Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
--NODION 1 SENEDDOL
NODION 1 SENEDDOL "i [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] TRETHIAD PEIRIANAU. Dydd Mawrth, yr wythnos ddiweddaf, cy- merodd dadl ddyddorol le ar ail ddarlleniad N Mesur a ddygwyd i mewn gan Mr. Winter- botbam, amcan yr hwn ydoedd rhoddi deffiniad o natur y peirianau a ddylid drethu, neu i'r gwrtliwyneb. Yr oedd y Mesur yn cynyg na fyddai i unrhyw beirianwaith, pa un bynag a fyddai ynglyn a'r adeilad neu beidio, gael ei drethu, gyda rhai eithriadau a nodid. Yr oedd y Mesur yn dal perthynas nid a'r cyflogwyr yn unig, ond a'r llafurwyr yn gyffredinol. Yr oedd y cwestiwn yn un dyrus, ac yr oedd y barnwyr yn amrywio yn eu dyfarniadau. "Eiliwyd y cynygiad gan Syr William Houlds- Worth, yr hwn a sylwodd fod y Mesur yn ym- gais deg a gonest i symud camwri gwirioneddol. Cynygiwyd gwelliant gan Mr. Heneage i'r perwyl fod y mater yn un na ddylid ymwneyd aS ef ond fel rhan o gynllun cynwysfawr o drethiant lleol. Wedi cryn ddadleu, dywedodd Mr. W. H. Long, ar ran y Llywodraeth, os gwnai y Mesur basio y byddai yn anhawdd rhoddi deffiniad cywir o'r peirianwaith oedd i fod yn ddarostyng- i daliad trethi. Yr oedd y cwestiwn yn un dyrys ac anhawdd, ac os gwnai y Mesur basio Yr ail ddarlleniad, gwnai y Llywodraeth barotoi y cyfryw welliantau a ystyriant yn angenrheid- iol. Panymranodd y Ty, gwrthodwyd y gwelliant drwy 239 o bleidleisiau yn erbyn 87, a darllen- wyd y Mesur yr ail waith yn ddiwrthwynebiad.
LLANERFYL.
LLANERFYL. HKLYNT PRIODASOL.—Ddydd Sadwrn di- weddaf, yr oedd llanc ieuanc o blwyf Llan- llugan, a gweddw o'r plwyf hwn, wedi bwriadu ymuuo mewn glanbriodas yn ngliapel Penartli, Llanfair Caereinion, ond wedi cyraedd yno, er mawr siomedigaeth, aeallasant eu bod wedi dyfod yn rhy fuan; felly, nid oedd dim i'w wneyd ond troi tuag adref i aros am wythnos eto.-Erfyl.
BODEWRYD, MON.
BODEWRYD, MON. Mae yr eglwys fach brydferth hon newydd gael ei anrhegu gan yr Anrhydeddus Arglwydd Stanley, noddwr y fywoliaeth a bedvddfaen alabaster gerfiedig o'r fath harddaf. Nid oes terfyn o'r bron ar haelioni Arglwydd Stanley tuag at achosion Eglwysig yn yr ynys hon. Hefyd y mae boneddiges wedi rhoddi i'r eglwys uchod yn ddiweddar set o lieiniau Cymundeb prydferth o'i gwaith ei hun.
MALLWYD, MEIRIONYDD.
MALLWYD, MEIRIONYDD. CONFFIKMASIWX.—Ddydd Liu, yr 17eg cyfisol, cynlialiodd Esgob Bangor (y Dr. Campbell) ei m t, gonffilmasiwn yn yr eglwys uchod am y tro di- weddaf, yn ol pob tebygolrwydd dynol, pan y conffirmiwyd 37. Darllenwyd y gwasanaeth gan y Parch. '1'. Thomas, periglor, ac arweiniwyd y gan Mr. W. Evans, tra y chwareuai Miss A. Davies yr organ. Yr anthem ydoedd, Cofia yn awr dy Greawdwr" (J. H. Roberts), a'r emyn Cysegrwn flaenfErwyth dyddiau'n hoes.' Traddododd yr Esgob anerchiad addas ar bwys- igrwydd a difrifoldeb yr addewid yr ydoedd y rhai oedd i'w conttirmio ar fedr wneyd. Yr oedd yr eglwys yn liawn o wrandawyr astud a difrifol.
Y GYLLIDEB.
Y GYLLIDEB. Noson bwysig yn Nhy y Cyffredin oedd nos lau, pan ddygodd Canghellydd y Drysorgell ei GYllideb i fewn. Yr oedd llawer o ddyfaliadau Syda golwg ar yr hyn a fwriadai Mr. Goschen ^Qeyd a'r gweddill arianol yn ei god, ond Uwyddodd y Gyllidydd medrus i gadw y gyfrin- hyd noson y dadleniad mawr. Siaradodd *r- Goschen am dair awr, ac yr oedd yn nofio Yn hamddenol mewn moroedd o ffigyrau, yn ddigon i ddyrysu ymenydd dyn gwan." Pan gododd Mr. Goschen i wneyd ei fynegiad cyllidol, derbyniwyd ef gyda bloeddiadau ucbel 0 gymeradwyaeth o'r meinciau Undebol. Dy- Wedodd fod ganddo y boddhad mawr, unwaith Yn rliagor, o gyflwyno i'r Ty y fantolen genedl- .,Y aSthol i ddangos ei bod yn troi ar yr ochr oreu, a kyny i raddau mawr. Nid oedd unrhyw fyfelgyrchoedd costus neu fan ysgarmesoedd, 114C unrhyw ddigwyddiadau anarferol wedi cy- IJleryd lie i ychwanegu at dreuliau y wlad. Yr oedd yr amcan-gyfrifon wedi profi yn hynod ^y^ir. Amcan-gyfrif y treuliadau ydoedd— ^>,967,000 yr hyn a dalwyd allan gan y Y Trysorlys f,8,6,083,000, neu tll6,000 yn fwy r amcan-gyfrif. Aeth Mr. Goschen ymlaeu i ar amcan-gyfrifon y cyllid. Yr oedd y erbynia(jau yn fwy na'r amcan-gyfrifon o dros air nailiwn o bunau. (Uchel gymeradwyaeth.) ) PA FODD Y CAFWYD Y GWEDDILL. I Adgofiodd Mr. Goschen y Ty fod y wlad yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf wedi bod mewn 8fyllfa o Iwyddiant masnachol, ac mewn achos Or fath yr oedd bron bob amser ragolWg am ^yQydd cyllidol uwchlaw