Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR GELWIR sylw Darlieuwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DVWYSOGAETS at y cyfnewidiadau calilynol mown eysylltiad a dygiad allan eiu newyddiadur. 0 hyn allan, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadati, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu fel y canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrhau tegwch ac osgoi siomedig- aeth, erfynir ar eiu Gohebwyr lliosog dalu sylw arbenig i'r rlieolau canlynol:- 1. Ysgriiener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym- (Idangoisiacl unrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, &c., os na dderbynir hwynt cyn, neu ar foren DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. 3. Nis gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o houynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gobebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er niwyn ei gy- hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest- rwydd yr awdwr. 6. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw. Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel y oanlyn Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeillion barddonol fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol bob amser:— J. Defnyddier note paper,' ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb oyffredinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol. TELERAU AM Y LLAN A'R DYWYSOG- AETH." Anfonir un copi drwy y Post i unrhyw gyfeir- iad yn y Deyrnas Gyfunol am y prisiau canlyn o I -Chwartel' blwyddyn, Is. 8c.; haner blwyddyn, 3s. 4c.; blwyddyn, 68. 8c. Dau nen dri rhifyn ya ol yr un raddfa. Rhaid anfon blaondal gyda phob archeb. Y telerau i Ddosbarthwyr ac eraill a gymer- ant ddwsin ac uchod yn wythnosol ydynt 9c. y dwsin, 10c. gyda'r rheilifordd, a Is. gyda'r post. Rhaid i bob Dosbarthwr wastadhau ei gyi- 17ifon yn chwarterol, a dymunir ar i bob un dalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda unrhyw esgeulusdra ar ran swyddogion y Llythyrdy y Rheilffyrdd gyda chludiad unrhyw sypyn, dylid anfon hysbysrwydd o liyny yn ddioed i'r Gyhoeddwyr. Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- oyniant eu sypynau gyda'r rbeilffordd ofalu eu hymofyn yn eu gwahanol orsafau bob wythnos. HYSBYSIADAU Y LLAN A'R DYWYS- OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R DYWYSOGAETH yw yr tfnig Newyddiadur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg, a dderbynir ac a ddarllenir garr y mwyaf deallus o bob dosbarth yn y Dywysog- aeth, efe, gan hyny, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw beth yn hysbys. Y Telerau am Hysbysiadau. 75 o eiriau (solid) neu un fodfedd i lawr y golofn fdisvlaved) :— Un wythnos (tâl ymlaen llaw). 2s. 6c. j Dwy wythnos 2s. Oe. Pedair wythnos Is. 8c. Chwech wythnos Is. 6c. 13 wythnos Is. 3e. 26 wythnos Is. Oc. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith- iol, 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4c. y Ilinell. Cyhoeddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn Saesnog. Ni ofynir talam gyfieithu. SYLWER.-Rbaid i bob Gohebiaeth ynglyn a Hysbysiadau a Tllaliadan o hyn allan gael eu hanfon i'r Cyhoeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office, 135, High Street, Merthyr Tydfil. IShjabirstairau 36latnbatiabot lUjafc. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A' R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol:- 20 o eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s. chwe' gwaith, 3s. 30 o eiriau, an waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; chwe' gwaith, 4s. 60. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. 16c.; chwe' gwaith, 6s. 9c. WANTED immediately, Locum Tenens for v v Welsh Parish.—Apply M. N., 131, Old 'Christchurch Road, Bournemouth. 46-48 WANTED, CURATE for Cwmavon bilin- V I,- guist; good preacher; musical; priest 'preferred.—Apply, with testimonials and refer- ences, to Rev. D. Bankes-Williams. 47— DIOCESE ST. ASAPH.—CURACY wanted soon by experienced Priest; bilingual; r, 0 EBrasical; highest references.—Address. M. W,, Llan Office, Merthyr Tydfil. 47—49 \ATANTED, Title for Lent Ordination, by University Graduate. Good speaker; bilingual; experienced; musical. Highest re- ferences.—Address, Alpha, Regent Villa, Rhyl. 45-47 LWY HALL SCHOOL, RHYL.-For the Daughters of Gentlemen. Resident En- glish and foreign Mistresses and visiting Mas- ters. Special terms for the Daughters of the Clergy. This School is specially recommended by the Right Rev. the Lord Bishop of the Diocese, and the Very Rev. the Dean. Pros- pectus on application to the Lady Principal. Next Term commencing January 20th, 1891. 6-57 WELSH GIRLS' SCHOOL, ASHFORD.- All applications for ensuing election to 0U + anc* intermediate pay scholarships must be made upon special forms, which must be returned to the Secretary, on or before April the 1st. Foundation Scholars obtain their education and board free of all cost. Inter- mediate pay Scholars pay £16 per annum. .cao number of higher pay Scholars at per annum can be admitted alter Easter. The oest of Board and education is over £ 50. Forms of application and full information can be obtained from the Secretary of the Welsh Waool, 127, St. GeofgeWoad, London, S.W.
