Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

LLITH " CLWYDPAB."

News
Cite
Share

LLITH CLWYDPAB." DIRYWIAD YMNEILLDUAETH. YCHWANEG 0 GAPELAU AR WERTH! Y COFRIFIAD CREFYDDOL. Oddiar pan ymwelais a Merthyr Tydfil o'r blaen, mae amryw ddigwyddiadau pwysig wedi cymeryd lie, ond nid oes amser na gofod i gyfeirio at yr oil o hon- ynt yn awr. Mae yn gofus i'ch darllen- wyr i ymladdfa waedlyd gymeryd lie rhwng nifer o Wyddelod terfysglyd yn nghapel y TABERNACL, DOWLAIS, ychydig wythnosau yn ol, ac, fel y mae eisioes wedi ei hysbysu yn eich colofnau, y mae y capel hwnw yn awr ar werth. Capel split ydoedd, wedi ei adeiladu ag arian benthyg i foddio mympwy rhywrai anfoddog perthynol i gapel arall. Aeth ymlaen yn wedclol am ychydig, ond yn awr I mae wedi dyfod yn dead stop arno. Mae y ddyled anferthol sydd arno wedi gorlethu yr ychydig aelodau, a'r ymddir- iedolwyr wedi gorfod ei roddi i fyny, yn gymaint a bod y rhai a roddasant fenthyg arian arno yn galw yn benderfynol am eu harian yn ol. Ychydig obaith, pa fodd bynag, sydd y gwelant ddim yn ol, gan fy mod yn deall fod eisioes ormod o gapeli yn y lie, ac y mae yn debygol y ceir yn fuan glywed am ychwaneg o gapelau ar werth, nid yn unig yn Nowlais, ond mewn lleoedd eraill hefyd. Deallais hyn oddiwrth lythyrau amryw ohebwyr mewn gwahanol ranau o'r wlad. Bydd yn dda genyf dderbyn unrhyw newyddion neu awgrymiadau oddiwrth unrhyw bersonau ynghylch sefyllfa Ymneillduaeth yn eu 11 gwahanol ardaloedd. Cedwir enwau y eyfryw yn hollol gyfrinachol, a thelir sylw i bob un. HAEHIADAU YR YMNEILLDUWYR. Haered yr Ymneillduwyr politicaidd faint a fynont ynghylch eu cryfder yn Nghymru, mae ffeithian yn profi yn wahanol iawn. Llawer gwaith y maent wedi ymffrostio eu bod yn naw o bob deg o'r boblogaeth, ond ni chyhoeddwyd erioed anwiredd mwy gwrthun, a gwydd- ant hyny yn dda. Y gwir yw fod sefyllfa Ymneillduaeth yn awr yn fwy anobeith- iol nag erioed. Dirywiad sydd i'w ganfod ymhob man, tra y mae yr Eglwys, er yr holl ymosodiadau sydd arni, yn cynyddn yn barhaus. Mae hyn, fel y gallesid tybio, wedi creu braw yn y gwersyll Ym- neillduol, a bydd yn rhaid i ychwaneg o weinidogion ymgymeryd a bod yn oruch- wylwyr cymdeithasau yswiriol, darlun- iau, &c., er cynal eu hunain a'u teuluoedd, gan na fedr eu cynulleidfaoedd wneyd hyn. Gresyn na chaffai yr wyn hyn waddoliadau yr Eglwys i'w meddiant Llawer dyfais a gynllunwyd i gadw yr achos yn fyw mewn llawer ardal, megis cyngherddau, eisteddfodau, cyrddau te, ruffles, telephone, ysglodion wedi eu tori ,i -(i, t gan Mr. Gladstone, ac yn ddiweddaf oil mae y phonograph wedi cael ei ddefnyddio at yr un amcan. Mae yn rhaid cael rhyw newydd-beth yn barhaus. Mae gwleid- yddiaeth wedi cael y flaenoriaeth ar yr Efangyl mewn llawer ardal, ac yn awr y mae y gweinidogion yn medi ffrwyth yr hyn a hauasant. Y COFRIFIAD CREFYDDOL CYNYGIEDIG. Mae penderfyniad y Llywodraetli i gael cofrifiad crefyddol y flwyddyn nesaf wedi cynyrchu anesmwythder annisgrif- iadwy ymhlith Ymneillduwyr, gan y bydd iddo ddistrywio yn llwyr yr hobby horse ag y maent wedi farchogaeth mor hir. Nid rhyfedd fod penderfyniadau gwrthwynebol iddo yn cael eu pasio mewn cynhadleddau Ymneillduol. Oddi- wrth y