Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

CAERFYRDDIN.

News
Cite
Share

CAERFYRDDIN. YMWELIAD BLYNYDDOL YR AKCHDDIACON. —Ymwelodd yr Hybarch Archddiacon James, M.A., a Chaerfyrddin, ddydd Gwener diweddaf, er cyfarfod ag offeiriaid y rhan hon o'r Arch- ddiaconiaeth, a derbyn y wardeniaid i'w swydd o gyfrifoldeb. Nid oedd yn bwriadu traddodi ei anerchiad y tro hwn. Am 11.80, darllenwyd y gwasanaeth yn Eglwys St. Pedr, gan y Parch. Evans, curad cynorthwyol. Ar ol galw allan enwau yr offeiriaid, yn ol y drefn arferol, a derbyn 11 w o ffyddlondeb oddiwrth bob warden, ail-ymgynullodd y rhan fwyaf yn Ysgoldy Heol y Prior, i ymdrin a'r Mesur Addysg sydd o flaen y Senedd yn bresenol (yn ei gysylltiad ag ysgolion yr Eglwys yn benaf), ynghyd a phwnc y Degwm-pa ran sydd yn brif bynciau y dydd ac yn enill sylw a dyddordeb trigolion Prydain Fawr. Cyn dechreu ar yr ymdriniaeth, cyf- eiriodd yr Hybarch Archddiacon, mewn teimladau dwys ac hiraethus, at farwolaeth ddi- symwtli y Canon Williams, LJanelJi-un o golofnau cadarnaf yr Eglwys yn Neheudir Cymru yr liyn oedd yn gollod drom i'r Eg- lwys yu y cyfwng presenol. Dywedai fod ei ymroddiad llwyr i'w amrywiol ddyledswyddau Eglwysig, ynghyd a'i zel dduwiol dros ogoniant yr Eglwys a garai mor fawr, yn peri rhwyg braidd anadferadwy yn rhengoedd milwyr y Grocs o dan faner yr Eglwys. Yr oedd pob gwyneb yn welw, a distawrwydd fel y bedd yn teyrnasu, tra yr oedd yr Hybarch Gadeirydd yn talti teyrnged o barch i'w goffadwriaeth fendigedig. Yn nesaf, traddodwyd anerchiad meibtrolgar ac eglur gan y Prif-athraw Brown, M.A., o'r Training College, ar fanteision ac an- fanteision y Mesur Addysg yn ei berthynas 4'r Ysgolion Gwirfoddol. Dangosodd ei fod yu berffaith feistr ar ei bwnc, a chafodd wrandaw- iad astud. Dilynwyd y Prif-athraw gan Mr. Rickard, Caerfyrddin, lleygwr rhagorol. Nid oedd ef o'r un farn yn gywir a Mr. Brown gyda. golwg ar effcithiau y Mesur ar Ysgolion yr Eg- lwys, ond credai y ddau fod y manteision deill- iedig yn gorbwyso yr anfanteision; ac felly, y dylai yr Eglwys arier pob moddion o tewu ei chyraedd i ddylanwadu ar y Llywodraeth bres- enol i basio Mesur mor ffafriol ag y gellir i'r Ysgolion Gwirfoddol, pa rai sydd wedi gwneyd cymaint er Iledaenu addysg o'r fath oreu trwy ein broydd am oesau a chenedlaetiiau. Gwnaeth y Parch. Davies, yr arholydd Esgobaethol, sylwadau pwrpasol iawn ar yr un mater, a dangosodd, trwy ystadegau, fod yr Ysgolion Gwirfoddol yn meddu safon uchel yn y Wlad. wriaetli, yn annibynol ar yr addysg grefyddol a gyfrenir ynddynt, ac felly, eu bod yu teilyngu cefnogaeth Senedd Prydain Fawr trwy gyfrwng y Mesur sydd ar ddyfod yn gyfraith safadwy. Yn ganlynol, pasiwyd penderfyniadau unfrydol i'r perwyl yma. Ccdodd y Parch. T. R. Walters, M.A., Caerfyrddin, i fyny, ar ran yr offeiriaid, i longyfarch yr Hybarch Archddiacon ar adnewyddiad ei iechyd, ynghyd a'i ymweliad a Chaerfyrddin, ar ol ei anhwylder diweddar. Dywedai eu bod oil, yn offeiriaid a Ueygwyr, Y11 llawenhau wrth ei roesawu i'w plith ar achlysur mor ddymnnol, ac yn hyderu y cawsent fwynhau ei gymdeithas .felus, a'i gyf- arwyddiadau buddiol ac adeiladol am flynydd- oedd meithion, yn rhinwedd ei swydd bwysig fel Archddiacon, Eiliwyd y sylwadau hyn gan y Parch, S. Jones, D,G,, mewn anerchiad gwresog ac i'r pwynt. Diolehodd yr Hybarch Gadeirydd mewn modd dyladwy a eu teimlad- au da tuag ato, ynghyd A'u dymuniadau am ad- feriad ei iechyd a'i nerth. Teimlai yn wastad wrth ei fodd yn eu mypg, oherwydd eu parod- rwydd i gydweithredu Ag ef ymhob gwaith da yn yr Archddiaconiaeth.—D. S. Davies.

GWYLJAU YSGOLION SUL.

TOWYN, ABERGELE.

LLANGATHEN.

MERTHYR TYDFIL.

PENTREFOELAS.

GELLI AUR.

DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

3ANLLWYD, GER DOLGELLAU.

[No title]

Nodion Hendy Gwyn ar Daf.…

YSGOL UWCHRADDOL.

Nodion o Ddeoniaeth Llanrwst.

Nodion o Ddeoniaeth Wyddgrug

AMRYWION.

MARCHNADOEDD.

Advertising

RHYL.