Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Sodion d Ddeoniaeth y Rhos.
Sodion d Ddeoniaeth y Rhos. COLWYN. Cynhaliwyd cyfarfod yn yr Assembly Rooms, Qos Wener, y 6ed cyfisol, o dan lywyddiaeth y Parch. T. H. Yaughan, pryd yr ymgymerodd y I Parch. R. Williams, Dolwyddelen, ag ateb yn gyhoeddus-haeriadau a wnaed yn y lie uchod tua phythefnos yn ol gan Mri. Spinther James a J- Parry, Llanarmon, mewn perthynas i'r Degwm a'r Dadgysylltiad. Yr oedd yr adeilad yn erlawn. Yr oedd yu dda genym weled Mr. opinther James yn bresenol yn y cyfarfod, ond oeddem yn wir dosturiol tuag ato tra yr oedd pr; Williams, mewn modd medrns a miniog, yn *°ri i lawr ei haeriadau disail a chyfeiliornus. Nis gallwn wneyd yn well na rhoddi atebion pr- Williams yn llawn fel ag y darfu iddo eu wa&dodi fel y canlyn :— ^Sfid oedd dim neillduol yn araith y cadeirydd, padigerfch yr hyn ymddangosai i mi megis lion- anffiaeledigrwydd. Ceisiasai cyleillion gan- addaw rhyw bethau cyn ei ethol yn Gyng- norwr Sirol, ond doethach ydoedd ef na'i gyf- M n* a gwrthododd. Nid ydoedd am ganlyn j1"; Gladstone na neb arall, ond a fyddai yn pleidio egwyddorion teg a chyfiawn, hyny yw, yr "yn sydd deg a chyfiawn, nid yn marn Mr. 1dl3tone a dynion doeth a deallus eraill o'r blaid Ryddfrydig, na theg a chyfiawn yn ngolwg "1 gyfeillion, ond teg a chyfiawn yn marn an- aeiedig y cadeirydd ei hunan. a Xna daeth Mr. John Parry, Llanarmon, baich *aith yr hwn a wneid i fyny o ymdriniaeth ar Wnc y tir, yn gymysgedig a ohwedleuon i beri (U!J ckwerthin, ac ychydig ynghylch y degwm. ^yda phwnc y tir nid oes a fynwyf, ac ar y hon o araith Mr. Parry ni fwriadaf sylwi ^Itthellach na dweyd yr ymddangosai i mi ei "°M mewn cryn anwybodaeth. Er engraifl't, n, j46 diddymu y Primogeniture Act,' P^wdai, •« yr hon a gyfynga etifeddiaeth i fab JJ* y tirfeddianwr." Astudied Mr. Parry J^wdig ychwaneg ar gyfraith y wlad. Prin yr o,y* yn meddwl fod y fath act mewn bodolaeth; r,1' "yn leiaf, arferiad a common law sydd yn disgyniad etifeddiaethau. svl 6* ym^riniaeth a'r Eglwys a'r degwm, yiw°dd ar dri o bethau Hanes dechreuad yfel y degwm, ei syniad am darddiad y degwm, agWedd y tirfeddianwyr presenol ar bwnc y ogwrn. Yn y cyntaf, celai yr hyn a wyddai trydr ail, amlygai ei anwybodaeth ac ar y Y d, tra-ethai ei ddychymygion. Cyfodiad Oa 1 ^e&wm> yn ol Mr. Parry, ydoedd fel y g- *yQ Daeth amgylcbiadau i wasgu ar y .y h«*wyr, cydymdeimlai y tirfeddianwyr a a a gostyngasant yn yr ardreth. Yna }j Pwyd at y personiaid i ofyn gostyngiad Tajrl • 0n<^ owrt'iodasant ddaugos unrhyw gyd- 0J reiI*ilad, na rhoddi gostyngiad, a gwrthod- Yrn dalu. JSid wyf yn rhoddi pwys tmaA- mai g°fyn gostyngiad wnaed i'r s0n- ,*auwyr, a hawlio gostyngiad gan y per- Vm* Yr annhegwch mawr yn yr hanes ydyw celuy ffaitli fod trefniad y degwm yn of fel ag yr oedd y personiaid yn rhoddi yn Parli ychydig sylitau £ 20 y cant. Tra y i la yr ardreth yr un fath, aethai y degwm l 8 bob blwyddyn am wyth mlynedd cyn y ca'f168 y^oe^ y flwyddyn hono agos i £ 20 °fol ™ Gag ydoedd wyth mlynedd yn flaen- Pell* Mr' Parry a P^ob fEeimwr hyn. ydoedd y tirfeddianwyr, pan roddent yn o1' ond "wneyd yr hyn ag yr yd- j'r 7plrefniad y degwm wedi wneyd yn barod dty tterin^yr. Yr oedd celu y Ifaitli lion, a tvN0YD fod y cleri gwyr yn ddideimlad am na OH- yti a ^wytbau yn derbyn llai o £ 20 y cant rre;„- °d, yn annhegwch o'r mwyaf. Wrth rhoddi cyfrif am darddiad y degwm, ym- gosai Mr. Parry completely at sea. Jonp ^wiiaeth yr liyp y dywed y Parch. Evan f6dinS' Caernarfon, na wna neb a synwyr cyff- yQ ei ben, sef galw y degwm yn dreth. r°dd Dywedai mai Gwilym y Gorclifygwr batwes. y ^gwm pan yn rhanu y tir rhwng y ota,n.' cl, ra y gwyr pob Plentyn yn y nfih da d GOl". ard nad oedd dim a wnelai Gwilym y deow y§Wr na'i farwniaid d Cllyn-iru, a bod y ac yn Lloegr hefyd tr>t,A "OSO(i o Gwilym y Gorchfygwr erioed ei on y wlad* ^°ae '^■c megis yr anghytunai a'r Parch. Evan Y^d^' anghytunai hefyd a Mr. Spinther James. 