Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Harri'r Wythfed a'r Diwygiad

News
Cite
Share

Harri'r Wythfed a'r Diwygiad [GAN Y PARCH. T. EDWARDS, GWYNEDD."] Llythyr XIII. Crybwyllwyd eisoes ei bod yn anmhosifel clywed yn Lloegr am Y DDEDFRYD ANFFAFRIOL cyn dadgorfforiad y Senedd. Gadewch i ni weled, ynte, pa mor bell yr oeddid wedi myned cyn hyny yn nghyfeiriad diwygiad. Ni ddichon na byddai safle, gallu, ac awdurdod Esgob Rhufain, o angenrhaid, yn bynciau yr ymdrinid llawer arnynt yn ystod y saith mlynedd diweddaf ac yn ystod yr amser yna yr oedd ei awdurdod yn cael ei fwrw ymaith yn raddol, eto yn effeithiol, serch megis yn ddiarwybod. Sylwch fel yr oedd ei honiadau yn cael eu gwrthwynebu 1. Yr oedd yr Archesgob Warham, a llu o rai eraiil, wedi datgan nad oedd ganddo hawl i roddi Breintebau na Llythyrau Cenad i wneyd i ffwrdd a deddfau Duw fel y mynai. 2. Yr oedd yr ymosodiad a wnaed ar y clerig- wyr, am gydnabod cenhadaeth Wolsey, wedi dangos mai byw eto oedd yr hen ddeddfau a ddysgent nad oedd gan Esgob Rhufain ddim gweinyddiaeth annibynol, ac o ran hawl yn y wlad hon oherwydd gorfu iddynt dalu yn ddrud am gydnabod ei honiadau. Adgyfodasid y Prcemunire. 3. Yr oedd y clerigwyr hwythau wedi ym- resymu oddiwrth y digwyddiad yna na ddylid talu blaenffrwyth, &c. oherwydd os na ddylid cydnabod ei weinyddiaeth (jurisdictionj, ni ddylid talu iddo ei ofynion, gan nad oedd gan- ddo hawl i godi dim arnynt. Felly, deisyfasent ar i'r Brenin beri i'r Senedd roddi terfyn ar y talu. 4. Yr oedd y Senedd hithau wedi condemnio pob apeliad i Rufain, ac wedi trefnu ar fod i'r cyfryw apeliadau gael eu penderfynu yn y llys- oedd brodorol gartref. 5. Hefyd, yn ystod eisteddiad bythgofiadwy y Senedd ddiweddaf, yr oedd rhyw esgob neu gilydd bob Sul yn pregethu ger Croes St. Paul, yn Llundain, nad oedd gan Esgob Rhufain ddim awdurdod o gwbl yn y wlad hon. 6. Ac yr oedd y Senedd grybwylledig wedi pasio y rhestr ganlynol o ddeddfau i roddi pen ar ei ormes mewn gwlad ac Eglwys. Z, (a) 25 Hen. 8, c. 19. Deddf i osod allan Ymostyngiad y Clerigivyr i'r Brenin, ac i roddi gallu iddo i enwi nifer o bersonau i archwilio y Canonau a'r Gosodedigaethau Eglwysig. (b) 25 Hen. 8, c. 20. Deddf i rwystro talu Blaeuilrwythau, &c., i'r Pab, ac i drefnu y dull i ddewis a chysegru Esgobion. (c) Deddf ynghylch Ceiniogau Pedr a Breint- ebau o Rufain. (cl) Deddf yn datgan* hawl i Harri a'i hil i etifeddu yr Orsedd, ac i fynu llw o ffyddlondeb iddynt gan y deiliaid, lien a lleyg. (e) Deddf i Amddifadu dau Esgob annhrig- ianol o'u Hesgobaethau. Yr oedd hyn oil wedi ei gyflawni tra yr ydoedd y Brenin yn ceisio dyfod i gyd-ddeall- twriaeth ag Esgob Rhufain mewn cysylltiad a phwne yr ysgariad, a chyn i'r Pab roddi dedfryd yn ei erbyn. Ac y mae yn eglur nad oedd, ao nas gallai fod hyd yma, yr un cyfnewidiad Eg- lwys canys ni honir yn hyn oil fod neb yn gwneyd dim o'r newydd. I'r gwrthwyneb, ymhob peth gofelid dangos nad oeddid yn honi dim o'r fath beth, ac ymwrthodid yn bendant 'r syniad yna. Ni fu yna ddim diddymu un Eglwys, a chreu Eglwys newydd" yn ei lie, pe buasai y fath beth yn ddicbonadwy. A cheir gweled yn y man na bu i ddim o'r fath beth ddigwydd ar ol hyn ychwaith. A'r holl amser yna ei amgyichiadau ei hun oedd yn pwyso fwyaf ar feddwl y Brenin. Diogelu ei hun ar ei orsedd oedd fwyaf yn ei olwg