Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
23 articles on this Page
Y DIWEDDAR Mr. R. W. GRIFFITH,…
Y DIWEDDAR Mr. R. W. GRIFFITH, LLANDAF. Ddydd Sadwrn, hebryngwyd gweddillion marwol y diweddar Mr. R. W. Griffith, cyfreith- iwr ac ysgrifenydd Arglwydd Esgob Llandaf, i'w gorphwysfan olaf yn mynwent Eglwys Gadeiriol Llandaf ynghanol arwyddion cyffred- inol o alar. Er mai preiat ydoedd yr angladd, ymgynullodd nifer fawr o gyfeillion ac edmyg- wyr y boneddwr ymadawedig yn yr eglwys er dangos eu parch i'w goffadwaiaeth. Pan gyrhaeddodd yr orymdaith bruddaidd at ■ ddrws gorllewinol yr Eglwys Gadeiriol, blaen- orwyd hi i mewn i'r adeilad cysegredig gan y c6r a'r clerigwyr. Yn yr eglwys, darllenwyd y gwasanaeth gan y Tra Pharchedig Ddeon Yaughan, a chanodd y cor yr emynau, Brief life is here our portion," 0 God, our help in ages past," a "Now the labourer's task is o'er." Pan ddibenwyd y gwasanaeth yn yr eglwys, chwareuwyd y Dead March gan Mr. Brooks- bank, yr organydd, yn ei ddull effeitliiol arfer- ol. Wrth y bedd, gweinyddwyd gan Arglwydd Esgob Llandaf. Yr oedd yr arch yn orchuddiedig a wreaths ysblenydd, rlxoddion perthynasau a chyfeillion galarns y boneddwr ymadawedig. Y prif alar-
[No title]
wyr oeddynt:-Y Dr. F. E. Gladstone, Llun- <4ain; Mr. S. Griffith, Mr. a Mre. Jeffries, Mr. J.E. Gladstone, Mr, W. H. D. Gladstone, Mr. Lambe, Miss F. Griffith, Mrs. Harris, Mri. Allen, Wilson, Taverner, a Glasse. Ymhlith y clerigwyr oeddynt yn bresenol, sylwasom ar y rhai canlynol :—Yr Hybarch Archddiacon Bruce, y Canon Kawkins, y Canon Roberts, y Parchn. F. W. Edmondes, E. Owen, yr Is-ganoniaid Downing a Skrimshire, y Parch. J. R. Buckley, tra ymhlith y lleygwyr y gellir -enwi y Colonel Hill, C.B., A.S. y Dr. C. Yacliell, y Dr. C. T. Vachell, y Cynghorwr Peter Price, y Colonel Woods, Mr. a Mrs. Arthur Lewis, y Mri. G. E. Halliday, G. Dorn- ford, Evan Lewis, John Gunn, G. C. Coleman, Watkins, Jonas Watson, F. W. Lock, Clement R. Waldron, Linton, Morris, Bassett, W. Bradley, H. F. Lynch-Blosse, Edward Lynch- Blosse, John Williams, E. W. M. Corbett, T. H. Stephens, G. Sargeant, Hamilton Hume, R. Spencer, a J. Corbett. lJrwy tarwolaeth Mr. Griffith, mae Esgob- aeth Llandaf wedi colli swyddog ffyddlon a go&lus, a theimlir chwithdod ar ei ol. Perchid ef ggt). bawb o'i gydnabod, gan ei fod yn fon- eddwr umawn a dichlynaidd ei rodiad, yn gyfaill cywir, ac yn barod bob amser i estyn cynorthwy er hyrwyddo ymlaen unrhyw waith 4a yn Ngbaerdydd, Llandaf, neu rywle ag y gwetei y gallai fod yn ddefnyddiol. Hedd wch i lwch Cristion cywir a diymhongar, a nawdd y Nef 4ros ei deulu yn ngwyneb eu colled disymwth.
BWLCHGWYN.
BWLCHGWYN. Cynhaliwyd gwasanaeth bob nos yn yr eg- lwys yn ystod yr wythnos gyntaf yn y flwyddyn newydd, pryd y pregetkwyd gan y Parchn. W. E. Jones, Bylchau H. Roberts, Brymbo, a T. Lloyd, Llanelwy. Cafwyd cynulleidfaoedd da, a phregethau grymus. Nos Lun, y 19eg cyfisol, cafwyd darlith ar yr Eglwys a'i Llyfr Gweddi" gan;y Parch. T. Pritchard, Llanelidan. Cyflawnodd y darlith- ydd ei waith yn gampus.
CLYDACH.
CLYDACH. CYNGEROD CYSEGREDIG. D-tganwyd y gantawd, Jessica's First Prayer," yn yr Ysgol- dy Cenedlaethol, nos Iau diweddaf, gan blant yr Ysgol Sul, yn cael eu cynorthwyo gan rai o aelodau hynaf yr ysgol. Yr oeddynt wedi bod yn ddiwyd i'w dysgu er's wythnosau lawer, o dau ofal y l'arch. Thomas Jotes, fel arweinydd, a Miss Longdon, yr hon a fu yn ffyddlon iawn trwy yr amser wrth yr harmonium. ■ Y mae "Jessica's First Prayer" yn ddertiyil taraw- iadol, teimladwy, a thlws dros ben. Ystori ydyw am lodes iach garpiog, ar ystrydoedd Llundaiu, yn ymwthio i sylw perchenog rhyw coffee-stall, ac yn enill ei serch ffafr, a tlirwyddo ef yn dyfod i gyffyrddiad a'r offeiriad, ac i adnabyddiaeth o Dduw, am yr Hwn nid oedd wedi cymaiut a chlywed son yn flaenorol. Cafodd ei chymeryd yn glaf iawn, mabwysiad- wyd hi gan ei chymwynaswr caredig, a tbyfodd i fyny yn fereh rinweddol a Christionogol. Yr oedd y datganiad mor berffaith ag y gellid disgwyl byth oddiwrth gynifer o blant bychain. Tra y byddid yn cymeryd seibiant rhwng y gwahanol ranau o'r gerddoriaeth, darllenid I yr hanes allan yn bwyllog a hyglyw gan Mrs. Jones, a dangosid darlnniau trwy gyfrwng y Magic Lantern gau y Parch, G, Wolte, yn ar- ddangos yr banes. Y mae wedi rhoddi bodd- lonrwydd llwyr i bawb. Yn wir, yr oedd yn glod i'r plant ac i'w hathraw. Cyfeiliwyd ar'y berdoneg gan Miss Longdon gyda ydeheurwydd arferol. Y maent eisoes wedi ymaflvd o ddifrif mewti cantawd arall o iryffelyb natur, yr hon y maent yn feddwl berfformio rywbryd cyn y Pasg, os byw ac iach.—Cl-ydawg.
