Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
22 articles on this Page
CLYDACH.
CLYDACH. LLTTN Y SXJLGWYN. -Gorymdeithiodd aelodau Ysgol Siil yr Eglwys fel arferol ddydd Llun y Sulgwyn. Dechreuwyd gwaith y dydd drwy gynal gwasanaeth byr yn yr Eglwys am ddau o'r gloch, pryd y dadganwyd The Story of the Descent of the Holy Ghost' yn rhagorol. Ar- weiniwyd yr orymdaith drwy y lie gan ein drum and fife band. Dychwelwyd i'r ysgoldy, lie y diwallwyd angenrheidiau pawb. Y mae ein diolchgarwch gwresocaf yn ddyledus i'r athraw- esau ac eraill a wasanaethent wrth y byrddau. Ail lfurfiwyd yr orymdaith, ac aethpwyd i'r Cricket Field, lie y mwynhawyd pob math o chwareuon difyr a diniwed. Wedi i'r plant ddy- chwelyd jgartref, ymgynullodd y rhai mewn oed i'r ysgoldy, lie y mwynhawyd dawns hyd, 11 o'r gloch.
GARW VALLEY.
GARW VALLEY. Nos Wener, Mai 30ain, cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf mewn cysylltiad a'r Gym- deithas Ddirwestol Eglwysig, yn Mission Room, Pontycymer. Yr oedd y cynulliad yn dda ac ystyried byrdra rhybudd o'r cyfarfod. Ethol- wyd y Parch. J. M. Raymond yn gadeirydd, yr hwn a wnaeth sylwadau pwrpasol ar natur a dyben y gymdeithas, a datganodd ei lawenydd fod yr Eglwys yn ymysgwyd ac yn dechreu cy- meryd rhan flaenllaw yn hyrwyddo ac ymledaenu egwyddorion dirwest. Yna aethpwyd ymlaen drwy y rhaglen yn tryfansoddedig o adroddiadau, canu, a dadleuon, &c., oil o natur ddirwestol. Cafwyd anerchiadau byr a phwrpasol gan y Parch. G. Blackwall, Mr. Bramah, prif golofn y Rechabiaid yu y Garw Valley, a Mr. Hoom. bisgwylir y bydd y Parch. Emlyn Jones, ysgrif- enydd y ymdeithas, yn bresenol yn ein cyfar- fod nesaf.
YSTRADYFODWG.
YSTRADYFODWG. MAKWOLAETII MRS. MAKTHA GRIFFITHS, PKNTRK.— Drwg genyf hysbysu am farwolaeth Mrs. Griffiths, yr hon oedd yn agos iawn at giilon ugfiniau lawer o bobl Merthyr a'r Pentre, yn enwedig Eglwyswyr y ddau le, Yr oedd yn dra selog dios yr Eglwys a'i hoffeiriaid; achaffai yr olaf y lie goreu yn y ty pa bryd bynag y deuent i mewn. Unodd a chrefydd yn ieuanc, a pharhaodd yn aelod dichlynaidd i derfyn ei heinioes. Cafodd gystudd maith a chaled, ond dioddefodd yr oil yn hynod dawel a dirwgnach. Nos Luu, yr 2il o'r mis hwn, ehedodd ei henaid i ogoniant. Cafodd gladdedigaeth barchus y dydd Gwener dilynol yn nghladdfa y Cef u, ger Mertliyr, yn ol ei dymuniad. Yr oedd yr ym- adawedig yn (iOain mlwydd oed, Gadawodd briod (Mr. John Griffiths) a saith o blant i alaru ar ei hoi, a'r oil o honynt ymhlith teulu y ffydd. Darllenwyd a gwcddiwyd yn y ty ar ddydd yr angladd gan y Parch. William Lewis, D.G., ficer, a'r Parch. John Rees. curad, ac yn y gladdfa gan y blaenaf yn unig, Heddwch i'w llwch,
HIRWAUN A'R CYLCHOEDD.
HIRWAUN A'R CYLCHOEDD. MASXACH YN HIRWAUN.—Y mae masnach yn edrych yn ei man goreu a mwyaf Ilwyddianus yn y lie hwn, ond a ydyw y gweithwyr yn cadw eu llygaid ar yr amser sydd i ddyfod ? Da fyddai iddynt gofio wedi gwres daw gwlaw. YR EOLWYS.—Un noson, clywsom g6r yr Eglwys yn dadganu un o'i anthemau gorchestol, ac yr oedd y gerddoriaeth yn disgyn ar ein clustiau megis rhywbeth aruchel. Arwcinydd y gan ydyw Mr. W. Edmunds. YR HKOLYDD.—Hawyr, a oes rhyw "simoon" gorllewinol wedi ymweled A'n heolydd y dyddiau hyn ? A ydyw ein water-cart wedi myned tua glanau y m6r, wys ? PENYWAUN.—Cynhelir gwasanaethau yn y lie hwn bob Sul, ac unwaith yn yr wythnos yn gyson. Yn sicr, y mae ein Ficer, y Parch. W. Rhydderch, i'w longyfarch am ei lafur diflino yn y cylchoedd hyn. Cariad yw sylfaen crefydd y croeshoeliedig Iesu. PENDERYN.—Y mae yn dda genym ddweyd fod pethau yn edrych cystal yma hefyd, Buom yn y gwasanaethau y Sul, ac yr oedd yno gynull- iadau da, ond bychan oedd y cyuuliiad yn yr Ysgol Sul. CLADDEPIGAETH.—Ddydd Ian cyn y diweddaf, cludwyd i'w hir gartref, Thomas David Jones, plentyn Mrs, Jones, Llwynmoch, Hirwauo, yn dair blwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Penderyn. Gweinyddwyd ar lan y bedd gan y Rheithor.
RHUTHYN.
RHUTHYN. TAN YN HEOL Y CAST ELL.—NOS Sul, y laf cyfisol, torodd tin allan yn nhy Mr. T. Simon, dilledydd, ond llwyddwyd i'w ddiffodd cyu iddo wneuthur llawer o niwed. BwnDD Y GWAKCHEIDWAID.—Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ddydd Sul, pryd yr oedd yn bre- senol;:—Mr. T. Jones. Plascoch (cadeirydd), Mr. E. 0. V. Lloyd, CadLen Gr: gson Ellis, y Parch. J. F. Reece, Mri. W. Lloyd, S. G. Ellis, W. T. Rouw, T. Jones, T. P. Roberts, Isaac Wynne, Morris Jones, E. Jones, a J. Worthing- ton. Cynygiodd Mr. Ow&n Williams, yn absen- oldeb Mr. Gomer Roberts, Llanarmon, eu bod i basio ponderfyniad yn protestio yn erbyn y Llywodraeth roddi iawn i dafarnwyr. Wedi llawer o siarad, pasiwyd y penderfyniad gyda mwyafrif o ddau. Gan f od y tafarnwyr wedi myned i draul fawr i ddodrefnu eu tai, yn sicr y mae yn ddigon rhesymol iddynt gael iawn os troir hwy allan o'u tai. Gormod o fyned i'r Senedd sydd yn bretenol, ac aughofio y Llyfr bendigedig hwnw sydd yn dangos y ffordd i ddynion i fod yn sobr. Beth pe byddai yr am- aethwyr Radicalaidd yn cael eu troi o'u fferm- ydd, ar ol gwario llawer o'u harian arnynt, licit gael un math o iawn ? Y mae geiriau rhywbeth tebyg i hyn yn yr Hen Lyfr :—" Am hyny, pa betliau bynag oil a ewyllysioch ei wneuthur o ddynion i cliwi, folly gwnewch chwithau iddynt hwy."
