Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
ETHOLIAD ARFON.
ETHOLIAD ARFON. YR oedd dyddordeb neillduol yn cael ei amlygu yn nghanlyniad y frwydr wleid- yddol yn Arfon. Gwyddid fod yr ym- drechfa yn un anarferol dyn, ond prin y disgwylid mwyafrif mor brin a 18 pleid- lais o'r naill ochr na'r llall. Ni ddiluw- Vvvyd unrhyw barth o Gymru a'r fath f) raiadrau o faldordd etholiadol, ac ni phleidleisiodd erioed y fath nifer o ethol- ^yr bwrdeisiol Arfon. Collodd Mr. XANNEY ugeiniau o bleidleisiau drwy ahsenoldeb morwyr Nefyn, Pwllheli, &c., pa rai ydynt Geidwadwyr zelog, ac a fuasent y rhwym o droi y lleiafrif byehan yn fwyafrif sylweddol. Heblaw HYN, yr oedd Mr. LLOYD GEORGE wedi bod yn parhaus areithio drwy yr etholfa ■er's blwyddyn neu ychwaneg; a phrin Yr oedd corff y diweddar aelod wedi cael amser i oeri cyn fod y pleidgeiswyr' Radicalaidd ar lawn gwaith, tra y collwyd ldros wythnos o amser gwerthfawr cyn i'r blaid Geidwadol hyd yn nod ddwyn eu hYIllgeisydd i'r maes. Y canlyniad fu i'r fantol droi o drwch y blewyn yn eu her- oyn ond cyn pen nemawr amser bydd y Pleidiau yn ymgodymu unwaith eto, ac ni raid wrth ysbryd prophwydoliaeth i ? Wybod pwy fydd drechaf y pryd hwnw. .I Ar y cyntaf, ymleddid y trwydr ar dir Ymreolaeth i'r Gwyddelod, ond nid oedd yr abwyd hwnw yn tycio, ac ebrwydd y gorfu i'r Radicaliaid syrthio yn ol ar hen asgwrn y gynen, sef dadgysylltiad a dad- ^addoliad yr Eglwys. Dyna, mewn gwirionedd, oedd y canolbwne o gylch Pa un y troai yr ymdrechfa ond cysurus disgwyl y bydd deddf newydd y degwm yn fnan wedi symud ymaith "Iwer o'r chwerwder sectol, a llareiddio yr Ysbryd ffyrnig sydd wedi ffynu yn rhy hir. Hyn a brawf yn ddadgysylltiad -Da.rllaol rhwng Radicaliaeth ddinystriol kr. LLOYD GEORGE a Bwrdeisdrefi .4.rfon.
Esgob Llanelwy a Mr. Osborne…
Esgob Llanelwy a Mr. Osborne Morgan. Gwyr ein darllenwyr ddarfod i ni, yr wyth- nos ddiweddaf. ddyfynu llythyr o eiddo Esgob Llanelwy mewn pertliynas i rai haeriadau a wnaed gan Mr. Osborne Morgan yn y ddadl, yn Nhy y Cyffredin, ar Fesur y Degwm. Yr wyth- nos hon, rhoddwn barhad a therfyniad yr oheh- iaeth. Fel hyn yr ysgrifena Mr. Osborne Morgan :— Yr wyfnewydd weled llythyr Esgob Llan- elwy i'r Times am ddydd Linn. Yn ei lyt'iyr, oyhttdcla fi o ddau gam-ddywed- iad yn fy araetli ar Fesur y Degwm :— (a.) Mai yr hyn a wrthwynebent (byny yw. yr amaethwyr Cymreig) o'r dechrenad ydoedd, nid taliad y degwm, ond y defnydd a wnaed o hono.' (b.) I -iuai Y,4,738, neu 97 oddiwrth bob cyn- ulleidfa, ydoedd y swm a gesglid yn yr Eglwysi Esgobol. drwy offrymau gwirfoddol, yn Esgob- aethau Bangor, Llanelwy, a Llandaf.' (a.) Dichon, ac y mae yn ddiau fod, ymhlith y canoedd a wrthodent dalu y degwm, rai eng- reifftiau, yma a thraw, o amaethwyr Cymreig, fel o'u cyd-amaethwyr yn Lloegr, yn hawlio cael eu rhyddhau yn gyfangwbl o'r taliad hwnw. Y cwbl allaf ddweyd yw, na ddaetlmm erioed o hyd i achos feUy, ac nad oeddwu wrth wneyd y datganiad dan ystyriaeth, ond yn dweyd yr hyn a haerwyd drosodd a throsodd drachefn yn gyhoeddus yn Nghymru, a'r hyn, hyd ag y gwn i. na amheuwyd. (b.) Gyda golwg ar fy ail ddatganiad, nid yw yr adroddiad yn hollol gywir. Ond y mae yr Esgob, oherwydd rhyw resymau, mwyaf adna- byddus iddo ef ei hun, wedi cadw o'r golwg ran bwysig o'm baraeth, yn yr hon y dywedais fy mod yn rhoddi yr ystadegau hyn ar awdnrdod llyfryn a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Parch. Henry William Clarke, clerigwr o Eg- lwys Loegr. o dan yr enw Cyllid gorphenol a phresenol Eglwys Loegr yn Nghymru, wedi eu casglu o adroddiadau swyddogol, a lieoedd eraill.' Yn yr adran a ddarllenais, air am air, yn N hy y Cyffredin o'r llyfryn uchod, dywedid mai y swm a gesglir tnag