Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
URDDIADAU YN ESGOBAETH TY…
URDDIADAU YN ESGOBAETH TY DDEWI. Mewn gwasanaeth Urddiadol Cyffredin- ol a gynhaliwyd gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi yn Eglwys y plwyf, Aber- gwili, ddydd Sul y Drindod, urddwyd y rhai canlynol yn DDIACONIAID, a thrwyddedwyd hwy i guradiaethau J. Francis Lloyd, B.A.,Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i guradiaeth Beguildy, Sir Faesyfed. Joshua Davies, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i guradiaeth Llanllwchaiarn, Sir Aberteifi. David Davies, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i guradiaeth St. Dogmaels, gyda Llantood a Monington, Sir Benfro. John Thomas Evans, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, i guradiaeth Llywel, gyda Rhydybriw, Sir Frcheiniog. Urddwyd y rhai canlynol yn OFFEIRIAID. Parch. Richard Lloyd Jones, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad St. Paul's, Llanelli, Sir Gaerfyrddin. Parch. J. Lewis, L.D., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Llanilar, gyda Rhosdie, Sir Aberteifi. Parch.George Roberts, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Llangyfelach, Sir Forganwg. Parch. William Blundell Busby, B.A., Coleg Worcester, Rhydychain, caplan Coleg Hyfforddiadol Caerfyrddin. Parch. Thomas James, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Letterston, gyda Llanfair Nantygof, Sir Benfro. Parch. John Lloyd, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Glascombe, Sir Faesyfed. Parch. Thomas Reynolds, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Brynmawr, Sir Frycheiniog. Parch. Watkin Walters Price, B.A., Coleg Dewi Sant, Llanbedr, curad Llanon, Sir Gaerfyrddin. Hefyd urddwyd y rhai canlynol yn Ddiaconiaid ar ddymuniad Arglwydd Esgob Llandaf Thomas Hamilton, B.A.,o Goleg Exeter, Rhydychain, a Choleg Duwinyddol Cud- desdon, i'w drwyddedu i guradiaeth St. German's, Caerdydd. John Thomas Jones, o Goleg Wadham, Rhydychain, a B.A. o Goleg Dewi Sant, Llanbedr, i'w drwyddedu i guradiaeth Penarth, Sir Forganwg. Warwick Whiteley, B.A., Coleg Clare, Caergrawnt, i'w drwyddedu i guradiaeth Canton, Caerdydd. Darllenwyd yr Efengyl gan Mr. Joshua Davies.
GOHEBIAETH.
GOHEBIAETH. CYNYG LLANDAF I'R ARCHDDIACON WATKINS. At Olygydd II Y Llan a'r Dywysogaeth." Syr,—Dywed "Northman" yn ei lytliyr dyddorol o Rydychain, yn y LLAN diweddaf, iddo glywed i'r Archddiacon Watkins gael cynyg ar Esgobaeth Llandaf cyn, wrtb reswm y meddylir, i'r cyuyg gael ei wneyd i'r Esgob presenol. Dywed yr un ysgrifenydd yn ochel. I gar, yn mhellach, nas gwyr faint o wirionedd 1 9 sydd yn y chwedl. Goddefer i minau ych- wanegu nad oes dim gwirionedd o gwbl yn y chwedl. Yr wyf mewn sefyllfa i ddweyd i'r Arch- ddiacon ei hun anfon at Urddasog Eglwysig Cymreig i'w sicrhau na chafodd efe erioed gynyg ar yr Esgobaeth. I'r Esgob Lewis y rhoddwyd y cynyg cyntaf, ac y mae yn ddigon hysbys mai trwy ddylanwadau eraill y per- swadiwyd ef i ymgymeryd a swydd mor uchel a dyledswyddau mor bwysig. Y mae y canlyn- y iadau i'r Eglwys yn profi doethineb ei gynghor- wyr. Gelligaer, Mai 30, 1890. J. L. MEREDITH.
CYLCHWYL LENYDDOL EGLWYSIG…
CYLCHWYL LENYDDOL EGLWYS- IG ESTIMANER. Y lie apwyntiedig i gynal trydydd gyfarfod y I blynyddol yr wyl uchod oedd Aberdyfi, Llun- gwyn. Porthladd adnabyddus ydyw Aberdyfi, yn Meirion, gydag un heol hir yn ymylu ar afon Dyfi, a'r tai wedi eu hadeiladu y tu ol ar ochr y bryniau ymhob cyfeiriad—a gerddi prydferth, So slanting that digging must surely be dangerous unless the digger ties himself securely to the knocker of the front door." Islaw mae y traeth llyfn, a'r landing stage. Morwriaeth ydyw prif bwnc y brodorion, a gwyddant am lanau y dyfnder o begwn i begwn. Mae yma achos Eglwysig hefyd disglaer a chynyddol, ac eglwys ddestlus, a gweithiodd Eglwyswyr y lie yn egniol dan gadfridogaeth eu bugail ysbrydol, sef y Parch. E. T. Davies, i wneyd yr wyl yn llwyddiant. Cynhaliwyd y gweithrediadau mewn pabell eang ar y lawnt o flaen yr Aber- dovey Hall. Rhoddwyd y tir yn rhad gan y berchenoges (Mrs. Jackson-Jones, Highgate. Llundain), yr hon hefyd yn lleol a gyfranodd yn arianol. Yr oedd parotoadau wedi eu gwneyd er's misoedd ar gyfer yr wyl yn Aberdyfi, Towyn, Bryncrug, Llanegryn, Abergynolwyn, a Chorris, gan len a lleyg, a chan aelodau yr Ysgol- ion Sul, i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd, amcan pa rai ydyw liyrwyddo llwyddiant yr Eglwys