Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

NODION SENEDDOL --

News
Cite
Share

NODION SENEDDOL [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] AIL-GYFARFYDDIAD Y SENEDD. Ail-gyfarfu Ty y Cyffredin ar ol gwyliau y Sulgwyn, ddydd Llun, yr wythnos ddiweddaf, ond nid oedd dim o ddyddordeb cyffrediricl yn y gweithrediadau. Nid oedd ond rhyw un rhan I o dair o'r aelodau yn bresenol, ac o'r nifer yr oedd amryw o'r dosbarth hwnw, prif amcan y rliai ydyw taflu rhwystrau yn ffordd y cerbyd deddfwrol. Yr oedd Mr. W. H. Smitli yn abseaol, a gweithredai Mr. Goschen yn ei le fel arweinydd. Pasiwyd y bleidlais i'r gwasanaeth- au Trefedigol wedi hir a chyndyn ddadieu, a dyna yr boll waith sylweddol a gyflawnwyd yn Mhwyllgor y Cyflenwad. Y DERBY DAY. Nos Fawrth, cynygiodd Arglwydd Elcho no. fyddai i'r Ty eistedd ddydd Mercher (dydd y rhedegfeydd ar Epsom Downs), mewn gwrth- wynebiad i'r hyn y cafwyd araith lawn o ffraetli- ineb a gwawdiaith, fel arferol, gan Syr Wilfrid Lawson. Siaradwyd o blaid y cynygiad gan Mr. Laboucliere ar y tir o adloniant; ac, yn benaf, fel carwr sobrwydd, gan fod y dafarn a'r Downs yn liollol elyniaethue. (Chwerthin.) Condemniwyd y cynygiad gan Mr. Conybeare a'r Dr. Tanner fel gwastraff cywilyddus ac an- esgusodol ar y gwaith cyboeddas. Dynion iawn i son am wastratlll amser y Ty Pa fodd bynag, wedi peth siarad pellach, ym- ranodd y Ty- Dros y gohiriad 160 Yn erbyn 133 Mwyafrif 27 Wedi byny, aeth y Ty i Bwyllgor Cyflenwad ar Y CODE ADDYSG. ac ar y bleideb o X2,284,000 at addysg gylioedd- ,y us yn Lloegr a Cbymru. Cynygiodd Syr W. Hart Dyke fod yt amcan. gyfrif addysgawl am y flwyddyn bresenol i gael ei fabwysiadu, ac eglurodd rai o fanylion y Code Addysg newydd, sylwedd yr hyn a ym- ddangosodd mewn rhifyn blaenorol o'r LIAX. Y blynyddau diweddar yr oedd anfoddogrwydd cynyddol ynglyn a'r sefyllfa bresenol ar bethan, ac yr oedd y teimlad h wnw wedi cyraedd ei eitbafnod yn ngbyhoeddiad Adroddiad y Ddir- prwvaeth Frenhinol, yr hwn a roddodd fodol- aeth i'r cynllun addysg newydd a gyflwynasid gan y Llywodraeth i sylw y Ty a'r wlad. Yr oedd yu cynyg diddymu y gyfundrefn breseuol o gramio a gwneyd yr addysg a gyfrenid yn fwy trwyadl a phoblogaidd. Dygid i mewn am y tro cyntaf i gwrs addysg law-fer, yr Ellmyn- aeg, mordwyaeth, hyfiforddiant anianyddol, neu gorfforol (physical training), cogiriiaeth, a golcbyddiaetb (laundry), a chaniateid grant arbenig tuag at gyfranu addysg law-weitbiol, tra y sefydlid ysgolion nos i'r rhai a fyddent yn dewis parhau eu hefrydiaeth wedi gadael yr ysgolion dyddiol. Yn y ddadl a ddilynodd, cymerwyd rhan gan Mr. S. Buxton, Syr R. Temple, Mr. F. S. Powell, Syr H. Roscoe, Mr. Mundella, ac eraill, ac amlygwyd cymeradwyaeth gyffredinol i gynllun y Swyddfa Addysg, er