Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
Y MAE TURKISH BATES MERTHYR WEDI CAEL EU HOLLOL ADNEWYDDU. Y mae y Baddoedd enwog hyn YN AWR YN AGORED I'R CYHOEDD v 0 Wyth o'r Gloch yn y Boreu hyd Saner awr wedi Wyth y Nos. W. POOL, PERCHENOG. %sblJsiai>att IUatnbaliabøl Hljafc. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR LAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, Yn 01 y. raddfa ganlynol:- o eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s.; hwe' gwaith, 3B. 30 • • eh i° eir*au> un waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; We gwaith, 4s. 6c. 4n • • g 0 exrM>u, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. gwaith, 6s. 9c. ^SSISTANT-CTJRATE Wanted bilinguist and musical.—Address, Rector, Gelligaer. 12- WANTED. a Bilingual CURATE good ViCa ^usician. Stipend, £ 130.—Apply, ^^j^Iilanidloes. 12-—• 0URACY WANTED, Diocese of St. Asaph, Of rby an experienced Priest.—Address, H. Office, Merthyr Tydfil. 11—13 ANTED, immediately, by a Bilingual \Kapi DRIEST, a Curacy in the Diocese of St. Enrii' ^-Usical. Highest references.—Address, tirate, Newtown Mont. 8-13 CXJBATE in a populous bilin- e8tim_ Parish in St. Asaph.—Apply, with nia*s and references, Vicar, Minera, 13-15 RESPECTABLE YOUTH Wanted as ty iji pprentice to the Bookselling and Station- 'ROST^'T-APP1? to Messrs. FARRANT AND ^^otationers, &c., Merthyr Tydfil. rO OANmDATES FOR ORDERS.—A Lon- iccegH°n .-krgyman, who has had exceptional kaiQi T- pupils, prepares for all theological y resifn10ns* on moderate terms, and partially Tp'reat success in Cambridge Pre- AlxtrJ' to Welsh pupils.—W. F., wyao Square, N. 9-14 LWy HALL SCHOOL, RHYL.-For the aughter3 of Gentlemen. Resident En- !3 a^d foreign Mistresses and visiting Mas special terms for the Daughters of the th School is specially recommended > ^ight Rev. the Lord Bishop of the 'tuR6' an^ Very Rev. the Dean. Pr<?s- XtT°n aPP^°ation to the Lady Principal. t Torri I-Olnlnencino, May 1st. 6-57 GIRLS' SCHOOL, ASHFORD.- hnijof- aPplications for ensuing election to hat bel0U intermediate pay scholarships fetur nPon special forms, which must « ae Secretary, on or before April facafi' foundation Scholars obtain their NUatfiQ an^ board free of all cost. Inter- \kP&y Scholars pay £ 16 per annum. &2 ^mber of higher pay Scholars at he ?0LaTnm can Emitted after Easter. ^8 f Board and education is over i 50. obi • aPpli°ation and full information can 'li0oia^ed ^rom the Secretary of the Welsh ■27, St. George's-road, London, S.W. r~v~— • ty Candidates, a Master has been ^^Ppointed to Llangristiolus National School. IÑQELL Y GOLYGYDD -YR ADOLYGYDD.—Derbyniasom ar v^Pa<* goruchwyliwr y "Bwrdd" Uax ^rau canlynol:—Grisiau'r Demi; yr Athraw; Album Williams, "iemyC\'yn; ychydig adolygiad ar An- £ 'th Newydd Hywel Idloes, 'Mawl yr Qjj rys i yn Sion, 0 Dduw.' Caiff y^ddangos yn ein nesaf. 4cAEvamryw ysgrifau wedi dyfod i law, "Vr CU mys8 "Eglwys y Cymry," acjr ,^sSriw yn nacau gweithio," ac gyn cyflawn am y cyfarfod a y lvvyd yn y Rhos Colwyn ar bwnc ir yegwm a'r Dadgysylltiad. Cyhoedd- ll yo y rhifyn nesaf.
rEH CALVfNISTIC METHODIST…
rEH CALVfNISTIC METHODIST j WURCH OF WALES" A'R I EGLWYS. t)'w !1l4<ll' fod y Gymanfa Gyffredinol a lAivJ'd yr wythnos ddiweddaf, yn 4 A ^ewn cynylltiad a'r Metliodist- l fi&aidd, yn nodi cyfnod neillduol es yr emvad Cymreig hwn. I bob wedi astudio, ar dudalenau lee^(iiaeth y Grefydd Gristionogol, ^5eUad, dadblygiad, dirywiad, a ymraniadau crefyddol oddiar Apostolion hyd heddyw, y mae cyfarfodydd uchod yn i tldealladwy. Dengya hanesydd- ^ghvysig fod y rhwygiadau a lhv^aSailt fywyd ac effeithioldeb yr ho a Gristionogol o oes i oes yn cyf- l ,tai 1 raddau helaeth, o'r un natur. Yn g"vvelwyd y gwres