a'i hathrawiaethau, a diwylliant ac addysgiaeth ieuenctyd y ddeoniaeth. Cadeirydd y pwyllgor ydyw y Parch. Titus Lewis, D.G., Towyn. Trysorydd, Mr. Morris Evans. Ysgrifenyddion, Mri. W. R. Williams, Corris, ac E. R. Roberts, C.M., Aberdyfi, ynghyd a'r commander-in-chief y Parch. Thos. Edwards (Gwynedd). Y beirniaid oeddynt y Parchn. R. A. Williams (Berw) E. Hughes, Abermaw Mr. G. Blackwell, C.M., Machynlleth Mrs. Hughes, Aberdyfi Miss Evans, Hendre, Aber- gynolwyn; Miss Gilbertson, Bryndyfi, Ab rdyfi; Miss Jones, Bryntirion, Towyn Mrs. Davies, Ficerdy, Aberdyfi; Mrs. Lewis, Ficerdy, Towyn; y Cadbeniaid R. Jenkins acR. Lewis, Aberdyfi; Mri. J. W. Orchard ac E. Williams, Corris Moses Evans, ac Edward Jones. Cerddoriaeth —Mr. T. Cilwern Davies, Llanymawddwy. Adroddiadau—Parchn. E. Hughes, Mr. Rees, a J. M. Griffith, Borth. Y cyfeilydd am y dydd ydoedd Mr. W. M. Griffiths, Mus. Bac., Dolgellau. Dechreuwyd CYEARFOD Y BOREU am ddeg, a gafaelodd yr arwein ydd, sef Gwynedd, yn ei waith yn egniol. Y cadeirydd oedd Mr. J. Walroud Orchard, Corris. Y canlyn yw y rhaglen CAn agoriadol, Mr. H. Gabriel. Galw enwau y cystadleuwyr. Adroddiad o waith Gwynedd i rai dros IS oed —Mr. H. Roberts, Towyn, a Mr. John Owen, Penygraig, yn gydf uddugol. Cystadleuaeth Male Voice Party, 4 Comrades in arms' (Adams). Dau yn cynyg, sef y Vaenol Male Voice Choir, Towyn, a chor meib- ion o Gorris. Cystadleuaeth dda a dyddorol, ond aeth c6r Corris, dan arweiniad Mr. H. Jones, a'r wobr, sef £ 4. Beirniadaeth traethawd ar Ruth i ferched. Daeth 6 i law-goreu (yn Saesneg), Mrs. J. R. Williams, Towyn ail oreu, Miss Baines, Aber- dyfi. Rhoddwyd trydydd gwobr i First Attempt.' set Miss R. M. Davies, Aberdyfi. Cystadleuaeth unawd (soprano), Dros y Mor (Eos Bradwen). Dyfarnwyd Miss Lizzie Mor (Eos Bradwen). Dyfarnwyd Miss Lizzie IVil liams, Aberdyfi, yn deilwng o'r wobr. Cyfieithu Emyn i'r Gymraeg, Rhif 417 A. & M. Goreu, Mr. J. R. Williams, Towyn. Adrodd Credo Nicea,' yn Gymraeg. Goreu, Margaret Jones, Towyn ail oreu, Laura Ann Owen. Gwobrwywyd Catherine Pugh am ei gwroldeb wrth adrodd y Credo, o ddangos parch at yr Enw Sanctaidd yn ol hen arferiad dda a fodola yn yr E 1,llw3,s er's canrifau. Cystadleuaeth pedwarawd, Lord, we adore Thee.' Dau barti yn yrngeisio o Aberdyfi a Chorris-Corris yn iuddugol. Beirniadaeth y Parch. E. Hughes ar I St. Pedr,' traethawd i fechgyn ieuainc dan ugain oed. Gwobrwywyd Mr. M. E. W. Edwards, Towyn. Adroddiad, Y Sacramentau,' yn Gymraeg. Goreu, Laura Ann Owen, Penygraig ail oreu, Margaret Jones, Towyn. Saesneg, Elizabeth J. Edwards, Towyn. r, Beirniadaeth Mrs. Lewis, Ficerdy, Towyn, a Mrs. Davies, Ficerdy, Aberdyfi, ar droedio hosanau.' Goreu, Miss Clayton, Aberdyfi. Cystadleuaeth y chant 'Croft,' ar eiriau Psalm (55. Gwobrwywyd parti o Dowyn. Beirniadaeth Berw ar chwe' penill, Ymwel- iad y Dywysoges Beatrice ag Abermaw.' Echo yn oreu, sef Mr. J. Jones, Llanegryn. Ymweliad oedd hwnw yn haeddu ei echo drwy'r wlad. Anerchiad gan y llywydd-araith fer ac i'r pwrpas. Cystadleuaeth y don 4 Hosana,' emyn 540 casgliad y Canon Evans. Tri ch6r yn cynyg sef Cor Eglwys Towyn, Cor Eglwys Corris. a Chor St. Pedr, Aberdyfi. Yr olaf, dan arwein- iad Mr. E. R. Roberts, C.M., yn fuddugol. Adrodd Penodau 7 ac 8 o'r 'Holiadur.' Goreu, Gwen Roberts; ail, Catherine Pugh a Jos. Owen. Cystadleuaeth c6r o blant ar Teilwng yw'r Oen' (Hawkins). Gwobrwywyd c6r plant Aberdyfi, dan arweiniad Mr. Evan Davies. Adrodd Rhan 3 o Attodiad yr Holiadur Eg- lwysig.' Buddu wyr, (1) David Ellis, (2) Margaret Parry, (3) E. V. Jones. Cystadleuaeth unawd (tenor), 'If with all your hearts (' Elijah '). Dyfarnodd M. Cilwern Davies y wobr i Mr. H. Jones, Corris. Ar ol y diolchiadau arferol, terfynwyd cyfar- fod y boreu. Cynulliad rhagorol, a gwrandaw- iad astud. CYFARFOD Y PRYDNAWN a ddechreuwyd am ddau o'r gloch. Llywydd, Mr. J. Chidlow Roberts, Leahurs, Towyn. Ar- weinwyr, Gwynedd a Mr. E. Williams, Corris. Adrodd Penodau 4 a 5 o'r Holiadur.' Goreu, Laura Ann Owen, Penygraig ail, Evan Pugh, Brynciug. Beirniadaeth Miss Gilbertson, Bryndyfi, a Miss Jones, Bryntirion, Towyn, ar y sampler work 4 Y gwir yn erbyn y byd.' Goreu, Miss K. Owen, Corris. Cystadleuaeth deuawd, Lie treigla'r Caveri' (R. S. Hughes). Dau barti yn cynyg. Mri. H. Jones a R. Davies, Corris; a Mri H. Humphreys a J. Owen, Abergynolwyn, yn gyd- fuddugol. Beirniadaeth y Parch. E. Hughes ar y traethawd, Caniadaeth Eglwysig '—buddugol, Mr. J. R. Williams, Towyn. Adrodd