CYFRINGELL Y GOLYGYDD
CYFRINGELL Y GOLYGYDD Mewn Llaw-Yr Eglwys yn Nghymru-Llith gan Elis Wyn o Wyrfai-Sasiynau o Fetho- distiaid (Allud EifionJ—Eglwys y Cymry (Pererin), &c. Cyhoeddi Gostegion Priodas.Heblaw y llith a welir ar dndalen 2 o'r rhifyn hwn, derbyn iasom yr atebiad canlynol oddiwrth Mr. T. Prichard, Llanbadrig :—" 0 berthynas i ofyn- iad dyddorol y Parch. J. W, Wynne-Jones yn eich rhifyn diweddaf, goddefweh i mi ei ad- goffa. nad oes un angenrheidrwydd iddo ych- wanegu y geiriau 'Bachelor' a I Spinster' ar ol enwau y rhai a brioder pan yn cyhoeddi eu gostegion. Nid oes dim yn y ffiurf o ostegion na chwaith yn y Rubric yn galw am hyn. Mae yn wir fed yn ofynol nodi cyflyrau y pleidiau pan y cofrestrir y briodas, hefyd nodi eu galwedigaeth a neillduolion ereill, ond nid yw yn angenrheidiol datgan y rhai hyn yn gyhoeddus pan y cyhoeddir y gostegion."
Y SAFLE WLEIDYDDOL.
Y SAFLE WLEIDYDDOL. Ni chymerodd unrhyw gyfnewidiad o bwys le yn safle y clymbleidiau Gwydd- elig yn ystod y pythefnos diweddaf. Nid yw canlyniad yr ymdrafodaeth rhwng Mr. PARNELL a Mr. WILLIAM O'BRIEN yn Boulogne wedi ei wneyd yn hysbys pan yr ydym yn ysgrifenu, ond y farn gyffredin ydyw-beth bynag all fod natur y cytundeb y daethpwyd iddo mewn porthynas ag arweinyddiaeth y blaid Wyddelig yn y dyfodol fod Mr. CHARLES STEWART PARNELL yn hawlio mwy nag a wna ei wrthwynebwyr gan- iatau. Os llwyddant i glytio rhyw fath o undeb am dymor, yr hyn sydd yn angen- rheidiol er sicrhau cronfeydd—y sinews of war-anhebgorol i gynhaliaeth y cyn- hyrfwyr cyflogedig hyn, nid oes un ddadl nad yw yr "undeb calonau y soniai Mr. GLADSTONE gymaint am dano wedi ei dori yn gyrbibion man. Y mae arweinyddion y "blaid fawr Ryddfrydol wedi bod yn dawedog iawn yr wythnosau diweddaf. Tarawyd hwynt a mudandod gan y cythrwfl Gwyddelig, ond yr wythnos flaenorol meddianwyd rhai o'r oraclau hyn a digon o wroldeb i dori ar y distawrwydd poenus. Bu yr athronydd enwog, Mr. JOHN MORLEY, yn "dweyd y drefn" yn Newcastle, ddydd Mawrth, a dygai ei araith, mewn modd grymus, i'n meddwl yr hogyn yn chwibanu yn y tywyllwch er cadw ei galon i fyny. Yn sicr, yr oedd yn ofynol wrth fesur mwy na chyffredin o wroldeb i siarad o gwbl ar y fath acelysur, dan gysgodion "y cymylau duon oedd yn crogi uwch eu penau." Yr oedd yn rhaid iddo, wrth gwrs, wneyd arddangosiad o gymaint o wroldeb a rhodres, ac ymddangos mor hunan- hyderus ag oedd modd, dan yr amgylch- iadau anfanteisiol hyn. Yr oedd wedi cael llawer o gyfleusderau i'w hanerch yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf, ond addefai na fuasai ar unrhyw achlysur blaenorol yn sefyll mewn mwy o angen am eu cydymdeimlad a'u hynawsedd, mewn sefyllfa wleidyddol yn yr hon y teimlai fwy nag erioed yr angenrheid- rwydd am eu hystyriaeth a'u barn. Wedi hyny, aeth ymlaen i ymosod ar ei wrth- wynebwyr. Yr oeddynt wedi bod am bum' mlynedd yn ymdrechu dynoethi y gyfundrefn bresenol o wladweiniaeth yn yr Iwerddon, ei chamsyniadau, a'i meth- iant. Yr oeddynt wedi curo eu gwrth- wynebwyr ar y llwyfan ac yn y pebyll etholiadol. Ddeufis yn ol, yr oeddynt wedi enill y frwydr, ond oddiar hyny yr oedd cymylau trymion wedi ymgodi yn yr awyrgylch, ac yr oedd y mudiad oedd yn myned ymlaen nior hwylus ac mor gyflym i lwyddiant wedi ei lesteirio am foment. Ymddengyg i mi mai moment go hir fydd moment yr athronydd o Newcastle. Yr oedd Mr. MORLEY o'r farn, pa fodd bynag, fod y rhai a ddy- wedent fod Home Rule wedimarw dipyn yn fyrbwyll, a bod eu gorfoledd oher- wydd yrhwystr hwn ar ffordd y mudiad, yr hwn nad oedd ond o fyr barhad, yn eithafol. Yr oedd yr athronydd dwfndreiddiol. yn tynu llawer o gysur iddo ei