PONT AED AWE.
PONT AED AWE. MASNACH.—Asgwrn cefn masnacli y lie hwn yw y gweithfeydd alcan, ac y mae yma waith newydd eang wedi ei adeiladu at wneuthur haiarn i'r melinau. Dywedir fod y gwaith yn troi allan y defnydd goreu i wneyd llafnau alcan. Rhan-berchenog a phrif arolygwr y lie yw Mr. A. Gilbertson, yr hwn sydd yn foneddwr o'r iawn ryw. Mae yn ddyn antiiriaethus tu- hwnt i'r cyffredin, a'r blynyddau diweddaf hyn mae wedi diddymu yr hen waith, ac wedi adeil- adu pob peth o'r newydd, nes y mae erbyn hyn yn ailuog i ymgys^idlu ag unrhyw waith alcan 1:1 Y yn y Deyrnas. Y mae clod uid bychan yn deilwng i'r boneddwr uchod, am ei fod yn cadw yr olwynion masnachol i fyned mor hwylus, a thrwy hyny yr ydym ni, ei swyddogion a'i weithwyr, yn cael gwaith cyson ac enillion da. Yn goron ar y cwbl, y mae yma heddwch yn teyrnasu rhwng meistr a gweithwyr, a gobeithio mai felly y bydd i bethau barhau, ac y bydd iddo ef a ninau i gael hir oes ac iechyd i fyned yn y b'.aen mewn llwyddiant a heddwch yn y dyfodol. LLWYDDIANT CERDDOROL.—Da genym allu cof i-iodi fod y cyfaill ieuanc Rees Jenkins, 13 oed, wedi pasio yn anrhydeddus mewn gwybod aeth gerddorol, yn Ngholeg y Drindod, Llun- dain. Mab yw i Mr. Thomas Jenkins, dilladwr, Thomas Street, Pontardawe. Aed y cyfaill hwn rhag ei flaen, Y mae yr Hen -lion yn barod i roddi help Haw idde i ddjncjwpethQ'rriiwy^tr- au oddiar y ffordd, a gobeithio y bydd iddo dyfu i fyny yn fachgen da a gwybodus, iel y gallom ni, y Pontardawiaid, ddweyd ein bod wedi magu cawr mewn cerddoriaeth. DIRWEST.—Mae cymdeithas ddirwestol an- enwadol, wedi ei chychwyn yu y lie hwn. Y mae eisoes rai o'r cewri wedi bod ar y maes, yn areithio ar ddaioni dirwest, ac ar y polled a'r dinystr sydd yn deilliaw oddiwrth y gyfeddach a meddwdod. Da genym ddeall fod llawer wedi ymuno o'r newydd a dirwest, a gobeithio y bydd i'r gymdeithas hon lwyddo. Mae ganddi waith ,y mawr o'i blaen, oblegid un o brif bechodau y lie yw ymyraeth A'r ddiod fed'dwol. Peth au- weddaidd iawn yw gweled dynion dau ddy- lanwad diodydd meddwol ar hyd ein heolydd. ond peth mwy anweddaidd yw gweled dyn cyhoeddus mewn claddfa yn metliu rheoleiddio ei ben a'i dafod. Wrth derfynu, yr wyf yn dymuno Hwydd i'r gymdeithas, a blwyddyn newydd dda i staff Y LLAN, a phawb yn gyff- redinol.-Shon g Dyrnwr.
DYFFRYN ARDUDWY.
DYFFRYN ARDUDWY. HAELIONI A.AISEROL.-Eleni, fel arferol, rhoddodd y Parch. D. Jones, D.G., a Mrs. Jones lawer o lo, gwlaneni, te, ymenyn. ac amryw bethau eraill i dlodion yr* Eglwys.— Rhoddodd Mr. a Mrs. Prys-Owen, Aelybryn, hefyd iawer o gig eidion i dlodion yr ardal.—Ar y 5ed o lonawr, rhanodd y Rheithor a Warden- iaid yr Eglwys yr arian sydd i'w rhanu yn flyn- yddol rhwng tlodion-Eglwyswyr ac Ymneill- duwyr-plwyfi Llanenddwyn a Llanddwywe.— Mae y clwb dillad yn dangos ymegniad y Rheithor ac amryw o Eglwyswyr haelionus y plwyfi hyn. Eleni eto, rhoddwyd llog o bedwar swllt y bunt i'r plant. SWPER I'R COR.—Nos Iau cyn y diweddaf, rhoddodd y Rheithor a Mrs. Jones y swper blynyddol i'r cor yn y Rheithordy. Daeth yr holl aelodau ynghyd, a dangoswyd boddhad neillduol mewn pertliynas i'r wledd ragoroi, ac hefyd i'r oil a gymerodd le. Ar ol gorphen y swper, cynhaliwyd cyngerdd, ymha un y cyin- erodd y rhan fwyaf o aelodau y cor ran. Mac Mrs. Jones yn haeddu clod am ei gwaith diflino gyda'r c6r, ac y mae yn bur deby; nad oes yr un foneddiges o'i hoedran hi yn Ngliymru mor alluog ac mor gyson gyda'r offeryn. Ar ol i bawb ddangos eu diolchgarwch gwresog i deulu y Rheithordy am eu caredigrwydd, terfynwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol.
.DOLGELLAU.
DOLGELLAU. YSGOL HENFELIX. Y mae yn arferiad blynyddol gan Mrs. Ashmore i roddi gwledd o de a bara brith i ysgolheigion ysgol Henfelin. Ysgol babanod yw hon, a'r ysgolfeistres yw Miss Jones, adnabydaus i bawb yn Nolgellau. Ddydd Mawrfh, cafodd y plant bach wledd gampus o de, bara brith, &c., y cwbl yn c;"el ei roddi gan Mrs. Ashmore. Yr oedd yr ystafell wedi ei haddurno yn briodol. Wrth ymadael, cafodd y plant anrhegion bach wrth eu bodd- Diolchodd y Parch. D. Herbert i'r foneddige". am ei haelfrydigrwydd, a chydnabyddodd hithau y diolchgarwch. Bydded iddi gael hir oes i wneuthur daioni. Y GUILD.—Cynhaliwyd cyfarfod o'r Guild nos Lun diweddaf, yn y festri, pryd y llywydd- wyd gan y Parch. D. Herbert. Testyn yr ym- drafodaeth ydoedd, Yr angenrheidrwydd o gadw y Sul a'r Gwyliau Eglwysig." Darllen- wyd papyr ar y testyn gan Mr. E. Owen, yr hwn, er na chafodd ond byr rybudd i barotoi ei bapyr, ydoedd wedi traethu yn helaeth ac i'r pwrpas, ac agafodd ganmoliaeth uchel. Cyfyng- odd Mr. E. Owen ei sylwadau braidd yn gyfan- gwbl i'r rhan gyntaf o'i destyn, gan awgrymu fod y gwyliau Eglwysig" yn destyn digon eang arno ei hun i un arall o'r brodyr ei gymeryd mewn Haw, ac i ddarllen papyr arno. biaradwyd ar y pwnc yn fedrus gan Mr. H. Owen, yr hwn sydd bob amser yn caru gweithio yn egniol ar ran yr Eglwys. Ar ol i Mr. W. Davies ddatgan ei farn, siaradodd Mr. I. W. Evans, Mr. T. Jones, Mr. J. James, Mr. W. Jones, Mr. R. J. Edwards, Mr. H. 0. Jones, Mr. H. P. Jones, a Mr. Griffith Tudor. Darfu i'r Parch. D. Herbert roddi araith alluog ar y pwnc, a therfynodd y cyfarfod yn y modd arferol.