crefyddol ijj a wrthodai ufudd-dod i bob a deddf, ac ar yr un pryd, ynilyn- ^rth ry w atlirawiaeth. arbenig a ystyrid, gan y rhai hyny o aelodau yr Eglwys oeddynt dan ddylanwad y cyn- hyrfiad, o gymaint pwys ag i dafiu pob athrawiaeth arall yn gyfangwbl i'r cysgod. Yn y gwewyr a ddiiynai y fath feichiog- iad, rhoddid genedigaeth i sect. Am dymor, weithiau yn gydmarol hir ei barhad, bryd arall yn nodedig o fyr, teimlai y corif newydd-anedig ddylanw- adau bywyd-roddol y gwres cyntefig. Ond gyda sicrwydd di-droi-yn-ol, yn nhreigliad amser, darfyddai y gwres, a meddienid y sect gan ysbryd hollol wahanol i'r un cyntaf. Fel canlyniad colliant y cariad boreuol, diflanai yr agwedd grefyddol, weithiau'n chwebin, weithiau'n araf, a thrawsffurfid y sect mewn ystyr ysbrydol, hyd nes y cyr- haeddai gyflwr truenus o ragrith, bydol- rwydd, ac oerder, yn yr hwn y trengai ac y diflanai yn ol llaw o'r golwg am byth. Cydmarol fyr ydyw hanes y sect Galfin- aidd yn Nghymru. Yn wir, y mae digon yn fyw heddyw sydd yn cofio yr amser pan yr oedd Calfiniaeth Gymreig yn ystyried ei hun nid yn rwygiad crefyddol, ond yn fudiad ysbrydol tufewn i'r Eglwys Apostolaidd. Y mae miloedd yn yr enwad heddyw sydd yn ystyried eu hunain yn Fethodistiaid yn yr un ystyr ag y cyfrifai y Tadau Duwinyddol eu hunain yn Fethodistiaid. Ond y mae yr anocheladwy yn prysur ymaflyd yn yr enwad fel corph crefyddol. Yn fuan iawn, pan y cofier mai megis doe y ganwyd y sect hon, y mae yr arweinwyr yn gadael yr hen angorfeydd, ac y mae y llestr yn cyflym dueddu tuag at y sugn- draeth ofnadwy lie y collwyd miloedd o sectau cyffelyb, mawr a man, yn ystod y ddwy ganrif ar bymtheg ddiweddaf. Ar- ddangoswyd y ffaith fod y gwres cyntaf i wedi darfod yn yr enwad yn amlwg iawn yn ngweithrediadau cymanfa Chatham Street, Lerpwl. Yr oedd balchder sect- yddol ar ei uchelfanau yn y cynulliadau uchod. Bwrlymai digasedd ac anghariad- oldeb yn anerchiadau y llefarwyr. Ym blethai bydolrwydd a rhagrith i'r fath raddau, ac mor amlwg, fel y mae braidd yn galed rhwystro dagrau wrth feddwl am dywylliad yr aur. Y mae balchder y Corph, heb son am ddim arall, i'w ganfod mewn dull poenus yn y termau newydd a fabwysiedir bellach gan yr enwad. Y mae geir-lechres swyddogol — lianer Presbyteraidd, haner Eglwysig—wedi ei ffurfio, ac yn ei wisg newydd y mae braidd yn anmhosibl adnabod yr hen wladwr Cymreig-11 Shon Gorph." Yn nyddiau JOHN ELIAS, "enwad" oedd yr enw a roddid i'r Corph. Yn nghyngor bythgofiadwy Cymdeithasfar Bala yn 1834, enwad" y gelwid ef. Erbyn hyn, y mae'r enwad yn "eglwys," y tai- cyrddau yn "eglwysi," yr aelodau yn gymunwyr," y ty-capel yn "manse," &c. Brithir y wlad a thai-cyrddau, heb na bedyddfan, nac allor, na gweinidog- aeth Apostolaidd, na chysegriad, na dim o'r cyfryw, a gal want hwy yn eglwysi!" Yn nghymanfa Chatham Street, rhodd- wyd pwys arbenig ar ystadegau yr Eglwys Galfinaidd." Y mae ymchwil- iadau yr Esgob EDWARDS i ddilysrwydd a gwirionedd y ffigyrau a arferir gan y bobl hyn, er drygu yr Eglwys, wedi eu gyru i eithafion gwylltineb. Eleni, er mwyn gwrthbrofi'r hyn a brofwyd tuhwnt i amheuaeth gan Esgob LLANELWY a'r Canon BEVAN, parotowyd crynodeb o'r ystadegau." Yn y crynodeb rhoddant i'r byd nifer eu cymunwyr," ac hyd yn nod nifer eu 11 Y mae y saig grynodebol yn un wych i edrych ami, ond y mae yn eglur fod gormod o dan wedi ei roddi dani wrth ei choginio. Hawdd i'r Eglwys Galfinaidd gyfrif ei "gwrandawyr," ond y mae wedi methu cyfrif aelodau ei Hysgolion Sul a'r athrawon. Yn ddiau, y mae yr hollt hwn yn y dwsmel yn cynyrchu mudan- dod poenus pan yr ystyriom nerth y ffigyrau hyn. Mor darawiadol i gytlwr y Corph yw y geiriau hyny, Mi a aethum yn ffol wrth ymffrostio." Yn Chatham Street, Lerpwl, pasiodd yr "Eglwys