gynhaliaeth Ebrwy- iaid (Incumbents) drwy dgl am eisteddleoedd, fees, ac offryinau, mewn 748 o blwyfi, yw 94,738 yn flynyddol, neu £7 am bob cynuileid- fa. Y mae yr adran a ddyfynais i'w gweled ar dudalen olaf y llyfryn. Fel y mae gwaetha'r modd, yr wyf yn rhy gyfarwydd ag arddull ddadleuol yr Esgob i gael fy synu gan unrhyw ystyr a ddichon efe wasgu allan o fy areith- iau. Nis gwn ddim am S. Pedr, Caerfyrddin, ond drwg genyf ddweyd nad ydyw fy ngwybodaeth bersonol o blwyf Brymbo yn cadarnhau cyfrif- iadau gobeithiol yr Esgob. Y mae haeriad yr Esgob ddarfod i mi, 'yn y senedd-dymor diweddaf, dreblu (treble) nifer y gweinidogion Ymneillduol yn Nghymru,' wedi ei wadu genyf mor ami, fel y mae yn rhaid i mi wrthod gwneyd ychwaneg na chyfeirio at fy natganiadau blaenorol ar y pwnc." Mewn atebiad i'r uchod, ysgrifenodd Esgob Llanelwy i'r Times am ddydd Mawrth fel y canlyn Syr,—Dymunaf ganiatad i ddiolch i Mr. Osborne Morgan am ei lythyr. (a.) Haerodd Mr. Morgan fod yr amaethwyr Cymreig yn wrthwynebol o'r dechreuad, nid i daliad y degwm, ond i'r defnydd a wneid o'r arian.' Cyfeiriais at y ffaith fod perchenogion lleyg, yn gystal ag Ysgolion a Cholegau, y rhai cyd-rhyngddynt a ddaliant gyfran helaeth o ddegwm Uymru, wedi cael cymaint o anhawsder a'r offeiriaid i sicrhau taliad eu degymau. Nid yw Mr. Morgan yn ameu y ffaith bon, ond syrthia yn ol am amddiffyniad o'i haeriad ar y ddadl fod hyny wedi ei ddweyd drosodd a thros- odd yn Nghymru.' Gwyr y rhai cyfarwydd a'r Wasg Gymrcig faint o werth yw y ddadl hon. (b) Amheua Mr. Morgan gywirdeb yr ad- roddiad o'r ail gam-ddywediad. Dyma fy awdurdod ar y mater. (1) Yn y Times, Mawrth 28ain, dywedir i Mr. Morgan siarad fel hyn :—" Yn nhair esgob- aeth, Bangor, Llanelwy, a Llandaf, cyrhaeddai yr ardreth ddegymol ddyledus i'r offeiriaid y swm o £ 101,856, tra nad oedd yr offrymau gwirfoddol mewn 748 o Eglwysi esgobol ond 94,738, neu £7 y flwyddyn am bob cynulleidfa, a hyny yn rhanau cyfoethocaf Cymru." (2) Clywais yr araith fy hunan, a chymerais ysgrif-nod o'r adran arbenig hon, ac y mae fy nodiadau fy hun o eiriau Mr. Morgan yn cyd- uno ag adroddiad y Times. Yn ei lythyr, ffug-ychwanega Mr. Morgan yn awr y geiriau casglwyd er cynhaliaeth ebrwyaid. Rbaid i mi ddweyd, er i mi dalu sylw manwl i'r rhan hon o'r araith, na chlywais y geiriau hyn, ac nis gallaf eu cael mewn un adroddiad —a cliymerais y drafferth o ddarllen amryw o'r adroddiadau—o araith Mr. Osborne Morgan. Ond, hyd yn nod, a derbyn esboniad Mr. Morgan o'i eiriau ei hun, cymeraf ganiatad i sylwi fod y mynegiad yn annheg, yn gam-ar- weiniol, ac yn ddiystyr. Os ewyllysia fod yn deg, dangosed pa faint a gesglir er cynhaliaeth yr ebrwyaid ymhob esgobaeth yn Lloegr yn gystal ag yn Nghymru. Rboddai hyn ddefn- yddiau cydmariaeth deg a gonest. Os dymuna Mr. Morgan ddangos yn gywir faint a wneir gan yr Eglwys, trwy offrymau gwirfoddol, tuag at gynhaliaeth ei chlerigwyr, yn sicr, y mae yn gam-arweiniad gadael allan o'r cyfrif yr hyn a gesglir gan yr Eglwys, trwy offrymau gwirfoddol, tuag at gynhaliaeth ei churadiaid. Os cynwysir y curadiaid yn y cyf- rifiad, y mae ystadegau Mr. Morgan yn eithafol 0 anghywir a cham-arweiniol. A.c ymhellach, y mae mynegiad Mr. Morgan, fel yr esbonir ganddo ef ei hun, yn ddiystyr. Y mae'r Eglwys, trwy y gwaddoliadau a roddwyd gynt, ac i raddau helaeth, mewn amseroedd di- weddar,:wedi darparu cyflogau ei gweinidogion, ac y mae'r cyhuddiad, fod yr Eglwys yn ddi- ffrwyth am nad yw yn darpar ail gyflog, trwy offrymau gwirfoddol, i'r un gweinidogion, yn gyhuddiad dibwynt. Fe wel pob dyn 0 feddwl teg fod mynegiad Mr. Morgan, yn ol ei adrodd- iad ef ei hun, yn anghyflawn, ac yn gam-ar- weiniol. Ond yr wyf yn dal mae'r cyhuddiad