y Benedictus,' yn Gymraeg. Gwobr- wywyd Gwen Roberts, Aber H. Jones, Corris; a M. Owen, Aber. Eto, yn Saesneg, Nelly Carter, a Lizzie Carter, Towyn a Ann Cotton, Corris. Cystadleuaeth, Can Simeon,' o drefniad Mr. Cilwern Davies. Tri pharti yn ymgystadlu, sef Abergynolwyn, Aberdyfi, a Chorris. Yr olaf yn fuddugol (parti o ddeuddeg). Beirniadaeth Berw ar y ddau englyn, Y Pwlpud. Goren, Dewi Gwernol, sef Mr. David Jones. Abergynolwyn. .Y Adrodd y Pedwerydd Gorchymyn,' yn Gym- raeg. Gwobrwywyd D. Jones, Nora Edwards, Corris; a Catherine Owen. Eto, yn Saesneg, Frank Morris, Aberdyfi a Fanny Morris, Towyn. Cystadleuaeth triawd, Duw bydd drugarog (Parry). Mr. J. W. Green a'i barti, Aberdyfi, yn fuddugol. Beirniadaeth y Parch. E. Hughes, Abermaw, ar y prif dracthawd, sef 'Hedydd.Gorel1, Mr. J. H. Williams, Towyn; ail-oreu, Mr. Owen, Corris a Miss Baines, Aberdyfi, yn gydradd. Adrodd y Nunc Dimittis,' yn Gymraeg. Gwobrwywyd David Jones, Mabel Ellis, a E. Julian Thomas. Eto, yn Saesneg, Puah Towena Williams, Towyn; a Mabel Dicks, Corris. I Llythyr disgybl at ei athraw.' Amryw i law.—Goreu, 'Bronwen,' sef Miss Jenkins, Aberdyfi. Unawd bass, Honour and arms' (.Samson). Dau yn ymgystadlu.—Goreu, Mr. J. Owen, Abergynolwyn. Cyfieithiad i'r Gymraeg. Mr. J. R. Wil- liams, Towyn, yn gydfuddugol ag un arall na ehawsom ei enw. Adrodd, I desire' (' Yr wyf yn erchi.') Gwobrwywyd Mabel Dicks, Corris; C. A. Thomas, a M. Lewis. Adrodd y Ddau ddyledswydd,' yn Gymraag. Gwobrwywyd Gwen Roberts, Joseph Owen, a Margaret Owen. Eto, yn Saesneg, E. Cotton, R. L. James, a Lizzie Davies. Anerchiad, gan y llywydd, Mr. Chidlow Roberts, yr hwn a ddywedodd, mewn byr eiriau, fod yn dda ganddo weled cynifer yu bre- senol i amddiffyn a chynorthwyo y mudiad, a'r lies a ddeilliaw o gyfaifodydd o'r fath. Cymerwyd dyddordeb nid bychan yn y brif gystadleuaeth gorawl, sefyr anthem, 'Arglwydd, par i mi wybod fy niwedd (Eos Llechyd). Yr oedd pedwar cor yn ymgystadlu, sef c6r St. Ily Cadvan, Towyn, dan arweiniad Mr. C. LI Davies cor Eglwys St. Pedr, Aberdyfi, dan ar- weiniad Mr. E. R. Roberts c6r Eglwys Llan- egryn, dan' arweiniad Mr. O. Jones a chor Corris, dan arweiniad Mr. W. Owen. Rhif pob c6r ddim i fod dros 40 roewn nifer. Dwy wobr, £ 4 a £ 2. Dyfarnodd Mr. Cilwern Davies gor Corris yn oreu, a chor Llanegryu yn ail. Cystadleuaeth dda a dyddorol oedd hon hefyd, ac y mae yn gredyd i Ddeoniaeth Wladol Estimaner fod ganddi gorau mor dda, ac ar- weinyddion mor fedrus. Dalier ati i gynal breichiau yr wyl, drwy hyrwyddo, ar bob achlysnr. paniadaeth Eg- lwysig, wrth ochr pa un y c;! 1'1. oaniadaeth arall i'r cysgod, a chael y ,;âll 'yso?rredig yn ne* i berffeithrwydd, yn felus i'r ;bl',t a'r teimlad, ac yn deilwng o'r gwrtliddrych i'r Hwn y perthyna. 0 Terfynwyd cyfarfod arall brwdfrydol a llwyddianus, a'r cynulliad yn foddhaol iawn Addurnwyd y buddugwyr yn y cyfarfodydd gan wahanol foneddigesan o Dowyn, Aberdyfi, Corris, a manau eraill, ac yr oedd y clerigwyr enwedig isod yn bresenol yn cynrychioli eu gwahanol ysgolionParchn. Titus Lewis, D.G., Towyn; It. Davies, Bryncrug; D. Hughes, B.A., Llanegryn T. Edwards (yr ar- weinydd), Abergynolwyn; J. Williams, Taly- llyn; O. F. Williams, Corris ac E. T. Davies, Aberdyfi. Os digwydd fod unrhyw wall yn enwau y buddugwyr, maddeued y eyfryw am hyny, a charem gael cywiriad o unrhyw gamgymeriad a all fod wedi ymlusgo i mewu yn ddiarwybod i ni. Yn yr hwyr, am 6.30, cynhaliwyd cyngerdd cysegredig, ond oherwydd fod yr amser wedi myned ymhell, ac adeg y cerbydresau i gy- chwyn i'r ddau gyfeiriad yn ymyl, nid oedd y cynulliad yn y cyngerdd mor lliosog, a gorfu- wydar yr arweinydd wyro yehydig yn yr am. seriad. &e. LIywyddwyd gan Mr. J. M. Howell. Cymeordd y personau canlynol ran yn y canu:—Misses M. Jenkins. R. M. Davies, M. O'Neill, Jennie Griffiths, Rowlands Mri. W. Williams, John Owen, Jones, H. Humphreys, M. W. Griffiths, E. R. Roberts, H. Gabriel; Mr. S. M. Jones a'i barti, Mrs. C. Ll. Davies a'i pharti, Mrs. J. R. Williams a'i pharti, a'r corau undebol. Ni phenodwyd lie y cynhelir yr wyl y Llun- gwyn 1891, ond lie bynag y byddo, gobeithio na adewir un garag heb ei throi i wneyd yr wyl yn llwyddianus eto y tro nesaf. Na ddigaloned y rhai na fuont lwyddianus. Cofiwch mai Perseverance is the precursor of success.' Ond cadw at yr amcan mewn golwg, nid oes achos llwfrhau. Ein harwyddair fyddo Excelsior,' a phob llwyddiant, ynte, i Gylchwyl Lenyddol Eglwysig Estimaner.-A.