Galfinaidd" benderfyniad yn hawlio dadgysylltiad y rhan Gymreig o'r Eglwys Genedlaethol. Yn y weithred hon o eiddo y Gymanfa, daw dirywiad yr enwad i'r amlwg yn fwy eglur nag mewn dim arall. Yn 1834, o dan arweiniad JOHN ELIAS, yn nghymdeithasfa'r Bala, mabwysiadwyd cyngor" yn galw ar aelodau yr enwad i beidio ymyryd a'r rhai anwastad, diben proffesedig pa rai ydyw dadgysylltu yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth." Ond, yn 1890, o dan ar- weiniad SAUNDERS, Abertawe, PUGH, Caerdydd, AARON DAVIES, Pontlottyn, a HUGHES, Caernarfon, sathrwyd cyngor y Tadau dan draed, ac anogwyd y 11 cym- unwyr a'r gwrandawyr i ymyryd a'r rhai anwastad, ac i wneyd eu goreu i ddistrywio yr Hen Eglwys Apostolaidd. Pan yn ymrwymo i wneyd hyn, bostiai yr enwad yn y miloedd aelodau a berth- ynai iddo, proffesai fawr zel dros "deyrnas ein Harglwydd a'n Hiachawdwr CRIST," llawenychai, yn ymddangosiadol felly, fod yr Eglwys yn cynyddu, a bu garediced a datgan ei farn fod Eglwys Loegr yn rhan bwysig o Eglwys CRIST. Nid yw hyn ond arddangosiad o hunan- oldeb, ffroenucheledd, a rhagrith anniodd- efol yr arweinwyr politicaidd sydd wedi di-orseddu yr hen dduwiolion fuont un- waith yn eistedd yn mlarif gadeiriau'r enwad. Cryfder ei nerth," a gogon- iant ei fawrhydi," ydyw can yr enwad yn ei gyfnod dirywiedig. Prif &iaradwr y gymanfa ar bwnc y dadgysylltiad ydoedd Dr. SAUNDERS, D.D. Abertawe, a phrif nod y siaradwyr ydoedd y dymun- oldeb o ddistrywio'r Eglwys er mwyn cynyrchu cariad brawdol." Myn y logicians galluog hyn mai safle bresenol yr Eglwys sydd yn atebol am bob drwg yn y wlad anghariadoldeb ymhlith pechodau eraill. Os fel hyn y mae, sut y gellir egluro y ffaith fod y fath gulni, digasedd, ac anghariad yn ffynu yn rhengoedd Ymneillduaeth tuag at yr Eg- lwys a'i hoffeiriaid ? Nid ydym wedi anghofio y geiriau a lefarwyd yn Aber- tawe gan Dr." SAUNDERS ar y 18fed o Chwefror, 1889. Beiddiwn ddweyd, pe b'ai offeiriad wedi arfer y fath iaith am Ymneillduaeth, y buasai pob pregethwr, pob newyddiadur Radicalaidd, a phob genau gwrth-Eglwysig wedi eu hail-ad- rodd drosodd a throsodd er profi mai car- tref melldith oedd yr Eglwys. Dyma eiriau y "Doctor":—"Hyd yn ddi- weddar, ac o fewn cof i mi fy hun, yr oedd clerigwyr yr Eglwys yn ddiarebol am eu difrawder crefyddol. Gofynaf i chwi fy esgusodi am beidio arfer iaith gryfach.Na fydded i neb gael ei dwyllo gan y gwelliant yn nghymeriad clerigwyr y dyddiau presenol Yr wyf yn siarad yn ddifrifol-gofynaf i DDUW faddeu i mi oswyf yn anghyfiawn —pan yn dweyd nad yw diwydrwydd presenol yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru yn ganlyniad bywyd ysbrydol, ond y mae i'w briodoli i ymgais sylfaen- edig ar ystyriaethau bydol." Dyna iaith apostol dadgysylltiol sydd yn anadlu awyr rydd Ymneillduaeth. Myn yr enwad hwn mai safle yr Eglwys sydd yn cynyrchu anghariad a balchder, ac mai yn yr Eglwys yn unig y gwelir y pechod- au hyn. Yn ddiau, y mae amser peryglus o flaen yr Eglwys Galfinaidd." Pan y dewisa yn arweinwyr iddi Gristionogion o safle y boneddwr, iaith yr hwn a ddy- fynwyd uchod, nis gall cyflwr diflaniad y sect fod yn anfesuredig o bell. Credwn mai un o ganlyniadau penderfyniad Chatham Street fydd prysuro amser dy- chweliad miloedd o Fethodistiaid cyd- wybodol i freichiau yr Hen Fam, oblegid yno yn unig, bellach, y cant hamdden, fel y dymunai eu hynafiaid gynt, i fyw yn llonydd mewn pob rhinwedd a gonestrwydd."
GLADDEOIGAETH Y PARCH. GANON…
