Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
AMRYWION.
AMRYWION. p, y igeg o Fai, yn Nhal-y-coed, Sir Bynwy, rhoddodd priod Joseph Alfred radney, Ysw., enedigaeth i ferch. ^rglwydd Windsor sydd wedi cael ei yn Arglwydd Raglaw dros Sir yn lie y diweddar Mr. Talbot, b DdYdd Sul diweddaf, yn Sutton-on-Sea, Co?inwraig o'r enw Mackinder bron s enwyno teulu cyfan drwy ^ymysgu BUT?C y Pwdin a barotoai i giniaw. tarw y fenyw am io o'r gloch nos Sul. Y No mae y gwniadyddesi yn Stavanger, ha 7ay> yn bygwth streico. Yr hyn a "ant ydyw deuddeg awr, o saith yn y ha CU saith yn yr hwyr, gydag awr a „ ,?r i giniaw. Gofynant, hefyd, am yn eu cyflogau. • Yr g oedd dau hogyn yn cweryla yn ddvHH ^ane» Dwyreinbarth Llundain, yr • Sul diweddaf, pan y trywanodd °e(jle^engaf ei gydymaith, 15 mlwydd yr chyllell. Y mae y clwyfedig yn yspytty, a'r ymosodydd yn y ddalfa. y awY mae rhyw foneddiges frwdfrydig wedi ry rhe y dylai menywod Prydain an- cllWen ¥r' .Stanley a'r agerlong ag y ^Va a e* chael ar lyn mawr y Victoria ?Za yn Affrica, ac v dylid galw yr 8 °ng yn ''Dorothy Tennant." y f0n y Cardinal Manning wedi dan- Pjp *^5 at Drysorfa Dystebol y Tad h;r'- Dowla;s; ac wedi datgan ei todd- y y niodd llwyddianus a difrifol ag e yr hybarch dad wedi cario yn Waith ei eglwys yn yr ardal. Y m ^jSs ae priodas Mr. H. M. Stanley & ddyj. °r°thy Tennant i gymeryd lie ar Hesaf ^a^Wrn> y i2fed o fis Gorphenaf y Dr'rn haner awr wedi un o'r gloch yn Bydd T^Wn' yn Westminster Abbey. breSp ywysog a Thywysoges Cymru yn n°l ar yr achlysur. y PrgW-e^r mai can hoffusaf ei Mawrhydi silij ydyw, "And ye shall walk in gwiSp. 1re" .(" A chwi gewch rodio mewn i°l, & sidan"), awengerdd serchgynhyrf- Ysgrifenedil- gan Susanna Blamire tua •V ^^1 yn °** ^ae &e^r^au y §^n Z5 rriic yn y Farmers' Magazine am y S Phenol (Mehefin). Vm Llanei36 yTra Pharch- J°hn Owen, Deon bwyii Wy> wedi ei benodi yn aelod o y weinyddol (executive committee) Y deithas Amddiffynol Eglwysig. gynliuwybodaeth ymarferol helaeth o y niau gelynion yr Eglwys yn Nghy- deitha1 SlCr 0 *"ot* yn fantais fawr i'r gym- Yn eu hymwneyd A Chymru. aSerfo^ ^lun diweddaf, cyrhaeddodd yr Vo^ Brydeinig "Exeter City New grivv £ ryste. Yr oedd ar ei bwrdd hon o JI S" Norwegaidd "Louis," yr ruthfty Wec^ cae' hanalluogi gan borth Goddefodd y criw afsiau ym- ac yj.aiTl wythnos cyn yr achubwyd hwy, tori, 0et*d dwy fraich y cadben wedi eu V ———— ffurfio ae cynideithas hynod yn cael ei ad\vy S^-L^er^n §"an foneddigesau priod- yn erbv n ceis"'° amddiffyn eu hunain )^ydd. Pr'°dasau annarbodus ac anned- chw. YWna-Jr gymdeithas ei goreu i foeso, 10 1 mewn i sefyllfa gymdeithasol, br'inH^ ar^ano^ unrhyw foneddwr fydd yr holl f 1 °'r ae^°dau. Yna, gosodir a ^ende^n^^°n 0 ^aen yr aelodau, y rhai Saiflp ^ynant drwy bleidleisiau pa un a Peidio °neddwr yr aelod dewisedig ai Yr f^eithas^S.yn d.ymuno hysbysu fod Cym- ^e,1°di A* m^ffynol yr Eglwys wedi enydc*y hy'sgrif- nto yn r ^ymru) ac y gellir ysgrifenu v ranville Street, Shrewsbury. ^rhyw11 ^a Sanddo dderbyn oddiwrth addo Un a fyddo cystal a'u danfon ydd yr p ^vvybodaeth am waith a chyn- ■ym°sod5 f Wy§- 2* Gwybodaeth am yr 0 adau ar yr Eglwys. 3. Pigion ^arlith;eWydd'aduron- 4- Ceisiadau am ?,s§Tifiacjau' cyhoeddiadau, &c. 5. Tan- ^ro^ au a chyfraniadau tuag at y ^ymreig. Chydj ?evsryddi h atnser yn ol, danfonodd y ynwyr ur a elwir Woman at ei dder- °reu i <4Pa bryd yw yr adeg 0 483 0.reth bri°di ?" Yr oedd y mwyafrif 1?" oedra arn mai pump-ar-hugain oedd ugain. ny?°reu, neu ddim cyri un-ar- ^Wydd mae geneth bump-ar-hugain f r ^yd ° Wedi gweled rhyw gymaint arnu Cymac. wedi cael amser a chyfle i ^e^law; eriadau ac arferion dynion ac un. t)v^ny' 3r mae wedi dysgu deall ei v ^Oeth o un gohebydd nad oedd P 1 pwv bump-ar-hugain yn abl i GOhebYds a gofalon bywyd teuluaidd. "pan jy.a^afarnai mai yr adeg oreu ^ae o h u^r ar draws y dyn iawn." cyfam0^ mawr i fab a merch beidio n»6s y«iediU S"51ydd mewn priodas hyd U Pe0an n &yc^wyn y daith heb fod u 0 dan y dwfr. Yn ■— llavv> &anWe^^ar' gymerwyd mewn ;at udcilan 7 Fic.er a'r Wardeniaid, yn tarigael Oro-LgWaith 0 ?as&lu arian tuaS V t?derbv newydd. Cafodd y symud- "y croesawus, a chyfranodd >v^ddirjgj yr yn haelionus ac ewyllysgar. ^ydy gwaith i Mr. J. Bellamy, di-^1 yn ajj n sy^d wedi cyflawni ei ^loo derchog. Yr oedd y draul s sydd y mae yno yn awr organ Yo deilwng o'r eglwys henafol. Cynaliwyd gwasanaethau neillduol yno ddydd Sulgwyn. Pregethodd yr Esgob yn y boreu, yr Archddiacon Williams yn y prydnawn, a Deon Llanelwy yn yr hwyr. Yr oedd y pregethwyr yn eu hwyliau goreu, a chafodd y cynulleidfaoedd mawrion eu cwbl foddloni. Yr oedd y gwasanaethau yn gorawl, ac yr oedd y cor yn canu yn ardderchog. Bydd yr organ newydd yn gymhorth mawr i'r cantorion a'r gynull- Z, eidfa yn gyffredinol. Nos Wener diweddaf, aeth Mr. Thomas, ysgolfeistr, Cwmifor, Llandeilo, yn fuan ar ol gadael yr ysgol, i lan yr afon Towi i bysgota. Gan na ddychwelodd adref yr un amser ag yr arferai, aethpwyd i chwilio am dano. Cafwyd ei gorff marw, ar dor- iad y wawr dranoeth, yn agos i lan yr afon. Bernir mai dolur y galon achosodd ei farwolaeth.