penaf a mwyaf difrifol y gosododd y boiieddwr"aurliyd- eddus ei hun yu agored iddo yclyw hwn, iddo, wrth geisio cyferbynu yr arian a godid trwy ddegymau, A'r avian a gesglid, neu a roddid yn wirfoddol gan y cynulleidfaoedd, ffnrfio ei Irawddegau fel ag i gyfieu y syniad nad oedd yr holl offrwm gwirfoddol mewn 748 o Eglwysi yn cyrhaedd ond 14,738 y flwyddyn, yr liyn, yn ol y cyfrifiad iselaf, sydd ugain gwaith yn llai na'r swm gwirioneddol. (c) Gyda golwg ar Brymbo, gwn fod fy ystadegau yn gywir. Heriaf Mr. Morgan i'w gwrth-brofi. Nid yw yr ansoddair gobeithiol yn un atebiad i "ifeithiau cedyrn." fd) Y mae datganiad Mr. Morgan o barthed i nifer y gweinidogion Ymneillduol ar gof yn t, Hangard," Cyf. IV. tudalen 86, senedd-dymor 1889. Y mae'r geiriau fel y canlyn :— Ond pa beth a wneir gan yr Anghydffurfwyr? Casglant oddiwrth y dosbarth tlotaf, mewn gwlad dlawd, 9300,000 y flwyddyn, dros £ 30,000 yn fwy na'r holl incwm a delir gan y Wladwr- iaeth i'r E«lwys Gymreig. Rhydd y Mothodist- iaid Calfiuaidd yn unig 9173,000 y flwyddyn. Y mae ganddynt 4,500 o addoldai, a nifer gyfatebol o weinidogion a phregethwyr." Y mae'r frawddeg olaf yn aneglur. Gall gyfeirio at y Methodistiaid Calfinaidd yn unig, neu at y cyrff Anghydffurfiol gyda'u gilydd. A chymeryd yn ganiataol ei fod yn golygu yr olaf, a'i fod yn cyfeirio at y weinidogaeth reolaidd, y ffaith yw mai cyfanswm gweinidogion rheolaidd y pedwar enwad sydd, yn ymarferol, yn gwneyd i fyny Anghydffnrfiaeth Gymreig. sef y Btdydd- wyr, yr Independiaid, y Methodistiaid, a'r Wesleyaid, yn 1887 ydoedd 1,557. Os darfu i Mr. Morgan, yn ddiweddarach, gywiro y dat- ganiad hwn a wnaed ganddo yn y Senedd, ac sydd eto ar gof yn Hangard, yr oe,dd ganddo reswm da dros wneyd hyny. Drwg genyf fod Mr. Morgan yn erbyn defn- yddio ffeithiau mewn dadleuaeth. Bid sicr, y mae efe yn hollol gyson yn hyn, oblegid anaml y bydd yn eu defnyddio, a phan ddefnyddia hwynt, y maent yn ei law fel arfau anghynefln."
NODIADAU SENEDDOi
NODIADAU SENEDDOi [GAN EIN GOHEBYDD ARBENIG.] AIL-GYFARFYDDIAD Y SENEDD. Ail-gyfarfyddodd Ty y Cytlredin ddydd Llun diweddaf, a chymerodd y Llefarydd y gadair am dri o'rgloch. DEISEB. Cyflwynwyd deiseb gan Mr. Young 0 High- cliffe a Newtown yn ffafr adeiladiad a chynhal- iad ysgolion gwirfoddol. 1:1 BLWYDD-DALIADAU ETIFEDDOL. Dywedodd Mr. Goschen, mewn atebiad i Mr. Brndlaugli, nad oedd, mewn canlyniad i'w ddyledswyddau ynglyn a'rGyUideb, wedi cael amser i dalu sylw i'r cwestiwn o flwydd-daliadau etifeddol a pliarhaol, ond fod ganddo adrodd- iadau at law a wnaent ei alluogi i'w gymeryd i ystyriaeth yn ddiattreg. MESUR NEWYDD. Dygodd Syr W. Hart-Dyke, heb eglurhad, I? fesur i mewn i wneyd rhai o drefniadau Code Addysg 1890 yn fwy effeithiol, a darllehwyd ef 11 y waith gyntaf. LLOFRUDDIAETH CREWE. Gofynodd Mr. Pickersgill i'r Ysgrifenydd Cartrefol a oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i hysbysu y Ty ar ba dir yr oedd wedi anog y Frenhines i ganiatau i un a gwrtbod i'r Uall ei hynawsedd Brenhinol yn achos George a Richard Davies, y rhai a euog-farnwyd yu ddi- weddar o lofruddiaeth yn Crewe. Yr Ysgrifenydd Cartrefol a ddywedodd fod achos y ddau frawd Davies yn un o lofruddiaeth greulawn a phwyllog, yn yr hwn yr oedd y rheithwyr wedi cymeradwyo y carcharorion i drugaredd ar sail ieuenctyd yn unig. Yr oedd yn anmhosibl mewn achos o'r fath i ddwyn i weithrediad y cymeradwyaeth hwnw yn aclios Richard Davies, yr hwn oedd o fewn ychydig yn 19 oed—oedran ymha un yr oedd cylrifoldeb am droseddau gwirfoddol yn cael ei gadarnhau, a hyny, yn ei farn ef, yn ddigon priodol. (Clywch, clywch.) Nid oedd George Davies und un-ar-bymtheg ac wyth mis oed. Nid oedd un person mor ieuanc wedi cael ei