GLADDEOIGAETH Y PARCH. GANON WILLIAMS, B.D., LLANELLI. Fel y crybwyllasom yn ein rhifyn diw- eddaf, claddwyd yr hyn oedd farwol o'r diweddar Ganon Williams yn y Gladdfa Eglw) s, prydnawn ddydd Iau, pryd yr oedd miloedd yn bresenol i ddangos eu parch i goffadwriaeth un a wnaeth gy- maint o ddaioni ymhob cylch yn ystod ei fywyd. Ataliwyd pob math o fasnach am rai oriau; ac ymhell cyn yr amser penod- edig, yr oedd cymydogaeth eglwys yr Holl Saint yn orlawn o blwyfolion tra- llodus, dagrau y rhai a ddangosai yn amlwg pa mor anwyl yn eu golwg ydoedd yr ymadawedig. Heblaw y plwyfolion, yr oedd canoedd o gyfeillion o wahanol ranau o'r Dywysogaeth wedi dyfod i'r dref y noson flaenorol a boreu ddydd Iau, ac yn eu plith ugeiniau o offeiriaid. Am chwarter i ddeuddeg o'r gloch, cychwyn- odd yr orymdaith angladdol o'r Ficerdy, ar ei ffordd i eglwys yr Holl Saint. Clud- wyd yr arch ar ysgwyddau nifer o swydd- ogion Eglwysig, ac yr oedd yn orchudd- iedig a wreaths hardd a drudfawr, wedi eu hanfon gan Arglwydd Esgob Ty Ddewi a Mrs. Basil Jones Mrs. Goring Thomas, Mrs. a'r Misses Nevill, Westfa; yr Archddiacon North a'r Misses North Clwb Cyfansoddiadol Llanelli; Mrs. Lewis, Stradey Mrs. Wilson, The Dell Mr. a Mrs. Trubshaw Mr. a Mrs. G. B. Elkington Mr. a Mrs. Howel Jeffreys,; y Dr. a Mrs. Evans; y Dr. a Mrs. Buck- ley Cyfeillion o Dy Ddewi y Dr. a Mrs. Williams, Treforris, a Iliaws o rai eraill na chafwyd eu henwau. Anfonodd Arglwydd Esgob Ty Ddewi i ddatgan ei ofid nas gallai fod yn bresenol oherwydd ei fod yn cynal gwasanaethau conffirmasiwn mewn rhanau eraill o'r Esgobaetb. Ymysg yr offeiriaid oeddynt yn bresenol yr oedd yr Archddiacon Hil- bors, y Canoniaid Smith, Lewis, a Clark, y Ficer Walters, y Prifathraw Edmondes, ColegDewi Sant; y Canon Dundas, a'r Parch. J. R. Lloyd. Yr oedd trefn yr orymdaith bruddaidd fel y canlyn Heddgeidwaid. Y Tan Ddiffoddwyr. Ynadon. Gwarcheidwaid. Cyfeillion. Y Gwirfoddolwyr. Rbydd-Faswniaid. Y Corau a'r Offeiriaid yn eu gwenwisgoedd. Yr Offeiriaid Gweinyddiadol. Offeiriaid a Gweinidogion Ymneillduol. Dirprwyaeth o Goleg Dewi Sant. Y Wardeniaid a'r Cyngor Eglwysig. Y CORFF. Galarwyr. Y Cyhoedd. Tra yr ydoedd yr orymdaith yn myned drwy yr heolydd, yr oedd tyrfaoedd mawrion i'w canfod ymhob man, a diau na welwyd y fath angladd dywysogaidd yn y dref erioed o'r blaen. Wedi cyraedd yr Eglwys, darllenwyd y gwasanaeth anghydmarol gan y Parch. E. Thomas, a darllenwyd y Hith gan y Canon Dundas. Canwyd emyn ag yr oedd y diweddar Ganon yn hynod hoff o honi, sef Peace, perfect peace," gan y gynull- eidfa anferth, a golygfa nad anghofir mo honi yn fuan iawn ydoedd, gan fod pawb ar eu gliniau tra yn canu yr emyn bryd- ferth hon. Wedi gorphen y gwasanaeth yn yr Eg- Iwys, ail ymffurfiwyd yn orymdaith, ac aethpwyd tua'r Gladdfa Eglwysig. Yr oedd y galarwyr canlynol yn bresenol :— Mrs. Williams (y weddw), Miss Nevill, y Parchn. Roger Williams a Re^o Williams, Mri. R. Nevill, W. Nevill, R. Nev ill, ieu., W. T. Nevill, Frank Nevill, &c. Wrth y bedd, canwyd yr emynau Cyn reig nefolaidd, Arglwydd, arwain drwy'r anialwch," a "Dal fi, fy Nuw," gan y Corau. Diweddwyd y gwasanaeth wrth y bedd gan y Prifathraw Edmonds, Coleg Dewi Sant. Yna ymadawodd y dorf alarus, gan adael corff eu Ficer ffyddlawn a'u cyfaill cywir yn y bedd Hyd doriad boreu wawr, Pan ddelo plant y tonau Yn iach o'r cystudd mawr." PREGETH YN EGLWYS GADEIRIOL TY DDEWI. Foreu ddydd Sul diweddaf, pregethid yn Eg- lwys Gadeiriol Ty Ddewi gan y Parch. Ganon Lewis, yr hwn ar ddechreu y bregeth a wnaeth y sylwadau canlynol :-Cyn cyffwrdd i'r pwnc ag y mae y dydd heddyw yn galw ein sylw ato, mae genyf ddyledswydd arall i'w chyflawni. Er fy mod yn ymwybodol nas gallafei chyflawni yn foddhaol, teimlaf nas gallaf oddef i'r cyfleustra presenol fyned heibio heb dalu, o bwlpnd yr Eglwys Gadeiriol hon, deyrnged o barch ac an- wyldeb i goffadwriaeth un o'r aelodau gwerth- fawrocaf perthynol i'r Eglwys Gadeiriol, yr hwn mor ddiweddar a gymerwyd ymaith oddi- wrth ei waith i orphwys. Yr eeddem yn edrych ymlaen