Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

-----;------_--EGLWYS Y CYMRY.

News
Cite
Share

EGLWYS Y CYMRY. EI HYNAFIAETH A'l DYLANWAD, LLYTHYR IY. Er canol y burned ganrif y mae Ilea dew wedi ymdaenu dros hanes yr Eglwys Brydeinig. Mewn unigolrwydd ac ar ei phen ei hun oddi- wrth gysylltiadau cyfandirol, ond nid heb gyfathrach ami a'r Iwerddon, cafodd ei gyru yn ol tua'r gorllewin. Ni a'i cawn hi ar lanau Mor yr Hafren, drwy Gymru, Cumberland, a Chernyw, yn gwrthwynebu yn gadarn ei gelyn- ion paganaidd. Yn awr, cawn gyfarfyddiad Cristionogaetli 400 a Christionogaeth 600 d'u gilydd. Yn awr, rhoddaf ychydig o hanes Awstin Fynacli, cenhadwr a anfonodd y Pab Gregory i bregethu yr Efengyl i Ynys Prydain. Oddeutu y flwydd- yn 596 ydoedd. Dywedir mai gwr tal, teneu, ydoedd o ran agwedd corph ac o ran ei foes, yn Pharisead hunanol, balch, a thrahaus. Yr oedd y Saeson cyn hyn wedi trawsfeddianu Lloegr, ond eto oil yn baganiaid, heb fedru llythyren ar lyfr, eithr yr oedd y Cymry ymhell cyn hyn yn Gristionogion ac yn ysgolheigion enwog. YcynhyrfiolachosynRhufainydoedd i anfon cenhadwr i Loegr oblegid fod yno blant o wledydd tramor yn dyfod i gael eu gwerthu. Gregory, wrth weled plant prydweddol ar werth yn Rhnfaiu, a ofynodd, Plant i bwy ydynt?" Yr atebiad oedd, "Plant y Saeson, y rhai oR ydynt yn baganiaid." Yna galarodd yn ei ysbryd, gan resynu fod plant mor angylaidd yn eu hymddangosiad dan lywodraeth y tywyllwch, ac yn ddioed ymbiliodd a'r Pab Pelagius yr Ail am ddanfon cenhadon i Brydain, ac yr aethai efe gyda hwynt. I hyn y Pab a foddlonodd, ond y bobl ni ollyngent y fath wr enwog a Gregory o Rufain. Yn fuan wedi yr ymddiddan, bu y Pab farw, ac yn ei le daeth Gregory, yr hwn yn ddioed a anfonodd Awstin Fynach, a deugain o fynachod enwog gydag ef, i bregethu yr Efengyl i'r Saeson yn Mhrydain. Tiriodd Awstin a'r mynachod yn Ynys Thanet, yn Lloegr. Yna anfonodd Awstin ddyben eu dyfod- iad at Ethelbert, brenin Caint, yr hwn a'i gor- chymynodd i aros yn y man y tiriodd nes iddo ef ymddiddan a'r brenhinoedd eraill, fel y gallai benderfyna pa beth i'w wneuthur. Yr oedd Bertha, y frenliines, sef gwraig brenin Caint, yn chwaer i frenin Ffrainc, ac yn Gristionoges ac wrth i'w rliieni ei rhoddi yn wraig i frenin paganaidd, yr oeddynt wedi mynu amodau iddi grel proffesu y Grefydd Gristionogol, ac yr oedd esgob i'r cyfryw ddyben wedi dyfod gyda hi o Ffrainc. Ymhen rhai dyddiau, daeth y brenin at Awstin, yr hwn, ynghyd a'i gyfeillion, a aethant i'w gyfarfod, a chroes yn ei law, a baner, ar yr hon yr oedd delw Crist wedi ei arliwio, ac yr oeddynt yn canu y Weddi Gyffrodin, ac yn deisyf ar yr Arglwydd i ddychwelyd oddiwrth eilunod at wasanyetli y Duw