Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

Llythyr Deiniol Wyn.

News
Cite
Share

Llythyr Deiniol Wyn. Gwelaf oddiwrth adroddiad yn eich papyr, fod symudiad ar droed, trwy gyfrwng Confocasiwn Caergaint, i wella CYMRAEG Y LLYFR GWEDDI. Diau fod rhai geiriau, os nad brawddeg- au, y gellicl eu gwella yn y Llyfr Gweddi Cymreig. Ymddangosodd erthyglau tra dyddorol a galluog ar Gymraeg y Llyfr Gweddi yn yr Haul, ychydig amser yn ol, gan y Parch. T. J. Hughes, periglor Llanbedr, Dyffryn Clwyd. Dylasai Mr. Hughes, ar bob cyfrif, fod ar y pwyllgor. Paham na etholasid y Parch. Ganon Silvan Evans ar y pwyllgor ? Yn sicr, ni chyfeiliornem pe y dywedem mai dyma'r ddau ysgolhaig Cymraeg goreu a fedcl yr Eglwys yn Nghymru. Oblegid mater llenyddol, ac nid mater urddasol, ydyw diwygiad Cymraeg y Llyfr Gweddi. Gwnaed diwygiad ar Gymraeg y Llyfr Gweddi yn y flwyddyn 1710, gan Elis Wyn o Las Ynys (awdwr Bardd Cwsg") trwy orchymyn pedwar Esgob Cymru ac yn ddiweddarach gan loan Tegid. Yr oedd y rhai hyn yn welliant mawr iawn ar ei ragflaenoriaid. Gwnaed rhai gwell- iantau diweddarach trwy gyfnewid rhai geiriau, yn benaf dan olygiad y diweddar Barch. Ganon Williams, Ysceifiog. Cofus genym i'r diweddar Ddeon Edwards o Fangor wneyd symudiad tebyg i hwn, flynyddau yn ol, o berthynas i'r cyfieithiad Cymreig o'r Beibl. Ond ni ddaeth dim o hono—" Yn wir, y mae'n bur amheus genym a ellir yn hawdd wella ar y cyfieithiad Cymreig sydd genym o'r Beibl-gan y gwelwn fod yr English Revised Version o'r Testament Newydd yn dilyn y cyfieithiad Cymraeg." Dywedai y diweddar Esgob Thirlwall o Dyddewi, na fyddai ef byth yn pen- derfynu iawn gyfieithiad adnod o'r gwreiddiol, heb ymholi a'r cyfieithiad Cymraeg. Dyma dystiolaeth uchel iawn i ragoroldeb ein cyfieithiad o'r Beibl i'r iaith Gymraeg, gan ysgolhaig blaenaf ei oes. Tra yn addef y gellid yn hawdd wella ambell i air yn y cyfieithiad Cymraeg o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, megis "cyflwr" yn lie ystad," "gwyr-priöd" yn lie gwvr-gwreigiog," "aclgyweirio" yn lie "cyweirio," &c.; eto, ar yr un pryd, teimlwn yn dra gwrthwynebol i unrhyw I zn bwyllgor ymyraeth rhyw lawer iawn a C hymraeg y Llyfr Gweddi. Hyd yn nod y geiriau hyny a allesid yn hawdd eu gwella, yr ydym yn teimlo rhyw fath o barch atynt am eu bod wedi parhau yn y Llyfr Gweddi am gymaint o genedlaethau; ac felly yn eiriau y darfu ein teidiau a'n cyn-deidiau addoli ynddynt Dyma un rheswm mawr paham y glynai Eglwys Rufain mor gyndyn wrth yr iaith Lladin yn ei gwasanaeth cyhoeddus, er yn an- nealladwy i'r addolwyr. Y mae rhyw- beth yn farddonol a thlws yn y drych- feddwl fod yr oes bresenol yn anfon eu gweddiau i fyny yn yr un geiriau ag yr arferai Awstin, Esgob duwiol a dysgedig Hippo, gyfarch yr Hollalluog. Er yr addefwn yn rhwydd, yn ol awdurdod St. Paul, fod yn groes ir Ys,-rythyr i lefaru'n gylioeddus mewn iaith annealladwy. Y mae y Llyfr .Gweddi Cymreig yn rhagori mewn pethau ar y Llyfr Gweddi Seisnig. Er engraifft, enwau rhai o'r gwyliau, megis Nadolig, Ystwyll, Garawys. Gwir mai tarddiad Lladinaidd sydd i'r geiriau