Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

Llythyr o Rydychain.

News
Cite
Share

Llythyr o Rydychain. When things are at their worst, they are sure to mend," sydd hen ddiareb wedi ei gwirio lawer gwaith cyn heddyw, ond efallai na wnawd hyny yn amlycach nag a wnaed yma y dydd o'r blaen yn y Cricket Match rhwng Lancashire a'r Varsity. Mae un-ar-ddeg Lancashire gyda'r cryfaf yn y deyrnas, a'r flwyddyn ddiweddaf yr oeddynt wedi eu bracketio gyda Notts a Surrey am y championship. Ond wele bechgyn di-farf, meddal- ddwylaw Rhydychain yn eu curo yn gyrbibion Ar unrhyw delerau buasai y fuddugoliaeth hon yn werth ymffrostio ynddi, ond pan gofiwn na fu y Varsity yn llwyddianus o'r blaen er's tair blynedd, a rhag ofn na enillant am dair blynedd eto, gwell ymffrostio oreu allwn tra bydd genym achos. Yr oedd yr ym- drech yn cymeryd lie yn y Parks, lie mae cricket field gyda'r harddaf yn y deyrnas. Scoriodd y Varsity mewn un innings gymaint, ond chwech, ag a wnaeth Lancashire mewn dau innngs- curfa. ofnaqwy Yn ddiameu, y mae gan y Varsity un-ar-ddeg pur dda y flwyddyn hon, ac er nas gallwn obeithio y bydd iddynt guro Caergrawnt ddechreu y mis nesaf, credwn y bydd iddynt wneyd llawer gwell ymddangosiad na'r flwyddyn ddiweddaf. Bydd yn anhawdd i Rydychain guro Caergrawnt tra bydd y demon bowler, S. M. Woods, yno heb- ddo ef buasent yn weddol gyfartal. Mae'r Cymro Llewelyn wedi dyfod yn hynod boblogaidd, a chyfrifir ef ar bob llaw y hat goreu sydd yma. Efallai mai dyma y cyfleusdra goreu i grybwyll am y Tad Benson. Ficer Cowley Road oedd y Tad Benson hyd ychydig flynyddoedd yn ol. Rhoddodd y fywol- iaeth i fyny, a sefydlodd brotherhood yn yr un plwyf. Efe yw y penaeth, ac y mae tua deuddeg yn ffurfio y frawdol- iaeth." Maent yn cyd-fyw mewn adeilad mawr a elwir The Meeting Houae," ac un o'r rheolau derbyniad ydyw, rhoddi i fyny eu holl arian a byw heb gyflog- gwaith cariad. Mae'r arian yn myned at gario y gwaith ymlaen. Yr ydym wedi clywed fod un o'r rhai sydd yno yn awr wedi rhoddi i fyny Earldom ei ystad er mwyn ymwerthu i wneuthur daioni. Mae wedi adeiladu eglwys haiarn yn ymyllle trig yr ysgrifenydd, ac y mae yn orlawn bob amser. Mae wedi prynu darn o dir er's amser i adeiladu eglwys fawr, ond nid yw wedi symudymhellach yn y cyfeiriad hwnw. Mae'r gwasanaeth yn yr eglwys haiam yn sw* ynol iawn, ac efallai na freintir unrhyw Eglwys gyda phregethwyr gwell na'r Tadau Benson, Congreve, a Black. Yn wir, mae yn wledd clywed un o honynt. Yn ami- bydd yma rai dieithr yn dyfod, megis y Tad Maturin, yr hwn sydd yma yn awr yn gwefreiddio cynulleidfaoedd enfawr, a'r Tad Ben-Oliel, luddew, yr hwn fu yma ychydig amser yn ol ac yn atdynu cynulleidfaoedd mawrion. Yn sicr, mae'r Brodyr yn gwneuthur gwaith godidog, nid yn unig o'r pwlpud, ond trwy ym- weled a'r bobl isaf, ac y mae eu haelioni yn ddiarebol. Maent oil yn aelodau o Eglwys Loegr, ond yn annibynol ar un- rhyw Esgob a Phrif Weinidog. Mae y Tad Benson wedi bod yn Nghymru fwy nag unwaith, ac yr wyf yn canfod fod pregethau draddododd yn Merthyr Tydfil yn cael eu hysbysu yn ngholofnau Y LLAN. Fel un fydd yn ami yn cael y fraint o weinidogaeth y Tad Benson, ac wedi derbyn llawer o fwynhad a budd wrth wrando arno, gallaf eu cymell yn galonog i'ch darllenwyr, canys nid yn ami y rhagorir arnynt o ran coethder iaith, meddyliau coeth, difrifoldeb dwys, a duwinyddiaeth bur. Yr ydym yn deall ei fod yn awr yn bwriadu cyfiawni ei "crowning effort." 