Hide Articles List

16 articles on this Page

DOSBARTH II.

PLWYFYDD GLAN Y MOR YN SIR…

News
Cite
Share

PLWYFYDD GLAN Y MOR YN SIR FFLINT. Diameu fod y oaanylaidd yn barod ar daraw- iad amrant i ddweyd nad oes dim o'r fath blwyfi mewn bodolaeth, na,d oes dim mor yn ffinio ar sir Ffiint, ac mai aber y Ddyfrdwy yw y dwr mawr ar ochr ogledd orllewinol y sir. Gwir hyn i raddau; ond y mae rhai plwyfydd, megis Bhuddlan, Dyserth, a Galltmelyd- nad oedd dim cyffyrddiad rhyngddynt a'r aber ac am y plwyfydd gweddill, fel m6r yr edrych y plwyfolion ar y dwfr hyd onid elycli i Fflint os nad i Connah's Quay. Son am Fflint, nid oes a fyno y gair ddim A Cliallestr." Y bobl a gyfieithant Bull y Pab yn darw a gyfieitliasant "Ffiint" yn Ga,Uestr." Yr oeddwn yn meddwl y gallai llythyr ynghylch y plwyfydd ar lan y m6r yn y sir, gan bigo allan yn unig y rhai hyny ag y mae ynddynt orsaf- oedd perthynol i'r L. & N. W. Co., llinell yr hwn a red ar fin y dwfr, yn meddu rhywfaint o ddyddordeb i rai o ddarllenwyr Y LLAN. Y He cyntaf dan sylw fydd CONNAH'S QUAY. Bydd hwn yn lie pwysig cyn pen nemawr flynyddau. Dyma lIe mae'r bont haiarn yn croesi'r Ddyfrdwy. Agorwyd hi yn ddiweddar, ac yn ei chysylltiad a loop-line PenarMg, a'r rheilffordd trwy y Worial tua Lerpwl, bydd yn gaffaeliad mawr i fasnach ac yn gyfrwng hyr- wjddiant teithio a thrafnidiaetli. Mae'r Parch. Thomas Williams yn ficer yma, ac yn cyflawni ei waith yn ddidrwst a diwytl. Yma hefyd mae Mr. Woodcock yn athraw yr Ysgol Genedl- aethol. Nid oes un athraw yn y sir yn fwy adnabyddus nag ef. Mae yn barablwr gwych, ac yn ddyn o gynheddfau tuhwnt i'r cyffredin. Dywedai Mr. Morgan Owen, Arholwr Ysgolion ei Mawrhydi, wrthyf fod Mr. Woodcock i dderbyn presentation yn fuan, a'i fod yntau yn myned i'r Quay i'w gyflwyno. FFLINT. Yr orsaf nesaf yw'r un yn hen ben tref y sir. Gellid ysgrifenu colofnau liaws am y Ffiint; ond rhaid i mi ymswyno, onide fe allwn yru y Golygydd i wasgfa. Y mae'r Parch. Mr. Nicholas, brodor o'r South yna, sir Benfro, yn boblogaidd a llwyddianus yma. Yr oeddwn yn un o haner cant nsu driugain yn ei gymun cyntaf ar Ddydd y Pasg, a bn ped war cymnIl arall yn eglwysydd y plwyf wedi hyny ar yr un dydd. Yr wyf yn meddwl i mi weled cofnodiad yn Y LLAN am waith y Rector yn arbed Bwrdd 1 Claddu yn y plwyf, trwy brynu mewn ftydd ddarn o dir a'i ychwanegu at yr hen fynwent. Ycliydig fisoedd yn ol cysegrwyd y darn newydd gan Esgob Llanelwy, ao y mae mur cadarn wedi cael ei godi rhwng y fynwent helaethedig a'r ffordd fawr. Ddydd Llun y Pasg, pan yn y festri, derbyniodd y Rector lythyr oddiwrth Miss Moon, Trelawney House, yn cynyg can' punt at godi ty i geidwad y Cemetery. Der- byniwyd y cynygiad yn llawen. Yr oedd Fflint, haner can' mlynedd yn ol, yn ymdrochle. Pwy a feddyliai hyny wrth edrych ar draeth aflan y lie yn brosenol ? Felly hefyd yr oedd Parkgate, am yr afon yn sir Gaer. Oud nid oes yno yn awr ond y morddynau moel yk arddungos godida^grwydd cynhenid y lie. am ochr sir Gaer. Nos Dydd Nadolig weddaf, yr oeddwn, pan yn dyfod o wasanaeta eglwysig yn nghyffitiiau Llaneurgain, yn y bryndir uwchben Fflint, yn gwynebu Parkgate, Neston, &c,, ac yr