hyn, ac mai nid geiriau Cymreig "0 waecL coch cvfan ydynt; ond geiriau Lladinaidd wedi eu Cymreig- eiddio. Ond y maent yn well geiriau o lawer na Christmas, Epiphany, Lent, ac Easter. Y mae y geiriau plygain a Gosper yn well geiriau o lawer hefyd na Matins ac Evensong." Y mae Dydd Iau y Dyrchafael yn welliant ar The Ascension Day." Nid yw y Llyfr Gweddi Seisnig ychwaith heb ryw eiriau y gellid, yn marn rhai, eu gwella, megis Neither reward us after (according to) our iniquities," for Jesus Christ His Sake," and indifferently minister justice." Gwelwn felly nad ydyw y Llyfr Gweddi Seisnig yn hollol rydd oddiwrth rai brawddegau y gellid, efallai, yn hawdd eu diwygio. Ond nid ydym yn cael fod Confocasiwn Caergaint yn symud i'w gwella. Rhaid i ni addef ein bod yn dra cheidwadol o berthynas i lenyddiaeth Gymreig y Llyfr Gweddi—er nad yn wrthwynebol i wir welliant. Ar yr un pryd, efallai, na fydd gwaith y Parch. D. W. Thomas yn galw sylw y Confocasiwn ato yn hollol ddiffrwyth. Ond gresyn na fuasai y cynulliad urcldasol a dysgedig hwn yn cael datganiad ar yr un pryd, o ragoroldeb y Llyfr Gweddi Cymreig raewri rhai pethau ar y Book of Common Prayer. Bu Esgob Derry yn traddodi pedair dariith ar y pedair Erthygl olaf yn r 1 t 1. Nghredo'r ADO tolion, yn EGLWYi ( YDFIRIOL LLANELWY, yr vvythnos ddiweddaf. Yr oedd cynull- iadau lliosog-clerigol a lleygawl—yn n In n nghyfarfod pob dydd am 3.45, ynyr Eglwys Gadeiriol, i wrando'r Esgob. Hen wr tal, to w, penwyn, golygus iawn yr olwg arno, ydyw'r Esgob Alexander. Awgryma chwareuadau ei lygaid by wiog lawer iawn o natur dda, yn gymysgedig a'r hyn a eil w y Sais yn hwnorous. Ac yma a thraw yn ystod ei anerchiadau ceid prawf o'i ddull meistrolgar o blethu'r coeglyd a'r chwerthinllyd. Ambell waith ceid tipyn o'r naws hwnw a eilw y Sais yn unction. I'm bryd i, prif nodwedd Esgob Derry fel pregethwr ydywilithrig- rwydd ymadroddol. Nid ydyw ei dra- ddodiad yn agos mor rymus a gafaelgar a'r eiddo Esgob Peterborough, er engraipht, ond y mae yn 11a wer iawn ar y blaen i'r cyffredinolrwydd o bregethwyr Seisnig. Y mae yn anhawdd i Gymro beidio troi yn (i feddwl rai nodweddion prif bregethwyr Cymreig o'u cydmaru a rhai Seisnig a glywsom. Er engraipht, nid ydym yn cofio i ni erioed glywed gwell pregethwr —yn Gymraeg na Saesneg—o ran dull, sylwedd, ac arddeliad, na'r diweddar Barch. Daniel Jones, ficer Pwllheli, ar un cyfnod o'i fywyd. Pan gysegrwyd Eglwys St. Mair, Bangor, yr oedd ef yn un o'r pregethwyr. Yr oedd yno ddau esgob, ac un offeiriad Cymreig arall yn pregethu hefyd. Dywedodd offeiriad sydd yn awr mewn safle uchel yn yr Eglwys wrthyf — "Yr oedd mwy yn mhregeth Daniel Jones nag yn mhreg-. ethau y ddau esgob a'r eiddo gyda'u gilydd." Yn sicr, nid ymffrost wag ydyw eiddo y Cymro, fod pregethau Cymreig ac emynyddiaeth Gymreig yn llawn gwell na'r eiddo y Saeson. Arferai y diweddar Ddeon Edwards, o Fangor, ddweyd mai y ddau bregethwr goreu a glywodd efe erioed oeddynt Parry, Llywel, a Henry Rees. Nid annyddorol, efallai, ydyw dweyd nad yw yr Esgob Alexander yn annhebyg iawn o ran golwg i'r diweddar Henry