at ddyfodiady Canon Williams,gan ei fod i ddechreu ar ei dri mis arferol y Sul nesaf, ond derbyniasom hysbysrwydd am ei afiechyd dif- rifol, ac yn ddilynol am ei farwolaeth ddisymwth, yr hyn a'n llanwodd a gofid blin. Pa fodd bynag, pan adgofiwn am ei gorff crymedig a'r trwstwch oedd yn ganfyddadwy ar ei wyneb- pryd er's peth amser, nis gallwn lai na theimlo fod marwolaeth wedi dyfod iddo fel ag y daw melusder ewsg i'r gweithiwr blinedig. Nis gellid canfod offeiriad mwy gweithgar nag ef yn yr holl Esgobaeth. Yn awr y mae yn gorphwys oddiwrth ei lafur yn y gwynfydedigrwydd hwnw ag y mae yr Ysbryd wedi ddatgan yw rhan y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd. Ond tra yr ystyriom ei ymadawiad yn enill anmhris- iadwy iddo af, teimlwn fod ei farwolaeth yn golled anadferadwy i'w gyfeillion a'r Eglwys yn gyffredinol. Nis gallwn ond cydymdeimlo yn ddwfn A'i berthynasau galarus, ac yn enwedig a'i weddw, yr hon sydd wedi ei gadael yn unig i dramwyo yr hyn sydd yn ol iddi o daith bywyd. Ac eto, nid yw yn unig, gan y gall pob un o ddilynwyr Crist hawlio sicrhad bendigedig eu Harglwydd, a dweyd gydag Ef, Eto nid wyf yn unig, gan fod y Tad gyda myfi." Mae yr Eglwys yn Llanelli, dros yr hon y llywyddodd mor hir ac mor ffyddlawn, wedi derbyn colled sydd yn ymddangos i ni yn anhawdd ei hadf eru, a'r hon, dan unrliyw amgylchiad, a deimlir yn .Y hir. Yr oedd yr arddangosiadau o alar yn yr angladd ddydd lau yn profi pa mor ddwfn yr anwylid ac y perchid ef, a'r golled a achoswyd drwy ei ymadawiad sydyn. Bydded i'r Eglwys alarus dderbyn gras i edrych i fyny at eu Har- glwydd yn eu hadfyd, a chysuro eu hunain a'r addewid diddarfod, "Wele, yr wyf Fi gyda chwi yn wastad, hyd ddiwedd y byd." Pan edrychom arnom ein hunain, teimlwn yn alarus, gan nad oedd neb yn fwy derbyniol yn Nhy Ddewi, gan gyfoethog a thlawd fel eu gilydd. Gwerthfawr- ogid ei gynghoiion difrifol ac ymarferol o'r pwl- pud hWn, a'i fywyd dichlynaidd, gan bawb. Am danaf fy hun, dymunaf ddwyn tystiolaeth i barodrwydd y diweddar Ganon i'm cynorthwyo bob amser gyda'm dyledswyddau plwyfol. Mae yr holl Esgobaeth mewn gwirionedd wedi der- byn colled mwy neu lai, gan nad oedd unrhyw waith yn cael ei gario ymlaen yn yr Esgobaeth, er hyrwyddiant ac effeithiolrwydd yr Eglwys, nad oedd y Canon Williams yn cymeryd rhan flaenllaw ynglyn ag ef. Gall yr holl Esgobaeth alaru heddyw oherwydd colli un o'i hoffeiriaid mwyaf gweithgar a zelog. Ond er mor fawr yr ymddengys y golled ymhob cylch, nid yw marw- .Y olaeth y fath ddyn yn golled i gyd. Nid ydyw y daioni a wnaeth, a'r rhinweddau Cristionogol a addurnent ei gymeriad, yn gladdedig gyda'i gorff na, y mae y rhai hyny yn fyw, a pharhant yn fyw. Drwyddynt hwy, mae efe, er wedi marw, yn Ilefaru eto." Mewn gwirionedd, mae ei dduwioldeb, ei ddefosiwn hunan-ymwadol, ei ffyddlondeb, a'i lafur diflino yn llefaru wrthym ni heddyw yn fwy nerthol na'i lais byw ef. Gyda dyledus barch y dymunwn gymhwyso i'n brawd ymadawedig y cymeriad a roddir gan ein Harglwydd i'r gwas da a ffyddlawn yn yr Efengyl. Ffyddlawn a doeth ydoedd gwas Crist ag y galarwn oherwydd ei golli heddyw, a pharhaodd yn ffyddlon hyd y diwedd. Yr wyf yn credu, pan y byddwn heddyw yn offrymu y weddi dros yr Eglwys filwriaethus yma ar y ddaear, y bydd i ni feddwl am ein brawd ymad- awedig, ynghyd a Ilawer o rai eraill a'i rbagflaen- asant oeddynt yn adnabyddua i ni, ac y clodfor- wn Dduw drostynt hwy, a phawb o weision Duw a ymadawsant a'r fuchedd hon yn Ei ffydd a'i ofn. Bydded hefyd ein gweddi ddifrifol yn wastad ar i Dduw roddi i ni ras felly i ddilyn eu hesiamplau da hwy, fel gyda hwynt y bydd- om gyfranogion o'i deyrnas nefol, er cariad ar Iesu Grist, ein hunig Gyfryngwr a'n Dadleuwr. Amen." 0
Llythyr o Rydychain.
