Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Llith yr Hen Lowr.

[No title]

MARCHNADOEDD.

CYDWELI.

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH…

News
Cite
Share

YR YSGOL SUL YN ESGOBAETH LLANELWY, At Olygydd Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Dylai caredigion yr Eglwys deimlo yn wir ddiolcbgar i Cymro am alw eu sylw at sefyllfa ac aughenion yr Ysgol Sul yn yrEsgob- aeth hon, trwy gyfrwng Y LLAN. Y mae yr Esgob wedi bod yn hynod ddiwyd a llafurus er mwyn dwyn oddiamgylch gynllun newydd gyda'r dyben o berffeithio yr Ysgol Sul yn ei esgobaeth, a gobeithio y gwna pob cymunwr ac aelod o honi roddi eu presenoldeb ynddi, naill ai fel athrawon ynte fel ysgolheigion. Yr Ysgol Sui yw magwrfa (nursery) yr Eglwys, a lley mae Ysgol Sul weitbgar a lJlodenog. yno y mae Eglwys yn Uawn bywyd a gweithgarweh, Mewn llawer tref a phlwyf gwledig y mae yr Ysgol Sul yn allu mawr, ac yn addurn i'r Eglwys tra mewn llawer o blwyfi eraill, ychydig iawn o gymunwyr na'r aelodau sydd yn myned iddi, a'r canlyniad o hyny yw Ysgol Sul wan, dilewyrch, a difywyd. Pwy sydd yn mynychu yr Ysgol Sul ? Y person, os na fydd ganddo wasanaeth yn y prydnawn, ei wraig, ei blant, y clochydd, yr ysgolfeistr, a rhyw ddyrn. aid bychan o ffyddloniaid. Dyma fel y mae Ysgol Sul yr Eglwys yn cael ei ehario ymlaen mewn llawer plwyf, a'r rhyfeddod yw fod yr Eglwys yn fyw o gwbl. Beth yw y rheswm na fyddai y Squire, ei deulu, ei wasanaeth-ddynion, ei denantiaid, a'i weithwyr yn myned i Ysgol Sul yr Eglwys ? Y mae efe, fel rheol, yn credu yn gydwybodol ei fod wedi cyflawni ei ddyled- swydd tuag at Dduw wedi iddo fod unwaith yn y gwasanaeth ar y Sul. Nid oes rhagor yn ofynol oddiwrtho, yn ol ei gred ef. Rbeswm neu esgus arall y mae yn roddi yw, nad oes ganddo yr un ehwaeth i addysgu yr ieuenctyd yn addysg ac a.t)wawi»9tla yr Arglwydd." OaiJ os bydd cyfarfod politicaidd, nen Gyngrair y Friallen (Primrose League) yn cael ei gynal yn y J plwyf, y. mae yn llawn gweithgarwch a zel i. gyd, ac yn ymdrechu cael pawb i'r cyfarfodydd yma. Am ei wasanaeth-ddynion, ei denantiaid, na'i wt ithwyr, nid yw yn malio botwn i ba le yr Art ar y Sul, ac ni chymer yr un drafferth i'w perswadio i ddyfod i'r Eglwys. Rhywbeth oerllyd yw ei Eglwysyddiaeth ef, tc y mae ei ddifrawder a'i ddiffyg zel yn ar- graffu ar galonau y plwyfolion o un gwerth yn ei olwg o ganlyniad, y maent yn myned lie y caffont weitbgarwch, gwresogrwydd. a zel dros yr hyn y maent yn gredu ac yn broffesu. Oddi- wrtho ef y mae bywyd yr oil o'r plwyfolion eraill yn cael ei ffurfio. Cymhellwoh ac anog wch yr amaethwr, v masnachwr, a'r gweithiwr ddyfod i'r Ysgol Sul, a dywedant wrthych yn fuan iawn nad ydyw y Squire, ei deulu, na'i weithwyr yn myned iddi, a phaham y rhaid iddynt hwy fod yn wahanol ? Dyna fel y mae mewn llawer iawn o blwyfi, fel y mae yn alarus cyfaddef, ond gobeithio fod gwawr ar dori pan y bydd pob Squire, ei deulu, ei wasanaeth- ddynion, ei denantiaid, &c., yn gwneyd eu goreu dros yr Ysgol Sul, drwy fod yn athrawon ynddi, a chymell eraill i wueyd yr un peth. Cyn y ceir Ysgol Sul lewyrckus ymhob plwyf, y mae yn rhaid i'r Squire, ei deulu, a'i wasanaeth- ddynion ddangos eu bod yn teimlo dros hen Eglwys eu tadau drwy eu hunan-aberth, zel, amynedd, a phenderfyniad; a phan y gwnant hyn, ceir gweled yr amaethwr, y masnachwr, a'r gweithiwr yn ei efelychu. Gwawried y cyfnod bendigedig hwn ar ein gwlad yn fuan, fel y byddo ein Hysgolion Sul yn llawn, ac fel y cyn- yddont mewn gras a gwybodaeth am Dduw. Duw o'i ras a roddo i ni fel Eglwyswyr fwy o zel, gwresogrwydd, a gweithgarwch yn ei Eg- lwys.—Yr eiddoch, &c., UN O'R ESGOBAETH.

CYHOEDDI GOSTEGION PRIODAS.

[No title]

Helbulon Gwr Tal.

Yr Eglwys a'r Tlodion.

YN BYW 0 DAN EIRA.

LLAWENYDD PRIODASOL YN NGHASTELLNEWYDD.

EGLWYS BLWYFOL RUMNEY, CAERDYDD.