fod gwahaniaeth barn ar rai materion. Os na fydd y Cymry a'r Saeson, ymhen ychydig flynyddau, y bobl fwyaf dysgedig yn y byd, nid ar y Llyw- odraeth Undebol y bydd y bai. TY YR ARGLWYDDI. Cyfarfu aelodau y Ty Uchaf am y tro cyntaf wedi gwyliau y Snlgwyn, brydnawn ddydd Ian, a gwnaetbant gryn waith mewn byr amser. Darllenwyd Mesur, cynwysedig a adran, a ddygwyd i fewn gan yr Arglwydd Ganghellydd, amcan yr hwn Fesnr ydyw amddiffyn plant rhag rhieni neu warcheidwaid a fyddont yn enog o ymddygiad gwaradwyddus, yr ail waith. Pasiodd y Customs and Inland Revenue Bill drwy y Ty, a gwnaed cryn gynydd gyda rhai Mesurau buddiul eraill. TWNEL Y SIANEL. Yn Nhy y Cyffredin, cynygiodd Syr Edward Watkia ail ddarlleniad y Channel Tunnel Bill, yr hwn oedd wedi ei dynu allan, meddai, i'r dyben, can boiled ag yr oedd byny yn bosibl, o gyfarfod syniadau a rhagfarnau y Llywodraeth. Siaradodd am y llwyddiant oedd wedi coroni yr arbsawfion a wnaed yn flaenorol, a dywedodd y cynygid fod yr holl gwestiwn yn y dyfodol i gael ei gymeyd allan o diriogaeth anturiaeth bersonol, gan adael ar y Llywodraeth y cyfrifoldeb o ddweyd a oedd y twnel i gael ei gwblhau neu beidio. Cyfeiriodd at y manteision a ddeilliai, yn ei dyb ef, oddiwrth wneuthuriad y twnel, gan ymdrin yn elielaeth a'r gwrthddadleuon a. ddygid yn erbyn yr anturiaeth. Cynygiodd Syr M. Hicks-Beach wrthodiad y Mesur, yr hwn oedd wedi ei fwrw allan bedair gwaith yn flaenorol gan Dy y Cyffredin, tra yr oedd y cwestiwn wedi ei ddyrnu allan yn llwyr drosodd a throsodd. Trwy y cynllun cynygedig, nid oedd un ddadl yn ei feddwl ef na chreuid ffynhonell newydd o berygl i'r wlad hon, ac yr oedd yn ddigon posibl i'r drygau yngK'n ag ef orbwyso y manteision honedig. Cefnogwyd y Mesur gan Mr. Gladstone, yr hwn a ddywedodd fod y gwrthwynebiad i'r cyn- llun ar y tir o berygl yn beth hollol anwarant- edig a dirmygns. Mae y ffalth deilwng o sylw i Lywodraeth Mr. Gladstone yn 1883 wrthwynebu y cynllun yn y inodd mwyaf penderfynol, ac i'r boneddwr gwir anrhydeddns ei hun bleidleisio gyda'r mwyafrif yn ei erbyn, ond dyna Gorchwyl hawdd i dwyll-ymresymwr fel yr hen wron ardderchog cedd cysoni ei ymddygiad. Wedi i'r Ty ymranu, cafwyd- Dras yr ail ddarlleniad 153 Yn erbyn 234 Mwyafrif i'r Llywodraeth 81 MESUR Y DEGWM. Ar y cynygiad fod y Ty yn ymffurfio yn bwyllgor ar Fesur yr ardreth-dal degymol, .Cynygiodd Mr. F. Stevenson Gyfarwyddyd i'r gffi uaaU^wnevd darpariaeth ,ar >'«'>.>y "č' aéthyddi:tetll.