Rees. Llongyfarchwn y Deon Owen ar lwyddiant yr ymdrech hon o'i eiddo i ddwyn offeiriaid yr esgobaeth i fwy o undeb a'u gilydd, a'r Eglwys Gadeiriol, ac i undeb a'r gangen Wyddelig o'r Eg- lwys, trwy wrando ar eiriau hyawdl a Ilais peraidd un o'i Hesgobion. Gobeith- iwn y bydd y llwyddiant hwn yn galon- did i'r Deon i fyned rhagddo y flwyddyn nesaf i gael y cyfryw gyfarfodydd. Gwnant ddirfawr les, yn sicr, mewn mwy 10 nag un cyfeiriad. Gobeithio y cawn glywed y Canon Liddon, neu Esgob Peterborough y tro nesaf. Yn sicr, nid diffyg ymdrech ar ran y Deon Owen fydd yr achos os na cheir y fraint hono. Cofus genym glywed yr Esgob Magee yn pre- gethu yn Nghynadledd Dublin yn 1868, pan ydoedd yn Ddeon Cork, ar gwestiwn y Dadgysylltiad. Testyn httpus iawn oedd ganddo. And they beckoned to their partners in the other ship that they should come and help them." Mewn cyfeiriad at y Saesod yn d'od drosodd i gynorthwyo'r Eglwys Wyddelig. Gellid yn hawdd gymhwyso'r geiriau yma at yr Esgob ei hun yn awr, neu at y Canon Liddon, o berthynas i sefyllfa yr Eglwys Gymreig. Yr ydym yn credu fod mwy o waith gwir amddiffynol i'r Eglwys yn cael ei wneyd trwy bregethu'r Gair, mewn amser, ac allan o amser, na thrwy unrhyw ddarlithiau haner politicaidd, haner crefyddol. A fyddai modd cael un o'r cyfarfodydd hyn yn Gymraeg, a phregeth Gymraeg, yn Llanelwy, y flwyddyn nesaf ? Y mae y Deon Owen yn Gymro twymn- galon, ac yr ydym yn sicr y byddai yn ddigon boddlon i hyn pe y gellid sicrhau pregethwr Cymreig. Teimlwn fod yr awgrymiad yn werth sylw, a gweithred- iad hefyd. Mwynhasom anthemau Handel, yn yr Eglwys Gadeiriol, ar y-r achlysur hwn. Ond yr oedd caniad yr emyn, Rock of ages," yn fwy gafaelgar ar y gynulleidfa, am ei bod yn fwy syml. Ac yr ydym yn dra sicr y buasai caniad yr hen emyn bendigedig Gwaed y Groes," ar yr hen don leddfol Bryn Calfaria," gan y gyn- ulleidfa oedd yn Eglwys Gadeiriol Llan- elwy y dyddiau hyn, yn gwefreiddio'r addolwyr. Gwelsom fod Mr. Gladstone a'i deulu wedi gofyn i gynulliad mawr o berinion" politicaidd yn Mhenarlag, yr un dyddiau, ganu'r hen emyn hwn, a diau fod yr effaith yn dra swynol. Os daw y Canon Liddon, neu Esgob Peter- borough i lawr i Lanelwy y flwyddyn nesaf, byddai yn werth iddynt glywed yr hen emyn bendigedig hwn, yn Gymraeg wrth reswm. Y mae rhywbeth yn nefolaidd gysurlawn yn y geiriau a'r don. Ni ddylem derfynu heb air o ddiolch- garwch i'r Esgob, y Deon, Archddiacon Watkin Williams, a thrigolion dinas Llanelwy, am. eu caredigrwydd a'u llety- garwch i'r dieithriaid lliosog a wnaethant eu pererindod i'r wyl hon yn Llanelwy. Teimlwn yn sicr eu bod wedi cael bias arni, ac y bydd nifer y rhai a fynychant yno y flwyddyn nesaf yn llawer mwy. Da oedd genym glywed yr hen ochenaid Cymreig ambell waith yn ystod traddod- iad rhai brawddegau mwyaf effeithiol pregethau'r Esgob Alexander, gan ryw frawd o Ymneillduwr, y mae'n debyg.

ESGOB NEWYDD BANGOR.

BARDDONIAETH.

DOSBABTH I.

YMWELIAD Y BARDD A LLANGOWER,

DOSBABTH II.

AR DDI WED D GAUAF.

FFEIRIAU Y BALA AM 1890.

[No title]

RHESTR 0 DDOSBARTHWYR "Y LLAN…

Advertising