LLANERFYL.
LLANERFYL. Nos Fawrth, y lBeg cyfisol, drwy haelioni y Parch. S. Reed a Mrs. Reed, gwalioddwyd ael- odau cor yr Eglwys, athrawon ac athrawesau yr Ysgol Sul, ac ychydig gyfeillion, i loW per ar- dderchog oedd wedi ei barotoi ar eu cyfer yn yr ysgoldy. Daeth oddeutu 80 ynghyd erbyn yr amser penodedig, set saith o'r gloch. Wedi gwledda ar y seigiau a'r danteithion blasus, da genyf ddweyd fod pawbfwedi eu Ilwyr ddigoni, ac yr oedd digonedd yu ngweddill. Ar ol swper, treuliwyd noson hynod ddifyr. Canwyd amryw ganeuon yn y drefn ganlynol Xi fedrwn yn fy myw," Mr. D. Roberts, Ty'nrlios can, Fe ddaw Llewelyn eto'n ol," Miss Jones, Hir-rhos Hall; can, P'le'r wyt ti, Marged Morgan ?" Mr. W. Jones, Aberdeunant deu- awd, Phoebe's mistake," Miss Owens, Cross Foxes, a Mr. D. Roberts can, Dafydd Ehys y Diogyn," Mr. H. Ellis, Rhydygro; can, "Plant a Bunch of Turnips," Mr. Ll. Rowlands, ysgolfeistr; can, "Merch y Melinydd," Miss Jones, Hir-rhos Hail can, The Yorkshire Horse-dealer," Mr. T. Bourne, Troedyrewig; can, Bugeiles y Wyddfa," Miss Owens, Cross Foxes; can, 1, 1 was in it," Mr. D. Roberts; can, Hiraeth," Mr. W. Jones. Chwareuwyd detholiad o alawon Cymreig ar y violin a'r harmonium gan y Mri. D. ac E. Roberts. Cyf- eiliwyd gyda phob un o'r caneuon gan Mr. E. Roberts, Ty'nyriios. Yna cafwyd anercliiad byr a phwrpasol gan y Parch. S. Reed. Cynyg- iodd Mr. D. Roberts bleidlais o ddiolcligarweh i'r Parchedig Reithor a'i briod, yrhyn basiwyd yn nghanol uchel gymeradwyaeth, ac ymadaw- odd pawb wedi eu llwyr foddloni. Ein dymun- iad ydyw hir oes i deulu parchus y Rheithordy am eu caredigrwydd bob amser gyda r achos Eglwysig yn y lie.—Erfyl.
NODION O'R GARW VALLEY.
NODION O'R GARW VALLEY. Yr ydym wedi crybwyll eisoes yn ngholofnau y LLAN ein bod ar fedr cael Eglwys 11 Gymreig wedi ei hadeiladu fel 11c cyfleus i Gymry uniaith y Cwm gael cyd-addoli, fel yn y dvddiau gynt, tufewn i furiau cysegredig hen Eglwys eu tadau. Y mae yn hyfrydwch genyf allu hvs- bysu eich darllenwyr lliosog" pa rai sydd a llwyddiant yr Eglwys yn Nghymru yn asros at eu calon, fod Rheithor gweitligar y Bettws yu awr yn gweled ei ffordd yn glir i ddeclireu ar y gwaith yn ddioed. Y mae wedi sicrhau safle hynod gyfleus mewn man canolog yn y CWlU, yr hwn a roddwyd am ddim gan Mr. Bisndy Jenkins. Erbyn hyn, y maeheiyd wedi llwyddo drwy ymdrechion dyfal, parhaus, a di-ildiok gasglu swm da o ar-n-brou ddigon i gwblhaff adeilad hardd ac eang. Nid oes ond prin ddeu- ddeng mis er pan ddechrcuwyd sefydlu achos Cymreig yn y Cwm, a hyny o dan lawer iawn o anfanteision, ond y mae yn dda genym ddweyd fod cynydd parhaus yn cymeryd lie, a bod y rhag-olygon mwyaf gobeithiol am lwyddiant yn y dyfodol. Nid yn unig gwelir hen Eg- lwyswyr ag oeddynt wedi crwydro i borfeydd YmneiUduol o ddiffyg darpariaetb Eglwysig yn I I dylifo yn ol, ond y mae yma amryw deuluoedd oeddynt yn arfer mynychu gwahanol addoldai Ymneillduol, ac wedi eu dwyn i fyny ar fronau Ymneillduaetli, wedi ymuno a'r E dwys. ac erbyn hyn wedi eu derbyn i gyflawn aelodaeth. yr VytimQS ddiweddaf, g&lwyd pwyUgoy yugliyd
[No title]
-"Pa le mae Dafydd Jones rwan gofynai rhywQ» i fercli ieuanc am hen lane oedd yn byw ei hun, Ydi o wedi peidio marw, tybed?" O, nag ydi," meddai hithau, mewn syndod, nea buasai >vedi tynu y blinds i lawr." Gwyddel unwaith, oedd wedi anafu ei ddwy- law wrth geisio rhoddi ei esgidiau newyddion am ei draed, a daranai :— Myn y Galluoedd, cha i byth mo'r rhai'n am fy nhpaed nes y byddaf wedi eu gwisgo am ddiwrnod neu ddau." Paid gwastraffu amser i ddweyd wrth bobl am dy orchestion dy hun yn gyntaf, am na rodd- ant faw iawn o goel i dy stori ac yn ail, am eu bod ar frys erwyllt i gael cyfle i ddweyd am eu gorchestion eu hunain. Ebai llanc a arosai gyda merch ieuanc yn Llangefni nes oedd yn rliy hwyr, Mae y lamp yna yn myned allan. Wel,(' meddai yr eneth, rneddwl y mae hi, mae'n debyg, ei bod yn hen bryd i rywbeth fyned allan." Pan gyfarfyddodd Gwyddel a Sais oedd wedi colli un I) 1 goes au gofynodd iddo :—" Sut y bu i chwi golli eich coes, Mr. Smith ?" Myn'd i'r vsbytty wnes i gael ei thori,"ebe y Sais, am fy mod wedi cael allan ei bod yn cyn wys ych- idig o waed Gwyddelig."
