Hide Articles List

12 articles on this Page

Llith yr Hen Lowr.

[No title]

MARCHNADOEDD.

CYDWELI.

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH…

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS.

[No title]

Helbulon Gwr Tal.

News
Cite
Share

Helbulon Gwr Tal. Yr wyf rhyw gymaint yn fwy na chwech troedfedd b ran taldra. Na faliwch faint rhagor. ond byddwch foddlawn ar wybod na.d ydwyf yn ddigon tal i enill fy mywoliaeth drwy ddangob fy hun o fan i fan fel giant, ond yn ddigon tal i bawb fyddo yn edrych arnaf i deimlo awydd cael tipyn o hwyl a sport ar draul fy nynsawd. Gellir olrhain fy ngofidiau yn ol i adeg fy machgendod. Ar yr adeg hono nid oedd fy nhad yn meddu ar lawer o dda y byd hwn, ac wedi i fy mrawd hynaf ymwrthod a'i ddillad, yr oedd- ynt yn cael eu hestyn drosodd i mi. Yn awr, yr oeddwn i gymaint yn fwy na fy mrawd, yn llawer talach, a'r gwir yw, buisai yn llawer mwy f gweddus pe buasai y dillad a droid hesbio genyl fi yn cael eu lleihau i'w ffitio ef. Y canlyniad oedd na ddeuai llewys ei got ef ond prin hyd fy mhenelin i, ac yr oedd ei lodrau yn flapio o gylch fy migyrnau fel adenydd aderyn ieuanc ly pan oeddwn yn cerdded. Un diwrnud, gwelaia mewn ffenestr siop lun cyflawn o honof fy hun, a dechreuais chwerthin yn iachas ac uchel, a thybiwn na fuaswn byth yn stopio. Meddyliais mai adlcwyrchiad ydoedd o ryw fachgenyn arall oedd yn sefyll tu ol i mi. Pan ddeallais mewn gwirionedd mai fy llun i ydoedd, wylais yn chwerw dost. Yr wyf yn meddwl mai y digwyddiad hwn fu yn achlysur i agoryd fy llygaid i weled y fath greadur afrosgo n, bwgan brain gordyfedig oeddwn. O'r diwrnod hwnw dechrenodd fy ysbrydoedd r(li flordd, ac nid wyf byth er hyny wedi gallu eu codi o'r iselderau y disgynasant iddynt. Yr oeddwn mor ymdeirnlallol o'm taldra fel yr oeddwn yn cashau sefyll i fyny. Eisteddwn i lawr gymaint fel yr oeddwn o hyd yn cael fy nghuro am wisgo allan fy llodrau mor fuan. Yr enwau a dywelltid arnaf gan fy nghyfeill- ion oeddynt:—"Lamp-post," Lanky," "Long un," Long-legs," Giraffe," Six foot of misery," ac yn y blaen. Sylwai pobi wawdlyd fy mod yn bur dal, ac y buaswn yn gwneyd life-guard man campus pe na buasai fy mrest mor debyg i ffrynt cricket bat mewn mesuriad ac ymddangosiad. Dywedai pobl garedig y deuwn yn ddyn o'r goreu wedi i mi lanw i lyny." Bwyteais gymaint fel y cefais ddiffyg treuliad sefydlog ond, ysywaeth, ni lenwais i fyny byth. Ni fuaswn yu malio cymaint pe buaswn wedi fy nghymesuro yn dda, ond nid wyf. Yr wyf inor ysgyrniog, fel y mae fy ffryndiau, pan y byddont yn galw i fy ngweled, yn cymeryd arnynt fy nghamgymeryd am ystondin hetiau, ac y maent yn dechreu hongian eu hetiau a'u cotiau ar fy elinau a'm hysgwydd- au. Nis gallaf ddangos fy nhrwyn yn un man heb fy mod yn destyn