Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
.TRYCHINEB ALAETHUS.
TRYCHINEB ALAETHUS. Ar y 15fed cyfisol, tra yn croesi yr afon Oder o Sharkan i Thuerze, yn Ger- ^ani, darfu i gwch a gariai ddau a deu- gain o blant, y rhai a ddychwelent o'u cOllffirmasiwn, ddymchwelyd yn ddam- ^einiol, a'r canlyniad fu i 36 o'r airwyliaid "ychain gael eu boddi. —^
MR. BEN DAVIES, Y CANWR.
MR. BEN DAVIES, Y CANWR. Y mae Mr. Ben Davies, y tenor Cymreig enwog, wedi cytuno i chwareu rhan y prlfdenor ar dair noson o leiaf yr wyth- 5,°s yn opera Syr Arthur Sullivan a ber- ttorniir yn chwareudy newydd Mr. yly Carte, Shaftesbury Avenue, yn Hydref nesaf.
CODIAD ARALL I'R GLOWYR.
CODIAD ARALL I'R GLOWYR. l-jPa genJm hysbysu fod codiad arall o y cant, neu tua 2s. 10c. y bunt, i pmeryd lie yn nghyflogau y glowyr o'r at o Fai. Canlyniad y Sliding Scale yw Y mae yr holl godiadau o safon ^hagfyr, 1879, yn 46 y cant, a gellirj Weyd f0d y cyflogau mor uchel yn awr oeddynt yn 1873. Nis gellir dysgwyl ^awep rhagor. Bydded i'r gweithwyr 0«tieyd y goreu o'r amser presenol, rhag welant ei gyffelyb yn ystod eu YWYd. —+.
IORI PEN MENYW YN YFFLON.
IORI PEN MENYW YN YFFLON. "^°s Sadwrn diweddaf, yn Mitcham, -g?.rrey» cafwyd corff menyw o'r emv Alza Beadle, gwraig dybiedig i ddyn o'r w Nightingale, ond a breswyliai gyda aturvvr .-o'r enw George Bowling, yn nliy IW • \,a Phen wedi ei dori yn yfflon. n i'1' weithred gael ei chyflawni a'r gafwyd yii yr ystafell. Cy- ia Bowling i fyny ar ddrwgdyb- ac • roddodd un ateb i'r cyhuddiad, ni wyddys beth achosodd i'r weithred gael ei chyflawni. ——
CYMDEITHAS GORAWL EGLWYS LLANDAF.
CYMDEITHAS GORAWL EGLWYS LLANDAF. Y p niae Esgob Llandaf wedi anrhegu y ai, • "Win. David, rheithor St. Fagan's, Mr fel un o'r ysgrifen- ^Q.rh011' inkbtand arian hardd. Ar yr 4 Ceu' y geiriau cerfiedig canlynol •11rhegwyd i'r Parch. William David, grlfenydd Cymdeithas Gorawl Llandaf aiQ y o flynyddau, fel cydnabyddiaeth ei|i-ei Wasanaethau, gan ychydig o'i gyf- y s\0n a'^ STmydogion, 1890." Casglwyd gofynol gan ei arglwyddiaeth ei
ADEILADU EGLWYS NEWYDD YN…
ADEILADU EGLWYS NEWYDD YN MHENTREF TONNA. (jJ^ysbysir. ni fod Archddiacon Llan- ■WT»nXVec^ derbyn cyfarwyddiadau oddi- 1 y Parch. David Griffiths, M.A., ficer i fy° en- a'r Ddulais Fach, Castellnedd, m^aen ar unwaith ag adeiladu vys newydd yn mhentref Tonna, ar f0n a^n tir a roddwyd gan yr hybarch c0f Cyfodir yr eglwys hon er y diweddar Barch. Walter Griffiths rlod, Mrs. Anne Griffiths. Adeiledir S'l^ys ar y rhan lxono o'r pare sydd L. a gweithfeydd y Ddulais, a leuir cysylltu tir claddu a'r adeilad.
DYCHvVELIAD "MADAM PATTI.
