Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

NODION 0 FON.

EGLWYS Y CYMRY.

"CENINEN GWYL DEWI," 1891.

NODlor SENEDDOL.

News
Cite
Share

NODlor SENEDDOL. AIL-GTNTJLLIAD Y SENEDD. [GAN EIN GOIXEBYDD ARBENIG.] Ail-gyfarfu dau Dy y Senedd ddydd Iau, yr wythnos ddiweddaf, ar ol gwyliau y Nadolig. Yn Nhy yr Arglwyddi, cymerodd yr Ar- glwydd Ganghellydd y gadair am haner awr wedi pedwar. Heblaw Arglwydd Salisbury, y Prif Weinidog, ar fainc flaenaf y Weinyddiaeth yr oedd Ar- glwydd Cross, Is-iarll Cranbroo: Arglwydd Balfour. ac Arglwydd Knutsford. Arglwydd Granville oedd yr unig bendefig ar faine flaenaf yr Wrthblaid. Yr oedd cynnlliad gweddol o'r arglwyddi yn gyffredinol wedi dyfod ynghyd, ac ystyried nad oedd dim gwaith neillduol i'w gyf- lawni, a bod yr hin mor afrywiog. ARGLWYDDI NEWYDDION. Cymerodd Arglwydd Sandford (Syr Francis Sandford), wedi myned drwy y dei'odau arferol ar y cyfryw achlysuron, y llw a'i eisteddle ar ei ddyrchafiad i Dy yr Arglwyddi. Cymerodd Arglwydd Iveagh (Syr Edward Guinness) hefyd y llw a'i sedd ar ei ddyrchafiad i'r ben- defigaeth. GWAITH Y TY. Gofynodd larll Granville beth oedd cwrs teb- ygol y busnes oedd i gael ei gyflawni yn Nhy eu harglwyddiaethau ? Dywedodd Ardalydd Salisbury, mewn atebiad, fod hyny yn ymddibynu i raddau pell ar gwrs y busnes yn y Ty arall. Yr oedd tri cliwestiwn o bwysigrwydd neillduol o flaen y Ty hwnw, ond yr oedd ef o'r farn y gwnai Mesur y Degwm a Mesur Deddfwriaeth Leol (Ysgotland) yn fuan gyraedd eu harglwydd- iaethau. Gyda golwg ar fusnes pellach y Ty, yr oedd yn well ganddo ef ddisgwyl, a gweled pa fesurau a gynygid cyn rhoddi unrhyw ateb- iad manylach. Gwelir oddiwrth hyn fod y Prif Weinidog yn dra hyderus o barthed i ragolygon y Mesurau y cyfeiriai atynt, yn enwedigol Mesur y Degwm a Mesur Deddfwriaeth Leol iYsgotland. MESUR YSWIRIANT BYWYDAU PLANT. Pan gododd Esgob Peterborough (Archesgob Penodedig Caerefrog) i gynyg ail ddarlleniad y Penodedig Caerefrog) i gynyg ail ddarlleniad y Mesur liwn, derbyniwyd ef gyda brwdfrydedd mawr. Dywedodd mai yr un ydoedd y Mesur a'r hwn a ddygasid i mewn y senedd-dymor blaenorol, pryd y darllenwyd ef yr ail waith, ac y cyflwynwyd ef i bwyllgor detholedig. Yr oedd y pwyilgor hwnw wedi cyfarfod, ond nid oedd eu hadroddiad wedi ei gyflwyao pan der- fynodd y tymor., Yr oedd y Mesur yn awr yn cynwys yr hyn a adnabyddid fel yr Under- taker's Claus e," er ei fod ef ei hun wedi gwitb- wynebu yr adran hono yn mhwyllgor. Darllenwyd y Mesur yr ail waith, a chyflwyn- ef, ar gynygiad y Dr. Magee, i bwyllgor dethol- edig. TY Y CYFFREDIN. Cyfarfu Ty y Cyffredin am dri o'r glocli, a chymerodd y Llefarydd y gadair. Llongyfarchwyd Mr. Peel yu galonog gan amryw o'r aelodau ar ei adferiad i'w iechyd, ac yn eu plith rai o'r aelodau Gwyddelig AELOD NEWYDD. Cymerodd Syr