Hide Articles List

12 articles on this Page

Llith yr Hen Lowr.

[No title]

MARCHNADOEDD.

CYDWELI.

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH…

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS.

[No title]

Helbulon Gwr Tal.

Yr Eglwys a'r Tlodion.

News
Cite
Share

Yr Eglwys a'r Tlodion. Tua chanol y ganrif bresenol, yr oedd yn gwyn gyffredin yn erbyn yr Eglwys ei bod yn gweinyddu i'r ysweiniaid a'r cyfoethogion yn .w unig, ac nad oedd ei hoffeiriad yn gofalu am y werin a'r tlodion. Pa un a ydyw hyny yn wir ai peidio, nid all fod yr un amheuaeth ynghylch yr hyn sydd iawn ac unol ag ewyllys Duw, fel y mae wedi ei datguddio yn ei Air. Y mae yn ddilys ddigon fod y corff crefyddol sydd wedi oeri a chlaearu yn ei ofal am y tlodion wedi ymadael i raddau helaeth a'r cynllun Dwyfol o Eglwys sydd wedi oi roddi i ni. Edrychwn i'r Hen Destament, a'r Eglwys Iuddewig, a chyf- raith Moses. Yr oedd cyflwr y tlawd yn bur isel, fel y gellid disgwyl, pan gofiwn nad oedd cymdeithas a gwareiddiad ond megis yn ei ba,bandod yr amser hwnw. Ond er hyny, y mae Duw yn gosod safon 1 uwch o flaen Israel. Y mae yn gorchymyn iddynt gymeryd gofal neill- duol o'r tlodion. Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir am hyny yr ydwyf Fi yn gor- chymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd, agor dy law i'th frawd, i'th anghenus, ac i'th dlawd, yn dy dir di." Os na allai y tlawd offrymu yr aberthau mwyaf costfawr, nid oedd yr offeiriad i ddiystyru offrymau llai gwerthfawr ganddynt. (Lef. xii. 8.) Symudwn ymlaen drachefn at amser y prophwydi. Beth oedd y prif achwyn- iad oeddynt hwy yn ddwyn yn erbyn brenhin- oedd a thywysogion Israel ? Onid eu bod yn gorthrymu y tlawd a'r amddifad ? Yr oedd hyny yn peri fod ei holl wasanaeth yn anghymeradwy gan Dduw. Ond yr hyn sydd wedi rhoddi zel eymeradwyaeth Duw ar ein gofal o'r tlodion yn benaf oil ydyw, mai mewn tlodi y gan- wyd ac y bu fyw ein Harglwydd Iesu Grist ar y ddaear. Gyda y tlodion y bu ei ymdaith, pysgodwyr tlodion oedd eiddisgyblion, gwneyd daioni i gyrff ac eneidiau tlodion sydd yn gwneyd i fyny y rhan fwyaf o'i hanes. Ac y mae Ef wedi gosod allan fod cysylltiad dirgel- edig.rhyngddo Ef a'r tlodion a'r cystuddiol ymhob oes. Drwy olalu am y tlodion yr ydym yn gofalu am y ddynoliaeth syrthiedig, natur a gwendidau yr hon a gymerth Efe, a doluriau yr hon a ddug Efe. Os bydd aelodau gwanaf a mwyaf diamddiffyn teulu, y plant ieuengaf, wedi dioddef cam neu niwed, y mae y brodyr hynaf yn teimlo ac yn amddiffyn, yr un fath a phe buasai y cam wedi cael ei wneuthnr iddynt hwy. Y mae y penaeth yn cyfrif y driniaeth a roddir i aelodau y llwyth ar yr hwn y mae ef yn flaenor, fel wedi ei roddi iddo ef. Felly, Crist yw Brawd Hynaf a Phen newydd y ddynoliaeth, ac y mae Ef yn derbyn ein cymwynasau a'n caredigrwydd i'w frodyr a'i aelodau trallodedig ar y ddaear fel wedi eu tala iddo Ef ei hun. Yn gymaint a'i wneuthur o lionoch i un o'r rhai hyn fy mrodyr llciaf, i mi y gwnaethoch." Hyn hefyd, a chymeryd ei hanes yn ei gyf an- rwydd, fu gogoniant yr Eglwys. Llawer gwaith yn yr oesoedd a aeth heibio, y safodd yr Eglwys yn gadarn yn erbyn brenin ac arglwyddi y wlad o blaid hawliau cyfiawn y bobl. Nid ydyw yn perthyn i un blaid wleidyddol yn fwy na'i gilydd. Hi yw yr unig gorff crefyddol sydcl A- un Haw yn meddu dylanwad ar y cyfoethog yn ei balas, ac a'r Haw arall yn dyrcliafu ac yn cynorthwyo y tlawd yn ei fwthyn. Wrth ei hallorau hi y mae y brenin a'i ddeiliaid, y gwreng a'r bonheddig, y tlawd a'r cyfoethog yn gydstad a'u gilydd. Mae ei heglwysi yn rhydd ao yn agored i bawb, ac y mae ei hoffeiriaid dan y rhwymau cryfaf i weinyddu i bawb fel eu gilydd. Y mae yn beth naturiol iawn i roddi y lie blaenaf i'r Saeson a'r cyfoeth- ogion sydd yn hael yn eu cyfraniadau a'u cyd- ymdeimlad i'r Eglwys, ond ni ddylid gwneyd hyny ar draul esgeuluso y Cymry uniaitli. Ond i'r Eglwys gael y bobl o'i thu, nid oes eisiau iddi ofni na hawlia hi barch a chymorth y cyfoethog. Fe wyr y cyfoethogion gystal a neb mai Eg- lwys y bob! ac nid Eglwys un dosbarth ydyw yr Eglwys, ac os na wyddant, ein dyledswydd yw eu hargyhoeddi. Fe fu amser pan oedd yr Ymneillduwyr yn gwdeuthur hyn i raddau hel- acth, ond y maent erbyn heddyw wedi colli y nerth ysbrydol oedd yn cynhyrfu eu zel dros y tlodion. Yn ystod y mis diweddaf, mown ardal boblog yn Ngogledd Cymru, gyrwyd un o'r dyn- ion mwyaf parchus a bucheddol o fod yn flaenor yn y set fawr mewn capel oherwydd ei fod yn dlawd, ac nad oedd ei gyfraniadau at yr achos yn teilyngu y fath tlaenoriaeth t Achos o alar ac nid o orfoledd yw fod y fath ymddygiad gwarthus yn cymeryd lie ymhlith rhai yn galw eu hunain yn Gristionogion. Ond y mae un peth yn amlwg, sef mai yr Eglwys yw yr unig gorff sydd yn gymwys ac yn alluog o ran ei chyfansoddiad ysbrydol i weinyddu i raddau isaf yn gystal ag i raddau uchaf cymdeithas. Ami hi y gorphwys y gwaith o waredu ein gwlad rhag suddo i baganiaeth, neu i'r hyn sydd waath na phaganiaeth, sef gwareiddiad didduw a digrefydd. 0 na welid rhagor o zel yn offeiriaid RC aelodau yr Eglwys i wneuthur y tlodion a'r bobl yn gy ffredinol yn wrthddrychau eu gofal parhaus.

YN BYW 0 DAN EIRA.

LLAWENYDD PRIODASOL YN NGHASTELLNEWYDD.

EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.