ddienyddio am lawer iawn 0 flynyddau. Er fod ei euog- rwydd yn cael ei gydnabod, y casgliad ag yr oeddef (Alr. Matthews), ar 01 ystyriaeth fanol o'r tystiolaethau, wedi dyfod iddo ydoedd—ei fod wedi gweithredu dan ddylanwad ei frawd hynaf, ac mai Richard oedd wedi cynlluuio y gydfradwriaeth a chymeryd y rhan benaf yn ei dygiad allan. Dan yr amgylchiadau hyn, ei faan ef ydoedd ei bod yn bosibl dwyn i weith- rediad gymeradwyaeth y rheithwyr yn achos George. Goddefid ef i ddweyd ei fod wedi derbyn anogaeth a chydsyniad y barnwr i estyn trngaredd i George, ac iddo ef yn unig. (Cym- eradwyaeth.) Dywedodd yr Ysgrifeuydd Cartrefol, yn mhellaeh, ei fod yn myned yn groes i raddau i gyn-reolau {precedents) ar y mater i ateb un- rhyw gwestiynau o gwbl. (Cymeradwyaeth.) Yr oedd yn rhwym o wrthod yn hollol gymeryd rhan mewn unrhyw ddadleuaeth ar y tystiol- aethau neu y ffeithiau ynglfn i'r achos, y rhai oeddynt wedi cael ei ystyriaeth fanylaf, yn cael ei gynorthwyo gan y barnwr dysgedig. (Clywch, clywch). COMISIWN CAU Y TAFARNAU AR Y SUL. Gofynodd Mr. A. Thomas pa gwrs oedd y Llywodraeth yn fwriadu gymeryd ar adroddiad y Welsh Sunday Closing Commission. Dywedodd Mr. W. H. Smith nad oedd efe eto wedi gweled yr adroddiad, ac yr oedd yn amlwg y dylai y Llywodraeth gael amser i ystyried pa gwrs a ddylent gymeryd cyn gwneyd unrhyw I fynegiad i'r Ty. YR INLAND REVENUE BILL. Darllenwyd Mesur Rheoleiddiad y Cyllidau yr ail waith, heb ddadl. AMCAN-GYFRIFON Y GWASANAETH GWLADOL. Ar y bleideb o Y,307,609 i ddibenion diplom- ataidd a llysgenhadol, &c., Cynygiodd Mr. Labouchere ostyngiad o £2,750 yn y bleidlais, am y rheswm fod y treul- iau ynglyn a chynrychiolaeth y wlad hon yn y Weriniaeth Argentaidd yn ormodol o'u cydmaru a threuliau ein llysgefihadaetli fasnachol Uru- guay. Dywedodd Syr James Fergusson mai yr achos o'r cynydd yn y treuliau mewn cysylltiad a'r gynrychiolaeth Brydeinig yn y Weriniaeth Arianaidd ydoedcl-f od ein cynrychiolydd yn Buenos Ayres yn gorfod edrych ar ol buddianau yr ymfudwyr Seisnig. Wedi ciyn ddadleu pellach gan yr aelodau Gwyddelig, ac eraiil, gwrthodwyd y gostyngiad 124 i 66. Siarad dan ei ddwylaw bob amser, yn agos, y mae'r Ffrancwr tafodrydd, yr aelod bygylog dros Northampton. Gwrthodwyd amryw gynygion eraill, mewn ffordd o leihad yn y bleidlais. CANOLBARTH AFFRICA. Mewn atebiad i amryw gwestiynau, Dywedadd Syr J. Feigusson nad oedd yr ym- drafodaethau a Portugal. mewn perthynas i atafaeliad rheilffordd Delagoa Bay wedi eu llwyr gwblhau. Nid oedd gan y Llywodraeth un lie i ameu ffyddlondeb Portugal mewn per- thynas i'w hymrwymiadau, ac yr oedd efe wedi oi hysbysu nad oedd Portugal yn bwriadu anfon rhyfelgyrch i Mashanalaud. Yr oedd Llywodraeth Germani wedi sicrhau Llywodraeth ci Mawrhydi mai nid amcan y rhyfelgyrch bwr- iadedig dan Emin Pasha ydoedd ymyraeth a buddianau Prydeinig, eithr yn uuig cydweith- redu 0 fewn terfynau y diriogaeth German- aidd. Amlwg yw fod dylanwad y Llywodraeth bre- senol yn cael ei deimlodrwy holllysoedd Ewrop. Maent yn gwybod pwy sydd wrth y llyw. MEDDIANIAD YR AIPHT. Mewn atebiad i Syr George Campbell, Dywedodd Syr James Furgusson fod y meddianiad Prydeinig o'r Aipht wedi ychwanegu llawer at gysur a dedwyddwch y bobl. Nis gallai y wlad hon roddi i fyny ei meddiant o'r I Aipht hyd oni chyflawnid y gorchwyl yr ym- gymerwyd fig ef rai blynyddau yn ol. Yr oedd y gwaith hwnw yn cael ei gyflawni mewn modd effeithiol, a thuhwnt i ddisgwyliadau y mwyaf hyderol. PYSGODFEYDD NEWFOUNDLAND. Yr ymryson ynglyn a physgodfeydd New- foundland oedd y cwestiwn nesaf fu dan sylw, a rhoddwyd y Clo ar gegau y brygawthwyr Gwyddelig a Gladstonaidd am haner awr wedi un-ar-ddeg, ac aeth pawb i'w cartrefleoedd.
ADIRYWION.