(')ywed¿(íd¥d. fie Oliedig ar yr egwyddor os oedd manteision neillduol i gael ea rhoddi i ddegwm-berchenog- 0 0 ion, fod cyfiawnder yn eu rhwymo i ganiatau i manteision cyferbyniol i'r degwm-dalwyr, oblegid os oedd cwestiwn y degwm i gael ei ail- agor, na ddylai hyny gael ei wneyd er mantais i un blaid yn unig. Cyfeiriodd at y caledi a gynyrehid gan y cytundeb dan Act 1836, yn enwedig yn y siroedd dwyreiniol, a dadleuai fod yr annhegwch hwnw yn eu cyfiawnha-a i hawlio dosbartliiad mwy teg a chyfiawn o'r ar- dreth-dal degymol. Yn 1836 yr oedd y prisiau yn uchel a chyflogau yn fychain, ond yn bres- enol yr oedd pethau yn hollol wahanol. Yr unig ffordd i symud cwynion y degwm-dalwyr yd- oedd drwy sefydlu dull gwahanol 0 gymeryd y cyfartaledd yn minis yr d, neu wneyd dar- pariaeth drwy ba un y gellid ysgafnliau y baicli drwy apelio i'r llys sirol, neu awdurdod leol. Os derbynid yr hyfforddiant" a gynyg- iai. gwnai efe a'i gyfeillion ddwyn i fewn well- iantau yn cynwys yr egwyddorion hyn. Dywedodd Mr. Arthur Williams, os oedd y Llywodraeth i ymyryd ag Act 1836, eu bod yn rliwym o ad-drefnu y dull o gymeryd cyfartal- edd yr 5-d, mewn trefn i ddosbarthu y rhent-dil degymol yn fwy teg. Dymunai eilio y cyfar- wyddyd. Dywedodd Syr M. Hicks Beaoh fod yr eg- wyddorion ag oedd yn oblygedig yn y cynygiad yn rhai eang a brawychus, ac y baasai yn dda ganddo wybod pa fodd y gwnai ei gynygydd a'i gefnogwyr gario allan yr egwyddorion hyn ond ymddangosai iddo ef (Syr Michael) fod yr aelod anrhydeddus yn dychrynu rhagei gyn- ygion ei linn, oblegid nid oedd dim a wnelai ei araith &'r cyfarwyddyd. (Ob.) Nid oedd ond mater dibwys hollol pa un a gymerid cyfartal- edd yr yd bob tair neu bnm' mlynedd, neu bob saith mlynedd, ond y fantais ynglyn a'r prisiad saitli-mlwyddol ydoedd fod y taliadau yn am- rywio llai. Nid oedd unrhyw gyfarwy(ldyd yn ofynol i'r pwyllgor ar y Mesur hwn os barnent yn briodol i apwyntio cyfartaledd pum'- mlwyddolnel1 saith-mlwyddol, ac yr oedd y cyfarwyddiadau cynygiedig, o ganlyniad, yn hollol ddi-alw-am-danynt. Amoan syml cyn- ygiad y Llywodraeth oedd yn gynwysedig yn y Mesur ydoedd -tros,,Iwyddo y cyfrifoldeb am y degwm oddiwrth y deiliad, yr hwn feddai ond buddiant amserol, i'r perchenog, yr hwn oedd yn meddu buddiant parhaol yn y tir, a'r gwrth- wynebiad i ail-agor y cwestiwn o gyfartaledd yr Id ydoedd—yr anmhosiblrwydtl ei gyfyngu i amser neillduol. (Cymeradwyaeth.) Pe ail- agorid y cwestiwn, gallai y degwm-berclienog 1, "W 11 hawlio ail-ystyria-eth o natur yr eiddo, neu y cyoyrch, ar ba rlti yr oedd y degwm yn cael ei brisio, ac yr oedd ef (Syr Michael) o'r farn y collai y degwin dalw r fwy drwy helaethu y cynyrch' prisiadwy nag yr enillai drwy newid amser y cyfartaledd. Barnai Arglwydd Cranbourns mai amean y cyfarwyddyd ydoedd—parotoi y ffordd i well- iantau a wnaent lwyr ddinystrio y degwm yn y diwedd, ac o ganlyniad, yr oedd y Ty yn rhwym o'i wrthod. Dymunai Mr. C. W. Gray weled Mesur yn cael ei basio a wnai gyfiawnder a'r degwm- ZIY 11 dalwr a'r degwm-berchenog. Nid oedd sefyllfa bresenol pethau yn