Dylanwad y Pwlpud Cymreig.
Dylanwad y Pwlpud Cymreig. Mae llawer un, o adeg i adeg, wedi dywedyd ei feddwl, a thraethu ei farn a'i feirniadactli ar y testyn uchod. Credir a dywedir gan nifer fawr iawn 0 bobl fod yr hyn a draethir o'r pwlpud-os bydd yr hyn a draethir yn cael ei ragflaenu gan adnod neu adnodaii o'r Beibl- mor uniawn a chywir a'r deg gorcliymyn, ac fod y canlyniadau, o angenrlieidrwydd, yn dylanwadu er gw-ell ar y gwrandawyr. Yr ydym wedi clywed y pregethau goreu a gwaethaf, neu waelaf a bregethwyd mewn gwahanol fanau yn Nghymru a Lloegr er's blynyddoedd bellach. Wrtli wrando ar un dosbarth, ireiddir y meddwl a'r enaid ond y dosbarth arall a effeithia fel rhyw blast, a chrina a, gwywa yr ollo'i amgylcb. Mae yn angenrheidiol i ddyn fod yn feddianol ar lawer iawn o r/is cyn y gall ddal yn ei wyrdd- lesni crefyddol o flwyddyn i flwyddyn, pan yn byw o Sul i Sal dan ddylanwad rhyw gymysg- edd o eiriau wedi eu sawru yn gryf o hunanol- deb y llefarwr a phan y datgnddir yr hunan- oldeb hwn o bwlpud, mae yn dyfod yn fwy gwrthun nag mewn un lie arall. Dringir i bwlpudau gan lawer o ddynion, a llwyddant i berffeithrwydd yn yr amcan sydd ganddynt mewn golwg, sef rhoddi eu hunain yn flaenaf ac yn olaf eu hunain yw eu gwir destyn, er y ceisir ei glogino ar y dechreu gan ran o Air Duw. Pan yr ystyriwn beth yw gwir amcan pregethu yr Efengyl a'i gydmaru a'r hyn sydd i'w glywed yn ami iawn—a'r hyn sydd i'w glywed eto wedi ei gysylltu ag agwedd ac ym- ddygiad y llefarwr neu y pregethwr, ni allwn lai na synu a rhyfeddu am hir-amynedd Duw yn arbed y rhai hyn, unig amcan pa rai yw ceisio enill eymeradwyaetli eu gwrandawyr—yr hyn a ddefnyddiant er mawrhau eu hunan-glod a phesgi eu hunanoldeb. Nid hyn yw pregethu yr Efengyl, ond gelwir ef yn bregethu wedi'r ewbl-progetliu dynion yw, neu ddynion yn pregethu eu hunain, a gwnant hyn o bwlpudau, a'r pwlpudau hyn eto sydd o fewn muriau y rhai a. elwir yn "Demlau Duw "-temlltti y rhai sydd wedi eu neillduoli, eu cysegru i ddyn- ion i addoli Duw ynddynt temlau pa rai sydd wedi eu bwriadu i fod yn drigfan i Dduw yn ei Ysbryd, yn cael eu llanw a swn a dwndwr dyn- ion yn adverteisio eu hunain, a mwyaf y swn hunanol, mwyaf y dylanwad—dylanwad byr ei barhad, dylanwad twyllodrus a ffugiol, dylanwad er gwaeth, er dinystr a distryw. Er fod y "dylanwad" hwn yn dwyn gwisg grefyddol, a thyfa yn ol graddau anwybodaeth dynion—dy- lanwad er gwaeth a ddywedwn, argraff pa un a a erys yn ei hyllni, a'i hylldra yn gydymaith priodol yn ei barhad i wobr rhagrith. Mae yr hyn yr ydym yn cwyno o'i achos yn beth mwy cyffredinol nag y mae llawer un erioed wedi ei amgyffred. Dygir y "grefft" annnwiol hon ymlaen gyda deheuder a medrusrwydd mawr, oblegid dynion cywrain sydd wrth y gwaith. Gwelsom rai dynion yn dangos cyfrwysdra lleillduol yn y cyfeiriad hwn, y dagrau wrth law ar y rhybudd cynfcaf, agweflentmorrhwydd ag yr ehed awel y boreu, maent yn flodeuog mewn gweniaeth, ac yn gyfoefchog mewn ftug- sauctdiddrwydd-yr oil er mwyn mawrhau eu hunain, ac hefyd dygir y sleight-of-hand crefyddol yma ymlaen ar draul eneidiau dynion. Mae yn amlwg i bawb a fyn agor ei lygaid ac edrych o'i gwmpas fod efengyl y rliagrith yn ddylanwadol iawn yn ein gwlad y dyidiau presenol, mae dynion wedi eu swyno i gysgad- rwydd dan swn a gwenau Phariseaeth y pwlpud. Mae y counterfeit yn ami iawn yn fwy disglaer a gloyw na'r genuiiie, a mawr yw y diwyd- rwydd sydd yn ofynol er mwyn ei gadw yn ei ddisgleirdeb, er mwyn dallu Ilygaid y rhai hyny sydd yn eu hanwybodaeth mor lioff o'r allanol. Yr ydym wedi clywed lawer gwaith un dyn yn dweyd am y Hall—" Dyma weddÏwr i chwi- mae yn agos iawn i'r nefoedd pan ar ei liniau," ar, ol clywed rhyw liir-besycliiad o frawddegau di-synwyr yn dylifo o gegau dynion, buchedd a rhodiad pa rai sydd golofnau eglur nad ydynt erioed wedi bod yn feddianol ar deimlad Crist. ionogol. Mae dynion o'r cymeriadau hyn wedi byw a bod yn mysg, ac wedi ymrwbio wrth eu gilydd am flynyddoedd, nes o'r diwedd y llwyr gredant mai hwy ydynt halen y ddaear, pan nad ydynt, mewn gwirionedd, ond beddau yn llawn esgyrn. Yr ydym wedi gweled a chlywcd rhagor nag un- waith bwlpmdwyr hunan-gyfiawn, pan yn dechreu cyfarfod, yn ymgymeryd a'r gwaith o ddarllen penod, fel y dywedir, ac ar ol di- weddu darllen, yn dechreu rhoddi tipyn o eglurhad"—nid eglurhad ar y benod, ond eglurhad arnynt hwy eu hunain. Dechreuir yr anerchiad yn ami iawn trwy ddweyd-" Nid