ADIRYWION. Y mae rhyw sibrwd yn yr awyr fod cylchwyl gerddorol Llanilar a Rhostie yn myned i ymddadebru o'i chwsg eleni. Gobeithio fod gwir yn y peth. Deallwn fod y Gymdeithas er Adeiladu Eglwysi yn Esgobaeth Bangor wedi rhoddi haner can' punt tuag at adgyweirio Eglwys Llanystumdwy, ugain punt i Lanfihangel-y-traethau, a haner can' punt i Lanfair-is-gaer. Wardeniaid newyddion plwyf Llanilar a Rhostie ydynt y Dr. Hughes, Cwrt-y- cadnaw, a Mr. Roberts, Blaengadair. Y blaenaf fu yn foddion i adeiladu mur yr hen fynwent, yr hwn a orphenir-erbyn Mai Ged. Ymddengys fod y meddyg proiiadol, Dr. Hughes, Llanilar, y buchfrechydd dros ranbarthau liar a Haminwg o Undeb Aberystwyth wedi, derbyn gwobrwy y Llywodraeth fel gweitliredydd llwydd- ianus yn unol a deddf buchfrechiad. Ar y 6ed cyfisol, cynhaliodd Ysgolion Sul Llanilar a Rhostie eu cyfarfod tri misol, sef cyfarfod y pwnc. Arholwyd yn ddeheuig iawn gan y Parch. J. D. Lewis, a chafodd atebion ardderchog. Maes llafur yr ysgolion, y tro hwn, ydoedd Actau i. Cludwyd gweddillion marwol y di- weddar Mr. W. Davies, plumber, Rhuthyn, ddydd Sadwrn diweddaf, i gladdfa perthynol i Eglwys St. Pedr, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. F. M. Jones, curad. Yr oedd yn angladd fllwrol. Ddydd Sadwrn diweddaf, cynhaliodd Gwirfoddolwyr Llanrwst eu ciniaw flyn- yddol yn y Drill Hall, pryd yr oedd oddeutu pedwar ugain yn bresenol, ac yr aethpwyd drwy y llwnc-destynau arferol yn hwyliog. Darparwyd y wledd gan Mr. David Jones, o Westty y Fotasen. Pan yr oedd Mr. John Richards, Wynn- stay Arms Hotel, Rhuthyn, mewn cerbyd gyda chyfaill, yr wythnos ddi- weddaf, dychrynodd y ceffyl a thaflwyd Mr. Richards allan o'r cerbyd. Niweid- iwyd ef yn ddrwg. Da genym hysbysu ei fod, drwy gymovth meddygol, yn gwella. Yr wythnos ddiweddaf, bu farw Gwalchmai Williams, Tywyn, yn oddeutu 23 mlwydd oed. Yr oedd yn ddyn ieu- anc a berchid yn fawr gan y tlawd a'r cyfoethog. Bu yn chwareu yr organ yn yr Eglwys am hir amser, a theimlir colled fawr ar ei ol. Claddwyd ef ddydd Mercher diweddaf. Yn festri blwyfol Llandebie, apwynt- iwyd y Dr. Southern, Pantyrodin, yn warden y Ficer, Mr. Griffith James, Gelli- wastad, yn warden y plwyf, a'r rhai can- lynol yn is-wardeniaid :—Mri. William Rees, Thomas Watkins, Richard Bowen, William Michael, William Davies, a William Lloyd. Y mae Mr. David D. Parry, organydd medrus Eglwys Seisnig Llanrwst, wedi enill, mewn cystadleuaeth gref 0 30 o ymgeiswyr, ar y rhan-gan (part-song), am ba un y cynygid y wobr gan Y Cerddor. Sieryd y beirniaid yn uchel iawn am y cyfansoddiad, ac addawa ddyfod yn dra phoblogaidd. Gofid calon i'w liosog gyfeillion fydd clywed am waeledd y Parch. W. Morgan (Penfro), rheithor Llansantffraid Glan Conwy. Y Sul o'r blaen tarawyd ef yn sydyn glaf yn ystod y gwasanaeth. Deallwn ei fod yn awr yn Llundain, o dan driniaeth feddvgol ac yn ei absen- oldeb cymerir gofal y plwyf gan un o glerigwyr Llanelwy. Yn festri flynyddol Hirwaun, penod- wyd yn wardeniaid am y flwyddyn ddy- fodol-Mr. Caund dros y Ficer, a Mr. J. W. Morgan, Foundry. Cottage, dros y plwyf. Yr is-wardeniaid newyddion ydynt Mri. L. Aubrey (Tymawr), George Morgan, Fred. Gowen, William Maslen, John Jones, B. Lewis, John Davies, ac Uriah Rees. Hollol ddidwrw oedd yr etholiad am warcheidwaid dros Lanrwst. Y personau canlynol a etholwyd, yn ol nifer y pleid- leisiau :—Mri. E. J. Williams, 273 John Jones, 249 Richard Morris, 199 E. Mills, 182 W. Williams, Preswylfa, 184. Yr oedd yr oil a ddychwelwvd, oddi- gerth Mr. Mills, wedi gwasanaethu ar v, I bwrdd gwarcheidiol y flwyddyn flaen- orol. Cynhaliwyd festri blwyfol Llun y Pasg yn Nghapel Gwydir, Llanrwst, o dan lywyddiaeth y rheithor, Canon Hughes Jones. Penodwyd y boneddigion can- lynol yn Wardeiniaid Eglwysig :-Mri. W. J. Griffith a W. G. Jones, dros Llan- rwst Mr. Humphrey Williams, dros Dre Wvdir a Mr. Lewis Williams, dros Gapel Garmon. Etholwyd yn sidesmen —Mri. Thomas Evans, Gwydir Cottage, ac Evan Williams. Mr. Robert Evans, Glasgow House, a etholwyd yn unfrydol i lanw lie Mr. Elias, yr hwn a ddymunai ymddiswyddo fel arolygydd y ffordd fawr. Cynhaliwyd festri flynyddol Llanfair D.C., nos Iau, y