Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
26 articles on this Page
LLANMEREWIG.
LLANMEREWIG. Hysbysir fod Arglwydd Esgob Llandaf, noddwr y iywoliaeth uchod, wedi ei chynyg i'r Parch. D. Lewis, Penael, diweddar gurad y Blaina, sir Fynwy.
GYFFYLLIOG.
GYFFYLLIOG. FESTRI BLAVYfOL.—Cynhahwyd festri ar yr 3 Teg o Ebrill, er ceisio cael ty i'r ysgolfeistr, ond ni lwyddwyd. Mae yr amaethwyr yn edrych i mewn i beth yn well nag y buont—yr oeddynt yn booth iawn am gael Bwrdd Ysgol yma amser yn ol, end maent wedi ei theimlo erbyn hyn.
MACHYNLLETH.
MACHYNLLETH. Gweinyddwyd cyfrymiad yn Eglwys Mach- ynlleth ar ddydd Merclier, yr 16eg cyfisol, gan Esgob Bangor, dros blwyfi Corris, Darowen, Llamviiti, Machynlleth, Penegoes, a Phennal. Yr oedd nifer mawr o ymgeiswyr. Dyma y tro olaf: i'r Esgob (jampbell ymweled a'r rhan hon o'i Esgobaeth, gan ei fod ar fin ymddiswyddo.
- LLANDAF.
LLANDAF. COXIRMASIWN.—Derbyniodd 68 o ymgeis- wyr arddodiad dwylaw ar y 18fed o Ebrill yn egiwvs Glyntaf. URDDIAT). — Ar yr 20fed o Ebrill, urddwyd Mr. Albert E. Couch yn ddiacon gan Arglwydd E o t) Llandaf. Trwyddedwyd Mr. Couch i guradiaeth Cadoxton.
* FERNDALE.
FERNDALE. Cynhaliwyd y festri yma no3 Iau cyn y di- weddaf, pryd y llywyddwyd gan y Parch. John Bees (Cymro Coch), ficer. Etholwyd Mr. J. Sees yn ysgrifenydd, a Mr. D. Rees yn drysor- ydd. Yna etholwyd y rhai canlynol yn is- wardeniaid dros y Cymry :—Mri. Thomas Lewis, W. Davies (Ab Conwil), a J. Edwards dros yr otieiriad :—Mr. Thomas, J. Edwards (Cymro Bach), a D. James. Dros yr Eglwys Saesneg: —Mri. W. Lloyd, D. Rees, a Seeley dros yr ofceiriad, Mri. J. Rakin, D. West, a F. Powell.— Didymus.
SARON, GER DINBYCH.
SARON, GER DINBYCH. Y G-vnt A'R WRAIG YN MARW YR UN DnvRxon.—Ddydd Iau yr 17egcyfisol, tarawyd trigolion yr ardal uchod a'r newydd galarus fod Peter ac Anne Jones, Bryngwyn, wedi marw nos lA-rcher, o fown awr i'jv gilydd. Yr oedd y ddau yn dioddef dan yr anwydwst er's ychydig amser. Mac yr amgylchiad wedi crou cylfro yn yr ardaloedd hyn. Yr oedd ganddynt saith o blaat. Ddydd Sadwrn, yingynullodd tyrfa 11 y lio-sojj i dalu y gymwynas olaf iddynt. Claddwyd y ,"d¿i,U yn myuwent Capel Saron. Nid oeddynt yn Hawn 50 oed. Teimlir dros y plant—Tad yr amddifad fyddo yn bob cymorth iddynt.-G.H.
N0DI0N O DDEONIAETH Y RHOS.
N0DI0N O DDEONIAETH Y RHOS. CYMDEITHAS GLERIGOL ABERGELE.— Ddydd Mawrth, yr 8fed cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod yn y Ficerdy i'r diben o gymeryd i ystyriaeth ddau bwnc mewn cysylltiad a'r Ysgolion Sul yn y ildeoaiaetli. Y pwnc cyntaf a fa dan sylw oedd y "Syllabus," a'r ail oedd Undeb yr Ysgol Sal." Yr hyn oedd amlycaf yn y cyfar- fod hwn, fe gredwn, oedd absenoldeb Person- hid y gwahanol blwvfi. Yr oeddynt ar yr am- gylchiad wedi gwneyd defnydd helaeth o'r frawddeg gy ifredin liono, Cymer fi yn esgus- I odol." Gobeithio, y tro nesaf, y cawn agwedd fwy gwresog ar y symudiad clodwiw hwn, trwy weled mwy o ymdrech yn dyfod i'r golwg yn ngheisiadau ac ewyllys bugeiliaid y praidd. Y rhwystr gwaethaf sydd ar y ffordd i dynu allan gynllun cymwys i bob ysgol, a plwb dosbarth yn yr ysgol, yw y rhwystr ddwyieithog. Ond gobeithio y cawn yn fuan o hyd i ifordd a'n dwg yn ddiogel trwy yr anliawsder hwn. Pen- deriynv/yd y byddai Undeb Ysgolion Sul yn werth llafurio o'i blegid, ac y byddai y cyfryw beth yn foddion galluog i adnewyddn bywyd, yn ogvstal ii phlanu egwyddorion Eglwysig yn nghalonau ein plant a'n pobl ieuainc. Penod- wyd Colwyn Bay ac Abergele fel manau cyfleus a phriodol i'r gwahanol ysgolion yn y ddeon- iaeth i ymgasglu at eu gilydd ar ddydd penodol o'r flwyddyn. Cawn glywed rhagor ar y pen hwn yn y dyfodol. LLYSFAEX.—Cynaliwyd cyngerdd yn yr Ysgol Genedlaethol, ar yr lleg cyfisol, er cynorthwyo trysorfa yr ysgol. Cafwyd cynulliad pur dda yn y prydnawn, am dri o'r gloch. Yn yr hwyr yr ocdd yr adeilad yn llawn. Llywyddwyd y ddan gyfarfod gan y Ficer. Dadganodd Miss S Pierce amryw ddarnau Cymraeg a Saemeg yn rhagorol. Cafodd pawb eu boddhau yn fawr gan ei llais mwynaidd, yn ogystal a chan ei hymddygiad cartrefol ar y llwyfan. Bu y cyfarfodydd yn llwyddianus iawn mewn mwy nag un ystyr. Gobeithiwn y cawn eto glywed nodau cerdd a llais can yn dyrchafu o gopa Llysfaen heb fod yn hir. COLWYN.—Y mae yn llawenydd genym gael ar ddeall y disgwylir y Parch. D. Pryce Jones i ddyfod gartref o hyn i ben pymthefnos. Nos Iau, yr 17eg, cafodd preswylwyr ac Eg- lwyswyr Colwyn y pleser o wrandaw ar Afon- wyson yn traddodi darlith ar Hen Eglwys y Cymry, ei phlaniad a'i thyfiant." Yr oedd yr Assembly Room yn llawn, a cbafwyd y tawel- wch a'r ymddygiad goreu trwy ystod y cyfar- fod. Yr oedd y darluniau eglurhaol a ddangos- wyd, trwy offerynoliaeth y Magic, Lantern, yn dda a dyddorol iawn. Mewn cyfarfod o'r fath, y mae yna waith i'r llygaid yn ogystal ag i'r clustiau. Bydd yn dda genym gael y fraint o wrandaw ar Afonwyson eto, a gobeithio na siomir ni yn hyn.