yr amcan-gyfrifon. M yr oedd perygl i Ganghellydd y Trysorlys °d yn rhy ffyddiog yn hyn. Yr oedd llwydd- lant gwirioneddol y flwyddyn ddiweddaf wedi cyiiyrchu cyhydd anarferol, ar rai ystyriaethau, J^ y cyllid. ond mewn rhai amgylchiadau yn yr oedd hyny wedi cymeryd lie. Dychrynid J ry pan ddment i dalu sylw i'r mater yn fanyl- aeh gan yr achos o'r cynydd rhyfeddol hwn yn eyllid. Yr oedd agos i ddwy filiwn a haner Ian o weddill o dair miliwn a chwarter yn hollol ddyledus i ddigwyddiad anghyffredinol. Yr 0:}tld y gweddill o ddwy flliwn a haner yn y ^jUid iV briodoli i ruthriad anarferol ary gwirf c°^oZ), ac i weithrediadau mewn arian, yr y11 na fwriedid pan gyflwynodd ei gyllideb y ftWYddyn ddiweddaf. 'Yr oedd y cynydd yn "hrellliiad gwirodydd alcoholaidd yn ystod y ^yddyn ddiweddaf o'i chydmaru a'r flwyddyn aenorol yn ychwanegiad o £ 1,800,000 at y tyllid. Yr oedd y eyllid oddiwrth wirodydd JP°ethion yn ystod yr un-flynedd-ar-ddeg di- f^e^daf ar leihad, ac am ddwy flynedd yn sefydl- i aphe buasai ef (Mr. Goschen) yn dweyd ""l'th y Ty y flwyddyn ddiweddaf ei fod o'r farn Y byddai y cyllid oddiwrth ddiodydd gwirfol yn Mod y flwyddyn yn fwy o £ 1,800,000 na'r ^yddyn flaehorol, edrychid arno fel gwallgof- neu athrodwr diottwyr y wlad. wWerthin.) Canfyddid fod y ffiygyrau hyn 11 ddyddorol pan wnelent eu dadgymalu. Y ^yfanswm o'r derbyniadau am bob math o bethau 1*eUliadwy, oddieithr gwirodydd poethion, gwin- ledd, a diodydd, a syrthiai yn fyr o'r amcan- ^rifon o yn agos C 112,000. Yr oedd y der- bynladau oddiwrth ddiodydd alcoholaidd yn cYtaedd y swm o 929,265,000, tra nad oedd yr y trnate ond 927,430,000. Yr oedd y doll ar gWrw- yn fwy na'r amcan-gyfrif o 9270,000 yr y oedd y duty ar wirodydd tramor yn fwy na'r ailleall-gyfrif o £421,000; yr oedd y doll ar ^irodydd cartref yn fwy na'r amcan-gyfrif o '010,000 a'r doll ar win yn fwy na'r amcan- ^yfrif o £ 120,000. Yr oedd y cynydd mewn Pob math o bethau yfadwy yn £ 1,800,000. Y RHUTHR AR SUGR-WIROD. 0 bob gwirodydd, rum oedd yn dangos mwyaf j^y&ydd j n ystod y flwyddyn, (Chwerthin.) y^edodd Mr. Goschen ei fod wedi gwneyd ^chwiliad manwl pwy oedd yn yfed rum, a'i "Wedi cael allan mai yn y trefydd arforol a'r ^fddinas yr yfld mwyaf o hono. Yr oedd y ^ytiydd yn ei dreuliad yn 12 y cant yn ystod y ^yddyn gyllidol. Yr oedd hyn yn fater trifol, a dylid mynu gwybod beth oedd yr <lc^os o'r cynydd rhyfeddol yma. ARTICLAU ERAILIJ. 1:r oedd lleihad o'i gydmaru a'r amcan-gyfrif 111en chicory, coffi, a cocoa o 9 17,500. Ffrwyth- j. ^ychion yn dangos cynydd o £ 49,000. eihad mewn te o £ 220,000 cynydd mewn myglyso £152,000, ac mewn gwin Y,120,000, 811 Syfanswm o £ 41.0,000. Yr oedd y cyfan- S^IQ y Tollau uwchlaw £ 20,000,000. Yr oedd y SW-Irl o £ 700,000 wedi ei ychwanegu at y S^eddill (surplus) drwy yr elw a wneid yn y athdy ar gylchrediad arian, a thrwy beidio iaid n^er ycluvaneS?1 0 r penadur- BETH A WNEIR A'R GWEDDILL. Mewn perthynas i'r Ddyled Wladol dywedodd Mr. Goschen fod lleihad o wyth miliwn wedi ei wneyd, neu gyfanswm yn y tair blynedd di- weddaf o dair-miliwn-ar-hugain; ac wedi gwneyd atncan-gyfrif o gyllid y flwyddyn ddyfodol fod ganddo mewn llaw weddill o f 3,549,000, o'r hwn swm yr oedd i gael ei wario 1:300,000 ar luestai milwrol; a 9100,000 i'r Gwirfoddolwyr. Wedi hyny yr oedd yn cynyg gostwng y llythyr-doll i'r India a'r Trefedigaethau i 2|c., yr hyn a 11 2 fyddai yn golled i'r Llywodraeth o X- 80,000. Mewn Perthynas i leihad trethi, yr oedd yn cynyg fod y doll ar egwyddor-weision (apprentices), hyny yw, ar yr agreement stamp, i gael ei gostwng i 2s. 6c., a diddymu y stamp chwe'cheiniog ar life insurance policies. Gwneid cyfnewidiad manteisiol hefyd i'r talwyr yn nhreth yr incwm. Diddymid y tollau ar lestri aur ac arian gostyngid dwy geiniog y pwys yn y doll ar de, ac ar ryfion (currants) o 7s. i 5s. y can'pwys. Tynid ymaith y tair ceiniog a osodwyd ar gwrw 'y flwyddyn ddiweddaf a chynygiai leihau y tollau ar siopau a thai a fyddai yn werth o C20 i X40 yn y flwyddyn o 6c. a 9c. yn y bunt i 3c. a 4c., ac ar rai a fyddai yn werth o f,40 i 960 i 4c. a 6c. Wedi gwneyd y cyfnewidiadau hyn, yr oedd ganddo yn ngweddill £ 233,000. Cynygiai roddi toll adnewyddol o Gc. y galwyn ar wirodydd tramor a chartrefol, ac ychwanegu y 3c. y galwyn a dynid oddiar y cwrw at y dreth ar wirodydd. Rhoddid y swm a gynyrchid drwy hyn yn flwydd-daliadau i heddgeidwaid oedranus a methedig yn Lloegr, Cymru, Ysgotland, a'r Iwerddon, yn ol yr un