Ficer yn y gadair. Ail etholwyd y wardeniaid yn ddiwrthwyn- ebiad. Nos Iau, cynhaliodd aelodau Cynghrair y Friallen eu cyfarfod blynyddol yn y Drill Hall, Dinbych. Cadeirydd, y Milwriad Mesham. Penodwyd swydd- ogion am y flwyddyn. Rhif yr aelodau ydyw 1,269. Cafwyd araith wir alluog gan Mr. St. John Corbet, Leamington. C, Nos Fawrth, ymgynullodd nifer liosog o aelodau Breint Gymdeithas yr Eglwys yn y Church House, Dinbych. Cyflwyn- wyd anrheg i'r Dr. D. G. Evans, Ysbytty, am y llafur a'r zel a gymerodd yn y gym- deithas hon. Aelodau y Guild roddodd yr anrheg. Cafwyd rhaglen o gerddor- iaeth ardderchog yn y cyfarfod hwn. Dywedir fod camddealltwriaeth yn bodoli yn Mangor rhwng y Parchn. T. Edwin Jones a W. Edwards, y ficeriaid, o barthed i ddewisiad y wardeniaid Eg- lwysig. Hawlia Mr. Edwards, ficer hynaf Bangor, yr hawl i ddewis y ddau warden dros y plwyf, tra y cred Mr. Edwin Jones ei fod yntau yn meddu haner yr hawl, sef eu bod i ddewis un bob un. Ddydd Llun y Pasg, cynhaliwyd gwyl gorawl yn eglwys St. Eleth, Amlwch, pryd yr oedd corau o'r Ileoedd canlynol yn bresenel :-Amlwch, Llanerchymedd, Rhosybol, Boderwyd, a Llandyfrydog. Yr ydym yn sicr y bydd i'r llwyddiant a ddilynodd yr wyl gyntaf hon fod yn gysur mawr i arweinydd y gan yn y Ileoedd crybwylledig. Nos Wener, rhoddodd y brodyr o Goleg St. Beuno (Pabyddol) eu gwasanaeth yn rhad er cynal cyngerdd yn Ysgoldy Cenedlaethol Tremeirchion. Yr oedd yn gyngerdd rhagorol. Llywyddwyd yn ddeheuig gan Mr. Edwin Morgan, Y.H., Caegwyn. Yr oedd yr elw yn myned i drysorfa Llys Bryn Clwyd o Urdd y Coedwigwyr. Da genym ddeall fod Eglwys Gymreig Llanrwst ar fin cael organ newydd. Gwelaf oddiwrth gylchlythyr newydd ddyfod allan fod cronfa o £214 mewn llaw, ac apelir am danysgrifiadau pellach er cyraedd y swm angenrheidiol o £ 350. Y mae adeiladydd yr organ newydd fod i lawr yn gwneyd y trefniadau rhag- barotoawl, a disgwylir am yr offeryn ar fyrder. Oddeutu haner awr wedi deg foreu Mercher, daeth dau o forwyr o hyd i gorff morwr boddedig yn nofio yn afon Conwy, ar gyfer Deganwy. Tybid ei fod oddeutu deng mlwydd ar hugain oed, ac yr oedd wedi bod yn y dwfr cyhyd o amser fel yr oedd y pen a'r dwylaw wedi syrthio ymaith. Ni chafwyd dim ar y corff i brofi eiddo pwy ydoedd ac mewn trengholiad a gynhaliwyd dranoeth, dychwelwyd y rheithfarn agored o 11 Caf wyd wedi boddi." Golwg hynod lewyrchus sydd ar yr Ysgolion Cenedlaethol yn Llanrwst. Er fod Miss Owen, athrawes y genethod, wedi bod mewn gwaeledd er's tro, llwyddodd yr ysgol i enill safle anrhyd- eddus iawn yn yr arholiad diweddar, trwy weithgarwch yr athrawes ddirprwy- ol. Ychydig ddyddiau yn ol, cyflwyn- wyd tystysgrifau lliosog, a gwobrwyon mewn llyfrau, i'r plant a ragorent, pryd yr oedd nifer o foneddigesau yn bresenol, ac y traddodwyd anerchiadau pwrpasol gan Mr. Blackwell, a'r Parch. T. Tudno Jones. Dathlwyd gwyl y Pasg yn odidog yn ngwahanol eglwysi Bangor. Yn St. Mair, yr oedd gwasanaeth y Cymun Sanctaidd am wyth, yn y boreu gwasanaeth a gweinyddiad o'r Cymun Sanctaidd am ddeg ac am dri, yn y prydnawn, yr oedd gwasanaeth plant. Yn yr hwyr, dywed- wyd y gwasanaeth gan y Ficer, a phre- gethwyd gan y Parch. D. Richard, M.A., ficer corawl Eglwys Gadeiriol Ty Dd-ewi. Yn ystod y gwasanaeth, dadganwyd darnau ardderchog, priodol i'r wyl, gan Mr. Padarn Lewis, R.A.M. Canodd y cor hefyd o dan arweiniad Mr. W. Williams. Penrhyn Lodge, yn dda. L Cynhaliwyd cyngerdd ardderchog yn Ysgoldy Cenedlaethol Ffynongroew, nos Sadwrn diweddaf. Cymerwyd y gadair gan Mr. C. Batters, Tanlan Hall. Y cantorion oeddynt y rhai canlynol :—Mr. a Mrs. G. Nicholson, Llanasa Mr. a Mrs. W. Parry, Ffynongroew Mr. Bulcock, Gwespyr Mr. E. Davies (Pencerdd Callestr), Ffynongroew, a Mr. Williams a'i gyfaill o Alltmelyd. Chwareuwyd tri dernyn gan seindorf bres y lie. Y cyfeil- ydd oedd Mr. T. Jones, ysgolfeistr. RlioddAvyd yr elw i Mr. Robert Roberts, dilledydd, yr hwn sydd wedi bod yn an- alluog er's misoedd i dclilyn ei alwedig- aetli, trwy ei fod wedi colli golwg ei lygad chwith. Rhoddodd y Parch. Howell Harris, ficer, fenthyg yr ystafell am ddim. Nos Fercher, Ebrill Ofed, bu farw Mr. Evan Evans, crydd, Libanus