RHUTHYN.
RHUTHYN. LLYS YR HEDBGEIDWAID. — Ddydd Llun, gerbron y Warden (cadeirydd), y Cadben Cole, Mr. E. 0. V. Lloyd, a'r Cadben Ellis, cyhudd- wyd Isaac Jones, Rhuthyn, gan John Thomas, Ty'nywern, Llanfair D.C., o'i daro. Methodd ei brofi. CYHUDDIAD DIFRIFOL YN ERBYN MASNACH- WR —Oyhuddwyd William Williams, plumber, Clwyd-street, gan yr heddgeidwad Thomas, o fod yn feddw ac afreolus yn Clawdd Newydd. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn ddigon eglur fod y dlifynydd yn feddw, ond nad oedd yn afreolus. FESTIU'R PASG.—Cynhelir hon yn y Neuadd Drefol, nos lan, y 24ain o'r mis hwn. Da genyf fod yr Ymneillduwyr yn cymeryd cy- maint o ddyddordeb yn llwyddiant yr Hen Fam Eglwys yma, a chymydogaethau eraill. Arwydd hynod dda yw hyn.
LLANELWY.
LLANELWY. Nid wyf yn cofio i bobl y ddinas fach ar fryn fod mor fywiog ag y maent yn bresenol nid oes un gweithiwr allan o waith ac y mae boneddigion yr ardal yma fel pe baent wedi deffro ac adfywio, ac yn tori ychwaneg o waith i'r dyfodol. Y mae yr olwg yn wir lewyrchus. Y mae rhai canoedd o bunau yn cael eu gwario tuag at adeiladu ty addoliad yn y Tlotty ac y mae genym Cotten Hall fawr iawn, o'r bron yn barod, i ddechreu masnach ynddi ynghanol y ddinas. Bydd mansion y Dr. Lloyd yn barod iddo ar y laf o Fai ac y mae meistradoedd Walter a Tom Williams yn adeiladu villas taclus a diddos ar y Mount Road, o ba le y ceir golygfeydd prydferth. Bob amser y byddaf yn edryeh oddiar y Mount Road ar geinion natur, a phrydferthwch golygfeydd ein gwlad fad, f wyn, byddaf yn meddwl am olygfa Moses oddiar ben Pisga. Y mae Sissou wedi dyfod yn ol o Cairo—y lie yr oedd Stanley am ychydig amser-acy;mae wedi bachu pob math o grefftwyr a gweithwyr ag oedd i'w cael yn yr ardal. Y goreu o bawb yn y lie ydyw Mr. Sisson am dori gwaith i'r bobl, Caffed iechyd i barhau yn ei waith (It, a bydded hapusrwydd iddo ef a'i deulu, a bendithied y bobl hwynt oil.
TALSARNAU.
TALSARNAU. GLYX SCHOOL.—Nos Fercher diweddaf, cyn- haliwyd cyngerdd yn y He uchod, dan lywydd- iaeth y Col. Egerton Glyn. Wele y rhaglen arddcrcliog yr aethpwyd trwyddo:—CSn, Parch. S.Evans; adroddiad, "The Lost Thimble"; einyn gan y cor can, Mr. Jones-Morris ad- roddiad, Master j. Egerton string quaitette, Mrs. Williams a'i theulu adroddiad, Mr. H. Stoddart; can, Countess Y,,ildt GILielien deu- awd, Mri. R. Roberts a J. Pritchard; can, Miss Jones, Penrhyn corgan Gymreig, cor yr 1. Eglwys; adroddiad, Parch. S. Evans can. Countess Valda Gleichen; deuawd, Mri, J. Thomas a J. Jones; string quartette, Mrs, Williams a'i theulu canig. Mr. E. M, Roberts a'i b.irti can, Miss Jones, Penrhyn deuawd, Mri. Thomas a Jones can, Countess Yalda Gleichen finale, Duw gadwo'r Frenlunes." Yr oedd yn gyngerdd pur uwchraddol. Mawr edmygid Countess Valda Gleichen fel eantores. Y mae ganddi lais hynod swynol a diwylliedig, a chyflawnder o hono i lenwi unrhyw ystafell. Gwaaethpawb eurhan yn ardderchog, achawsom treat o'r fath orcu. ADGYWEIRIAD IIEN EGLWYS YPLWYF, LLAN- FIHANG»L-Y-TRAETHA^.—Mae hon i fyned dan adgyweiriad trwyadl yn ystod yr haf dyfodol, ar draul o oddeutu £ 400, o ba swm y mae oddeutu £ 330 wedi d'od i law.
ABERTEIFI A'R CYLCHOEDD.
ABERTEIFI A'R CYLCHOEDD. EGLWYS ST. MAIR.—Yn y rhifyn diweddaf o'r LLAX, y mae gohebydd a ymgyfenwa Y gwir yn erbyn y byd," yn yingymeryd achy- wiro yr hyn a ddywedais o barth i'r gwasan- aethau yn yr eglwys u(;hod ar ddydd y Pasg. Y mae ei gywiriadau mor ddibwys fel mai prin yr oedd yn werth iddo fyned i'r dralferth o'u gwneyd. Anfcuriaf feddwl y byddai yn fanteisiol iddo gael ychydig o wersi, gan ryw wr cyfar- wydd, mewn perthynas i'r modd priodol o ddesgrifio gwasanaetliau Eglwysig. Nis gallaf yn fy myw ddeall yr hyn a ddywed ynghylch y rhan a gymerodd y Ficer ar ddydd y Pasg, ymhellach na'i fod wedi cyflawni cyfran helaeth o'r gwaith. Nid yw eich gohebydd yn ceisio gwadu yr hyn a ddywedais o barth i'r cynnlleidfaoedll Cymreig, sef eu bod yn deneu iawu. Y mae pobiogaeth Aberteifi yn dair mil a haner, yn ol y cyfrifiad diweddaf, ac y mae bron yr oil o'r plwyfolion yn Gymry. Ar y Sul fe ddarperir dan wasanaeth ar eu eyfer yn yr eglwys, y naill am ddeg yn y boreu, a'r llali am haner awr wedi tri yn y prydi-ia wn-yr awr iwyai angayneus ag a allesid ddewis-ac fel canlyniad nid yw y cynulliadau yr hyn ddyleut iod. Grwir fo<l y cynulleidfaoedd Saisnig yn lliosog fel rheol, ond dylid cofio mai ychydig mewn cydmariaeth sydd o Saeson yn y plwyf. Y mae y tTeitlii4ii uchod yn siarad drostynt eu liunain. Nid oes ynof unrhyw duedd i ymgecru ar y pwne, iitto i foio neb yn bersonol am sefyllfa bresenol pethau. Amlwg yw fod bai dybryd yn goiwedd yn rhywle, ac mai goreu po gyntaf y symndir y gwarthrudd hwn ymaitb. FESTRI Y PASG. — Cynhaliwyd y festri flynyddoi yn yr eglwys, ddydd Iau, yr 17eg cy- fisol. Gwaith p wysicat y cyfarfod, yn ol y rhybuddion oedd, dewis wardeniaid am y flwyddyn ddyfodol, ond olierwydd rhyw am- ryfusedd ni ciiymerodd hyn le, a goliiriwyd y festri hyd ddydd G weuer nesaf. Y GYMI)?:,1TI.IAS ER LLEOAEXU GWYfiOWAKTH GRLSTIOXOGOL.