8ydd an^?sai i mi fod Mr. James, fel pawb arall ^odd^6^ astudio y pwnc, yn cydnabod mai y tle 1011 gwirfoddol hen dadau duwiol ydoedd '10 ar cy°taf- Dywed Selden, Selborne, petlj 8' ^a°kstone, Freeman, a Hadclen yr tin yllfy 4ond yofydion ydynt oil, a damcaniaeth *ddo ef hy°y yn ^r- Pari-y- Gadawn j. a Mr. James benderfynu y pwnc. tj(t gyad y tirfeddianwyr presenol mai hwy ion yr?, y degwm, ond pa un ai disgynydd- pvesetl i1Ues yute y Yossalas ydyw y meistri tir yuja °^» Pwy all ddweyd? Mae yrx amlwg yt vm yw Mr. Parry erioed wedi amgyffred pa r^ymiad y ceisia ei ateb. Pa walianiaeth ynte fr1 "^gynyddion y rhai roddasant y degwm ^gy^yddion rhywun arall ydyw tirfedd- ddewfLj y ^yddiau hyn ? Pe rlioddai dyn y raU 0 ardretli Iferm at gynal capel, pa ai dis„laet^ ymhen can' mlynedd eiddo pa un fydd y meistr tir ai disgynydd y tenant riian y fferm ? Gan fod y ddegfpd roddi, bj'dd pwy bynag afedda y INV ei f ,f'nyym 0 dalu. Felly gyda'r degwm ^alle]0- ei roddi, a chan fod ei daliad yn preset1? cyn dyfod o'r un o'r tirfeddianwyr *lania 1 o'u hetifeddiaetliau, pa wa- ft Heb Pwy ydynt ? Ond ni chredaf ddweyd bA°d syniad yn un man lieblaw yn sen°j yg Mr. Parry, maiy tirfeddianwyr pre- y tirfe/i yn rhoddi y degwm. Yr hyn ddywed y^y v nwyr yw, mai hwy sydd yn ei dalu, &c, j\v' rhan o'r ardreth ydyw y degwm 6 da^u r meistr ^r» ac ej^ Uuio y tenant yn cydsynio i'w dalu yn is 0 1°1 i'r person, ac yn cael ei fferm yn Mr. ^Qaint a bod y degwm arni. Cyngliorwn I ^auew rry> cyn dyfod yma eto, i astudio ych- Y ar y pwnc, ^ai^3slaiadwr uesaf ydoedd y Parch. J. Spinther gallwn dybied, a amcanai ateb • Helm. Declireuodd drwy alw yr Eglw Ngbymru yn Eglwys estronol. hi ^s.estl'°nol ydyw," meddai, ac ni anadl- • Jatnl°ed ya iacilus y11 Nghymru." Y mae fan }8 aw<^ur(i0d ar hanes Cymru, ond °tid 0 ^°ri ni arlioswn i archwilio ei haeriad, !°?Wu <iystiolaeth un neu ddau o wyr i'w erbyn, a dau o'r (j\ ^,a^au swleidyddol ag yntau. 0 gvn We('u' Farnwr Watkin Williams, yr yiUi, yg^°dd gyntaf yn y Senedd Ddadgys- f, JHfte y yn Nghymru, a ddywedai ytixrn ,r y'ad Eglwysig yn Nhywysogaetli fel g sefydhad hybavch a henafol. Nid \\tedi ei ghvys yr Iwerddon yn Eglwys estronol, 3r a gosod drwy drais ar y bobl gan orchfyg- 24 gortlirylaivyr. (Ty y Cyffredin, Mai 1 870) (2), M', Gladstone:—" Yn nghanol yr eilfed nW>>yr y Cymry oeddynt yr Eg- vi etiaet]! a pybyr yn y wla<;i- Nid oeda i Snfl1' y Pwnc nad Cymru y pryd hyny :Ðisteddfafie gad<írnaf yr Eglwys." (Llyfrau Wi'ecsam, 1888, 1889). Ycliwanegaf 1. ca^s at br°fi yr liyn a ddy- %wv« r yclx mai ESlwy« estronol ydyw Ylla ys ^ymru. elfti James ymlaen i geisio ateb Mr. I. Y Pbwnc. 1 bywer1 eU.Eglwys Brydeinig. yu Helm mai yr un ydyw yr Eg- 11 1 ag sydd wedi bod yn Nghymru er's tri chant ar ddeg o flynyddoedd. Gwadai Mr. James hyn,a hawliai ei fod yn iawn. Felly, cry- bwyllais eifod yn awdurdod. I Yr wyf yn gwybod hanes Cymru," meddai, yr wyf wedi darllen llenyddiaeth a barddoniaeth Cymru, ac felly yr wyf mewn sefyllfa i siarad." Wel, gadewch i ni archwilio ei honiadau fel hanesyddwr 'Does neb yn gwybod dim am yr hen Eglwys Brydein- ig," meddai, "dim ond tri wedi ysgrifenu (I hanes, sef Gildas, Bede, a Meninius," ac wrth son am y rhai hyn gwnaeth Mr. James gam- gymeriad bychan—dim mwy na chan' mlynedd. Rhoddodd Gildas i fyw 100 yn ddiweddarach, a Bede a Meninius 100 mlynedd yn gynt, nag oeddynt. Camgymeriad mwy na hyny ydoedd dweyd nad oes dim hanes heblaw eiddo y rhai hyn am yr Eglwys Brydeinig. Dylasai awdurdod hanesyddol" wybod, o Ipiaf, am lyfr Hadden a Stubbs; yn hwn fe genfydd fod yna lawer ffynhonell heblaw y rhai a enwodd efe, i gael hanes yr Eglwys Brydeinig." A oedd gan yr hen Eglwys Esgobion ? Does neb yn gwybod, meddai Mr. James, ac eto sonia y tri awdwr a enwodd a'r rhai gymerai fod yn hy- ddysg yn eu gweithiau am Esgobion Prydeinig, (Chaper Gildas Epistle ii. H.S. iii.; Bede, H. iii. 28 Hadden & Stubbs 124 Neninius cxlvi. H. & S. 20). Felly, gyda Llyfr Gweddi, dywed Mr. James na wyr neb a oedd gan yr hen Eglwys Brydeinig un ai peidio. Mr. James raid fod y li neb," canys gwyr pawb arall fod ganddi un (H. & Stubbs 138, 140). Wyr neb beth ydoedd ei chredo, mcdd Mr. James, tra y gwyddom ysgrifenu o'r Esgobion Prydeinig mor foreu a'r flwyddyn 363. i ddweyd wrth St. Athanasius eu bod yn dal Credo Nicea-yr un credo ag a gyffesir gan Eglwys Cymru heddyw, ac esgynodd Mr. James binacl ei anwybodaeth pan ddywedodd na wyddai neb a oedd gan yr hen Eglwys adeiladau ai peidio, rhaid fod y neb a wyr hyn yn fwy penbwl na'r cyffredin, oblegid yn y flwyddyn 400 y mae genym ddigonedd o brofion hanesyddol fod eglwysi wedi eu hadeil- adu yn Mhrydain (Hadden & Stubbs 10.) Os profa enw Llandudno i Tudno fod yno yn sefydlu Eglwys, profa enw Llanfihangel i'r angel Michael iod yno, medd Mr. James. Y mnsym- iad nas defnyddiasai neb wyddai hanes y Cymry, oblegid hyd y flwyddyn 717 (H. & S. 203) gelwid eglwysi ar enwau eu sylfaenwyr, wedi hyny daeth yr arferiad eu galw ar enw Mihangel, ac yn ddiweddarach ar enw Mair (Brut y Tywysogion 717 & 1155). Y peth cyntaf a gawn," meddai Mr. James, wrth ddiweddu y rhan hon o'i araith, u ydyw, yr Eglwys Babaidd yn ei pherffeithrwydd yn y wlad." Fe fydd yn newydd i Mr. James, er ei fod yn awdurdod ar hanes Cymru, glywed fod hanes yr Eglwys Gymreig ar gael am ganrifoedd cyn iddi gym- deithasu o gwbl ag Eglwys Rhufain. Os dar- llenodd efe farddoniaeth Gymreig, ddaeth Mr. James ddim ar draws y geiriau hyn o eiddo Taliesin :— (Gwae) Ni warcheidw ei gail Ac ef yn f tigail Nis areilia, Ni ddifer er ddefaid Rhag Bleiddiaid Rhufeiniaid Am ffon glopa. Myfyrian Arch. 78. Y gwir yw, na fu Eglwys Cymru yn Eglwys Rhufain erioed. Wedi chwilio gwybodaeth hanesyddol Mr. James, yr ydym yn ei gael mor wallus fel na allwn iddo basio yr arholiad y tro hwn-pob gosodiad o'i eiddo yn anghywir. Os darllenodd, fel y dywed, hanes, llenyddiaeth, a barddoniaeth Gymreig, rhaid fod ei gof jn ddrwg iawn—tuhwnt i'r cyffredin, a buddiol fuasai iddo ddechreu eto. II. Ac nid rhyw lawer gwell ydyw y rhan o'i araith sydd yn ymdrm i'r Eglwys ad eg y Diwygiad. Peth wedi ei chreu yn gyfraith y wlad ydyw Eglwys Loegr," medd Mr. James. Nage, nid creadtir y gyfraith wladol ydyw," medd Mr. Gladstone. Gwnaed y Pen gyntaf," medd Mr. James drachefn. Yn awr, beth ydyw y ffeithiau am hyn ? I. Beth feddylir wrth ddweyd i'r Brenin gael ei wneyd yn ben yr Eglwys ? Hyn, mai i'r Brenin y perthyn pen- rheolaeth pob ysMd, pawb ya y deyrnas (Erthygl xxxvii), nad oes gan y Pab hawl i roddi cyl- reithiau i'r deyrnas hon, ac os cyfyd cweryl ynghylch materion dinasaidd yr Eglwys, mai yn llysoedd y wlad y mae yn rhaid eu setlo, ac nid yn llysoedd y Pab. II. Beth wnaed mewn per- thynas i hyn adeg y Diwygiad ? Nid creu hawliau newyddion, ond datgan beth ydoedd hawliau y Goron a chyfraith y wlad. Dywed y deddfau a basiwyd yr adeg hono (Henry Till. 1, p. 13), a dywed y Prolfeswr Brewer, yr hwn sydd wedi archwilio a chyhoeddi llythyrau a phapyrau Harri VIII. Fel mater o iawndcr, nid bob amser fel ffaith parhasai uwchafiaetli y brenin er cyn cof (Pref. Lit. Cap. v. 11), ac y mae y ddeddf yn dweyd yn mhellach, na fwr- iedid newid dim ar hanfodion na chyfansoddiad yr Eglwys (Henry VIII. 12). Adel- y Fi-eilliines Elizabeth newidiwyd y gair Pen am Lywodr- aethwr, ac ni ddywedir yn unman fod y Fren- hines yn awr yn ben yr Eglwys. III. Mae y brenin yn ben i Ymneillduwyr yn yr un modd, canys hawlia y ddeddf reolaeth dros bob cylch, aclios, a pherson yn y wlad, a chydnabyddiaeth o bwys ydyw cofrestriad y capelau yn yr High Court of Chancery. Y mae enwad Mr. Spinther James o dan ben-reolaeth y Frenhines, fel bob enwad arall. Cyfododd dad] mewn perthynas i hawl aelodau capel y Bedyddwyr yn Norwich i dderbyn aelodau heb eu trochi. Mynai rhai, a gwrtliodai y lleill, a pha le y terfynodd y ddadl? Yn Llys y Frenhines, gerbron y Master of the Rolls. Pa fodd y terfynwyd hi? Ai drwy edrych pa ddull o fedydd yw y dull Ysgrythyrol? Dim o'r fath beth. "Nid wyfat fyrhyddid," meddai y barnwr, i archwilio rhanau o'r Ysgrythyr a gyffyrddant a'r pwnc, er penderfynu pa ddull o fedydd yw y mwyaf cydweddol a'r ysgrifeniad- au Sanctaidd. Yr wyf yn unig i benderfynu pwnc y gyfraith (Attorney General & Gould Beovan Report, Vol, xxviii. p. 493.) Mater o gyfraith wladol ydyw, pa un a geir derbyn i gapel y Bedyddwyr un heb ei drochi ai peidio. Pa beth ddengys hyn oil? Yn ddiau, yn gyntaf, mai nid doeth i rai mewn tai gwydr luchio ceryg." Yn ail, dengys nad oedd ail gyhoeddiad uwchafiaeth y brenin yn gwneyd Eglwys new- ydd, ond yn unig ail alw sylw at yr hyn ydoedd yn bod yn barod. Ac yn drydydd, na fwriadai y diwygwyr wneyd amgen na diwygio yr hen Eglwys. "Yna," medd Mr. James drachefn, gwnaed y Common Prayer gan y Brenin a'r Senedd, heb ofyn barn yr un clerigwr. Daeth hwnw yn 1552, a hwnw sydd gyfraith heddyw." Cynwysa y geiriau yna dri gosodiad, ac y mae y tri yn anghywir, 1. Pwyllgor, cynwysedig o archesgobion, esgobion, a dysgedigion eraill, a drefnodd y Common Prayer yna aed ag ef o flaen y confocasiwn, neu'r Gyngliorfa Eglwysig; ac eto, dywed Nf r. James li na ofynwyd barn yr un clerigwr." 