hun a'i gefnogwyr allan o ethol- iad Kilkenny. Y mae iddynt bob croesaw i hyny o'n rhan ni—eu busnes hwy ydyw; ond y mae hyn yn arddangosiad teg o'r benbleth anobeithiol y mae yr Ysgarwyr ynddi ar hyn o bryd. Nid yw yr Undebwyr, mewn gwirionedd, yn ymorfoleddu uwchben cyfiwr truenus presenol y Gladstoniaid. Yr oil a ddy- wedasant ydoedd fod Home Rule wedi marw, ond ni thybiodd neb o honynt am foment y cleddi4 fei beb rp craeh- feddygon Radicalaidd hyn yn gyntaf chwythu anadl einioes i ffrooliati yr ysgerbwd marw. Nid oes dim yn y byd a wnelo yr Undebwyr a'r trychineb ofn- adwy sydd wedi goddiweddyd y Glad- stoniaid, ond ni allent lai na theimlo yn ddiolchgar fod rhywbeth wedi dyrysu ynlluniau dinystriol yr Ysgarwyr. Pa- ham na wnai Mr. JOHN MORLEY ymosod ar Mr. PARNELL am arwain y blaid i'r fath ddyryswch diobaith, a gadael Mr. CHAMBERLAIN a'r Undebwyr yn Ilon- ydd ? Ond y mae dyn pan mewn tymer ddrwg yn colli ei hunan-feddiant i'r fath raddau fel y mae yn ymosod ar bawb a ddelo ar ei ffordd ynddiwahan. Gwelsom un hen ysgolfeistr yn y fath nwydau aflywodraethol fel ag yr oedd yn curo y plant i gyd am drosedd un Ymddengys i ni nad oes yr un esboniad amgen i'w roddi ar ymddygiad Mr. JOHN MORLEY yn ymosod ar yr TJndeBwyr yn New- castle. Prophwydai lwyr ddinystr y Rhyddfrydwyr Undebol yn yr Etholiad Cyffredinol nesaf, gan gydmaru eu di- wedd i gwymp Dagon. Y mae hyn yn ddigon o brawf fod yr aelod dros New- castle wedi colli ei gydbwysedd medd- yliol," o'r hyn y cyhuddai ei wrthwyneb- wyr. Ni chafwyd erioed well disgrifiad o Homo Rule, yr hon sydd wedi ei llwyr ddinystrio, fel nad oes ond y corff (stump) yn unig yn aros. Mewn cyfejr- iad at araith Mr. PARNELL yn Limerick, dywedai Mr. MORLEY fod ganddo awd- urdod oddiwrth Mr. GLADSTONE i I ddweyd nad oedd unrhyw gynyg pa bynag wedi ei wneyd yn Mhenarlag ag oedd yn rhwymo un o'r pleidiau. Gwadai fod unrhyw gyfeiriad wedi ei wneyd at yr heddgeidwaid na'r fainc farnol, a bod Mr. PARNELL wedi cael cynyg ar y swydd o Brif Ysgrifenydd. Os gwir hyn, paham na wnai Mr. GLADSTONE dderbyn yr her a roddwyd iddo gan Mr. PARNELL yn Limerick, sef dwyn i oleuni dydd y cofnodiad y dywed iddo ei wneyd o'r ymdrafodaeth a fu rhyngddynt yn Mhen- arlag ? Pa le y mae y Memorandum ? Ni chlywyd na siw na miwam dano eto. Dadleuai Mr. MORLEY fod Home Rule yn gynyg ymarferol ac angenrheidiol, ond fod y cwbl yn bresenol yn ymddi- bynu ar yr Iwerddon. Yr Iwerddon oedd i ddewis. Os byddai y Gwyddelod yn ffyddlon iddynt eu hunain, ni wnai y blaid Ryddfrydol byth eu bradychu. Gallai yr awr fod yn dywyll, a'r arwydd- ion yn ddyryslyd, ond yr awr dywell a brofai y metel o ba un yr oedd dynion wedi eu gwneyd. Rhyw gybolfa fel yna oedd cynwysiad araith yr athronydd mawr o Newcastle, ond rhaid i ni beidio bod yn rhy lawdrwm arno-chwibanu yn y tywyllwch yr ydoedd, a thywyllwch Aiphtaidd ydyw mewn gwirionedd! Traddododd Arglwydd DERBY araith ddyddorol, nos Iau, i gynulliad lliosog o Ryddfrydwyr Undebol yn Manceinion. Yn nghwrs ei araith dywedodd ei arg- lwyddiaeth y buasai yn rhaid i Mr. GLADSTONE, gan ei fod wedi ymrwymo i Home Rule fel cwestiwn ag oedd yn ffordd pob cwestiynau eraill, dderbyn unrhyw drefniadau o eiddo yr aelodau Gwyddelig. Ni ellid ymddiried yn Mr. PARNELL, ond yr oedd ar yr un pryd yn arweinydd cymwys i'w blaid, y rhai na ddarfu feddwl am foment, cyn i Mr. GLADSTONE eu cynghori i'r gwrthwyneb, fod y trosedd a gyflawnodd o ddimpwys. Dyledswydd yr Undebwyr oedd gweled fod y cynydd mawr a wnaed yr ychydig flynyddau diweddar yn cael ei gadw i fyny. Bu Mr. CHAMBERLAIN, yr un noswaith, an anerch cynulliad mawreddog o Undeb- wyr yn Birmingham. Dywedodd