street, Dowlais, yn 77 mlwydd oed. Yr oedd yma gryn deimlad yn nghylch Eglwysig y dref a'r ardal pan ledaenwyd y newydd pruddaidd fod un o'n colofnau cadarnaf wedi ei gymeryd o'n plith. Ganwyd ef .Y L yn mhlwyf Cellan, Llanbedr, Sir Aberteifi, a bu yn trigo am rai blynyddau yn Llan- pawel. Wedi hyny, daeth i fyw i Ddowlais, ac yr oedd yn gymunwr ffydd- lon yn yr Eglwys Gymreig am. tua phedair' blynedd. ar hugain cyn ei farwolaeth. Yn ystod yr amser hwnw bu yn ddefnyddiol iawn mewn pob cylch Eglwysig agored i leygwr. Claddwyd ef brydnawn dydd Sadwrn yn mynwent y Pant. Gweinydd- wyd wrth y ty gan y Rheithor, ac yn yr eglwys, &c., gan y Parch. Lewis Jones, Cadoxton. Cynhaliwyd cyngerdd rhagorol yn yr Ysgoldy Cenedlaethol, Bodfean, nos Wener diweddaf. Llywyddwyd gan y Parch. R. J. Jones, ficer, Nefyn, ac arwein- iwyd gan Ap Morus, Llangwnadl, yr hwn a gadwodd y dorf luosog a pharchus mewn tymer lawen o'r dechreu i'r di- wedd. Efe, yn sicr, fel arweinydd cyfar- fodydd o'r fath hyn, yw yr ail Fynyddog. Canodd cor detholedig o'r ardal amryw ganigau swynol, a chafwyd caneuon dig- rifol gan wahanol gantorion galluog. Caf- wyd elw sylweddol tuag at adgyweirio yr ysgol.
METHDALIADAU.
METHDALIADAU. Yn unol a Stubb's Weekly Gazette, y mae nifer y methdaliadau am yr wythnos yn diweddu Ebrill 12fed, fel y canlyn :— 1890 1889 1888 Builders, & Building Materials 16 19 24 Chemists and Drysalters. 3 6 1 China, Glass, & Earthenware 5 2 1 Confectionery, Toys, &c. 4 1 2 Corn, Coals, Minerals 4 9 7 Drapery, Clothing Trades 24 31 23 Farmers. 6 6 17 Furniture, Upholstery. 1 2 2 Horses, Vehicles 3 2 — Jewellery, Watches. 1 2 1 Leather 5 16 11 Metals 3 7 3 Paper, Printincr, &c 1 4 1 Provisions 24 29 30 Wines, Spirits, beer, &c. 10 20 10 Miscellaneous 21 29 31 128 183 164
[No title]
Dyn a ddyry y compliments, ond menyw a dAl am dauynt. Lladdwyd 56 0 ddynion yn ystod adeiladiad y Forth Bridge. Y mae mwy o ariau o wahanol fathau mewn cylchrediad yn Norway nag yn unrhyw wlad Ewropeaidd arall.
Advertising
NOW READY, 420 PAGES, CROWN 8vo. BOARDS. PUBLISHED UNDER THE AUTHORITY OF THE LORD BISHOP OF THE DIOCESE. THE BANGOR DIOCESAN CLERICAL DIRECTORY AND CHURCH CALENDAR FOR 1890, With a History of the SEE OF BANGOR, THE CATHEDRAL CHURCH, &c., REPORT OF THE DIOCESAN CONFER- ENCE FOR 1889, &c., REPORTS OF THE ANNUAL MEETINGS OF THE DIOCESAN SOCIETIES. RDITED BY THE REV. W. MORGAN JONES, B.A., Curate of Penmaenmawr, Member of the Cambridge Antiquarian Society Price Is. 6d., post free from the PUBLISHERS JARVIS AND FOSTER, LORXE HOUSE, BANGOR. A FORTUNE In the event of a stroke The winnings of good fortune you -can I are guaranteed by win 500,000 marks. Government. You are invited to participate in the CHANCES OR WIX-MNG In the Grand Drawings of Prizes guaranteed by the State of Hamburg, in which 9 Millions 553,005 Marks Surely have to be won. In the course of these advantageous drawings, which con- tain according to the prospectus only 1(10,0'XI tickets, the following prizes will be forthcoming-, viz. The Highest Prize will be ev. 500,000 Marks. I Premium of 300,000 Marks 1 Prize of 200,000 Marks 1 Prize of 100,000 Marks 1 Prize of 75,000 Marks 1 Prize of 70,000 Marks 1 Prize of 65,000 Marks 2 Prizes of 60,000 Marks 1 Prize of 55,000 Marks 1 Prize of 50,000 Marks 1 Prize of 40,000 Marks 1 Prize of 30,000 Marks 8 Prizes of 15,000 Marks 26 Prizes of 10,000 Marks 56 Prizes of 5,000 Marks 106 Prizes of 3,000 Marks 203 Prizes of 2,000 Marks 6 Prizes ot 1,500 Marks 606 Prizes of 1,000 Marks 1060 Prizes of 500 Marks 29 Prizes of 300 Marks 120 Prizes of 200, 150 Marks 30930 Prizes of 148 Marks I 17039 Prizes of 127, 100, 94, 67, 40, 20 Marks In all 50,200 prises which must be surely won in 7 1 drawings within the space of a few months. 