2. Yn y flwyddyn 1549 y cyhoedd- wyd ef, nid yn y flwyddyn 1552, fel y dywed Mr. James 3. Nid hwnw sydd gyfraith heddyw, fel y dywedodd JVIr, James, ond un wedi ei ddiwygio 110 o fiynyddau wedi hyny, 1G62. Gymaint a hynyna am wybodacth Mr. James ynghylch y Prayer Book. Pob gosodiad. yn anghywir. Yr un, yn gymwys, ydyw ei hanes å Chyffes Ffydd y JVIethodistiaid a Trust Deeds capel Mr. James, os oes ga-nddo gapel ar hyn o bryd. (A oes genych gapel yn awr, Mr. James?) Penodwyd pwyllgor o esgobion a chlerigwyr i ad-drefnu yr lien wasanaethau. Nid cyfansoddiad newydd amser y diwygiad ydoedd. Cymeradwywyd eu gwaith gan y Confocasiwn, yna. pasiodd y Seneud ddeddf yn gosod y llyfr mewn grym. Felly, tynwyd allan y Gyffes Ffydd gan y Sasiwn, ac yna cofrestrwyd hi yn yr High Court of Chancery (Rhagfyr 8fed, 1826), er rhoddi grym cyfraith iddi. I Felly, gyda. Trust Deed Capel Glanwyddan. Tynwyd hono allan gan ry wnn, acyna cofrestrwyd hi, ac y mae Nl r. James yn rhwym o bregethu yr hyn sydd yn y Trust Deed dynwyd allan heb ofyn ei farn, ac nid oes dim croes iddi. hyd yn nod pe tybiaifod y Beibl o'i du. Yma eto cawn osodiadau Mr. Helm yn sefyll. Yr un ydyw gardd cyn ac wedi ei y chwynu. Yr un ydyw yr Eglwys cyn ac wedi ei chwynn hefyd. FeI y dywed Mr. Gladstone, "Nis gallaf ganfod unrhyw olion o'r syniad sydd mor gyffredin yu ngenau personau di- feddwi yn awr, ddarfod diddymu Eglwys Rhufain yn Llcegr adeg y Diwygiad a gosod Eglwys Brotostanaidd yn ci lie." Ac nid ym- ddengys ::ymaint ag a-mheuaeth yn meddwl neh o'r diwygwyr nad ydoedd yr Eglwys yn Lloegr, wedi y diwygiad, yr un sefydliad a'r Eglwys yn Lloegr cyn y diwygiad (Ch. & S., Vol. vii., p. 127). a dvna ddywed pob hanesyddwr heddyw sydd wedi astudio y pwnc yn fanwl. Yr un ydyw'r Eglwys yn Nghymru ag a. sylfaenwyd yma er's 1300 a mwy o flynyddoedd. III. Deuwn yn awr at ymdriniaeth Mr. James o'r degwm. Cydnebydd Mr. James mai rhoddiop. hen dduwiolion ydoedd y degwm ar y deelireii. Y tirfeddianwyr yn adeiladu Eglwysi — pawb ar ei etifeddiaeth-ac yn cysegru degwm ei ystall yn waddol iddi. c, Ond," 11 meddai Mr. James, 'doedd ganddyilt ddim hawl i roddi y ddegfed ran o ffrwyth y ddaear." Paliam ? Oblegid fod y ffrwyth yn gynyrch chwys y ffcrmwr." Gadewch i ni ystyried yr ymresymiad hwn. Mae dyn yn berchen ffer-n a'i rlient yn £ i('0. Beth ydyw safon rlient ? Gallu cynyrchiol y tir. Os tir da, rhent fawr; os gwael, rhent isel. Os wyf yn cofio yn dda, dywedodd Mr. John Parry mai y drvdedd ran o'r hyn ciynyrchai y fferm ydoedd y rhent. Felly, cynyrchai y fferm hon werth £300. Pe dywedai y perclienog, "Yr wyf am roddi degwm y ff-erm, yr hyn fyddai f30, at Gapel y Bedyddwyr, ac yna bydd yjjrhent yn £70," pa le mae'r anghyfiawnder, a phaham nad oes ganddoliawl? Ac os oes gan dirfeddianwyr presenol bawl, paham nad oedd gan hen dir- feddianwyr Cymru yr oesau a fu bawl i wneyd yr hyn a wnaethant ? Nid yw y rhent ond rhan o gynyrch chwys-pa un ai rhent fferm, siop, neu weithdy, ac onid oes gan ddyn hawl i roddi y I rhan neu yr oil o'r rhent at yr aclios a fyno ? Ond," mccldai Mr. James eto, "rhoddwydy bedwaredd ran o'r degwm i gynal y tiodioa. Mae lioll ddeddfau y wlad yn dang-os hyn." Teimlwn awydd, wrth glywed liyn, i waeddi. "Draw it mild, Mr. James, draw it mild." Holl ddeddfau y wlad yn dangos hyn ? Gochel- wch chwi nad oes yr un ddeddf na'r un adran o ddeddf yn dangos dim o'r fath! Mae Mr. James wedi ei ga mar wain. Bu trefniad o'r fath mewn rbai rlianau o'r Cyfandir. Ac y mae tair o hen lawysgrifau yn y wlad hon yn son am hyn, ond ni fu erioed yn gyfraith (Selborne, Facts and Fiction, 105, Ü81, "Ond cyd- nebydd yr Eglwys nad oes ganddi ond un o bob wyth o'r boblogaeth, ac felly ni ddylai gael y degwm." Gan fod y degwm wedi ei roddi iddi, pa walianiaeth faint yw ei nifer ? Perthyn tai ClIIwyn i un rhan o ddeg o'r bobl, a ydyw hyny yn rheswm dros eu hysbeilio ? Ac ni fuasai yn ddim amgen nag ysbeiiind noetli. fel y dywed- odd yr Ymneillduwr enwog Dr. Pye Smith, i'r Wladwriaetli iyned ag eiddo yr Eglwys oddi- arni. Ond atolwg, pa bryd, ac ymlia le, a pha fodd y cydnabyddodd yr Eglwys mai un rhan o wyth o'r bobl sydd ganddi ? Ddywedodd Mr. James ddim ? Gwyr pawb am gyfrif Mr. Gee. A pha beth ddysgodd hwnw ? Can belled ag y'i cyhoeddwyd, dangosodd fod yr Eglwys yn Nghymru yn lliosocach na'r Pabyddion, y Bedyddwyr, yr Annibynwyr, a'r Methodistiaid Calfinaidd gyda'u gilydd. Yr Eglwys, 29,958 y pedair Sect arall, 27,473. Ac os mai un o bob wyth ydyw yr Eglwys, paham yr ymladda yr Ymneillduwyr yn erbyn cael cyfrif teg gan y Llywodraeth y flwyddyn nesaf? Gwers rhy chwerw ddysgodd cyfrif Mr. Gee iddynt. FeUy, cawn fod yr oil ddywedodd Mr. Helm eto yn sefyll Yr un ydyw yr Eglwys yn Nghymru heddyw ag a sylfaenwyd yma 1300 o flynyddoedd yn ol. Mae ei hçjddo yn feddiant iddi fel tir unrhyw gapel. Hon Eglwys y Cymry ydoedd, hen Eglwys y Cymry ydyw, a hen Eglwys y Cymry fydd hi hefyd.
