Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

LLANBERIS.

News
Cite
Share

LLANBERIS. Nos Fercher, yr 21ain cynfisol, cawsom y fraint o glywed ail ddarlith Ficer Dolwyddelen, ar yr Eglwys Brydeinig, yn y Concert Hall. Yr oedd yr adeilad eang bron yn llawn, a rhoddwyd gwrandawiad astud a boneddigaidd i'r darlith- ydd. Yehydig wythnosau cyn hyny, yr oeddem wedi clywed ei ddarlith agoriadol yn Nhy'r Clwb, yn yr hon y cawsom hanes yr Eglwys o'i dechreuad yn y wlad hon hyd esgyniad William y Conewerwr i'r orsedd, O.C. 1066. Prifamcan y ddarlith flaenaf, fe debygem, oedd gwrthbrofi yr haeriad mai Eglwys estronol yw yr Eglwys Sefydledig yn y wlad hon. Gwnaeth ei bwnc yn eglur iawn i foddlonrwydd y mwyaf an- wyb )dus, a dangosodd ei bod yn fwy priodol o lawer i alw yr Eglwys yn Lloegr yn Eglwys Cymru yn Lloegr, na galw yr Eglwys yn Nghymru yn Eglwys Loegr yn Nghymru. Prif amcan yr ail ddar ith oedd, gwrthbrofi yr haer- iad mai yn amser y Diwygiad Protestanaidd y cafodd yr Eglwys Sefydledig ei dechreuad yn y wlad hon, ac mai yr Eglwys Babyddol oedd yma cyn hyny. Profodd ei bwnc yn drwyadl, a byddai yn dda iawn genyf pe gallwn ei gosod i lawr air am air fel y'i traddodwyd. Nid wyf eto wedi gweled yr un ffordd mor effeithiol i am- ddiffyn yr Eglwys yn erbyn haeriadau disail ei gwrthwynebwyr. Yr wyf yn gobeithio y bydd i bob plwyf yn yr esgobaeth, cyn hir, gael y fraint o glywed y ddwy ddarlith yn cael eu tra- ddodi. Mae y rhesymau a ddefnyddir yn hynod o argyhoeddiadol.-P.O.

CRYNANT, GER NEDD.

LLANWENOG.

DEONIAETH EIFIONYDD.

HENEGLWYS.

RHYL,

ABERYSTWYTH.

LLANGYFELACH. !

Ymwcliad Esgob Derry a Llanelwy.

Dinbych a'r Cylchoedci.

Advertising

YR YSGRIW YN NACAU GWEITHIO.…