DYCHvVELIAD "MADAM PATTI. 111!.1' 01 taith lwyddianus yn America, y ^ii Patti wedi dychwelyd i Wed- ^raig-y-nos, yr hwn balas sydd iijj. 1 adgyweirio, a'i wnevd bellach yn Wec] wrwyaf ysblenydd Cymru. Dy- ^0(1 "duwies y gan" yn un o 1'^yf ]°C^ ^^thoeaf ein teyrnas, ac nid came< d Pan y derbynia 111 neu ddeuddeg 110V v DUnau y dydd, nell yn hytrach y ga-nu. Cyn cychwyn adref, ^aith f haner can' mil o bunau am liaeli A wKtralia. Y mae hi yn dra ?11Us befyd, ac wedi canu yn ei ariajlc fabwysiclig lawer gwaith heb yit^v fc beb werth, a deallwn ei bod i a ^^aerdydd yn mhen ychydig t;
1N E BITTERS -MANUFAClURING…
1N E BITTERS MANUFAC- lURING CO., LIMITED." ^yUali ^an <-liweddaf, y lafed cyfisol, Cv? cyfranddalwyr y Cwmniuchod ? blynyddol jrn swyddfeydd Llanelli, o dan lywyddiaeth 1 ^ai"clay, Llundain, un o'r cyf- cyfr,C-1'v)yr- Lloiigyfarchai y cadeirydd ai" eu sefyllfa lewyrclius. y eyfrifoii- fod cynydd o rai mil- Xlg\Ver.+<i buaau wedi cymeryd lie yn Vant y Quinine Bitters j flwyddyn Penderfynwyd fod cyfr'an- clal o ddeg y cant am y flwyddyn i gael ei dalu. Da genym ddeall fod y Cwmni hwn yn parhau mewn sefyllfa mor llwyddianus. Gresyn na fuasai rhagor o Gymry wedi manteisio ar y eyfleusdra i ymuno a'r Cwmni.
TANCHWA LOFAOL YN ABERDAR
TANCHWA LOFAOL YN ABERDAR Ganol nos Wener diweddaf, cymerodd tanchwa ddifrifol le yn Mhwll Rhif 9, Aberdar, perthynol i Mr. James Lewis, Ynad Heddwch. Darfu i ripper o'r enw William Thomas, 28 mlwydd oed, yr hwn a breswyliai gerllaw y Scales Arms, Cwm- bach, gael ei ladd yn y fan, a chafodd William Rees, haulier, yr hwn a gartrefai yn Rhif 312, Cardiff Road, Aberdar, ei niweidio mor ddrwg, fel.y bu farw foreu ddydd Sadwrn. Yr oedd y dyn anffodus William Thomas newydd cldyiod i'r ardal i weithio o Sir Gaerfyrddin, ac yr oedd ei wraig a'i ddau blentyn wedi cyrhaedd Aberdar gyda'r gerbydres ganol ddydd Sadwrn, i glywed y newydd annymunol oedd yn ei haros yno.
MR. H. M. STANLEY WEDI DEWIS…
MR. H. M. STANLEY WEDI DEWIS CYMRAES YN WRAIG IDDO. Dywedir fod Mr. H. M. Stanley, y teithiwr Cymreig enwog, yr liwn yw prif arwr y dydd yn bresenol yn nghylchoedd uchaf cymdeithas, wedi penderfynu ym- uno mewn glan briodas, tua diwedd mis Mehefin nesaf, a boneddiges brydferth a chyfoethog o'i wlad enedigol. Y fon- eddiges ydyw Miss Dorothy Tennant, ail ferch Mrs. Tennant, gweddw Mr. Charles Tennant, Cadoxton Lodge, Castellnedd, a pherchenog Camlas ac Ystad Tennant. Y mae Miss Dorothy Tennant yn enwog fel arliwyddes (artist) alluog. Ei phrif hoffder ydyw paentio darluniau o blant. Ymddengys i Mr. Stanley wneyd cyf- amod priodas a'r foneddiges cyn iddo gychwyn allan ar ei daith beryglus ddiw-, eddaf crwy drorau anwaraidd Canolbarth Affrica.
ESGOBAETH LLANDAF.