0 dan ei ofal cynhelir ysgol lewyrchus, ar safle ddymunol yn Iffiey Road, yn gwynebu yr afon Dafwys. Yn awr mae yn bwriadu lielaethu yr. ysgol hon, ac adeiladu Hall i'r plant fu yn yr ysgol fyw ynddi pan yn y Brifysgol, ynghyd ag adeiladu eglwys fawreddog. Mae'r tir, tua phum' acer ar hugain, wedi ei brynu er's pythefnos, a £10,000 wedi eu talu am dano. Dywedir y bydd yr lioll draul tua £ 300,000 Dyma y schein; bwys- icaf a helaethaf sydd wedi ei chychwyn yn Rhydychain yn ystod y bedwaredd ganrifar bymtheg. Llwyddiant i'r Tad Benson, un o'r pererinion rhyfeddaf, goreu, a duwiolaf genedlodd y ganrif bresenol. Yn yr Enecenia, ar y 15fed cyflsol, rhoddir y radd o D.C.L. i'r boneddigion canlynol :-Mr. H. M. Stanley, Syr W. Turner, Proffeswr Moral Anatomy yn Edinburgh Henry Sidgwick, Proffeswr Moral Philosophy yn Nghaergrawnt; Mr. Maunde Thompson, Prif Librarian yn y British Museum, a Mr. W. Q. Orchardson, R.A. Yr oedd yr Archddiacon Watkins yma y Sul diweddaf yn traddodi ei ddarlith olaf. DerbyniatlOO am ryw bump neu chwe' darlith, ond y fath lafur enfawr gostia iddo Yr ydym yn diolch i'r Parch. J. L. Meredith, M.A., rheithor Gelligaer, am daro yr hoelen ar ei phen." Gadewir i chwedleuon fel hyn ymlwybro yn rhy liir. Ymddangosodd yr hyn a ddywed- asom am yr Archddiacon Watkins yn y Standard er's maith amser, a dyma y gwadiad cyntaf welsom. Pwy bynag gynghorodd Esgob Llandaf i dderbyn yr Esgobaeth, gwnaethant wasanaeth i'r Eglwys nad edifarhant byth o'i herwydd. Llawenydd mawr i ni oedd clywed oddiwrth gyfaill caredig yr wythnos hon, fod Arglwydd Penrhyn wedi addaw adeiladu eglwys a rhoddi mynwent i Maesygroes, rhan o blwyf Llanllechid, Arfon. Can' diolch i'w arglwyddiaeth haelionus am y fath rodd dywysogaidd. Ac os oes unrhyw le yn teilyngu eglwys, Maesygroes yw hwnw. Y mae gwasan- aethau wedi eu cynal yno er's blynyddau mewn ystafell anghyfleus o fechan gyda diwydrwydd a zel sydd yn teilyngu y ganmoliaeth uwehaf. Y mae'r anedd yn llawn, ac nid oes ond eisiau adeilad cymwys na fydd yno gynulleidfa gref. Ni ddaethum erioed i gyffyrddiad a deadell mor selog a gweithgar-pob un a'i fraich dan yr arch, heb neb yn tynu yn ,crroes "-gwasaiiaothau gwresog; ac mae'r canu, dan ofal y brodyr Roberts, yn ddigon i godi cyWilydd ar eglwysi yn rhifo deucant neu dri. Dan ofal y rhad- Ion Barch. R. M. Jones, B.A., Coleg yr lesu, y curad newydd-apwyntiedig, mae genym hyder gref y claw Maesygroes yn ganolbwynt bywyd Eglwysig newydd. Maddeuer am grwydro mor bell o Ryd- ychain, ond nis gallwn lai na chyd- lawenhau a'm cyfeillion yn Maesygroes ar gaffaeliad nod eu huchelgais er's Ilawer dydd. Gyda llaw, Mr. Gol., pwy sydd yn edrych ar ol ysgrifau Rhydychain tua'r swyddfa yna. Mae eisiau codi y rhesel arno. Nis gallaf ddirnad He yr oedd ei feddwl yn ehedeg pan yn ceisio rhoddi fy nesgrifiad o ddull yr Archddiacon Watkins mewn argraff; ond os oes Gweno" ganddo, mae yn sicr fod ei feddwl wedi ehedeg i'w mhynwes hoffus hi. Galwodd Rhydychain yn town of many towns," yn lie "town of many towers yn y rhifyn diweddaf. Ond chwareu teg iddo, mae ganddo anhaws- derau dybryd, ac mae'r llawysgrifen yn anil yn aneglur ac after. Os ydyw swyddfa Y LLAN yn cael ei chario ymlaen fel swyddfa y gwyddoin ni am dn'ii, lie mae'r cysodwyr, druain, wrthi hyd dri a phedwar yn y boreu, syndod yw ei fod gystal. Cadwed y darllenydd hyn mewn cof yn y dyfodol. NORTHMAN.

AIL AGORIAD EGLWYS LLANSILIN.

[No title]

Advertising

Ir. Gladstone a'r EgIIYs yn…

Or Aled i'r Gonwy.

BYWOLIAETH YSTRAD MYNACH.

[No title]

ESGOBAETH LLANDAF.

[No title]

CYSEGRIAD EGLWYS NEWYDD.

CYFARFOD CYSTADLEUOL FENMACHNO.

[No title]