CYFARFODYDD LLENYDDOL TY'NDAETHWY.
CYFARFODYDD LLENYDDOL TY'NDAETHWY. Ddydd Mawrth y Sulgwyn, cynhal- iwyd y cyfarfodydd uchod yn y Neuadd Drefol, Beaumaris. Llywyddwyd yn fedrus gan y Parch. R. H. Williams, M.A., Llansadwrn, y deon gwladol. Yr oedd y cynulliadau yn lliosog y pryd- nawn a'r hwyr, yr hyn sydd yn dangos y dyddordeb sydd yn cael ei gymeryd yn y symudiad gan gyfeillion yr Eglwys, ynghyd ag hyiforddiad i blant yr Ysgol- ion Sul yn y ddeoniaeth. Treuliwyd y prydnawn i adrodd a holi rhanau o'r Beibl a'r Catecism. Y beirniad oedd y Parch. W. Morgan Jones, Pen- maenmawr, yr hwn, am yr ail waith, a lanwodd y swydd fel ag i roddi boddlon- rwydd cyffredinol. Y peth cyntaf ar y rhaglen oedd ad- rodd 'Gweddi'r Arglwydd,' gan blant dan 7 oed. Gwobrwywyd Essyllt Mary Williams, Llansadwrn Rectory Lizzie Sheen, Beaumeris; Robert Jones a Samuel Jones, Llanfaes Edward Jones ac Owen Owen, Cremlyn Lodge, Llan- sadwrn. Yn nesaf, holwyd rhai dan ddeg oed, yn Nghredo'r Apostolion.' Y buddug- wyr, yn Saesneg, oeddynt, Archibald Henry Barton, Llansadwrn; ac Edith Davies, Llanfaes ac yn Gymraeg, Lewis Owen, Llansadwrn ac Elizabeth Mary Roberts, Llanddona. Am adrodd y Gorchymynion,' dyfarn- wyd yn oreu, yn Saesneg, George Hughes, Beaumaris ac Annie Davies, Llanfaes ac yn Gymraeg, Elizabeth Mary Roberts, Llanddona. Holwyd ar, ac adroddwyd y I Dyled- swyddau,' hyd at ddiwedd Yr wyf yn erfyn,' &c., a gwobrwywyd Hilda Bousor, Menai Bridge David Taylor, Llangoed John Thomas Ellis, a Margaret Edwards, Llansadwrn. Holwyd rhai dan IGoedyn y Catecism, a gwobrwywyd David Taylor, Llnagoed; William R. Evans, a Hugh Hughes, Llan- sadwrn. Am adrodd y Bregeth ar y Mynydd,' dyfarnwyd Francis Wynne Jenkins, Penmon ac Ellen Hughes, Llansadwrn, fel yn haeddu gwobrau. Am ddarllen rhan o'r Ysgrythyr, yn Saesneg, a ddewiswyd ar y pryd,—gwobr- wywyd Wilfrid Humphreys, Gertie Siddall, a Hilda Bousor, yr oil o Menai Bridge ac yn Gymraeg, rhanwyd y wobr rhwng William a Robert Lloyd, Llanfaes a'r goreu o'r genethod oedd Margaret Edwards, Llansadwrn. Dechreuwyd cyfarfod yr hwyr gyda 17, m chanig gan gor Eglwys St. Mair, Beau- maris, dan arweiniad Mr. R. L. Jones. Yna cafwyd anerchiad gan y Deon Gwladol. Olrheiniodd hanes y gym- deithas o'i dechreuad, a sylwodd ar yr anhawsderau oherwydd y ddwy iaitli. Rhaid oedd iddynt ystyried a pharotoi ar gyfer y Gymraeg a'r Saesneg, ac felly yr oedd treuliadau y gymdeithas yn fawr. Yr oedd, yn ol ei farn ef, yn ddyled- swydd ar bob Eglwyswr wneuthur yr Ysgol Sul yn ei blwyf mor effeithiol ag oedd bosibl, gan mai hi oedd meithrinfa yr Eglwys. Carai weled y lleygwyr yn cymeryd mwy o ddyddordeb yn yr ysgolion, a chaent weled, mewn amser ei fod yn waith sy'n d'od a'i wobr gyda,, ef. Yr oedd llawer wedi cyfranu yn hael at drysorfa y gymdeithas, trwy yr hyn Y galluogir y pwyllgor i roddi gwobrwyoii mor werthfawr, a gobeithiai y byddai i'r rhai hyny barhau eu cymorth a'ti dvdd- ordeb yn y mudiad. Wrth edrych ar weithrediadau y diwrnod hwnw, yr oedd yn falch i weled gwaith un flwyddyu yn rhagori ar y llall. Cynhaliwyd y cvfar- fod cyntaf yn Mhentraeth, yr ail yn Menai Bridge, a'r trydydd yn yr ystafell hono, lie y cyckwynwyd y gymdeithas trwy gvngerdd ardderchog i'w galluogi i gael arian