-—Da genyf ddeall fod stock newydcl o lyfrau wedi eu derbyn i ystafell y gyrudoithas hon. Cwynir na fu yr ysgrifenydd diweddar yn alluog i dalu sylw dyladwy i'w ddyledswyddau, ac fod y gan-en led o'r gym- deithas wedi dioddef oherwydd hyny. Hyderaf y bydd yr ysgrifenydd prcsenol yn fwy ym- roddgar na'i ragflaenydd, ac y bydd y gym- deitbas ragorol lion yn gwisgo gwedd lewyrchus yn fuan eto. MARWOLAETH HE GRISTTON.—Ddydd Iau diweddaf, ba farw yr henafgwr parchus, Mr. James Jones, Bridge-end, yr hwn fu am dymor maith yn ngwasanaeth y diweddar Mr. Thomas Davies, Bank House. Nid oedd wedi mwynhau iechyd da er's cryn amser. Bu yn dra ftyddlon gyda'r achos Eglwysig Cymreig 7'11 yn Aberteifi, ac y mae yn ddiameu y teimlir chwithdod mawr ar ei ol. Yr oedd yn berclien ar gymeriad dilychwin, ac y mae lie cryf i byderu fod marw wedi bod yn elw iddo. tieddweh i'w lwch. CILGERRAN.—Y mae Arglwydd Esgob Ty Ddewi wedi gwneyd trefniadau i gynal conffirm- asiwn yn Eglwys Cilgerran ar ddydd Mawrth, y 29ain o Ebrill. Bydd i'r gwasanaetli ddechreu am dri yu y prydnawn. Gan mai hwn fydd y tro cyntaf ir eyfryw wasanaeth gael ei gynal yn Nghilgerran, edrychir ymlaen ato gyda dyddordeb mawr gan garedigion yr ^Eglwys yn y plwyf. ETICOLIAD BWRDD YSGOL Y FERWIG.—Da genyf weled enw y Parch. D. H. Davies, ficer y plwyf, ar ben y rhestr ynkyr etholiad uchod. Y mae yn brawf o'r teimlad da a goleddir tnag ato gan ei blwyfolion. Dymunaf ei longyfarch yn galonog ar ei safle anrhydeddus ar y gofrestr etholiadol. -Penfroydd.
LLANFIHANGE^-Y-CREUDDYN.
LLANFIHANGE^-Y-CREUDDYN. Y FESTI FLYXYDDOL.—Cymerodd y festri hon le eleni brydnawn dydd Iau, y lUfed cy- fisol, i'r diben o ddewis wardeniaid am y flwyddyn ddyfodol, ac edrych dros y cyfrifon. Llywyddwyd gan y Parch. J. P. Evans, ficer. Gwnaeth y Ficer ail-etliol Mr. John Jones, Abertrinant, fel ei warden; ac ar gynygiad Mr. Enoch Evans, yn cael ei eilio gan Mr. Henry Wright, ail-etholwyd Mr. Thomas Jenkins, Tanllan, fel warden i'r plwyfolion. GWYL DE.—Cymerodd yr wyl do flynyddoi hon, mewn cysylltiad ag Eglwys Llanfihangel- y-Creuddyn, le yn yr ysgoldy, prydnawn dydd Gwener, yr lleg eyfisol. Gwnaeth boneddiges- au caredig yr ardal, yn cynrychioli y prif I deuluoedd Eglwysig, ddarparu" digonedd a gweddill o dP, a bara brith gogyfer a'r achlysur. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoedd'us o dan lywyddiaeth y Parch. J. P. Evans, ficer. Gwnaed y cyfarfod hwn i fyny drwy adrodd- iadau, dadleuon, a chanu. Yr oedd y canu o dan arweiniad Mr. Lewis Evans, gof, Dolau- cennant. Chwareuwyd ar yr harmonium gan Mrs. Evans, Ficerdy. Wedi myned diwy y program, ac wedi i'r Ficer gynyg diolchgarwch y 11 y cyfarfod i'r boneddigesan am eu caredig- rwydd yn y prydnawn, ac iddo gael ei eilio gan Mr. Joseph Jones, Abermagwr, yr hwn hefyd a i gynygiodd ddiolehgarwch i'r cadeirydd, terfyn- wyd y cyfarfod drwy ganu Hen wlad fy nhadau," Mr. John Evans ynicymeryd i fyny yr unawd.
LLANFAIR D.C.
LLANFAIR D.C. DEONIAETH DYFFRYN OLWYD.—Ddydd Iau,yr 17eg o'r mis hwn, cynhalioddiclerigwyr y ddeon- iaeth uchod eu eyfai-f od chwarterol yn Llanfair y Parch. B. 0. Jones, D.G., Rhuthyn, yn y gadair. Yr oedd yn bresenol y clerigwyr can- Iynol :y Parchn. Rees Williams, Gyifylliog John Davies, Llanynys Henry Jones, Llan- yehan Evan Evans, Llanarmyn-yn-Ial John Owen, Llandegla W. Pownall Owen, Llanbedr; F. M. Jones, Rhuthyn, a W. Jenkins. Y pync- iau dan sylw oeddynt, Yr Ysgol Sul a'i hath- rawiaoth,' a'r Efengyl am yr ail Sul yn y Pasg.' Ymdriniwyd a phwnc yr Ysgol Sul yn hynod feistrolaidd a phwrpasol. Cafwyd llawer iawn o adeiladaeth wrth ymdrin a'r Efengyl am y dydd. Penderfynwyd fod y cyfarfod ch-warter- ol nesaf i gael ei gynal yn Llandegla yn mis Gorphenaf. Wedi gorphen, gwahoddwyd yr oil o'r clerigwyr i'r Ficerdy gan y Parch. B. M. Jones, lie yr oedd te wedi ei barotoi iddynt. Am saith yn yr hwyr, cynhaliwyd gwasanaeth yn yr eglwys, pryd y pregethwyd gan y Parch. Evan Evans, Llanarmon, i gynulleidfa astud. Y mae diolchgarwch mwyaf diffuant y clerigwyr yn ddyledus i'r Parch. B. M. Jones a Mrs. B. M. Jones am eu croesawiad,a'r drafferth yr aethant iddo er mwyn gwneyd pawb yn gysurus. Darfu i'r cor wneyd ei ran yn ardderchog. Bendith y Nef fyddo ar y plwyf ac ar y ddeoniaeth.
- FFYN0NGR0EW.