oeddwn wedi meddwl am ddim neillduol heno, wyddoch chwi, i draethu arno. Nid oeddwn wedi meddwl darllen un benod fwy na'r Hall, na chwaith wedi meddwl pa beth a ddywedwn cyn y funyd hon, ond ceisiaf fyned yn y blaen fel y bydd yr ysbryd yn rhoddi i mi ymadrodd ac arweiniad." Yr amcan mewn golwg gan ddynion o'r stamp yma yw ceisio dylanwadu ar anwybodaeth eu gwrandawyr eu bod hwy yn feddianol ar radd helaeth o ddysgeidiaeth a pharodrwydd ncillduol i lefaru ar unrhyw ran o'r Beibl heb un astudiaeth na myfyrdod blaen- orol. Clywsom unwaith ddyn yn llefaru, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoddi iddo ymadrodd," mewn modd hynod, er mwyn ceisio argraffu ar feddyliau ei wrandawyr uchelder y sefyllfa ysbrydol yr oedd ynddi. Mae llawer o bobl yn y byd yma," meddai, yn euog o wahanol droseddau a phechodau, fel y dywedwn, yn syrthio. Yr ydym wedi gweled llawer yn syrthio, a mynea yn isel iawn, chi wyddoch chi. 'Stim gyda ni neid a nw. Fuse yn beth mowr pe b'ai un o honoch chi yn syrthio nawr. Fuse gyda ni neid dim a chi wed'yn, cofiwch. Dynion respectable ydym ni, ond meddyliwch taw ni (fi) yn syrthio nawr, dyna i chi gwymp, bobol- dyna ddyfnder mewn cwymp, bobol-fi yn syrthio, rw'i bron a meddwl na chawn faddeu- ant, wyddoch chi. Dyna gwymp, bobol Wrth wrandaw ar y dyn y cyfeiriasom ato uchod yn parablu ei hunan-sancteiddrwydd o flaen ei wrandawyr, yr oeddem yn gobeithio mai breuddwydio yr oeddym ond nid breuddwyd oedd, yr oedd yn engraiift fyw o Phariseaeth yn ngrym ei digywilydd-dra, yr oedd yr olygfa yn un y cofiwn am dani hyd ein bedd. Yr ydym wedi clywed dywediadau o'r natur uchod gan ddynion nad oes yr un engraifft ar guf na chyfrol eu bod erioed wedi dangos yr un tehnlad Cristionogol, na chyf- lawni yr un weithied gymwynasol tuag at neb, ond yn unig er mwyn hunan-glod. Hunanol- deb yw sylfaen. adeilad, a phencolofnau bodol- aeth eu proffes grefyddol, ac eto y mae y rhai hyn yn dylanwadu" o bwlpudau Cymru. Amser yn unig a ddengys pa foddion a ddefn- yddia yr Hollalluog er mwyn ysgubo ymaith y lepers" hyn o'r cylch y maent yn ymdroi yn bresenol. A. B.
Nodion Hendy. Gwyn ar Daf.
Nodion Hendy. Gwyn ar Daf. YMWELIAD BLYNYDDOL YR ARCHPDIAOON JAMES. Ddydd Gwener, y 23ain cynfisol, yn Eglwys St. Pedr, Caerfyrddin, ymgyfarfyddodd yr offeiriaid a'r wardeniaid Eglwysig a'r Arch- ddiacon James, a thyngwyd yr olaf i mewn i'r swydd am y flwyddyn ddyfodol. Yn flaenorol i hyn, ar ol y gwasanaeth, galwyd enwau yr offeiriaid fel arferol gan y cofrestrydd, y Parch. M. Ili. James, Hwlffordd. Yn lie y siars eleni eto, cjmhaliwyd cyfarfod dyddorol yn yr Ysgol- dy Genedlaethol, o dan lywyddiaetli yr Arcli- ddiacon. Darllenwyd papyr campus gan y Parch. C. G. Brown, penaeth y Coleg Hyffordd- iadoI, ar" Adclysg Rydd," Cymerwydrhan yn y ddadl ar y pwnc gan Mr. W. J. Rickard, athraw yn y Coleg; y Parchn. D. P. Evans, D.G., Llanbedr Folifre J. R. Lloyd, ficer St. Pedr; C. H. Davies, Arolygwr Addysg Gref- yddol yr Esgobaeth, a W. Jones, ficer Llanon. 0 ddiffyg amser, goliiriwyd pwnc 'y Degwm. Ciniawodd yr Archddiacon a'r offeiriaid yn ngwesty Pen y Baedd, yn y dref. Yr oedd yn wir dda genym gaufod yr Archddiacon parchus wedi ei adfer i'w iechyd eto, ac yn ein plith fel cynt. Eiddunwn barhad o iechyd da iddo am flynyddoedd lawer yn ei swydd bwysig. GWYL YR YSGOLION SUL YN ST. CLEARS. Ddydd Llun y Sulgwyn, cynhaliwyd yr uchod yn Eglwys y plwyf. Daetliai ynghyd ysgolion St.Clears, Llanddowror, Llanbedr FelfEre, Llftu- ddewi Felffre, Glan Taf, Tiemoilet, Llanboidy, Llanfallteg, a Llanglydwen, o dan arwoiniad eu lioffciriaid. Yroedd yn bresenol hefydy Parchn. B. P Griffiths, Caerfyrddin W, Davies, Aber- cowin A. Britten, Mydrim T. Davies, Llan- gan; D. Griffiths, Monachlogddu; J. George, Llandysilio. a R. Davies, Llanbedr Felffre. Ar 01 rehearsal Iwyddianus yn yr ysgoldy o dan arweiniall" Cowyn." Cafodd yr ysgolheigion gyfarwyddiadau pa fodd i ymddwyn am y dydd gan y Deon Gwladol, yr arweinydd, ac eraill. Adgofiwyd yr ysgolheigion mai i dy Dduw yr elent, a chyngborwyd hwy i beidio troi tudalen- au Hyfr y gerddorjaeth ar draul esgeuluso y gweddiau a'r addoliad. Credwn fod diwygiad mawr yn yr ystyr hwn yn ein gwyl eleni, a bod ymddygiadau yr ysgolion a'r corau yn lied deilwng o r amgylchiad. Wedi i'r Deon Gwladol weddio am fendith ar waith y dydd, ymffurfiwyd yn orymdaith, gyda banerau heirdd yn chwyfio yn y gwynt, a daeth yr offeiriaid allan o'r Green