Llythyr o Rydychain. Un o ddarllenwyr Y LLAN, wedi chwilio yn ofer am lythyr Northman," yn d'od i'r pen- derfyniad fod nerth hyawdledd Syr Charles Russell, A.S., wedi cael y fath effaith arno ues iddo anfon ei lith i Gymru Fydd" mewn camgymeriad. Ond nid Mly y bu. Gwir i Syr Charles ddyfod yma, a yw i'ch gohebydd fyned i wrandaw arno. We^^rr argraff gafodd arno. Dyn llwyfan digon ei^Rl—metha roddi'r argraff o'r twrne yn ymgolli yn y dyn, o'r dadleuydd yn y gwladweinydd. Mae yn hynod ddramataidd, ac yn llithrig ddigon, er yn gwneyd defnydd helaethach o'i bapyr nag y buasem yn disgwyl. Am bum' munyd yn y diwedd siarad- odd yn wir hyawdl a dylanwadol, ond ymostyng- odd i wneyd hyny trwy apelio at nwyd yn hytrach na rheswm ei wrandawyr. Ar ol gwraudo ei araith, mae genyf feddwl llawer uwch o Mr. Chamberlain fel gwladweinydd, fel siaradwr clir a nerthol, ac fel orator penigamp. Cyfarfod rhagorol gynhaliwyd yn neuadd St. loan, o dan nawdd y Gymdeithas er Amddiffyn yr Eglwys yn Nghymru. Yr oedd yr Is- ganghellydd yn y gadair, yn cael ei gynorthwyo gan liaws o'r dons. Yr oedd y neuadd yn llawn. Ymdriniodd Mr. Stanley Leighton, A.S., a ffigyrau yn ei ddull medrus ax-ferol, ac er nad yn hyawdl ei hunan, eto yr oedd ei ffigyrau yn fwy I argyhoeddiadol na geiriau yr areithiwr hyawdlaf. Ond, yn ddiameu, araith y noson oedd un yr Hybarch Archddiacon Watkins, y Bampton Lecturer, rhwydd gyfieithiad o'r hon gyflwynir mewn colofn arall i ddarllenwyr Y LLAN*. Mae yn siaradwr hyawdl, gwresog, a choeth. Edrycha yu union o'i flaen, ac ambell wait4 rhodda, ryw gipdrem dros ei wrandawyr oad wedi gwreeogi (fel ag y gwnaeth, nes haner dychrynu rhai o'r Saeson) haner cauai ei lygaid, neu fwy, chwyda ei ben rhwng ei ysgwyddau, a'i freichiau yn ostyngedig braidd, ac ymollynga yn gyfangwbl i'w bwnc, gan fyned ei hunan megis dan orchudd er mWYll dwyn yr hyn a ddywed i sylw amlycach. Enwodd Esgob Llanelwy, ond nid cynt nag yr oedd taranau cymeradwyaeth o bob cyf eiriad, ac ychwanegodd, oni bae ei bod jTi hwyrhau, y buasai yn enwi Esgob newydd Ban;:or, ond yr oedd y teimlad Cymreig wedi ei gyneu, i, derbyniwyd enw'r Esgob Lloyd gyda maith gymeradwyaeth. Dilynwyd ef gan y Parch. Llewelyn Thomas, M.A., Is-benaeth Coleg yr Iesu, yr hwn a lawenychai fod dau Esgob a dau Ddeon presenol Gopledd Cymru yn hen fyfyrwyr y Coleg yr oedd ef yn dwyn cysylltiad ag ef. Wrth ateb pleidlais o ddiolch- garwch gynygiwyd iddo gan y Parch. R. W. M. Pope, D.D., Censor y Non-Collegiate Students, dywedodd yr Is-ganghellydd y buasai yn dda ganddo pe buasai pob cyfarfod ymbresenolai yn rhoddi cymaint o wybodaeth iddo a'r cyfarfod hwnw. Testamur go dda, onide ? Dywed y Church Review am y Bampton Lectures draddodwyd gan yr Archddiacon Watkins y flwyddyn hon, fod yna dystiolaeth unfrydol eu bod yn anarferol alluog. Mae yn debygol na fydd yn Archddiacon lawer iawn yn hwy. Colled yw i Gymru na ddychwela i'w wlad enedigol. Clywais iddo gael cynyg Esgob- aeth Llandaf, ond iddo ei gwrthod oherwydd nas gallai siarad Cymraeg. Nis gwn faint o wir sydd yn y chwedl hon. Mae yn hyfryd genym hysbysu f;)d Mr. W. D. Llewelyn, mab Syr John T. Dillwyn Llew- elyn, wedi derbyn ei U blue." Mae y rhai sydd yn gwybod am y Prifysgolion yn gwybod an- J rhydedd pa mor fawr yw bon, ae nid oes ond hwy all ddirnad y pwys roddir arni. Uchelgais llawer bachgen yn y Prifysgolion ydyw enill ei i blue." Yr hyn a feddylir ydyw, ei fod wedi cael ei ddewia i chwaren yn erbyn y chwaer- athrofa o Gaergrawnt, yn un o'r chwareuon yr ymhyfrydir ynddynt, megis cricket, bel droed, lawn tennis, rhedeg, rhwyfo, 4c. Mewn cricket mae ef wedi ei enill. Chwareuodd yn ardderchog yn erbyn yr Awstraliaid, gan scorio 33, ddechreu yr wythnos, & dydd Sadwrn, yn erbyn y Gentlemen of England, scoriodd 116, y mwyaf wnawd yma er's amser maith. Bu i fewn am dair awr, a hitiodd y bêl i'r boundary ugain gwaith, gan enill 4 bob tro. Well done, y Cymro! Pregethwr mwyaf yr oes bresenol yw y Canon Liddon. Dywedir ei fod yn awr newydd wrthod cael ei benodi yn Eagob St. Albans. Dylasai fod wedi ei benodi ugain mlynedd yn ol. Mae yn awr wedi ymneillduo o Bydychain i gwblhau y cofiant y mae yn ysgrifenu i'r enwog Ddr. i, Pusey. Ond nid hir y gadewir dynion fel y Canon Liddon fod mewn neillduad. Aeth y si ar led ddechreu yr wythnos ei fod yn pregethu foren Sulgwyn yn Bglwys y'Varsity. Kid hir y bu cyn i wybodaeth swyddogol gadarnhau y newydd. Gan wybod y buaeai yno gryn gyrchu, penderfynodd eich gobebyddfod ynoynj ddigon buan. Yr oeddy gwasanaeth i ddechreu am 10.30. Yr oeddwn yno cyn deg. Yr oedd y drysau heb agor. Mae mynediad i mewn trwy bedwar drws gwahanol, ao os nad oedd yno y pryd hwnw 8001wrth bob drws, nid oedd yno un. Agorwyd y drysau am ddeg, ac nid aeth haner pum' munyd drosodd cyn i bob set gael ei llenwi, a blociwyd y passages ymhob cwr yn