FFYN0NGR0EW. Cynhaliwyd y festri flynyddoi yn yr Y sgoIdy Genedlaethol nos lau cyn y diweddaf. Darllen- wyd y rhybudd a ddodwyd ar ddrws yr eglwys y Sul blaenorol gan y Ficer, Ynagalwyd ar Mr, T, Joues, ysgolf eistr, i ddarllen y cyfrifon am y flwyddyn. Bydd yn dda gan Eglwyswyr y lie, llawer o ba rai oeddynt yn absenol, glywed fod y casgliadau wedi dyblu, Ar ol talu y treuliau, y mae y swm hardd o £7 13s, Se, mown llaw, Talwyd diolchgarweh i'r wardeniaid-Mr. Wm. y 11 Williams a Mr. T. Jones—am gyflawni eu dyled- swyddau mor dda yn ystod y flwyddyn. Yna aethpwyd ymlaen i ddewis wardeniaid am y flwyddyn newydd. Cynygiwyd Mr. A. Durrans, Crown Hotel, fel warden y bobl gan Mr. W. Evans, ond ni eiliwyd gan neb. Yna cynygiwyd Mr. W. Williams (yr hen warden) gan Mr. D. Edwards, ac eiliwyd gan Mr. L. Miller. Dewis- wyd yr hen wr yn unfrydol. Dewisodd y Ficer Mr. T. Jones yn wardeniddo ef eto. Gan fod llawer iawn o ymwelwyr yn dyfod i'r eglwys yn yr haf, dewiswyd Mr. Durrans a Mr. Joseph Williams yn sidesmen i gynorthwyo y warden- iaid, Gan fod arian mown llaw, penderfynwyd fod rhan i fyned i brynu llyfrau at wasanaeth yr eglwys, Gohiriwyd y festri am wythnos, gan ei bod yn hwyr, er pemdeyfynu a ydyw y tocynau sydd wedi eu sicrhau wrth rai o'r geddau, gydag enwau defnyddwyr y seddau arnynt, i gael eu tynu i frwrdd,
ABERHONDDU,
ABERHONDDU, CoxFFiRiiASiwx.—Ddydd Mercher, yr 16eg cyfisol, ymwelodd eill Hesgob parchus a ni, er mwyn conffirmio yr ymgeiswyr am y ddefod sanctaidd, y rhai oeddynt yn perthyn i eglwysi y dref a'r plwyfi cylchyuol, yn eglwys henafol y Priordy, ITcblaw yr ymgeiswyr, yr oedd yn bresenol gynulleidfa liosog, a golwg barchus a defosiynol ar bawb. Yr oedd yr offeiriaid canlynol yn eu gwenwisgoedd:—Parchn. Prebendary Garnons Williams, D.G.; D. Lewis Lloyd, Coleg Crist; W. Williams, D.G., Llan- defaelogJ. J. Evans, I >.G., Cantref D. Griffith, IJanfihangel; W. Howell, Garthbrengi D. Sauuders Jones. Llanfrynach Rossendale Lloyd, a M. Jones-Powell, curadiaid St. loan a St. Mair. Gweithredwyd fel caplan i Iw, arglwyddiaeth gan y Parch. W. Williams, D.G. Daeth 104 ymlaen i dderbyn y ddefod apostol- aidd o arddodiad dwylaw, sef GG o wrywocl, a 38 o fenywod, rhai o honynt wedi, cyraedd gwth o oedran, eto. nid oeddynt yn tybied eu bod yn rhy ddiweddar i dd'od ymlaen i gaelou coniffillnlo. Anerchwyd hwynt yn ddifrifol iawn gan yr Esgob, ac yr oedd pob uij yn gwra,ndo gyda'r astudrwyad a'r defosiwn dyfnaf, Pan ystyriwn fod yr Esgob wedi bod yn LlansantffraJd-juxta- Usk ddydd LIun cyn hyny, ac hefyd i fod yn Nefynog yr un prydnawn, yr oedd nifer yr ym- geiswyr yn foddlitol iawn, Dyddiau lau a. Gwener bu ei arglwyddiaeth yn Hay, Glasbury, ac Aberedw. Gwelwn mor weithgar y mae ein parchus Esgob—nid yw yn arbed ei hun o gwbl, ac fel hyn yn siampl i'w boll glerigwyr. Er ei fod wedi dioddef yn ddiweddar oherwydd yr anwydwst (influenza), eto traddododd eianerch- iadau gyda nerth a dylanwad. Dymunwn ad- feriad buan i'w iechyd cynefinol, a hir oes i'n bugeilio ni yn yr Arglwydd. CYNGRAIR Y FRIALLEX.—-Nos Lun, y 14eg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod brwdfrydig gan aelodau y gyngrair hon, yn Neuadd y Dref pan lanwyd yr ystafell eang gan Undebwyr twymn- galon. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Proffeswr Du'Cann, yr hwn sydd yn gampwr ar slight of hand, a thailu ei lais (ventriloquism), a rhodd- wyd boddhad cyffredinol i bawb. Chwareuwyd ar y berdoneg rhwng y gwahanol gastiau gan Mr. Large, C.E. Ar ol hyn dechreuwyd ar brif waith y cyfarfod, sef cael araith gan y Milwriad Bond ar amcan a diben y cyngrair, set, pleidio a chef nogi yr egwyddorion hyny ag sydd wedi gwneyd Prydain Fawr yn brif Ymerodraeth y byd. Dywedodd lawer am yr Iwerddon, a phwy oedd yn gwybod yn well nag ef am ansawdd a chaflwr y wlad ansefydlog hono, oherwydd yr oedd wedi bod yn Ynad trigianol am flynydd- oedd yn Tipperary a Mayo, ac yr oedd yn y wlad hefyd fel Ynad ar yr amser y llofruddiwyd Arglwydd Cavendish a Mr. Burke. Sicrhaodd y gwrandawyr nad oedd dim ffordd well i ddwyn heddwch a llwyddiant i'r Iwerddon, ond gorfodi y bobl i barchu ac ufuddhau i'r gyfraith, yr hyn y mae y Llywodraeth bresenol yn ei wneuthur. Pe tae Pat yn cael llonydd gan y Cynhyrf wyr, byddai fel dyn arall, ac mor deyrngarol a ni yn Nghymru. Ni chlywsom well araith erioed ar y cwestiwn Gwyddelig na hon. Siaradodd Mr. H. D. Cleasby, Penaur, yn dda iawn pan yn dwyn yr areithiwr i sylw y cyfarfod. Llanwyd y gadair gan Mrs. Cleasby (Ruling Councillor). Miss Garnons Williams yw yr ysgrifenydd, ac yn ddiameu nis gallai gwell boneddigesau ymhob ystyr gael eu penodi i lenwi y swyddi uchod, a gobeithio y derbyniant y gefnogaeth y maent yn ei gyfiawn haeddu. 0 hyn allan bydd cyfarfodydd yn cael eu cynal yn rheolaidd gan y Cyngrair, ac eiddunwn ddyfodol llwydd- ianus iddi y mae pob argoel mai felly y bydd. -Hywel Idloes.
GELLI AUR.