fod digwyddiadau cyffrous yr wythnosau di- weddaf yn cyfiawnhau. ymddygiad y mwyafrif o'r etholwyr yn gwrthod cynygion Mr. GLADSTONE o barthed i Home Rule i'r Iwerddon. Yr oedd yr aelodau Gwyddelig yn galw eu hunain yn Genedlaetholwyr a Gwladgarwyr. Nid oeddynt, fodd bynag, y naill na'r llall, ond yn hytrach cyflog-weision yn cael eu talu ag arian tramor, Ni roddwyd erioed well disgrifiad o'r llymrigiaid rheibus hyn—llygaid y geiniog, y rhai na wnant ddim heb dal. Gwnaeth Mr. CHAMBER- LAIN apel ddifrifol at bob gwir Rydd- frydwr i gefnogi llywottrefn yr Undeb- wyr, ac ymwrthod ag eiddo y Gladston- iaid, yr hyn a fyddai yn sicr o fod yn anrhycledd iddynt. Mewn atebiad i ohebydd, yn gofyn iddo ei farn am Home Rule yn yr am- gylchiadau presenol, dywedai Syr WIL- LIAM HARCOURT fod y cwbl yn awr yn aorphwys ar law y Gwyddelod. Y fath sefyllfa ddiraddiol i'r blaid fawr Rydd- frydol," ac yn enwedigol i'r' hen wlad- weinydd ardderchog o Benaiiag Wel! wel 1 pa ipdd j cwympodd y cedyra ?
T "GWIR: NID YR HOLL WIR."
T "GWIR: NID YR HOLL WIR." Papyr bach, gonest ar y cyfan, yw yr Herald Cymraeg Ceidw ei dudalenau yn weddol lan oddiwrth yr ymosodiadau personol, a'r ensjniiadau isel ac annheil- wng a welir yn wythnosol yn britho rhai o'r papyrau Cymreig. uidrtj^-ia roddi adroddiadau cyflawn a theg o'r hyn a gymer le ac, ond eithrio y LLAx a'r Gwalia, y mae mor deg a'r un papyr yn ei ymwneyd a materion cyhoeddus. Onci nid yw bpb amser yn gweled ymhell; ac, oblegid hyny, nid yw yn sefyll mor uchel yngolwg darllenwyr craff us ag y gallasai ei berchenogion ddymuno. Yn awr ac eil- waith daw y diffyg hwn yn eglur i bawb. Cafodd llawer ddifyrwch mawr wrth ddarllen ei erthygl ycliydig amser yn ol ar "Gynllun Addysg Pwyllgor Sir Gaer- narfon." Yr oedd digon o le i feirniadu ar hwnw. ond rywfodd neu gilydd syrth- iodd yr Herald, i'r amryfusedd o ganmol holl fanau gweinion y cynllun Dengys ei bwtyn erthygl ar Wyliedydd y Twr," yr wythnos ddiweddaf, yr un diffyg g craffder. Bythefnos yn ol profasom fod y pwyllgor a benodwyd yn y fiwyddyn 1877 i wneyd ymchwiliad i'r lleihad yn nifer aelodau y Methodistiaid wedi dweyd fod gwaith y swyddogion yn tynu oddiar y llyfrau enwau pobl oedd- ynt yn rhy dlodion i dalu eu cyfraniadau tuag at yr Achos yn un rheswm am y lleihad. Yr oedd hyn wedi cael ei wadu, a chyhuddid Esgob Llanelwy o roddi bodolaeth i'r frawddeg er mwyn drygu y Corff. Yrahlith dyfyniadau eraill, rhodd- asom un o'r Herald yn cynwys y geiriau. Achwynir arnom yn yr erthygl yr wyth- nos ddiweddaf am na buasem hefyd wedi dyfynu y frawddeg ganlynol Oni bai am yr esgeulusdra hwn, tybid y dangosai y cyfrifon eu bod yn llawer lliosocach nag y gosodwyd hwynt allan. Pender- fynwyd fod i'r Adroddiad gael ei ddodi yn nghofnodion y Gymdeithasfa, a-bod sylw yr eglwysi i gael ei alw at y mater." Ein hamcan ni ydoedd profi y ffaith fod enwau y tlodion yn cael eu gadael allan. Pe buasem am brofi fod hyn yn cael ei wneyd yn gyjfredinol, ni fuasem, ar un cyfrif, yn gadael y frawddeg yna allan. Y mae dweyd y buasai y cyfrifon yn llawer lliosocach oni bai am waith y swyddogion yn croesi enwau y tlodion allan yn gyfystyr, yn ol ein barn ni, a dweyd mai nid mewn rhyw gapel neu ddau y gwnaed hyn, ond mai dyma reo) y Corff. Y mae y ffaith mor wrthun, ac mor groes i egwyddorion Cristionog- aeth, fel nad oeddem yn hofli gwneyd trwst a hi y pryd Jiwnw, ond gan y myn yr Herald ei dwyn i'r goleu—boed felly. Nid ydym heb wybod fod cerydd y Pwyllgor wedi dwyn ffrwyth, a bod y llyfrau yn cael eu cadw yn wahanol- "nid oherwydd fod ganddynt ofal dros y fclaAvd," ond er gwneyd y cyfrifon yn llawer lliosocach
Y CYFNOD SWYDDOGOL.