byw. Yn awr rhoddes y brenin ryddid i Awstin bregethu iddo, yr hyny a wnaetli, drwy gyfieithydd feallai. Yn niwedd ei bregeth dywedodd y brenin, Y mae yr athrawiaethau a'r addewidion a bregeth- wyth yn deg ac yn ddengar ond nid ydwyf yn awr am eu cofleidio, gan nad allaf mor fuan ym- wrthod a chrefydd fy hynafiaid, y Saeson, yn yr hon yr ydym yn credu oil er's llawer o oesoedd. Ond gan eicli bod yn ddieithriaid, ac wedi dyfod o bell i gyfranu gwybodaeth o'r grefydd yr ydych chwi yn credu ei bod yn wir, ni roddaf i chwi unrhyw aflonyddwch, eithr yn hytrach, myfi a'ch hamddiffynaf, ac a ofalaf ar i bethau angenrheidiol fod at eich cynhaliaeth chwi, ac y mae i chwi roesaw i droi y Saeson at eich crefydd." Felly, arosasant yn Canterbury, yr hon oedd prif-ddinos y freohiniaeth hono, lie yr oeddynt yn pregethu i'r neb a'u gwrandawai. Y bobl, ar ol iddynt sylwi arsancteiddrwydd eu bywydau, a gredasant drwyddynt yn yr Arglwydd, ac a fedyddiwyd i'r grefydd Grist- ionogol ac yn eu plith Ethelbert y brenin ac wedi hyny llawer o'r Saeson a droisant oddi- wrth baganiaeth at y grefydd Gristionogol. Y pryd hwnw aeth Awstin yn ol i Ffrainc; ae, yn ol gorchymyn y Pab, fe'i cysegrwyd yn Arch- esgob y Saeson gan Eutlierius, Archesgob Aries; fel hyn y daeth Awstin yn Archesgob Canter- bury ac o'r cyfryw sefyllfa anfonodd at y Pab ei helynt a'i lwyddiant, ac am ei gyngor i fyned rhagddo. Yn ngwyneb hyn, llawenychodd y Pab yn ddirfawr, gan gydnabod mai Haw Duw oedd yn y gwaith. Yr oedd Awstin wedi ewyno wrth y genad at y Pab fod y cynliauaf yn fawr, ond y gweithwyr yn anaml; am hyny anfonodd y Pab bregethwyr i'w gynorthwyo, ynghyd a I el llyfrau a llestri, a phethau eraill a fyddai yn angenrheidiol at wasanaeth cyhoeddus, ynghyd a mantell archesgobaethol i Awstin, ac awdur- dod i gysegru deuddeg o esgobion mewn gwa- ll 10 hanol fanau, yr oil i fod yn ddarostyngedig i'w awdnrdod ef; a phan ddychwelai y trigoliorj ar iddo gysegru esgob yno ac i'r Archesgob 1 z7, 11 gysegru deuddeg o esgobion yn ychwaneg, fel y byddai deuddeg o esgobion dan awdurdod Archesgob Caergaiut, a deuddeg dan awdurdod Archesgob Caerefrog. Heblaw hyn oil, anfon- odd roddion lawer, ynghyd a llythyrau i Ethelbert, y brenin, gan ei anog i lynu yn y ffydd Gristionogol, a rhoddi esiampl mewn rhiiiwedd a dnwioldeb i bawb o'i ddeiliaid. Yr oedd Esgobion lihufain wedi dwyn i mewn amryw bethan dychymygol yn awr, wrth yr hyn oeddynt yn amser Meirig, brenin Siluria, sef ar ddechreu yr eilfed ganrif, pan anfonwyd at Eluthurius, Esgob Rhufain, am ddynion cymwys i egwyddori y Cymry yn y grefydd Gristionogol, ac o'r pryd hwnw hyd ddyddiau Awstin, ni fa ond ychydig o gyfranogiad rhwng I Esgobion y Cymry ag Esgobion