Meadow (aneddle dlos. Cowyn ") yn eu gwenwisgoedd, a chycliwyn- wyd trwy y rlian isaf o'r dref tua'r eglwys. Am 11.30, yn mron yn ol y rhaglen argraffedig, dechreuwyd y gwasanaeth, yr hwn a intoniwyd gan y Parch. J. S. Jones (lago), o Landdewi- Felffre. Darllenwyd y liithiau gan y Parchn. C. F. Harrison, Hwlffordd, a D. P. Evans, D.G., Llanbedr-Felffre, yn ol y rhaglen. Ar ol yr anthem" I ti, Arglwydd (Kent), arholwyd yr ysgolheigion gan y Parch. C, F, Harrison ar Hanes Solomon. Cerddai'r gwr parchedig yn ol a blaen gan ofyn cwestiynau, yr hyn oedd yn newydd-beth i'r gwyddfodolion yno. Cyhoedd- wyd y fendith gan y Deon Gwladol; Ar ol ciniawa yn y Town Hall ac yn yr Ysgoldy Cenedlaethol am 2.30, gorymdeithiwyd eto, ac awd i mewn i'r eglwys. Ar ol i'r undonwr agor y gwasanaeth ag ychydig o golectau cymwys i'r amgylchiad, ac i'r corau ganu emyn, holwyd ar y Weddi Foreuol a Hwyrol allan o Gatecism Palmer gan y Parch, D. E. Williams, rheitlior Llawhaden, Mabwysiadodd yntau y dull peripatetic, sef holi dan gerdded, a chafodd atebion cywir iawn, Cawsom wasanaethau gwir ddyddoroJ. Yr oedd y ganiadaeth o dan faton Cowyn yn odidog, a'r eglwys fawr (Gadeir- iol) yn orlawn, ac yr oedd lliaws y tuallan, gan nad oedd lie iddynt oddifijwn. Qhwareuid yr harmonium yn feistrolgar gan Mr. Lyons. Yr oedd trefniadau'r pwyllgor a Miss Bowen Jones, ysgrifenydd mygedol, ynghyd a'r trefniadau lleol o dan arweiniad Mr, Davies o'r Bank, a'r boneddigesau a'r boneddigion eraill, ynrhagorol. Cafodd pawb eu Uonaid o de ar draul pobl dda St. Clears, Dylid ooffa fod afiecbyd em oyfaill a'n brawd lioft y Parch. David Pugh, G.D., ficer parohns a phoblogaidd y plwyf, megis cwmwl du yn taflu, er's rhai misoedd, ei gysgodion tywyll dros weithrediadau'r dydd, ac yn peri 1 baWl) o nonom tor weai ayiou ynghyd i dreulio diwrn-od difyr), eto, i ym- lawenliau megis mewn dychryn. Methasom yn deg a mwynhau ein hunain, oherwydd fod yr anwyl Ficer yn absenol. Dyma'r achos na fu dim gorymdeithio a chanu drwy yr ystrydoedd, fel arferol, eleni. Y nefoedd fawr fyddo yn nodded i'n hanwyl frawd a chwaer yn y Ficer- dy acw, ac ymyl arianaidd y cwmwl hwn ddelo i'r golwg. Dylem grybwyll, gyda llaw, ei fod yn annhegwch o'r mwyaf ag arweinydd y gan fod yno rai corau nad oedd yr un o'r trainers wedi cael cyfleusdra i'w liyfforddi o gwbl gyf- erbyn a'r wyl. Da ni, frodyr, diwygiwn yn hyn o beth y tro nesaf. Dylem grybwyll i'r gerddoriaeth gael ei dethol allan o Lyfr gwai3- anaeth Corawl cylchwyl Caerfyrddin, a bod yr emynau a'r tmiau eraill wedi cu cymeryd o Lyfr Emynau Hen a Nfjwydd. Erbyn hyn. gellir dweyd fod yn ein deoniaeth adfywiad orcfyddol o'r iawn ryw. Gresyn fod rhyw nifer fechan o honom eto; fel ebolion ieuainc yn cicio yn yr offer, er eu bod yn gorfod mYlled gyda'r Hi', neu fod ar ol, Cydweithredwn yn well o hyn allan. YR YSGOL UWCHRADPOL. Nos Iau diweddaf, cynhaliwyd y trydydd cyfarfod mewn cysylltiad a'r uchod, ac er mawr syndod i'r byd, a'r Bettws hefyd, cawsom fod y trigolion wedi llwyr ddeffroi a chodi at eu I gwaith. Erbyn hyn mae'r addewidion a'r tan- ysgrifiadau, oddiwrth ycliydig o fasnachwyr ac eraill, yn ein tref fechan yn lmig, yn tyuu yn agos i ddau gant a haner o bunau Dyna i chwi wrhydri, yni, a brwdfrydedd heb ei ail! Erbyn y delo'r tirfeddianwyr a thrigolion y cylchoedd oddiamgylch allan eto, byddwn wedi llwyr adael ar ol y cyfeillion da yn St. Clears ac Arberth. Hwre fawr Bendigedig, yn wir 0 3.C amen byth! Ymhob peth arall y mae hawliau'r Hendy Gwyn ar y bhen i'r un lie Dychymygwn fod Pawl Hen. Sant Dewi, Sant Teilo, Padarn, Sawel, Ben-uchel, ac ysbrydion pur eraill yn edrych i lawr heddyw a chyd-hwyl nefolaidd yn canu Haleliwia
.'--GOSOD CAREG SYLFA&X? EGLWYS…
GOSOD CAREG SYLFA&X? EG- LWYS GENHADOL GLYH TARRAL, ABERHONDDU. Yny flwyddyn 1884, penodwyd y Parch. J. Davies yn ficer Capel Anwes St. Illtyd, pa un sydd yn rhodd Ficer Defynoc, y Parch. Rees Evans. Yn fuan ar ol penodiad Mr. Davies, gwnaethpwyd St. Illtyd yn Blwyf Eglwysig, a rhoddodd y Dirprwywyr Eglwysig y Degwm, pa un a dderbyniant oddiwrth y rhan yma o blwyf Defynoc, i Ficer plwyf newydd St. Illtyd. Saif eglwys St. Illtyd ar ben mynydd noeth, ymhell oddiwrth y rhan fwyaf o'r bobl- ogaeth, ac felly allan o gyraedd yr hen a'r inethedig. Am amser, trwy ganiatad Mr. Probert, cynhaliwyd gwasanaeth bob nos Sul mewn ty anedd a elwir Aberelyn, ond yn bres- enol y Ficerdy, ac o'r diwedd penderfynwyd gwneyd ymdrech