ESGOBAETH LLANDAF. Ddydd Llun diweddaf, agorodd Ar- glwydd Esgob Llandaf ystafell genhadol newydd yn mhlwyf Llangynwyd. Cost- iodd £ 400, ac y mae eisteddleoedd ynddi i 150. Yr un adeg, conffirmiodd ei arglwyddiaeth 74 o bersonau o blwyfi Glyncorrwg a Llangynwyd, set 31 o wrywod a 43 o fenywod. Yr oedd yr ystafell genhadol mor llawn fel y bu raid i nifer fawr fyned ymaith o ddiffyg lie. Nid yn ami y gwelwyd ymgeiswyr am arddodiad dwylaw yn ymddwyn mor ddefosiynol, a gwrandawent yn aiddgar ar gynghorion dwys yr Esgob. Ychydig o honynt oedd dan 15 mlwydd oed yr oedd y gweddill yn bobi mewn oed. Yn ddilynol, aeth ei arglwyddiaeth i Eglwys St. Bride's Minor, lie y conffirmiodd 61, sef 30 o wrywod a 31 o fenywod, yr oil o'r bron dros 20 mlwydd oed. Ddydd Mawrth, ymwelodd yr Esgob a Peterston, ychydig filldiroedd o Gaerdydd, a gosod- odd y Parch. J. Owen Evans, gynt ficer Towyn, Abergele, mewn meddiant o'r fywoliaeth yn lie y diweddar Barch. J. Williams, yr hwn fu farw ychydig wyth- nosau yn ol, er galar dirfawr i'w deulu a'i blwyfolion. —
LLWYDDIANT YR EGLWYS YN ABERCARN.
LLWYDDIANT YR EGLWYS YN ABERCARN. Saif pentref Abercarn yn nwyreinbarth plwyf Mynyddishvyn, ar lan yr Ebwy, yn Sir Fynwy. Y mae yr ardal yn un sydd yn cynyddu yn gyflym iawn mewn poblogaeth, ac yn ol pob tebyg, cyn pen ychydig amser, bydd y gymydogaeth hon yn un o'r rhai pwysicaf mewn ystyr fas- nachol yn yr holl deyrnas. Ddydd Llun, yr 28ain o Ebrill, fel yr hysbyswyd yn fyr yn ein rhifyn diweddaf, agorwyd eglwys haiarn newydd yn y lie gan Arglwydd Esgob Llandaf. Adeilad- wyd yr eglwys gan Mr. Whitehouse, perchenog y gwaith alcan yn y lie, ac y mae wedi costio dros fil o bunau. Cynwys yr adeilad eisteddleoedd i tua 700 o addolwyr. Ar ddydd yr agoriad, daeth cynulliadau mawrion yngliyd, a. ehafwyd gwasanaethau bywiog ac adeiladol. Yy. y boreu, gweinyddwyd yr ordinhad o gonffirmasiwn gan yr Arglwydd Esgob, i'r hwn y gwasanaethai y Parch. J. L. Meredith, .M.A., Gelligaer, fel caplan. Cyflwynwyd 4G o ymgeiswyr. Yn y prydnawn, pregethwyd gan Reitlior Gelligaer, ac yn yr hwyr gan y Parch. T. Theophilus, ficer Tredegar. Cymerwyd rhan yn y gwasanaethau gan Ficer Ebbw Vale, ae hefyd gan Ficer y plwyf a'r Parch. S. Jackson, curad Abercarn. Rhwllg y gwasanaethau boreuol a phryd- nawnol, cyfranogodd yr ymwelwyr ac- eraill o fyrbryd, ac ar ol clirio y byrddau traddodwyd anerchiadau gan amryw foneddigion. Siaradwyd yn uchel am liaelioni dihafal Mr. Whitehouse, a llon- gyfarc-hwyd y curad llafurus ar agwedd lwyddianus yr Eglwys yn Abercarn. Am dros ddeng mlynedd y mae Mr. Jackson wedi llafurio yn yr ardal boblog a phwysig hon. Fel Ilumanwr wrtho ei hun y mae wedi dal i fyny faner yr Eglwys hyd nes y mae ei dylanwad gymaint heddyw fel ag ihawlio parch y trigolion. Y mae dylanwad daionus Abercarn wedi cyraedd hyd at Newbridge tua'r gogledd, a Cross Roads tua'r dehau. Curad Abercarn symudodd gyntaf yn y cyfeiriad o sefydlu gwasanaethau ac adeiladu eglwys genhad- ol yn y lie olaf. Yn Abercarn ei hun, mawr werthfawrogir Mr. Jackson, ac y mae yr adeilad hardd a gwych a roddwyd i'r Eglwys gan Mr. Whitehouse yn deyrn- ged i weithgarweh a ffyddlondeb Mr. Jackson. Cynhaliwyd eyfres o wasaiiaethai-i mewn cysyllutiad a'r agoriad, pryd y pregeth- wyd gan y Parchn. J. T." Bowen, Llari- gattock J. Howell, y Fenni Ficer y plwyf, a D. Lewis, Ebbw Yale. Gwisg- wyd y cor mewn gwenwisgoedd am y tro cyntaf ar ddydd yr agoriad. Deallwn fod y Canon Roberts yn myned i Abercarn ar yr Slain o Fai, i gynal ce-nhadaeth am naw diwrnod.