TINCERA Y LLYFR GWEDDI.
TINCERA Y LLYFR GWEDDI. At Olygydd Y Llan a'r Dywytogaeth." Syr,—Yr wyf o'm calon yn cydweled ag Eryr Ffraw gyda golwg aryr annoeth- ineb o ymyraeth ag ieithwedd y Llyfr Gweddi. Ac wrth fyned heibio, goddefer i mi ddatgan fy ngofid fod y Confocasiwn, drwy eu hamryf usedd, yn gorfodi lleyg- wyr ffyddlawn a deallus yr Eglwys i wrthsefyll awdurdod y maent yn dy- muno ei barchu. Fel rheol-rhwydd addefaf fod i'r rheol ei heithriadau-ond, fel rheol, nid i blith yr offeiriaid yr awn i chwilio am Gymraeg goeth a phur y dyddiau hyn ac nid wyf yn petruso dweyd y bydd i weithred gibddall y Gymanfa Eglwysig yn penodi pwyllgor i glytio yr hen Lyfr sydd mor gysegredig genym gynyrchu mwy o wrthwynebiad eiddigeddus ymhlith aelodau lleyg yr Eglwys nag a ddychymygodd y bonedd- igion sydd yn proffesu ein cynrychioli yn y Confocasiwn. A chyda'ch caniatad, rhoddaf yma rai resymau dros y gwrth- wynebiad hwn 1. Iciith Eglwysig ydyw iaith y Llyfr Gweddi.—Nid oes nemawr un o'i brif- eiriau nad oes rhyw athrawiaeth bwysig, neu agwedd benodol o athrawiaeth ynglyn ag ef. Ac y mae yr ystyr a rydd y Llyfr Gweddi i'r geiriau hyn yn hanfodol wahanol i'r ystyr a roddir gan y byd oddi- allan i'r un geiriau. Er engraifft Yna y (lyivedii- &c.; "ein diitvioliif a'n gras- usaf Frenhines;" 11 eu baich sydd an- oddefadwy" iachol Ysbryd dy ras fel, trwy dy ddawnus drugm-ecld, y byddom ryddion," &c.; "nifer dy ethol- edigion;" "gan fod wedi ein had- genhedlu a'm corph y'th anrhydedd- af." O'r geiriau sydd wedi eu hitaleiddio, -ac y mae yr hen Lyfr anwyl yn dry- frith o'r cyfryw,—nid oes un nad oes iddo ystyr dduwinyddol, ac, mewn canlyniad, nis gellir cyfnewid yr un o honynt am air mwy sathredig heb amddifadu y Llyfr o'i brif ogoniant, ei wneyd yn hollol ddi- werth fel Cyffes ein Sancteiddiolaf Ffydd, a'i ddarostwng i'r un gwastadedj a breuddwyd John Bunyan. Yn awr, os ydyw y gosodiad hwn yn wirionedd, y mae cyfrifoldeb ofnadwy yn gorwedd wrth ddrws y sawl a ymyro a'r Llyfr Gweddi. Beth ydyw tystiolaeth hanesyddiaeth ? Yn y 13eg a'r 14eg gan- rif, pan oedd y Schoolmen yn ymegnio gorchuddio purdeb y gwirionedd a haen drwchus o philosophyddiaeth baganaidd, beth fuasai tynged y werin annysgedig oni bai am yr iaith Eglwysig, a'r hon yr oeddynt mor gynefin ? Canlyniad yr ymgerniad ymhlith Rhyddfeddylwyr y cyfnod hwnw fu, fel y dywed un ysgrif- enydd, "ereu anhawsderau, liioaogi cyf- eiliornadau, a chymylu y gwirionedd;" ac oni bai fod Erthyglau y Ffydd yn guddiedig yn iaith y Gwasanaeth, ni fuasai gan yr anwybodus gilfach a glan yn ei gyraedd o gwbl. Yn ddiweddarach, edrychwn ar y tair blvnedd ar dcleg y bu Vavasor Powell, ac eraill o ddyhirod Cromwell, yn ceisio gwneyd Annibyn- iaeth yn enwad sefydledig y wlad. Yn ystocl y cyfnod hwn,—pan drowyd allan o'u bywoliaethau 8,000 o offeiriaid, pan gauwyd i fyny yr Eglwysi (cynifer a 47 yn Maldwyn yn unig), pan oedd ein cyd- wladwyr heb wasanaeth crefyddol o dde- chreu y flwyddyn i'w diwedd, heb gysur gweinidogaetliol yn eu hafiechyd, heb adgyfnerthiad y Sacramentau Sanctaidd, ac heb gymaint a chladdedigaeth Grist- ionogol,—beth ond iaith Eglwysig y Llyfr Gweddi a gadwodd y teimlad cref- yddol rhag llwyr fferti yn y wlad ? Beth oedd un o brif amcanion y Puritaniaid wyth mlynedd yn ddiweddarach—yn nghynhadledd Savoy-ond ceisio difodi yr iaith Eglwysig hon, oherwydd eu bod yn ymsyniol o'i dylanwad ar y wlad ? Haner can' mlynedd yn ddiweddarach eto, cawn y duwiol Griffith Jones, o Lan- ddowror, yn ymroddi i ddyfnhau ysbryd- olrwydd ei gydwladwyr, ond pa fodd y gwnaeth hyny ? Nid drwy ymyraeth ag ieithwedd y Llyfr Gweddi, ac felly wanhau ei ddylanwad ar y wlad, ond drwy sefydlu ysgolion dyddiol yma ac acw, lie yr adgyfnerthid y dylanwad hwnw trwy ddysgu ac egluro gwahanol ranau y Llyfr Gweddi. Ac, yn ddiwedd- arach fyth, beth, mewn gwirionedd, sydd wrth wraidd y dirywiad galarus sydd mor amlwg ymhlith yr enwadau yn y dyddiau hyn ? Ni phetrusaf ddweyd mai e -igeuluso yr iaith dduwinyddol oedd yn amdoi eu daliadau crefvddol. Cvm- rwn y Methodistiaid Calfinaidd, fel engraifft. Flynyddau yn ol, yr oedd eu Cyffes Ffydd yn cael ei ystyried gan- ddjnt fel rheol buchedd ac ymarwedd- iad. Yn yr amser hwnw yr oedd y Sect yn gorph crefyddol. Ond pan aethant i'w glytio, drwy dori ymaith y seithfed rlieol, collodd yr aelodau eu hymddiried ynddo, a daethant i'w esgeuluso a'i ,ddirmygu. Heddyw, y mae yn llythyren .farw-hollol- farw, ysbrydolrwydd wedi ffarwelio a'r cyfundeb, fel cyfundeb, a ipholiticiaeth gynenllyd wedi cymeryd ei 5le. Gresyn nad ellid argraphu yr hyn a ftldywed hanesyddiaeth, yn y cysylltiad 1hwn, ar feddyliau ein harweinwyr Eg- lwysig. (Fw barium).