newyddiaduron gwelaf fod dyrn- aid o bregethwyr wedi ymgynull i Bed- linog ychydig ddyddiau yn ol, a darfu iddynt hwythau basio penderfyniad yn erbyn. Deallaf beth yw y rheswm dros hyny, gan i mi ymweled a'r lie ychydig amser yn ol, fel y crybwyllais ar y pryd yn eich colofnau. Yno y mae capel methdaliadol Salem, a chapel cauedig Craig Bargoed. METHODISTIAETH YN DIRYWIO. Yr oeddwn dan yr argraff bob amser fod dilynwyr John Calfin yn lliosog iawn gyda chwi tua Merthyr yna, ond yn awr yr wyf yn deall yn wahanol. Gyda ni yn y Gogledd yma adnabyddir pob capel! Methodist o'r bron o dan yr enw Capel Mawr," ar gyfrif maint yr adeiladau, ond yn ormod o'r haner i'r cyni'lleidfaoedd yn ami. Yn fy llith flaenorol syhvais fy mod wedi gweled capel Ilwydaidd yr olwg ar fy nhaith i'r Brithdir, a phender- fynais ymweled a'r lie pan gawn gyfleus- dra. Gan fy mod yn Merthyr ddydd Sul cyn y diweddaf, penderfynais fyned i'r capel dan sylw, sef PENUEL, TWYNYRODYN, yn yr hwyr. Mae canoedd o dai yn Nhwynyrodyn, yr hyn, ynghyd a bod* y tywydd yn ddymunol, a barodd i mi Oflli na fuaswn yn cael lie i eistedd. Ond er fy syndod, yr oedd pethau yn wahanol. Yr oedd digonedd o seddau gweigion yno, ond dewisais un gerllaw y drws, a plie buasai cyrn ar fy mhen moel, ni allasai fod mwy o lygadrythu arnaf. Tra yr oeddynt yn canu emyn, daeth un o'r blaenoriaid ataf o'r "set fawr" i ddy- muno arnaf fyned yn nes ymlaen, ond gwrthodais ei gynygiad caredig. Y mae yn gapel eang, gydag oriel helaeth ar hyd-ddo. Y pwlpud ydoedd ar ffurf es- gynlawr, ac yn cynwys tair neu bedair o gadeiriau, ac ymddangosai y llefarwr yn mwynhau ei hun yn fawr pan yn gor- phwys yn yr easy chair tra yr oeddynt yn canu. Yr wyf wedi bod yn gofidio lawer gwaith nad wyf yn alluog i ddodi i lawr yr ystumiau sydd yn cael eu gwneyd gan rai pregethwyr, ynghyd a'r oslef gyddfol ag y mae rhai o honynt mor hoff o hono. Gwell fyddai i mi bwrcasu camera & phonograph erbyn fy nheitliiau yn y dyfodol, ac yna ceir yr hyn a ddy- munaf. Cymerodd y gwr parchedig ei destyn oddiar Hebreaid iv. 14. Testyn ardderehog, ond buasai unrhyw aduod wall yn llawn mor gymhwysiadol i'r bregeth, gan na chyffyrddodd y pregeth- wr ond ychydig iawn a'r testyn. Yn wir, anhawdd iawn yw disgrifio y bre- geth, gan ei bod yn cynwys tipyn o bob- peth, ac yn ymdebygu yn fawr i Ysten Sioned." Ymhlith pethau eraill, dywed- odd y pregethwr fod yn llawer hawddach tori glo na byw yn dduwiol, ac feallai ei fod ynsiarad oddiar brofiad. Pan ydoedd I efe yn sefyll wrth ochr dyn byr, teimlai ei hun yn ddyn mawr ond diflanai ei fawredd pan ddeuai dyn tal i'w ymyl. Yr oeddynt hwy yn y parth hwnw, meddai, yn cyfrif fod mynyddoedd y Beacons yn uchel iawn, ond beth oedd- ynt o'u cymharu a'r Wyddfa ? Yr oedd yn beth naturiol gweled mam yn cario ei baby, ond byddai yn beth rhyfedd iawn gweled baby yn cario ei fam Wrth gyfeirio at yr angel yn deffro Elijah (1 Bren. xix. 5—8), ac yn dymuno arno fwyta, dywedodd y pregethwr ei fed wedi ceisio dirnad lawer gwaith pwy a ddysgodd yr angel i fod yn baker Caf- wyd lliaws o ddrychfeddylian eraill lied ryfedd ganddo. Diweddodd trwy gyfeirio at rinweddau Turkish Baths. Wedi gorphen y bregeth a gweddio, rhoddodd y