Nodion o Fen.
Nodion o Fen. FFEIRIAU Y SIR. Y mae Cyngor Sirol }\{ (in wedi bod yn ystyried y priodoldeb o wneyd rhai cyf- newidiadau ynglýn ar ffeirian, ac y maent wedi cynyg y gwelliantau canlynol i sylw y cylioedd BODE DERN.-Ionawr 3, ffair newydd Rhagfyr, ffair newydd ar y dydd Mawrth cyntaf o'r mis. LLANFEC^ELL. — Mawrth 9fed, ffair newydd (iorphenaf 20fed, ffair newydd, a diddyiv, I y ffair a gynhelid ar y 25aino Dachwcdd. VALLEY.—Mai 4ydd, frair newydd Gorphenaf 21ain, ffair newydd, a Thach- wedd 12fed, ffair newydd. Gobeithiwn y bydd y cyfnewidiadau hyn o les i amaethwyr yr Ynys. LLANGADWALADR. COFIO'R CLAF.—Nos Wener, y 30ain cynfisol, cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgol- dy y plwyf uchod, er budd i ddyn ieuanc claf yn yr ardal. Cadeiriwyd yn dde- heuig gan y Parch. D. Thomas, rheithor y plwyf, ac arweiniwyd yn ddoniol gan Mr. David Williams, Trefri. Cyfeiliwyd gan Miss Thomas, Trefdraeth National School, a Mr. Thomas, ieu., Post Office, Llangefni. Cymerwyd rhan yn y gwaith gan Misses Thomas, a Mr. R. Thomas, Trefdraeth; Miss Essie Williams, Bethel; Mri. Price a Hughes, Llangefni Miss E. Williams, Bethel: Eos Elidir, a T. H. Williams, St. Anne's, ynghyd a Mr. Richard Williams, Llangadwaladr. Caf- wyd cyngerdd rhagorol. LLANFAELOG. Y mae yn ddywenydd genym dcleall fod ysgol ddyddiol y plwyf hwn wedi myned trwy yr arholiad yn anrhydeddus iawn eleni. Pasiodd y plant yn ol 97 y cant,achawsant yr Excellent Merit Grant. Y mae hyn yn glod mawr i bawb sydd yn dwyn cysylltiad a'r ysgol. Y mae y Parch. Ganon R. Williams, M.A., yn haeddu parch am ei zel, ei ymdrech, a'i ffyddlondeb gyda'r ysgol yn ei henaint. Y mae'r athrawon, Mr. a Mrs. J. 0. Jones, yn haeddu canmoliaeth am eu llafur gyda'r plant. Heb lafur caled, a diwyd- rwydd diflino, nid oes modd cael ysgol i'r safle uchel y mae hon ynddo yn bres- enol. Gwelwn fod yr ysgol hon, fel amryw eraill, yn cael ei chosbi am ei rhagoroldeb a'i pherffeithrwydd. Yr oedd wedi pasio yn rhy clda" yn ngolwg "My Lords yn Llundain, ac felly yr oedd yn rhaid cadw yn ol gyfran o'r arian a enillwyd yn onest trwy lafur caled Y mae y gyfundrefn bresenol o addysg elfenol yn warth i'n gwlad, ac yn sarhad ar synwyr oyffredin. Pa ddos- barth arall o bobl, neu pa alwedigaeth arall, sydd yn cael eu cosbi a'u hamddi- fadu o'r arian a enillwyd ganddynt ? A oes rhywun all ddweyd ? Eto, y mae arolygwyr ac athrawon yr ysgolion gwir- foddol wedi dioddef y camwri yma yn ddirwgnach ar hyd y blynyddoedd. Yn sicr, fe ddylid ceisio deffroi'r wlad, er symud y gwarthnod yma o'n cyfundrefn addysg. Dylai plwyfolion Llanfaelog fod yn falch fod y fath ysgol yn eu cyraedd, a dylent gynorthwyo y Rheithor yn llawen a sylweddol yn ei ymdrechion i gynal yr ysgol i fyny yn ngwyneb y fath anhawsderau. Un o'r bendithion mwyaf all unrhyw blwyf fwynhau ydyw cael un a fyddo yn teimlo ei gyfrifoldeb fel arol- ygwr addysg eu plant, ac yn llafurio er cael yr addysg hono mor effeithiol ag y mae modd iddi fod. Hefyd, y mae'r athrawon yn haeddu eu cynorthwy a'u cydymdeimlad. Dylent wneyd pob ym- drech i anfon eu plant i'r ysgol yn bryd- lon a rheolaidd. Nid gwaith ysgafn ac esmwyth (fel y tybia rhai) ydyw cadw ysgol, yn enwedig y dyddiau presenol. Z, Y mae pob athraw sydd a'i galon yn ei waith-a pha atliraw effeithiol sydd heb daflu ei holl yni i'w swydd ?—yn sicr o deimlo oddiwrth y gwaith a'i groesau yn fuan. Rhaid wrth gyneddfau cryfion i ddal ati am faith amser. Ychydig a wyr y cyli oedd am y rhwystrau sydd ar ffordd yr athrawon, a dylent, ar bob cyfrif, roddi iddynt bob cynorthwy yn eu gallu, trwy edrych ar fod eu plant yn lanwaith, pryd- lon, ufudd, ac ymdrechgar. Dyma fel y canodd un bardd-ysgolfeistri'w swydd;— Och yn f'einioes na chawn fwyniant-ysgol A wasgai fardd methiant Gyda blin giwed o blant, Egwan weithian y'm gwnaethant. Lleisiau ni ewyllysiwn—i'm dotiaw O'm deutu fel cacwn Boddi mewn nadau byddwn- Nychais i gan wich a swn. Gwaeddi A.B.' mawr gri mor rroes-b3, 11 wbain A sillebu tra chroes I'm pen yr acen a roes Hallt ias, a holltau eisoes. O'r dwndwr a'r syfyrdandod-y mynych Ddymunais ryw gysgod Nid oes bardd yn dewis bod Yn nirfawr swn anorfod," TALAXTOX.
Tysteb i Esgob Newydd Bangor.