---------AT Y BEIRDD.
AT Y BEIRDD. ilf Hyd nes y ceir rhybudd pellach, danfoner y cyfansoddiadau ar gyfer y golofn hon i'r- Rev. Lt. M. Williams, The Rectory, Dowlais.
UFFERN.
UFFERN. Dan uffern yn effro-niae ochain Mewn llais uchel yno Annuwiolion yn wylo Yn ffwrn iraw hen ulfern fro. Glyndyfrdwy. E. L. H.
SIBRWD GOBAITH
SIBRWD GOBAITH Uwchben bedd Priscilla Jane Jones, merch Mr. a Mrs. Henry Jones, yr Ysgoldy Cenedlaeth- ol, Llanelwy, yr hon a fu farw Ehagfyr 4ydd, 1890, yn 25 mlwydd oed. (Cyflivynedig i'w rhieni). Noswyliodd eich Priscillao waith byd Daeth i ben ei gyrfa A'i danfon wnaed i Wynfa I wel'd o ddawn y wlad dda. Yr oedd hi'n wir addawol—a'i henaid Yn llawn yni bywiol, Yn esgyn grisiau'r ysgol- Llawer hyn yn llu ar ol. Ond deifiol wenwyn diflaniad-chwa lem Afiach lyn terfyniad," A daenai drist ddadwiniad, A rhoes i fedd Priscie fad. 0 awyr angau'n ieuanc-i awyr Bywyd y gwnai ddianc A iach hwyl trodd uwchlaw tranc Adref i fywyd didranc. Mae'n fil gwell arni bellach—yno i gael Mwynhau gwell cyfeillach Yn ddi-glwy' canu mwyach I'r lesu bydd Priscie bach. I ofal Duw tangnefedd—rhodd ei hun A cha'dd ryddhad rhyfedd- Newidiai'r boen drwy y bedd I wir felus orfoledd. Yn hedd y Ganaan ddigwyno-y mae Mwyach yn blaguro Yn fwynach gwyryf yno, A'r Iesu'n frawd sy'n y fro. Dan hedd gadawn iddi-i gadw gwyl Gyda gwell cwmpeini I'w rhan y daeth, rieni, Gwir, uwch urdd na'ch goreu chwi. PENFRO.
PENILLION,
PENILLION, Er coflradwriaeth am fy mam a dau frawd, y rhai a fuont feirw yn yr ystod o ddwy flynedd. Mae angau, erch elyn dynoliaeth, Yn brathu, yn clwyfo y fron, Yn tori cysylltiad sy'n agos, Mor' 'styfnig-mwy hyf nag yw'r don Mae ar ei ysglyfaeth yn wastad Yn rhoddi ufudd-dod fel gwas, Mae'n hawlio fel dewr gwna ei orchwyl, Yn mwthyn y tlawd, neu mewn plas. Mae pawb o'r hil ddynol yn gwybod Am dano, fel lleidr mae'n d'od, Yn cipio gwrthddrychau sy n anwyl Yn ufudd i genad ei Fod Ni fethodd erioed yn ei ymdrech Gyflawni gorchwylion yn llawn Os methodd ar oriau y boreu, Mae'n sicr o lwyddo'r prydnawn. Bu'm flwyddau cyn teimlo ei ddyrnod, Mewn bwthyn yn byw'n lied gytun, Yn chwareu, difyru, a chanu, Mewn cariad yn byw fel yn un Ond sydyn o draw daeth marwolaeth, Ei genad mor hyll oedd ei wedd, A ninau fel teulu a frathwyd Fod Wili i fyned i'w fedd. Adgofion-am IVill sy'n peri I'r dagrau i redeg yn llyn Adgofion am ei arferiadau Tia yma cyn myned i'r glyn Prif nodwedd ac amcan ei fywyd Oedd canu alawon i'r lor, Ei ran oedd yn fawr yn yr Eglwys, 'N enwedig fel aelod o'r cor. Aeth adref i breswyl ei Grewr, Diangodd, ehedodd ar frys, 0 swn ac o blith annuwiolion, I fyw tragwyddoldeb mewn llys Bu farw yn ngwanwyn ei fywyd, Cyn iddo egino yn llawn A'r beddrod sydd heddyw'n ei wylied, Fe gwympodd, fe wywodd ei ddawn. Daeth angau yn ol i'r un teulu, Dadsangodd, 'mafaelodd yn hyf; Aeth ymaith a mam oedd yn anwyl, Cyn dyfod ei phlant i'w llawn dyf Y galon archollwyd yn ddofn, Yr enaid a ballodd gan gur A'r dagrau redasent yn gyfiym- 0 gwmpas 'roedd pobpeth yn sur. Cynghorodd, gweddiodd yn ddyfal Am i fel plant, trwy ein hoes, I geisio rhinweddau'n Creawdwr Ddioddefodd ar bren garw'r groes Ymdrechodd, hyd eithaf ei gallu, Carlamodd i Seion bob Sul, Yn gadarn dilynodd ei chrefydd, Dewisodd y llwybr oedd gul. Ar ol colli mam oedd mor dirion, A brawd, 'rhwn ei fuchedd oedd bur, Daeth 'nol fel rhyw ddyn cynddeiriog, Cyn braidd wedi gadael y mur Tro hwn aeth a Nich'las oddiwrthym Yn hafddydd deg hyfryd ei oes; Ei degwch ddiflanodd yn nghanol Ymdrechion ei addysg a moes. Dechreuodd fyfyrio yn gynar, I ddringo at nodwedd ei serch Y boreu a'r hwyr ga'dd ei dreulio I ddarllen, astudio'n gor-dderch Ond 'nawr, pan yn troi gylch yr aelwyd, Oddeutu mae pobpeth yn brudd, Mae'r llyfr yn nghau er ei egni, Sisialant fod Nich'las yn nghudd. 0 angau, erch elyn distrywiol, Mor syth yr ane.aist dy hun, I glwyfo a darnio calonau Fu'n byw mewn,hapusrwydd cyn hyn Mae gwagder i'w wel'd ar yr aelwyd, Lie ganwyd, He magwyd ni'n lan, Lie buom yn sugno cysuron, Y rhai sydd yn ;tWy yn y llan- Mae'r fam a fu unwaith yn taenu Cynwhorion egwyddor a hedd ? Wili a Nicholas, maent hwythau, Gerllaw iddi'n gorwedd mewn bedd Pa fynwes all beidio a Uamu ? CyHawnodd y deigryn ei ran, Pan yn gadael y tri mewn unigedd Yn mynwent henafol y llan. Ond er fod y tri heddyw'n huno, Mae genym addewid sydd gref, Fod lesu, fu gynt rhwng dau leidr, Yn derbyn y cyfryw i'r Nef, A ninau gawn eto eu gweled, Os cejsiwn. mewn bywyd ein rhan Pryd hyn ni fydd duwiol yn unig Yn mynwent henafol y llan. Maesteg, PAYIP J, PAVJP,
CWPL ANGHYFFRSDIH.