cyfartaledd a'r tollau deilliedig oddiwrth brofiad ewyllysiau, at ffurfio cronfa i brynu i fyny dafarndai drwy ganiatau ad-daliad, a thuag at gynorthwyo cronfeydd y Cynghorau Sirol. Dygid Mesur i mewn i atal yr ynadon i ganiatau trwyddedau i dafarnau, oddieithr mewn achosion eithriadol, hyd nes y cymerent i fyny y cwestiwn trwyddedol yn gyffredinol. Wedi i Mr. Courtney rhoddi penderfyniad y Gyllideb yn ffafriol o'r gadair, Dywedodd Syr William Harcourt nad oedd ef yn credu y datganiad a wnaed gan Brif Arglwydd y Morlys mewn perthynas a'r Gyllideb, yr hyn oedd wedi ddarllen yn y newyddiaduron y boreu hwnw, i'r perwyl fod y cynydd yn y cyllid yn ddyledus i'r Weinydd- iaeth Geidwadol. Yr oedd mynegiad Canghell- ydd y Trysorlys yn dangos fod sefyllfa gyllidol y wlad, nid yn unig yn dda, ond mewn cyflwr o ddadblygiad, o ganlyniad, yr oedd yn rhaid iddynt beidio, mewn amseroedd o ddirwasgiad, gwrando pob math d feddyginiaethau cwacydd- 01 am yr hyn yr oeddynt wedi clywed cymaint ychydig flynyddau yn ol—megis masnach deg. (Chwerthin.) Er gwaethaf rhydd-fasnachaeth yr oeddynt yn gweled fod y dirwasgiad wedi diflanu. Dywedid wrthynt fod y tramorwr yn eu curo yn y farchnad. (Mr. Howard Vincent Ydyw.") Wel, yr oedd yr aelod dros Sheffield yn coleddu y dyb hono. Yr oedd y cynyrch cynyddol oddiwrth dreth yr incwm yn f oddhaol, fel dangosiad o gyfoeth cynyddol y wlad, a gellid casglu oddiwrth hyny fod ein cyfundrefn gyllidol, drafnidol, ac arianol ar sail gadarn. Gallasai Canghellydd y Trysorlys fyned yn mhellach yn ngostyngiad y dreth ar dai anedd, ac yr oedd yn rhaid iddo ef (Syr William Harcourt) gael amser i ystyried yr anghyfar- taledd mewn perthynas i dai o ardreth uwch. Yr oedd yn edrych ar y gostyngiad yn y doll ar de fel cychwyniad da, a disgwyliai am ostyng- iad pellach ar de a ffrwythydd. Mewn peith- ynas i'r doll ychwanegol ar wirodydd, dywedodd fod y Llywodraeth yn 1885 wedi ei throi o swydd am drethu gwirodydd Prydeinig a pheidio trethu gwin tramor. Adgofiodd y Ty hefyd am ymrwymiad y Prif Weinidog i gyn- orthwyo addysg pan ganiatai y weddilleb (surplus), ac yr oedd yn syn ganddo na fuasai Canghellydd y Trysorlys wedi cyfeiiio at hyny. Wedi i amryw aelodau siarad o blaid ac yn erbyn cynygion y Gyllideb, Atebodd Mr. Goschen yr holl wrth-ddadleuon mewn modd byr a chynwysfawr. Dywedodd nad oedd sylwadau yr aelod dros Derby (Syr William Harcourt) yn warantedig mewn perth- ynas i'r pwnc o addysg, a gallai ddweyd wrtho ei fod ef (Mr. Goschen) yn barod i fyned allan o'i Rordd i gynorthwyo addysg can belled ag, yr oedd hyny yn bosibl. (Cymeradwyaeth.) Yr oedd addysg gynorthwyedig yn ymddibynu i raddau helaeth ar y cwestiwn o arian. Yn gynar yn y Senedd-dymor yr oedd arweinydd y Ty wedi hysbysu fod y Llywodraeth yn cadw yn ol hyd y sesiwn nesaf y cwestiwn o addysg elfenol. Nid cwestiwn o arian yn unig ydoedd, ond yr oedd yn ofynol iddynt i ystyried y pwys- igrwydd mawr ynglyn a'r amodau dan ba rai yr oedd yr arian i gael ei roddi a gallai y byddai ad-drefniad cyffredinol o'r cynllun addysg pre- senol an angenrheidiol. Nid oedd y Llywodr- aeth yn bwriadu oedi y cwestiwn o addysg gynorthwyedig hyd ar ol yr etholiad cyffredinol. (Gymeradwyaeth.) Yr oedd yn ymddangos yn ol pob arwyddion y syrthiai i ran y Llywodraeth bresenol i ymwneyd a'r cwestiwn. Yr oedd y Llywodraeth wedi ymrwymo i ymwneyd a'r cwestiwn o addysg gynorthwyedig. (Banllefau o gymeradwyaeth.) Wedi i Mr. Goschen sylwi ar wrth-ddadleuon eraill, Cydunwyd ar y penderfyniad ffurflol i ychwanegu y tollau ar wirodydd, ond gohiriwyd y rhai oedd yn dal perthynas a the, y stamp- dollau, a'r doll ar dai i adeg ddyfodol. Y GYFUNDREFN DDAU-FETELAIDD. Beth yw y Cymraeg am bi-metallism ? Caf- wyd dadl faith ar y mater yn Nhy y Cyffredin nos Wener, ond wedi darllen yr areithiau yn fanwl, drosodd a throsodd, nid gorchwyl hawdd yw rhoddi deffiniad dealladwy o bi-metallism. Yr oedd yr holl siaradwyr yn cymeryd yn ganiataol fod pawb yn gwybod beth, a olygid wrth y term dyrys hwn. Can belled ag yr ydym yn deall y cwestiwn, yr amcan mewn golwg ydyw—cyfartalu gwerth arian ac aur, er gwneyd hyn a hyn o ounces o arian yn gyf- artal o ran gwerth i un ounce o aur, a thrwy hyny. sefydlu un standard of value. Cynygiodd Mr. Samuel Smith benderfyniad i'r perwyl mai y dull mwyaf effeitliiol i ym- wneyd a'r drygau a achlysurid gan yr anghyfar- talwch yn iigwertli perthynasol arian ac aur fyddai galw ynghyd gynhadledd o brif genhedl- oedd trafnidiol y