oedd y goleuadau ar yr heol- ydd ynddynt ac o ffenestri y tai, yn cael eu tanbeidio gan y dwfr, nes gwneyd i bellder mawr o ffordd edrych fel pe'n cael ei illuminatio mewn dull arbenig. Dywedid wrthyf mai yr adlewyrchiad ar y dwfr oedd yn peri y fath olygfa ysblenydd, yr hwn, er nad oes fawr o'r sentimental neu'r poetical yn fy nghyfansoddiad, nid anghonaf ar fyrder. Un o'r Eglwyswyr mwyaf trwyadl yn y Fflint yw Mr. Jos. Evans, warden y Ficer, ac asgwrn cefn Ceidwadaeth yn y fwrdeisdref. Y dydd o'r blaen yr oedd ef yn un o'r ymgeiswyr am y swydd o gofrestrydd marwolaethau yn y dref, ac o fewn un bleidlais ar Fwrdd Gwar- clieidwaid Treffynon buasai yn ei chael. Ond at hyn yr oeddwn yn myned i gyfeirio. Yr oedd yn berffaith hysbys mai ymdrechfa rhwng Ceidwadwr a Rhyddfrydwr oedd yr ymgeis- iaetli. Daeth y gwarcheidwaid Rhyddfrydol yngliyd yn gryno i gefnogi eu dyn; ac am y Ceidwadwyr, yr oedd yno amryw, ond yr oedd amryw yn ychwaneg a'r nas gallent hebgor myned i'r Grand National Races tua LerpwJ, er mwyn aros gartref i bleidio dyn ag oedd wedi gweithio mewn amser ac allan o amser i gefnogi ymgeisiaeth rhai o honynt hwy pan yn ym- drechu am y County Council. Mewn llawer man motto Ceidwadwyr dylanwadol, mewn effaith beth bynag, yw Difrawder, anniolch- garwch, ac anghallineb." BAGILLT. Mae y Parch. J. E. Jones, ar ol llafurio yma er y flwdclyn 1855, wedi ymddiswyddo oherwydd maith afiechyd, a'r Parch. Robert Owen, curad Rhyl, wedi cael cynyg ar y fywoliaeth. Yr oeddwn i yn yr eglwys ux nos Sul y Pasg, yn un o gynulleidfa o agos i 200. Nid oedd y ccir yn rhifo llai na haner cant, a'r canu yn wresog ragorol, Nid yw Mr. Jones mewnun modd yn gadael Eglwys w&g ar ei ol yma, ond y mae yn ymadael ag eglwys (yr adeilad) gyda'r wrthunaf o ran ei threfniant mewnol, Mae yr eisteddle- oedd wedi eu gwneyd fel ag y gall pawb o'r addolwyr lygadrythu yn ngwyneb eu gilydd. Pan gyfyd y c6r i ganu, maent yn troi eucefnau at yr allor Un peth dymunol a welais ynddi oedd y clothydd patriarchaidd yr olwg, yn eis- tedd mewn sedd briodol dan y ddarllenfa, Nid wyf fi yn hoffi gweled cilgwtliio y clochydd i ganol y gynulleidla, Y mae efe yn swyddog Eglwysig haeddianol o'i le ei hun. A phe bawn i mewn swydd Eglwysig, swydd clochydd a I., 0 fyddai hono. Hir oes i'r parchws Robert, cloch- ydd gonest a brwdfrydig Bagillt, a pban ad drefuir yr eglwys (gorchwyl ag y mae y ficer newydd yn rhwym o'i gario allan), hyderaf y darperir eisteddle newydd yn arbenig i'r hen frawd fOyddlawn. Cyfarfyddais a'r Parch, D. W. Thomas, diweddar ysgolfeistr llwyddianus y lie, yr hwn sydd yn awr yn is-atliraw Coleg Winchester. Bu ef, fel ei dad o'i flaen, a'i frawd ar ei ol, nid yn unig yn llwyddianus neill duol yn yr ysgol, ond hefyd yn golofn i'r eglwys fel blaenor y gan ac mewn cylchoedd eraill. Lie Cymreig yw Bagillt, ond, ysywaeth, mae yr eg- lwys wedi ym-Seisnigeiddio yno. TREFFYNON, Yr wyf yn cofio eglwys y plwyf hwn yn un o'r rhai hyllaf yn yr Esgobaeth; ond y mae y periglor, y Parch. R. O. Williams, wedi ei hadferu fel ag i fod nid yn unig yn gyfieus i addoli ynddi, ond hefyd yn hardd. Mae eglwys Maesglas, yn mhlwyf Treffynon, dan