Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

NODION 0 FON.

EGLWYS Y CYMRY.

"CENINEN GWYL DEWI," 1891.

NODlor SENEDDOL.

-------------._--------------------,…

News
Cite
Share

Nodion Gwleidyddol. [GAN UNDEBWR.] Dygwyd y rhyfelgyrch gauafol i'w derfyn ar agoriad y Senedd yr wythnos ddiweddaf, a I thraddodwyd amryw areithiau yn ystod yr wythnos. Bu SYR HENRY JAMES YN BURY yii anerch ei etholwyr nos Lun, a gosododd y sefyllfa Undebol mewn modd goleu a grymus ger eu bron. Dadleuai fod digwyddiad&u yr wythnosaudiweddaf yn llwyr gyfiawnhau y safie a gymerasant fel plaid wleidyddol yn 1886. Yr oeddynt wedi bod yn meddwl weithiau y buasai enw mawr ac anrhydeddus arweinydd y blaid wrthwynebol yn ormod iddynt i'w orch- fygu, ac yr oedd ef ei hun (Syr Henry James) wedi bod yn rhyw led-olni ar droion y cawsent weled rhyw fath o Home Rule wedi ei ddwyn oddiamgylch. Ond yn awr yr oedd digwydd- iadau wedi cymeryd lie—digwyddiadau o natur bersonol, a braidd nad allai ddweyd daihwein- ylli I iol-ag oedd wedi perlfeithio eu hamddilfyniad cyn i'r dinystr gael ei gyflawni. Yr oeddynt yn unfryd o'r farn pe caniateid Home Uule y dylai fod yn Fesur terfynol, ac nid yn llam-faen (stepping-stone) drwy yr hwn y gallai y Gwyddelod gyraedd llwyr ysgariad. Yn 1886, yr oedd Mr. Parnell wedi dweyd y dylid edrych ar y Mesur o Home Rule ag oedd gerbron y Ty yn un terfynol, ac ymrwymai y gwnai y Gwyddelod edrych arno yn yr ystyr hwnw. Ond yr oedd ef (Syr Henry) yn ei le yn Nhy y Cyffredin pan gyhoeddodd Mr. Parnell yn ddiganuyniol ei fod wedi dweyd celwydd gyda'r bwriad o gamarwain y Ty, ac nid oedd yn ystyried y Mesur hwnw yn ddim amgen na chynyg am swydd. Yr oedd y wlad erbyn hyn yn gwybod na wnai yr arweinwyr Rhyddfrydol byth gynyg Mesur o Ymreolaeth na lydclai yn dderbyniol gan y Gwyddelod. Gwyddent erbyn hyn beth a hawlid, nid yn unig gan Mr. Parnell, ond hefyd gan yr 85 cynrvchiolwyr Gwyddelig, sef rheoleiddiad yr lieddgeidwaid, a phenderfyn- y "I iad y cwestiwn Gwyddelig. Buasai unrhyw gyfnewidiad a wneid gan Mr. Gladstone yn ychwanegiad at y Mesur, ac felly ni fyddai yn un terfynol o gwbl. Addend nad oedd Mesur Mr. Gladstone ond cynygiad seneddol i gyraedd yr hyn a ddynodid gan Mr. Parnell fel annibyn- heth liollol yr Iwerddon. Ymha sefyllfa yr oedd Home Rule yn awr ? Dywedai rhai ei bod mor farw a'r Frerihines Ann, ond barnai eraill ei bod yn fyw, ac y dylent fod ar eu gwvl ad- wriaeth yn oi herbyn. Gallai y naill a'r Hall o'r tybiau hyn fod yn gywir. Yr oedd Home Rule yn farw os gwnaent barhau i'w gwrthwyn- ebu. Yr oedd Home Ruli wedi darfod a bod yn gwestiwn ymarferol ar hyn o bryd. Nid oedd yr egwvddor o Ymreolaeth mor bwysig a'r cymliwysiad'o honi. Yn ei chymhwysiad, yr oedd yn rhaid