[No title]
Y mae yna gwsg esmwyth ar ddiwedd ffordd hirfaith. Y pellder Ile-af o Sandy Hook (U.D.A.) i Lerpwl ydyw 3,000 knots. Y mae tuedd mewn dynion i addoli yr hyn na ddeallant-werchcd er engraiflt. Yr Archddiacon Williams a ddarllenodd y gwasanaetli angladdol uwch ben bedd Syr 1 0 Walter Scott.
GALLTMELYD.
GALLTMELYD. Ddydd Ian diweddaf, cynhaliwyd gwasan- aetliau blynyddol yr Eglwys uchod. Dechreu- wyd nos Fercher, pryd y pregethwyd gan y Parch. T. Lloyd, Llanelwy. Am 8, boreu ddydd lau, gweinyddwyd y Cymun gan y Ficer i nifer liosog. Am 3, cafwyd gwasanaeth Seisnig, a'r pregethwr ydoedd y Parch. S. Gladstone, Hawarden. Am 7, cafwyd gwasanaeth Cym- reig, pryd y pregethwyd gan y Tra Pharchedig Ddeon Llanelwy. Yr oedd y cynulliadau yn lliosog, y pregethau yn bwrpasol, a'r cann yn rhagorol. Yr oedd y cor yn eu gwenwisgoedd, a chafwyd emynau gorymdeithiol. Yr oedd yr adeilad wedi ei haddurno yn chwaethus gan Mrs. Williams, Ficerdy, ac eraill. Yr oedd y casgliadau at ddiddyledu yr Eglwys, ar ba un y mae yn agos i ilOO yn aros.
LLANGADWALA.DR, HODORGAN,…
LLANGADWALA.DR, HODORGAN, MON. Cynhaliwyd cyn-erdd yn Ysgoldy Genedl- a' thol Llangadwaladr, nos Wener, y 30ain cyn- fisol, o dan lywyddiaeth y Parch. David Thomas, rheithor y plwyf, nc arweinyddiaeth Mr. David Williams, Trefi. Gwasanaethodd Miss Thomas, Trefdraeth a Mr. Thomas (ieu.), Llythyrdy, Llangefni, fel cyfeilwyr. Cafwyd gwasanaeth Miss Thomas a Miss Williams, Trefdraeth Eos Elidir, a Mr. T. H. Williams, St. Ann's, Bethesda Mri. Price a Hughes, Llangefni; Mr. Thomas, Trefdraeth; a Mr. HÏchard Williams, 1 Jangadwaladr. Yr oedd pawb yn eu hwyliau goreu, a chafwyd cyngerdd o radd uchel. Yr oedd yn dda genym weled cynifer yn bresenol. Yr oedd yr elw yn myned i gynorthwyo bachgen ieuhnc ag oedd CIY wedi bod mewn gwaeledd a nychdod mawr y gwanwyn diweddaf. Diolchwyd yn gynes i bawb am y rhan a gymerasant yn y cyngerdd gan y Rheithor, yr hyn a ategwyd gan Mr. D. Williams yn ddoniol iawn, fel arfer.
LLANGEITHO.
LLANGEITHO. Ddydd Sadwrn diweddaf, cymerodd eladded- igaeth Mrs. Morgans, Aeron Park, le yn myn- went henafol Llangeitho. Yr oedd Mrs. Morgans yn ferch i'r diweddar Barch. S. Jones, Cefnfaes, hen affeiriad tra adnabyddus yn yr ardaloedd hyn yn yr oes o'r blaen. Yr oedd hi yn henaf o saith o blant, a'r hyn sydd yn dra hynod ynglyn a'r saith hyn, mai yr ieuengaf a fu o honynt a fu farw gyntaf, ac felly y bu hyd yr olaf, gydag un eithriad. Yr oedd Mrs. Morgans yn byw mewn amgylchiadau cysurus, a magodd lu o blant (er wedi daddu ei phriod er's rhyw ddeg-ar-hugain o flynyddau), pa rai sydd erbyn hyn wedi tyfu i fyny, priodi, ac yn berchenogion ar rai o brif ffermydd y cymydog- aethau. Gweinyddwyd wrth y ty gan y Parchn. D. Jones a D. Worthington, a pliregethodd yr olaf y bregeth an.-laddol boreu Sul diweddaf. Cafodd Mrs. Morgans un o'r eladdedigaetliau mwyaf anrhydeddus a'r lliosocaf a welwyd yn yr ardaloedd hyn er's blynyddau, ac ymhlith y dorf gwelsom y Parchn. E. Williams, Nantcwn- Ile, a Z. Davies, Blaenpenal. Yroeddy fonedd- iges wedi cyraedd yr oedran teg o bedwar ugain a chwech. ac yn un o aelodau lienaf Eglwys Llaii,(;eitlio. G oheby(ld.
CWMAFON.
CWMAFON. CVFLAVYXTAD TVSTKH.—Nos Ian cyn y di- weddaf, yn Ysgoldy y Bechgyn, cynhaIiwyd cyfarfod i'r dyben o ffarwelio a chylfvvyno tysteb i Miss Jane Waters, ar ei hymadawiad i'r America. Cadeiriwyd ^an y Parch. T. Jenkins, L.Th. Adroddwyd a dadganwyd gan amryw o aelodau yr Ysgol Snl Gymreig. Darfu i Mrs. Havard, yr organyddes, gyflwyno y dysteb i Miss Waters, sef oriawr arian hardd, ae ami yr oedd yn gerfiedig —" Presented to Miss Jane Water by her Church friends, at the Parish Church, Cwmavon, May, 1890." Yr oedd Miss Waters wedi bod yn ffyddlon iawn yn eglwys y plwyf hwn am flynyddau, ac yn wastad yn y cyfavfodydd gweddi wytlmosol. Hefyd, yr oedd yn aelod ffyddlon iawn o'r cor. Colled ddirfawr i'r Eglwys yw colli rhai o'r fath hyn. Yr oedd wedi cael ei bendithio a rhieni duwiol iawn, y rh)u a ddvgasant eu plant i fyny yu ofn yr Arglvrydd. Mae llawer heddyw yn cofiq mor ffyddlawn ydoedd John Waters yn y gwasan aethau ac yn yr Y s1;ûl Sul, ac hefyd mor telus oedd ei weddiau yn y cyfarfodydd gweddi. Wedi i ychydig flynyddau fyned iieibio, collodd ei mam anwyl a hoff, a gadawyd hi a'i brodyr a'i chwiorydd yn amddifaid ond yn ngwyneb yr holl ofidiau a'r anhawsderau yna, penderfynodd Miss Waters wneyd yr hyn a allai i lanw lie ei rhieni duwiol, ac y mae wedi llwyddo yn rhyfedd i ddwyn ei brodyr a'i chwiorydd i fyny yn Iàn, trwsiadus, a chrefyddol. Duw ei rhieni a fyddo gyda hi a'i brodyr a'i chwiorydd. Gobeithio y caiff fordaith hapus. Ddydd Sul y Sulgwyn, am 8 o'r gloch, gwein- yddwyd y Cymun Bendigaid, yn eglwys y plwyf hwn, gan y Parch. Ganon Roberts, M.A., a'r Parch. T. Jenkins, L.Th. Am 10, yn eglwys y plwyf, darfu i'r Canon Roberts ddarllen y gwas- anaeth a phregethu yn Gymraeg. Am 3, rhodd- old y Canon Roberts anerchiad i Ysgolion Sul perthynol i'r Eglwys yn y ddwy iaith, ac am 6.30, pregethodd yn Saesneg yn Eclwys All Saints.Iohi,t Afan Davies.