ofal y Parch. J. Jones. Y mae efe wedi treulio llawer blwyddyn fel offeiriad cynorthwyol, ac y mae'n bryd bellach rhoddi iddo blwyf ei hun. Wrth eglwys y plwyf y mae ffynon enwog Gwenffrewi, ac yn gyfagos i eglwys Maesglas mae hen fyn- ochlog Basingwerk. Treuliais awr rhwng y ,),ivec gweddillion o honi un prydnawn hydrefol ryw flwyddyn a haner yn ol, gan geisio gosod cig a chnawd ar yr esgyrn sychion, a dyfalu eimawr- edd a'i godidowgrwydd gynt. Yr hen fonachlog anwyl! mae'n resyn bod dy wedd Yn ail i gorff pydredig dan dywyll leni'r bedd Ni chenir Cred na Phader ar wawr na gosper mwy; A'r Avv ber ni phyncir, na'r Sant gan blant y plwy' Ni chlywir yn y gangell un gyngan ond y gwynt Yn gwatwar yr alawon a genidyno gynt." 11 MOSTYN. Yn mhlwyf gwladaidd Llancliwitffordd, neu Rhydwen, y mae Mostyn. Oddeutu pymtheng mis yn 01, yn gynar, ar foreu glasoer yn y gauaf, disgynais yn yr orsaf yma, gyda'r bwriad o gan- lyn y degwm-gasglydd a'i osgorddlu drwy y plwyf. Dyma y tro cyntaf i'r meirchfilwyr gael eu galw allan. Yr oeddwn yn flaenorol wedi bod mewn axdaloedd eraiH, ac wedi sefyll rhwng y ddau dan yn ymladdfafytligofiadwy Mochdre. Yn nghasgliad Whitford, rhoddodd Mr. Peter Browne, y pen cwnstabl, un o'r gwyr caredicaf a droediodd esgid, lift i mi drwy y dydd yn ei gerbyd. Cafodd ef a minau ein gwneyd ar y cycbwyn. Y trefniad oedd i'r gosgorddlu fyned yn gyntaf i Isglan, ac aeth ein cerbyd ninau yno i'w cyfarfod. Aroswyd yno am dros awr o amser, a chafodd artist y Graphic, a godasom ar y ffordd, gyfle i dynu llun yno, yr hwn a gyhoeddwyd. Os y fi oedd y fo, ni fum i edoed yn edrych yn waeth fy ngolwg nag yn y llun hwnw. Cawsom garedigrwydd mawr gan Mr. Edward Jones, y tenant gwrth-ddegymol, a ,,y daethom o hyd i'r osgorddlu cyn i waith y dydd ddechreu, yr hon oedd wedi newid y trefniadau. Am Mostyn, gellir dweyd fod y Parch. Griffith Jones yn hynod boblogaidd yma. Yn ddiweddar, agorodd ystafell genhadol yn nghyffinian y gweithfeydd haiarn. Yma y preswylia Dr. Pan Jones. Hen frawd eithafol, ond gonest, ydyw efe. Nid oes dim sacerdotal yn nyn oddifewn na dyn oddiallan Pan. Nid yw efe yn ceisio epaeiddio gweinidogion yr Eglwys ar un llaw, ac yn ceisio eu cliraddio a'u liysbeilio a'r Hall. Y mae un Pan yn werth cant o bobl breed y Faner. PRESTATYN. Mae y Parch. Thomas Price wedi bod yn cudw llusern yr Eglwys yn oleu yma er's blynyddau, yn nghanol gwrthwynebiadau gelynion ffyrnig, 11 z;1 a fuasent wedi llygad-dynu llawer dyn llai gwrol. Er gwaethaf y cwbl, y mae Mr. Price yn dal i weithio. Un o'i orchwylion diweddaf; ydoedd codi mur oddiamgylcli cliwareule plant yr ysgol, ac y mae yn bwriadu ar fyrder godi ty i'r ysgolfeistr. Mae y gwr parchedig yn ddarllenwr mawr; nid oes nemawr offeiriad yn yr Esgobaeth a, gwell llyfrgell ganddo. Oddeutu dwy fly" edd yn ol, cyhoeddodd bamphled ar y degwm,ta -all,-tf ei gymeraldwyo fel f un o'r rhai mwyaf rhagorol a ysgrifenwyd ar y pwnc hwnw. RHYL. Dyma ni bellach yn mlirif, ond nid pen, tref y sir. Ddydd Ian diweddaf ymadawodd yr hen Ficer, Canon Thomas Richardson, a'i deulu, i'w blwyf newydd Llaneurgain, gan ddwyn gydag ef ddymuniadau goreu ei liaws cyfeillion. Yr