Eglwys a Gwladwriaeth.
Eglwys a Gwladwriaeth. EU CYSYLLTIAD YN OL HEN DDEDDF- AU'R WLAD. PAKHAD LLYTIIYK V. Yn y ddeddf a basiwyd yn nechreu'r betlwar- edd ganrif ar ddeg, sef y 35 Ed. I., O.C. 1307, cylioeddwyd yn ddifloesgni gerbron y byd fod y brenin "yn ewyJIysio cynal ac amddittyn y Mynachlogydd1 Priordai, a Thai Crefyddol'eraill, y rhai a adeiladwyd yn ei deyrnas, ac ymhob rhyw diroedd sy'n ddarostyngedig i'w arglwydd- iaeth, yn Unol at] ewyllys a bivriadau dmoiol eu sylfaenwyr." Ac yn unol a'r dymuniad datgauedig yna, ordeinir nad yw'r gWST wrth grefydd, sef y rhai oeddynt o dan addunedan yn y cyfryw dai, o hyny allan i aufon dim byd oil r" allan o'r deyrnas neu'r arglwyddiaeth ddywefl-; edig i'r un o'u huwcliafiaid tramor H, tllrefn, wyd hefydnad oedd i'r tramoriaid hyny feicli- io'r cyfryw leoedd mwyach. Dysgir ni yma mai er waethaf yr awdurdodau cartrefol yr oedd Eglwys Loegr yn dioddef oddi wrth orthrwm a gormes tramor. Peth arall hefyd, gwelir fod y ddeddf hon yn y modd mwyaf eglur a phendant yn cydnabod L\lmIHAD 0 WIKFODDOL y cyfryw sefydliadau, yngliyd a'u gwadoliadau. Yna fe'n liysbysir fod personau anrliydeddus, arglwyddi a plieadefigion eraill," .yn cwyno'n dost wrth y bronin fod y mynachdai, priordai,.a thai crefyddol eraill wedi eu sefydlu gan y brenin a'i gyndadau, a chan y dywededig boir- defigion a'u hynafiaid end "fod yr liyn a roddasid yn yr amsorau gynt o elusenau at ddybenion duwiol, ac ychwanegiad gwasauaetli Duw yn awr yn cael ei droi i ddyben drwg," oherwydd ei draws-hawlio a'i draws-feddianu gan dramoriaid. Gan nad oedd yr eiddo yn cael ei ddefuyddio yn unol ag ewyllys y sylfaenwyr, eitlir yn cael ei gymwyso at ddybenion eroill, wele'r brenin a'r senedd yn ymyryd i amddiffyn hawliau'r Eglwys gartref iddo. Dyma esiampl deilwng o efelychiad gan senedd ein gwlad yn yr oes hon, onide ? Ond gan fy mod yn bwiiadu sylwi eto ar y pwnc o darddiad gwirfoddol yr eiddo Eglwysig mewn cysylltiad a deddf bwysig arall, a chan fod yr eiddo yna, wedi ei ladrata gan y Dadwaddolwr mawr—Harri yr Wytbfed -ni ddywedaf yn awr ond ein bod yn cael yn y ddeddf lion engraifft nodedig o waitli y Llyw- odraeth yn gwneyd ymgais rliagorol a chanmol- adwy i amddiffyn yr Eglwys Wladol yn ngwyneb y trais a'r gormes yr oedd hi yn declireu dioddef odditanynt trwy ymwthiadau a tlirasvs-hawliau tramorwyr. Cysylltiad cyfeillgar rliwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth a barai i'r olaf ym- dreclm cadw'r flaenaf yn rhydd o afaelion y crafangau estronol hyu. Ac er fod y Senedd yn ymegnio yn y modd yma o blaid yr Eglwys, ni clieir mo lioni yn 'honi hawl i ddim oil av a bertliynai i'r Eglwys fel eiddo cenedlaethol." Dychymyg newydd perthynol i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg yw hyny. Y cwbl ar a wnelai hi ydoedd edrycla ar fod cyllid yr Eglwys yn cael ei ddefnyddio at y dybenion ar gyfer pa rai y bwriadwyd ef pan y