Y CYFNOD SWYDDOGOL. Dengys yr ymdrafodaeth ddiweddar, at yr hon y cyfeiriasom nchod, fod y Corff erbyn hyn wedi cyraedd y cyfnod swydd- ogol yn ei hanes. Edrychir ar bobpeth fcrwy wydrau swyddogol, ac oni wel pawb bethau yn eu lliw swyddogol, ar eu gwel- ediad hwynt y mae y bai, bid sicr. Pan idaw adroddiad neu benderfyniad yn swyddogol," bydd yn bechod 3'n erbyn y Corff sibrwd yr amheuaeth leiaf yn righylch ei gywirdeb. Fe ddichon mai Mr. Owen Owen, Oswestry, sydd yn cyn- rychioli yr ysbryd yma oreu ar hyn o bryd. Y mae golwg ar y rhuban coch" yn ddigon iddo ef—beth bynag a rwymir hwnw—dyna sydd iawn, a dim arall. Pan gyrhaeddir y cyfnod hwn, ystyrir fod fcyfiant a chynydd gwirioneddol ar ben. Y mae y red tape yn tagu pob ymgais at ddadblygia.d iachus. Nid oes yr nn genedl wedi byw yn hir yn y eyflwr yma, oddi- wrth y Chineaid. Dywedirfod ganddynt hwy y fath ddawn o amlhau eu hunain fel nad yw'r achosion a ddifodent gen- hedloedd eraill yn effeithio dim arnynt hwy. Ond nid yw hanes y deng mlyn- edd diweddaf yn argoeli yn dda i'r Corff yn y cyfnod hwn o'i fywyd. Nid yw yn amlhaulllewn rhif, nac yn ymberffeithio mewn cariad. Y mae ei dyner wedi dirywio yn gyflym yn ddiweddar, os yw y Goleuad yn fynag cywir o hono. Yn ei berthynas a'r cyrff crefyddol eraill, arddengys fath o dymer Phariseaidd. Ni phetrusai ddweyd mewn geiriau eglur wrth yr Eglwys, Sancteiddiach wvf li na thydi ac er nad yw yn meiddio dweyd hyny am ei gyd-enwadau, profa amgylchiadau mai dyna'r gred. Ni fernir neb yn deilwng o swydd—boed aelod seneddol neu s?veel)-oni fydd yn aelod o'n Henwad Ni," chwedl yr oracl o Ddolgellau. Cyrhaeddodd yr ysbryd yma ei fan uchaf pan gyhoeddwyd yn Nghymdeithasfa Llandudno mai ei iaith am y tlawd ydoedd-11 Y bobl hyn, y rhai ni fedrant gyfranu at yr Achos, melldig- edig ydynt Nid rhyfedd i Siluriad" ddweyd fod y Corff mewn perygl o gael ei lethu gan faich ei swyddogaeth. b
MR. GEE FEL YSBIWR.
MR. GEE FEL YSBIWR. Yn y cymeriad o ysbiwr y mae Mr. Gee wedi bod yn torsythu gerbron y wlad y ddwy wythnos ddiweddaf. Nid yw hwn yn gymeriad gwreiddiol—chwareu- wyd yr un part ga.n y Genedl yn Sir Fon a manau eraill. Credwn hefyd nad oes fawr o newydd-deb yn y ffeithiau (?) a gyhoeddir yn y Faner, ac eithrio, efallai, ddesgrifiadau dychymygol y gohebydd arbenig o'r tywydd hafaidd yn Llan- nefydd ar Sul y 4ydd o Ionawr. Dywed ei bod yn foreu hyfryd—yn un ag y gellid disgwyl gweled ugeiniau yn cyrchu tua'r eglwys. Gallesid meddwl, wrth ddarllen- yr ysgrif, mai tua'r Riviera neu "Wlad yr Haf yr oedd yr is-ysbywr yma wedi bod, ac nid mewn lie agored, ar ben mynydd, ar un o ddydd- iau oeraf blwyddyn nodedig o oer. Ond, wrth- rcswm, yr oedd yn ysgrifenu i'r Faner gyda'r amcan o brofi mai ychydig pobl oedd yn mynec^ j Waqelyddj ac ni wnai y tro i ddweyd y gwir am y tywydd nac am ddim arall. Rhaid oedd profi fod yr holl amgylchiadau yn ffafriol i gynulleidfa fawr, a hyny hyd yn nod pe rhaid profi fod mis Ionawr yn Llanefydd mor braf a mis Mai mewn llanau eraill Ac megis yr oedd pob peth o'r tuallan i'w canmol, felly, mae'n debyg, yr oedd pob peth o'r tufewn i'w beio. Ond cofier mai yr un gwr sydd yn dweyd ei bod yn haf- aidd yn y fynwent ag sydd yn dweyd ei bod yn Siberia tu fewn, ac y mae y naill ddywedlad mor wir a'r llall feddyliem. Yr oedd bai ar bob peth. Yr