CWPL ANGHYFFRSDIH. Credir, ar sail dda, mai Mr. a Mrs. Daniel Salisbury, o Lac Qui Parle, Minnesota, yw y par priodasol hynaf yn y Talaethau Unedig. Yr oedd Mr. Salisbury yn cyrhaedd pen ei 103 pen blwydd ar y 14eg cynfisol, ac ar ddydd Nadolig diweddaf yr oedd Mrs. Salisbury yn gorphen ei lOlfed mlwydd o'i hoedran. Os ant fyw hyd y 12fed o'r mis hwn, bydJaut wedi bod yn briod 80 mlynedd. lë, yn siwr ddigon, digwyddiad eithriadol iawnydyw i gwpl gael cydfyw mor hir. Sut y mae cyfrif am hiroedledd Mr. a Mrs. Salisbury ? Yn gyntaf oil, yr oeddynt yn byw yn y wlad lie yr oedd digon o awyr iach, ac yn arfer gweithio tipyn bob dydd—hi yn gwneyd gwaith ei thy, acef yn gofalu am dyddyn bychan, a'r naill a'r llall bob amser mewn tymer hamddenol a boddlawn. Pobai hi, a gofalai yntau am ddigon o goed tAn iddi. Pan oedd Mr. Salisbury yn gaut oed, cerddodd i Bellingham ac yn ol, yr hyn a wnai 14 milldir iddo yr un diwrnod. Y dydd o'r blaen, pan welodd farcutan yn ymosod ar iar, aeth i'w dy am ei ddryll, a sacthodd yr aderyn ysglyfaeth- gar yn gelain. Os nad ydym wedi eamgymeryd, bu amser pan oedd hen gyplau tebyg i'r un dan sylw i'w cael yn amlach nag yn yr oes bresenol, o leiaf yn y wlad hon. Os %w y teulu dynol yn colli tir yn y cyfeiriad hwn, rhaid fod rhyw achos, a hwnw yn acbos difrifol, o hyny. Yn v Tal aethau Unedig, tuedda y bywyd eynhyrfus, goregniol, anfoddog, sydd mor gyffredm. i gwtogi y bywyd dynol. Ambell gwpl gwledig, tebyg i Mr. a Mrs. Salisbury, fydd yr eithr- iadau anaml.
LLITH YR HEN BACKMAN O'R COCKETT.
LLITH YR HEN BACKMAN O'R COCKETT. Llawer o gernodio a cheisio damsang ein Heglwys sydd, ac yn bod ond, er y cyfan, cynydd sydd yn ei nodweddu. Cof genym am hen ffermwr un diwrnod yn dweyd wrthyf, pan ofynais iddo paham yr ydoedd yn caniatau cynal ffair ar y cau gwair, tra yr oedd y cyfan yn cael ei ddamsang gymaint ? 0," meddai yntau, pe buasit yn ffermwr yn lie bod yn Backman,' buaset yn deall mai yn y cae yna yr ydwyf yn cael y crop goreu yn amser y cyn- iiauaf." Felly, gyd-ddarllenwyr, y dywedaf finau. Tra y mae ein Heglwys yn cael ei damsang, ni wnaddim yn y byd ond gwella y crop. Felly y mae yma gyda ni yn Abertawe a Chwmtawe yn gyffredinol; ac y mae yn nmlwg felly yr wythnos hon yn mltlwyf St. John, Hafod, Abertawe, dan ofal y Parch. Stephen Davys, yr hwn sydd yn asio ei crynull- eidfaoedd â'i bregethau galluog. Hefyd, mae ei gurad, y Parch. John Jenkins, yn weithiwr egniol. Hawdd oedd gweled hyny ddydd Iau, lonawr 15fed, yn y BAZAAR A'R CYNGERDD gafwyd yno yn y prydnawn. Daeth cynulliad I ardderchog yng ivd, tra yr oedd rhyw bymtheg o foneddigesau y plwyf, pob un wrth eu gwaith, a'u sercliawgrwydd yn llesmeirio pob calon oodd yn bresenol. Hawdd oedd gweled eu bod yn agor y ffordd ar hyd lwybr sicr er trafaelu i r llogellau i gael gafael yn ffroenau yr ebolion melynion, a dwyn pob un idd eu stall. Yn yr hwyr, cawsom ddatganiad o'r gantawd fach, syml, a thlws, yr Elijah," gwaith T. K. Long-bottom. Cadeiriwyd gan A. P. S eed, Ysw., Abertawe, yr hwn foi-ieddwr sydd bob mod- fedd ohono yn Eglwyswr trwyadl. Cafwyd datganiad gwir dda, a chymeryd i ystyriaeth yr ofEerynau sydd yn cyfansoddi y cor; ac nid bychan yw y clod sydd, yn ddyledus i Miss Dryden am ei diwydrwydd, ei llafur diflino, a'i gallu neillduol i ddwyn y cyfan i derfyniad mor hapus. Clywais, Mr. Gol., yn ddistaw bach, fod yr helwyr wedi dal rhyw bump-ar-hugain o'r ebol- ion a soniais uchod am danynt yn ystod y dydd, a'r cyfan er lledaenu a chynyddu yr Eglwys, gan y bwriedir codi teml yn rhagor yn y plwyf. SYR JOHN JONES-JENKINS YN NGIIWMBWRLA. Nos Iau, y 15fed, cafwyd cyfarfod er mantais i'r trethdalwyr yn y lie gael golygiadau y bon- eddwr uchod ar y Cwestiwn Gwyddelig. Er fod yr bin megis wedi crynhoi ei holl fyddinoedd, ac yn sylldremu yn haiarnaidd i gyfarfod pob un, cafwyd cynulliad da. Pleser nid bychan oedd gweled ysgoldy y capel Annibynol, fel ag y dywerlant, wedi ei lanw o Eyddfrydwyr Radicalaidd pan oedd y cyfarfod dan nawdd Cymdeithas Rhyddfrydwyr Undebol Abertawe, yr hwn sydd yn cael ei gario ymlaen yn llety'r Ceidwadwyr. Ond efallai fod gwawr yn dechreu tori, ac y byddant yn fwy teg arhesymol, ac nid myned ymlaen gan chwyrn-lamu nes y byddant ryw ddiwrnod dros y dibyn fel y mae y blaen- wvr Radicalaidd. Yn absenoldeb Mr. J. H. Eogers, cymerwyd y gadair gan Mr. B. Thomas. Wedi ychydig eiriau ganddo ef, galwodd ar Syr John at ei waith, a chawsom araith rymus, yn neillduol felly ar y penawd o gadw'r Undeb