i gael eglwys sylweddol a chymfforddus i'r bobl, yn agos i'r pentref, lie y mae y bobl yn preswylio, a hyny tua dwy filldir oddiwrth eglwys y plwyf. Ffurfiwyd pwyllgor, a dechreuwyd o ddifrif i gasglu arian at y gwaith, a sicrhau tir i adeiladu arno. Pan grybwyllwyd y peth wrth y Milwriad Morgan, Bolgoed, dywedodd ar unwaith y rhoddai efe y tir am ddim, a chynyg i adeiladu yr un modd. Da iawn, yr hen Gymro dewr a thwymngalon o'r Bolgoed. Y peth nesaf oedd casglu arian. Nis gallai un gwell na'r Ficer ymgymeryd a'r fath waith, oherwydd beggar heb ei fath ydyw. Gymaint oedd y llwyddiant a gyfarfyddodd fel o'r diwedd penderfynwyd dechreu ar y gwaith o adeiladu. Dewiswyd Mr. Kempson, Hen- ffordd, yn gynllunydd, a Mr. B. Jenkins, Aber- honddu, yn adeiladydd. Dydd Mercher, yr 28ain o Fai, oedd y dydd a ddewiswyd i osod y g-areg sylfaen. Yr oedd yr hin yn hynod ffafriol, a gwen ddiamheuol Rhagluniaeth ar y gwaith da. Gosododd yr adeiladydd fanerau i chwyfio o gwmpas y man yr oedd y gareg sylfaen i gael ei gosod. Am dri o'r gloch, gwelwyd cerbydau yn dyfod o bob cyfeiriad tua'r man, yn cynwys boneddigesau a bonedd- igion, ac ewyllyswyr da yr eglwys newydd, fel erbyn yr amser penodedig yr oedd tyrfa fawr a pharchus yn bresenol. Rhoddodd y Ficer allan yr emyn The Church's one foundation" i'w chanu,achawsom ganu liwyliog a chalonogol dros ben. Yna dar- llenodd y Parcli. Prebendary Garnons Williams, D.G., y gweddiau neillduol addas i'r achlysur wedi hyn daeth Miss Morgan, Bolgoed, ymlaen i osod y gareg sylfaen, yr hyn a wnacth mewn dull cadmoladwy iawn. Canwyd a gweddiwyd drachefn, ac yna rhoddodd y Ficer hanes y gwaith a gyflawnwyd ganddo, yn cael ei gyn- orthwyo gan ei wardeniaid ac ewyllyswyr da yr Hen Eglwys. Oddiwrth yr hyn a ddywedwyd, yr ydym yn cael fod dros dair mil o bunau wedi eu casglu tua.,y -at achosion Eglwysig er pan ddaeth Mr. Davies i St. Illtyd, sef i adgyweirio yr hen eglwys, prynu ty a thir yn Ficerdy, ac i ychwanegu c'yflog y Ficer. Gwerth y fywol- iaeth yn 1884 oedd £ 97, ond heddyw y mae yn werth Y,183, gyda thy a thir. Da iawn, onide ? Gwelwn beth all diwydrwydd a dyfal-barhad wneyd. Cawsom areithiau campus gan y Parchn. Garnons Williams, Rees Price, St. Dewi, ac yn yr hen iaith gan y noddwr, y Parch. Rees Evans, Defynoc. Yr oedd yr hen Gymry yn dechreu cynesu, ac yn ami gyda'u hamenau, pan yn cael eu hanerch yn hen iaith eu mam. Yr oedd y Parch. Ddr. Lloyd, esgob newydd Bangor, i fod yn bresenol, ond yn yr awr olaf rhwystrwyd ef i ddyfod yno, oherwydd yr oedd yn rhaid iddo fyned oddi cartref ar neges bwysig y dydd hwnw ond i ddangos ei gydym- deimlad a'r gwaith da, anfonodd cheque am Y,5 i'w roddi yn y casgliad. Yr un modd gwnaeth Mr. T. J, Evans, Glyncelyn. Heblaw yr offeiriaid a enwyd uchod, yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn. W. Howell, Garthbrengi; a T. Griffiths, Llanspyddid. Swm y casgliad yd- oedd £ 17 3s, 7c, Bydd yr eglwys newydd yn costio tua mil o bunau, ac y mae mewn Haw tuag wyth cant, felly, rhaid casglu o leiaf Y,200 eto i orphen y gwaith, Dyma'r dull y sefydlwyd yr Eglwysi mewn gwahanol fanau o'r wlad, ac y gwaddolwyd hwy gan eu meibion a'u merched yu yr oesoedd gynt. Ac eto y mae'r Dadgysylltwyr yn dweyd mai Eglwys estrcnol ydyw, ac am ei hysbeilio o'i meddianau, a'i gwneyd yn gydwastad a'r llawr. Mae bod ei meddianau yn hen, ddim yn un rheswm paham y dylai y Wladwriaeth eu medd- ianu a'u defnyddio at achosion eraill, hollol wahanol i'r hyn y rhoddwyd hwy gan ei phlant ffyddlawn yn yr oesau gynt, Hwyaf yn y byd y bo unrhyw beth yn meddiant yr un sydd yn eu dal, cryfaf yn y byd yw ei hawl i'r hyn sydd ganddo. Y meddianau hynaf yn y wlad ydyw eiddo'r Eglwys, ac y mae r Ymneillduwyr yu cenfigcnu wrthi oherwydd hyny ac am ei ham- ddifadu o'i heiddo cyfreithlon—eiddo aroddwyd er gwasanaeth DllW i'w Eglwys. Wrth Ddad- gysylltwyr dywedaf—" Darllenwch a myfyriwch ar yr liyn a ysgrifenwyd gan y Prophwyd Mal. iii. 8, 9." Y mae'r Eglwys yn myned ymlaen ac yn estyu ei chortynau o ddydd i ddydd er gwaethaf ei gelynion, ac yn dangos po fwyaf y mae yn cael ei lierlid, mwyaf yn y byd y mae yn cyn- yddu. Parhawn yn ffyddlawn, a chofied pob un fod ganddo ef ei hun hefyd waith i'w wneu- thur, bydded ef yn Ueyg neu yn lien, a chyn bo hir bydd prophwydoliaeth yr hen Rowlands o Langeitho yn cael ei chyflawni, y dyclnvel y gwenyn yn ol i'r hen gwch eto. Prysured Duw y dydd bendigedig hwnw. HYWEL IOLOES.