pregethwr emyn allan i'w chanu, ac eis- teddodd i lawr yn yr easy chair grybwyll- edig, gan ymddangos fel pe wedi cyflawni rhyw orchestwaith neillduol, a sychai y chwys oddiar ei wyneb. Rhaid i ini yn awr wneyd rhai sylwad- au ar y GYNULLEIDFA a ddaeth ynghyd y noson dan sylw. I ddechreu, yr oedd y rhan fwyaf o'r seti ar y llawr yn weigion, ac nid oedd neb yn yr oriel. Heb fod yn nepell oddiwrth y drws, yr oedd sedd fawr ysgwar, yn yr hon yr oedd tua dau ddwsin o'r plant mwyaf aiionydd a welais erioed, y rhai a ddifyrent eu hunain gyda gwahanol chwareuon, ac ni cheisiai neb eu rhwystro. Ceisiai un bachgcn wneyd swing o ddrws y sedd, ond ymataliodd pan welodd fy ffon. 0 fy mlaen eisteddai hen wr (yr hwn a ymddangosai yn cymeryd dyddor- deb mawr ynof), dwy eneth, a bachgen. Oddiwrth yr ystumiau a wnai y plant gyda'u bysedd ar hyd yr oedfa,deallais fod yr hen wr yn fud a fcyddar. Yn nghanol y llawr, eisteddai tua thri dwsin o bobl a phlant, tra yr oedd tri o flaenoriaid yn y set fawr." Tua 70 ydoedd y cyfanswm oedd yn bresenol, a dywedai un o'r ael- odau wrthyf ar ol dyfod allan fod yno fwy y noson hono nag oedd wedi weled er's amser. Dywedodd yn mhellach nas gallent fforddio talu i weinidog, ac mai capeli eraill y dref oeddynt yn gyfrifol am daliad y degwm cildwrn i'r pre- gethwyr ar y Sul, gan nad oedd eu casgl- I iadau hwy ond prin ddigon i dalu am y nwy a glanhau y capel. Dywedai yn mhellach fod y capel yn llawn chwe' blynedd yn ol, ond yr oedd y gynulleidfa wedi diflanu yn raddol, nes yr oeddynt yn awr yn methu talu llog y ddyled. Nid oedd poblogaeth Twynyrodyn yn ddim Uai yn awr nag ydoedd y pryd hwnw, ond rywfodd neu gilydd lleihau yr ydoedd y gynulleidfa yn barliaus, ac ofnai y byddai yn rhaid ei gau yn fuan os na ddeuai ymwared o rywle. Gofyn- ais iddo pa faint ydoedd swm y ddyled, pan yr atebodd ei fod rhwng A:800 A £ 900. Pan oeddynt mewn gallu i dalu, ni wnaent, ac yn awr nis gallant. Gofynais iddo beth fwriadent wneyd, pan atebai nas gwyddai beth ddeuai o honynt os na fyddai i'r Cyfarfod Misol neu y Gymanfa gymeryd trugaredd arnynt. Ond," ychwanegai yn athrist, y mae cymaint o ddyledion ar gapeli ymhob man fel nad joen lie i ddisgwyl am gynorthwy oddi- allan." Tra yn cyd-gerdded a'm cyfaill i lawr Twynyrodyn, sylwais ar gapel anferth arall, sef SEION, perthynol i'r Bedyddwyr, a chynulliad teneu iawn ydoedd yno hefyd. Dywedai fy nghyfaill fod rhyw anghydfod wedi bod ynoyn ddiweddar, ond daeth cyngor y diweddar Mynyddog i'm cof, a phender- fynais beidio ymyraeth a hwynt ddim yn mhellach na chrybwyll y ffaith. Wedi ffarwelio yn gynes a'm cyfaill, a diolch iddo am ei hynawgedd, aethum tua'm llety, Wrth fyfyrio ar yr hyn a welais ac a glywais tra yn teithio o fan i fan. nis gallwn lai na dyfod i'r penderfyn- iadlmai gwaith anhawdd os nad anmhosibl fydd perswadio pobl i roddi benthyg arian ar gapeli yn y dyfodol, gan mai security gwael ydyw, fel y mae llawer yn gwybod er eu galar. Ysgrifenaf ychwaneg o hanes fy ym- weliadau a chapeli eraill pan gaffwyf hamdden, gan fy mod yn hynod brysur yn awr. Hyd hyny, byddwch wycli. CLWYDFAB.

[No title]

Y Parch. Thomas Moore ar Bwnc…

Cyflwyniad Tysteb i'r Parch.…

Llith o Lerpwl.

Advertising