John Pope HEc-inessey (yr hwn a gyflwynwyd gan Mr. Justin M'Cartliy a Mr. Sexton) y Hw a'i eisteddle dros Ogledd- barth Kilkenny, yn nghanol llongyfarchiadau y Gladstoniaid a'r M'Cartbyaid. MR. PARNELL YN HAWLIO EI IAWNDERAU. Cododd Mr. Parnell, yn nghanol distawrwydd y Ty, a dywedodd ei fod yn rhoddi rhybudd y byddai iddo, gyda y eyfleusdra cyntaf, alw sylw at Ddeddf y Troseddau yn yr Iwerddon, a chynyg penderfyniad. Dywedodd, yn rnhell- ach, ei fod yn rhoddi rhybudd y byddai iddo dranoeth ofyn i Brif- Arglwydd y Trysorlys a fedrai fforddio eyfleusdra. yn fuan i ddadleu y cynygiad. Nid oedd ond nifer bychan o'r M'Carthyiaid ac o ganlynwyr Mr. Parnell yn bresenol, a derbyniwyd yr hysbysiad gyda distawrwydd mudanol. MESUR DEDDFWRIAETH LEOL (YSGOT- LAND). Dywedodd yr Arglwydd Ddadleuydd, wrth gynyg ail ddarlleniad y Mesur hwn, fod pwyll- gor unedig o'r ddau Dy wedi cylioeddi adrodd. iad yn ffafr penodiad dirprwyaeth leol ar fesurau preifat yn He y pwyllgorau Seueddol presenol. Y gwrthwynebiad i'r gyfudrefn bre- senol ydoedd anghyfleusdra deisebwyr Ysgot- land i roddi eu presenoldeb yn Westminster, a'r draul gydfynedol. Yr oedd anhawsder mawr hefyd i gael aelodau i ffurfio pwyllgorau, ac yr oedd ymcliwiliad gan y ddau Dý yn faich mawr ar yr apelwyr. Yr oedd ef (yr Arglwydd Ddadleuydd) o'r farn mai y comisiwn cynyg- iedig oedd yr unig ffordd i gyfarfod yr anhaws- derau hyn a'r cyfielyb. Unig amcan y Mesur ydoedd penodi dirprwyaeth leol yn lie y pwyll- gorau Seneddol presenol, ond fod y ddau Dy Seneddol i gadw yr hawl bresenol i ymwneyd a mesurau ar yr ail a'r trydydd darlleniad. Cynygid hefyd fod y ddirprwyaeth i eistedd yn y gymydogaeth a'r hon y byddai y Mesur yn dal perthynas. Gwrthwynebwyd y Mesur gan Mr. Campbell- Bannerman, am y rheswm, meddai, ei fod yn sawnl yn gryf o Home Rule, ac y.dylid bod yn dra gofalus wrth ymwneyd a'r cwestiwn. Dywedodd Mr. Arthur Elliot fod y mater wedi derbyn ystyriaetli fanylaf y pwyllgorau detholedig, a'i fod wedi cael ei ddadleu am ddwy genhedlaeth. Yr oedd y Proffeswr Hunter o'r farn nad oedd y Mesur yn fwy tebyg i Home Rule nag oedd aderyn y to wedi ei baentio i canary. Dygwyd y ddadl ymlaen am oriau gan yr aelodau Ysgotaidd yn benar, ac yr oedd y rhan fwyaf o honynt yn condemnio y Mesur. Hen gwyn yr Ysgotiaid ydyw, fod deddfwriaeth Ysgotaidd yn cael ei hesgeuluso, ac y mae y Gladstoniaid wedi bod ar hyd y biynyddau yn dadleu am fwy o "lywodraeth leol" ytiglyn mesurau preifat. Maent yn debyg iawn i'r ei yn y preseb—ni wnant ddim eu hunain, ac ni chaiff neb arall wneyd dim, os gallant eu rhwystro. Cyflwynwyc1 deiseb oddiwrth y Scottish Home Association yn erbyn y Mesur. Son am onest- rwydd gwleidyddol! Ychydig i haner nos ymranodd y Ty, a chafwyd mwyafrif o 64 dros yr ail ddarllcD- iad, a chyflwynwyd y Mesur i bwyllgor