DINBYCH A'R CYLCHOEDD.
DINBYCH A'R CYLCHOEDD. LLWYBDIANT. Yn arddangosfa flynyddol Southport ac Ormskirk, a gynhaliwyd yr wyth- nos o'r blaen, da genym ddeall fod y brif wobr am wneyd ymenyn wedi ei henill gan Miss Florence Bowdage, Cotton Hall, ger y drefhon. Iddi hi hefyd y dyfarnwyd medal arian y gym- deithas, Miie y llwyddiant hwn yn wir fodd- haol, ac yn adlewyrchu clod ac anrhydedd nid bychan ar Miss Bowdage, yn fwy felly pan ys tyriwn ei bod wedi rhagori ar yfoneddiges a en- 0 illodd yn Islington. MARWOLAETH.—Gyda galar y cofnodwn am farwolaeth un o fasnachwyr hynaf a pharchusaf ein tref, sef Mr. John Williams, crydd, Portland Place, yr hyn a gymerodd le ddydd Iau, yn 68 mlwydd oed, ar ol cystudd maith. Yr oedd. yr ymadawedig yn Geidwadwr trwyadl, ac yn aelod gyda'r Wesleyaid. CWYMP oDuiwKTii RAS.—Dyma bwnc ag y mae 114wpr o ddadleu wedi bod arno, Ond yn awr, wedi ymddangosiad Byddin yr Iachawdwr- iaeth yn ein gwlad, gosodir yr athrawiaeth uwch- law amheuaeth. At ganoedd o engreifftian a gafwyd eisioes, cawsom un arall yn Ninbych yn ddiweddar. Oddeutu dechreu yr wythnos, clywid swn un Elizabeth Thomas am bellder o ffordd yn tystio ei chymeradwyaeth gyda Duw, a'i bod yn gadwedig, Ond Ow dyna lais yr un chwaer i'w glywed eto, ddydd Gwenor, yn rhegi ac yn melldithio ynadon Dinbych am ei gorfodi i dalu I Is. 6c. am yfedgormod o gwrw. MARWOLAE TH Y PARCH. R. H, HOWARD.— Ddydd Sadwrn, yr 31ain cynfisol, bu farw y Parch. R H. Howard. Wigfair Hall, Llanelwy, yn 76 mlwydd oed, Yr oedd yn ynad heddwch dros siroedd Fflint a Dinbych. Claddwyd ei ran farwol yn mynwent St. Mair, Cefn Meir- iadog, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. E. J. Evans, ficer y plwyf, a Dan Edwards, Bala, cyn- ficer y Cefn.
LLANUWCHLLYN.
LLANUWCHLLYN. GWEITHREDOENN DIGYWILYUD.—Yr oedd yn y plwyf hwn Ysgol Genedlaethol hyd y nawfed o'r mis hwn. Adeiladwyd yr ysgoldy gan y di- weddar foneddwr Syr Watkin Williams Wynn, a noddwyd hi gan y Lady Wynn, fel y byddai yn gyffredin yn cael ei galw yn Ysgol Lady Wynn. Tua dwy flynedd ar hugain yn ol, ad- eiladwyd Ysgoldy Frytanaidd yn wrthwynebol i ysgol y foneddiges gan gynhyrfwyr Anghyd- ffuifiol. Cynhaliwyd eyfarfodydd cyhoeddus y pryd hwn, a thaflwyd pob math o sarhad ac an- fri ar y boneddwr o Wynn stay am ei garedig- rwydd, a dywedodd un gweinidog Annibynol y buasai yn well ganddo ef fyned a'i blant dros yr Atlantic na'u hanfon i Ys^ol Lady Wynn. Mr. Blaakwell oedd yr j'sgolleistr yma y pryd liwnw. Ysgolfeistr da oedd Mr. Blackwell, ac felly, af- lwyddianus iawn fu yr Ys^ol Frytanaidd tra y bu ef yma. Ar ol ymadawial Mr. Blackwell, bu arolygwyr yr Ysgol Genedlaethol yn af- lwyddianus iawn yn newisiad ysgolfeistriaid, yr hyn a barodd lwyddiant mawr i'r ygol wrth. wynebol. Ond cydrhwng 14 a 15 mlynedd yn ol, daeth Mr. W. S. Hoberts yma, dyn genedigol o Ruthyo. Byth er hyny llwyddodd yr Ysgol Genedlaethol, trwy fod Mr. Roberts yn addysg- wr da, yn cadw rheol gampus, a hyny mewn dull caredig. Teg ydyw i ni ddweyd mai iddo ef y daeth yr Excellent Merit Grant" gyntaf yn Mhenllyn ac Edeiruion ac y mae y plant sydd wedi bod dan ei ofal wedi pasio dwy ar- lioliad yn gampus bob blwyddyn, sef yr un ysgrythyrol, a'r un elfenol. Chwe' biynedd yn ol, bu farw y teyrngarol foneddwr o Wynnstay, a daeth nai iddo yn berclienog o'r ystad. Yna dechreuodd cyfrjewidiadau gymeryd lie. Caf- wyd Pen-gorijchwyliwr newydd, ac oddeutu blwyddyn yn ol, cafwyd Is-orucbwyliwr newydd i Lanuwchllyu. Yuj.ddengys fod y rhai an foddog sydd yma yn gwylio y symudiadau hyn yn ofalus iawn, ac yn falcli o'r goruch- wylwyr newyddion, am na wyddent hwy na Syr Watkin mo'u banes. Dealler mai sypyn o Radicaliaid penboeth yw y rhai hyn, yn erbyn tir-arglwyddi a brenliiniaeth, &c. Ond un noson liewidiasant eu dillad, a chanasaut u Duw gadwo'r Frenhines," yn yr Ysgol Frytanaidd, nes syfrdanu y goruchwylwyr newyddion, a pheri iddynt feddwl mai dyna y sypyn oedd yn cadw Ceidwadaetli Llanuwchllyn i fyny. Trwy eu dicliellion, llwyddasant i uno y ddwy ysgol, ac i gadw arholwr y ddeoniaetli allan o Lan- uwchllyu, a buont yn ddigon medrus i droi Mr. Roberts, yr ysgolfeistr, ymaith, yr hwn oedd eu prif elyn, am ei fod wedi enill y plant i'r Ysgol Genedlaethol, ac hefyd yn organydd yr Eglwys, yn athraw yn yr Ysgol