gwaddolwyd y sefydliad- au crefyddol liyn gyntaf o wirfodd ac ewyllys da gan bersonau unigol mewn gwahanol oesau. Hwyracli nad anfuddiol fyddai ychwanegu mai ellW'l' ddeddf yna ydyw, "De Apportis Religiosorum," sef yw hyny, "Yngllylch Tolli Crefyddwyr." Ymadroddion wedi goroesi yr yr hen arfer fynacliaidd o fyned i fyw o'r byd ac o dan addimedau, ydyw ymadroddion a geir heddyw yn Nghymru yn mysg y Methodist-iaid Calfinai-dd ac eraill o bertliynas i fyned at grefydd," &c. laith yr hen Fynachod yw iaith yr Ymneilldnwyr. Ond rhaid ymatal. Anfon- wyd copi o'r ddeddf i bob sir, ac hefyd i liaws o Abbau a enwir ynddi. Dangosir yn mhellach ei hanfon i bedwar o abbadau yn Nghymru, citlir ni enwir mo lionynt. Gorclijaiiyuid fod e i darllen yn gylioeddus ddwywaith bob blwyddyn ymhob un o'r sefydliadau hyny a gweled o'r Abbadau na tliroseddid yr un o'i darpariadau dan boon cosbcdigaeth. Y fath oedd goial y Brenin a'r Senedd na bj'ddai'r ddeddf yn llytbyren farw. Dywedaf un gair bach, megis rliwng cronfachau, o bertliynas i ysbeiliad y mynaclilogydd dros ddau can' mlynedd ar ol hyn. Nid wyf fi yn gweled fawr o ddewis rhwng yr arch-ysbeilydd brodorol-Harri yr Wythfed—a'r llu ysbeilwyr estronol yma. Rhyw chwech o un a haner dwsin o'r llall oeddynt, ond fod Harri wedi crafangu'r cyfan am byth, tra nad oedd y i-liai hyn yn gallu end craiangu cyfran dros amser. I I Ond i fyned ymlaen, yr oedd materion Eg- lwysig, bychain a mawrion, ysgeifn a tllumion, yn cael eu trafod yn y ddeddfwrfa yn y cyfnod cyn y Diwygiad." Ac o dro i dro, eglarir i ni yn ngweitlirediadau'r Senedd fod y cysylltiad oedd rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth y pryd hwnw yn ymestyn i bob cyfeiriad, ac yn dwyn perthynas a phethau a ymddangosant yn ddi- bwys yn gystal ag a'r materion mwyaf eu pwys a'u dyddordeb. Yn yr un flwyddyn ag y pas- iwyd y ddeddf.bwysig yna yn erbyn y Priorwyr Tramor, cawn fod y Senedd yn ymostwng i drgfod ac i drcfntl ynghylch CWYilPO COED YX Y FYXWEXT. Adnabyddir y ddeddf lion fel y 35 Ed. I. st. 2. Yllddi dywed y Brenin—" Gan i ni ddeall fod ymrafaelion yn codi yn fynych rhwng rheithor- iaid eglwysi a'u plwyfoiion yngliylch coedf'ontyn tyfu yn y mynwentydd, y naill fel y llall yn eu hawlio, barnwn fod terfynu'r amheuaeth yn perthyn i'r gyfraifch Eglwysig yn hytrach na'r Wladol, oblegid yn gymaint ag mai tir eglwys yw mynwent wedi ei eliysegi-u., y mae'n canlyn, o angenrhaid, fod y coed sy'n tyfu mewn myn- j went i'w cyfrif yn mysg da neu eiddo Eglwysig (facilitates ecclesiasticus), yr hyn nad oes gan leygwyr ddim h.nvl i'w drefnu, eitlir mod(I y tystiolaetha'r Ysgrythyr, dylid ymddiried ei drefniad a'i ofai i offeiriaid yn unig. Ac eto, gan fod y coed hyn yn fynych wedi eu planu er tori grym y gwynt rhag niweidio o hono yr Eglwys, yr ydym yn gwahardd i'r ofEeiriaid eu tori i lawr heb rOBwm, eithr pan fo cangell yr eglwys mewn angen adgyweiriad, da y