byd i ystyried y dymunoldeb o ad-sefydlu y gyfundrefn ddau-fetelaidd drwy gydsyniad cyd-genedlaethol. Dywedodd fod 140 o ddeisebau wedi eu cyflwyno yn ffafr y mudiad. Addexodd nas gallai y gyfraith sefydlu gwerth arian wrth eu cyfnewid, ond gallai ben- derfynu y cyfartaledd rhwng y ddau. Y wlad hon oedd yn dwyn ymlaen y rhan fwyaf o fas- nach a'r gwledydd oedd yn defnyddio arian, sef yr India, China, Japan, a'r Taleitliiau Deheuol o America, lie yr oedd arian mewn arferiad. Yr oedd y bobl yn y gwledydd hyn yn rhifo 900 o filiynau, y rhai oeddynt yn anfon i Loegr am ein nwyddau llaw-weithfaol. Buasai y gyfun- drefn ddau-fetelaidd wedi ei hadsefydlu er's blynyddau pe b'ai Lloegr yn uuo a Ffrainc a'r Unol Daleitliiau. Yr oedd y Ddirprwyaeth Frenhinol ar y mater, hyd yn nod yr aelodau oedd yn gwrthwynebu y cynllun, yn addef y posibilrwydd i sefydlu eyf artalwel-i yn ngwerth arian. Eiliwyd y cynygiad gan Syr W. Houldsworth, yr hwn a ddadleuai mai yr hyn oedd yn angen- rheidiol ydoedd sefydlogrwydd yn y standard oj value. Barnai Mr. W. H. Smith y buasai cario allan y cynUun cynygiedig yn ddinystriol i fudclianau y wlad hon. Nid oedd ef yn credu yr haeriad a wnaed fod uwyddau Prydeinig yn wrthodedig yn yr India. Yr oedd yn ystyried y cynygiad gerbron y Tv yn un peryglus, ac yn un nad oedd yn cael ei ategu gan ffeithiau. Gwrthwynebwyd y cynygiad gan Syr William Harcourt, yr hwn a brotestiai yn erbyn gwneyd ein cyfundrefn drafnidiol yn ymddibynol ar gydsyniad cyd-genedlaethol. Cefnogwyd y cynygiad gan Mr. A. J. Balfour, yr hwn a ddadleuai mai yr hyn oedd yn angen- rheidiol ydoedd arian na fyddai yn agored i godi na gostwng yn ei werth. Nid oedd ef yn hoffi yr un o'r ddau, ond byddai yn well ganddo y blaenaf (chwerthin). Nid oedd Mr. Goschen yn barnu y byddai cynhadledd gyd-genedlaethol yn debyg i arwain i unrhyw ganlyniad ymarferol. Mewn amser o ryfel yr oedd pob gw]ad yn ymorchestu am aur; ac, o ganlyuiad, ni wnai eu cydsyniadbar- liau ond hyd nes y torai rliyfel allan. Ar y cyfan, ei gred oedd y byddai yn well iddynt bleidleisio yn erbyn cynygiad Mr. Samuel Smith. Wedi i Syr John Lubbock ddweyd gair mewn gwrthwynebiad i'r cynygiad, ymranodd y Ty arno .— Dros gynygiad Mr. S. Smith 87 Yn erbyn 183 Mwyafrif 93 Gohiriwyd y pwyllgor hyd ddydd Llun.
Cenhadaeth Eglwysig y Cymry…
Cenhadaeth Eglwysig y Cymry y81 Llundain. Pan yr ysgrifenais yr hanesyn diweddaf i chwi, hysbysais y pryd hwnw fod rhag- olygon y Genhadaeth yn dda a disglaer, yn gyfryw fel yr hiraethem, un ac oil, am wawriad y Sul cyntaf yn mis Mawrtli, Dyma ddydd pwysig yn hanes y genhad- aeth hon, oherwydd ar y dydd hwn y dechreuai y Parch. J. Crowle Ellis ei offeiriadaeth fel Caplan i'r Cymry Eglwysig yn y West of London. Am yn agos i bum' mlynedd mae y genhadaeth hon wedi cael ei dwyn ymlaen gan leyg- wyr, ond yn awr gall ymffrostio yn ei Chaplan, wedi ei drwyddedu gan Esgob Llundain yn uniongyrchol i wasanaethu ynddi. Gwnaeth y Cyngor Eglwysig y mater o ddewisiad offeiriad da a chymwys yn destyn gweddi, ar i Dduw anfon i ni was cymwys i gymeryd yr helm, a chyda cliymeradwyaetliau uchel a da y penod- wyd Mr. Ellis i'r swydd bwysig hon ac inaevyn ddywenydd i bawb sylwi na fu eu gweddiau yn ofer, oblegid teimlad pawb ydyw nad oedd bosibl cael dyn cymhwyiiacli. Yn awr, ar ol cael Caplan mor all nog, ac Eglwyswr mor selog a thrwyadl, yr ydym yn tori tir newydd, drwy chwyddo nifer y gwasanaethau, &c. Heblaw y gwasanaethau boreuol a phrydnawnol, mae genym yn awr wasanaeth a phregeth bob nos Iau. Ie, mwy na hyn, mae breintiau mawr yr Eglwys bellach yn cael eu dodi o flaen pob aelod yn ami a rheol- aidd. Ceir tri o wasanaetliau y Cymun Bendigaid ar y prif wyliau, hefyd unwaith ar y Sul laf, yr 2il, a'r 4ydd o'r mis. Ceir gwasanaeth y Bedydd Sanctaidd a Diolchgarwch Gwragedd am 4.15, ar ol yr Ysgol Sul, neu yn ystod, neu ar ol un- rhyw wasanaeth. Sul y Pasg oedd y brif-wyl gyntaf i Mr. Ellis fod yn ein plith, a chafwyd, yn ol y rheol uchod, dri Gwasanaeth Cymun, pryd y gwelwyd 43 o aelodau y genhad- aeth yn cymeryd o'r Sacrament, 12 o ba rai a ddaethant i'r gwasanaeth cyntaf am wyth yn y boreu. Dyma gam pwysig iawn a haedda ei gyhoeddi yn bell ac yn agos, gan ei fod yn dangos zel ac ymlyn- iad aelodau y genhadaeth wrth egwyddor- ion a rheolau ein hen. Eglwys anwyl. Cawsom wasanaetliau corawl, llawn a bywiog y Sul hwn. Gwnaeth y cor ei ran yn dda drwy ganu antheinau, &e. Ac yr ,oedd Mr. Ellis yn ei hwyliau goreu yn traethu i'w