Sul, a'i deulu yn Eglwys- wyr. Dywedodd un o honynt wrthyf, yr wyth- nos hon, fod tyn„ed Mr Roberts wedi cael ei phenderfynu er's tua blwyddyn yn ol. Teilwng o sylw y darlienydd yn y fan hon ydyw, fod dros ddeugain wedi anfon eu cais am y lie, a bod y Radicaliaid hyn wedi dewis Mr. Roberts yn un o'r tri blaenaf, er mwyn ei gadw cyhyd ag y gallent i ddisgwyl am y lie, yr hyn a wnaeth golled fawr iddo. With gwrs, y ddau arall a ddewisasant, ond digwyddodd fod cyfaill iddynt yma, a dywedodd hwnw dipyn o hanes y Radicaliaid wrthynt, yr hyn a barodd iddynt ffarwelio a Llanuwchllyn am byth. Cyhoedd- wyd mewn papyr dimai Radicalaidd sydd yn cael ei gyhoeddi yn y Bala, iod eisiau ysgolf istr yn Llauuwchllyn. Beth fuasai yr hen foneddwr o Wynnstay yn ei ddweyd am hyn, tybed ? A ydyw y boneddwr ieuanc yn gwybod hyn ? Credaf fod yn llawn bryd iddo gael gwybod hanes y giwaid hyn-y maent wedi taflu y plwyf hwn i'r annhrefn mwyaf-yr Ysgoldy Cenedl- aethol dan glo, a'r Ysgoldy Brutanaidd wedi bod felly hyd ddydd Mawrth diweddaf, pan yr agor- wyd hi Lan un Mr. Bowen. Os agorir yr hen Y sgel Genedlaethol, sicrheir ni mai Annibynwr fydd yno. Beth fydd yn cymeryd lie nesaf yn Llanuwchllyn, tybed ? Ai rhanu y tir ? Syr Watkin yw ei berchenog yn bresenol. Yn ddiweddar, pan ddaeth y plwyfolion i wybod am uniad yr ysgolion, anfonasant ddeiseb at Syr Watkin, wedi ei llawnodi gan rieni a gwarcheid- waid naw u^ain o blant, i ofyn iddo am i'r ysgolion garl bod fel o'r blaen ond erbyn hyn yr oedd yn rhy ddiweddar-yr oedd pob peth wedi ei orphen. Cofier mai ychydig dros ddau gant o blant sydd yn yr ardal. TYSTEB I MR. IltOBERTS.-Casl,Iwyd y sw.m o E 18 10s. 8c. mewn byr amser tuag at roddi tysteb i Mr. Roberts, fel cydnabyddiaeth iddo am ei lafur diflino gyda'r ysgol ddyddiol, yr Ysgol Sul, a'r Eglwys. Ymgynullodd lliaws mawr i'r Ysgoldy Genedlaethol pan gyflwynwyd y dysteb, sef marble timepiece hardd, a phwrs yn cynwys 9 15 10s. 8c., yr hyn a wnaed gan Mr E. Watkin, un o'r wardeuiaid. Diolchodd Mr. Roberts i bawb gyda theimladau drylliog. Cafwyd anerchiadau pwrpasol gan amryw, a chwareuwyd yn soniarus gan y beindorf, Da genyf hysbysu fod Mr. Koberts wedi cael Ysgol Genedlaethol eto yn Llangristiolus, Sir F611, a deohreua ar ei ddyledswyddau yn ystod y mis hwn. Gobeithio y gwnaiff pobl Llangristiolus yn fawr o hono. Mae eu plant hwy yu llawer j mwy ffodus na phlant Llanuwchllyn. Mawr Iwyddiant i Mr. Roberts yn ei Ie newydd ydyw dymuniad calon-Aelod o'r Eglwys.
BARGOED, GELLIGAER.
BARGOED, GELLIGAER. Cyxo'RAIU Y FIUALLKN,—Nos Iau, y 5ed o'r mis hwn, ydoedd yr amser penodedig i gynal cyf arf od agoriadol y 4 Maesyrhyddid Habitation' yn y lie hwn. Yr oedd yr ystafell.wedi ei har- wisgo yn chwaethus erbyn yr amgylchiad o dan gyfarwyddyd Mr. Sandford Kent-Jones,, yr ysgrifenyda. Fel y mae yn hysbys i'r sawl sydd yn perthyn i'r Cyngrair, mae y cyfarfodydd yn gyffredinol yn rhanol yn adloniadolac yn wleid- yddol. Disgwylid y Miiwriad Bond i gymeryd gofal y rhan wleidyddol, ac i egluro egwyddor- ion Cyngrair y Fiiallen, ond yn anffodus meth- odd a bod yn bresenol oherwydd afiichyd trwm. Nid ei absenoldeb ef yn unig a barodd siomiant i'r rhai oeddynt wedi dyfod ynghyd, eithrlludd- iwyd Mrs. Lindsay, y Ruling Councillor, gan amgylchiadau teuluol i fod yn bresenol. Caf- wyd anerchiad yn Gymraeg gan Mr. Thomas Jones (Tirphil), ac yn yr'" iaith fain gan Mr. S, Kent-Jones. Bhoddodd y rhan ddigrifol foddlonrwydd mawr i bawb oedd yn bresenol. Llywyddwyd pan Mr, H, P, D. Phillips, Gwerth- orior Place, Cymerwyd rhan gan Mrs. Phillips, a Miss M. Jones, Deri, yr hon a foddlonodd y gynulleidfa yn fawr iawn yn ei chaneuon. Tyn- odd Mr. Samuel Carter y ty am ei ben wrth cyanu, I can't forget, dear Martha,' ac felly y gwnaeth Mr. William Morgan drwy ei ddadgan- iad o '¡Yes indeed to goodness,' yn gystal a thrwy ei chwareu meistrolaidd ar y delynv Can daraw- iadol ydoedd y 4 British Lion,' yr hon a ganwyd gan Mr, Tom James, Dechreuwyd drwy ganu 4 Hen Wlad fy Nhadau,' Mr. Myddfai Jones yn canu yr unawd, a therfynwyd drwy ganu Duw gadwo y FrE nhine; ETHOLIAD,—Allan o bump o ymgeiswyr, Mr, William Protheroe a etliolwyd, ddydd Sad- wrn diweddaf, i gario glo i'r tai o'r orsaf, Carwn gael un cant ar hugain ymhob tuneU ganddo, Gohebydd,
LLANBEDR.