gwnelai'r rlieithor, o elnsen, wneyd rhodd o'r cyfryw goed i'w blwyfolion anghcnus-er hyny nid ydym yn gorchymyn gwneyd hyn, eitlir yn ei gymerad- wyo lie y'i gwneir." Dyna'r ell o'r cldeclclf n-iewn diwyg Gj-mreig. Hwyracli y dywed rhai fod y 1 dylyniadau hyn ytr. gloiyrnaidd ac anystwyth. Nid oedd amser yn ilioi i'w caboli ac yr oedd ¡. eisiau iddynt fod uiorHythyrenol ag oedd bosibl inodd nad allai neb o'n gwrthwynebwyr haern nad oedd yr hen ddeddfau yn cynwys yr hyn a osodir allan yny llythyrau hyn fel eu cynwysiad. Gallaf, yn ddibetrus, herio unrliyw ddyn i brofi nad ydynt yn fyneg cywir a llythyrenol o'r gwreiddiol. Fy ngofa] penaf ymhob man ydoedd peidio niweidio dim ar yr ystyr. Dy- fynais y ddeddf yna yn ei chrynswth am ei bod yn dangos i ni fod y Senedd tua chwe' chan' mlynedd yn ol yn gweitbredu yn lied wabanol i'r hyn a wna yn ein dyddiau ni. Yr oedd y cysylltiad rhyngddi hi i'r Eglwys o naturfwy cyfeillgar y pryd hwnw nag ydyw yn awr. Er fod y ddeddf fer yna yn ymwneyd a phetli sydd yn ymddangos yn lied ddibwys, eto y mae yn cynwys egwyddor o'r fath bwysicaf. Ceir ynddi addefiad pendant o gyfiawn a chyf- lawii liawl yr Eglwys i'r tir cysegredig, tra mai prin y geilir dweyd hyn o bertliynas i ddeddf- wriaetli yr oes bresenol. Y pryd hwnw cy- hoeddid nad oedd gan neb ond yr offeiriaid yr unig hawl i ymyryd a dim perthynol i'r fynwent —eithr erbyn heddyw y mae ymwthiadau tra- chwantus ac anonest gwrth-Eglwyswyr wedi eu cyfreitliloni. Y pryd hwnw cydnabyddai'r Wladwriaeth mai gan yr offeiriaid yr oedd yr unig ddilys hawl ddiwad i'r fynwent ac i'r oil a dyfai ami, a hoffai eu gweled yn gwneyd cymwynasau. Ond heddyw ceir y Senedd wedi tori ar draws yr hen hawliau hyn, wedi amddi- fadu'r Eglwys o lionynt mewn rhan, ac wedi estyn liawl drawsfeddianol i'r neb a fyno wneyd defoydd o honynt. Mab i offeiriad, fel mae'n ofidus adrodd, fu'n arwain yr ymosodwyr i wneyd y cam hwn a'r Fam a'i magodd. Er hyny, nid yw'r Cymry mor awyddus i gael eu claddu o dan y ddeddf newydd" agy dychym- ygai'r mab hwn fu'n trywanu'r Hen Fam. Mor wahanol oedd ymddygiad yr hen seneddwyr gynt i'r eiddo ef! Ac os oeddynt hwy mor ofalus o eiddo'r Eglwys yn hyn o beth, nid rliyiedd eu bod yn datgan yr un mor bendaut ei hawliau i'w lioll feddianau eraill. Cawn drafod hyny eto. Gwelir yma eto pwy oedd bia'r mynwentydd agos i chwe' clian' mlynedd yn ol. Nid oedd yr ymadroddion, eiddo'r plwy', eiddo'r cylioedd, eiddo'r genedl, eiddo gwladwriaethol, ac felly yii .y blaen, ddim wedi eu door yn nychymyg ffrwythlawn neb tracliwantus y pryd hwnw ac nid oedd y Deng Air Deddf wedi myned yn llytbyren farw i seneddwyr yr oes hono nac i arweinwyr y genedl ychwaith. Cof- ient fod y fatli waharddiadau a "Na ladrata," ac "Na chwenych eiddo dy gymydog" yn waharddiadau Dwyfol-ac felly ni fynent mo'u troseddu hyd yn nod gyda plietliau o leied gwerth a diced mynwent.
FFEIRIAU Y BALA AM 1890.