Tysteb i Esgob Newydd Bangor. Ar gais lliaws o brif f oneddigion Aberhonddu a'r ardaloedd cylchynol, hysbysodd y Milwriad Morgan, Maer y dref, drwy gyfrwng y Breck- nock Beacon, y byddai cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynal yn y Guild Hall, ddydd Llun, y 'H'ed cyfisoi, i gymeryd dan ystyriaeth y ffordd oreu drwy ba un y gallent ddangos eu parch 11 9 tuag aC y Parch. Ddr. D. Lewis Lloyd, Esgob newydd Bangor, drwy ei anrhegu a thysteb, ac hefyd ddatgan eu llawenydd oherwydd ei ddyrchafiad i'r swydd Esgobol. Ychydig dros ddeng mlynedd yn ol, daeth Mr. Lloyd i'n plith fel estron i ymgymeryd a'r gwaith pwysig o fod yn benaeth ar Goleg Crist. Yr oedd sefyllfa y Coleg y pryd hwn yn isel iawn, a rhif yr ysgol- heigion ddim mwy na 25. Erbyn heddyw y mae y Coleg yn cael ei ystyried yn un o brif ysgolion ein gwlad, ac y mae rhif yr ysgolheig- ion yn cyraedd yn agos i ddau gant. Gallwn ddweyd yn ddibetrus nad oes un sefydliad o'j fath wedi cyflawni mwy yn y if ordd o eniil ys- goloriaethau, &c., mewn deng mlynedd na Choleg Crist, Aberhonddu. Nid yn unig fel prif-athraw y Coleg y mae Mr. Lloyd yn sefyll yn uchel yn ein golwg, ond hefyd y mae bob amser yn barod i roddi cyn- orthwy i bob symudiad da sydd wedi cymeryd lie yn y dref er pan ddaeth i'n plith. Fel is- gadeirydd y pwyllgor carddorol 311 yr Eistedd- fod Genedlaethol y llynedd, gallaf ddwyn tyst- iolaeth fod cael Mr. Lloyd yn gadeirydd yn gynorthwy anmhrisiadwy i'r pwyllgor i gyflawni y gwaith mwyaf pwysig ynglyn a'r Eisteddfod. Yn wir, gyda phob gwaith da yr oedd yn rhaid cael cynorthwy a chyngor Mr. Lloyd i gario y peth allan. Felly, bydd ei golli o'n plith yn golled anadferadwy i Aberhonddu. Pa ryfedd, gan hyny, pan yr ystyriwn ni y rhan y mae efe wedi gymeryd gyda ni yn ystod y deng mlynedd sydd wedi myned lieibio, ei fod wedi amvylo ei hun i bawb yn gyffredinol. Colled Aberhonddu a'r ardal yn gyffredinol fydd enill Esgobaeth Bangor. Gwnewch yn fawr o'ch Esgob new- ydd. Ddydd Llun, fel y dywedwyd uchod, cynhal- iwyd y cyfarfod, a daeth torf ynghyd erbyn yr awr benodedig, sef tri o'r gloch y prydnawn. Cymerwyd y gadair gan y Maer, yr hwn a ddar- llenodd y ddeiseb a dderbyniodd i alw y cyfarfod presenol. Ymhlith y rhai ag oeddynt yn bresenol, gwelsom y boneddigion parchus canlynol:—Y Parchn. Prebendary Garnons Williams Joseph Hughes, Cwmdu Rees Price, St. David's R. B. Jenkins, Llangasty J. Williams, Trallwng W. Howell, Garthbrengy M. G. Price, St. Dewi, a J. Price, Llanfigau Mri. R. D. Cleasby, Penoyre James Williams, cyn-faer D. W. J. Thomas, Ely Place W. Powell Price, cyfreith- iwr W. Francis, meddyg Rees Williams J. M. Thomas, Bank y Dr. Williams, Talgarth ] R. E. Charles, fferyllydd Henadur Games Mri. Rhys Davies (Llew Llywel) J. Evans, Bulwark; D. J. Jeffreys, cyfreithiwr David < Evans, Hen Fane y Dr. Owen J. Meredith, fferyllydd, &c. Darllenwyd llythyrau yn ymesgusodi o her- wydd absenoldeb oddiwrth y Milwriad Jones- Thomas, A.D.C.; yr Uch-gadben Wood yr Anrhydeddus Arthur Morgan y Proffeswr Ed- mondes, Llanbedr; Mr. H. P. Powell, Castell Madoc Mr. Gwyn Holford Arglwydd Tre- degar (yn addaw C25), ac amryw eraill. Pasiwyd amryw benderfyniadau ffafriol i'r mudiad yn y modd mwyaf brwdfrydig. Siaradwyd hefyd gan y Parch. W. Howell, yr hwn a ddywedodd ei fod yn adnabod Mr. Lloyd er's mwy o amser na neb oedd yn bre- senol. Wedi talu y diolchiadau arferol i'r cadeirydd, ymwahanwyd.
BWRDD YR APOLYGYDP,
BWRDD YR APOLYGYDP, TAFLENAU M; BOBL AR BYNCIAU PERTHYNOL I'R EGLWYS A'R WLADWRIAETII. Anfonwyd nifer o'r taflenau uchod i ni yn ddiweddar. Maent wedi eu hysgrifenu ar des- tynau poblogaidd, a thestynau y rhaid eu meistroli os amcenir deall y pwnc yn ei amryw- iol agweddau. Ni raid ond enwi ychydig o honynt erprofi mor ymarferol ydynt:—' Pa foddy daeth yr Eglwys yn EgIwys Sefydledig?' 11 cl A yw y Wladwriaetli yn cynal yr Eglwys ?' Beth a feddylir wrth Ddadgysylitiad ?' Pa fodd y dechreuodd y Degwm yn Nghymru ?' Beth a feddylir wrth yr Eglwys Sefydledig ?' 'Pa fodd y sefydlwyd Ymneillduaeth drwy ddeddf ?' Pa fodd y cynorthwyir Anghyd- ffurfiaeth, neu Ymneillduaeth, gan y Wladwr iaeth ?' Canlyddir ar unwaith mor fuddiol a dyddorol yw y testynau yr ysgrifenir arnynt. Y mae y ddau olaf wedi eu hysgrifenu gan Stan- ley Leighton, Ysw., A.S., un o amddiffynwyr di-wraf yK Eglwys yn ac allan o'r Senedd, a'r gweddill gan y Parch Thomas Moore, awdwr hyglod yr Englishman's Brief,' ac un o areith- wyr mwyaf adnabyddus Cymdeithas Amddi- ffynol yr Eglwys. Maent wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan y Parchn. Grey Edwards, Caer, ac E. W. Evans, Tarporley. Dyaiunol ydyw gweled olfeiriaid yr Eglwys tudraw i Glawdd Offa nid yn unig yn m6ddu ar deimlad digon Cymreig, ond yn meddu Cymraeg mor bur. Maent yn haeddu clod am gofio am danom. Mae y cyfieithiadau.drwyddynt yn darllen yu ystwyth a llithrig mewn Cymraeg pur a gloew. Maent yn ddigon rhad:—100 am Is.; 500 am 4s.; 1000 am -7s. Gellir en cael gan Mr. C. Bland, 10, Southampton Street, Strand, London. Dosbartlier hwynt ymhob plwyf, gan y bydd iddynt, nid yn unig agor llygaid Ymneillduwyr, ond byddaut yn arfau buddiol yn Haw Eglwys- 15 wyr i amddiffyn yr Eglwys sydd mor anwyl ganddynt.