gynulleidfaoedd llawn ar bwnc mawr y clydd-sef adgyfodiad ein Hiachawdwr Crist. Ddydd Llun y Pasg cafwyd gwibdaith flynyddol y genhadaeth. Eleni awd i Moor Park, Rickmansworth, drwy gared- igrwydd Arglwydd Ebury. Llafuriodd Mr. Rees yn fawr, a haedda glod yr holl aelodau. Daeth tua 95 yngliyd, a chaf- wyd diwrnod difyrus. Yr ydym yn awr wedi agor cangen o Gymdeithas Ddirwestol Eglwys Loegrln perthyn i'r genhadaeth. Y llywydd ydyw y Caplan, a Mr. Rees yn ysgrifenydd. Cynhaliwyd y cwrdd cyntaf nos Sadwrn diweddaf, a da oedd gweled cynifer yno. Ar ol canu emyn a gweddio, cafwyd caneuon gan Mri. Thorman (Twrog), J., Pierce;' a J. E. Da vies, ynghyd a deuawcl ar y berdoneg gan y Misses Davies. Tra- ddododd Mr. W. T. Williams araith dda ac addysgiadol iawn ar ddirwest; ac ar derfyn y ewrdd, da oedd gweled cynifer yn ymrestru yn y naill gangen neu'r llall o'r gymdeithas. Llwydd i'r gwaith da meddaf fi Ofnaf fod rhyw gamsyniad wedi cy- meryd lie ynghylch y modd y trefnir cyflog y Caplan. Meddylia rhai fod cyflog y Caplan yn cael ei dalu fel pob offeiriad arall, drwy ryw gronfa, &c., ond dyma y ffeithiau, sef bod angen arnom yn fiyn- yddol am £ 250 i gario y gwaith ymlaen. Addawa y gynulleidfa £100 y flwyddyn rhyngddynt, felly yn gadael £150, ac yr ydym yn dibynu am ei gael gan gyfeillion yr Eglwys. Felly, gwelir nad oes llaesu dwylaw i fod, ond fod yn rhaid ymroddi i'r gwaith er mwyn cyfarfod y gofynion. Cyfeillion yr Eglwys yn Ngwalia Wen, estynwch law o gynorthwy i'r genhad- aeth fywiog hon, trwy roddi un casgliad un Sul ymhob blwyddyn tuag ati, neu anfoner unrhyw swni i'r Caplan, Parch. J. Crowle Ellis, 30, Lanhill Road, St. Peter's Park, W., neu ynte at y warden neu yr ysgrifenydd- Mr. J. Edward Davis, 24, Rodney Terrace, Putney, S.W. -Cl,ivydict,il,.
Llith o Lerpwl.
Llith o Lerpwl. (GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG). DYDD GWYL Y FRIALLEN. Dathlwyd nawfed cylchwyl flynyddol marwolaeth Arglwydd Beaconstield yn Lerpwl gyda mwy o frwdfrydedd a llwyddiant nag erioed. Yr oedd y tywydd dymunol, a'i digwyddiad ar ddydd Sadwrn, yn ychwanegiad dirfawr at Iwyddiant y gweithrediadau. Mae Gwyl y Friallen erbyn hyn wedi d'od yn sefydl- iad cenedlaethol, ac yn debyg o ddyfod, mewn amser, yn ddydd gwyl cyffredinol. Meddylddrych dedwydd oedd cyfuno enwa choffadwriaeth yr hen wladwein- ydd anfarwol a'r blodeuyn bychan cynar hwn. Er fod yn awr naw mlynedd wedi myned heibio er pan syrthiodd un o'r gwladweinwyr enwocaf a'r gwladgarwyr mwyaf diledryw a fu yn llywio ffawdiau yr Ymerodraeth Brydeinig mewn un oes, mae ei goffadwriaeth heddyw mor wyrdd a'r blodeuyn prydferth sydd yn addurno ei enw. 'Does dim yn debyg i amser i ddangos gwerth gwir rinwedd hen brisiwr (valuer) digymar ydyw. Nid rhyw arian ffugiol yn y byd gwleidyddol oedd Arglwydd Beaconsfield, ond aur pur a digymysg. Nid aur yw pob peth sydd yn disgleirio." Perygl mawr yr oes yma ydw cael ei dallu gan ddisgleirdeb ffugiol counterfeits o hen fathdy twyll a chel- wydd. Rhaid rhoddi y wlad ar ei gochel- iad ni fu erioed gymaint o'r counterfeits politicaidd yma mewn cylchrediad. "Nid gwaetli aur o'i brofi." Mae amser yn sicr o olchi ymaith y wisg dwyllodrus-y broffes deg a'r addewidion goreuredig- nad oes un gobaith am eu eyfiawni-a wneir gan y Counterfeit Ardderchog o Benarlag a'r man ffyrlingod Radicalaidd lliwiedig sydd yn hud-ddenu plantos bwhwmanllyd yr oes wamal ac arwynebol hon. Mae Cyngrair y Friallen erbyn hyn yn rhifo dros flaw can' mil o aelodau- cynydd ar gyfartaledd o gan' mil yn flyn- yddol—ac ar Wyl y Friallen nesaf ni fydd y rhif yn fyr, yn ol pob tebygolrwydd, o filiwn. Yr oedd gan aelodau y Primrose League eleni reswm neillduol dros ddathlu eu cyleffuyl lfvii-vddol. Ymun- odd dros chive' mil a'r Cyngrair yn yr Alban yr wythnos cyn y ddiweddaf. Bwriada y Grand Council ffurfio canghen- au lleol ymhob rhan o'r wlad, a cheir gweled rhwydwaith o honynt yn union deg o John O'Groats i Ben tir Lloegr, ac o Gaergybi i Gaerdydd. Nid oes ddadl nac amheuaeth nad yw Rhwygwyr yr Ymerodraeth yn eiddigeddus o Iwyddiant digymar y mudiad cenedlaethol hwn. Dywedai y Daily News ei fod yn ddigon boddlon i'r Ceidwadwyr gael y dydd (rhyddfrydol iawn, onide ?), ond ei fod yn grwgnach (grudge) iddynt y blodeuyn. Cyffesiad gonest, ac hyderwn y gwna les i'w galon. Gwisgid y friallen yn gyffredinol yn y ddinas. Yr oedd llwythi troliau o friallu yn y marchnadoedd, ac ni fu erioed y fath alwad am y blodeuyn prydferth ond