[No title]
Gwerth coron Lloegr ydyw 120,000 o bunau. Ar gyfartaledd, cynyrcha buwch mewn blwyddyn 350 o alwyni o laeth. Y mae yna 700 o olchdai yn Efrog Newydd, a cherir ymlaen y gwaith yn liollol gan wrywod a menywod Cliineaidd. Cyflogir 100 o longau at y fasnach de yn unig 0 yn flynyddol. Or nifer hwn, y mae oddeutu 70 yn agerlongau, a'r gweddill yn llongau liwyliau. Yn gymaint ag mai Y LLAN A'R DYWYSOG- AETII yw yr unig newyddiadur Eglwysig a gylioeddir yn Gymraeg, mae yn gyfrwng di-ail i gylioeddi pob math o hysbysiadau yn dwyn perthynas a'r Eglwys.
Llythyr o Rydychain.
Llythyr o Rydychain. Crybwyllasom yr wythnos ddiweddaf fod y rhedegfa gychod flynyddol rliwng y gwahanol golegau wrthi yn brysur pan oeddym yn ysgrifenu. Wythnos yr Eights ac wythnos y commem. yw dwy wythnos bwysicaf a phrysuraf bywyd Rhydychain. Dyma yr wythnosau y -1 y bechgyn yn cael cytieusdra i Wo b odd eu rhieni, eu chwiorydd, eu cyf- neitn rofl, a'u "country eon-sitis" i'r "town of many towns." Ac, fel arferol, yr oedd llu yma y flwyddyn hon, yr oil am y gwychaf. Ac nid ydym yn eu beio. Yn sicr, yr amser goreu i ymweled a Rhydychain ydyw wythnos yr eights neu y commem. week, ar ddiwedd y tymor hwn. Dyna'r amser y mae Rhydychain yn ei ogoniant, ac yn ddiameu gogoniant mawr ydyw. Wei, aeth y rhedegfa drosodd fel arferol, a chyda hi y swells o'r ddinas. Ychydig wahaniaeth gymer- odd le yn safle y cychod blaenaf, Brasenose eto yn ben y cewri oil, yn cael ei ddilyn gan New College, Magdalen, a Christ Church. Yr oedd Univ. yn isel iawn, ond aeth i fyny bum' lie. Gwnaeth Corpus hefyd yn dda. Dywedasom yr wythnos ddiweddaf i Goleg Iesu fyned i fyny un lie, ac yno y safodd. Yr oedd yn hwyr iddo symud, canys yr oedd yn cael yr anrhydedd o fod yn gynffon, an- rhydedd yn awr a ofalir am dani gan St. Edmund's Hall. Y chydig o ddysgedigion sydd nad ydynt yngwybodam y Canon Freemantle. Mae yn ddyn hynod mewn llawer o ystyriaethau. Mae yn hynod fel Radical penboeth, a chymer ran flaenllaw mewn gwleidyddiaeth. Ond meddyliwn nad oedd yn cyfrif ei hunan yn ddyn hynod, canys cawn hanes am dano, y Sul o'r blaen, yn hynodi ei hunan mewn pwlpud capel Wesleyaidd. ,Yr oedd bachgen ieuanc o Balliol yn pregethu yn Banbury, ac aeth y Canon gydag ef. Ar ddiwedd y bregeth esgynodd y pwlpud, a rhodd- odd anerchiad. Gofidiai nas gallai, oher- wydd rhyw hen ddeddf, fel aelod o'r Eglwys Esgobol, gymeryd rhan yn ngwasanaeth capel enwadol, tra y can- iateid iddo ddweyd ychydig eiriau. Nid hawdd yw tynu y llinell pa bryd mae'r gwasanaeth" drosodd. Arferem a meddwl pan mae'r gynulleidfa yn myned allan y bydd hyny yn cymeryd lie. Fodd bynag, cydwelwn ag ef nad ydyw y rhan a gymerodd efe yn rhan o'r gwasan- aeth ddisgrifia yr Eglwys oddiwrth ddynion mae yn ordeinio i'w gwasanaeth hi. Mae amcan y Canon yn dda, ond amheuir priodoldeb y cwrs gym era i ddwyn yr amcan oddiamgylch. Mae gan gyngor llywodraethol Rhyd- ychain hawl i benodi tri ar gyngor llyw- odraethol Coleg Aberystwyth. Y tri ddewiswyd y dydd o'r blaen ydynt Mri. W. J. Lewis, Cymrawd o Oriel J. A. Doyle, Cymrawd o. All Souls' ac 0. M. Edwards, Cymrawd o Lincoln. Mae gan rai o'r Colegau uwchaf hawli benodi pregethwr eu hunain ambell Sul dros y Brifysgol. Coleg New sydd a'r hawl i benodi un ar Sul y Drindod. Y flwyddyn hon penodasant y Parch. H. E. Ryle, M.A., Hulsean Lecturer yn Nghaer- grawnt, a diweddar Brifathraw Coleg Llanbedr. Yr oedd y gwasanaeth yn cael ei gynal yn Nghapel Coleg New, ac nid fel arfer, yn Eglwys St. Mair. Yr oedd y lie yn llawn. Buaswn i yn cyfrif y bregeth hon gyda'r mwyaf dysgedig, ac ar yr un pryd dyddorol, ydym wedi glywed er pan yma. Mentrodd Ficer Brymbo yn arw ymaflyd codwm a dyn mor drwm a Ryle, amser yn ol, a diameu na fuasai wedi dyfod drwyddi mor llwyddianus oni b'ai iddo ei daro ar fan gwan. Nid yw Ryle mor llithrig a'i dad, Esgob Llynlleifiad, ond siarada yn llawer mwy deniadol, ac yn