Rhufain, ac nid oeddynt yn eu hystyried yn amgen nag esgobion cytiredin, ar y rhai nid oedd Eglwysi Prydain yn ymddibynu. Ond Awstin, yn zelog dros Esgobion Rhufain, ac fel Archesgob yn meddu awdurdod, a benderfynodd ddwyn Esgobion y Cymry i gydnabod y Pab fel pen cylfredinol yr Eglwys, ac felly anfonwyd atynt i ddyfod i gymanfa oedd i'w chynal ar gyffiniau swydd Caerwrangon (Worcester), yr hwn le oedd y pryd hwnw yn perthyn i Gymru, ac yno, o dan ddprwen gaeadfrig, y bu y gymanfa, yn y flwyddyn 002, yr hon, oddiwrth hyny, a alwyd yn Dderwen Awstin. Yma cynghorodd Aws-tin Esgobion- y Cymry i dderbyn ffarf o athrawiaeth a disgyblaeth oedd y pryd hwnw yn Bhufain, ac hefyd i bregethu Crist i'r Saeson paganaidd. Ond y Cymry ni dderbyn- ient gynghorion Awstin, ond dadleu yn dyn yn ,y ei erbyn a wnaethant a cban nad oedd ond ychydig o'u brodyr yn y gymanfa, penderfyn- utiaut i gyfarfod Awstiu yn yr unman, a hyny wedi ymddiddan a'u gilydd ynghylch achos y cyfarfod, fel na fyddai iddynt fyrbwyllo mewn achos mor bwy sig, a ehan y byddai mwy o honynt yn y cyfarfod nesaf, ac felly gwnaetliant ymadael. Wedi hyn, cyfarfuasant dracliefh, ac yn eu plith, yn pertliyn i'r Cymry, yr oedd Esgobion Caerwrangon, Henffordd, Llandaf, Llanbadarn Fawr, Llanelwy, Bangor, a Chaer- gybi. Ond am Archesgob Ty Ddewi, neu Gaerlleon ar Wysg,: nid ydym yn clywed ond yn unig fod son am ei sefyllfa ddyrchafedig yu y gymanfa. Hefyd, gyda'r seithwyr uchod yr oedd Dynawd (Dinoth), hen Abad yn Myn- achlog Bangor-is-y-Coed, a Ilawer o ysgolheigion ac Eflwyswyr yjDehau a Gwynedd. Pan aeth y dysgedigion hyn i'r gymanfa, yr oedd Awstin yn eistedd yn ei gadair, a'i wisg archesgobol am dano. Yn awr, cyfododd Awstin, gan ymdrechu a'i holl egni i gymell y Cymry i ymddarostwng i'r Pab a'i awdurdod. Yna y Dynawd mawr a gyfododd i fyny, ac a ddywedodd, Bydded liysbys a diogel i chwi, ein bod oil yn un a chytun, yn ufudd, ac yn ostyngedig i ewyllys Duw, ac i'r Pab o Bufain, ac i bob gwir Gristion, i garu pawb yn ei radd mewn cariad perffaith, ac i gynorthwyo pawb o honynt ar air a gweithred, ac i fod yn blant i Dduw. Am- genach ufudd-dod na hwn nid adwaen i, sef bod yn ddyledas i'r neb yr ydych yn ei alw yn Bab, neu yn Dad y Tadau. A'r ufudd-dod hwn yr ydym ni yn barod i'w roddi iddo ef ac i bob Cristion yn dragywyddol. fiefyd, yr ydym ni dan awdurdod neu lywodraeth Esgob Caer- lleon ar Wysg, yr hwn sydd olygwr, dan Dduw, arnom ni. i- wneuthur i ni gadw y ffydd a'r ffordd ysbrydol." Gan fod fy llythyr yn myned yn faith, cfif yr hyfrydwch o roddi atebiad Awstin yn y nesaf. D. LL. JAMES, D.D. Periglordy Pont Robert.

- Eglwys a Gwladwriaeth.

Nodion o Ddeoniaeth y Rhos.

[No title]

Advertising