GELLI AUR. Y mae yn y lle uchod rai pethau ag sydd yn teilyngu sylw y cyhoedd, megis yr Ysgol Sul, a gweithgarwch y cor canu, a chyfraniadau at wahanol gymdeithasau dyngarol a chrefyddol. Ryw dair wythnos yn ol yr anfonwyd JE5 4s. 8c. o'r Eglwys uchod i weddwon a phlant a amddi- fadwylo ffon eu bara yn ninystr Glofa y Morfa. Ddydd Ian, y lOfed cyfisol, rhoddodd y Parch. C. Chidlow, ficer Caio, ddarluniadau o wlad Canaan, a'r darganfyddiadau diweddaraf ag sydd yn dangos sicrwydd gwirioneddolrwydd y Beibl. Am 3 30, cymerwyd y gadair gan yr Anrhydeddus Arglwydd Emlyn, yr hwn sydd wedi bod yn Palestina ei hunan. Wedi i Mr. Chidlow ddarlithio, cynygiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r cadeirydd a'r boneddigion ag oedd wedi presenoli eu hunain yno, gan y Parch. J. J. Beresford. Yn yr hwyr, am 7, cymerwyd y gadair gan y Parch. E. Jones, ficer y lie, ac 11 wedi iddo roddi ychydig o anogaethaui'r gynull- eidfa, galwodd ar y darlithydd i ddyfod at ei waith. Terfynwyd trwy ganu yr hen don Hyfrydol." YR YSGOL SUL.—Ddydd Sul, y 13eg eyftsol, cafwyd adroddiadau a gofyniadau, ynghyd fig atebion, oddiar Matthew xxviii., wedi ei dos- barthu i'r gwuhanol ddosbaxthiadau. Aethpwyd trwy y gwaith yn dda—mewn adrodd, hoi, ac ateb. Mae yma ofal mawr am blant yr Ysgol Sul i'w dwyn i ddeall egwyddoriony Beibl Sanctaidd. Mae teulu Mr. a Mrs. Brockie, Golden Grove Farm, er's biynyddau yn cadw Dosbarth Beibl- aidd yn wythnosol, ac wedi dylanwad u yn fawr ar feddyliau y to ieuanc. Y mae boneddigion y plwyf yn cymeryd dyddordeb ymarferol yn yr Ysgol Sul.-Meilwch.
PENBOYR.
PENBOYR. Ddydd Llun diweddaf, claddwyd y ddiweddar Mrs. Elliott, gweddw Mr. T. Elliott, Dolhaidd, yn y plwyf hwn, yn Eglwys St. Barnabas. Caiff llawer heblaw ei tliylwyth golled ar ei liol. Yr oedd yn hynod garedig i'r tlawd, ac i'r to iebanc sydd yn codi yn Mhentreeagal a manau eraill. Yr oedd yn tanysgrifio yn helaeth ac yn gyson tuag at gynal yr Ysgol Genedlaethol yn y plwyf oddiar marwolaeth ei gwr, dros ugain mlynedd yn ol. Llawer gwledd o dc a bara brith a gaf- odd yr ysgol ar ei thraul hi. Pregethodd Rheithor parchus y plwyf bregeth angJaddol rymus a hynod deimladwy ar ei hoi nos Sul di- weddaf. Bydd yn dda gan lawer o ddarllenwyr y LLAN wybod fod y ddyled oedd yn arcs ar ol adgyweir- iad hen eglwys y plwyf, yr hyn a gostiodd yn agos i £ 800, wedi ei lwyr ddileu. Gwnaed casgliad neilld uo ar gyfer hyny ar foreu dydd Sul y Pasg. Cyfanswm y casgliad oedd £ 83 7s. Casgliad rhagorol ag ystyried sefyllfa ac amgylch- iadau yr aelodau. Nid oes un landlord yn byw yn y plwyf, ac y mae yr aelodau braidd yn ddi- ( eithriad yn perthyn i'r dosbarth gweithiol, yr ( hyn sydd yn atebiad i'r rhai hyny a fynant mai £ Eglwys y cyfoetliog yw yr Eglwys Genedlaeth- >■ ol. Yn ngweinyddiad y Cymun Sanctaidd, yr oedd yn bresenol 125 o aelodau foreu y Palsg. 108 yn Ysgol Sul St. Barnabas, a thros 80 yn Ysgol lSul Penboyr. Pobiogaeth y plwyf ydyw ychydig dros 1200. Cesglir oddiwrth y ffigyrau a'r ffeithio/a hyn nad ydyw Eglwys y Cymry yn fethiant. Ymlaen yr elo y gwaith da ydywtaer ddymumad- A clod.
NODION 0 DDEONIAETH WYDDGRUG.
NODION 0 DDEONIAETH WYDDGRUG. EGLWYS ST. lVIAm, WYDDGRUG.—Cynhal- iwyd gwasanaethau neillduol yn yr eglwys hon yn ystod wythnos y Dioddefaint, ac er rhoddi cyfleusdra i bawb o'r plwyf fod yn bresenol yn Nhy Dduw unwaith o leiaf bob dydd o'r wyth- nos arbenig hon. Gwelodd y Ficer yn ddoeth ac yn dda i gynal gwasanaeth dair gwaith bob dydd, ac yn wir bu y cynulliadau yn achos o lawenydd nid bychan i bawb o hoiioii). Yn ychwanegol at y gwasanaethau liwyrol, tra- ddodwyd anerchiadau gan y Ficer ac un o'r! curadiaid, GWlXEn Y GROGHTITEr fod y tywydd yn hynod ddeniadol y dydd pwysig hwn, yn enwedig i'r bobl ieuainc, cafwyd cynulleidfa- oedd anferth y boreu, prydnawn, a hwyr. Trefn y gwasanaethau oedd fel y canlyn ;—Boreu, am wyth o'r glooli, y Litani; a gwasanaeth a pliregeth am nn-ar-ddeg, pryd y pregethwyd oan y Parch. L. Jones, curad, oddiar 1 St. loan iii. 16. Brydnawn, agorwyd dry.4au yr eglwys am un o'r gloch er rhoddi cyfleusdra i bawb wneyd y defnydd goreu o'r oriau difrifol hyn, trwy weddio a myfyiio ar ddioddetaint ac angeu ein Gwaredwr Bencligedig yn nystaw- rwydd y cysegr. Dechreuwyd y gwasanaeth prydnawnol am ddau o'r gloch, a chafwyd an- erchiadau dwys ac effeithiol gan ein parchus Ficer ar eiriau bytligofiadwy Crist ar y groes. Da oedd genym weled cynulleidfa mor liosog yn y gwnsruiaeth hwn, gan mai ychydig, fel rheol, a welir mewn llawer eglwys ar brydnawn y Groglith, ac yn wir, gresjm yw gorfod addef fod rhai eglwysi heb wasanaeth o gwbl. Y rheswm a roddir yn gyifredin yw, nad yw o uiorhyw ddiben eu hagor gan mor lleied