uniongyrchol. Arferol yw dweyd, ar amgalehiad fel hwn, i ganoedd droi yn ol wedi eu siomi, ond gan mai mater o anmhosibil- rwydd ydoedd i mi fyned allan i edryeh, rhaid gadael allan y rhan hanfodol hon o'r hanes y tro hwn. Naturiol oedd disgwyl mai yr Yabryd Glan fyddai'r testyn, a chan mai yr Ysbryd Glan yw testyn erthygl y Parch. Charles Gore, M.A., yn y Lux Mundi," naturiol oedd disgwyl i'r Canon ddweyd ei farn am yr erthygl. Dangos ynfydrwydd rhai o'r athrawiaetbau ddarfu, a hyny mewn dull croew ac eofn. Yr oedd y Parch. Charles Gore yn eistedd wrth droed y pwlpud. Mae sibrwd er's tro bellach ei fod am dymheru rhai o'i ddywediadau yn y llyfr hwnw. Mae dull y Canon Liddon, mewn llawer o bethau, yn debyg i'r Canon Knox Little. Y diweddaf, efallai, yn fwy tanbaid a barddonol, a'r blaenaf yn llawn mwy sylweddol. Nid difudd yr Eglwys all fagu dau wron megis Liddon a Knox Little Yn yr hwyr, cawsom y pleser o wrando y Parch. W. B. M. Pope, Censor y Non-Collegiate Students, yr hwn oedd wedi cymeryd y radd o D.D. (nid un bluog Americanaidd), y dydd Gweuer blaenorol. Cymraes yw mam y Dr. Pope, yn byw yn Mangor, a Cbymraes yw ei wraig. Mac felly yn haner Cymro o ochr ei fam, ac y mae ei haner orou yn Gymreig, a dywedir fod dau lianer yn gwneyd un cyian, ac felly hawlir y Dr. Pope fel Cymro trwyadl. Mac yn un o'r dynion mwyaf adnabyddus yma, ac yn hynod boblogaidd. Bydd yr Athrofc. yn anrhegl1 y Parch. D. L. Lloyd a D.D. ddydd Mawrth, y 26ain cyfisol, ar ei benodiad i Esgobaeth Bangor. Hon yw wythnos yr eights, ac y maent, fel arfer, wedi llenwi a gorlenwi yr holl dref A di- eithriaid. Gan nad ydynt ond haner drosodd pan yr ydym yn ysgrifenu, cawn son ychydig am danynt yn y nesaf. Digon yn awr yw dweyd fod Coleg yr Iesu wedi myned un lie yn uwch ar yr afon. Yn uweh yr elo. NORTHMAN*.
MARWOLAETH CYSODYDD YN MERTHYR.
MARWOLAETH CYSODYDD YN MERTHYR. Foreu ddydd Mercher, Mai yr 28ain, bu farw Mr. Henry Gregory, cysodydd yn swyddfa argraphu y Mri. Farrant a Frost, cyhoeddwyr y LLAN. Yr oedd yr ymadawedig yn 23 mlwydd oed, ac wedi dyoddef am hir amser oddiwrth y darfod. edigaeth, anhwylder ag sydd yn gwneyd bylchau mawrion yn dra mynych yn rhengau yr argraphwyr. Yr oedd y cyfaill Gregory yn weithiwr da a diwyd, ac yn un a hoffid yn fawr gan ei gyd- ysodwyr. Cleddir ef yfory (ddydd Sad- wrn) yn nghladdfa gyhoeddus y Cefn. Bydd yr angladd yn un fihvrol, oblegyd yr oedd ein cyfaill ymadawedig yn aelod gyda'r 3rd V.B. Welsh Regiment, Mer- thyr Detachment.
[No title]
Y Parch. Ddr. Scowler: Dyna nifer o ddyn- ion ienainc sydd genych yo eich cynulleidfa. A OON genych wastad gynifer ?' Y Parch. Ddr. Howler: 4 O, nac 00s mi gyhoeddais nos Sul diweddaf y buaswn heuo yu pregethu pregeth neillduol i ferched ieuainc.'
DYFFRYN CEIRIOG.
DYFFRYN CEIRIOG. HER I'R HEN WEITHIWR." PABYDDIAETH AC YMNEILLDUAETH YR UN. GLYN TRAIAN.-Diolch i "Eglwyswr" am ei ysgrif for a miniog yn atebiad i Hen Weith- iwr mewn cyfoesolyn arall. Rai blyrtyddau yn ol, cawsai H.W." & Co. ddweyd unrhyw beth a ddymunent am yr Eglwys yn y dyffryn hwn ond erbyn heddyw, y mae pethau wedi cyfnewid cryn lawer. Y mae genym wyr lleyg a allent yn rhwydd fesur cledd ag ef, os myn. YmddengyB mai 44 Croesau a Phabyddiaeth" sydd yn peri blinder iddo. Ceir yn ein hardal wahanol fathau o Babau, a Phabyddiaeth yn ei wahanol ffurf. A fydd Hen Weithiwr garediced ag ateb y cwestiynau canlynol:— 1. Pa nifer y cant o gapeli Ymneillduol a adeiladwyd yn y sir hon yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, heb groesau arnynt, neu gelfyddwaith neillduol arall i atdynu llygaid yr edrychydd ? 2. A A-yr efe am gapel Ymneillduol yn y sir hon a adeiladwyd beth amser yn ol, yn benaf i foddio cywreinrwydd a balchder, pa un sydd ar ffurf croes, a ffcnestr liwiedig iddo, yn yr hon y ceir darlun o'r Prophwyd Esaiah, ynghyd a Dafydd yn chwareu y delyn ? 3. Beth yw y gwahaniaeth rhwng dweyd profiad (pe profiad hefyd) yn y cwrdd eglwysig a chyffesu i'r Pab ? 4. Pa wahaniaeth sydd rhwng cael peidio ei ddisgyblu am drosedd, os byddis '• yn dda wrth yr achos," a thalu i'r Pab am faddeu pechod ? Pan ymsefydlodd y Parch. W. Jones yn ein myag tua dwy flynedd yn ol, rhaid ydyw i ni gyfaddef y gwir mai hynod isel ac ogwan iawn oedd cyflwr yr achos yma y pryd hwnw, ond erbyn heddyw y mae y gynulleidfa ya fwy na dwbl yr hyn ydoedd, rhif y cymun- wyr wedi lliosogi, a'r Ysgol Sul yn fiodeuog. Nid yn unig y mae cynydd mewn rhif, ond mewn ysbryd gweithgarwcli hefyd. Y mae yr achos Eglwysig yn cyflym fagu nerth, ac yn dyfod yn allu yn y plwyf, yn allu y mae yn rhaid ei wylio a'i atal, os yn bosibl, gan rai. Cynydd a bâr llinder i H. W. ae nid dirywiad. Hyderwn y caiff ein Ficer llafurus a galluog iechyd a nerth i barhau mewn gweithcrarwch, ac y caiff ei lafur yn y dyfodol ei fendithio fel ag yn y gorphenol. MADOC AD MADOC.