I y diymhongar hwn. Mae pobl y wlad yn gwneyd elw o hono-cliosgallt y twyni, y cloddiau, y dolydd, y dyfr-ffosydd, a'r cilfaehau mwyaf neillduedig o'u blagur melynwawr; ac yr oedd plant, ac eraill, yn ei werthu yn yr heolydd. Yr oedd cofgolofn Arglwydd Beaconsfield, fel arferol, wedi ei haddurno yn y modd prydferthaf a phleth-dorchau ardderchog o friallu, ac arnynt yr arwyddeiriau- Honour him whom England honours," Peace with honour," &c. Anfonwyd coron-bleth brydferth dros ben i'r Gym- deithas Gvfansoddiadol gan Mr. a Mrs. Lewis Andrew, Glan Hafren, Abermale, Maldwyn. Ond digwyddiad mwyaf nod- edig y dydd ydoedd YR ARDDANGOSIAD MAWR YN YR HWYR, o flaen Neuadd St. Sior. Yr oedd mil- oedd lawer yn bresenol, ac yr oedd y brwdfrydedd yn angherddol. Cymerwyd y gadair gan y Cynghorwr John Houlding, 17, tni yr hwn a ddywedodd eu bod wedi cyfar- fod dan gysgod colofn Arglwydd Beaconsfield i dalu gwarogaeth i'r gwlad- weinydd mwyaf a welodd Lloegr erioed, neu un o'r cyfryw. Yr oedd wedi cysegru ei holl fywyd i'w wlad, ac i ffurfio plaid wleiclydclol a amddiffynai yr Ymerodraeth Brydeinig rhag pob perygl; ac yr oedd wedi gwneyd y blaid Geid- wadol y blaid gryfaf yn y wlad, am ei bod yn gyfansoddedig o ddynion wedi uno a'u gilydd i amddiffyn eu hiawn- derau a'u buddianau cenedlaethol, a chynal yn ddldor yr Ymerodraeth ogon- eddus dros derfynau yr hon nid oedd yr haul byth yn machludo. Anerchwyd y cyfariod gan amryw foneddigion eraill, a phasiwyd yn unfrydol bleidlais o yin- ddiried yn y Llywodraeth. Felly y ter- fynodd y gweithrediadau cyhoeddus ynglyn a, choffadwriaeth un y gellir dweyd am dano yn ngeiriau y bardd Seisnig:— i And when he dies he leaves a noble name, A light, a landmark on the cliffs of fame.
[No title]
Y mae yna awrlais yn Rouen ynFfrainc sydd yn rliedeg am bedair blynedd ar ddeg heb ei weindio. Y sawl a fedda fwy o wybodaeth na barn, a wnawd er defnydd i ddyn arall yn fwy nag iddo ei hue. Na adewch eich plant i arferyd liyfdra dros eich gwasanaethyddion, ac na oddefweh i'ch gwasanaetliyddion fychanu eicli-plant.
Ysgol Llanover.
Ysgol Llanover. ARHOLIAD EBRILL 17EG, 1890. Cynaliwyd yr arholiad ar ddydd Iau, Ebrill 17eg, 1890, pan yr oedd yn bre- senol yr Hybarch xArchddiacon Howel, a'r Parchedigiyn E. Bevan, B. Williams (Gwynionydd), John Prys, a'r Canon Evans. Yr oedd GO o blant yn bresenol, a phob peth yn gwbl drefnus. Yr oedd y plant yn yr ysgol yn brydlon, ac yn edrych yn brydferth iawn, o ran eu gwisgoedcl a'u hymddangosiad. Dech- reuwyd trwy ganu emyn o ganeuon Cymraeg, a chanwyd gyda bias, a chwaeth, a theimlad. Y mae yn amlwg fod cryn lawer o drafferth yn cael ei gymeryd gyda dvsgu canu i'r plant. Dechreuwyd yr arholiad gyda darllen a sillebu. Cy- merodd yr Archddiacon y dosbarth blaenaf, yr ail ddosbarth gan y Parch. B. Williams, a'r trydydd dosbarth gan y Parch. E. Bevan. Cariwyd allan y gwaith gyda manylrwydd a gofal, a chafwyd 11 wyr fodcilonrwydd yn y pedwar dos- barth. Y mae yn ddiau fod gwaith yr ysgol yn cael ei ddwyn yn mlaen yn llafurus a threfnus, a bod yr athrawes yn deilwng o glod a diolchgarwch am ei hymdrechion. Anerchwyd y plant gan y gweinidogion, a gwasgwyd arnynt y pwys o chwareu yn Gymraeg, cyfarch pobl yn Gymraeg, a siarad Cymraeg gartref. Y mae yn wir hyfrydwch i bob ewyllysiwr da i Gymru, Cymro, a Chymraeg, weled gwrtaith yn yr hen iaith yn cael ei ddwyn o fewn cyrhaedd y genedlaeth sydd yn codi, a bod y plant yn ym- ddangos fel yn cymeryd pleser mewn bod yn gynefin a iaith eu gwlad. Taled yr Arglwydd ar y ganfed i Arglwyddes Llanover am ei chenedlgarwch a'i hym- roddiad diflino i gadw yn fyw ysbryd gwladgarol yn mhlith ei chydgenedl, a bod iddi hir oes i wneuthur hyny.
LLANEGWAD.
LLANEGWAD. Da genyf hysbysu fed ein parehus Ficer a'i wraig, sef Mr. a Mrs. Thomas, wedi cynal Church History and Bible Classes i fecligyn a merched ieuainc y lie uchod yn ystod y gauaf a aetli heibio, fel y byddeut yn arfer gwneyd. Pe 4ilyiiicl eu liesiumpl gan ragor o oxTeiriaid, credwyf na fyddai cymaint o son am ddad- gysylltiad yr Eglwys. Cynelid y cyfarfodydd hyn bob nos Iau. Yr oedd tua pliump ar hugain o fechgyn a thuag ugain o ferched yn en mynychu. Ddydd Iau, y 27ain o Fawrth, gwahoddodd y Ficer yr aelodau i'r ficerdy i de, a threuliodd tua deugain ohonynt brydnawn plescrus yno. Cymerwyd hwy i'r drawing ■^oom i dreiilio un rhan o'r prydnawn inewti canu. Diolchwyd yn wresog i Mr. a Mrs. Thomas am eu caredigrwydd.-B. O. D.
HAFOD, YSTRAD MEURIG.