oedd yr eg- 1 \yy vn rhy fawr, y seti yn rhy uchel, y gynulk-i h yn rhy facli, y bregeth ynrhy fer, a'r A ithiau" yn rhy hen Y bai olaf yma yw y mwyaf digrif o'r cyfan. Hysbys i bawb ond i ohebydd goleuedig y Faner mai dwy benod-un o'r Hen Destament, a'r llall o'r Newydd—ydyw y llithiau. Ond ymddengys eu bod yn rhy hen i chwaeth y gwr ynia. Nis gwyddom beth a ddisgwyliai hwyrach y carai glywecl araith ddiweddaf Mr. Gladstone, neu erthygl olaf y Faner yn cael ei dar- llen. Ond, ysywaeth, ni chafodd ar y boreu braf" yma ddim ond dwy hen benod o'r Beibl! Nid ydym wedi gweled y Faner ddi- weddaf, ac nis gwyddom beth sydd gan- ddo i'w ddweyd am y Bylchau. Os cawn amser, ni a daflwn ein llygaid drosti yn nghorff yr wythnos. Dyddorol fuasai gwybod pa nifer o bobl oedd mewn llawer capel ar foreu y Suliau diweddaf, hyd yn nod yn nhref Dinbych, heb son am gapelau y mynydd- oedd. Gwyddom o'r goreu nad yw pob eglwys drwy y wlad yn llawn gwyddom fod rhai a'u cynulleidfaoedd yn fychain, ac nid rhyfedd eu bod felly yn Llanefydd a'r Bylchau, lie y mae y Cyngrair Gwrth- ddegymol wedi gwenwyno meddyliau y bobl yn erbyn yr Eglwys. Ac oni buasai ei bod felly, ni fuasai Mr. Gee byth yn anfon yno i gyfrif penau ar y Sul. Y mae yr Eglwys yn gorchuddio y wlad, a phan fyddo y rhengoedd mor hir, nid rhyfedd os ydynt mewn manau yn deneu. Ac oni fuasai fod dylanwad yr Eglwys yn wan yn Llanefydd, ni fuasai y fath olyg- feydd annheilwng, a'r fath ysbryd an- onest ar led yno. Y fath wlad anwareidd- iedig fuasai Cymru heddyw pe buasai yr Eglwys ymhob man mor wan ag yn Llanefydd. Fe ddichon fod Mr. Gee, drwy ei ysgrifau, xn profi yn fwy effeith- iol nag y gallwn ni wneyd pa mor bwysig i ddyfodol y wlad ydyw cael yr Eglwys yn gref a gweithgar, oblegid ymddengys mai i'r graddau y byddo dylanwad yr Eglwys yn lleihau mewn plwyf, y bydd Cristionogaeth a moesau y plwyf hwnw yn dirywio. GWYLIEDYDD Y T\VR. Nos Lun, Ionawr 19, 1891.
Helynt y Degwm yn y Bylchau
Helynt y Degwm yn y Bylchau AT OLYGYDD "Y FANER." Syr,-Yn y F(tncr am y 14eg cyfisol, ceisiwcli gyfiawnhau helynt y Degwm yn y Bylchau ar y tir nad oedd ond chwe' enaid yn bresenol yn y gwasanaeth boreuol y Sul ar ol yr helynt. Addefwch fod y plwyf yn fynyddig a'r hin yn oer, a bod y boblogaeth yn deneu a gwasgar- edig. Gall fod y nifer a enwir gan eich gohebydd yn gywir am y boreu Sul hwnw, ond dywed nad oes ond o 15 i 20 yn mynychu'r eglwys yn yr hwyr yn gyffredin. Y mae hyn yn anghywir. Clywais Mr. Jones yn dweyd lawer gwaith fod yno oddeutu 50 yn bresenol yn fynych yn yr hwyr. Ond gan mai dyben eich gohebydd yw ceisio dangos gwendid yr Eglwys, nid doeth fyddai son am y cynulliadau goreu. Y mae yn ateb gwell dyben, wrth reswm, i gyhoeddi nifer y gwyddfodolion ar foreu'r Sul ar ol yr helynt," yn enwedig os bydd yr hin yn oer. Yn eich erthygl arweiniol, dywedwch fod gwerth y fywoliaeth yn £ 320. Y mae hyn hefyd yn anghywir ac yn gam- arwoiniol. Y mae'r degwm yn lleihau o ran ei werth o ddwy i bedair punt y cant bob blwyddyn er's blynyddau. Clywais Mr. Jones yn dweyd nad yw'r fywoliaeth yn werth dros £ 300 eleni pe c'ai pob dimai. Yn ol eich cyfaddefiad eich hun, y mae Mr. Jones wedi bod yn troi yn ol bedwar swllt y bunt o'r degwm. Tyn hyn i lawr i £240. Gwyddoch, yn ddiau, y trethir y degwm yn drwm iawn, a bod yn rhaid i