1 The highest prize of 1st Class mnounta t) M. 50,000, I increase in 211d Class to M. 55,000, in ;1d M. 60 0'0, ill | 4th Jr. 65,000, in &th M. 70,000, in Uth M 75,000, in 7th M. 200,000, and together with the preinhmi of M. 300,000 in the moat fortunate case to Jr. 500,000. For the First Prize-l)ra\viit £ which is officially fixed, tb* price is for A Whole Origlnal Tjtket only 6 sn d. or 6 Marks, A Half Criminal Ticket only 3 sh — <1. or s Warks, A Quarter Original Ticket only i sh 6d. or IA Maiks. And I will forward these original tickets guaranteed by the State (not prohibited promissory notes) with prospectus provided with the Anna of the State even to the most distant countries, in return for tha frnicunt forwarded prepaid. Every ticket holder will receive from me I immediately after the drawing the (Sfficbl winning list without any charge. I shall send also also in advance and gratis the prospectus provided with the Amis of the Ntate, containing the stakes and division of prizes in the 7 classes. The payment and forwarding of the sums won to those concerned will have my speciiil ajiu proii.pt attention, and with the most absolute secreo}". £ 5f All orders can be sent by the medium cf a Pest Office Order, or per cheque, or in English Postage Stamps, or by Postal Orders. £ 2T Please address all the orders immediately, however, I shall send als.) also in advance and the prospectus provided with the Amis of the Ntate, containing the stakes and division of prizes in the 7 classes. The payment and forwarding of the sums won to those concerned will have my speciiil anu proii.pt attention, and with the most absolute secrecy. £ 5f All orders can be sent by the medium of a Pest Office Order, or per cheque, or in English Postage Stamps, or by Postal Orders. £ 2T Please address all the orders immediately, however, before the 30.tb of on account of the approaching drawing of the prizes in all | confidence directly to I Samuel Heckscher, Senr., I Banker at HAMBURG, GERMANY. I
BUGE¡LiAID ENEIDIAU.
edrych arnynt megis gweision y Wlad- wriaeth, wedi eu gosod yn eu mysg i gyfranu elusen i'r tlodion, i ysgrifenu Ilythyron dros eu plwyfolion, i roi benthyg arian iddynt, ac i chwilio am waith iddynt hwy a'u plant; gwyr tra defnyddiol gyda golwg ar y byd hwn, ond nid gweinidogion CRIST wedi eu danfon a chenadwri hedd at bechadur- iaid colledig. Heblaw hyn, bu amser pan nad oedd pawb o'r offeiriaid mor weithgar a ffyddlon yn eu swydd ag y maent yn awr; bu rhai o honynt yn ym- yraeth gormod a gorchwylion y byd hwn, pan yr oedd llawer o weinidogion yr Ym- neillduwyr yn fwy dyfal gyda'r gwaith o achub eneidiau, yn ddynion o syniadau mwy ysbrydol na rhai o weinidogion yr Eglwys. Ond, atolwg, a ydynt yn parhau felly yn awr ? Os wrth eu ffrwythau y dylid barnu pawb, pa un o'r ddau ddos- barth, yr offeiriaid neu weinidogion Ym- neillduol, sydd yn dangos fwyaf o ysbryd gwir fugeiliaid eneidiau ? Pwy welir fynychaf wrth erchwyn gwely y claf ? Pwy welir fynychaf yn ymweled a dynion yn eu tai i ymresymu a hwynt ynghylch eu heneidiau ? Pwy welir fynychaf yn gofalu am wyn y praidd yn yr Ysgol Sul a dyddiol ? Pwy sydd yn son leiaf yn eu pregethau am faterion y byd hwn, ac yn cyfyngu eu geiriau at bethau ysbrydol ? Pwy sydd yn pregethu politics fwyaf ? A ydyw hyn yn arwydd o ysbrydolrwydd, neu yn nodwedd o weinidogion CRIST a bugeil- iaid eneidiau ? Barner yr offeiriaid wrth eu ffrwythau, ac fe fydd yn rhaid i bob dyn rhesymol a theg gyfaddef fod ysbryd bugeiliaid eneidiau ynddynt. Beth ydyw yr egwyddor sydd yn dylanwadu arnynt? Os nad gogoniant Duw ac achubiaeth eneidiau yw eu hamcan, paham y mae y rhan fwyaf o honynt yn gweithio mor galed ? Nid er mwyn sicrhau eyflog, canys gallent wneuthur hyny heb weithio ond ychydig. Eithr onid yw cyflog gweinidogion Ymneillduol yn ymddibynu yn gyffredin ar eu gweithgarwch ? Ond a ydyw gweithio yn ddiwyd er mwyn siorhau eyflog dda yn nodwedd o wir fugail eneidiau ? Wrth ddiweddu, gair wrth yr offeiriaid. Os yw y golygiad anghyflawn a niweidiol yma, sef nad ydyw yr offeir- iaid yn weinidogion i GRIST, ond gweis- ion cyflogedig y Wladwriaeth,—os yw y golygiad hwn yn bodoli, gocheled yr offeiriaid roddi esgus am dano. Lie byddo y fath syniad yn bodoli, mae yn rhwystr effeithiol i'w defnyddioldeb tra byddo hyn yn aros yn meddyliau eu plwyfolion, mae eu gweinidogaeth yn ofer. Nis gellir gwneuthur dim daioni tra parhao y rhagfarn hyn yn eu plith. Dangosed gweinidogion yr Eglwys mai cenhadon CRIST ydynt, ac yn hwyr neu hwyrach daw pawb i'w cydnabod fel y cyfryw.