LLANBEDR. ETHOLTAD Y BWHDD YSGOL.—Dyma ydoedd prif bwnc y dydd yn y dref yr wythnos ddi- weddaf. Cyme rid dyddordeb mwy nag arferol yn yr ymdrech y tro yma, Cynwysai yr hen fwrdd dri Eglwyswr, a dau Ymneillduwr, ac i'r olwg allanol, yr oedd pethau yn myned ymlaen yn eithaf hwylus. Os oedd bai o gwbl ar ys- gwyddau y mwyafrif, rhoddi i fyny eu barn bersonol rhag gwneyd cam a theimladau tyner eu cyd-aelodau, ydoedd hwnw. Fel engraifft o'r ysbryd hwn, deallwn i'r Ficer ymfoddloni i leidio myned ei hunan i roddi addysg grefyddol yn yr ysgol, a gadael y gorchwyl yn gyfangwbl i'r ysgolfeistr. Dyma'r ysbryd ymha un yr ym- ddygai'r mwyafrif Eglwysig ynglyn a, phethau dadleuol. Ond er hyn oll, pan ddaeth adeg yr etholiad, mynai yr Ymneillduwyr daflu allan y Ficer, a rhoddi ergyd i'r Eglwys. Nid ydym yn rhyfeddu at hyn. Fel yna y gwelsom hi mewn maiiau eraill. Os rhoddir modfedd iddynt, mynant lathen. Ac fel rheol, gwell i'r Eg- lwyswr sefyll at ei egwyddorion ei hunan, ac ymladd o'u plaid, yn hytrach nag anwybyddu un o honynt er enill serch Ymneillduwyr politicaidd y dyddiau presenol. Dyma brawf arall o hyn. Anaml y mae neb wedi dangos ysbryd mwy hynaws, ac wedi ymdrechu mwy er cydweithredu a'r Sectau Anghydffiirfiol na Ficer Llanbedr, ac eto, pe gallent, buasent yn ei droi allan o'r Bwrdd Ysgol gyda hyfrydweh. Daeth tri phregethwr i'r maes—pregethwr y 'Senters, pregethwr y Wesleyaid, a phregethwr y Methodistiaid Calfinaidd-yn erbyn y Ficer, y Parch. Robert Williams, Proffeswr Cymraeg yn y Coleg, a plr. John Fowden. Gosodwyd pob gewin ar waith, a daeth ymron bob ethol- wr. o bell ac agos, i'r pol. Nos Sadwrn, oddeutu deg o'r gloch, gwnaed y canlyniad yn hysbys gan y Maer, ac fel y canlyn y safai'r ymgeiswyr :— Parch. Daniel Jones, y Ficer. 495 „ Evan Evans (A.) 409 Mr. John Fowden (E.) 391 Proffeswr R. Williams (E.) 378 Parch. T. J. Prichard (W.) 335 „ Joseph Jones (M.) 324 Felly; etholwyd tri Eglwyswr a dau Ymneilldu- wr eto, a da genym weled fod y Ficer yn sefyll ymhell ar y blaen. Bydd hyn yn galondid iddo i gyflawni ei waith, ac i weled fod y sylw priodol yn cael ei dalu i addysg grefyddol y plant yn yr ysgolion dyddiol dan ofal y Bwrdd.
RHYL.
RHYL. Nos Fawrth, Mehefin 3ydd, yn yr Ysgoldy Genedlaethol, cynhaliwyd cyfarfod athrawon Ysgolion Sul Eglwys y Drindod, St. Thomas, St. David's, Vale Road, a St. John's, dan lyw- yddiaeth y Parch. Canon Howell Evans, pryd y penderfynwyd fod plant yr ysgolion uchod i gael eu hegwyddori ar y Sul cyntaf o bob mis yn Eglwys St. Thomas, am 3.30 yn y prydnawn, y Cymry, os dymunant, i gael eu hegwyddori yn yr iaith Gymraeg. Y mae yn sicr genym fod y plant ag sydd yn cael eu dysgu yn yr iaith Gymraeg yn Ysgolion Sul Eglwys y Drin- dod, a St. David's, Vale Road, mor hyddysg yn yr iaith Seisnig, os nad yn ei deall yn well na'r iaith Gymraeg. Er hyny, credwn mai nid an- fuddiol fyddai caol y cyfryw ynghyd er eu heg- wyddori yn egwyddorion pur yr Eglwys drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Esgeulusdod o hyn ydyw yr achos fod plant teuluoedd Cymreig yn fwy ffafriol i YsgoI Sul Seisnig nagi un Gym- reig. Credwn y byddai gwneyd hyn yn Ilesol iawn i'r Ysgolion Sul Cymreig. Y CYXGOR PLWYEOL.—Nodasom yr wythnos ddiweddaf fod y Cyngor Plwyfol wedi dewis tri o foneddigion i ymweled A'r Dirprwywyr ar bwnc y fynwent, ond wrth gwrs yr oedd yn rliaid cael caniatad y senedd drefol mewn trefn i'r cyfryw ddirprwyaeth gael derbyniad. Er nad oes ond lie i 16 o feddau newyddion yn y fynwent bresenol, ac hefyd fod pwysigrwydd amcan yr ymweliad wedi ei wneyd yn hysbys, eto cawn fod tri o aelodau y bwrdd yn dra an* foddog i roddi derbyniad i'r boneddigion hyn. Beth ydoedd eu rheswm dros hyn Rydd ddir- gelwch, ond amlwg ydyw fod ysbryd ihagfarn plaid yn dylanwadu yn gryf arnynt. Y mae yn sicr genym fod yr ysbryd boneddigaidd, cariad- lawn, rhyddfrydig, a Christionogol a amlygwyd gan y Parch. Oanon Howell Evans pan yn gosod achos yr Eglwyswyr ger eu bron, mewn per- thynas i'r fynwent newydd, yn ddigonol i argy- hoeddi y tri wyr hyn o resymoldcb penderfyn- iad y Cyngor Plwyfol. Os ydyw penboethni eithafol yn meddiann rhai o'r Dirprwywyr ar bwnc y fynwent, y mae yn dda genym feddwl fod Eglwyswyr ac Ymneillduwyr yn dra phen- derfynol i wyJio symudiadau y cyfryw, ac i wrthweithio eu dylanwad drwy ysbryd pur yr Efengyl.-Ab Trebor.