ag sydd wedi bod y fath allu yn Mhrydain Fawlr er's canrifoedd. Hefyd, dangosodd yn eglur nad oedd eisiau nac angen o gwbl aros cyhyd wrth Reol Gartrefol yr Iwerddon, &c. Cynyg- iwyd ac eiliwyd fod y cyfarfod yn dymuno ac yn penderfynu dal-i fyny y rhai hyny a bleidiant ddal y Wladwriaeth Undebol yn eu gweithred- iadau. Yn wir, Mr. Gol., 'rwy'n clywed yn dawel fod rhai o'r pechaduriaid Radicalaidd o fewn ychydig i'w henill drosodd. MAGIC LANTERN YN ST. LUKE, CWMBWRLA. Nos Wener, yr 16eg, cafwyd cyfarfod yn yr ysgoldy perthynol i'r eglwys uchod, pryd y cadeiriwyd gan Mr. David Davies, o waith alcan Cwmbwrla. Arddangoswyd. darluniau ar y llian, cysylltiediar a bywyd Crist yn ei wahanol agweddau. Ni chefais erioed y fath bleser mewn cyfarfod o'r fath. Tra yr oedd Mr. Wm. Davies, Cockett, yn trafod-y lantern, yr oedd y Parch. Henry Lloyd, curad y lie, yn siarad ac yn eglnro y gwahanol olygfeydd, ac ni chlywais ei well erioed, gan ei fod yn feddianol ar gyfoeth o hanes Beiblaidd yn ei gof, ac yn alluog i roddi addysgiadau i hen ac ieuanc. Er fy mod er yn blentyn yn aelod o'r Ysgol Sul, cefais yma bethau newydd, Oanwyd emynau cysegredig gan y plant mown gwres, a therfyn- wyd cyfarfod hapus a llesiol. Melus, moes eto. ENTERTAINMENT Y COCKETT. Nos Sadwrn, yr 17eg cyfisol, cynhaliwyd yma eto gyfarf od adloniadol, pryd y llywyddwyd gan Mr. Phillip Richard, perchenog gweithfeydd glo yn y lie. Canwyd gan Miss J. Davies, 11 11 Resolven, merch ieuanc ag sydd wedi dyfod i Abertawe er gwrteithio ei galluoedd cerddorol, ac yr ydym yn credu fod dyfodol disglaer o'i blaen Canwyd hefyd gan Mr. Robert Rees yn dda iawn. Hefyd, cafwyd adroddiadau addysg- iadol, &c. Yr oedd yr ysgolcly. yn orlawn, ac aeth pawb tua thref wedi eu boddloni, EIN HADAR GWYLLTION. Tra y mae y "Packman yn trafaelu y wlad y mae yn gweled llawer, a blinder nid bychan i mi ydyw gweled ugeiniati o rai ar lun a delw dvnion mewn oed, ac yn gyfrifol am eu gweith- rediadau, yn gwylied yr adar bach ag sydd heb y nodded a ddarparwyd iddynt, gan eu bod hwythau yn dioddef oherwydd llymder yr liin. Mae y bodau hyn yn poenydio yr adar bach di- niwed drwy eu dal gyda rhwydau, &c. Dylai pawb wneyd eu goreu er rhoddi terfyn ar yr anfadwaith creulon hwn. Cawn fod cymdeith- asau er cario hyn allan wedi eu sefydlu mewn rhai tretydd mawrion, yn y rhai y mae miloedd o blaat a phobi mw oed wedi ymrwyma i ymgadw rhag poenydio adar, kn. Deilliai daioni dirfawr pe sefydlid cymdeitliasau o'r fath ymhob man. Hynyna hyd y tro nesaf.
Modioli Henery Gwyn ar Baf.
Modioli Henery Gwyn ar Baf. MARWOLAETH FICER L!.A\L>EWI }'ELFFRE. Nid ydym ond megi am grybwJl1 am y digwyddiad galarus uchod, gan y tehnl >•-i yn dra sicr y gwna "Lewis, "Mercial," un o b, ogion da yr ymadawedig, wneyd eyfiawndec choffadvvriaeth barchus ein hen gyfaill a thad yn y weinidogaeth, sef y diweddar Barch. W. Harris. Deallwn hefyd i'r Parch. J. E. Jones, curad y plwyf, y Sul cyn y diweddaf, draddodi pregethau angladdol neu goffadwriaethol rhag- orol i'w hen Ficer, yr hwn a gerid ganddo fel ei enaid ei hun. DARLITH. Nos Fawrth, y 13eg, yn Ysgoldy Cenedlaethol Llanddewi, cawsom wledd wrth wrando ar y Parch. A. Britten, rheithor Meidrym, yn dar- lithio ar Y Dyn Ieuanc." Cadeiriwyd yn ei ddull meistrolgar ei hun gan Arglwydd Esgob Llandaf, yr hwn yn wir a draddodes ddarlith fer yn Saesneg ar yr un testyn. Canodd y cor undebol yn swynol o dan arweiniad Mr. Daniel Davies, masnachydd, o'r Hendy Gwyn, a Miss Bowen Jones, o Gwernmacwydd, ar yr har- monium. Cawn y manylion eto yn nodion athrylithgar y bardd o'r Groesffordd. Nifynem er dim fod yn euog o herw-ladrad gohebyddol, a sangu ar fodiau Mercial," ond nid oes genym ond ychydig neu ddim i'w groniclo o'r Hendy Gwyn y tro hwn gan hyny, maddeuer i ni am osod ein gwydrau i fyny, a thaflu cipolwg dros yr hen Daf i breserves ein brawd T. L." am unwaith eto. Yn wych y b'och a di-beehod ar y banc yna. ST. CLEARS. Ddydd Mercher, y 14eg, am 3 o'r gloch, cyn- haliwyd cyfarfod chwarterol Undeb yr Ysgol Sul yn yr Ysyoidy Cenedlaethol uchod. Y Parch. D. P. Evans, D.G., yn y gadair. Dyma ni yn awr gartref, ac ar ben ein tomen fach ein hunain, ac ni ymddiheurwn i wreng na bon- heddig am yr hyn a ddywedwn, canys ni wnawn gam a gwybedyn yn fwriadol. Daeth y Parch. f1. Foster, D.G., o Prendergast, i'n cyfarfod, a bu mor garedig a'n hanerch ar y dull goreu o gyfranu addysg yn yr Ysgol Sul. Ymgymerodd &'r gorchwyl anhawdd o roddi gwers i ddosbarth dychymygol o blant, a bu