offeiriad plwyfol nid yn unig i dalu treth ar y degwm, ac ar ei dv, a threth incwm gyda hyny, ond ei bod hefyd yn rhaid iddo adael ei dv i'w olynydd fel y cafodd ef, a bod hyn yn dreth drom iawn arno. Fel hyn, nid yw y swm a ga Mr. Jones i fyw arno, pe cai pob dimai goclr o'i gyflog, ddim llawer mwy na haner y swm a enweh. Os oes llawer o'r degwm-dalwyr yn "wroniaid," fel Elias Jones, rhaid tolli hyd yn nod y swm yna. Ond caniatewch nad oes llawer o wroniaid yn y plwyf, a bod Mr. Jones yn cael i'w boced oddeutu Y-180 y fiwyddyn, gofynwn beth y mae yn ei wneyd am danynt ? Gallaswn ddweyd, yn y fan hon, nad yw plwyf > Bylchau ond rhan o'r Esgobaeth, fod y fywoliaeth yn un o'r rhai goreu yn yr Esgobaeth, a bod Mr. Jones wedi cael y plwyf hwnw yn ei hen ddyddiau yn dal am waith da mewn plwyf arall. Ond gadawn hyn ar hyn o bryd. Dywedwch fod yno ddau wasanaeth ac Ysgol Sul bob Sul. Dywed- wch hefyd fod yno ysgol ddyddiol. Y mae yn eglur, ynte, fod yr Eglwys yn y plwyf yn gofalu am addysg i'r plant, a gwna hyn heb osod treth ar y plwyfolion. Y mae hyn yn fwy na wnaeth y capeli llawnion (?) erioed. Y mae yno hefyd glwb dillad, a chan fod y trigolion oil, oddigerth rhyw bum neu chwech, yn n Ymneillduwyr, yn .ol tystiolaeth eich gohebydd, eglur yw mai Ymneillduwyr sydd yn cael lleshad oddiwrtho. A glyw- soch chwi erioed fod aelodau y capeli llawnion yn gwneyd cymwynasau o'r fath hyn i Eglwyswyr mewn unrhyw ran o'r wlad ? Pa faint y mae Mr. Joneg yn gyfrsm fr tlodion pa mor fynypfc y gwelir ef wrth erchwyn gwely y claf, pa nifer o weithiau y gelwir arno i wneyd "ewyllys" yr ymadawedigion, ac i roi carictor i'r ieuenctyd wrth fyned i le, nis gallaf ddweyd, am nad oes genyf gyfle i farnu. Y mae yn fwy na thebyg, a barnu oddiwrth yr hyn a ddywedweh am dano, nad yw yn ol i'r clerigwyr yn gyffredin yn nghyflawniad y dyled- swyddau hyn a'u cyffelyb. Ond eto, a chaniatau nad yw'r Eglwys yn gryf yn y plwyf, a ydyw'r ffaith nad yw mwyafrif y plwyfolion yn myned i'r eglwys yn cyfiawnhau gwaith y degwm- dalwyr yn cadw'r degwm yn eu llogellau eu hunain ? Nid oedd ond 7,000 yn Israel yn amser Elias na phlygasant eu gliniau i Baal. A oedd hyny yn cyfiawn- hau gwaith brenhinoedd Israel yn atal y degymau oddiwrth addoliad y Jehofah ? Ar bwy mae'r bai nad yw mwvafrif pobl y Bylchau yn myned i'r eglwys ? Y mae drws yr eglwys yn agored ddwywaith bob Sul, yn ol cyfaddefiad eich gohebydd, ac y mae'r seddau oil yn rhyddion. Dywed y gwrthddegymwyr nad oes arnynt eisiau'r Eglwys, na thalu tuag at ei chynal ond talu'r degwm a roddwyd i'r Eglwys yn mhlwyf Henllan ganrifoedd yn ol wnant hwy, nid rhoi'r degwm eu hunain. Os yw'n gyfiawn atal degwm Person plwyf am nad yw'r eglwys yn llawn, y mae'n gyfiawn hefyd dwyn oddiar ddyn ei eiddo personol os ystyrir nad oes iawn ddefnydd yn cael ei wneyd o hono, a phwy sydd i farnu a ydyw yn cael ei iawn ddefnyddio neu beidio ? A ganiataech chwi, Mr. Gol., i mi fod yn farnwr arnoch chwi ? Addefaf, wrth reswm, y dylid galw i gyfrif offeiriaid di-waith, ond i swydd esgob y perthyn hyny, nid i ohebydd newyddiadur. Nid ceisio cyfiawnhau diogi yn ngweinidogioii yr Efengyl yr wyf wrth ysgrifenu fel hyn, oherwydd addefwch fod Mr. Jone.s yn cael ac ynteilyngu parch gan ei bl wyf- olion.—Ydwyf, &c., J. WILYM JONES. Ficerdy Bwlchgwyn, Ionawr 15, 1891.