gyson a. chyfiawnder ac ag ysbryd Act 1836. Yr oedd yr ardreth-dal ddeflYmolyn llyncu i fyny yr oil o enillion yr amaethwyr yn y siroedd dwyreiniol o Loegr. Bhybuddiodd Mr. Leightoh y Ty i beidio cdrych ar y cwestiwn fel un E^lwy.sig, ond fel un yn dwyn pertbynas eiddo a phe cymerai ad-brisiad le, yr oedd yn ddigon posibl i'r degwm dalwr hawlio mwy nag oedd yn ei gael. Cefnogwyd y cynygiad gan Mr. H. Knutch- bull Huggesson, am y gwnai allitogi y Ty i ym- wneyd a'r dull anfoddhaol presenol o gymeryd cyfartnledd yr 5'd- Yr oedd Mr. Bryn Roberts yn berffidith sicr, os pasiai y Mesnr, ac yr oedd hyny yn bosibl y buasai yn anmhosibl symud unrhyw gamwtt ynglyn à'r degwm. Dyna setlo y pwuc unwitith ac am byth! Apeliodd Mr. Henry Chaplin at y Ty i ym- raau ar nnwaith. (Na, na.) Barnai ef, os ail- agorid y cwestiwn mewn perthynas i'r dull o gymeryd cyfartaledd yr yd er mantais i'r degwm-dalwr, y buasai yn rhaid yatyried hawliau y degwm-berohenog, a gallai droi allan eu bod, yn lie cynorthwyo yr amaethwr, yn cynorthwyo y tir-lerchenog. Datganodd Syr W. Barttelot ei obaith y 0 gwelai ei gyfaill gwir anrhydeddus ei ffordd i osod yn y Mesur welliantau rhesymol, gwell- iantau a fyddent resymol nid yn unig i'r degwm- dalwr, eithr hefyd i'r degwm-berchenog, gan ei fod o'r farn, pe deuent ibenderfyniad teg a rhesymol yn awr, y gallai barbau am lawer o flynyddau, yr hyn a fyddai yn fantais neillduol i'r Eglwys. (Cymeradwyaeth o feinciau yr Wrtliblaid.) Condemniai Syr William Harcourt y Mesur am ei fod yn gadael y degwm-dalwr yn yr un man ag yr oedd o'r blaen, gyda'r unig wahan- iaeth ei fod yn gyfrifol am y degwm yn yr ar- dreth, ac nid yn uniongyrchol, tra yr oedd y t,Y dull o'i godi yn fwy gormesol nag erioed. Wedi i amryw eraill gymeryd rhan bellach yn yr ymdrafodaeth, Dywedodd y Twrnai Cyffredinol mai yr olwg a gymerai y Llywodraeth ar y cynygiad ydoedd -ei fod yn myned ymhell tuhwnt i'r cwestiwn o gyfartaledd yr yd a phe pesid cf, y gallai y Mesur yn mhwyllgor gael ei lwyr ddinystrio gan welliantau. Nid oedd yr un cynllun pen- odol hyd yn hyn i ymwneyd a'r cwestiwn o gyf- artaledd yr yd wedi ei awgrymu, ond yr oedd y Llywodraeth yn berffaith foddlawn i ystyried unrhyw gynygiad ymarferol a ddygid yinlaen gyda'r bwriad i ddeddfu arno, Cododd Syr Hussey Vivian i barhau y ddadl, ond gan ei bod yn awr yn 11.409 Cynygiodd Syr M. Hicks Beach y Cloadur, yr hwn a gariwyd drwy fwyafrif o 41, ac wedi hyny ymianodd y Ty ar y "Cyfarwyddyd," pryd y cafwyd Dros y Cyfarwyddyd 17 Yn erbyn 240 Mwyafrif yn erbyn 43 Derbyniwyd y flfigyrau gyda banllefau o gym- eradwyaeth o'r Meinciau Undebol. Y LLEFARYDD YN GADAEL Y GADAIR. Pan ddygwyd y Mesur uchod ymlaen ddydd Gwener ,t^n ddy farnasai y dydd blaenorol hi^r b ^gyiarwyddiadau yn iifreolaidd, fod