i fyned ymlaen. Er fod°yr arian wedi eu gwario, hyderai, wrth weled y dorf o'i flaen, yn profi fod y cyf- arfod dan liawddogaetli prif foneddigion a boneddigesau Beaumaris, y caent yr hyn oedd angenrheidiol i eangu defn- yddioldeb y gymdeithas. Yn ystod y cyngerdd, canwyd deuawd gan Mrs. Hick a Miss Violet Ramsay, a chyfeiliwyd gan Mrs. R. E. Owen, Bulk- eley Place. Hefyd, rhoddwyd can gan Miss N. Pritchard; Miss D. Howell yn chwareu ar y berdoneg. Daeth ymlaen barti o blant o Benmon, y rhai, dan arweiniad Mrs. Kyffin, a gan- a:mnt yn swynol emyn a chanticle. Yr oedd Mr. R. L. Jones yn ei hwyl arferol gyda'i ganeuon yn Gymraeg a Saesnej, a rhoddodd Mrs. Lloyd-Worth a Mr. W. Owen Griffith eu gwasanaeth ar yr offerynau. Darllenodd y Parch. E. Owen, M.A., un o ysgrifenyddion y gymdeithas, feirn- iadaeth y Parch. R. Roberts, Llanfechell,, ar y traethodau, Dechreuad Cristionog- aeth yn Mhrydain. O'r 11awn wobr otl Is., rhoddwyd 15s. 9c. i Miss Timothy, Llansadwrn, a'r gweddill i Miss Thomas, Castle Street, Beaumaris. Daeth tri ymlaen i gystadlu ar ganu unawd yr oreu ydoedd Miss Pritchard, a rhoddwyd ail wobr i Mr. Dickson. Darllenwyd beirniadaeth y Parch. R. A. Williams (Berw) ar y pryddestau, Joseph o Arimathea,' ond o ddiflyg teil- yngdod, ataliwyd y wobr. I gystadlu ar ganu y 'Benedictus,' daeth corau Beaumaris a Llansadwrn yn mlaen, a rhanwyd y wobr rhyngddynt. Y beirniad cerddorol ydoedd y Parch. T. Lewis Jones, Si. David's, Bangor, yr hwn y tro y mantel o'r blaen, alwyr fodd- lonodd yr ymgeiswyr. C3 Ar ol hyn, darllenodd y Parch. E. Owen feirniadaeth y traethodau ar y testyn, 'Geirwiredd.' Y buddugwr oedd Mr. Reginald Wynne Owen, Llangoed Vicarage. I ganu I Ymdaith y Mwnc,' ni ddaeth ond un parti ymlaen, sef cor Eglwys Beaumaris, a rhoddwyd y wobr iddynt ynghanol cymeradwyaetli. Am y traethawd ar I Ddirwest,' rhodd- wyd haner y wobr i Mr. John Jones, Llangoed, a rhanwyd y gweddill rhwng Mri. William Lewis, Pentraeth, ac Owen Jones, Beaumaris. Mr. W. Lewis, Pentraeth, gafodd hefyd y wobr am y penillion i'r Llyfr Gweddi Gvffredin.' Y cor buddugol am ganu Gweddi'r Morwr' ydoedd cor Eglwys Llanbedr- goch. Y peth diweddaf ar y rhaglen ydoedd cystadleuaath gorawl rhwng corau Llan- sadwrn a Beaumaris, a rhoddwyd y wobr i'r olaf. Terfynwyd y cyfarfod drwy ddiolch i'r cadeirydd, a chanu yr Anthem Genedl- aethol.. Yr oedd yr holl drefniadau wedi eu cario allan gan bwyllgor Ileol, gyda Mr. William Griffith yn ysgrifenydd. Rhodd- odd Mri. Robert Griffith, R. L. Jones, Delamere, Henry Thomas, a W. Owen Griffith eu gwasanaeth i drefnu y cyfar- fodydd. Arwisgwyd y llwyfan a blodavu a phlanigion yn bur ddestlus gan yr Ar- glwyddes Ramsay a'r Misses Ramsay Mrs. Slater, Miss Ashurst, Mrs. Hick; Mrs. Ridsdale a'r Misses Ridsdale, a Mrs. R. E. Owen. Y clerigwyr yn bresenol oeddynt :—Y Parchn. R. Williams, Llansadwrn T. Ll. Kyffin, Llanfaes 0. Kyffin Williams, Penmon Peter Jones, Llanddona; H. Davies Owen, Penmynydd E. Sinnett- Jones, Llanddyfnan; David Jones a Jenkyn Davies, Llanfair P.G.; Robert Jones, Beaumaris W. Wynne Jones, Caernarfon T. Lewis Jones, Bangor W. Morgan Jones, Penmaenmawr J. Skinner Jones, Beaumaris Richard Jones, Menai Bridge, ac E. Owen, Llangoed. 0
DEONIAETH CAEREINION.