iddynt ec'rych at y personau cedd i lywodraethn-beth oedd eu cymeriad. Gwadai Syr Henry fod yr Undebwyr mewn cydym- deimlad fi Mr. Parnell ni fu ganddynt erioed ddim ymcldiried ynddo, ac ni fyddai bytli yn ol pob tebyg. Nid oedd ganddynt, ychwaith, ddim ymddiried yn y rhai oedd yn cydweithredu ag ef. Yr oedd yr Undebwyr yn ymladd -dwy adran y blaid" Wyddelig ond y gwahaniaeth rhwug y ddwy oedd hyn—fod Mr. Parnell wedi bwrw ymaith y mwgwd addefai ei elyniaetli 11 at .Loe-r, a gofynai am ysgariaeth lwyr rhwng y ddwy wlad. Nid oedd y blaid ar;f 1 wedi taflu ymaith y mwgwd, ond nid oedd gn yr Undeb- wyr ddim mwy o ymddiried ynd'l at ar gyfrix hyny. Yr oedd yn well ganddyrdj wrthwyneb- ydd heb fwgwd na'r rhai a barLaent i'w wisgo. Yr oedd Syr William Harcourfc wedi awgrymu mewn llythyr fod yr Undebwyr yn syifaem-i eu gobeithion ar farwolaeth Mr. Gladstone, ac yn dymuno hyny. Dywedai Syr Henry fod y fath gyhuddiad nid yn un g yn auwireddus, ui,, I yn iarbaraidd. Galwodd y barwnig anrhydeddnr. a dj-sgedig sylw ei wran yr at yr effaith a adawai y digwyddiadau liweddar ar y pleidiau gwleidyddol. Yr oedd yn cael ei a])n.gy'chynu gan rai o'i gyfeillion hynaf yn y fwrdeisdrcf, ac yr oedd yn awyddus i siarad drostynt a tbrosto ei hun eu bod y dydd hwnw yn parhau yr hyn oeddynt yn y gorphenol. Yr oeddynt yn Rhyddfrydwyr, ac yn Rhyddlrydwyr Undeb- ol. Yr oeddynt yn credu yn y bobl, ac yn rhoddi ymddiried Ilwyr ynddynt. Yr oeddynt yn awyddus i basio deddfwriaeth fuddiol i bob Gwyddel a chan eu bod wedi llwyddo i achub .yr Undeb, yr oeddynt am ei gryfhau. Achos mawr a pherygl dirfawr oedd wedi eu dwyn at eu gilydd, ac o'r amser hwuw hyd yn awr yr oeddynt wedi ymladd, ac yn benderfynol i ym- ladd dan yr un liiimali-batier yr Undeb—o dan yr hon y gwnaent fuddugoUaethu yn y diwedd. (Taranau o gymeradwyaeth). Araith odidog oedd hon drwyddi, ond gofod a ballai i ychwan- egu. MR. GOSCHEN YN MAIDSTONE. Anerchodd Mr. Goschen gynulliad lliosog o Undebwyr yn Maidstone, yn Nghaint, nos Fawrth. Y prif faterion yr ymdrinioJd Cang- hellydd y Trysorlys a hwynt ydoedd—y safle Undebol, gwaith y Weinyddiaeth bresenol, a dynoethiad y twyil Parnellaidd. Mewn per- thynas i'r rliwyg yn y blaid Wyddelig, dywed- odd fad y digwyddiadau pwysig diweddar wedi vrofi fod yr Undebwyr yn iawn—nad oedd cymi'droldtb Mr. Parnell yn ystod y pum' mlynecld diwoddaf ddim ond ffug. Yr oedd Mr. Parnoil wedi dangos llawer o gymedroldeb, hunan-feddiant, a doethineb fel arweinydd yn ddiweddar, a llawer o gymhwysder i arwiun a llywodraethu, ond nid oedd y cwbl ond sham. Yr oedd yn bresenol yn chwareu rhau gwbl wahanol, ac yn apelio am gefnogaeta at y dosbarth mwyaf barbaraidd o'r Gwyddelod. Hwn oedd y gwladweinydd a fuasai, oni bai am