------,-'---.-J_--_---------DINBYCH…
-J_ DINBYCH A'R CYLCHOEDD. DINBYCH. Breint-Gymdeithas yr Eglwys.—Nos Fawrth diweddaf, cyfranogodd aelodau y gymdeithas uchod o swper a barotowyd gan Mrs. Fox, yn y Church House, ar draul y foneddiges haelionus, Mrs. Burton, Gwaenynog. Gwir fwynhawyd y swper gan yr oil o'r cyfranogwyr. Ar 01 y wledd, cynhaliwyd math o gyfarfod lion a chyfeillgar dan lywyddiaeth y Parch. D. Griffiths, yr hwn a gynygiodd bleidlais o ddiolchgarwch i Mrs. Burton am y dyddordeb mawr a gymerodd yn y Guild a phob gwaith Eglwysig arall yn y plwyf. Pasiwyd y penderfyniad yn nghanol banllefau. Mr. J. Davies, cyf- reithiwr, a gynygiodd ddiolchgarwch i'r Dr. Turnour am y gefnogaeth a ddyry i'r gymdeithas, ac am ei haelfrydedd yn dar- paru y fath le ardderchog iddynt i gyf- arfod, sef y Church House. Hefyd, cyf- eiriodd at y golled a gaffai y Guild a'r plwyf yn ymadawiad Mr. Griffiths. Ateb- wyd an y Dr. Turnour a Mr. Griffiths, yr hwn a sylwodd y fath bleser ydoedd wedi gael tra yn llafurio ymysg dynion ieuainc Dinbych, a gobeithiai y byddai iddynt ei gofio yn maes newydd ei lafur (Penydarren). Yna aed drwy raglen faith o gerddoriaeth, a therfynwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol. Yr Heddlys Sirol.—Ddydd Mercher, gerbron y Milwriad Mesham a Mr. J. Briscoe, cyhuddwyd William Jones, Llandyrnog, o fygwth saethu Mr. Evans, Golden Lion Inn. Dirwywyd ef i 5s. a'r costau.—Am herwhela yn Mharc Potyn, gorchymynwyd i bump o ddynion dalu 5s. a'r costau bob un. Yr Heddlys JBivrdeisioI.—Gohiriwyd achos Mr. D. Williams, arwerthwr, yn erbyn y Dr. W. W. Herbert, am bythefnos. —Dirwywyd Mr. J. Lloyd, Gwaenynog Bach, i Is. a'r costau, am esgeuluso rhy- buddio fod ganddo dair dafad dan y clwyf.—Anfonwyd Emma Jones i gar- char Rhuthyn am feddwi. Druan o Emma, buasai yn well iddi fod wedi gwrando ar gynghorion a rhybuddion ceidwad a chaplan y carchar y troion o'r blaen yr ydoedd yno. Mawr hyderaf y bydd i rai o'i chymydogesau gymeryd rhybudd o hyn, rhag y byddant hwythau yn ei dilyn rai o'r dyddiau nesaf yma. HENLLAN. Super Weithwyr. — Nos Sadwrn wythnos i'r diweddaf, yn ol ei arfer blyn- yddol, gwahoddwyd yr holl weithwyr ar ystad y Garn gan W. D. W. Griffiths, Ysw., i gyfranogi o swper ddanteithiol. Ar ol gwneyd cyfiawnder a'r danteithion, cafwyd amryw ganeuon a llwncdestynau. Ymwahanwyd gyda chalonau diolchgar, a'r dymuniadau goreu i'r yswain a'i deulu mwyn a charedig. LLANDYRNOG. Marwolaeth.—Mae genym y gorchwyl gofidus, yr wythnos hon, o gofnodi marw- olaeth y Milwriad P. S.Humberston, Y.H., Glanywern, yn y plwyf hwn. Cymerodd yr amgylchiad galarus Ie foreu Gwener diweddaf. Yr oedd yn Hedd- ynad yn Siroedd Caer a Dinbych. Bu yn cynrychioli ei ddinas enedigol (Caer) yn y Senedd am rai blynyddoedd. Ceidwad- wr trwyadl ydoedd. Yr oedd yn Eglwys- wr pur ac egwyddorol, a chymerai y rhan flaenllaw mewn pob symudiad Eglwysig. Gallwn ddweyd yn ddiweniaeth y teimlir colled fawr am dano. Yr oedd yn dir- feddianydd rhagorol, ac yn ddyngarwr trwyadl. Treuliodd oes faith a defnydd- iol, a bu farw yn 80 mlwydd oed. TREMEIRCHION. Y Gymdeithas Genhadol.—Nos Fercher, mewn cysylltiad a'r gymdeithas uchod, cafwyd can-wasanaeth ardderchog. Heb yr un mymryn o sebon, dywedwn, yr oedd yn werth i'w wrando. Ar ei ol. cafwyd darlith Magic Lantern gan ddau o ficeriaid Llanelwy. Dywedaf fod Eg- lwyswyr y plwyf hwn yn e-siarnpl i'r j'plwyft cylchy4ol yn eu fsel* a'u gweith- gE^rwch.. Daliwch gyfeillion anwyl, mwy lydd Ffraw.