DEONIAETH CAEREINION. Cynhaliwyd cyfarfodydd cystadleuol yr Ysgol- ion Sul Eglwysig perthynol i Ddeoniaeth Caer- einion mewn pabell yn Llanfair Caereinion ar y 2tiain cynfisol. Yr oedd y babell yn orlawn. Arweinydd y ddau gyfarfod ydoedd y Parch. Morris Jones, curad Trallwm. Y CYFARFOD FRYIXVAWNOL. Dechreuwyd y cyfarfod prydnawnol drwy ganu yr emyn. 'Ffyddlon Filwyr Iesu,' ar y don St. Gertrude/ gan y gynulleidfa. Yna cafwyd anerchiad rhagorol gan y llyw- ydd, yr Hybarch Archddiacon Thomas, M.A., Meifod. Can gan y Parch. M. Jones. Cystadleuaeth adrodd y 'Ddwy Ddyledswydd,' i blant dan ddeg oed rhanwyd y wobr rhwng Martha Chapman ac Ethelwyn Reed, y ddwy o Lanerfyl. Cystadleuaeth chwareu ar yr harmonium dau ymgeisydd goreu, Mr. Llewtllyn Row- lands, ysgolfeistr, Llanerfyl. Beirniadaeth ar y traethawd, Y Tair Urdd Eglwysig goreu, Mr. D. Roberts, Llanerfyl. zll 11 Rhoddodd y llywydd ail wobr i Mr. J. G. Griffiths, Llangyniew. Cystadleuaeth i blant, dadganu yr emyn, 11 There is a green hill far away.' Naw yn ym- geisio rhanwyd y wobr rhwng Emily Proud- love, Pontrobert, a Polly Tudor, Llanfair Caer- einion. Cystadleuaeth darllen i blant dan ddeg oed goreu, John Woolam ail, Bennet Reed, y ddau o Lanerfyl. Can gan Miss Pattie Turner. Beirniadaeth ar yr hir a thoddaid, I Auanias a Saphira goreu, Mr. R. Ingram, o ysgol Garth- beibio. Cystadleuaeth adrodd yr emyn, There is a Friend for little children goreu, Bennet Reed, a rhanwyd yr ail wobr rhwng Ethelwyn Reed a John Woolam, y tri o Lanerfyl. Cystadleuaeth canu y Cantate Domino tri chor yn ymgeisio goreu, cor Llanfair, o dan arweiniad Mr. Lewis Evans. Yr oedd dau ar bymtheg o ymgeiswyr wedi. ysgrifenu Credo yr Apostolion,' a dyfarnwyd y cl wobr i Miss Slinsby, Llanerfyl. Cystadleuaeth adrodd 1 Samuel i. 17-27; goreu, Mary Ann James, Llanerfyl; ail, Mary H. Tudor. Llanfair. Am gyfansoddi emyn at wasanaeth eylchwyl Ysgolion Sul goreu, Mr. J. Ü. Griffiths, Llan- gyniew. Daeth dau gor o blant i ymgystadlu ar y 'Sleighing Glee' (Dr. ¡'arry) goreu, cor Llan- L' fair, dan arweiniad Mr. Harry Jones. Cystadlenaeth darllen Saesneg ar yr olwg gyntaf goreu, Mr. J. W. Roberts, Llanerfyl. I. I, Cystadleuaeth adrodd y 4 Te Deuin goreu, Ethelwyn Reed, Llanerfyl. Daeth tri o blant i gael eu harholi yn Hanes Abraham y fuddugol ydoedd Ethelwyn Reed, Llanerfyl. Cystadleuaeth unawd tenor; pump yn ym- geisio goivu, Mr. Jackson, Llangadfan. Can gan Miss Pattie Turner. Yna dygwyd gweithrediadau cyfarfod y pryd- nawn i derfyniad. Y CYFARFOD HWYROL. Dechreuwyd y cyfarfod hwyrol trwy ganu yr Emyn, The Church's one foundation,' gan y gynuUeidfa, yna anerchiad dyddorol aphwrpasol gan y llywydd, Mr. W. Forrester Addie. Can gan Mr. Jackson, Llangadfan. Cystadleuaeth adrodd y ddau ddyledswydd, i blant dan 14eg oed-goreu, Martha James, Llanerfyl ail, Emily Watkins, Llanfair trydydd, David Andrew, Llanfair Beiruiadaeth ar yr hosanau—rhanwyd y wobr rhwng Miss Harriet Davies, Goat Hotel, a Miss Jones, Bee Hive House, Llaufair. Cystadleuaeth canu Can Simeon' (T. C. Davies, Dinas Mawddwy)—goreu, cor Garth- beibio. 0 Berniadaeth ar y duchangerdd i'r Meddwyn' —goreu, Mr. Tom Jarvis, Drefnewydd. Cystadleuaeth chwareu y berdoneg—goreu, Miss Polly Tudor, Llanfair. t, Cyfansoddi ton ar yr Emyn 254 A. & M.— rhanwyd y webr rhwng dau yn dwyn y ff ug- enwau Einion '.a Craun,' ac ni atebasant i'w henwau. Cystadleuaeth unawd (soprano) 'Gogerddan,' allan o 'Son:!s of 'Vales '-rhallwyd y wobr rhwng Miss Mary Evans, Garthbeibio, a Miss Sarah Jones, Llangadfan. Am y traethawd goreu ar hanes y Brenin Saul —goreu, Miss Slinsby, Llanerfyl. Am ddarllen Cymraeg ar yr olwg gyntaf, rhan- wyd y wobr rhwng dau frawd, David a John W. Roberts, Llanerfyl. Un parti ddaeth i ganu yr emyn Fierce raged the tempest,' a chawsant y wobr, sef parti o Lanfair. Adrodd y Te Deum (i blant dan 14eg oed)- goreu, Lizzie Chapman, Llanerfyl ail, Mary James, Llanerfyl. Darllenwyd y feirniadaeth ar yr atebion ysgrifenedig, a dyfarnwyd y wobr fel y caulyn —Genesis—goreu, John W. Roberts, Llanerfyl. Actau—goreu, John Jones, Llanfair ail, John W. Roberts, Llanerfyl. Y flwyddyn Eglwysig —goreu, John W. Roberts, Llanerfyl. Cystadleuaeth canu y ddeuawd Y Ddau Wladgarwr (Dr. Parry)—goreu, Mr. H. Jones, Llanfair, a Mr. E. Roberts, Llanerfyl. Can gan Miss Turner. Adrodd Actau xvii. 22—32—goreu, J. W. Roberts a Susan Richards, v ddau o T-mcrfvl Cystadleuaeth unawd (baritonr-) 'l\i;rfa Rhudd an (- Songs of Wales )—„oreu, Mr. David Roberts, Llanerfyl. Araith ddifyfyr testyn y I Babe',l 'oreu, Mr. David Roberts, Llanerfyl. Am y traethawd goreu ar Yr Ysgol Sul'— goreu, Mr. Jackson, L!angadfan. Cystadleuaeth canu yr emyn Pan doro'r wawrddydd lan '—goreu, parti o Garthbeibio. Am yr englyn goreu i Glochdy Liaiif air- goreu, Mr. Hugh Ellis, Llanerfyl. Chwibanu y don Gorhoffedd Owaiu Cvf eil- iog '—goreu, Mr. D. Roberts, Llanerfyl. Yna daeth y brif gystadleuaeth £ oi\iwl, Blodeuyn I ach wyf fi mcwn gardd (Gvrilvm gwent), tri chor yn cystad.'u, sef ctr Lanfair a Llangyniew, dau arweiniad Mr. J. G. Griffiths cor Garthbeibio, dan arweiniad Mr. Edmund Jones, a chor Llanerfyl, dan arweiniad Mr. D. Roberts. Dywedodd y beirniad fod y corau wedi canu yn dda iawn. yn enwedig y ddau olaf a enwyd,. ac fod yn anhawdd iawn iddo bender- fynu pa un oedd yn fwyaf teilwng or wobr, ond credai fod cor Garthbeibio y^i rhagori mewn rhai pethau, ac felly cawsant y wobr. Y wobr am y Son onen oreu a ranwyd rhwng Mr. William Lloyd, Llanerfyl, a Mr. IC. Humphreys, Manafon. Can gan Miss Turner, yna terfynwyd y cyfar- fod trwy ganu yr Anthem Genedlaethol. TAXAD.