[No title]
I'r hwn y rhydd Duw waitli, fe rydd iddo ddealldwriaeth. Y mae cyllideb dyn anghenus yn llawn o gyd- ymdeimlad. Pe bai'r holl fyd yn hagr, ni fyddai liyll- rwydd yn un anglienfil. Bod yn amyneddgar ydyw'r gwaith calctaf sydd genym mewn bywyd, Gwybyddir gwertli peth oreu drwy yr angen o hono. Gadawodd Thomas Cresswell, yn 1GOG, log f53 er eu rhoddi yn fiynyddol tuag at hyrwyddo priodas merch dlawd yn Northampton. Y mae cerf-lech yn Eglwys Dunfield yn rhoddi ar ddeall fod Richard Stevenson, yn 1577, wedi cyfarwyddo fod haner cant o ysgadan i'w rlianu rhwng y tlodion yno ar Ddydd Gwener y Garawys, am byth. Fc adawodd John Thaker, CLwering. Essex, (i dy a'i diroedd i Robert Cockerell a'i etifeddion, ar yr amod eu bod i ofalu am farilaid o ysgadan gwynion, a haner barilaid o ysgadan cochion i'r tlodion. Fod y rhai hyny i'w rhoddi allan o'r eglwys gan y clochydd, yn cael ei gyuorthwyo gan y torwr beddau,—pedwar i bob cwpl priod, dau i bob person sengI, ac un i bob plentyn.
[No title]
Yn Japan, y mae yna un Cristion ar gyfer pob 1,660 o'r boblogaeth, Lleddir pedwar o bobl ar heolydd Llundaiu yn wythnosol, a niweidir yn agos i ddeugain. Y flwyddyn ddiweddaf, bu farw 1,35G o ber- sonau o'r delirium tremens yn Lloegr. I Pwysa esgyrn-glwm morfil ar gyfartaledd I t, oddeutu pum' tunell ar hugain, Y mae Mr. Stanley a Miss Dorothy Tennant i gael eu huno mewn priodas yn Westminster Abbey yn mis Gorphenaf. Rhoddodd y Deon ei gydsyniad. Ystyria y Germaniaid ef yn drosedd llawer trymaeh i dwyll-fysgu ymbortli neu ddiod dyn na lladrata o'i rocedi. Yn Germani, anfonir troseddwyr o'r fath yma i garchar. Rhifa y Bwrdd Ysgolion yn awr yn Lloegr 1,793, a 801 yc Nghymru. Yn ystod y flwyddyn dcliweddaf fiurfiwyd 21 o Fyrddau Ysgolion ncwvddion yn Lloegr. r_1 Fy nhad," ebai merch ieuanc wrth ei thad, b'le y delir ysgadan cocliion ?" 0, fy anwylyd," atebai yntau, yn y Mor Cocli, with gwrs." Gadawodd John Cogan 15 yn y flwyddyn i'w rhanu ymhlith unrhyw dair morwyn a fuasent wedi byw gyda'r ul-i meistrueu feistres, heb fod | yn berthynas, am chwech neu saith mlynedd.
Nodion Hendy Gwyn ar Daf.
Nodion Hendy Gwyn ar Daf. AMROTH. Y mae Arglwydd Esgob Llandaf wedi gosod i fyny yn ddiweddar, yn yr eglwys uchod (ger- llaw yr hon y mae claddfa'r teulu). ffenestr ddwyreiuiol liwiedig tri goleu gostus, yn ar- ddau os y Croeshoeliad, er coffadwriaeth am ei anwyl frawd, sef y diweddar Mr. J. L. G. P. Lewis, Y.H o Henllan, ger Arberth. Y mae y gwaith allan o studio Mr. Dixon, o Lundain, ac wedi ei gynllunio a'i orphen yn rhagorol gyda golwg ar y gelfyddyd, yn gystal a threfniad y lliwiau. Ychwanega lawer at harddwch yr adeilad cysegredig. Ar odreu'r ffenestr gwelir yr arysgrifen ganlyn ol Er gogoniant Duw, ac mewn coffadwriaeth am J. L. Griffith Poyer Lewis. Ganwyd Hydref 19, 1829. Bu farw Chwefror 11, 1880. Prater Fratri, 1890." Y Sulgwyn diweddaf, darfu i'r Esgob a Mrs. Lewis, y rhai oeddent yntreulio ychydig ddydd- iau yn Henllan, dalu ymweliad ag Amroth, rhyw naw milldir o Henllan, i'r dyben o ddad- orcliuddio'r ffenestr. Oherwydd afiechyd par- haol y Ficer. y Parch. T. David, G.C., cymerodd yr Esgob yr oil o'r gwasanaeth, gan bregcthu a gweinyddu'r Cymun Bendigaid i 95 o gymunwyr. Bu'r Esgob hefyd mor garedig a cliyineryd y gwasauaeth a'r bregeth yno foreu Sul y Drindod. Rhagorol dda yr Esgob Lewis, yn wir! Clywsom, heddyw, oddiwrth y Ficer;(ein eyfaill "Dewi Amroth.") yr hwn sydd yn aros yn Llandrindod er mwyn ei iechyd. Hyderwn y gwna'r dwfr a'r mwyn adfer iechyd y bychan, fel y caffo ddycbwelyd yn fuan at ei ddefaid a'r heli mawr. Y mae wedi gwneuthur gwaith da, ac yn boblogaidd yn ei bIwyf, a dylai ganmol ei siawns fod ganddo y fath noddwr caredig. Gyda liaw, gofidia ein brawd gryn dipyn oherwydd fod yr arferiad o ymyfed rhyw wlybwr cryfach na'r dyfroedd yn rhy gyffredin yn mysg yr ym- welwyr a'r ffynhonau uchod, a dywed yn ddistaw, y byddai yn faes cymwys iawn i'r Parch. B. P. Griffiths i lafurio ynddo am dymor. Cymered King awgrym Dewi at ei ystyr- I iaeth, a dalied allan yno, cyn iddo ymadael, fel y byddo i Dewi gymeryd y gadair. GWYL LEOL YR ISCOL SUL YN LLnYSILIO. Ddydd Sul, y laf o'r mis hwn, talodd Ysgol Sul Mynachlogddu ymweliad a Llandysilio. Treuliodd y Parchn. D. Griffiths a J. George y prydnawn ar ei hyd i holi a dysgu'r ddwy