METHDALIADAU
METHDALIADAU Yn unol a Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadilu am yr wythnos ya diweddu Mehefin 7fed, fel y canlyn 1890 1889 1888 Builders, & Building Materials 8 20 19 Chemists and Drysalters. 2 2 3 China, Glass, & Earthenware 2 1 2 Confectionery. Toys, &c. 1. 4. 5 Corn, Coals, Minerals 4 3 3 Drapery, Clothing Trades 18 21 18 Farmers. 10. 4 3 Furniture, Upholstery 1 8 2 Horses, Vehicles — 1 2 Jewellery, Watches 4 2 2 Leather 11 10 13 Metals 3 6 3 Paper, Printing, &c 2. 2. 3 Provisions. 24 37 38 Wines, Spirits, beer, &c 9 11 16 Miscellaneous 24 32 21 123 164 152
MARCHNADOEDD,
MARCHNADOEDD, GWRECSAM, IAu.- Gweuith, 5s Oc i 5s 3c am 75 pwys liaidd, 5s Go i 5s 9c; ceirch, 3s Oc i 3s 6c; ffa, 5s 3c i 5s 6c; ymenyn, Is Oc y pwys; wyau, 14 i 15 am swllt; ieir, 3s 6c y owpl; hwyaid, 4s Oc y ewpl; cig eidion, He i 10c y pwys; cig myliaren, 7c i 9c y pwys pore, 6te i 7c y pwys cig oen, Is. Oc i Is Ie y pwys cig Ho, 9c y pwys. TRALLWM, DDYDD LLUN.—Gwenith, 4s 9c i 5s am 75 pwys melyn, 4s 9c i 5s Oc am 75 pwys ceirch, 14& Oc i 15s. ELLESMERE, DYJUJ MAWRTH —Gwenitli gwyn, 5s 2c i 5s 4c am 75 pwys melyn, 4s 9c i 5s Oc am 75 pwys liaidd, 4s 6c i 5s Oc ceirch, 3s 3c i 3s 9c ymenyn, Is Oc y pwys wyau, 14 i 16 am swllt ieir, 4s 6c y ewpl cig eidion, 8c i 10c y pwys cig myliaren, 7c i 9c y pwys pore, ii-Le i 7c y pwys cig oen, Is 2c i Is 3c y 2 pwys cig llo, 9c y pwys. SALFORD, DYIm MA WRTH.-Cig eidiou, 51 c i 7te y pwys defaid, 7te i 8c y pwys; cig oen, 11e i Ute y pwys cig llo, 5c i 7c y pwys cig mocli goren, 8s 6c ail, 7s 5c trydydd, 7s 4c i 7s 9c am 20 pwys. WYDDGRUG, DYUD MERCHER.—Gwenitli melyn, 10s i 10s 6c yr liobed; liaidd, 9s Oc i 10s Oc yr liobed; ceirch, Cs Oc i 6s 6c yr hobed; ymenyn, 101c y pwys; wyau, 16 i 18 am Is; ieir, 4s 6c y cwpl; hwyaid, 4s 6c y cwpl; cig eidion, 8c i 10c y pwys cig mybaren, 6c i 8tc y pwys pore, 6c i 7c y pwys; cig oen, Is 2c i Is 3c y pwys cig llo, 8c y pwys. WHITCHURCH, GWEN Fn.-Gwenith, 4s 6c i 5s Oc am 75 pwys ceirch, 2s,9c i 3s 6c am 50 pwys. DREFNEWYDD, DDYDD MAWRTH. — Gwenith. 13s 6c i 158 am 240 pwys haidd 4s 6c i 5s Oc am 70 pwys ceirch, 14s 6c i 16s 3c am 220 pwys. DINBYCH, DYDD MERCHER. Ymenyn, 10c y pwys; wyau, 15 i 18 am Is; ieir, 3s 6c y cwpl; hwyaid, 4s6c y cwpl; cig eidion, 9to i 10c y pwys; cig myharen, 9c i 10c y pwys; pore, 5c i 7c y pwys cig oen, Is 2c i Is 3c y pwys cig llo, 9c y pwys. RHUTHYN, DYDD LLUN.—Ymenyn, Is 0c y pwys; wyau, 15 i 18 am Is; ieir, 4s 6c y cwpl; hwyaid, 4s 6c ycwpl; cig eidion, 7c i 10c y 0 pwys cig myharen, 9c i Oc y pwys pore, 5c i 6t y pwys cig oen, Is Oc i Is Ie y pwys cig 110, 8tc y pwys. LERPWL, DDYDD LLUN.Cig eidion oreu, t, 11 7 e y pwys ail oreu, 6c trydydd oreu, 5c cig myharen goreu, 9ie y pwys ail oreu, 8c trydydd oren, 3to; cig oen, Is y pwys. CREWE, DDYfm LLU.i.-Cig eidion, 6c i üJi y pwys cig llo, 7c i 7tc y pwys cig moch, 0 11 8s 6c i 8s 9c yr 20 pwys gwartheg a heffrod, £ lli £ 21yrun. AMWYTHIG, SADWRN.—Gwenith gwyn, 4s 10c i 5s 2c am 75 pwys melyn. 4s 8c i 5s Oc am 70 pwys; liaidd, 4s 00 i 5s Oc am 70 pwys; ceirch, 14s 6c i 17s 6c am 225 pwys; pys, 13s i 14s; na., 14s 6c i 15s 6c am 243 pwys. CROESOSWALLT, DDYDD MERCHER.— Gwenith gwyn, 5s i 5s 2c am 75 pwys melyn, 4s 9c i 5s am 75 pwys liaidd, -Is 4c i 5c am 70 pwys ceirch, 15s 6c i 17s 6c am 225 pwys pys, 13s 60 i 15s am 225 pwys ffa, 15s i 16s ymenyn, Is y pwys wyau, 16 i 18 am Is ieir, 4s 6c y ewpl; liwyaid, 4s 6c y cwpl; cig eidioti, 7c i 9c y pwys cig myharen 6c i 8c y pwys pore, 6c i 7c y pwys, cig oen, Is 2c i Is 3c y pwys cig llo, 9c y pwys.
[No title]
Cariad at gartref yw'r cariad goreu. Heb iecliyd y mao pawb dynion yn dlodion. Y mae segurdpd yn ddrwg sydd bron yn horio diwygiad. Nis genir mo honom yn unig er mwyn ein liuuain.
CYLCHWYL LENYDDOL LLAN- 1…
CYLCHWYL LENYDDOL LLAN- 1 DINORWIG. ¡ Ddydd Sadwrn, Mai 31ain, cynhaliwyd cylch- I wyl lenyddol Undeb Eglwysig Llandinorwig It Llanberis, yn Ysgoldy Genedlaethol y lie uchod. Cafwyd cyfarfodydd llwyddianus ymhob yityr. Beirniaid ar y traethodau oeddynt y Tra Pharchedig Ddeon Bangor a'r Parch. D. W. Thomas, M.A., St. Ann's y farddoniaeth ar adroddiadau barddonol, y Parchn. R. A. Williams (Berw), a D. C. Morgan, Cwmyglo yr adrodd- iadau a'r arholiadau, y Parch. R. Jones y gerddoriaeth, Mr. E. W. Thomas, organydd St. Anns y gwniadwaith, Mrs. Jones (Llandinor- wig), Mrs. Jones (Llanberis), Mrs. Davies (Blae- peris), Mre. Hughes (Hafotty), Mrs. Jones (Glandinorwig), Mrs. Rowlands (Pkscoch),Mrs. Williams (Caegwyn). I. Yr oedd trefn y cyfarfodydd fel y canlyn Y prydnawn, am 2 o'r gloch. Llywyddid gan Mr. Edwards, Glan y Bala. TAn gyffredinol. Anerchiad gan y llywydid. Cystadleuaeth, adrodd Gweddi'r Arglwydd (i rai dan 7 oed)—goreu, Myfanwy Jones, St. Padarn ail, Elizabeth Headley, St. Padarn trydydd, Elizabeth Jones, Llandinorwig. Beirniadaeth yr hemio a'r pwytho dros ben- goreu, Elizabeth Lloyd Hughes; ail, Jennie Williams, y ddwy o St. Padarn. Cystadleuaeth, ateb y tair penod gyntaf o'r Ail Gatecism (i rai dan 