ddiameu y mae yn eangach ei syniadau. Effaith gwell dysg. Yn yr hwyr, cawsom yr hyfrydwch o wrando yr Esgob Smythies yn pregethu yn Eglwys St. Barnabas. "Barny," fel y'i gelwir,ydyw yr Eglwys fwyaf boblog- aidd o ddigon yn Rhydychain. Mae yn Eglwys fawr anferthol, a bob amser bydd yn llawn, yn enwedig amser y term, gan fod ugeiniau lawer o fyfyrwyr yn ei mynychu yn gyson. Ac ar amgylchiad fel liwn, rhaid myned yno haner awr neu ragor cyn yr amser,os disgwylir cael sedd. Yn Roatli, Caerdydd, y llafuriai yr Esgob Smythies cyn iddo fyned i Affrica ych- ydig flynyddoedd yn ol. Dywedodd ar ei bregeth y buasai ganddo gywilydd sefyll o'u blaen wedi dyfod yn ol mor fuan, oni bai iddo gael ei daro ag afiechyd, n nes y bu gorfodaeth arno ddyfod drosodd am ychydig. Mae yr Esgob yn weithiwr caled a llwyddianus. Mae yn debyg iddo wneuthur gormod mewn gwlad afiach. Gwraded ein gelynion a fynant, nis gallant wadu nadyw'r Esgobion, o leiaf, yn Apos- tolaidd yn eu liymdeithiau, os nad mown dim arall. Dyna Esgob Caer yn myned ar bicycle o blwyf i blwyf, gan anog gweithgarwch, a llongvfarch llwyddiant. Dyna Esgob Llanelwy yn myned o'r naill blwyf i'r llall gyda chytiymder syfrdanol. Dyna Esgob Salisbury yn ffurfio parti o'i deulu, gan ymweled a'r naill blwyf a'r llall; ciniawa gyda'r ficer yma, i de gyda'r ficer draw, gan gymeryd dyddor- deb yn nhreialon un a llwyddiant y llall. Ond yn ddiamheu, teilynga yr Esgob Smythies y lie blaenaf. Yn ystod y deu- naw mis diweddaf, y mae wedi cerdded drwy holl ranau deheuol ei Esgobaeth, o'r afon Rovuma i lyn Nyassa Mewn pregeth oedd yn llawn dyddordeb a byw- iogrwydd, feallai na ddywedodd unrhyw beth afaelodd fel y dywediad hwn I Pe deuai Crist i'r ddaear heddyw i farnu y byw a'r meirw, byddai yma filoedd o bobl na chlywsant son am dano erioed Gwirionedd difrifol ydyw. Fodd bynag, mae yr Eglwys yn awr o ddifrif, ac y mae 1 ei gweinidogion o ddifrif nid oes dim a all rwystro ei llwyddiant. NORTHMAN.
[No title]
Mewn hen amserau daionus, cymerid ychydig o sebon yn fewnol mewn ftordd o feddygin- iaeth.
LLANDDAROG.
LLANDDAROG. PRIODAS.—Ar yr 31ain o fis Mai, priodwyd gan y Parch. N. Thomas, yn Eglwys y plwyf, Richard Jones, o Bwlchgwynt, a Mary Gravell, o'r Efailfacb. "GRISIAU'R DEML."—Y mae y llvfr hwn allan yn bresenol, ac i'w gael gan yr awdwr yn unig. Danfoner blaen-dal am dano.
CWM, RHYL.
CWM, RHYL. Bn Y sgcl Genedlaethol y lie uchod 0 dan ar- holiad y mis diweddaf. ac enillodd yr excellent merit grant. liliif y passes ydoedd 94 y cant. Priodol fyddai dweyd yma na chafwyd dim is- law goorJ. a very good am class subject er's pan y mae yr ysgol o dan ofal yr athraw presenol, yr hwn a benodwyd bum mlynedd yn ol. Y mae rhif y passes wedi ychwanegu 5 y cant yn flynyddol er's pan y mae yr ysgol dan ei reol- aeth. Gadawn i'r ffeithiau uchod lefaru dros- tynt eu hunain.-U.
DOWLAIS.
DOWLAIS. CANTATA GYSEGREDIG.—Am fi o'r gloch, nos Sul diweddaf, perfformiwyd Cantata Gysegredig Iesu, y Bugail Da," yn yr Eglwys Gymreig, gan aelodau Guild y Plant. Cyfeiliwyd gan Mr. Lewis, yr organydd, ynghyd ag offerynau cerdd eraill. Yr oedd yr adroddiadau yn wirioneddol dda a dyddorol, a'r canu yr un modd, yr hyn sydd yn adlewyrchu clod ar yr arweinydd ieuanc a galluog Mr. John Rees Jones. Yr oedd y gwasanaeth dan lywyddiaetli y Rheitlior. Gallwn ddweyd fod y cyfan yn llwyddiant perffaith, ac hyderir y bydd gwasanaeth o'r fath eto cyn bo hir. Am 8. daeth ynghyd yr oil o'r plant o Eglwys y plwyf, a'r canuhenau, sef Pengarnddu. Pant, a Gellifaelog, &c.. i fyned drwy Yr Athraw Mawr," dan arweiniad Mr. Edwards. Yr oedd yr eglwys fawr yn llawn o blant, a golwg hardd dras ben arnynt. Cafwyd rehearsal neillduol o dda, yr hyn a arwydda yn eglur fod Dowlais o ddifrif yn gwneyd ci goreu glas at Festival Rhymni ar yr 20fed o'r mis hwn. Mae yn llawenydd calon i wcled y plant mor frwdfrydol a hapus yn Nowlai,-k.-Al) I.P.
LITTLE NEWCASTLE.