HAFOD, YSTRAD MEURIG. Cynhaliwyd cyfarfod eystadleuol yn y lie uchod nos Lun, Ebrjll 7fed, o dan lywyddiaeth y Dr. Morgan, Pontrhydygroes. Y beirniaid oed(lyiit:-Cerddoriaotli, Mr. Jenkins, C.M., Cwmystwyth rhyddiaeth, y Parch. W. Jones Williams, Llanafan barddoniaeth, y Parch. T. Bran ant Evans, Llangurig. Gwobrwywyd y buddugwyr ar y gwalianol destynau fel y can- lyn :—Unawd, Y Milwr Bach rhanwyd y wobr rhwng Gladstone a Silfanus, Llanafan. Adrodd Credo'r Apostolion, John Thomas, Eg- lwys Newydd; unawd, Lloer dirion, lliw'r dydd,' John Ishmael, Ysbytty Ystwylli; gofyn- iadau ar Hanes Elias,' Daniel Jones, Eglwys Newydd unawd, Cryd gwag fy mhlentyn yw,' Miss Herbert, Ysbytty Ystwyth; unawd, Mor- daith bywyd, rhanwyd y wobr rhwng Mary Jenkins, Pontrhydygroes, a Blodwen, Llanafan deuawd, Y Ddau Forwr,' rhanwyd y wobr rhwng John Ishmael a'i gyfaill a Dewi Mynacli a'igyfaill; Llytliyr plealyn oddicarfcref at ei riem,' T. L. Oliver, Pendre; Y pedwar penill goreu i Gloc yr Hafod,' Brython; adrodd y Dag Gorchyniyu, Boangers, Llanafan; ail. J. H. Oliver, Eglwys Newydd wythawd, Dydd- iau liyfrvd,' Dewi Mynacli a'i barti traethawd, GweinidogJeth gyhoeddus Cr:st,' Thos. Lewis, -1 y Ilhosygell; dadganu Ty ar y graig gan gor o blant, Cor y Goedwig, dan arweiniad Mr. D. Messer, Ysbytty Ystwytli darllen difyfvr, Silfanus, Llanafan. Cafwyd cyfarfod llwydd- ianus iawn ymhob ystyr.
CAERDYDD.
CAERDYDD. YR EGLWYS GYMRAKG.—Ddydd Sul, yr 20fed cyfisol, talodd y Tra Pharchedig Ddeon Owen, Llanelwy, ymweliad a Cliiierdydd. Yr oedd yn pregethu foreu a hwyr yn eglwys St. Andreas, lie yr oedd casgliadau tuag at yr eglwys Gymraeg yn y dref yn cael eu gwneyd. Am dri yn y prydnawn, bu'r Deon mor garedig a phregethu yn Gymraeg yn eglwys yr Holl Saint. Yr oedd yn bleser calon genym weled cynifer o'n eyd- wladwyr yno yn ei wrando, er fod yr awr yn un dra angliyfleus. Pregethodd oddiar y geiriau- Simon, a wyt ti yn fy ngharu i." Siaradodd yn llithrig, blasus, a hynod o ymarferol, a chafodd sylw manylaf ei wrandawyr. Darllen- wyd y gwasanaeth talfyredig gan y Parch. Henry Morgan, f B.A., eurad, a'r llith gan y j Proffeswr G. H. Jones, M.A. (gyda'r hwn yr oedd y Deon yn lletya). Chwareuwyd gan organyddes yr eglwys Gymraeg, sef Miss Annie Williams. Wrth fyned heibio, da genym hysbysu dar- llenwyr Y LLAX y bydd eglwys newydd, hardd, ac eang i Gymrv Caerdydd yn cael ei chychwyn ar unwaith, Y mae yr eglwys hon, yn ddiameu, yn feddylddrych blaenaf yr archadeiladydd llwyddianus ac adnabyddus, Air. Bruce Vaughan. Costia'r rhan gyntaf o'r cytundeb dros bedair mil o bunan. Hyderwn y gwna Brenin Seion noddi, a phlant Eglwys Cymru gynorthwyo ein Hesgob gwladgarol a'r Parch. Andrew E. H. Hyslop, y ficer, yn eu gwaith clodwiw hwn.—Oilaswg.
LLANDEBIE.
LLANDEBIE. CYFARFOD CLERIGWYR. Brydnawn dydd Gwener, Ebrill I leg, cyfarfyddodd yr offeiriaid canlynol:-Parchn. D. Davies, Llandebie R. Roberts, Ammanford; E. Lloyd, Bettws; D. Griffiths, Cwmaman, a J. M. Jones, 13ryn- aman, yn Ammanford, i ymholi ynghlch cael Festival y plant. Yr oedd pob un yn cydwded y dylid ffurfio undeb o'r plwyfi uchod. Y Parch. D. Davies ydyw yr ysgrifenydd trysorydd, y Parch. D. Griffiths. Cynlielir y Festival gyntt-f ,y yn eglwys Llandebie ddydd Llun y Sulgwvn nesaf, am 12.30 (haner dydd), ac yn yr eglwysi eraill y blynyddau dyfodol. Intoner, Parch. D. Davies, Llandebie; holwr, Parch. D. Griffith, Cwmaman arweinydd, y Parch. R. Roberts, Ammanford. Bydd holl blant y gwalianol eg- lwysi yn dysgu ac yn canu yr un pethau gan hyny, ni bydd cystadleuaeth o gwbl rhwng y gwahanol eglwysi.—Cyfaill plant.
RHYL.
RHYL. CLADDEDIGAETH MR. BERXABD PARRY, CORN MERCHANT.— Cymerodd hyn Ie ddydd Iau cyn y diweddaf yn Newmarket. Gwasanaetliwyd wrth y ty gan y Parch. R. Owen, Khyl, ac yn yr eglwys ac ar lan y bedd gan y Parchn. Jones, Llysfaen, a Davies, Newmarket. Yr oedd Mr. Parry yn aelod ffyddlon, ac yn un o olyg- wyr Eglwys y Drindod. Mawr yw'r gofid a'r galaru Sycld i'w ganfod yn ein tref Collwyd brawd a chyfaill anwyl, Sydd yn awr yn nheyrnas nef Nid oedd undyn yn ffvddlonach Yri yr eglwys ar y llawr Na'r brawd anwyl Bernard Parry, Mae ei golli'n golled fawr. Gwnaeth ei oreu yn ei fywyd I gael achos Duw i'r Ian; Byw yr ydoedd egwyddorion Pur ei grefydd yn mhob man Y mae galar dwys y teulu, A adawodd ar y llawr, Ar adegau bron a'u llethu, Gwlybion yw eu gruddiau'n awr. Ni cheir mwy ei bresenoldeb Gyda ni yn Eglwys Dchnv Y mae gyda Duw ei hunan, Gyda thelyn euraidd wiw Ni chawn ni ei fwyn gyfeillach Yma ar y ddaear mwy; Cefnodd ar ofidiau'r ddaear, Aeth o gyraedd poen a chlwy'. Yn dra sydyn, daeth y gonad Oddiwrth ei Dad i'w not Cludodd ef i wlad y gwynfyd Yrn ofalus yn ei gol Du alarwisg wisga'r teulu, Ond mae ef yn gwisgo gwyn Tra maent hwy yn trist alaru, Cana ef ar Seion fryn. —Ah Trebor.