FFEIRIAU Y BALA AM 1890. MAWRTH Mehefin 3 IAU Gorphenaf 10 LLUN Awst 11 IAU Medi 11 SADWRN Medi 27 GWENER Hvdref 24 SADWRN Tachwedd 8 GWENER Rhagfvr 19
[No title]
Y mae yna 125 o Esgobion perthyuol i Eg- lwys Loegr wedi eu gwasgaru dros y byd. 0 0
Advertising
MUSICAL. MR. M. W. GRIFFITHS, Mus. Bac., Organ- ist and Choirmaster of the Parish Church, Dolgelley, North Wales, gives LESSONS through Post in Harmony, Counterpoint, Fugue, Composition, &c.; and prepares for Musical Examinations. MSS. Corrected and Revised. Terms very Moderate. AMDDIFFYNiAD YR EGLWYS. DADL DOLWYDDELEN. I-Icla y Parch. Evan Jones, Cai-narvoii." GAN y Parch. R. Williams, B.A., Rheithor Dolwyddelen. Pris Ceiniog. I'w gael yn Swyddta R. Isaac Jones (" Alltud Eifion"), Tremadog. Anfonir 50, post free, ar dderbyn- iad 4s. j Established ISSi. Patronized by the Clergy and Nobility. BEAOONSFIElD HOUSE, BALA. THOMAS THOMAS, TAILOR AND DRAPER, Lady's Jacket Maker. Agent for JOHN SMITH, Royal Art Dyer and Cleaner to H.M. the Queen and T. R. H. the Prince and Princess of YvTales. The HAUL, CYFAIJX EGLWYSIG, Y LLAS A'R DYWYSOGAETH, and other Church Monthly Magaz in cs supplied. THE ORPHANAGE OF MERCY, Randolph Gardens, Kilburn, London, N.W., Receives Destitute Orphan Girls from ail parts of the United Kingdom, free of charge. THIS. Institution has been founded for the express purpose of befriending children of the labouring class. n It has already been a comfort to many dying parents to have the promise of admission into this home for their little ones, whom they can themselves no longer protect. In such eases the recommendation of a Clergyman alone is necessary. C_ly As the Orphanage is entirely supported by voluntary contributions, funds are earnestly solicited. Applications for Forms of Admission, and all Subscriptions and Donations, should be sent to MISS FRANCES ASH DOWN, 27, KILBURN PAftK ROAD, LONDON, N.W. O. GOLDSMITH, PIANOFORTE AND ORGAN DEALER. Sole Agent for Merthyr for the celebrated COMPETITION PIANO, With Iron Frame, full Trichord, and all recent Improvements. CASH PRICE. 27 GTJIjSTJEAS. Splendid Value. Sample always on View. BO, Pontmorlais, Merthyr. The Bishop of Lhmdaff writes I have just read your 'Popuiar Story of the Church in ales,' and think it a valuable and very seasonable addition to Church Defence literature, and that it would help to strengthen our hands very much if the Clergy (especially in Wales) would make an effort to get it widely cir- culated in their parishes." The Bishop of St. Asaph writes: I have read it with much interest. It seems to me in every way calculated to do good by distributing valuable informa- 1 .1-1) In tion throughout the country." A POPULAR STORY OF THE CHURCH IN WALES/ Shewing its Birth, its Progress, and its Work in the Principality. A Sketch for English Readers, in three Chapters. I.-ITS PAST HISTORY. II.-ITS PRESENT WORK. III.-THE AGITATION FOR ITS DISESTABLISHMENT. By G. H. F. NYE. PT.ACE SJ::8:PE;rC.E. I iN Post Free, Eight Stamps. Cloth Boards, Gold Mitre, ONE SHILLING. fr" The Bishop of Peterborough, in commending to al] who in his diocese are interested in the cause of Church defelice Mr G H F. Nye's book entitled" A Popular Story of the Church of England," says :—It gives in a condensed and popular form one of the best statements of the past history and present work of the Church with which I am acquainted. It seems to me especially suited for distribu- tion amongst our intelligent working c'asses, who need just such a corrective to the false and statements now so industriously circulated amongst them by the enemies of our Church." Just Out. New Edition. Twenty-sixth Thousand. A POPULAR STORY OF THE CHURCH OF ENGLAND, Shewing its Birth, its Progress, and its Work for the People. A Sketch in Three Chapters By G. H. NYE. 3P At X C; M SIXPB^OB. Post Free, Eight Stamps. Cloth Boards, Gold Mitre, One Shilling. The Bound Copies make excellent Gift Books. zn Copies of these Popular Stories Supplied, in quantities for I distribution at cheap rates on application to THE CHURCH DE, FENCE INS TITUTION.