Hide Articles List

12 articles on this Page

Llith yr Hen Lowr.

[No title]

MARCHNADOEDD.

CYDWELI.

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH…

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS.

[No title]

Helbulon Gwr Tal.

Yr Eglwys a'r Tlodion.

YN BYW 0 DAN EIRA.

News
Cite
Share

YN BYW 0 DAN EIRA. Yn ngauaf caled 1708-9, claddwyd menyw diawd o dan yr eiva am rai dyddiau yn agos i Yeovil, ond a gafwyd allan yn fyw. Yr oedd wedi bod yn Chard er gwerthu ychydig wlan oedd ganddi, ac wrth ddychwelyd cymerwyd hi yn glaf. Er iddi dreulio peth amser mewn ty ar ochr yr heol yn y prydnawn, ni chaniateid iddi aros drwy y nos, a phan yr ymadawodd, cafodd ei bod yn hollol analluog i fyned rhagddi, ac felly gorweddodd i lawr o dan y clawdd. Gan ei bod yn bwrw eira yn drwm, cafodd ei gorchuddio yn fuan ond digwyddodd i gymyd- og fyned heibio y ffordd hono, a chynorthwy- odd ychydig arni, gan ei hanog i wneyd ymgais i gyraedd ei chartref. Nis gallai fyned ymhell, modd bynag, a bu raid iddi fyned i ochr y clawdd a gorwedd yr ail waith, ond aeth y dyn rhag ei flaen, ac ni soniodd air am y digwyddiad ar yr amser. Gorchuddiodd yr eira hi yn fuan, a dywedir ei bod wedi bod o dano am o leiaf saith 49 ddydd- iau. Bu ymchwil mawr am dani, ond methwyd dyfod o hyd iddi. Wedi peth amser, breudd- wydiodd menyw, neu a gymerodd arni freudd- wydio, fod y fenyw y chwihent am dani dan y clawdd mewn He neillduol; ond bernir fod y cymydog y cyfeiriwyd ato wedi awgrymu y peth i'r fenyw er tawelu ei gydwybod ei hun. Aeth y cymydogion i'r lie, ac ymhen enyd deuwyd o hyd iddi. Dywedai ei bod wedi teimlo yn bur gynes, ac wedi cysgu y rhan fwyaf o'r amser. Yn Chwefror, 1799, carcharwyd Elizabeth Woodcock lUewn dull cyffelyb, rhwng Auping- ton a Chaergrawnt. Yr oedd y fenyw yn marchogaeth adref o'r farchnad, pryd y cyffro- wydyceffyl gan daubelen awyrol, ac aeth at ochr y clawdd. Wedi i'r fenyw ddyfod oddiar ei gefn, rhedodd yr anifail ymaith, ond cafodd afael ynddo yr ail waith, ac a'i harweiniodd nes yr oedd wedi myned yn rhy flinedig. Wedi eistedd i lawr, buan y gorchuddiwyd hi gan eira, ac yno y bu am wyth niwrnod. Boreu cyntaf ei charchariad, llwyddodd i dori pren o'r berth, a rhoddodd ei chadach arno, gan ei wthio drwy agoriad yn yr eira. Yr oedd yn hollol ymwybodol drwy yr holl amser, a chlywodd nifer o Gipsiwn yn siarad yn ymyl ond er iddi waeddi a'i holl egni, ni allodd dynu eu sylw. Ar yr ail Sul, tynwyd sylw ffermwr gan y pren a'r cadach, a daeth o hyd i'r fenyw; a phan y tynwyd hi allan, dywedodd wrtho ei bod wedi elywed clychau yr eglwys am ddau Sul yn olynol. Nid oedd wedi bwyta dim ond eira am yr holl amser. Ni wellhaodd y fenyw hon, ond bu farw ar y 13eg o Orphenaf yn yr un flwyddyn. Yn 1758, claddwyd tair menyw am oddeutu pum' wythnos o dan yr eira, ond yn yr amgylch- z,Y iad hwn mewn ystabl yr oeddynt wedi eu can i (yny. Buont byw ar chestnuts a IIaeth geifr, y rhai oeddynt wedi eu caethiwo yn yr ystabl ar yr un pryd. Bu farw nifer o ieir ac anifeiliaid yn eu hyinyl. Yn syn meddwl, breuddwydiodd brawd i un o'r menywod fod ei cbwaer yn fyw, ac wedi ymwthio at yr hen adeilad, cafwyd y tair yn fyw.

LLAWENYDD PRIODASOL YN NGHASTELLNEWYDD.

EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.