7 oed)—goreu, Myfanwy Jones, St. Padarn ail, Annie Evans, Llan- dinorwig trydydd, Elizabeth Headley, St. Padarn. Beirniadaeth ar y pinafore i blentyn—goreu, Lizzie Jones, St. Padarn. Cystadleuaeth, ateb yr wyth penod gyntaf o'r Ail Gatecism (i rai dan 10 oed)—goreu, Ellen Jones, !St. Padarn; ail, Laura Evans, LIan- dinorwig trydydd, Annie Roberts, Llandinor- wig. CAn, Pa le mae'r Amen,' Mr. W. Salt, Pen- maenmawr. Cystadleuaeth, adrodd Credo'r ApostolioB a'r Magnificat' (i rai dan 10 oed)—goreu, Annie Roberts, Llandinorwig ail, Lizzie L. Hughes, St. Padarn trydydd, Ellen Jones, St. Padarn. Beirniadaeth ateb y chwe' penod gyntaf 0 Gramadeg Alawydd (i rai dan 13 oed)-gore% Margaret Ellen Davies, St. Mary's ail, Henry A. Jones, Llandinorwig trydydd, Thonif Jones, Llandinorwig. 0 Cystadleuaeth, adrodd o DegGorchymyn (t rai dan 13 oed)—goreu, Ellen Closs Jones, St. Padarn; ail, Annie Jones, St. Padarn; trydydd, Annie Roberts, Llandinorwig. CAn, I The. Sailing,' Mr. John Closs Jones, ieu., Llanberis. Cystadleuaeth. atob yr Ail Gatecism (i rai dan 13 oed)—goreu, Henry Arthur Jones; ailt Howell Roberts trydydd, Jane Ellen Hughes, oil o Landinorwig. Beirniadaeth, y tri twll botwm a'r brodió- Annie Jones, St. Padarn ail, Ellen Closs Jones, St. Padarn." Cystadleuaeth, ateb y chwe' penod gyntaf o'r Holiadur Eglwysig (i rai dan 16 oed)—$• Hughes a Llewelyn Griffith, Llandinorwig, Jn gyfartal ail, H. Hughes, Llandinorwig, ac 0- Edwards, St. Mary's. Cystadleuaeth, adrodd Y Catecism' (i ral j dan 16 oed)-go*reu.:Lizzie Roberts, Llandinor- 1 wig ail, C. M. Roberts, St. Padarn. Beirniadaeth, ateb yr 11 penod o Gramadeg Alawydd (i rai dan 20 oed)—goreu, Griffith Evans ail, J. R. Williams a Lizzie Roberts yn gyfartal, oil o Landinorwig. Cystadleuaeth ccir y plant ar ddadganu y doO St. Bride's rhif 106. Ni ddaeth ond coT plant St. Padarn i ymgeisio, a chanasant 111 deilwng o'r wobr flaenaf.
CYFARFOD YR HWYR,
CYFARFOD YR HWYR, am 6 o'r gloch. Llywydd, y Capt. N. P. Stewart, Bryntirion, ac arweiniwyd gan Mr. Edwards, Glan y Bala, yn y drefn a ganlyn :— Ton gyffredinol. Anerchiad gan. y llywydd. Beirniadaeth ar ateb penod 1 a 2 o AthraW' iaeth yr Eglwys,' gan Sadler—goreu, J. 13- Williams, Llandinorwig. Cystadleuaem, adrodd rhan o Farwnad Esg°k Herber, gan Alun—goreu, Morris Williams, St. Padarn ail, G. Evans, Llandinorwig. Cystadleuaeth y dernyn offerynol-goreilt Owen J. Griffith, St. Mary's. Beirniadaeth y penillion, 4 Aaron yn diosg el wisgoedd i farw.' Un ymgeisydd, i'r hwn 1 dyfarnwyd haner y wobr, ond gan ei fod o'r cylch nid atebodd i'w enw. Beirniadaeth y traethodau (i rai dan 25 oed)' ar 4 Gymeriad St. loan yr Efengylwr.' Dau ymgeisydd—y goreU ydoedd J. R. WillianJSf Llandinorwig. Beirniadaeth ar y menyg—goreu, Miss Lauro Thomas, St. Padarn. CAu, I Ntney Lee,' Mr. J. Closs Jones, iefl" Llanberis. Beirniadaeth y crys main—rhoddwyd yr ail wobr i Miss Laura Thomas, St. Fadarn. Cystadleuaeth yr uuawd (alto) I Onid oell balm yn Gilfad '-goren, Henry Rowlands, St- Padarn. Beirniadaeth ateb holiadau o Athrawiaeth yr Eglwys, penod 3-goreu, Robert GrilEth, Llau' dinorwig. Beirniadaeth ar yr liosanait Mis* Laura Thomas, St. Padarn ail, Mrs. J. Roberts, Llandinorwig. Beirniadaeth ar y traethodau, Hynafiaetb yr Eglwys yn Nghymru Tri o ymgeiswyr- goreu, Mr. H. C. Jones. St. Mary's. Beirniadaeth, y dfin ar y geiriau 4 Duw mawr y rhyfeddodau maith' -goren. Mr. Robert organydd St. Padarn. Cystadleuaeth, dadganu alaw ddifyfyr-góreu, Robert a Henry Rowlands, St. Padarn, yn gyd. fuddugol. Cystadleuaeth (agored i'r byd), adrodd rhAO o I Wle(ld Belsassar,' gan leuan Glan Gvirion* ydd. Rhanwyd y wobr rhwng Ellis Williams Dinorwic, a Robert Parry. LlandinoHric. j Can, 'The Anchor,' gan Mr. W. Salt, ren- maenmawr. Cystadleuaeth yr unawd tenor, 'But tbhl1 did'st not leave.' Mr. J. R. Matthews, Llà1- I dinorwic. Beirniadaeth yr englyn i'r Llyfr Gweddl Gyffredin. Un ymgeisydd, ond yo annheihvng o'r wobr. I Cystadlenaetli yr unawd bass, I Yr Hwn sY I toi'r nefoedd.' Goreu, Mr. William Salt, St-# Padarn. Beirniadaeth ar y traethodau i ferche(I -At Gymeriad y gwragedd a weiniasant ar yr Arglwydd lesti Grist.' Dwy yn ymgeisio, » r oreu ydoedd Mrs. G. Williams, Llandinorwic. Cystadleuaeth (agored i'r byd), denawd, 4 j treigla'r Caveri.' Goreu, Mr. J. W. Jones, | Llanberis, a'i gyfaill* j Beirniadaeth y prif draetliawd ar 4 Yr Olyn* j iaeth Apostolaidd.' Daeth pedwar ymgeisyd" j rhagorol i'r ymdrech hon, a'r buddugol ydoedd Mr. R. C. Jones, St. Mary's. Arwisgwyd y buddugwyr gan y boneddigesi11 j canlynol:—Mrs. Parry Jones, Llandinorwic » Mrs. J. T. Jones, Llandinorwic; Mrs. S. Jones* [ Glandinorwic; Mrs. 11. C. Jones, Dinorwic; Miss S Davies, Blueperis; Miss Edwards; Glan y Bala; a Miss Dodd, Llangefni. Wedi talu diolcliiadau i'r boneddigesau, y llywyd1 Ac,, am y dydd, ac i'r oil oedd wedi cymeryd rhan yn y cyfarfodydd, ymwahanwyd trwj ganu yr Anthem Genedlaethol. [Cyhoeddir y beirnladaethau yn y hifft nes,,tf. CTor,.]
[No title]
Gwna yr hyn a ddylet wneyd, defied A ddêJ