tri yu mhellach wedi eu hanfon i mewru Yr oedd y rhai hya hefyd allan o drefn," acnid oedd ganddo yn Jtdilynol yr un dewisiad ond gadael y gadair. (Banllefau o feinoiau y Weinyddiaeth). Wedi hyny, gadawodd y Llefarydd y gadair, ac aed ymlaen at faterion eraill. Wele gastell arall o eiddo y llesteirwyr cyf- rwysddrwg wedi syrthio yn deilchion i'r llawr a chyffyrddiad gwialen gyfareddol y Llefarydd. Yr amcan oedd ganddynt mewn golwg pan yn dwyn ymlaen eu cyfarwyddiadau gwagsaw ydoedd ail-draddodi yr holl areithiau hii-wyntog a bytheiriawl a draddodwyd ganddynt ar yr ail ddarlleniad, ond tynodd Mr. Speaker y gwynt o'u hwyliau, ac y mae yn teilyngu cydnabydd- iaeth genedlaethol am ei ddewrder. Well done I CYFLENWAD. Yn Mhwyllgor Cyflenwad ar y bleidlais addysgol, cafwyd ymdrafodaeth ddyddorol dros ben ar Y CODE NEWYDD. Dywedodd Mr. Talbot ei bod yn anrhydedd i Golegau Hyfforddiadol Eglwysig eu bod yn cyf- lenwi cynifer o Ysgolion y Byrddau Ag athraw- on, a datganodd ei gymeradwyaeth gyffredinol o'r Code newydd, ar y tir ei fod yn gwneyd rhoddion blynyddol y Llywodraeth yn fwy syml, a'i fod yn rhoddi mwy o ryddid ddos- barthiad (classiifcation). Dymunai Mr. Samuel Smith, yn y modd mwyaf calonog, longyfarch Syr William Hart- Dyke am y cynllun rliagorol (excellent code) a gyflwynasai i'r Ty, yr hwn a gynwysai amryw bwyntiau dros y rhai yr oedd llawer o aelodau wedi bod yn dadleu am flynyddau. Yr oedd yn gwneyd addysg yn ymarferol, dyddorol, ac attyniadol, ac yn osgoi y gyfundrefn hono ag eedd wedi bod yn felldith i addysg elfenol yn y wlad hon. Yr oedd ef yn diolch i'r Llywodr- aeth am eangu cylch addysg yn yr ysgolion. Yr oedd dysgu cookery, laundry work, &c., bob amser yn ddyddorol iawn i blant. Dysgu geir- iau oedd yr hen gyfundref, ac nid dysgu pethau, ond yr oedd y Code yn ddechreuad cyfriod new- ydd ar addysg yny wlad hon. Nid yr aelod anrhydeddus dros swydd Gall- estr ydoedd yr unig un o'r Gladstoniaid a gan. molai y Mesur, ond yn wir yroedd bron pawb yn ei ganmol. Ondgofodaballaiinifanylnyn awr. Diolchodd Syr W. Hart-Dyke i bawb am eu beirniadaeth ffafriol, ac atebodd y gwrthddadl- euon. Wedi i Syr John Puleston a Mabon ddiolch i is-Iywydd y Cyngor am y rhanau hyny o'r Code ag oedd yn dal perthynas â Chymau, cydunwyd ar y bleidlais. MESUR Y CODE ADDYSG. Cynygiodd Syr William Hart-Dyke ail ddar- lleniad y Mesur. Wedi ychydig eiriau yn mhellach gan Mr. Buxton a Mr. Powell, oyduuwyd ar yr ail ddar- lleniad ynghanol taranau byddarol o gymerad- wyaeth. Bu rbai materion eraill dan sylw yn yatod yr eisteddiad, ond rhaid gadael ar hyn.

AT Y BEIRDD.

mSBABTH I.

CYNGHORION FY MAM.

PE BYDDWN FARW'R FUNYD HON…

DOSBARTH II.

EMYN.

YR EHEDYDD.

DEOHREU OEDFA,

[No title]

RHESTR 0 OnOSBARTHWYR "Y LLAN…

Advertising