ef. Yn ol fel y tybiai yr efFeithiai pethau yn ffafriol iddo ef, nea ynten yn anffafriol iddo, yr edrychai efe arnynt. Ac nid llawer o ddiolch sydd i ddyn felly, serch i'w ddylanwad hyrwyddo rhyw ~/mudia^ neu gilydd. Gan gadw golwg ar hyn, wedi i'r Senedd basio'r ddeddf oedd i reoleiddio hawl ei ddisgyn- yudion i'r Orsedd, &c., fe'i ceir efyn peri i bawb ii.eryd LLIV 0 FFYDDLONDEB iddo ef a'i eppil, yn unol A'i threfniadau. Cy- merodd y beneddwyr y llw ar Mai 30, cyn ym- wahanu a threfnwyd fod anfon dirprwywyr trwy'r wlad i weinyddu llw cyffelyb i bob math o bobl. Mewn hen gasgliad o weithredoedd cyhoedd (Act. Pub. xiv. 487, &c.,) ceir llw a gymerwyd gan amryw o Abbadau i'r perwyl yma:—Y byddent ffyddlon i'r Brenin, y Fren- hines, eu Hetifeddion, a'u Holynwyr eu bod yn cydnabod y Brenin fel Goruchaf Ben Eglwys Loegr; nad oes gan Esgob Rhufain ddim aru- gen gweinyddiaeth (jurisdiction) yma nac unrhyw esgob tramor arall y pregethent yn ddiffuant athrawiaethau cyson a'r Ysgrythyrau; l,ry ac, yn eu (Yweddiau, y gweddient yn gyntaf dros y Brenin megis goruchaf ben Eglwys Loegr, yna dros y Frenhines a'i hiliogaeth, ac yna dros Archesgob Caergaint, &c. Oddiwrth hyn can- fyddir fod y Brenin yn awyddus am gael yr adran Fynachaidd o'r Eglwys yn ffyddlon iddo yn ei helbul, oblegid gwyddai mai hon oedd fwyaf o dan ddylanwad tramor bob amser. Ond serch fod y mwyafrif o'r Mynachod yn ym- ostwng ac yn proffesu bod yn deyrngarol iddo, yr oedd rhai o honynt yn Ilefain yn groch yn ei erbyn a darfu i Fynach o'r enw Peyto ei regu yn ei wyneb, wrth bregethu, gan ddweyd y llyfai'r cwn ei waed megis y llyfasant wsed Ahab gynt. Ond tynged gyffredin y rhai a ddifri'ent y Brenin oedd cael eu crogi. Dim ond un esgob ac un lleygwr o nOd a wrthodasant gymeryd y llw crybwylledig. Yr Esgob Fisher o Rochester, a Syr Thomas More oeddynt. Yn ei lieisteddiad y flwyddyn hon, darfu i Gyniladledcl Eglwysig Caergaint, nid yn unig roi ei dyfarniad yn erbyn honiadau Esgob Rhufain, ond hefyd benderfynu anfon anerchiad at y Brenin ar y pwnc o GYVIEITHU'R BEIBL I'R SAESNEG. Yr oedd t clerigwyr lawer gwaith cyn hyn wedi datgan nad oedd ganddynt yr un gwrth- wynebiad i'r bobl gael y Beibl yn eu hiaith eu hunain, ond iddynt gael un cywir. Cwyno yn enbyd yr oedd rhai o honynt yn erbyn eyfieith- iad Tindal, yr hwn a gyhoeddasid eisoes yn Saesneg. Y sylwadau a'r egluriadau ar ymyl y ddalen, yn condemnio arferion a defion y cyfnod oedd yn petir gwrthwynebiad gan mwyaf. Ac, am hyny, penderfynwyd anfon cais at y Brenin w i'r esgobion wneyd cyfieitbiad Aowydd, vr « hwn y gellid ei gyhoeddi trwy awdurdod. Pen- derfynwyd hefyd nad oedd y lleygwyr ddim i ymddadlu ynghylch pynciau crefydd. Ar ol hyn, anfonwyd allan, yn enw'r Brenin, GYHOEDDIAD YNGHYLCH PREGETHU. Yn lie cyhoeddi rhyddid ac iawnderau Eglwys Loegr unwaith yn y flwyddyn fel yn yr hen amserau, gofynid i'r clerigwyr bregethu unwaith yn y flwyddyn yn erbyn awdurdod draws- feddianedig Esgob Rhufain. Ac yr oeddynt bob tro cyn y bregeth i ddeisyf gweddiau'r gynull- eidfa dros y Brenin, megis unig a goruchaf ben yr Eglwys Loegr Gatholig hon (this Catholic Church of England), &e. Yr oedd yna lawer byd e gyfarwyddiadau ond gan nad oeddynt yn cyfnewid dim ar na llywodraeth eglwysig nac athrawiaeth na defod, nid oes angen sylwi arnynt yma. Y flwyddyn hon bu f arw'r