gwawd. Pe digwyddai i mi fyned i chwareudy, dechreua y bobl o'r tu ol i mi floeddio, Sit down in front." Atebaf finau yn ol, "Bobl bach, yr wyf yn eistodd i lawr yn dawel ddigon ond ar un aclysur gwaeddodd un dyn yn hyglyw dros y lie—" Wel, ar y fengos i, gorweddwch i lawr, ynte I" A ganlyn ydynt rai o'r enwau pert a roddir ar fy hunan anffodus gan wahanol ddynion- ach:—. ''Pan byddo y creadur yntt yn codi," ebai un, mae yn gwneyd i mi feddwl am goncertina yn cael ei dynu allan mae yn anmhosibl i un ddweyd pryd y cyrhaedda ei derfyn eithaf." I mi," meddai un arall, y mae yn dwyn i gof un o'r tai tal hyny a ardrethir allan mewn flats." "Ie," ebai y trydydd, ac y mae y top flat yn eithaf gwag." Wrth hyn, wrth gwrs, golyga y ifraethebwr fod fy mhenglog inau yn wag. Yn ystod yr adeg ag oodd Twr Eiffel yn achosi y cynhwrf mawr, rhedai y cryts dryg- ionus ar fy ol ar hyd yr heolydd gan waeddi allan, Hallo, Eiffel! Faint ydych chi'n godi am ddringo fyny yna ? Rhow'n geiniog i chwi Un diwrnod yr oeddwn yn sefyll yn agos i wal uchel, pan y cefais fy aflonyddu yn anghy- ffrediu wrth weled fy het yn cael ei hyrddio yn sydyn i'r ffordd. Wrth edrych i mewn i'r mater, cefais ar ddeall f.lll cryts yr ochr arall i'r wal wedi bod yn saethu at fy het. Ku hesgns- awd oedd en bod yn meddwl fod yr het wedi cael ei gosod ar y wal, ac nad oedd gauddynt un idea fod yna benglog oddifewn iddi, gan nad oedd yna yr un dyn erioed wedi pasio y ffordd hyny o'r blaen yn ddigon tal i ddyfod i'r golwg uwchlaw y wal. A ydwyt ti, d larllenydd, wedi sylwi, pan y byddo dau berson yn cwrdd, ac yn cario gwlaw- leni, fod yr un byraf yn wastad yn ceisio codi y wlawlen uwchbqn yr un taJaf? Yr wyf wedi profi, hyd yr eithafion pellaf, y neillduolrwydi cyfansoddiaLlol hwn perthynol i'r natur ddynol ac yr ydwyf wedi cael llawer pwt yn fy llygaid, a llawer twll yn fy het, mewn canlyniad i'r arferiad yma. Un o'r gofidiau penaf ydyw teithio ar y rheil- ffordd, ac yr ydwyf yn gorfod gwneuthur hyny yn bur fynych hefyd, ac eithrio y Sul. Pan m3wn cerbydres ar y rheilffordd, nis gwn yn fy myw beth i wneuthur si, fy nghoesau. Bob tro y byddo un yn ewyllysio myned heibio i mi, yr wyf yn gorfod codi ar fy nhraed, a chan fy mod yn natnriol nervous ac afrosgo, pur anfynych yr wyf yn gallu gwneyd heb gnocio fy mhen yn chwyrn yn erbyn y Uusern neu y oawell sydd yn dal yr hetiau, Yna, cyn fy mod yn gallu eistedd, y niae y tren yn sicr o gychwyn, ac anfonir fi yn bedwar aelod a phon yn grynswth ac yn faglog i fyny ac ar draws y teithwyr. Y mae y carilyniadau ynglyn 3, hyn wedi bod i mi yn wirioneddol ddycbrynllyd, Cyn hyn yr wyf wedi taro spectols hen wyr a gwragedd yn yfflon, wedi chwilfriwio wyau, ac wedi gwneyd pwysi lawer. o ymenyn mor flat a clivamwythen, a chefais un