yn dra llwyddianus ag ystyried mai a bodau ieuainc anweledig yr oedd a fynai y tro hwn. Caiwyd yr adroddiad blynyddol mewn gweddnod hynod o ddyddorol gan Mr. John Davies, o'r Banc, ein trysorydd clodwiw. Yr ueddem er hyny mewn tipyn o benbleth, gan fod ein hysgrifenydd mygedol yn absenol, a'r agenda ganddo hefyd. Siriolwyd ein meddyliau yn gymaint nes ymuno mewn banllef fyddarol o gymoivdwyaeth pan y darllenwyd llythyr dienw hynod gysurus, neu yn hytrach un yn dwyn y llythyrenau S. F." (semper fedeior, efallai, yn ol awgrym- iad y trysorydd), ac mewn llawysprrifeii bonedd- iges, yn dymuno blwyddyn newydd dda i'r gymdeithas, ac yn cynyg tain swm y treuliadau am y iiwyddyn. Da rhagorol, yn wir! Hyderwn y bydd eleni yn flwyddyn hapus iddi hithau, er nad oes ganym yr un dychymyg pwy ydyw ein Lady Bountiful y tro hwn. Pender- fynwYIl liewid dyddiad yr wyl Seisnig yn Lacharn o'r Llun y Sulgwyn i ddydd Mercher, y 27ain o Fai, gan y bydd y Lacharniaid yn rhy brysur gyda y ddefod flynyddol o guro'r ffin," i dalu sylw hyd yn nod i'r Ysgol Sul ar y dyddiad cytit-if. Pob llwydd iddynt ar y tir na wnelont guro en gilydd. Tra y buwyd yn yfed te ar sefyll-( am yr hynyr ydym yn ddyiedus i'r boneddL;esau tirion, fel y tybiwn. is gwnaethom ymholi flaw(.r i'r mater, mae'n wir. Un peth a wyddom yn bur dda, ei fod yn ilasus, ac ni chostiodd ddim i mi)—trefnwyd amryw faterion eraill, a thalwyd diolchgarwch i Ddeon Gwladol Daugleddau am ei auerehiad pwrpasol, ac i roddwyr yr ymborth. Yr oedd yn bresenol, heblaw a nodwyd, y Parchn, W. Davies, Aber- cowyn J, George, St. Clears T. Jones, Llan- ddowror; T. Davies, Llan gan a P. Jones, Eglwyscamen; Mrs. D. P. Evans, Mrs. Norton, Mrs. Davies (Green Meadow), Mrs. Pugh (Ficerdy), Mrs. Lyons, Miss Dicksie, Misses Carver, ac amryw foneddigesau eraill; hefyd, Mr. Powell, o Clearbrook, Mr. Lyons, ac eraill nad oes genym y pleser o u liadnabyddiaeth wrth eu henwau. Cafwyd cyfarfod rhagorol, yn wir. Da genym fod 100 o gopiau o'r Weddi Foreuol a Hwyrol" wedi myned i blwyf St. Paul, Llanelli, a 10 ar "Dymhorau a Gwyliau yr Eglwys i Castellnewjrdd-Emlyn. Hyderwn fod ein liysgolion gartref yn ym- barotoi o ddifrif gyferbyn a'r wyl. Dywedodd "GoverDor Bach" wrthym ei fod ef wedi bod n mesur gwybodaeth ei ysgol yn gyhoeddus y dydd o'r blaen Da iawn! Diigwyliwn wa- hoddiadau i osod ein clorian foclian ein hunaiu i fyny yma a thraw dros y pwyllgor. :>I AR WOL AET H AU. Ddydd Sadwrn diweddaf, yn Bethlehem, ger- llaw St. Clears, claddwyd Mr. Phillips, o'r Moors, ger yr Hendygwyu. Yr un dydd, ac yn yr un gladdfa, claddwyd brawd-yn-nghyfraith iddo o St. Clears, enw yr hv/n nid yw yn hys- bys i ni. Dywedir fod priod yr olaf eto yn di- oddef oddiwrth yr afiechyd ag sydd wedi cipio ei brawd a'i pbriod i fedd anamssrol. Cydym- deimlir yti fawr a'r teulu parehus Y11 eu galar deublyg. Yn ystod yr wythnos, gwelsom lawer cyfaill calon i'r LLAN a'r Wasg Gymreig. Cofion da at yr yswain siriol ac eraill. Y mae yr liin erwin mor ddiargoel i gyfnewid yma agtydoedd fis yn ol. Nid oes yma neb yn cofio am auai mor galed. Hyderwn, er mwyn y tlodion a'r afiach, y bydd i'r cwlwm gael ei dori yn fuan. Y I'WYLLGOR CEIDWADOL. I Clywsom ddarfod i'r ucliod ynigyfarod yn yr Hendygwyn yn ddiweddar. Ymddiswyddodd Mr. J. Beynon, o Drewern, ac etholwyd y Dr. Lawrence, Waungron, yn gadeirydd. Mae Mr, Beynon yn parhau yn ei swydd fel cadeirydd rhanbartli Arberth. Apwyntiwyd cynrychiol- wyr o'r gwahanol blwyfi oddiamgylch. Mr. J. Howell ydyw cynrycliiolydd yr Hendygwyn. Ymgymerodd Mr. Beynon a bod yn gynrychiol- ydd y rhaubarth yn y Cyngor Ceidwadol.
[No title]
Dy wedir fod "naw bywyd" mewncath, a'i bod yn treulio'i" oil mewn diwylliant lleisiol." Yn awr, b-lant, pwy sydd yn caru pob dyn?" gofynai athraw un tro i ddosbarth o blant. "Pob dynes," atebai geneth feehan bert mewn eiliad. "Mam, y mae Mr. Jones yn hoff iawn 0 gusanu." Taw, Jane, pwy a ddywedodd y tath nonsense wrtliyt ?" "Slam, mi a'i cefais oddiar ei wefusau ef ei hun Dy fywyd neu dy arian meddai lleidr pec ffordd wrtli ynideithydd Gwyddelig. "Cyrner fy mywyd," ebai Pat; rhaid i mi wrth fy arian i fyw." Y mae babi bach yn both hawdd iawn i'w garu ond dywed rhyw wr profiadol o'r Borth fod babi mawr yn beth anhawdd i'w garu-yn. enwedig os byddwch wedi ei phriodi. A oes ar eich bachgen ofn marw ?" gofynai gweinidog i dad yn Nghaernarfon. Prin yr wyf yn meddwl fod arno ddim ofn marw," oedd yr ateb: y mae yn ysmocio pecyn o cigarettes bob dydd,"
METHBALIADAU.