BWRDD YR ADOLYGYDD,
BWRDD YR ADOLYGYDD, -u_ "GRISIAU'R DEML," XEU "OltDlIsHADAU TY DDUW," gan y Parch. N. Thomas, u- ficer Llanddarog. Caerfyrddin W. Spurrell a'i Fab. Pris, Is. 6c. Mae'n eglur mai ffrwyth profiad ydyw y gyfrol ddestlus a ddaivfonwyd i'w had- olygu gan Ficer parchus Llanddarog. Y zn 11 mae yr awdwr, fel ugeiniau o otfeiriaid eraill, wedi teimlo angen llawlyfr i'w roddi yn nwylaw ei ymgeiswyr am Gon- ffirmasiwn o flwyddyn i llwyddyu, yr iaith Gym racy, a chan ei fod wedi metliu cael un, penderfynodd ymgymeryd a'r gwaith o ddwyn un allan ei hun. Yn ddi-betrus gellir dweyd fod llwyddiant perffaith wedi canlyn ei ynidrecliion. Y mae trefniad a chynllun y llyfr yn odidog, yr iaith yn syml, coeth, a gwir Gymreigaidd, a'r addysg a gyfrenir yn hy, liod gyflawn ac i'r pwrpas. Yn nosbarth y Conffirmasiwn bydd "Grisiau'r Demi yn anmhrisiadwy werthfawr, a plian yn parotoi ymgeiswyr gogyfer a'r Sacrament zn o Fedydd, ac yn arwain y conllirmiedig ymlaen at Sacrament y Cymun Hendigaid, y mae yn sicr genym y caiff yr ymgeis- ydd yn ogystal a'i at-liraw gynorthwy pwysig drwy arfer y gyfrol hon. Fel rhodd neu wobr, ar unrhyw achlysur, nis gellir cael llyfr mwy pwrpasol na Grisiau'r Deml." Hyderwn y caiff yr awdwr galluog bob cefnogaeth gan ei gyd- Eglwyswyr, yn lien a lleyg, ac y gwelir Grisiau'r Demi ymhob anedd Eglwys- ig yn Nghymru. INIAWL A'TH ERYS DI YN SION, 0 DDUW." Anthem i'r Cynhauaf, gan y Parch. W. Howell (Hywel Idloes), Ficer Gartlibrengi. (Pris ik., Sol-ffa, 2c.) Derbyniasom gopi o'r anthem uchod oddiwrth yr awdwr, gyda cliais am ad- olygiad yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH. Y mae "Hywel Idloes" yn adnabyddus trwy Gymru benbaladr fel cerddor o'r iawn ryw, ac yr ydym yn teimlo braidd &I'.J.1 yn swil wrth ymgymeryd a'r gwoitli o adolygu ei gyfansoddiadau. Am ei anthem olaf, gellir dweyd ei bod yn wir deilwng o'r awdwr, a'r amcan lllCWll golwg, sef cynyrchu cyfansoddiad priodol gogyfer a Gwyl y Cynhauaf. Dylasai ein corau Cymreig ddysgu yr anthem swynol lion. Ceir ynddi ddigon o amrywiaeth, a hyny heb anghofio a sathru liawliau gwir gerddoriaetli dan draed. Y mae arddull y cyfansoddiad yn hollol Gymreig, ac y mae Iw dyladwy wedi ei dalu i allu- oedd ein corau gwledig. Nid oes amheu- aeth genym nad oes cylchrediad helaeth yn aros yr anthem felusber hon.