detholedig. Cododd y Ty am 12.6. CYNYGIAD GAN MR. JUSTIN M'CARTHY. Ar ran Mr. Jastiii M'Carthy, rhoddodd un Mr. Webb rybudd o gynygiad i alw sylw at weitbrediad y Crimes Act yn yr Iwerddon. Derbyniwyd yr hysbysiad gyda ciiwerthin mawr ymhob rhan o'r Ty am ei fod ddiwrnod yn ddiweddarach na rhybudd Mr. Parnell. Gwyddelig iawn, onide ? DADGYSYLLTIAD YN NGHYMRU. Rhoddodd Mr. Pritchard Morgan, yr "Am Frenin," a Mr. Randell rybudd ogynygiou mewn perthynas a Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Llwyddodd yr aelodau Cymreig, drwy y tugel, i sicrhau He i'r cynygiad ymlien pedair wythnos, a gosodwyd y penderfyniad ar y drefulen am Chwefror 20. Ymddengys mai gweithredu dros Mr. Dillwyn yr oedd yr aelod dros Wlad Gwyr. Rhagolwg dywell ac anobeithiol iawn i'r arweinwyr Gladstonaidd. MARWOLAETH Y DUC 0 BEDFORD. Dywedodd Mr. Matthews, mewn atebiad i gwestiynau, fod y rheith-chwiliad ar gorff y di- weddar anffodus Dduc Bedford wedi ei gynal yu y drefn arferol, fod yr yinchwiliad yn un agored, ac nad oedd y cyhoedd wedi eu cau allan. Yr oedd gan ohebwyr newyddiadurol bob mantais i gael yr hysbysrwydd arigenrheidiol, ond nid :1 oedd neb o honynt yn bresenol. ET HOLT AD HARTLEPOOL. Gofynodd Mr. Howarth i'r Twrnai Gyffredin- ol a oedd addewid a wneid gan ymgeisydd yn nghwrs etholiad Seneddol, na fyddai iddo, yn y dyfodol, gyflogi neb ond y rhai a fyddai yn perthyn i Undebau y Gwrithwyr, pan yr oedd wedi cyflogi rhai nad oedd yn perthyn i'r Undeb yn flaenorol, yn groes i ddarbodion Act y Llwgr-arf erio n. Dywedodd y T wrnai Cylfredinol, os oedd yr addewid wedi ei gwneyd i ddylanwadu y pleid- leiswyr, ei fod o'r farn fod addewid o'r fath yn groes i ddarpariaethau y Corrupt Practices Act. (Bloeddiaclau o feinciau y Weinyddiaeth). Ymddengys mai nid amcan Mr. Howarth ydoedd diseddu yr aelod Gladstonaidd newydd dros Hartlepool, or y gellid yn rhwydd wneyd hyuy, ond dangos i'r wlad pa fodd yr enillwyd y fuddugoliaeth gan yr Ysgarwyr. Nid oedd dim ar y ddaear a wnelai Home Rule a'r f oliaeth. Y mae Syr Honry James a'r boll gyf- reithwyr Undebol hefyd o'r farn fod dychwel- iad Mr. Furness yu anghyfreithlon. ORIAU LLAFUR Art Y liHEILFFYRDD. Treuliwyd y gweddill o'r eisteddiad i ddadleu y cwestiwn o or-lafur ar reilffyrdd. Dygodd Mr. Channing gynygiad ymlaen yn condemnio oriau hirion llafur ar y rheiliryrdd, ac yr oedd y ddadl yn dwyn perthynas, i raddau pell, a'r streic yn Ysgotland. Barnai Mr. Howarth, yr aelod Undebol dros Salford, y dylai y Llywodraeth wneyd ymchwil- iad i'r holl gwestiwn. Pan ymranodd y Ty, cafwyd- Dros gynygiad Mr. Channing 124 C, Yn erbyn 141 Mwyafrifyu erbyn 19 Gohiriodd y Ty am haner nos.

-------------._--------------------,…

Ysgol Bottwiicg.

[No title]

---Helynt y Claddu yn Abermaw.

CLOCH YR ANGELUS ; ARFER BANGOR,…

Claddfa Kewydd y Rhyl.