METHBALIADAU. Yn unol a. Stubb's WeeMy Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn divreddu lonawr 17, fel y canlyn 1891 1890 1889 Builders, & Building Materials 17 22 21 Chemists and Drysalters. 2 5 4 China, Glass, & Earthenware 1 1 — Confectionery. Toys, &c. 2 2 6 Corn, Coals, Minerals. 4 3 4 Drapery, Clothing Trades 10 18 24 farmers 0 8 9 IVt niture, Upholstery. 8 3 3 Hor.-J Vehicles 2 4. 4 Jewel c. 'atches 3 2 2 Leather 6 4 4 Metals 6 2 5 P.aper, Printing, &c. — I 3 Provisions. 14 30 27 Wines, Spirits, beer, &c. 14 7 8 Miscellaneous 21 37 22 111 149 146
PENEGOES, GER MACHYNLLETH.
PENEGOES, GER MACHYNLLETH. HAELIONI AMSEEOL.—Yn ddiweddar, darfu i Mrs. Williams, y Rheithordy, yn unol a'i char- edigrwydd arferol ar y tymor hwn o'r flwyddyn, anrhegu agos i gant o deuluoedd yn y plwyf uchod a haner pwys o de bob un. Hefyd, ni ddarfu iddi eleni eto anghofio aelodau y cor. Ac ar doriad i fyny yr ysgol ddyddiol dros y Gwyliau, rhanodd odrleutu haner cant o oranges rhwng y plant, a liwy a dderbyniasant hefyd bob un geiniog.
MERTHYR TYDFIL.
MERTHYR TYDFIL. GWLEDD.—Nos Iau, y 15fed cyfisol, gwahodd- wyd aelodau y surplice choir, perthynol i eg- lwys Dewi Sant, i'r Ysgol Geneulaethol, lie yr oedd gwledd wedi ei pharotoi ar eu cyfer gan Mr. Frost, yr arweinydd, a'i briod hawddgar. Daeth tua 30 ynghyd, a gweinyddwyd wrth y byrddau gan Mrs. Frost, Miss Thomas, y Chwaer Salome, Mrs. Burnett, &c. Wedi i bawb fwynhau eu hunain a'r danteithion, cymerwyd y gadair gan y Parch. D. Lewis, rheithor, pryd y rhanwyd gwobrwyon i'r rhai goreu am bresenoli eu hunain yn ystod y iiwyddyn. Cafwyd anerchiaou bnddiol a ym- arferol gan y cadeirydd a Mr. Frost, y rhai a gynwysent anogaethau gwerthfawr i'r cor erhyn y dyfodol. Treuliwyd noson hynod ddifyrus, ac ar ol diolch i Mr. a Mrs. Frost, terfynwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaetllol.-X.
GARTH BEIBIO.
GARTH BEIBIO. SWPER Cfdl YR EGLWYS. Rhoddwyd y swper arferol i'r cor gan y Parch. D. Davies a Mrs. Davies, ar nos Fawrth, y 13eg cyfisol. Cyfranogodd oddeutu deugain o'r wledd, a threuliwyd hwyr hyfryd a dyddan mewn canu, adrodd, arcithio, &c. CYFARVOP ADLONIADOL.—Cynhaliwyd cyfar- fod adluniac101 yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, nos Wener, yr 16eg cynso). Cafwyd cyfarfod llwyddianus. Cynorthwywyd gan y boneddig- esau canlynol:—Mrs. Jones (LJysnestyn Hall), Misses Annie Evans, Evelyn Jones, Eliza Farr, Nellie Jones, a Pauline Davies. LLYFRGELL BLWYFOL.—Trwy garedigrwydd 11 ydd Iarll Powis ac eraill, mae y Rheithor wedi dar- paru oddeutu triugain o gyfrolau buddiol, i fod at wasanaeth unrhyw un yn y plwyf. Maent i'w cael ar fenthyg ar amodau neillduol. Eglur y gwerchfawrogir y cyfleusdra hwn gan amryw.
EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.
personau sydd yn liaeru eu bod yn ceisio eu cyflawiii yn dangos, trwy eu gweitliredoedd anghyfreitnlon, nad oes ganddynt un parch i'r Eglwys na'r gwasanaeth a weinyddir ynddi. Yr unig beth y maent yn chwenych gael ydyw gorcliymyn beth ddylai gael ei wneyd. Mae y gyfraith o ocnr y Ficer, ac nid oes dim yn eisiau ond iddo ei rhoddi ar waith. Fel cyf- reitliiwr, ni phetruswn gynghori y Ficer i roddi ei warden afrywiog mewn dalfa, os gwnaiff ef geisio gwneyd casgliad y Sul nesaf.— Eglwyswr." Yggrifenodd gohebydd o Rumney i'r un papyr "Syr,-Yr wyf yn anfon i chwi, gyda fy llythyr, gopi o rybudd, air yn ngair, a osodwyd ar ddrws eglwys Rumney gan y Warden Bulgin. Y mae yn ymddangos fod y Ficer yn pender- fynu gwneyd fel y gwel fod yn dda, mewn materion Eglwysig. Yr wyf yn credu nas geliir cael dim mewn hanesyddiaeth Eglwysig fel sefyllfa pethan yn awr yn Eumney, ac y mae llawer o Eglwyswyr yn peidio myned i'r Eglwys am nad ydynt am ddangos eu hunain yn gefn- ogwyr, neu o fod yn bresenol mewn gwasanaeth a ddesgrifir y boreu nesaf fel 'y Bumney Scandal.' Ymddaugcsodd llythyr maith a galluog yn y Western Mail, boreu ddydd Llun cyn y di- weddaf, ar yr hyn a gymerodd le yn yr eglwys y Sul blaenorol. Yr oedd y llythyr yn rhesymegol, a'r iaith yn iaith gwr dysg- edig ac, yn ol pob ymddangosiad, un oedd yn arfer ysgrifenu i'r wasg. Gall pob un sydd a gronyn o synwyr eyffredin weled nad yr un yw awdwr llythyr "A Resident of Rumney" ac awdwr y rhybudd canlynol a osodwyd ar ddrws yr eglwys Notess. The Collection mad last Sunday amunted to 5/, lit. Collection. 4 in fucher will be taKen at the ech Savce for Chuch Expences William Bulgin Churchwarden." Dywed ysgrifenydd y llythyr yn yr adran olaf o hono :—" Dywed Mr. Morgan yn ei lythyr ataf heddyw y bydd i'r gyfraith gael ei gosod ar waith yn fy erbyn. Mae ficer Rumney yn apelio at Cesar. At Cesar y caiff ef fyned, a bydded i Dduw amddiffyn y gwir.—William Bulging GOHEBYDD.