YR YSGRIW YN NACAU GWEITHIO.…
teyrnfradwyr a gelynion proffesedig eu fTwlad ? Nid oes un ddadl nad y pender- fyniad hwn yw y mwyaf ymarferol a basiwyd erioed gan y North Wales Liberal federation (na bo ond ei grybwyll) fel ycigais i gyflawni hunanladdiad gwleid- yddol. Nid yr hen Eglwys yn Nghymru a grogir ar y crogbren hwn, ond yr [ Hainan Dadgysylltiol. A chaniatau, er mwyn ymresymu, fod Mr. GLADSTONE y Yn alluog i basio Mesur o Home Rule i'r hverddon, cymerai hyny flynyddau o amser y Senedd, yn marn ei ganlynwyr p^wyaf ffyddiog, a dau neu dri o ethol- L ladau cyffredinol. Nid yw son am basio r j^esur i Ddadgysylltu a Dadwaddoli yr Eglwys yn Nghymru yn gydfynedol a lwesiir o Ymreolaeth i'r Iwerddon yn dclim amgen na breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys. A yw y teilwriaid gwleid- yddol hyn, y rhai a gymerant arnynt Synrychioli cenedl y Cymry, yn tybied, lIlewn difrif, mai chwareu plant ydyw rhwygo yr Ymerodraeth Brydeinig ac Jsbeilio hen Eglwys y Cymry o'i gwaddol- ladau cyfreithlon ? Os ydynt, y maent Yn wrthddrychau i dosturio wrthynt. Tri yn unig o aelodau Radicalaidd Cymru a ddarfu ymostwng i ateb y cylchlythyr a anfonasid iddynt gan awdurdodau y Cenedl Gymreig! Yr oedd eu hym- dygiad, a dweyd y lleiaf am dano, JPyn yn anghyson a rheolau moes- ffrrwch a boneddigeiddrwydd ond, fodd h, judg, nis gallwn lai nag edmygu eu aHnibyniaeth a'u dynoldeb (manliness). ywed y doethaf o ddynion-" Na ateb YnfYd yn ol ei ynfydrwydd, rhag dy fod Yn gyffelyb iddo." Gwnaeth y pedwar- ae^od-ar-hugain gwrthnysig ac anufudd y^ Hygad eu lie. Y triwvr a fuont wasaidd a gwlanenaidd ag ateb y J Ichlythyr ymyrgar a diraddiol hwn eddYnt- Mri. ARTHUR J. WILLIAMS, LL. DILLWYN, ac ALFRED THOMAS. Yn 8l<k' i'r ^en wrach Oenedl-aethol ^cO-\vaiiegu enwau y tri wyr defosiynol a i°frydig hyn at lechres y seintiau Dad- sYlItiol, a boycottio yr anufuddion. ld yr aelodau Radicalaidd dros Gymru Y" unig sydd yn teimlo yn anewyllysgar 1 Symeryd eu rhwymo wrth olwynion y Sgernaut o Gaernarfon, ond yr ydym jn cael fod gwahaniaeth barn mewn perthynas i'r priodoldeb o rwymo yr aelodau, a bod rhai yn dadleu, ar dir i>e8°.^ek ^w^idyddol, fod hawlio ym- ymiad oddiwrthyn yn annheilwng, ac ai doethach fyddai gweithredu ar yr eix linellau." Ond gwrandewch beth a ddywed Syr Oracle ar hyn :—" Ein onest ni (sic), er hyny, ydyw, mai trwy fabwysiadu y penderfyniad y bydd- Wn debycaf o ddwyn oddiamgylch Ddad- gysylltiad, ae nid ydym wedi dyfod i'r f artlhon heb fod genym resymau cryfion ^°s hyny." Da iawn, can belled ag y I ae yn myned. Wei, gadewch i ni glywed Y "rhesymau" dros rwymo yr aelodau th y program Dadgysylltiol. "Yn y ily fo4c^af, y mae genym brawf diymwad rhwymo aelodau wrth brogram neill- Tuh J11 llwyddianus. Ceir hyn ^aUes yr Iwerddon. Nid oes neb a wykodaeth ° wleidyddiaeth a y buasai y Gwyddelod wedi i beri 1 Mr* GLADSTONE gymeryd achos hwy mewn llaw, pe na buasai atn benderfyniadyr aelodau Gwyddelig i e<^u yn y Ty yn annibynol ar y Mr- GLADSTONE sydd t*e h Ymreolaeth i'r Iwerddon. j^asai y blaid Wyddelig wedi dal yn 011 i Mr. GLADSTONE drwy'r tew a'r n* buasai son am Ymreolaeth o Gwir mai Mr. GLADSTONE sydd bro^1 ^od yn offeryn i ddwyn y mater ger- fe ^ene<id a'r wlad mewn modd ymar- y • Er hyny, rhaid cofio mai stratagem, orf wnaeth y fath gwrs yn Crv ar ran cyn-Brif Weinidog." yd lr gair. Ein dadl ni bob amser Mr. GLADSTONE wedi dwyn i ei Fesur o Home Rule i'r Iwerddon y p Avgnvobrwyaeth i sicrhau cefnogaeth i a^lelliaid, ond ni fuasem yn disgwyl gyd °'i gefnogwyr mwyaf gwasaidd n8h i 0(1 Mr* GLADSTONE, yn h^lrwydd a gonestrwydd yr ymffrostir cymaint, wedi dwyn er 8i ^esur i rwygo yr Ymerodraeth au pleidleisiau gelynion ei wlad dev ^ADSTONE yn gwerthu ei hun i Sty |radwyr er dringo ar eu cefnau i ethoi* I^ywedodd Mr. GLADSTONE yn 0 la(^ 1885 fod yn rhaid iddo gael cant cyjj ^afrif yn annibynol ar y Parnelliaid e^e ddwyn ymlaen ddeddf- V eth mewn modd effeithio1- en° r* ^LADST0:sTE yn unig a fu. yn %ddf ^nu ar egwyddorion y blaid ^yu\v r ond aeth nifer mawr o'i gan- y bor^r-fe^ deade^ 0 ddefaid ar ei ol dros Iiir< p 1 r ^ifeiriant Gwyddelig Nid re°jAET^A^TONE sydd wedi dwyn Ym- ^'r Iwerddon." Nid oes neb ac Ymreolaeth i'r Iwerddon eto, 0Ul)g^e cynlluniau Gwyddelig Mr. gWy^t °NE wedi eu gwasgaru i'r pedwar ^rdel Aiff yr erthygl y11 y Genedl ymlaen i roddi C'ytur^11 era^^ dros rwymo yr aelodau Pro^ram Dadgysylltiol, 1 aroYi] y nioddion mwyaf effeithiol 0 ddif •<le^d^ ^-r> GLADSTONE fod Cymru ae j ri. ^11 ei hapel am Ddadgysylltiad, blaic| t>1Cr?lau cefn°gaeth blaenoriaid y erthvry] J r^dig- Digalon yw ton yr aC' yn Bicr' y mae yn yd i r doethion "roddi eu penau ynghyd." Dywed hen ddihareb Seisnig fod dau ben yn well nag un, pe na baent ond penau defaid. Ond ein cred ddi- ysgog ni ydyw y troir cyngor AHITOPHEL yn ffolineb, ond nid ydym yn dymuno i'w diwedd fod yn gyffelyb i eiddo y bradwr hwnw. Gall Eglwyswyr Cymru fforddio bod yn drugarog wrth eu gelyn- ion, gan ymddiried eu hachos i'r Hwn sydd yn eistedd ar y llifeiriant.