tro gurfa ddychrynllyd gan wr gwraig am i mi eistedd ar arffed ei briod, a thaflu fy mreichiau o amgylch Ily ei gwddf i savio fy hun rhag ymgreinio o cl gwmpas y lie, Yr oedd y gwr hwn yn berffaith afresymol. Gwnes ymddiheuriad iddo, gan bwyntio allan mai damwain bur oedd yr lielynt, ond i wran- dawai arnaf. Dywedodd fod yna ddigon o arffedau a gyddf- au eraill yn y cerbyd i syrthio arnynt a glynu wrthynt heb bigo allan ei wraig ef, no fe rodd- odd i mi gystal curfa ag a gefais yn fy oes.. Yr wyf yn anarferol hoif o ddawnsio, ond nis medraf byth gael partner, Y mae y merched byrion yn dweyd fy mod yn gwneyd iddynt edryoJa ya wrthvin, a. dywed y rhai talaf fy mod yn gwneyd iddynt ymddangos yn fwy amlwg fyth. Y gwir yw, y mae fy nhaldra anghyffredin yn felldith i mi. Yr wyf yn. teimlo yn berifaith sicr ei fod wedi dyfetha fy nghysur, oblegid os oes un dyn wedi ei eni yn actor, myfi ydyw y dyn hwnw. Ond pa arolygydd fuasai yn fy nghyflogi ? Gwnawn gorachod o bawb ar y chwareufwrdd. Gallaswn, feallai, gael lie ar adeg pantomime fel y cawr Jack the Giant Killer," ond y mae fy uchelgais yn codi uwchlaw hyny i rywle. Ddadlenydd, mynegaf gyfrinach wrthyt-Mi syrthiais mewn cariad. Fel llawer o ddynion tal eraill, yr wyf yn edmygu merched bychain. Yr oedd y ferch oedd wedi fy swyno yn un fer, dywell, a synwyrol. Ymleddais yn erbyn fy nheimlad cariadgar, oblegid yr oeddwn yn edrych ar y siawns i mi lwyddo fel yn anobeith- iol; ond nid wyfyn or-gryf, ac fe ddarfu cariad a siarad felly ty llorio yn llwyr. Meddyliais y ffeindiwn allan a oedd y ferch oedd wedi swyno fy serch yn leicio dyn tal, ac felly un diwrnod troais yr ymddiddan ar y pwnc. 0, nid wyf fi yn eich galw yn dal o gwbl, Mr. Slimmer," ebai fy nghydymaith deg. "Nid y'ch yn fy ngalw i yn dal, Miss Dash- er meddwn inau gyda fy llygaid fel pe am neidio o fy mhen, fel pe baent am weled y tu ol iddi. 11 Na, yr wyf yn eich galw yn anghenfilaidd. Yr ydych chwi rywle uwchlaw bod yn dal!" oedd ei hatebiad creulon. Yr oeddwn yn meddwl fy mod wedi crynhoi fy ngwroldeb i bwynt y proposio, ond fe gnoc- iodd hyna- y cwbl o honwyf yn Ida loew. Sylw- ais fod yn rhaid i mi ddal y tren, ac yna cerdd- ais bymtheng milldir i chwilio am lyn o ddwfr digon dwfn i fy moddi ond digwyddodd hyn yn y wlad, ac nis medrwn ddyfod o hyd iddo yn un man. Dranoeth, ymdrechais ymuno a'r fyddin, ond ni fynai y recruiting sergeant mo honwyf ar un cyfrif. Llefarodd air wrthyf yn ddigon i dori calon y cryfaf, a chynghoroddfi i ymofyn swydd i oleuo lampau, gan y medrwn'ddilyn galwedig- aeth felly heb help polyn. Dyna i chwi ychydig, a dim ond ychydig o flinderau dyn tal.

Yr Eglwys a'r Tlodion.

YN BYW 0 DAN EIRA.

LLAWENYDD PRIODASOL YN NGHASTELLNEWYDD.

EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.