a'u mynychent. Gwybydded y cyfryw blwyfolion, ynte, eu bod yn esgeulugo un o'r moddion gras mwyaf effeithiol er eu hiachawdwriaeth, Onid yw yr Eglwyswyr hyn yn .cofio cerydd Crist i'w ddisgyblion gynt am eu difaterwcli mewn cysyUtiad &'i ddioùdefaint-q Ollis gellwcli chwi w.ylied gyda mi un awr," a'r gorchymyn, Gwyliwch a gweddiwch, fel nad eloch i brofedigaetii." Cynhaliwyd y gwasanaeth hwyrol am 6.30, pryd y pregethwyd gan y Parch. J. Evans, B.A., curad, oddiar 1 Tim. i. 15. SUL Y PASG. — Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid yn Eglwys St. Mair am saith, wyth, ac un-ar-ddeg y boreu, ac yn St. loan, yr ev- lwys Gymreig y dref hon, am wyth ac un-ar- ddeg. Da oedd genym weled cynifer wedi ym- gasglu ynghyd i'r gwasanaeth cyntaf yn eglwys y plwyf. Dangosai y cyfryw bersonan, trwy hyn, en parodrwydd i gadw un o orchymynion mwyaf pendant Crist—" Gwnewch hyn er coffa sm danaf." Rhifai y cymun wyr y waith hon yn unig 94, tra yr oedd y cymunwyr yn ystod y dydd oddeutu tri chant. Cafwyd gwasanaeth- au bywiog a gwresog trwy y dydd. Pregethodd y Ficer yn rymus yn y boreu ar adgyfodiad Crist, a dilynwyd ef ar yr un athrawiaeth yn yr hwyr gan y Parch. L. Jones, curad. N a, na, nid marw frodyr—yw Glan Eglwys Dduw yn Nghymru." Y FESTRI BLWYFOL.—Foreu dydd Llun y Pasg, cynhaliwyd y festri flynyddoi mewn cys- ylltiad a'r eglwys hon. Yr oedd yn bresenol y Parch. Thomas Jones, M.A., ficer, yn y gadair Mri. P. C. Morgan a W. H. R. M. Johnson (wardeniaid), 0. Jones, F. Bellis, W. P. Jones, James Thomas, J. F. Davies, T. S. Adams, T. T. Kelly, E. T. Keene, ac eraill. Cyn ymgymeryd a gorchwyl y cyfarfod, diolchodd y Ficer i'r wardeniaid a'r swyddogion eraill perthynol i'r eglwys am eu gwasanaeth gwerthfawr yn ystod y flwyddyn a aeth heibio. Dywedodd hefyd fod yr oU o'r dyledswyddau wedi eu cyflawni er boddhad pawb, ac erfyniai arnynt dderbyn ei ddiolchgarwch gwresocaf am eu llafur. Yna aethpwyd ymlaen at y gorchwyl o etholwarden- iaid. Cynygiodd Mr. W. P. Jodes, a chefnogodd Mr. F. Bellis ail etholiad Mr. Johnson, a char- iwyd hyn yn unfrydol. Yna ail etholwyd Mr. P. C. Morgan gan y Ficer, yr hyn a roddodd foddhad cyffredinol. Cynygiodd Mr. Johnson etholiad Mri. Bolton, J. E. Davies, T. L. Swift, T. L. Adams, W. Wright. T. Ackerley, Geich, a H. Rowlands fel is-wardeniaid (sidesmen), a chefuogwyd ef gan Mr. P. C. Morgan. Rhodd- wyd y cynygiad o flaen y cyfarfod, a chariwyd ef yn unfrydol. Wedi talu diolchgarwch i'r cadeirydd, terfynodd y eyfarfod.-S. B. Jones.
UP AND DOWN THE DEE.
UP AND DOWN THE DEE. Teimlid er's tro yn Fflint fod yna angen am gael rhywun i edrych ar ol y Cemetery, ac i fyw yn ymyl. Yn festri y Pasg, hysbysodd y Rheithor (Parch. W. L. Nicholas) fod bonedd- iges o'r enw Miss Moon wedi cynyg Y,100 tuag adeiIadu ty i'r careiaker. Deallaf fod yna fwy nag un cwmni yn berchen gweithfeydd yn ngolwg y Ddyfrdwy a ddis- gwyiiant i'r gweithwyr brynu mewn siopau neillduol. Meddylais fod y truch system wedi darfod o'r tir er's blynyddau, ond ymddengys fod rhywbeth tebyg yn myned ymlaen yma. Sicr yw nad gormod gadael i'r gweithwyr,yn fwnwyr, glowyr, &c., wneyd yr hyn a fynont a'r hyn a enillir ganddynt; gweithiant yn ddigon caled am I, dano. To be a noble master, among noble workers, the first ambition to be a rich master, only the second,' meddai Carlyle. Casglwn gyf- oeth yn gyntaf, eled y nobleness lie yr elo, yw arwyddair rhai meistriaid gallem feddwl. Y mae rhai o'n haelodau Cymreig yn piynod barod i ofyn cwestiynau yn y Senedd ai nid ydyw yn bosibl cael ganddynt alw sylw yr awdurdodau priodol at berthynas y meistriaid a'r gweithwyr yn y parthan hyn ? Cychwynwyd 'achos' Seisnig yn ddiweddar yn Nhreffynon, gyda'r amcan, meddent, o gael gafael r.r y bobl hyny nad ydynt yn myn- ychu un lie o addoliad. Os iawn barnu wrth eu gweithredoedd, ni ehyfrifir yr Eglwys ganddynt yn lie addoliad, canys gwahoddir Eglwyswyr drwy gylchlythyrau i'w cyfarfodydd ac nid yn tinig hyuy, ond danfonir cylchlythyrau drachefn i'r Eglwyswyr byny a arweinir yno gan gywrein- rwydd, i ddiolch iddynt am eu presenoldeb Crefydd hynod Ifasiynol ydyw crefydd y cylch- lythyrau yma. Faint, tybed, ydoedd nifer y bobl hyny a dderbyniasant gylchlythyral1 oddi- wrth John Elias i ddyfod i'w wrando ar ddydd trair Rhuddlan gynt ? 11 y Wrth alw yn Mostyn, canfyddais ar unwaith fod rhywbeth allan o le wrth weled cynifer o bobl yn sefyll yn segur yn ngliyfairiad y Cei Cefais ,ar ddeall fod rhai o'r llafur wyr a ddad- Iwythant y llongau mawI' fel eu gelwir, allan ar strike. Ni chlywais yn iawn beth oedd achos yr angliydwelediad. Ci obeithio y caiif y ddwy ochr yr hyn sydd deg, ac y derfy'dd y strike yn Euan.—Pysgottvr.
DEONIAETH CEDE WAIN.