ymyriad yr Undebwyr, y foment hono yn Brif Weinidog yr Iwerddon. Ni fuasai degau o filoedd o Ryddlrydwyr erioed wedi cefnogi y blaid Wyddelig oni b'ai fod y Gladstoniaid wedi llwyddo i'w perswadio o ddidwylledd a chymedroldeb Mr. Parnell, yn yr hwn y proffesent y fath ymddiried. Yr oedd yr ethoiaethau wedi eu hud-ddenu a'u twyllo i gredu yn nghymedroldeb y blaid Wyddelig. Nid oedd cymedroldeb Mr. Parnell ond ffug, er cyrhaedd amcanion politicaidd am dymor. Ceisia Mr. Gladstone berswadio y wlad fod ei fesur o Home Rule yn un terfynol, a bod y Gwyddelod yn ei dderbyn fel y cyfryw ond yr oedd yn ymddangos yn awr nad oeddynt yn ei dderbyn ond fel instalment. Yr oedd y Radi- caliaid wedi eu twylIQ yn addewidion yr arwein- wyr Gwyddelig,wedi eu twyllo o bertbynas i r hyn a alwent yn "undeb calonau," ac wedi eu twyllo yn eu cymedroldeb. Dywedodd Mr. Goschen. yn ol y profiad oedd yi Undebwyr wedi gael. fod amser o'u tu, a boed amser yn dynoetbi twyll eu gwrthwynebwyr ac yr oedd ef yn gobeithio na cheid byth clywed y geiriau liyn yn y rhengoedd Undebol—" Rhaid i ni yinostwng i'r anocheladwy." SYR HICKS-BEACH YN NGHAERODOR. Bti Syr Michael Hicks-Beach, hefyd, yr un noson yn anerch ei etholwyr yn West Bristol, a chafodd dderbyniad brwufrydig iawn. Ym- driniodd yn fanwl a'r cwestiwn Gwyddelig a'r berthynas rhwng y Gladstoniaid a'r Parnelfiaid, ac wedi hyny aeth ymlaen i adoiygu y gwaith a gyflawnwyd gan y Llywodraeth yn ystod y senedd-dymor diweddaf. Yr oeddynt wedi gwneycl IDWY o gynydd nag a. waaed Yll NhS- y Cyffredin er's llawer o flyuyddau. Yr oedd- ynt wedi gwneyd eryn gynydd gyda y ddau brif fesur a addawsid yn Araith y Frenines, ac yr oeddynt yn awr yn ail ymaflyd yn eu dyled- swyddau, mewn llawn hyder, o'r hyn lleiaf, y gwelai 1891 gynliauaf toreithiog o ddeddfwr- iaeth fendithiol i'r wlad. Da iawn. ARGLWYDD SALISBURY YN NGHAER- GRAWNT. Anerchodd Ardalydd Salisbury gyfarfod cy- boeddun yn Nghaergrawnt, nos Fercher. Yr oedd o y,000 i 4,000 yn bresenol yn y Corn Exchange. Gwawdiai ei arglwyddiaeth y sylw a wnaethpwyd yn ddiweddar gan Mr. John Morley fod Home Rule bron ag enill y dydd cyn y dadleniadau Parnellaidd. Yr oedd ym- drech galed, eto i gyd, o flaen yr Undebwyr. Yr oedd yr Home Rule Rehearsal" wedi dangos fod y Ceuedlaetholwyr Gwyddelig yn hollol aughymhwys i dderbyn cyfundrefn o Lywodraeth Seneddol. Pe caniateid Home Rule, buasai yr Iwerddon dan ddylanwad offeir- iadaidd, ond ni wnai Ulster byth ymostwng i fod dan reolaeth Archesgobion Croke a Walsh. Buasai yn dda genym po caniatai gofod i roddi dyfymadau helaeth o'r araith orchestol hon gan y Prif Weinidog.

Ysgol Bottwiicg.

[No title]

---Helynt y Claddu yn Abermaw.

CLOCH YR ANGELUS ; ARFER BANGOR,…

Claddfa Kewydd y Rhyl.