Evans. Gwyn- j dy D. Jones, Brynodol; D. Grilbtlis, Tyisaf; D. 11. Jones, Crugeran y Cadlten Griffith, Tre- faes Wm. Griffiths, Merillteyra 0. Thomas, Treigwm; Mrs. J. Kvans Hughes, Mrs. Davies, Rheithordy Mrs. Howells, Bottwnog; Mrs. Ellis, Wig; Mrs. r'arry-Jones, Gaerwaen Mrs. Davies, Hotel, Abersoch Miss Hughes, Tyd- weiliog; a llu eraill. Mewn gair, yr oedd rhyvnm yn cjmrychioli pob plwyf yn wydd- fodol. Tybia rhai nad yw lladrata Hyn ac yma'n fawr o ddrwg, Ac am hyny mae y cyfryw N digio Duw a tbynu ei wg Boed i bawb rhag Haw yn hysbys, Fod tori ewyllys ynddo ei hun Yn fawr bechod, ac y-n ddigon Ei laintioli i ddamnio dyn.

[No title]

---Helynt y Claddu yn Abermaw.

CLOCH YR ANGELUS ; ARFER BANGOR,…

Claddfa Kewydd y Rhyl.