DEONIAETH CEDE WAIN. YMADAWIAD RITEFTIROR Y DREFXEWYDD.— Pel y dywedasom o'r blaen, mae y Parch. J. Williams, Rheithor y Drefnewydd, a Deon ] 7xwladol Cedewain, wedi derbyn bywoliaeth Llanrhaiadr Dyffrvn Clwyd, ar gynygiad Esgob Llanelwy, Nos Sitf, y 13eg cyfisol, pregethodd ] 3i bregeth ymadawol yn eglwys y plwyf. Yr ( )(-,dd yr eglwys eang, yr hon a ddeil yn < r ftorddus fil o bobl, yn orla,wn, ac ymhlith y 1 ly gynulleidfa yr oedd amryw o brif Ymneillduwyr y dref. Ac nid rhyfedd hyny, gan fod Mr. Williams wedi treulio yr ugain mlynedd goreu o'i fywyd yma, ac y mae drwy y cyfnod hwnw wedi hynodi ei hun bob pryd fel boneddwr hynaws a. heddychlawn, ac y mae drwy hyny wedi enyn serch a pharch pob dosbarth a phlaid tuag ato. Cyfeiriodd at ei ymadawiad mewn modd teimladwy iawn, a chaufyddtd mai gwaith pur anhawdd oedd ganddo flarwelio. A i Lan- rhaiadr gyda dymuniadau goreu pawb. Y mae athrawon ac ys:;olheigion yr Ysgol Sul wedi ei anrhegu a Beibl Cymraeg ac album gwerthfawr. CyHwyna y plwyfolion a'i gyfeillion eu tysteb iddo ymhen ychydig ddyddian. YMWELIAD YR ARCHDPIACON,—Brydnawn dydd Idun, y 14cg cyfisol, talodd yr Hybarch D. R. Thomas, Archddiaoon Maldwyn, ei ym weliad blyuyddol a'r Ddeoniaeth hon, yn y Drefnewydd. Dechreuwyd drwy ddweyd y Jirydnawnol Weddi yn Eglwys y plwyf. Yna ymneillduwyd i'r festri gyfagos. Ni chafwyd siars, eleni, am fod yr Esgob yn bwriadu talu ymweliad a'r ardal yn yr hydrei. Ar ol y gweithrediadau arf erol,.cafwyd dadl ar Addysg Rydd neu Gynorthwyedig," yr hon a agorwyd gan y Parch. R. Evan Jones, M.A., ficer IJlan- llwchaiarn. Cymerodd amryw o'r rhai oedcl'yn bresenol ran ynddi, a cliafwyd ar y cyfan ym- driniaeth wir ddyddorol ac addysgiadol ar y pwnc. Daoth nifer lied dda o glerigwyr, war- deniaid, ac is-wardeniaid ynghyd. I:) YR ESGOI: YN KIN PLITH. Foreu Sul di- weddaf, bu Esgob Llanelwy yn gosod y Parch E. A. Fishbourne, M.A., cyu-reithor Liandyssi-1, mewn meddiant o reithoriaeth y Drefnewydd. Yr oedd yr eglwys yn orlawn. Anerchodd yr Esgob y gynulleidfa fawreddog yn ei ddull hapus arferol, ac yn briodol iawn i'r amgylch- iad. Yn y prydnawn, galwodd yn yr Ysgol Sul, a rhoddodd air bach o gyngor ae anogaeth i'r athrrwon a'r ysgolheigion. Yna aeth i lawr. i eglwys lalanllwel-itiarn, ryw filleli,, o'r dref, lie y cynhclid ar y pryd wasanaeth misol plant yr Ysgol Sul. Yr oedd yr bin yn hyfryd, ac fel arferol yr oedd yno gynnlleidfa fawr. Cyr- haeddodd ei arglwyddiaeth yno oddeutu haner y gwasanaeth, ac ar ddymuniad y ficer, esgynodd i__r pwlpud, ac anerchodd y plant mewn modd hynod o syml a deniadol. Yn yr hwyr, cymer- odd ran yn y gwasanaeth yn Eglwys y plwyf, y Drefnewydd. Cawn y fraint o'i weled a'i glywed yn yr ardal hon eto ymhen ychydig wytlmosau, ar aooriad Eglw. ys yr Holl Saint, Llanllwchaiarn. Afreidiol ydyw dweyd ei fod wedi gwneyd argraffiad boddhaol iawn yn y gymydogaeth hon drwy ei ymddygiad serchus a dirodros, a'i weithgarwch diflino. Yn sicr, nis gall neb ei gyhuddo o gymeryd bywyd yn araf ac esmwyth. Gwyn fyd na fuasai ein hesgobion mor weithgar ac effro ganrif neu ragor yn 011
METHDALIADAU.
METHDALIADAU. Yn unol a Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn diweddu Ebrill 19eg, fel y canlyn-:— „.n „ „ 1890 1889 1888 Builders, & Building Materials 18 15 15 Chemists and Drysalters 2 4 8 China, Glass, & Earthenware 1 1 2 Confectionery, Toys, &c 2 8. 5 Corn, Coals, Minerals 11 16. 4 Drapery, Clothing Trades 19 27 80 Farmers 7 16 12 Furniture, Upholstery. 1 4 g Horses, Vehicles 6 6 1 Jewellery, Watches. 3. 4 1 Leather 17 10 12 Metals 1. 8 .4 I 8 4 Paper, Printing, &c 4. 2 Provisions 28 41 26 Wines, Spirits, beer, &c 9 u 17 Miscellaneous 27 16 15 154 182 155
AT EIN GOHEBWYR
AT EIN GOHEBWYR GELWIR sylw Darllenwyr, Gohebwyr, a Dos- barthwyr caredig Y LLAN A'R DYWYSOGAETH at y cyfnewidiadau canlynol mewn cysylltiad a dygiad allan ein newyddiadur. 0 hyn allau, cyfeirier Newyddion Lleol, Cyfansoddiadau, Ysgrifau, Gohebiaethau, a Llyfrau i'w hadolygu fel!y canlyn:— Rev. LL. M. WILLIAMS, The Rectory, Dowlais. Er mwyn sicrbau tegwch ac osgoi siomedig. aeth, erfynir ar ein Gohebwyr lliosog dalu sylw arbenig i'r rlieolau canlynol:— 1. Ysgrifener ar un tu i'r ddalen, yn fyr ac i'r pwrpas. 2. Cofier nas gall y Golygydd sicrhau ym. ddangosiad unrhyw Ysgrif, Gohebiaeth, Ac., 08 na dderbymr hwynt cyn, neu ar foreu DDYDD MAWRTH ymhob wythnos. a 3. Nis gellir dychwelyd Ysgrifau na wneir defnydd o honynt. 4. Rhaid i enw priodol pob Gohebydd gael ei ymddiried i'r Golygydd, nid er mwyn ei gy. hoeddi, ond fel sicrwydd o gywirdeb a gonest. rwydd yr awdwr. 5. Ni wneir sylw o gyfansoddiadau dienw.
Y GOLOFN FARDDOL.
Y GOLOFN FARDDOL. Cyfeirier cyfansoddiadau Barddonol fel v canlyn:— Rev. N. THOMAS (Marlais), The Vicarage, Llanddarog, 0 Carmarthen. Rhaid i ni erfyn ar ein cyfeilHon barddonoa fod mor garedig a thalu sylw i'r rheolau canlynol bob amser:— J 1. Defnyddier note paper,' ac ysgrifener ar un tu i'r ddalen. 2. Ymdrecher dewis testynau o ddyddordeb cyttiedinol, ac astudier tlysni a byrdra yn hytrach na meithder gormodol. 3. Nis gallwn ddychwelyd cyfansoddiadau annerbyniol, na barnu teilyngdod cyfieithiadau heb weled y gwreiddiol.