LLANLLECHID.
LLANLLECHID. Cynhaliwyd cyfarfodydd llenyddol yr Eglwys yn y lie uchod ar nosweithiau Gwener a Sadwrn, y 18fed a'r 19eg cyfisol, yn Ysgoldy Genedlaethol Piachub. Am saith o'r glocli, nos Wener, cymerwyd y gadair gan y iJarch. E. Davies, rheithor, ac arweiniwyd yn fedrus gan Mr. John Williams, Penlan. Tref 11 y rliaglen oedd fel y canlyii:—Wedi cael tun gyilrcoinol, I'r Arglwydd conwel-i lafar glod.' Ancrchiad ymarferol a phwrpasol gan y lly wydd. Cystadl- euaeth adrodd imyn u 435, i rai. dan 9 oed— goreu, H. J. Williams: ail < r Mag.ie Thomas. Can gan Mr. W. J. WIUiam?,, yn wir dda. Beimiadaefch ary Dictatioji S«ie'"o-g, saith yn ymgeisio-laf, T. 0. Pic roe 2il. D. 1L Thomas 3ydd. W. Parry; 4ydd, J. Morgan. Beirniadaeth Tori a thacio Fi-ocl- nn ymgcis- ydd ddaeth, a dyfarnwyd y wobr i Jviiss M. Thomas. Beirniadaeth y traethawd. Gwerth Gwybodaeth,' un yn ymgeisio, a dyfarnwyd yr ail wobr i Air. Joseph Jones. Cystadleuaeth ar ddatganu Holy Church,' i rai o clan 12 oed, wyth yn ymgeisio—dyfarnwyd y wobr gyntaf i M. Roberts; ail-oreu, Mr. \villiams M. E. Parry: 4ydd, M. Williams. Cystadleuaeth adrodd Daeth yr awr,' dYiV yn ymgeisio— goreu M. Williams ail-oreu, S. K. iioborts. Beirniadaeth y 'Sketch Map o Sir G -a, i!ii,rfoii,' dau ymgeisydd-goreu, D. R. Thomas ail- oreu, T. O. Pierce. Can gan Mrs, Roberts (Sophia). Cystadleuaeth adrodd Y Dyled- swyddau,' pedwar yn ymgeisio—goreu, M. Pierce ail-oreu, R. G. Roberts Sydd, T. O. Pierce 4ydd, M. Williams. y Dictation Cymraeg, wyth yn ymgciio-goreu, Miss A. Roberts ail-oreu, D. R Thomas ovdd, E. 0, Pierce 4ydd, J. Jones. Cystadleuaeth dadganu Yr eceth dlawd amddifad,' tair yn ymgeisio—goreu o ddi-011, Miss A. Roberts. Beirniadaeth ateb gofyniadau syml ar Bamadcg Cymraeg, tri yn ymgeisio-laf, T. O. Pierce 2il, H. Owens Uydd, J. Jones. Cyst::dleuaet.h, rhan o'r wythfed benocl o Lyfr Lliarhebion, pump yn ym,,elsio-gorou, J. Morgan: 2x1,11. G. Roberts Sydd, W. Parry 4ycld, S. E. Roberts. Beirniadaeth Golchi a starchio coler,' pump yn ymgeisio—Misses M. E. Thomas a E. Thomas yn gyfartal ail-orou, Mrs. C. Davies 3ydd, E. A. Owens. Cystadl- euaeth adrodd 1 Sioncyn Gwair,' naw yn ym- geisio—-goreu, H. J. Williams 2il, S. J. Kvans 3ydd, E. Evans; 4ydd, M. Pierce. Beirniad- aeth. Nodweddion y merched y sonir am danynt yn Llyfr yr I-o,en, Mrs. E. Williams: Misses C. Thomas ac A. Roberto yn gyfartal. Cystadleuaeth, i bedwar o blant (I t, i i ,,y 15 oed, yn cael eu cynorihwyo gan un tenor ac un bass, 'Dewrion filwyr Iesu,' tri pharti ddaeth ymlaen i ymgeisio, sef Mr. Llewelyn a'i barti Mr. J. Widiams a'i barti ac O. Owens a'i barti —dyfarnwyd y wobr yn gyfartal i'r ddau barti olaf a ganodd, sef Mr. J. Williams (Llew Mynyddig) a'i barti ac O. Owens a'i barti. Beirniadaeth ar y pedwar penill i'r 'Eryr'—nid oedd y penillion yn werth i roddi beirniadaeth arnynt. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu Duw gadwo'r Frenhines.' Cyfarfod nos Sadwrn. Yr cedd yr ysgoldy eang yn orlawn yrnliell cyn amser dceiireu, a dechreuwyd yn brydlon am chwech o'r gloch. Llywyddwyd y cyfarfod gan yr Anrhydeddus Filwriad \Vest, a chafwyd sylwadau pwrpasol ganddo. Arweiniwyd y <^}Tfsrfol yn ddeheuig gan y Dr. Lloyd, Bethesda. Dechreuwyd drwy 1 Mr. W. J. Williams ganu Hen wlad fy nhadau,' a'r gynulleidfa yn uno yn y gydgan. Beirniadaeth y cyfieithu o'r Saesneg i'r Gymraeg -Irorcu, T. Jones ail-oreu, D. Thomas. CystadIeuael dadganu unrhyw alaw, i rai na fuont yn fuddugol o'r blaen gan fod yr ym- geiswyr canodd rhyw daeuddeg yn y prydnawn, a detholwyd pedwar i gann yn y cyfarfod, ac ar ol beirniadaeth fanol ac addysg- iadol, gwobrwywyd, laf, Mr. J. Thomas, ►