ysgol; a chawsant ymarferiad a'r ganiadaeth o dan ar- weiniad Miss Bowen Jones, Ysg. Myg. y gym- deithas. Am 6 o'r gloch, intoniwyd y gwasan- [ aeth gan y Parch. J. George, y curad-mewn- gofal, a darllenwyd y llith gan y Parch. D. Griffiths, rheithor Mynachlogddu. Canwyd yr emynau a'r anthem apwyntiedig yn wir dda. Yna holwyd ar y Weddi Foreuol a Hwyrol (allan o Satecism Palmer, cyfieithiedig i'r Gym- raeg gan "Cowyn,") ac ar "Hanes Solomon," gan Ficer Llangan. Cafwyd pregcth ragorol hefyd gan y Parch. J. E. Jones, Llanddewi Felifre. Yr oedd yr atebion yn arddangos llafur, yn brawf o ofal y bugeiliaid am eu praidd, ac yr oedd y ganiadaeth yn ffrwyth ym- drechion diledryw Miss Bowen Jonas, Gwern- acwydd. Drwg iawn genym i'r gwlaw trwm ein rhwystro i fod yn bresenol yn y rehearsal nos Fawrth. Gobeithiwn y bydd y tywydd yn fwy ffafriol ddydd M awrth, yr lleg, ac y cawn ni wenau'r Nefoedd arnom yn ngwyl fawr Meidrym. MANYLIOX LLEOL. Y mae yn ddywenydd nid bychan genym fod y brawd o'r Orphwysfa wedi dychwelyd i'w blwyfi, a'i fod wedi cael adferiad iechyd, a'i fod yn teimlo yn dra chalonog ar y cyfan, ag ystyried fod Bil y Dcgwm lJeb ei gwll wneyd yn gyfraith eto.—Y mae ysbytty go dda tua Llanybri acw. Gobeithiwn fyned am dro yno ein hunain cyn diweddaf yr haf hwn, os byddwn mor ffodus a chael tocyn a mynediad i fewn. Hyderwn fod Elly yn gwella yn gyflym, ac y daw yn ol a chryn ystor o iechyd gydag ef y tro nesaf. Y mae Gwawr yma megis wrth naill aden, druan Er's amryw Suliau, bellach, y mae wedi cael cyfleusderau "i arfer ei ddawn," ys dywed y brodyr y tu arall i'r mur. Dichon y bydd hyn o gryn wasanaeth iddo yn Llanbedr. Nos Wener diweddaf, ar ol gwas- anaeth melus gan Cowyn," arholwyd ysgol Llanfihangel Abercowin gan y Parch. J. E. Jones, Llanddewi Felffre, a chafodd atebion parod a chywir iawn. Y pwnc oedd Hanes Solomon," a'r "Weddi Foreuol a Hwyrol," gan Palmer (cyfieithiedig gan "Cowyn.")
Advertising
HANESYDDIAETH BOBLOGAIDD o EGLWYS LOEGR. Yn dangos ei TharddÙul-Ei Chynyd(l-A'í Gwaith dros y Bobl. BliASDPARLTJN MEWX TAIR PKNOI). I.-Oddiar y dyddiau boreuafhyd amseroedd y Diwygiad. II.—Hanes y Diwygiad. III.—Oddiar y Diwygiad hyd ein dyddiau ni. Gan G. H. T. NYE, Ysgrifenydd Trysorfa Sefydliad Amddifynol yr Eglwys (Financial Secretary to the Church Defencc Institution). The Palace, Lliiiclaff, March 13th, 1890. MY DEAR SIR,—I am much obliged to you for a copy of your Popular Story of the Church in Wales." I have just read it, and think it a valuable and very seasonable addi- tion to Church Defence Literature, and that it would help to strengthen our hands very much if the clergy (especially in Wales) would make an effort to get it widely circulated in their parishes.—Believe me, very faithfully yours, R LLANDAFF. G. H. F. Nye, Esq., Palace Chambers, Westminster. FRANK SMITH k CO, CLERICAL OUTFITTERS AND CHURCH FURNISHERS In all Branches to H.R.H. THE PRINCE OF WALES. Patterns, Designs, Estimates, and Illustrated Catalogues, Free. 13, Southampton-street, Strand, LONDON, W.C. Ymddyddanion AR Egwyddorion Eglwysig," Cyfieithedig gan PARCH. E. P. HOWELL, M.A., Prif-athraw Ysgol Ramadegol Bottwnog, ger Pwllheli. Chwaethus a dyddorol Wedi eu Cym- reigio yn drwyadl. Bydd pwy bynag a u dar- lleno yn gwybod llawer mwy am yr Eglwys fel un corff ysprydol nag ydoedd cyn hyny.—Haul. Dymst lyfr rhagorol. Y mae y Parch. E. P. Howell wedi gwneyd gwasanaeth gwerthfawr i'r Eglwys a'r genedl trwy gyfieithu mewn dull mor ardderchog lyiryn cynwysfawr Mr. Wfjst. Dylasai pob Eglwysvvr Cymreig biynu, darllen, a chwilio y gyfrol feclian hon.—LI an. 1!1 We do not know their equals for force of reasoning and perspicuity.—Church Times. Ychydig gopiau or law. Yn rhad drwy y Post am Is. 2c. oddiwrth y Cyfieithydd. NOW READY, 420 PAGES, CROWN 8vo. BOARDS. PUBLISHED UNDKU THE AUTHORITY OF THE LORD BISHOP OF THE DIOCKSE. THE BANGOR DIOCESAN CLERICAL DIRECTORY AND CHURCH CALENDAR FOR 1890, With a History of the SEE OF BANGOH, THE CATHEDRAL CHURCH, &c., REPORT OF THE DIOCESAN CONFER ENCE FOR 1889, &e. REPORTS OF THE ANNUAL MEETINGS OF THE DIOCESAN SOCIETIES. EDITED BY THE REV. W. MORGAN JONES, B.A., Curate of Penmacnniawr, Member of the Cambridge Antiquarian Society Price Is. Gd., post free from the Pcr.LisiiEns JARVIS AND FOSTER, LOKNE HOUSE, BANGOK,