TELEEAU AM "Y LLAN A'R DYWYSOG.…
TELEEAU AM "Y LLAN A'R DYWYSOG. AETH." Anfonir un copi drwy y Post i unrhyw gyfeir- iadyn y Deyrnas GyfnnullUu y prisian canlyno 1 Cbwaiter bhvyddyfft Is. 8c.; haner blwyddyu 3s. 4c.; blwyddvn, 6s. 8c. Dau neu dri rhifyn 5-n ol yr un raddta. Rhaid anfon blaendal gyda pliob archeb. Y telerau i Ddosbarthwyr ac eraill a gymer- ant ddwsin ac uchod yn wythnosol ydynt 9c. y IwHin, 10c. gyda'r rlieiliTordd, a Is. gyda'r post. Kliaid i bob Dosbarthwr wastadhau ei gyf. rifon yn chwarterol, a dymuuir ar i bob un lalu sylw neillduol i hyn. Os digwydda unrhyw isgpulusdrft ar ran swyddogion y Llythyrdy len y Rlieilliyrdd gyda chIn diad nnrhyw sypyn, lylid anion liysbysrwydd o hyny yn ddioed i'r ~>yhoeddwyr. Rhaid i'r Dosbarthwyr a dder- )yniant eu sypynau gyda'r rheilffordd ofalu eu lymofyn yn eu gwahanol orsafoedd bob wyth. 10s. J
HYSBYSIADAU "Y LLAN A'R DYWYB.…
HYSBYSIADAU "Y LLAN A'R DYWYB. OGAETH." Gan mai Y LLAN A'R DYWVSOGAETH yw yr time, Newyddiadur Eglwysig a gyhoeddir yn Gymraeg a dderbymr ac a ddarllenir gin y mwyaf dealius o bob dosbarth yn y Dywysoe- aeth, ei'e, gan hyny, ydyw y cyfrwng goreu i wneyd unrhyw beth yn hysbys. Y Telerau am Hysbysiadtw, 75 o eiriau (solid) neu un fodfeddji lawr y golofn (displayed) Un wythnos (tal ymlaen Haw). 2s. 6c. D'wy wytlmos. 2s. Oc. Pedair wythnos lg> gc> Chwech wythnos 3s 6c 13 wytlmos ls". 8c; 26 wythnos j 00. Hysbysiadau Seneddol a Rhybuddion Cyfreith. iol, 6c. y llinell. Arwerthiadau, 4o. y llinell. Hy8by8iadau Blaendaliadol Rhad. Cyhoeddir Hysbysiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A'R DYWYSOGAETH, yn ol y raddfa ganlynol 20 0 eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s chwe gwaith, 3s. 30 o eiriau, un waith, Is, 6c.; tair gwaith 3s¡; chwe gwaith, 4s. 6c. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. 6c.; chwe' gwaith, 6s. 9c. ° Cyhoeddir Hysbysiadau yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ni ofynir tal am gyiieithu. SYLWER. Rhaid i bob Gohebiaeth yivlvn a Hysbysiadau a Tlialiadau o hyn allan gael eu lianfon i'r Cylioeddwyr, Messrs. FARRANT & FROST, I Y LLAN A'R DYWYSOGAETH Office 135, High Street, Merthyr Tydfil.
LLANLLECHID.
Gerlan 2il, O. Williams, Llanllechid. Beirn- iadaetli ar y traethawd, Defosiwn,' un ym. geisydd, a dyfaanwyd yr ail wobr i Mr. G. Jones. Cystadleuaeth adrodd Esgyniad Elias i'r no I,' pedwar yn ymgeisio —goreu, T. Jones ail-oreu, O. Owens. Beirniadaeth y gwniad- waith i rai dan 14 oed-goreu, M. Williams ail-oreu, S. J. Evans. Cystadleuaeth sillebu, i bob oedran—goreu, Mr. T. Jones. Beirniadaeth yr Hosanau Cochddu, i rai uwchlaw 40 oed- goreu, Mrs. M. Evans ail-oreu. Mrs. A. Owen. Cystadleuaeth i'r tenor, Bedd y milwr,' dau ymgeisydd—goreu. Mr. W. J. Williams ail- oreu, Mr. O. Williams. Beirniadaeth cyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg—goreu. Miss Morris ail-oreu, Mr. T. Jones. CAn gan Mrs. Roberts (Sophia). Beirniadaeth y Lady's Chemise gan fod yna amheuaeth y nghylch y feirniad- aeth rhoadwyd y wobr ar y pryd i Miss M. Thomas. Cytsadleuaeth chwareu ar yr Harmonium, Mor weddaidd ar y mynydd- oedd,' un ymgeisydd. a dyfarnwyd y wobr gyntaf i Mr. D. R. Thomas. Beirniadaeth y Sampler goreu, yn cynwys y Colect am y 15f ed1 Sul wedi y Drindod-goreu, Miss M. Williams ail-oreu, Miss C. Thomas. Cystadleuaeth ar araith ddifyfyr, rhydd i bawb, un ymgeisydd, a dyfarnwyd y wobr i Mr. T. Jones. Beirniadaeth am y par Mittens i rai dan 1-1 oed; goreu, Miss J. E. Jones ail, Miss S. J. Evans. Cystadieu- aeth unawd baritone, Y Morwr a'i Fachgen;' gan fod yr ymgeiswyr yn lliosog, canodd rhyw saith yn y prydnawn, a detholwyd pedwar i ganu yn y cyfarfod; goreu, Mr. J. Jones; &.il, Mr. R Thomas. Beirniadaeth ar y 'Ribbed Cravat;' goreu, Miss J. E. Jones; ail, Mrs. M. Evans. Cystadleuaeth, 4 Unrhyw Ddeuawd gan fod yr ymgeiswyr yn lliosog, canodd rhyw bedwar o honynt yn y prydnawn, a detholwyd dau i ganu yn y cyfarfod rhanwyd y wobr yn gyfartal rhwng Mr. 0. Hughes a i gyfaill a Mr. R. Jones a'i gyfaill. Beirniadaeth ar y prif draetbawd, Pechod Jeroboam,' tri yn ymgeisio; goreu, Mr. T. Jones. Cystadleuaeth unawd contralto, Adlais y dyddiau gynt;' un ymgeis- ydd, a dyfarnwyd y wobr i Mrs. Roberts (Sophia). Beirniadaeth Gwniadwaith i rai mown ced; goreu, Mrs. M. Williams ail oreu. Mrs. E. Williams. Cystadleuaeth dadganu Y Blodeuyn Olaf;' gan bedwar o'r ungynulleidfa un parti ddaeth ymlaen, sef Llechid a'i barti, a dyfarnwyd hwynt yn deilwng o'r wobr. Beirn- iadaeth 'Chwe penill i Eglwys Llanllechid;' derbyniwyd tri o gyfansoddiadau, a dyfarnwyd y wobr i Ap Llechid, sef Mr. J. H Williams (ileilyn). Gwasanaethid fel beirniad cerddorol gan Mr. NI Williams, Port Penrhyn Lodge. Hangor, ao y mae ei enw yn ddigon hysbys fel na raid iddo wrth ganmoliaeth. Dilynwyd ar yr offeryn drwy y cyfarfodydd gan Mrs. Jones, Brittania House, 'Rachub Miss Williams, Port Penrhyn Lodge, a Mr. Emmanuel Davies, ysgol- feistr. Bodfeirig. Y beirnaid oeddynt.—Y Parchn. R. A. Williams (Berw) R. Jones, Beaumaris (Penisa'rwaen gynt); M. Griffiths, Llanfaetblu; Mri. Jervis, Gerlan; T. Hughes, Glauogwen; D. Davies, Bodfeirig; y Dis. Hughes a Lloyd, Betliesda Mr. John Williams, PenJan Miss Cecilie West, a Miss Williams, Gianogwen. Credwn i'r cynulliadau llioaogoedd wedi dyfod ynghyd gael eu llwyr toddloni yn yr oil o'r gweithrediadau, ac i'r cyfarfodydd fod, nid yn unig yn elw a mantais ariqnol. ond yn benaf er budd a diwylliant i feddyliau y rhai oedd yn gwrando, a gobeithio na fydd neb yn codi cythrwfl ar oly fath gyfarfodydd ag sydd wedi cael eu cario ymlaen mor llwyddianus a therfynol. Wedi talu y diolchiadau arferol, terfynwyd drwy ganu yr Anthem Genedlaethol. —John Davie8, Llanllechid.