oeddwn yno yn treulio y Sul dilynol ac, yn ol fy arferiad pan yn aros yn Rhyl, aethum i'r Eglwys Gymreig yn y boreu, pan y gweinyddai Vicar-designate Bagillt. Gwelais "Ap Trebor" Y LLAN a'i deulu yno yn gryno ond yr oedd sedd Mr. Bernard Parry, warden y plwyf, yn wftg. Cyn terfynu y gwasanaeth, clywais y rheswm pan ddymunid gweddïau y gynulleidfa dros Bernard Parry, yr hwn sy'n beryglus glaf." Wedi myned allan clywais ddarfod i enaid Mr. Parry ehedeg i fyd yr ysbrydoedd oddeutu yr un munydau. Yr oedd ef yn adna- byddus iawn yn marclmadoedd Fflint a Dinbych flynyddau lawer, y rhai a fynychai yn rheol- aidd fel corn dealer, ac yr oeddwn yn ei adnabod a'i barchu or's amser maith yn ol. Gwr gonest ac unplyg oedd Mr. Parry, a bydd yn chwith gan laweroedd glywed am ei farwolaeth. Yn y prydnawn, cefais fyned i ddosbarth Mr. Ed. Morris, Arholwr Cynorthwyol yr Ysgolion, yn Y sgoldy St. loan. Class o chwech neu wyth o ddynion sydd ganddo, ac yn Ilyfr Job y dar- llenant. Ond y mae'n ymddangos mai'r second subject sy'n cael mwyaf o sylw yn bresenol, sef Canon Luckock's After Death." Maent ar haner myned trwy'r llyfr; a chyn cymerydhwn, Blunt's Undesigned Coincidences oedd dan sylw. Nid oes angen dweyd fod Mr. Morris yn gwneyd athraw da ac ymroddgar, a bod ei ddos- barth yn ymlyngar iawn wrtho. Yn wir, ym- ddengys ,mai efe sydd wedi bod yn asgwrn cefn yr ysgol er's blynyddau. Yr arolygwr presenol yw Mr. Geary, pen clerc Mr, Alun Lloyd, twrnai y gwrthddegymwyr a. gwr lJawn zed jw yntau, fe ymddengys, Yr opdd yn ddrwg 11 y genyf ddeall nad oes cymaint ilg un dosbarth Cymreig yn bresenol yn yr ysgol. t, 11 Yu yr hwyr aethnrn i Eglwys St, Thomas, un o'r rhai gwychaf yn yr esgobaeth, Sylwais nad oes ynddi yn awr ond un ffenestr ar rad yw wedi ei llanw a. gwydr lliwiedig. Darllenid y gwasanactli a pliregethid gan gurad newydd, a I hyny am y waith gyntaf yno, meddid i mi, Yn ol a glywais, gwnaeth argraff dda, ac yr oedd gauddo draddodiad clir a di-atal. Sylwais wrth fel y gwisgai y stole mai mewn urddau diacon y mae. Mr. Green yw'r enw, ac yr wyf yn meddwl ei fod yn fab i Berson Castell Caereinion. TOWYN, ABERGELE, Dyma fi yn tori dros y terfynau yn awr, gan fod y pl wyf hwn, am yr afon a Rhyl, yn Sir Ddinbych. Ond y mae yn rhaid i mi gyfeirio eto er mwyn cywiro gwall yn y rhifyn cyn y diweddaf, He y sonid am Towyn j fel Tygwyn," Yr wyf yn adwaeu y Parch. J. O. Evans, mab Archddiacon Meirionydd, er's llawer blwyddyn, ac y mae yu wir ddrNv, genyf ei fod yn ymadael oddiyma i ardal Caerdydd, Mae efe wedi bod yn pregethu y Ffydd Gatliolig yn ddiwyd a difloesgni er's amrai flynyddau yn yr eglwys lion, Mawr Iwyddiant iddo yn ei Ie newydd, a hyderaf y ceir gwr mor gywir ei gred a dilycliwin ei fuchedc1 i ddilyn ei ol. Abergele, a'r gwaith da a wneir yno, gaiff fy sylw cyntaf pan yn son am blwyfydd glan y mor yn Sir Ddinbych. FFLIXTYDD.

LLYFR HYMNAU A THONAU YR j…

FICER NEWYDD LLANWONNO.

EGLWYS ST. MAIR, ABERTEIFI.

[No title]

[No title]

AT Y BEIRDD.

DOSBABTH 1.

Y CARDOTYN AMDDIFAD.

Y FERCH A'R AWEL.

Nodion Hynafiaethol.i

[No title]

LLANELWY.

Cymdeithas Dciadleuol yr Ystabl.

Cysegriad Eglwys yn Swydd…