CYFARFOD ANRHEGAWL YN LLANGYFELACH.
CYFARFOD ANRHEGAWL YN LLANGYFELACH. Nos Sadwrn, Mai y 24ain, cynhaliwyd cyfarfod anrhegawl ac amrywiaethol yn Ysgoldy'r Eglwys, o dan lywyddiaeth y Parch. Mr. Jones, yr hwn a wnaeth syIw- adau lied bwrpasol ar yr amgylchiad. Amcan y cyfarfod oedd anrhegu Mr. Thomas Lewis, Joiners' Arms—un o ffydd- loniaid yr Ysgol Sul, &g awrlais hardd (eight-day timepiece), ar yr achlysur o'i briodas a Miss Anne Davies, o'r pentref hwn. I ddechreu y cyfarfod, canwyd yr hen benill anwyl hwnw, "Cysegrwn flaenffrwyth dyddiau'n hoes." Wedi cael ychydig eiriau gan y cadeirydd, galwyd ar Mr. Thomas Hughes i ddarllen cyn- yrchion ei awen mewn ffordd o briodas- gerdd i'r pfir dedwydd. Adroddiad, "Y ty anniben," gan Mr. David Jones. Ad- rodd, "Gochel briodi a meddwyn," gan Mr. Jacob Hughes. Can, 44 Mae pvvyll yn well nag aur," Mr. J. Evans. Darllen- iad-anerchiad barddonol eto gan Mr. Thomas Hughes. Canu yr hen benill, "Plant ydym eto dan ein hoed." Ad- rodd, "Ol-ysgrif," gan Mr. David Jones. Ar ol hyn, aethpwyd at brif waith y cyf- arfod, sef cyflwyno yr anrheg briodasol. Gwnaeth Mr. Jones (yn absenoldeb Mr. W. Williams, arolygydd yr Ysgol Sul, ac arweinydd y cor canu yma, yr hwn, o herwydd amgylchiadau eraill, a luddiwyd i fod yn bresenol) gyflwyno yr anrheg i'r brawd T. Lewis. Yn ei araeth, dywedai nad oedd neb wedi caePeu gorfodi i gyf- Z, ranu tuag at y drysorfa, ond mai rhodd- ion gwirfoddol oedd y cwbl. Teimlai ael- odau yr Ysgolion Sul a'r cor nad teg yd- oedd gadael i'r cyfleustra presenol fyned heibio heb ddatgan eu teimladau tuag at ddau o'r ffyddloniaid mewn modd sylw- eddol. Da iawn genym weled fod teim- ladau cynes fel hyn yn ffynu mor gryf yn yr ysgol hon nid yn unig fod yma lawer yn mynychu yr ysgol, ond fod y cariad hwnw y gweddai fod rhwng aelodau a'u gilydd yn ffynu yn gryf yma, ac arwydd amlwg iawn o hyn ydoedd yr anrheg hon. Wedi cael anerchiadau gan y Mri. T. 2.11 Hughes a J. Evans, cawsom air gan Mr. Thomas Lewis fel cydnabyddiaeth am y rhodd, a darllenodd ychydig o engtynion yn datgan ei benderfyniad a'i ddymuniad yn y dyfodol. Wedi canu yr Anthem Genedlaethol, aeth pawb adref wedi cael cyfarfod wrth eu bodd. Ymgryma pawb yn llawen Pan welant fab a mereh Yn myn'd at.I or Hymen I roddi clo i'w serch Ac hefyd dyna'r adeg Mae'r bobl dda o hyd Yn hoffi rhoddi anrheg I'r ddau wrth ddechreu'u byd. Ha weithian gwiriwyd hynv Am ddau o'r Eglwys hon Hoff hanes cu priodi Oynhyrfodd pob rhyw fron Yn llawn o frwd deimladau A dymuniadau gwir, I'w grasol undeb hwythau I fod yn undeb hir. Pa beth sydd yn hyfrydach Na'r hyn sy'n awr rllaw ? Mae Eglwys Llangyfelach, A i chalon yn ei llaw, Yn brysur ddal y fantais, Er clod a pharch i'r ddau, 'N rhoi anrheg dlws o awrlais Yn deilwng i'w mawrhau. 0 dechr'wch fywyd rewydd, Hyd ben eich gyrfa Ion Boed ichwi gofio beunydd Am rodd yr ysgol hon Fel rhyw ddangoseg fechan 0 ddymuniadau clyd, Arddenjrys fod eu hamcan Am dd'wedyd "Gwyn eich byd." ÅJi lAGo.