LITTLE NEWCASTLE. Mawr oedd y parotoad eleni gan bob! yr Eg- lwys yn y plwyf hwn gyferbyn a dydd Linn y Sulgwyn, pan aethpwyd ag at-hrawon ac aelod- au'r Ysgol Sul i eglwys Walton, i'r diben o ad- rodd eu pwnc ar ran o'r Esboniad ar Gredo'r Apostolion, pan y Parch. Griffith Jones, Llan- ddowror gynt. Cymerwyd rhan yn yr wyl arbenig hon gan Ysgolion Sal Eglwysig Castle Henry, a Walton. Dechreuwyd y gwasanaeth dyddorol yma am 2.30 y prydnawn, a holwyd yr ysgolion gan y gweinictOi ion eu hunain, a da genym hysbysu i'r ysgolion oil wneutliur eu rhan yn y modd mwyaf c-anmoladwy. Yr oedd- ynt, yu wir, wedi llafurio yn galed, athra-won ac ysgolheigion, am wythnosau lawer i ddysgu y gwirioneddau pwysig ynglyn a'u pwnc, ac yr oedd yr hwyl a'r parodrwydd a pha un y darfu iddynt ateb y cwestiynau yn dangos eu llawn adnabyddiaeth a hwynt. Trefn y gwasanaeth oedd y Litani, liith, gydag antliem ac emynau, a chanwyd y rhai hyn yn odiaeth o dda. Yr oedd yr hin yn bob peth a ellid ei ddymuno, a threuliwyd diwrnod, anturiaf ddweyd yn ddi- betrus, wrth fodd calon pawb o'r nifer Iiiosog oedd yn bresenol. Nid gwiw angh<?fio diolch i bobl garedig Walton am ddarparuyn helaeth ar gyfer angenrheidiau'r corff.
,-TREMADOG.
TREMADOG. CYFLWTNIAD ANRHEG.—Nos Iau. yr 22ain cynfisol, ymgasglodd amryw garedigion Mr. Jones, Madoc House, i'r Town Hall, Tremadog, i gyflwyno awrlais marmor ardderchog iddo ar achlysur ei briodas, fel cydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwirfoddol gyda'r harmonium a'r canu yn ngwasanaeth Cymraeg Eglwys Tre- madog am dros dair blynedd. Can gynted ag y crybwyllwyd am roddi cydnabyddiaeth iddo, cyfranodd caredigion yr Eglwys yn siriol i Mr. R. Isaac Jones (Alltud Eifion), a Mr. Griffith Owen, Church Street, a phwrcasodd Ilr. James Rees, oriorydd, Porthmadog, yr awrlais. Yr oedd yr hyn a ganlyn wedi ei g'r;o fl,illio Presented to Mr. Ù, Jones, Madoc House, for his services at Tremadoc Church, i\ 189°," Cymerodd y Parch. Ll. R. Hughes, fccer, y gad- air, ac wedi ychydig sylwadau galwodd ar yr hen batriarch Eglwysig, Mr. K. Isarc Jones (Alltud Eifion), i adrodd hanes yr Eglwys yn Nhremadog mewn gwahanol gyfnodau Lyd yr awr hon. Cafwyd anerchiadau hefyd tan Mri. J. E. Jones a R. Grindley, y Parchn. D. Lewis, curad Tremadog, a T. Lodwick Davies, ("urad Ynyscynhaiarn Mri. David Evans, William Griffith Owen, Bronush, a J. Jeffrey Roberts. Galwadd y cadeirydd ar Mrs. Llovd, draper, i gyflwyno yr anrheg, a diolchodd Mr. Jones mewn ychydig eiriau priodol. Cynygiodd Mr. R. Grindley ddiolchgarwch i Mr. Griffith Owen a Mr. R. Isaac Jones am eu trafferth yn casglu, ac i'r cyfranwyr. Hefyd ei fod yn dymuno cyd- nabod un o hen golofnan lleygol yr Eglwys yn yr ardal, sef Alltud Eifion, yr hwn oedd wedi llafurio mwy gyda'r Eglwys yn y plwyf hwn nag y mae yr oes sydd yn c-odi yn wybod. a galwodd am cheers iddo, yr hyn a roddwyd yn galonog. Diolchodd yr Alltud mewn ychydig eiriau priodol. Wedi talu cliolchgarwch i'r cad- eirydd, ymwalianwyd.—Gohebydd.
LLAWR Y BETTWS.
LLAWR Y BETTWS. Nos Iau, wythnos i'r diweddaf, rhoddodd ein hoffeiriad a'i briod eu croesaw blynyddol eleni eto i aelodau yr Ysgol Sul, ar sawi syuu yn dy- muno eu llwyddiant. Yn ddcst:us iawn yr ar- weiniodd ffermwr parchus or Brjaicoeli wraig yr offeiriad, yn nghanol bloeudiaoau byddarol y gwyddfodolion, at fwrdd mcethus a huliwyd yn yr Ysgoldy Cenedlaetliol. Wedi gwneutliur pob cyfiawnder ag aughenion y bywyd hwn, aed ymlaen i benodi dirprwywyr yn mhersonau Mr/Edward Davies, Tytandderwen, a Hugh Roberts, yr Hand, i gynrychioli y plwyf hwii yn y gynhadiedd a fwricdir ei cliynal yn i Medi nesaf yn Nghroesoswallt. llefyd cynygiwyd blaenoriaeth y gan i ystyriaeth Mr. William Henry. Yna agorodd yr amaethwr parchus uchod hefyd y rhan gynghcrddol o'r ymgyfar- fyddiad, pryd y dilynwyd ef gyda lliaws o gyf- ansoddiadau peroriaethol yn Gyinraeg a Sacs- neg gan Mri. Harry a Jones IViliiani Henry, Miss J. E. Jones, yr ieuenctyd, plant a gwraig yr offeiriad gyda'r offeryn ccrdd ac yn olaf oil, cafwyd can hynod o addas gan y gamadyddes henafol, Mrs. Jones, Merllyn Gwyn. Ms gailaf lai na chredu fod y conversazidne blynyddol hwn mewn ymddiddan cyfeillgarol, cerddoriaeth fwyn, a rhanu anrhegion o bob math rhwng ael- odau yr Ysgol Sul, yn foddion i feitiirin y teimladau goreu rhyngoni, ac i angliofio pob peth salw a berthyn i fycliander llygredigaetli y natur ddynol sydd mor barod i'n hamgylchynu, i leddfu ysbryd trahaus annioddef ol, ac i beidio cymeryd ein croesi gan ysbryd uc-helgais, na chael ein twyllo gan fwystfilod gwyilticn y meddwl anmhur, na chael ein temtio g:m fieidd- iaid teneu trachwant, na chael ein rhwygo gan lewod ofnadwy digter, ond y mae y fath ym- gyfarfyddiadau yn tueddu i berciddio chwerw- der, ac i ddyfod yn awyddus i ymgymodi, ac i fwrw mantell cariad dros ein gwaeieddau, ac i gydymdeimlo Ar'n gilydd fel brodyr or un teulu ffy(ld.-Ll(tno o'r Ysgol &wL