Pab Clement, a dilynwyd ef gan Paul y Trydydd; eithr niphar- odd hyn yr un cyfnewidiad yn Lloegr, oblegid aeth y Senedd a ymgynullodd ar y 3ydd o Dachwedd i ddeddfu yu yr un cyfeiriad a'i rhagflaenydd. Ac yr oedd ei deddfau yn gan- lyniad i'r ymholiadau oeddid wedi eu gwneyd o berthynas i hawliau Esgob Rhufain. Y mae'r ddeddf gyntaf a basiwyd, er nad yw ond ber, yn bwysig. Y 26 Hen. 8, c. 1, ydyw, a DEDDF UCllAFIAETH y gelwir hi. Ynddi honir hen hawl y Goron i'r Uchafiaeth, a dangosir mai cyfnerthu a chad- arnhau yr hyn "yr oedd clerigwyr y deyrnas wedi ei gydnabod eisoes yn eu Cynhadleddau ydyw ei hamcan. Yr hyn oeddid wedi ei gyd- nabod oedd mai y Brenin oedd goruchaf ben Eglwys Loegr. Wele y geiriau :—" That the King, our Sovereign Lord, his heirs and succes- sors, kings of this realm, shall be taken, ac- cepted, and reputed the only supnme head on earth of the Church of England called Ecclesia Anglicana." Hyn o'i Gymreigio yw :—" Fod ein grasusaf Arglwydd y Brenin, ei etifeddion, a'i olynwyr, i'w cymeryd, i'w derbyn, a'u hys- tyried fel unig oruchaf ben ar y ddaear i Eg- lwys Loegr a elwir Ecclesia Anglicana." Yma y teitl a roddasai y clerigwyr i'r Brenin rai blynyddau yn ol sydd yn cael ei wneyd yn feddiant cyfreithlon iddo drwy ddeddf. Pen ar y ddaear ydoedd i fod am hyny, beth bynag a oly-id wrtho, dyna derfyn ar y baldordd a glywir ynghylch Brenin yn ymwthio i le Crist, &c. Mae y geiriau wedi eu bwriadu fel atebiad i'r cyfryw wrthddadl. Safle dyn o'i gydmaru a. dynion a ddynodir yma. Pen ar Eglwys Loegr ydoedd i fod; ac felly, dyna atebiad i'r haeriad mai yr Eglwys Babaidd, neu Eglwys Rhufain, oedd yma ar y pryd. Wrth yr enw Ecclesia Anglicana, ac nid Ecclesia Bomana yr adwaenid hi. Eglur yw, ynte, mai arwyddair Ymneilldu- wyr Cymru yw mai ffolineb yw bod yn ddoeth lie mae anwybodaeth yn wynfyd. Ni welir yma yr un ymgais at ddiddymu un cyfundeb crefyddol, a chyfodi un arall yn ei le. Yr unig beth a wneir yw datgan perthynas y Brenin ag adran neillduol o'i ddeiliaid, y rhai oeddynt weinidogion mewn cyfundeb a fodolai eisoes, a gadael i'r cyfundeb hwnw sefyll o'r blaen. Dylid sylwi hefyd, gan fod y teitl hwn wedi ei gydnabod yn ff urfiol gan y clerigwyr er's blyn 0 y ddau heb beri yr un rhwyg rhyngom m a Rhufain, nas gallasai ei gydnabod yn ffurfiol gan glerigwyr a lleygwyr yn y ddeddf hon, beri dim cyfnewidiad ychwaith. Nis gallasai y ddeddf hon beri dim cyfnewidiad yn nghyfan- soddiad Eglwys, awdurdodau yr hon oeddynt eisoes wedi mabwysiadu y teitl. Nis gallasai ei ganiatau gas y Senedd wedi y cweryl wneyd Eglwys newydd o honi, mwy nag a wnaethai ei ganiatau gan y Confoeasiwn cyn y cweryl rhwng y Brenin ac Esgob Rhufain. Y mae y ddeddf nesaf yn datgan rhwymedig- aeth pawb o'r deiliaid i gymeryd LLW 0 UFUDD-DOD i'r Brenin ac i'w eppil o'r Frenhines Anne. Gofal am y Goron iddo ei hun a'i deulu oedd yn peri pryder i'r Brenin o hyd. Ofnai y bydd- ai i Esgob Rhufain geisio achosi blinderau iddo, a gwyddai fod llawer o'i ddeiliaid yn bleidiol i'r Esgob, a thybiai y byddai i'r ffaith eu bod wedi myned ar eu llw beri iddynt fod yn ffydd- Ion iddo, neu ynte y gwnaent ddangos eu hochr drwy wrthod ergynaeryd, ac y gallai yntau wedi hyny eu trin wrth fodd ei galon,

Anturiaethau Awyrol.

G WAS AN AETH NEILLDUOL YN…

NYTHAID 0 NADREDD YN N HON…

[No title]

Advertising